Saturday, April 11, 2015

Beth petai Mike Parker fyddai wedi dweud hyn?









13 comments:

Dylan said...

Hmm. Dw i'n credu bod y pwynt wedi'i hen wneud erbyn hyn, a bod yn onest.

Anonymous said...

Yn wir, gad hi nawr.

Cer ar ol y CN yn hytrach nag unigolyn sydd wedi bod braidd yn ffol ac hypocrytaidd. Nid wyt ti'n gwneud unrhyw ffafr gyda dy hun erbyn hyn gyfaill.

Anonymous said...

Ydi Blog Menai yn mynd i gynnig sylwebaeth ar Fon ac Arfon dros y mis nesaf? Roedd adroddiadau Mon y llynedd yn werth chweil.

Cai Larsen said...

Mae gan y CN ddigon i'w boeni amdano heb fy mewath i.

O ran sylwebaeth - ia mwy na thebyg - ond fydda i ddim yn darogan y tro hwn.

Anonymous said...

Huw Thomas ddewisodd rheolau'r gem. Nid ydi o'n haeddu cydymdeimlad.

Anonymous said...


Dim cydymdeimlad o gwbl. Hoffwn glywed unrhyw newyddion ynglyn ac achos yn erbyn y CN.

Anonymous said...

Mae @huwthomas_wales yn dal i roi lle blaenllaw i dudalen flaen y Cambrian News a'r alwad ar i Mike Parker ymddiswyddo. Oni fyddai'n ddoethach iddo ddileu rhain gan eu bod ond yn tynnu sylw at 'y trawst yn ei lygaid ei hun.'. Falle bod y Blaid Lafur wedi conffiscetio 'i gyfrifiadur rhagofn iddo gael pwl arall o idiotrwydd.

Cai Larsen said...

Wel, mae ail drydaru enllib ynddo ei hun yn enllib wrth gwrs. Mae yna fwy na dim ond Huw Thomas fyddai'n ddoeth i edrych ar yr hyn maent wedi bod yn ei drydaru a'i ail drydaru tros y dyddiau diwethaf.

Alwyn ap Huw said...

Rwy'n cytuno efo sylw Dylan uchod bod y pwynt wedi'i hen wneud. Pwynt digon teg oedd yr un gwreiddiol bod Huw wedi gwneud sylwadau gwaeth am fewnfudwyr i Gymru ac mae annheg oedd i Huw galw am ddiswyddo Mike Parker am ei sylwadau ef.

Roedd y pwynt "what comes around goes around" hefyd yn un teg.

Ac, wrth gwrs, mae'r prawf bod Google yn ei wneud yn anodd pardduo pobl eraill am eu hen sylwadau oherwydd bod modd i eraill Gwglo'n ôl yn un bwysig.

Yr oeddet ti, yr oeddwn i, roedd Ifan a Dylan yn aelodau o Faes-e pan wnaed y sylwadau gan Huw T, os oedd y sylwadau mor uffernol o annerbyniol, fel mae'r wasg Saesneg yn honni bellach, pam na wnaethom ei ram damnio fo am y sylwadau ar y pryd? Yr ateb yn syml yw ein bod yn cytuno a'i sylwadau (nid y rhai am daflu tippex yn hytrach na chachu go iawn, wrth gwrs).

Yn yr erthygl wreiddiol fe soniodd Mike am y sarhad derbyniodd Seimon Glyn am godi pwynt y mewnlifiad i Gymru. Mae'r ymateb i sylwadau Mike a Huw T yn dangos pa mor anodd yw trafod y pwnc bellach heb greu niwed i'r iaith a gobeithion gwleidyddol; ond mae osgoi'r pwnc yn creu mwy o niwed i'r iaith. Ac efo pob parch, Cai, - mae twrio am bob edefyn lle fu ymgeisydd Llafur yn codi problem y mewnlifiad yn gwneud mwy o ddrwg nag o les i broblem sy'n rhaid ei drafod yn gall os ydym am i'r heniaith barhau.

Anonymous said...

Nid be' sgwennodd yn y lle gyntaf oedd y broblem imi ond galw am ddiswyddo Mike Parker. Peth gwarthus oedd hwwna.

Anonymous said...

Huw Thomas ei hun fradychodd y Cymry drwy droi sylwadau Mike Parker at felin gwrth gymreictod er mwyn enill pledleisiau

Mae'n haeddu pob sen a dirmyg am wneud hynny, nawr, hyd byth

Ond mae Blogmenai yn euog o'r un peth hefyd. Mae nifer fawr yn cytuno a sylwadau gwreiddiol Huw Thomas yn 2006, ac felly mae eu defnyddio iw bardduo unwaith fod y rhagrith gwreiddiol wedi ei nodi eto'n bwydo'r felin fawr gwrth gymreig

Cai Larsen said...

Efallai nad oedd pawb yn dilyn pob edefyn Alwyn.

Cai Larsen said...

Anon 13:32 - Dwi'n meddwl y cei mai wedi cyhoeddi geiriau HuwT gair am air ydw i. Dwi heb ddilyn esiampl y CN a cheisio eu cael i olygu rhywbeth nad ydynt yn eu golygu. Mae i bwy bynnag sy'n eu darllen wneud yr hyn mae eisiau ohonynt.