Thursday, January 31, 2013

Y Cyfrifiad - ardal Caernarfon

Dwi'n tueddu i fod yn fwy optimistaidd na llawer o fy nghydnabod ynglyn a'r Gymraeg.  Y rheswm am hynny o bosibl ydi'r ffaith fy mod yn byw ac yn gweithio yng Ngogledd Gwynedd, lle mae'r Gymraeg yn gwneud yn eithaf da, ac yn treulio cryn dipyn o amser yn Nhreganna, Caerdydd - lle mae'r Gymraeg eto yn gwneud yn dda.  Felly mae fy nghanfyddiad wedi ei lywio gan brofiad gweddol gadarnhaol.  Dwi'n gwybod nad ydi pawb mor ffodus a fi yn hyn o beth, a bod profiad llawer o bobl eraill yn fwy negyddol o lawer.

Ta waeth, dwi'n bwriadu cymryd cip ar rhai o ardaloedd Cymru tros yr ychydig wythnosau nesaf.  Dwi am ddechrau ym mhle mae pethau orau - a lle dwi'n digwydd byw - ardal Caernarfon.  Mae'r ganran gyntaf yn cyfeirio at 2001 pob tro, tra bod yr ail yn cyfeirio at 2011.

Caernarfon:
Seiont 1 - 83.8% / 80.6%
Seiont 2 - 90% / 90%
Peblig - 87.1% / 87.3%
Cadnant - 86.3% / 86.2%
Menai - 83.6% / 83.9%

Un ardal sy'n dangos cwymp, tra bod y gweddill yn weddol sefydlog.  Mae rhan Ogleddol Seiont yn ward ryfedd i'r graddau ei bod yn cwmpasu ardaloedd gwledig y tu allan i Gaernarfon yn ogystal a chanol y dref.  Mae'n bosibl y gellir priodoli'r cwymp o dros i 3% yn rhannol i fewnfudo gan bobl o'r tu allan i'r DU i ganol y dref.  Mae yna nifer o deuluoedd o Ddwyrain Ewrop yn byw yn yr ardal y tu ol i'r post ar y Maes.  Mae yna hefyd nifer o fflatiau uwch ben siopau yn y canol, ac mae poblogaeth symudol yn tueddu i fyw yn y rheiny.

Oni bai am yr ardal yma, mae'r Gymraeg wedi dal ei thir yng Nghaernarfon - yn wir ychydig iawn o symud a fu.  Mae'r ddwy ward sydd wedi eu canoli ar stadau tai cymunedol mawr - Cadnant (Maesincla) a Peblig (Sgubor Goch) yn parhau i fod ymysg y cymdogaethau Cymreiciaf yng Nghymru, y rhan o Seiont o gwmpas hen Ysgol yr Hendre (cymysgedd o stadau tai preifat a chymunedol) ydi'r unig  ardal gyfrifo sy'n cyffwrdd 90%, ac mae Menai (sydd ag eithrio ardal Twthill) yn gefnog iawn, hithau yn mwy na dal ei thir.  Mae'r Gymraeg wedi colli tir yn y rhan fwyaf o'r Gymru Gymraeg am ddegawdau, ond prin bod y ffigyrau wedi symud yng Nghaernarfon tros y cyfnod hwnnw.

Orbit Caernarfon:
Y Bontnewydd - 84.8%/ 82.6%
Y Waunfawr  - 73.5% / 75.8%
Cwmyglo - 74% / 73.1%
Llanrug  - 86.3% / 87.8%
Bethel - 88.1% /  87.3%
Y Felinheli - 71.8% / 64.3%
Llanwnda - 82.5% / 81.6%
Llandwrog - 80.6% / 81.3%

Ar wahan i gymunedau'r Felinheli, Y Waunfawr a'r Bontnewydd  mae'r patrwm yn debyg i'r graddau mai ychydig o newid a fu.  Mae Waunfawr yn drawiadol oherwydd i'r ganran godi yn ol uwchben 75%, ac mae'r Felinheli yn drawiadol oherwydd y cwymp sylweddol.

Mae'r Felin yn bwysig o ran y Gymraeg i'r graddau ei bod yn sefyll rhwng Bangor Seisnig a Chaernarfon Gymreig.  Fel y gymuned Gymreig arfordirol mwyaf Dwyreiniol mae ar un olwg ar reng flaen y frwydr i gynnal yr iaith. Mae'n bosibl mai adlewyrchu'r gwymp sylweddol ym Mangor mae'r hyn ddigwyddodd yn y Felin.  Mae hefyd yn bosibl mai twf y Brifysgol sydd y tu ol i rhywfaint o hynny.  Ceir llawer iawn o fyfyrwyr  mewn wardiau megis Hirael, ac mae rhai yn byw yn y Felinheli hefyd - yn arbennig felly yn ardal y marina.
Rwan rydym wedi edrych ar yr ardal lle mae'r Gymraeg ar ei chryfaf - a dydi pob man o bell ffordd ddim yn gwneud cystal. Yn wir byddwn yn edrych ar ardaloedd cyfagos sydd o dan fwy o bwysau maes o law. Ond mae'r ffaith bod y Gymraeg yn gwneud cystal yma y dangos ei bod yn bosibl i'r iaith ffynnu fel iaith gymunedol - hyd yn oed yn y Byd sydd ohoni.

Wednesday, January 30, 2013

Data cyfrifiad - ambell i sylw brysiog

Dydw i heb gael amser i weithio fy ffordd trwy'r data iaith a ryddhawyd heddiw eto - a does gen i ddim amser i wneud hynny eto - mi dria i wneud rhywbeth nos fory.  Ond ag edrych yn frysiog ar y data mae ambell i thema yn dod i'r amlwg.  Rydym wedi edrych ar y rhan fwyaf o'r rheiny o'r blaen - ac i'r graddau yna mae'r patrymau a amlygwyd heddiw yn barhad o rai sydd wedi hen sefydlu eu hunain.


