Friday, April 30, 2010

Ystadegau'r mis


Record a chwe mil o 'ddefnyddwyr unigryw' er nad ydw i wedi gwneud fawr o ymdrech y mis hwn oherwydd fy mod yn treulio llawer o fy amser hamdden yn canfasio.

Pwy ddywedodd bod etholiad yn boen yn y pen ol?

Thursday, April 29, 2010

Wel, dyna fo _ _ _


_ _ _ mae'r ymgyrch fawr gan Sky, y Bib ac ITV i ddiffinio'r etholiad yn nhermau cystadleuaeth ddi fflach ac yn wir ddi ystyr, rhwng tair plaid fawr unoliaethol sydd bron yn union yr un peth a'i gilydd, trosodd.

Mae gan y sawl yn ein plith nad ydynt yn rhan o'r consensws idiotaidd yma chwe niwrnod i ad ennill y tir etholiadol sydd wedi ei ddwyn.

Os ydi Cymru yn agos at eich calon, gwnewch yr hyn y gallwch i wireddu hynny. 'Dydi wythnos ddim yn gyfnod hir mewn bywyd.

Wednesday, April 28, 2010

Diolch Louise

Diolch i Louise Hughes am dynnu ein sylw yn ei rant etholiadol i o leiaf un o gynghorwyr Llais Gwynedd (sef hi ei hun) fod a chysylltiadau agos at wasanaethau cudd y Deyrnas Unedig. Gwybodaeth ddiddorol iawn.

Mantais senedd grog i Gymru - gwers o'r Cynulliad?

Diolch i'r blog penigamp Welsh Ramblings am ein hatgoffa o fwy o lwyddiannau Cymru'n Un ym maes addysg - cychwyn ar y cynllun gliniaduron a'r orfodaeth ar i awdurdodau lleol lunio cynllun addysg Gymraeg.

'Dwi'n gwybod na fyddai hyd yn oed prif elyn Leighton Andrews yn ei ystyried yn wrth Gymreig, ond go brin y byddem wedi cyrraedd lle'r ydym parthed ymrwymiad y Cynulliad i addysg Gymraeg oni bai am ddylanwad Plaid Cymru ar gyfeiriad polisi y llywodraeth ym Mae Caerdydd.

O fod yn ddigon ffodus i gael dylanwad ar lywodraeth San Steffan gallai dylanwad y Blaid fod yr un mor bell gyrhaeddol a llesol i achos Cymru ar y lefel honno.

Cipolwg yn ol ar y gogoniant a fu

Un o'r pethau da am etholiad ydi bod dyn yn cael ei atgoffa o wahanol ddigwyddiadau a sgandalau o'r gorffennol oedd yn eitemau newyddion mawr ar y pryd, ond sydd bellach wedi llithro o'r cof. Felly diolch i'r cyfaill o Gaerdydd a anfonodd lun o'r poster yma sy'n ein hatgoffa o mor wych oedd pob dim pan oedd y Toriaid yn rhedeg y sioe.

Tuesday, April 27, 2010

Y cyfweliad Paxman



'Dwi'n gwybod bod Hen Rech Flin wedi fy nghuro unwaith eto trwy bostio'r cyfweliad Eurfyl ap Gwilym neithiwr - ond 'dwi wedi copio'r fideo. Mae gan fideos yr arfer anffodus o ddiflanu o youTube, ac mi fyddai'n drychineb petai'r trysor bach cenedlaethol yma'n mynd i ddifancoll.

Monday, April 26, 2010

O blaid toiledau ond yn erbyn iechyd a diogelwch

Waeth i mi heb a chymryd arnaf ei bod yn fater o syndod i mi bod gohebiaeth etholiadol Louise Hughes - yr aelod o Lais Gwynedd sy'n sefyll yn annibynnol ym Meirion Dwyfor, yn cymryd ffurf rant estynedig yn hytrach na phamffled etholiadol traddodiadol.


Mae yn peri cryn syndod i mi, fodd bynnag, ei bod yn cychwyn y rant gydag ymysodiad ar reoliadau iechyd a diogelwch. Mae'n arfer wrth gwrs gan elfennau o'r Dde Brydeinig eithafol i ymosod ar reoliadau sy'n cael eu cynhyrchu gan y llywodraeth, ond mae'n anarferol i hyd yn oed yr elfennau hynny ymosod ar yr agwedd arbennig yma ar reoliadau llywodraethol.

