Sunday, April 12, 2015

Dechreuwch wrth eich traed eich hun Mr Pugh.




Mae Alun Pugh wrthi efo'i rwgnach hynod ddethol ynglyn a chytundebau sero awr eto.  
Yn ol y Daily Mirror mae'r niferoedd sydd yn derbyn  cytundebau sero awr gan aelodau seneddol fel a ganlyn:
Toriaid 77, Llafur 62 a'r Lib Dems 5.  

Yn ol yr IBT roedd ffigyrau Doncaster fel a ganlyn: 2,759.  Cyngor Llafur ydi Doncaster.

Yn ol y Bib mae 418 o staff Cyngor Pen y Bont ar gytundebau sero awr ac mae 482 o staff Cyngor Abertawe 482 ar gytundebau felly.  Mae'r ddau yn gynghorau Llafur, ac mae rhan o Ben y Bont yn etholaeth Carwyn Jones.
Mae Llafur yn honni eu bod yn erbyn cytundebau sero awr, ond addawodd Tony Blair i gael gwared ohonynt yn 1995 - felly does yna fawr o le i gredu'r addewid diweddaraf.  Hwyrach y dylai Llafur ddechrau wrth ei thraed ei hun.

2 comments:

Anonymous said...

Ydi cytundebau o'r fath yn dda neu ddrwg?

Os drwg pam nad ydi cynghorau dan arweiniad POB Plaidsy'n deud hyn heb i gwared nhw?

Mae atgasedd a hysteria Cai yn gneud mi feddwl fod PC am golli Arfon.

Cai Larsen said...

Mae'n ddrwg gen i eich bod yn ystyried ymgom wleidyddol yn dystiolaeth o atgasedd.

Mae Plaid Cymru efo rhai cynghorau sydd a chytundebau sero awr, ond sy'dd yn credu y dylid cael gwared ohonynt.

Mae Llafur yn yr un sefyllfa, ond eu bod yn gwneud llawer mwy o ddefnydd o gytundebau sero awr, ac mae rhai o eu haelodau seneddol yn defnyddio'r cytundebau hefyd.

Mae Mr Pugh yn cyfeirio at un anghysondeb, ond ddim y llall. 'Dwi yn dangos bod plaid Mr Pugh efo anghysondeb tebyg (ond llawer gwaeth) wrth ei thraed, a dwi'n cael fy nghyuddo o hysteria ac atgasedd.

Tybed os oes yna ynrhyw blaid mor barod i feirniadu, ond mor amharod i dderbyn beirniadaeth na'r Blaid Lafur?