  • Mae'r iaith fel iaith gymunedol yn mynd yn nodwedd o'r Gogledd Orllewin, a'r Gogledd Orllewin yn unig - er nad ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto.
  • Mae'r iaith yn mynd yn un fwy trefol.  Mae'n tyfu mewn ardaloedd trefol yn y De Ddwyrain, a'r ardal lle mae'n dal ei thir orau oddi mewn i'r Fro Gymraeg ydi yn nhrefi a phentrefi mawr y Gogledd Orllewin.
  • Mae'r broses o wthio'r Gymraeg oddi wrth yr arfordir wedi mynd rhagddo yn weddol gyflym.
  • Mae'r hen broses o Seisnigeiddio Maes Glo'r De - gan weithio o'r Dwyrain a symud tua'r Gorllewin - wedi mynd rhagddo'n ddi betrys -  heb i'r camau sydd wedi eu cymryd i arbed yr iaith yn Nwyrain Sir Gaerfyrddin gael fawr o effaith.
  • Mae strwythur oedran siaradwyr Cymraeg yn rhoi lle i fod yn obeithiol mewn rhannau helaeth o Gymru.
  • Mae'n ymddangos mai rhai o wardiau Caerdydd ydi'r ardaloedd lle mae'r Gymraeg fwyaf hyfyw i'r Dwyrain o'r hen isopleth sy'n gwahanu'r Gymru Gymraeg draddodiadol a'r un ddi Gymraeg.

Tuesday, January 29, 2013

Refferendwm Ewrop a Chymru

Mae Leanne Wood yn gwbl gywir i ddadlau y dylai Cymru gael aros yn yr Undeb Ewropeaidd hyd yn oed os ydi Lloegr am adael.  Mae'r rheswm yn ddigon syml yn y bon.

Mae Cymru yn tan berfformio yn economaidd ar hyn o bryd, roedd yn tan berfformio yn economaidd ugain mlynedd yn ol - a hanner canrif yn ol - a chanrif yn ol.  Mae Cymru pob amser yn tan berfformio o dan yr amgylchiadau cyfansoddiadol sydd ohonynt.  Mae'r rheswm am hyn yn eithaf syml - does gennym ni ddim mynediad at y lefrau economaidd a chyllidol i fynd i'r afael o ddifri efo'n problemau economaidd.  Gall y Cynulliad geisio mynd i'r afael efo pethau - ond hyn a hyn y gellir ei wneud efo'r pwerau cyfyng sydd ar gael yno.

Does gan Ewrop ddim mynediad atyn nhw chwaith - mae ffawd economaidd Cymru yn bennaf yn nwylo San Steffan - ac mae'r sefydliad hwnnw wedi methu'n gyson i wella perfformiad economaidd y wlad.  Ond yr hyn y gall Ewrop ei wneud ydi mynd rhan o'r ffordd at wneud iawn am rhai o'n problemau gwaethaf trwy ryddhau cyllid i'r ardaloedd tlotaf.   Delio efo symtomau yn hytrach na delio efo'r problemau creiddiol mae Ewrop - ond mae hynny'n well na dim.

Petai Prydain yn tynnu allan o Ewrop, yna byddai rhwyd diogelwch Ewrop  yn cael ei golli i Gymru, a byddem ar drugaredd San Steffan fwy nag erioed.  Does dim rheswm o gwbl i ddigwyl dim ond chwaneg o dlodi cymharol o'r cyfeiriad hwnnw.

Saturday, January 26, 2013

Plismona a thor cyfraith

Mae'n debyg mai gor ddweud fyddai honni bod penderfyniad Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Winston Roddick i godi treth y cyngor er mwyn cael mwy o blismyn  ar strydoedd y Gogledd yn dangos pam nad yw'n beth da i gael Comisiynydd Heddlu nag i ethol Lib Dem - ond mae peth gwirionedd yn y gosodiad.

Un neu ddau o ffeithiau am gyfraith, trefn a phlismona.

1). Mae y rhan fwyaf o bobl yn meddwl bod tor cyfraith ar gynnydd.

2).  Mae y rhan fwyaf o bobl yn gwbl anghywir yn hyn o beth.  Mae cyfraddau tor cyfraith yng Nghymru a Lloegr yn syrthio yn weddol gyflym.  Mae'r troseddau sy'n cael eu riportio i'r heddlu wedi syrthio 41% rhwng 2002 - 2003 a 2011 - 2012.  Mae canfyddiadau'r British Crime Survey yn awgrymu cwymp o 26% tros yr un cyfnod.  Mae pob categori o ddrwg weithredu wedi syrthio tros y cyfnod - ag eithrio dwyn beics.  

3).  Serch hynny mae yna fwy o heddlu heddiw nag oedd yna yn 2002 i 2003 (134k o gymharu a 132.5k) - ond mae'r  nifer o heddlu wedi syrthio yn ddiweddar  yn sgil toriadau ehangach mewn gwariant cyhoeddus  (o 143,770 yn 2009).  O fynd yn ol i 1875, gyda llaw, 30k o blismyn oedd yn cael eu cyflogi.

4).  Ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael bod cyflogi mwy o heddlu yn lleihau cyfraddau tor cyfraith.  Er enghraifft dyblwyd y nifer o heddlu yng Nghymru a Lloegr rhwng 1960 a 2010 er i'r boblogaeth ond codi tua 17%.  Felly yn 1960 roedd yna 640 o bobl am pob heddwas.  Y ffigwr yn 2010 oedd 375.  Er hynny roedd llai na miliwn o droseddau wedi eu cofnodi yn 1960 o gymharu a rhywbeth o dan 5 miliwn yn 2010.  Dydan ni ddim yn gwybod os y byddai'r cyfraddau troseddu yn uwch eto heb yr holl heddlu ychwanegol - ond dydi'r dystiolaeth bod cynyddu niferoedd heddlu yn cael effaith uniongyrchol ar gyfraddau troseddu jyst ddim ar gael.