'Dwi'n gwybod ein bod i gyd o bryd i'w gilydd yn cael ein diflasu gan y gyfundrefn iechyd a diogelwch sydd wedi ei chreu a sydd yn cael ei gweinyddu gan yr HSE (yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch), ond mae'n gyfundrefn bwysig iawn. Os nad ydych yn fy nghredu ystyriwch y ffigyrau canlynol - ym 1974 bu farw 651 (2.9 o pob 100,000) o bobl yn eu man gwaith o ganlyniad i ddamweiniau, erbyn 2008 / 2009 y ffigwr oedd 121 (0.5 o pob 100,000). Y gymhariaeth o ran damweiniau nad oeddynt yn angeuol tros yr un cyfnod oedd 336 701 i 94 790*. Mae'n werth nodi mai record diogelwch yn y gweithle Prydain ydi'r gorau yn Ewrop o ddigon - esiampl prin o Brydain ar ben tabl Ewropiaidd.

Rwan mae'n debyg bod rhan o'r gwelliant syfrdanol yma yn niogelwch y gweithle yn ganlyniad i newidiadau yn y math o waith y bydd pobl yn ei wneud - ond tua chwarter y gwahaniaeth sy'n ganlyniad i hynny. Gellir priodoli'r gweddill i ymyraeth gan asiantaethau'r llywodraeth. Mae diwylliant sicrhau diogelwch mewn mannau gwaith wedi ei drawsnewid tros y degawdau diwethaf, ac er gwaethaf y niwsans mae'r gweithdrefnau sy'n rhaid eu dilyn yn eu hachosi i bobl fel fi, mae'n rhaid ei fod werth y drafferth i arbed bywydau canoedd o bobl yn flynyddol.

Mae'n stori o lwyddiant clodwiw, ond nad ydi Louise yn credu hynny yn ol pob golwg. Ymddengys ei bod eisiau mynd yn ol i rhyw orffennol gwych pan nad oedd y wladwriaeth yn amddiffyn ei dinasyddion yn y gweithle. Dydi hi ddim yn glir os mai eisiau mynd yn ol i'r dyddiau cyn sefydlu'r HSE mae'r ddynas, ynteu ydi hi eisiau mynd a ni yn ol i Oes Fictoria pan roedd miloedd lawer yn cael eu lladd yn y gweithle yn flynyddol a chanoedd o filoedd yn cael eu hanafu.

Mae'n fater o ofid bod rhywun sydd eisiau bod yn Aelod Seneddol yn arddel y fath syniadau adweithiol ac anghyfrifol.

*Ystadegau oll gan yr HSE.

Brolio ei fod wedi ei cholli hi

Diddorol gweld bod Guto yn brolio iddo gael y myll ar Hawl i Holi nos Wener.

Ymateb yn weddol hysteraidd wnaeth Guto ar Pawb a'i Farn, i'r ffaith bod Elfyn Llwyd wedi tynnu sylw at gelwydd yn ei ohebiaeth etholiadol, trwy wrthod ymateb a chodi'r pwynt hollol amherthnasol bod Elfyn wedi hawlio costau am ei fwyd yn San Steffan - rhywbeth roedd llawer o Aelodau Seneddol Toriaidd (a'r pleidiau eraill) wedi ei wneud wrth gwrs.

Rwan mae gwrando ar Dori yn cega am dreuliau braidd fel gwrando ar Fred West yn cwyno bod yna ormod o dor cyfraith. Roedd sylwadau Guto yn gyfle gwych i Elfyn son am y ffosydd o gwmpas y stadau, yr ynysoedd hwyaid, fflipio tai di ddiwedd Stephen Crabb, Nick Bourne yn cael y trethdalwr i drwsio ei ystafell molchi, i pod Alun Cairns, a bwyd ci Cheryll Gillan ac ati, ac ati, ac ati.

Mae'n anffodus bod Elfyn yn rhy anrhydeddus i gicio'r bel i mewn i'r gol agored.

