Friday, April 10, 2015

Carter Ruck a'r Cambrian News

Mae awdur Blogmenai yn hynod ofalus beth sy'n mynd i mewn i'r blog, ond dydi hynny ddim wedi atal i ambell ii fygythiad o lythyr dwrna gael eu lluchio i'w gyfeiriad o bryd i'w gilydd.  Dydi'r bygythiadau prin hynny byth yn dod i ddim - mi gewch chi ddweud rhywbeth yn llygaid y gyfraith cyn belled a'i fod yn wir - oni bai eich bod yn torri'r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol wrth gwrs.  

Serch hynny mae'r thema a gyfreithwyr enllib yn rhoi'r cryd i mi braidd - a dydi'r pwnc ddim yn codi llawer ym Mlogmenai am y rheswm hwnnw.  Serch hynny mi wnawn ni eithriad bach heddiw.  

Peter Carter Ruck ydi'r cyfaill isod - er ei fod yn cael ei alw'n rhywbeth arall yn Private Eye


Y diweddar Mr Carter Ruck oedd perchenog cwmni twrneiod enllib mwyaf llwyddiannus y DU.  Mae'r cwmni ychydig yn anarferol yn y DU i'r graddau ei fod yn gweithio ar delerau no win, no fee.  Hynny yw mi fedrwch fynd ac achos at y cwmni a wnaiff o ddim costio ceiniog i chi os nad ydych yn llwyddiannus.  Serch hynny mae'r cwmni yn cymryd sleisen go lew o unrhyw iawndal rydych yn ei dderbyn os ydi'r achos yn cael ei ennill.

Dydi'r wasg ddim yn hoffi Carter Ruck, na'i ddulliau - ond 'dwi'n anghytuno.  O dan yr hen drefn roedd y wasg yn gallu trin pobl gyffredin, a gwleidyddion pleidiau bach fel y mynent.  Doedd yna ddim ffordd o fynd a nhw i gyfraith.  Dydi'r wasg ddim yn gallu gwneud hynny bellach.  Mae nhw'n gorfod cymryd cymaint o ofal wrth bardduo'r person tlawd na phan maent yn pardduo'r person cyfoethog.

Dydi'r cwmni byth yn egluro pam maent yn derbyn neu wrthod achos - ond dau ystyriaeth ydi tebygrwydd i ennill a gallu'r sawl sy'n cael ei erlid i dalu.  Peidiwch a mynd at Carter Ruck os nad ydych yn hoffi rhywbeth sy'n ymddangos yn Y Cymro - fyddai Carter Ruck byth yn breuddwydio mynd ar ol neb sydd a llai na £100k i'w dalu mewn iawndal a chostau - nid bod y papur hwnnw yn debygol o enllibio neb dan haul.  

Ta waeth, dydi hyn oll ddim yn broblem yn yr achos yma - mae'n weddol amlwg i'r Cambrian News gam gynrychioli'r hyn ddywedodd Mike Parker yn fwriadol, a bod gan y papur y modd o ddod o hyd i £100k.  Mae yna gwestiwn o enllib maleisus yn codi yma hefyd.  Mae'n un anodd iawn i'w phrofi, ond gall y sawl sy'n gyfrifol am enllib maleisus gael ei hun mewn carchar.

Pe byddwn i'n lle'r Cambrian News, mi fyddwn i hefyd yn poeni am Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl.  Mae dweud celwydd am ymgeisydd seneddol yn ystod cyfnod etholiad i bwrpas sicrhau nad yw'n cael ei ethol yn anghyfreithlon.  Yn wir petai canlyniad Ceredigion yn wahanol iawn i ganlyniadau eraill gellid dadlau i hynny ddigwydd oherwydd ymyraeth sydd o bosibl yn anghyfreithlon gan y Cambrian News.  Byddai'n rhesymol o dan amgylchiadau felly wneud cais i'r Uchel Lys ail gynnal yr etholiad.  Byddai'r costau i 'r pleidiau a'r wladwriaeth yn dod i tua £150k i £200k.  Mae'n amlwg pwy ddylai dalu  mewn amgylchiadau felly. 

2 comments:

Anonymous said...


Diddorol iawn. Gobeithio fydd y Blaid yn actio. Mae'r CN yn haeddu popeth.

lionel said...

Y gair Nazi ydy'r peth fundamental. Gair na ddefnyddwyd gan Mike Parker o gwbl byth. Mae ambell rhifyn o'r Cambrian yn ei ddefnyddio fel rhywbeth ffeithiol. Rhaid mynd ar eu holau yn y llys felly