Felly mae'r cwestiwn yn codi - pam bod Mr Roddick eisiau gwneud i'r trethdalwr dalu am fwy o heddlu, er bod tor cyfraith yn syrthio ac er nad oes yna dystiolaeth bod cynyddu'r nifer o heddu yn cael effaith uniongyrchol ar gyfraddau troseddu?  

Wel, mae  maniffesto'r Lib Dems ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2010 yn rhoi amcan i ni.  Eu bwriad bryd hynny oedd gwario £500,000 y diwrnod yn ychwanegol ar gyflogi heddlu.  Roedd y rheswm am hynny yn weddol syml - roedd y blaid yn cymryd mantais o ganfyddiad cyhoeddus ffug bod cyfraddau troseddu ar gynnydd i geisio ennill cefnogaeth.  Roedd y cynnig hwnnw yn cael ei yrru gan bopiwlistiaeth llwyr - yn union fel penderfyniad wythnos diwethaf..

Thursday, January 24, 2013

Gwilym Owen eto fyth

Mae rant Gwilym Owen yn Golwg hyd yn oed yn rhyfeddach a mwy afresymegol nag arfer heddiw.  Cwyno am y raliau a gynhalwyd ym Merthyr, Caerfyrddin a Chaernarfon yn sgil cyhoeddi'r cyfrifiad mae'r colofnydd eofn yr wythnos yma-

Pwy oedd yn bresennol yn y raliau hyn?  Hyd y gallwn i weld o'r lluniau ar y teledu roedd y mwyafrif llethol ohonyn nhw yn byw yn gyffyrddus braf mewn swyddi sy'n dibynnu ar fodloaeth y Gymraeg.  Yn wir roedd nifer o gyplau priod sy'n ennill cyflogau breision trwy gyfrwng iaith y nefoedd.  O ddifri rwan onid troi dwr i'w melinau eu hunain yn hytrach nag ymgyrchu tros ddyfodol yr iaith ar aelwydydd y dosbarth gweithiol yn y gwahanol froydd mae'r rhain?

Mae'n anodd gwybod lle i ddechrau efo'r rwdlan di reswm yma.  Roeddwn i yn y rali yng Nghaernarfon, a roeddwn yn 'nabod, neu o leiaf yn gwybod pwy oedd efallai hanner y bobl oedd yno - ac roedd 'na rai cannoedd yn y rali.  Mi welais i Simon Brooks yna - ac mae hwnnw'n ddarlithydd Cymraeg - felly mae'n debyg y gallwn ddweud bod ei fywoliaeth o'n ddibynnol ar iaith y nefoedd.  Gallwn ddweud yr un peth am Sion Aled debyg - cyfieithydd ydi hwnnw.  Fedra i ddim meddwl am neb arall oedd yno sydd a'i fywoliaeth yn ddibynnol ar y Gymraeg, er mae'n siwr bod 'na rai.  

Mae'n debyg bod rhai pobl yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg i ryw raddau neu'i gilydd - ond dydi hynny ddim yn gyfystyr a dweud bod eu bywoliaeth yn ddibynnol ar fodolaeth y Gymraeg - neu gallwn greu dadl abswrd bod pawb bron ym Mhrydain yn ddibynol ar y Saesneg am eu bywoliaeth.  Cyfieithwyr, athrawon Cymraeg a gweithwyr mentrau iaith ydi'r unig swyddi y gallaf feddwl amdanynt sy'n ddibynnol ar y Gymraeg am eu bodolaeth.  Erbyn meddwl efallai y gallwn ychwanegu cyfryngis sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg - fel Gwilym - at y rhestr.  

Mae'n bosibl wrth gwrs bod Gwilym yn 'nabod mwy o bobl na dwi'n eu hadnabod - ac yn gwybod sut maent yn ennill eu bara menyn - bod ei luniau ar y teledu yn wyrthiol yn caniatau iddo weld mwy o bobl nag oedd yn bosibl eu gweld yn y rali ei hun.  Neu efallai mai darlithwyr ac athrawon Cymraeg, cyfieithwyr, gweithwyr mentrau iaith a chyfryngis fel Gwilym oedd yn raliau Caerfyrddin a Merthyr.  

Naill ai hynny, neu bod Gwil wrth ei hen driciau eto - creu tystiolaeth o ddim oll a defnyddio'r dystiolaeth mae wedi ei greu fel esgus i ailadrodd ei ragfarnau idiotaidd hyd at syrffed.

Wednesday, January 23, 2013

Mae hanner canrif yn gyfnod hir mewn gwleidyddiaeth

Felly mae Cameron wedi penderfynu rhoi refferendwm ar ddyfodol y DU yn Ewrop ar yr arlwy y bydd ei blaid yn ei stwffio o'n blaenau cyn yr etholiad cyffredinol nesaf.  Mae'n fuan i glirio'r dec ar gyfer etholiad 2015 - ond ar un olwg dyma gychwyn ar ymgyrch yr etholiad hwnnw - mae'r hollt yn y Blaid Doriaidd ynglyn ag Ewrop wedi ei 'sgubo oddi tan y carped, ac mae'r bygythiad i'r  bleidlais graidd o'r Dde wedi ei sortio'n eithaf twt hefyd.

Y tro blaen i ni gael refferendwm ar Ewrop oedd yn 1975 - llai nag hanner canrif yn ol.  Ond roedd y tirwedd gwleidyddol yn hollol wahanol bryd hynny.  Y Blaid Lafur oedd wedi ei hollti i lawr y canol ar y mater bryd hynny a Wilson alwodd y refferendwm - y refferendwm cyntaf ar dir mawr Prydain ('dwi'n meddwl).  Roedd cynhadledd y Blaid Lafur wedi pleidleisio 2:1 tros adael y Gymuned, roedd y cabinet wedi ei hollti i lawr y canol gyda pobl fel Kinnock a Benn yn ffyrnig tros adael.  Roedd Plaid Cymru, yr SNP, yr UUP, y Blaid Gomiwnyddol a'r DUP am adael.

Roedd y Blaid Doriaidd o dan arweinyddiaeth Margaret Thatcher yn fwy unedig o lawer - unedig tros barhau yn y Gymuned Ewropeaidd.   Dim ond Enoch Powell a'i debyg oedd eisiau gadael.  Roedd yr SDLP, y Blaid Ryddfrydol ac Alliance am aros yn y Gymuned.  Roedd byd busnes hefyd o blaid aros - a dyna pam roedd gan yr ymgyrch 'Ia' cymaint mwy o bres na'r un 'Na'.

Yn y diwedd pleidleisiodd 67% o blaid aros a 33% tros adael - gyda bron i ddwy draean o'r etholwyr yn pleidleisio.  Dwy ardal bleidleisiodd i adael - Ynysoedd y Gorllewin a Shetland yn yr Alban - er mai bychan oedd y mwyafrif yng Ngogledd Iwerddon - cafodd pleidleisiau'r dalaith eu cyfri efo'u gilydd.  Mae'n debyg i Antrim a Down bleidleisio i adael.  At ei gilydd roedd ardaloedd cyfoethog (a Thoriaidd) y DU yn fwy cefnogol o lawer i Ewrop, gyda chyfraddau uchel iawn mewn ardaloedd megis Surrey, Buckinamshire, Rhydychen a Gogledd Efrog.  Ar y llaw arall roedd y gyfnogaeth yn is o lawer yng Nghanol Morgannwg a Glasgow.  Canol Morgannwg oedd yr unig adael yng Nghymru a Lloegr i ddangos llai na 60% o gefnogaeth.

Gallwch gymryd cryn fet na fydd y patrwm yna yn cael ei ail adrodd y tro hwn - os bydd 'na refferendwm wrth gwrs.  Mae'r mater bach o ennill etholiad yn wynebu Cameron cyn y gall gael ei refferendwm.

Sunday, January 20, 2013

Sut mae mapiau weithiau yn camarwain

Petai rhywun yn taro llygaid brysiog tros y map etholiadol isod, byddai'n cymryd yn ganiataol mai Mitt Romney fyddai'n cael ei urddo'n arlywydd America heddiw.  Mae'r map yn dylunio cefnogaeth etholiadol ar sail siroedd yn hytrach na thaleithiau.  Yn anisgwyl braidd i rhywun o'r ochr yma i Gefnfor yr Iwerydd, coch ydi lliw y Blaid Weriniaethol a glas ydi lliw y Blaid Ddemocrataidd.

Mae'r eglurhad am y gwahaniaeth rhwng y canlyniad a'r canfyddiad mae'r map yn arwain tuag ato yn un syml.  Mae cefnogaeth y Democratiaid at ei gilydd yn drefol, tra bod un y Gweriniaethwyr yn wledig. Er enghraifft, daeth Romney ar y blaen mewn nifer dda o siroedd California - mwy nag Obama -  ond miloedd neu ddegau o filoedd o etholwyr sydd yn byw yn y rhan fwyaf ohonynt.  Enillodd Obama mewn siroedd megis San Fransisco, Alameda, San Diego, Los Angelis a Santa Clara - siroedd sy'n cyfri eu pleidleisiau fesul can mil yn hytrach na fesul mil.  Felly enillodd Obama gyda mwyafrif enfawr yng Nghalifornia.

Friday, January 18, 2013

Unoliaethwyr a baneri

Mae'n debyg bod y saith wythnos bron o wrthdaro ar strydoedd Gogledd Iwerddon oherwydd penderfyniad Cyngor Dinas Belfast i gahwfan Jac yr Undeb ar Neuadd y Ddinas ar ddyddiau penodedig yn unig! yn fater o ddryswch llwyr i'r rhan fwyaf o bobl nad ydynt yn byw yn y dalaith.  Mae Belfast wrth gwrs yn ddinas sydd ag iddi fwyafrif Pabyddol - pobl  sy'n uniaethu efo baner Gweriniaeth Iwerddon yn hytrach nag un y DU.  Does yna neb yn gofyn am gael cahwfan y tricolour oddi ar Neuadd y Ddinas wrth gwrs.


                            

Os gofynir i Unoliaethwr neu Deyrngarwr pam mae'r mater yn peri cymaint o ofid iddo, mae'n ateb bod y penderfyniad yn ymysodiad ar ei ddiwylliant.   Ac efallai bod hynny yn wir - mae ceisio corddi pobl nad ydynt yn Unoliaethwyr yn nodwedd o ddiwylliant Unoliaethol - dyna pam yr angen i orymdeithio trwy strydoedd pobl nad ydynt yn Unoliaethwyr, dyna pam yr angen i arddangos symbolau Unoliaethol mewn ardaloedd Cenedlaetholgar a dyna pam bod llawer o faneri fel yr un isod yn cael eu harddangos o fewn golwg i'r Bogside ar hyn o bryd.  Baner y Parachute Regiment ydi hi.  Dyma'r gatrawd oedd yn gyfrifol am lofruddio tri ar ddeg o ddynion ar gyrion y Bogside yn ystod protest ym 1972.

Cwestiwn arall ydi pam y byddai rhywun eisiau cael yr arfer o bryfocio, corddi a gwylltio eraill yn nodwedd o'i ddiwylliant.









Wednesday, January 16, 2013

Cig ceffyl Tesco

Mi fedra i ddeall pam bod Dai Davies o Hybu Cig Cymru yn mynd trwy'i bethau yn sgil darganfod cig ceffyl mewn byrgars a werthir gan Tesco ac Iceland.  Mae'r byrgars yn dod o rhyw wlad dramor neu'i gilydd, ac nid yw Cymru yn cynhyrchu cig ceffyl.

Ond dydi o ddim mor glir i mi pam bod cwsmeriaid Tesco ac Iceland yn poeni am y peth.  Petaech eisiau prynu cig ceffyl yng Nghymru byddai'n ddrytach na chig eidion - er ei fod yn rhad yn y gwledydd sy'n cynhyrchu cig ceffyl.  Mae yna hefyd lai o galoriau, mwy o haearn, llai o fraster a'r un faint o brotin mewn cig ceffyl na sydd mewn cig eidion.

Mewn geiriau eraill mae'r cig ceffyl yn iachach na chig eidion, ac mae byrgars Tesco ac Iceland i'w cael am bris rhesymol iawn.  Mae bwytwyr byrgars y siopau hyn yn cael coblyn o fargen.

Monday, January 14, 2013

Y bleidlais yn Nhy'r Arglwyddi

Mae Blogmenai wedi mynegi cefnogaeth sawl gwaith i fwriad y Blaid Geidwadol yn San Steffan i resymoli'r nifer o aelodau seneddol sy'n cael eu dychwelyd i San Steffan.  Mae dau reswm am hyn - mae'n deg, ac yn yr hir dymor mae'n llesol i'r achos cenedlaethol yng Nghymru.

Dydw i ddim yn meddwl y bydd methiant y mesur yn  Nhy'r Arglwyddi heddiw yn cael effaith y naill ffordd neu'r llall yn y pen draw - fydd yna ddim newid cyn yr etholiad nesaf - yn rhannol am bod y Lib Dems bellach yn erbyn y newidiadau, ac yn rhannol am bod y newidiadau yn groes i fuddiannau gormod o aelodau seneddol.  Os na fyddai wedi syrthio yn Nhy'r Arglwyddi byddai'n syrthio yn Nhy'r Cyffredin. Yn wir dwi'n eithaf siwr i lawer o Doriaid fygwth fotio  yn erbyn diwygio Ty'r Arglwyddi am eu bod yn gwybod yn iawn y byddai'r Lib Dems yn gwrthod cefnogi'r newidiadau i'r ffiniau o ganlyniad i hynny - ac felly yn achub eu seddi.

Ta waeth - beth am smalio am funud bod pleidlais heddiw yn bwysig?  Y ddadl a ddefnyddwyd i wrthwynebu'r mesur  oedd na ddylid newid y ffiniau hyd 2018 oherwydd newidiadau sy'n debygol o gael eu cyflwyno i'r ffordd mae'r gofrestr etholwyr yn cael ei ymgynull - hynny yw awgrymir ei bod yn gyn amserol i lunio etholaethau newydd gan na ellir rhagweld faint o bobl sydd ar y cofrestrau etholwyr nes i'r newidiadau hynny gael eu gwneud.  Ar un olwg mae hynny'n gwbl rhesymol - ond tybed os ydi'r sawl sydd yn pleidleisio yn erbyn y mesur  yn sylweddoli effaith tebygol newid y ffiniau yn 2018?

Cyflwynwyd newidiadau cofrestru etholwyr tebyg i'r rhai sydd ar y gweill yng Nghymru, yr Alban a Lloegr yng Ngogledd Iwerddon ddegawd yn ol.  Effaith hynny oedd lleihau'r nifer o bobl oedd a hawl i bleidleisio yn sylweddol.  Ond nid oedd y cwymp yn unffurf - cafwyd y cwymp mwyaf yn yr etholaethau trefol iawn, a'r cwymp lleiaf yn y rhai gwledig iawn.  Er enghraifft roedd y cwymp ym mhedair  etholaeth Belfast yn amrywio o 10.4% i 14.7%.  Roedd y cwymp yn yr etholaethau gwledig iawn i'r gorllewin o'r Afon Bann  tua hanner hynny.

Os ydi'r un patrwm yn cael ei ddilyn yn nhir mawr Prydain - ac mi fyddwn yn betio cryn dipyn y bydd - yna bydd y newid o fantais sylweddol i'r Toriaid ar ol 2018 - mae'r rhan fwyaf o'u hetholaethau nhw yn rhai gwledig, tra bod y rhan fwyaf o rai Llafur yn drefol.  Byddai edrych ar yr etholaethau yng nghyd destun y gofrestr newydd yn sicrhau  llai o etholaethau trefol, llai o Aelodau Seneddol Llafur, a mwy o rai Toriaidd.

Friday, January 11, 2013

Cyngor i Vaughan Roderick

Felly dydi Carwyn Jones ddim eisiau ymddangos ar raglenni Vaughan Roderick.  Bai Vaughan ydi hynny wrth gwrs a neb arall - mae'r dyn yn mynnu gofyn cwestiynau cwbl amhriodol i bobl bwysig fel Carwyn.

Bydd yr ychydig sy'n gwylio Cwestiynau'r Prif Weinidog yn ymwybodol nad ydi Carwyn yn hoffi cwestiynau sydd ag arlliw o feirniadaeth ohono fo a'i lywodraeth yn perthyn iddynt.  Weithiau bydd yn rwdlan ynglyn a rhywbeth neu'i gilydd sydd ond a'r cysylltiad mwyaf ymylol a'r cwestiwn ei hun, weithiau bydd yn gofyn cwestiwn cwbl amherthnasol i'r sawl sydd wedi ei holi a weithiau bydd yn cael y sterics mwyaf anghymedrol.  Dydi Carwyn ddim yn hoffi cymryd cyfrifoldeb cyhoeddus tros ei weithredoedd gwleidyddol ei hun, na rhai ei lywodraeth.

Os ydi Vaughan eisiau cwmni Carwyn ar ei raglenni, mae'n rhaid iddo ddysgu gofyn cwestiynau addas.  Dyma awgrym neu ddau yn rhad ac am ddim gan Flogmenai:

Ydych chi yn cael boddhad o sefyll dros Gymru yn erbyn toriadau y Toriaid drwg?

Sut mae dyn o'ch oed chi wedi cadw ei hun mewn siap mor dda?

Beth ydi'r eiliad mwyaf cofiadwy i chi yn hanes tim rygbi Pen y Bont?

Pryd daethoch yn ymwybodol bod eich meddwl mor finiog?

Ydi Toriaid yn cael eu geni yn ddrwg 'ta ydi'r drygioni yn deillio o'u magwraeth?

Ydych chi'n cytuno  mai Cor Meibion Kenfig Hill ydi'r cor gorau yn y Byd ar hyn o bryd?

O lle'r ydych chi'n prynu eich crysau?  Mi fyddwn wrth fy modd cael edrych mor ffasiynol a chi.

Wnewch chi ddod ar y rhaglen rhywbryd i ddweud wrthym am y Fabian Society?

Wnewch chi arwyddo'r llun yma ohonoch eich hun plis?

Ydych chi'n cytuno efo fi y dylid gwneud Mawrth 21 yn wyl genedlaethol - Dydd Gwyl Carwyn?

Os ydi darllenwyr Blogmenai yn gallu meddwl am gwestiynau addas eraill i Vaughan eu gofyn i Carwyn, mae croeso i chi eu gadael ar y dudalen sylwadau - 'dwi'n siwr y bydd Vaughan yn eu gwerthfawrogi.



Thursday, January 10, 2013

Dim cytundeb rhwng Eos a'r Bib

O diar, dim cytundeb ynglyn rhwng Eos a'r Bib felly.  Felly o ran penaethiaid y Bib yn Llundain mi geith Radio Cymru fynd i grafu - a mynd i fedd cynnar - a wnelo swm o arian sy'n llawer is na mae rhai o'u 'ser' Seisnig unigol  yn ei ennill.

Dwi'n gwybod fy mod i'n ailadroddus - ond mae'r holl stori yn dangos pam bod rhaid datganoli'r pwerau sy'n ymwneud a darlledu i Gymru.  Mae'r BBC yn cael symiau rhyfeddol o bres y cyhoedd oherwydd ei fod yn cael ei ystyried yn sefydliad o bwysigrwydd 'cenedlaethol' gan wleidyddion yn San Steffan.

Dydi Radio Cymru ddim yn cael eu ystyried yn sefydliad cenedlaethol gan y Bib - mae'n cael ei ystyried yn sefydliad rhanbarthol.  O ganlyniad mae'n gorfod cystadlu efo pob math o ystyriaethau eraill - ac oherwydd bod poblogaeth Cymru'n isel, a nifer y siaradwyr Cymraeg yn is - fydd ganddo byth wrandawiad mawr - ac ni fydd y Bib byth yn ei ystyried yn flaenoriaeth.

Yr unig bobl sy'n ystyried y cyfryngau Cymreig yn rhai cenedlaethol ydi'r Cymry eu hunain.  Dim ond trwy ddatganoli pwer a chyllid i Gymru y caiff y penderfyniadau ynglyn a darlledu Cymreig ei wneud gan bobl sy'n ystyried darlledu Cymreig yn fater o bwys cenedlaethol.

Mae pethau'n syml yn y bon.

Monday, January 07, 2013

Pytiau brenhinol - rhan 3

Ond tydi hi'n neis deall bod Charles Windsor - ac yntau am fod yn daid - yn credu ei bod yn bwysicach nag erioed amddiffyn yr amgylchedd rhag cynhesu byd eang, oherwydd ei fod yn poeni y bydd cenhedlaeth ei wyr / wyres yn gofyn iddo pam na wnaeth fwy i atal y cyfryw gynhesu?

Hwyrach y byddai'n syniad i Charles ystyried y niwed amgylchyddol a wnaed gan briodas ei fab a Kate Middleton. Ymddengys i'r digwyddiad gynhyrchu  6,765 tunnell  o CO2 - 1,230 o weithiau cymaint a bydd cartref cyffredin yn y DU yn ei gynhyrchu mewn blwyddyn gyfan, gron.

Mae pawb yn gwybod fod Charles yn deithiwr heb ei ail, ond yn wahanol i'r rhan fwyaf ohonom fydd o byth yn teithio mewn awyren neu long efo pobl eraill - mae'n well ganddo deithio ar long neu awyren breifat - penderfyniad sy'n gwneud ei ol troed carbon yn llawer, llawer mwy nag un neb arall. 

Ond byddai'n well i ni beidio a bod yn rhy galed y creadur  - mae wedi dod o hyd i un ffordd wych o leihau'r niwed amgylcheddol mae'n ei wneud - rhedeg ei Aston Martin ar win.

 

Saturday, January 05, 2013

Diolch i Golwg360 am sefyll yn y bwlch

Mae'n debyg gen i y dylai pobl sydd eisiau darllen am hynt a helynt teulu 'brenhinol' Lloegr trwy gyfrwng y Gymraeg ddiolch am fodolaeth Golwg360.  Mae'n dra anarferol i BBC Cymru anghofio adrodd unrhyw stori am y teulu arbennig yma, ond pan mae'r stori yn rhy ddi ddim hyd yn oed i'r Bib drafferthu efo hi, mae Golwg360 yno i sefyll yn y bwlch a sicrhau bod y manylion oll yn cael eu trosglwyddo yn saff i'w darllenwyr.

Rwan, dydw i ddim yn arbenigwr ar y teulu 'brenhinol' o bell ffordd, ond os 'dwi'n deall pethau yn iawn mae'r stori yma yn ymwneud ag un o feibion ail wraig mab hynaf Elizabeth Windsor yn gorfod gadael ei dy ynghanol nos oherwydd bod yna dan mewn adeilad yn y stryd lle mae'n byw.

Mae Golwg360 hefyd o'r farn ei bod werth ailadrodd y wers a gymrodd y brenhinol berson o'r digwyddiad.  Ymddengys ei fod o'r farn bod y ffaith i ddynion injan dan ddiffodd y tan a bod cymdogion heb adael iddo fo a'i deulu geisio cysgu ar y palmant yn dangos bod digwyddiadau fel hyn yn dod 'a'r ysbryd Prydeinig gorau allan o bobl'.

Hmm, naill ai bod y boi yn credu bod dynion injan dan mewn gwledydd y tu allan i Brydain yn sefyll heb godi bys  yn edrych ar adeiladau yn llosgi'n llwch, tra bod cymdogion yn gadael i deuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan dannau gysgu o dan bontydd, neu mae'n gwneud defnydd o'r digwyddiad i hyrwyddo ei syniadau ei  hun ynglyn ag uwchraddoldeb cymdeithas sifig ym Mhrydain o gymharu a lleoedd eraill.

Dydi hynny ddim yn syndod wrth gwrs, mae cenedlaetholdeb naturiol, is ymwybodol yn nodweddiadol o lawer o bobl sy'n ystyried eu hunain yn Brydeinwyr. Maent yn aml yn gwadu eu bod yn genedlaetholwyr o unrhyw fath, ond mewn gwirionedd mae'r ffordd maent yn meddwl wedi ei lywio'n llwyr gan syniadaethau cenedlaetholgar Prydeinllyd.

Ond mae'n gwestiwn arall pam yn union bod Golwg 360 yn teimlo'r angen i drosglwyddo'r nonsens gwirion yma i ni.


Thursday, January 03, 2013

Y Daily Mail yn cael y myll eto

Gwariant cyhoeddus ar noddi llyfrau Cymraeg (a Chymreig) sy'n ypsetio'r hogiau y tro hwn.

Ymddengys bod nawdd gan y Cyngor Llyfrau i lyfrau Cymraeg a Chymreig yn anerbyniol oherwydd bod pobl o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn talu amdano trwy eu trethi.

 Rwan mae hyn yn afresymegol, hyd yn oed o dan safonau'r Mail -  yn arbennig felly mewn byd ol ddatganoli.  Y drefn ym Mhrydain ydi casglu trethi yn ganolog ac wedyn ei ddosbarthu. Felly mae pawb yn talu am bethau nad ydynt yn cael budd uniongyrchol ohonynt - ond mae pawb (bron) yn fodlon gwneud hynny oherwydd ein bod yn gwybod bod rhywfaint o wariant am fynd ar bethau yr ydym yn cael budd ohono.

Er enghraifft ches i ddim budd o'r West Bromwich Arts Centre, corff a dderbyniodd hyd at £60m gan Gyngor Celfyddydau Lloegr (oedd yn ei dro wedi cael y pres gan y trethdalwr wrth gwrs). Chafodd trigolion Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru ddim budd o'r cywaith. Does yna ddim llawer o Saeson yn cael budd o'r lle chwaith - mae'r ffi mynediad o £7 yn rhy uchel yn un o ardaloedd mwyaf di freintiedig Lloegr, 100,000 yn unig sy'n mynd trwy'r drysau yn flynyddol (250,000 oedd y targed) a 'does yna ddim marchnad fawr i ganolfan sy'n rhoi cyfle i chi greu celf trwy ddweud eich enw wyneb i waered neu greu portread digidol ohonoch eich hun fel blodyn. Ar ben hynny cafodd y sefydliad ei hun yn nwylo'r gweinyddwyr cyn iddo agor hyd yn oed.

Dwi'n cwyno?  Wel na - neu dim llawer o leiaf.

Wednesday, January 02, 2013

Marwolaethau Afghanistan

'Dwi wedi son am hyn o'r blaen - cymaint a dwi'n cytuno efo barn Paul Flynn am ffolineb rhyfel Afghanistan, mae yna rhywbeth aflednais yn ei arfer o gyfri marwolaethau milwyr Prydain yn unig.

Rwan - jyst i gael perspectif ar bethau - os rydym yn derbyn ffigyrau awdurdodau'r Unol Daleithiau (ac mae yna le i amau eu bod yn tan gyfri rhai mathau o farwolaethau) lladdwyd 2,156 milwr Americanaidd ers 2001 a 1,059 o filwyr o wledydd eraill (gorllewinol yn bennaf) tros yr un cyfnod.  Dydyn nhw ddim yn dechrau cyfri marwolaethau trigolion Afghanistan tan 2007 - ond ers hynny bu farw tua 13,000 o sifiliaid, 3,600 o aelodau heddlu'r wlad a 2,300 o'u milwyr.  Does yna ddim ffigyrau am aelodau o'r Taliban ac elfennau eraill sy'n ymladd yn erbyn y llywodraeth.

Dydi Paul ddim yn cryfhau ei ddadl o gwbl trwy edrych ar gyfran fechan yn unig o'r marwolaethau a chymryd arno mai'r rheiny a'r rheiny unig sy'n arwyddocaol. 

Tuesday, January 01, 2013

Eos, y Bib a gwariant ar y Gymraeg

'Dydi hi ddim yn hawdd dod o hyd i lawer o gydymdeimlad efo BBC Cymru mae gen i ofn.

Ar ol blwyddyn gron o bwmpio propoganda Prydeinllyd i gyfeiriad eu gwrandawyr anffodus, maent yn cael eu hunain mewn sefyllfa lle mae un o'r prif asedau sy'n eu gwneud yn unigryw - mynediad i ganeuon poblogaidd Cymreig - yn cael ei golli iddynt oherwydd nad ydi eu meistri yn Llundain eisiau talu i gynnal y proffeil unigryw hwnnw.

Disgynodd rhifau gwrandawyr Radio Cymru oddi ar ddibyn yn 2011  - 2012 (pobl yn 'laru ar y propoganda hysteraidd di ddiwedd?) - o 150k y flwyddyn cynt i 138k.  Gallwn ddisgwyl cwymp mwy os na fydd y sefyllfa sydd ohoni yn cael ei sortio'n weddol handi.  Serch hynny beth bynnag ein barn am bolisi golygyddol Radio Cymru, mae'r orsaf yn bwysig - yn hanfodol bwysig o safbwynt y Gymraeg - ac mae'n bwysig bod datrusiad i'r sefyllfa digwydd yn weddol fuan.

Ond - beth am funud bach wneud rhywbeth nad ydi Blogmenai yn ei wneud yn aml - ac edrych ar bethau o safbwynt penaethiaid y Bib yn Llundain.  Iddyn nhw mae Radio Cymru yn uffernol o ddrud.  Mae Radio Cymru yn costio tua £9.8m i'r Gorfforaeth tra bod Radio Wales yn costio £10.8m.  Am y (tua) £10m yma mae Radio Wales yn cael 471k o wrandawyr tra bod Radio Cymru yn cael 138k Mae gwrandawiad Radio Wales ar gynydd tra bod un Radio Cymru yn cwympo.  Ond mae Radio Wales yn ei dro yn ddrud o safbwynt y Bib - a dweud y gwir mae darlledu i wledydd datganoledig y DU yn ddrud.  Mae'r Bib yn gwario tua £141m ar radio rhanbarthol yn Lloegr sydd a 42m o oedolion, tra eu bod yn gwario £91m ar radio rhanbarthol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar gyfer tua 8m o oedolion.  I edrych ar bethau mewn ffordd arall, mae gwrandawiad Radio Cornwall yn debyg i un Radio Cymru o ran niferoedd, ond gwerir tua 10 gwaith cymaint ar Radio Cymru.

Dydi cydymdeimlad uchel swyddogion y Bib yn Llundain tuag at y Gymraeg ddim yn debygol o fod wedi ei ddyrchafu gan y ffaith bod y gyfrifoldeb am gyllido S4C yn syrthio ar y gorfforaeth o eleni ymlaen.  Er bod cyllideb S4C am syrthio o tua £90m y llynedd i £76m eleni, y Bib fydd yn gorfod ysgwyddo'r gost.  Anaml y bydd S4C yn llwyddo i gael 100k o bobl i wylio rhaglen.  Dydi hyn ddim yn edrych fel gwerth am arian os mai o Lundain yr ydych yn edrych.

Rwan i ddod yn ol ac edrych ar bethau o (dyweder) Gaernarfon.  Mae refeniw'r Bib yn anferthol - mae pobl yn cael eu gorfodi i dalu'r drwydded - os ydynt yn gwneud defnydd o wasanaethau'r Bib neu beidio.  Daw hyn a'r swm nid anheilwng o £3.6bn i'r coffrau.  O ychwanegu £222m am weithgareddau masnachol, £279m o grantiau ychwanegol gan lywodraeth San Steffan a £271m o ffynonellau eraill rydym yn son am £4.41bn.  A chymryd bod tua 5% o hyn yn dod mewn rhyw ffordd neu'i gilydd o Gymru mae'r cyfraniad Cymreig yn £222.4m - hen ddigon i gyllido Radio Cymru, Radio Wales, S4C a sianel cyfrwng Saesneg ar gyfer Cymru.

Dydi pethau ddim mor syml a hynny wrth gwrs - wedi'r cyfan mae bron i bawb yng Nghymru'n treulio amser yn edrych ar y rhyfeddodau o raglenni mae'r Bib yn ei gynnig i ni ar BBC1, BBC2 ac ati.  Mae felly'n briodol am wn i ein bod yn cyfrannu at y danteithion cyfryngol hynod yma.  Ond mae'r ffaith bod yr hyn rydym yn ein wario (yn anuniongyrchol) ar ein gwasanaethau teledu a radio wedi eu cymysgu a'u rheoli o Lundain yn broblematig.

Byddai'n gwneud llawer mwy o synnwyr i ddatganoli cyfran (anrhydeddus) o'r arian cyhoeddus a werir ar ddarlledu yng Nghymru i'r Cynulliad Cenedlaethol a gadael i'r corff hwnnw - sydd wedi'r cwbl yn atebol i bobl Cymru - wneud y penderfyniadau mawr.  Gallai'r Cynulliad wedyn wario mwy neu lai ar deledu a radio Cymraeg a Chymreig - yn unol a'i phenderfyniadau.  Byddai i hyn fanteision eraill hefyd.

Un o'r pethau rhyfedd ynglyn a'r Gymraeg ydi bod y penderfyniadau ynglyn a'r prif elfennau gwariant arni yn cael eu gwneud y tu allan i Gymru.  Y rheswm am hyn ydi bod y rhan fwyaf o wariant ar y Gymraeg yn wariant ar gyfryngau torfol cyfrwng Cymraeg - dydi'r penderfyniadau ynglyn a'r gwariant hwnnw ddim yn cael ei wneud yma yng Nghymru.  Rwan mae yna - ar lefel wleidyddol o leiaf - rhyw led gonsensws yng Nghymru bod y Gymraeg yn bwysig, a'i bod angen ei chynnal.  Ond mae hwnnw'n gonsensws hawdd i'r graddau nad ydym yn gorfod gwneud penderfyniadau arwyddocaol ynglyn a gwariant ar y Gymraeg.  Byddai cael y gallu i wario ar y cyfryngau darlledu yn gwneud y ddadl yng Nghymru ynglyn a gwerth y Gymraeg yn un mwy aeddfed - pan mae'n rhaid gwario ar rhywbeth rydym yn gofyn cwestiynau caled i ni'n hunain ynglyn a gwerth yr hyn rydym yn gwario arno.

Mewn cyd destun felly byddai'n rhaid i'n Cynulliad Cenedlaethol ddod i gasgliadau ynglyn a gwerth y Gymraeg i Gymru - a chyn i hynny ddigwydd byddai'n rhaid wrth ddadl genedlaethol ynglyn a'r mater hynod bwysig yma i'n bywyd cenedlaethol. Yn fy marn i byddai cynnal y ddadl honno mewn cyd destun ystyrlon yn llesol i'r Gymraeg - mae yna gryn dipyn o ewyllys da tuag ati ar hyd a lled Cymru - byddai dod a'r ddadl ynglyn a sut rydym yn gwario i'w chynnal yn dod a hi i mewn i brif lif gwleidyddiaeth Cymru yn crisialu'r ewyllys da hwnnw mewn ffordd sydd ddim yn bosibl ar hyn o bryd.