Sunday, April 25, 2010

Rali Aberystwyth







'Dwi wedi bod digon digywilydd i ddwyn lluniau rhai o fy nghyd flogwyr gan hyderu, neu o leiaf obeithio na fyddaf yn mynd i drafferth am dorri ar eu hawlfraint.

'Dydi raliau etholiadol heb fod yn rhy ffasiynol ers y llanast llwyr a wnaeth Neil Kinnock o flaen 10,000 o bobl yn ol yn 92 wrth gwrs. Serch hynny, mae'n rhaid canmol y Blaid am wneud yr hyn wnaethant - mae'n esiampl o sut mae'n bosibl pontio'r gagendor rhwng y ground war a'r air war yr oeddem yn son amdano yn y blog diwethaf, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi cyfle i'r frwydr ar lawr gwlad gael effaith ar y frwydr yn y cyfryngau.

Da iawn pawb oedd yn ymwneud a'r digwyddiad.

Saturday, April 24, 2010

Gwers fach Tommy McEllistrim i'r Blaid

Mae yna lawer o ddarllenwyr newydd yn galw draw ar flogmenai yn ddiweddar sydd efallai ddim yn ymwybodol o'r ffaith fy mod yn dipyn o anorac ar wleidyddiaeth Iwerddon, a fy mod yn cynhyrchu blogiad sy'n cymharu gwleidyddiaeth y wlad honno a gwleidyddiaeth Cymru o bryd i'w gilydd.

Stori fach o dalwrn etholiadol Gogledd Kerry, sy'n ymwneud a gwleidydd cwbl ddi nod o'r Enw Tommy McEllistrim, sydd gen i y tro hwn. Yn ol yn 2007 roedd yna gystadleuaeth etholiadol hynod chwyrn yn yr etholaeth dair sedd yma. Roedd Martin Ferris, Sinn Fein yn sicr o ennill y sedd oedd pob amser yn mynd i'r chwith yn absenoldeb Dick Spring (Llafur). Roedd un arall yn sicr o fynd i'r hen arwr GAA, Jimmy Deenan (Fine Gael) oedd yn gadael un sedd ar ol, a dau ymgeisydd Fianna Fail, Tommy McEllistrim a Norma Foley yn cystadlu amdani.

Roedd y llwythi McEllistrim a Foley (er eu bod yn perthyn i'r un blaid) wedi bod yn elynion gwleidyddol chwyrn ers sefydlu'r wladwriaeth, gyda'r naill lwyth yn dal yr oruwchafiaeth weithiau a'r llall dro arall.

Beth bynnag, yn yr etholiad arbennig yma roedd y gwybodusion yn eithaf clir ynglyn a phwy fyddai'n ennill - Norma Foley. Roedd ei hymgyrch yn dominyddu yn y wasg a'r radio lleol, roedd yn perfformio'n dda o flaen camera tra bod McEllistrum yn swil iawn a diymhongar. Serch hynny pan gyfrwyd y pleidleisiau roedd clamp o sioc yn aros y cyfryngau a'r gwybodusion - roedd McEllistrim ymhell o flaen Foley. 'Dwi'n cofio'r sylwadau meddylgar a wnaeth McEllistrim o'r ganolfan gyfrif - In modern elections there's an air war and a ground war. We lost the air war hands down, but we won the ground war hands down. That's why we won the election. Yr air war ydi'r frwydr yn y cyfryngau a thros y tonfeddi wrth gwrs, y ground war ydi'r frwydr draddodiadol a ymleddir trwy fynd o ddrws i ddrws yn canfasio, rhannu taflenni a sicrhau bod y bleidlais yn dod allan ar y diwrnod.

Daw hyn a ni at ein hetholiad fach ni rwan. Mae hi'n anodd iawn i bleidiau llai fel Plaid Cymru gystadlu yn yr air war yn y gyfundrefn o aparteid cyfryngol sydd gennym ar hyn o bryd, ac mae hynny'n broblem wirioneddol. Yr unig ddewis sydd gennym felly ydi gwneud yr un peth a Tommy McEllistrim ac ennill y ground war, a'i hennill o filltiroedd. Mi'r ydym wedi llwyddo i wneud hyn ar hyd Gorllewin Cymru yn y gorffennol, ac mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn llwyddo i wneud hynny'r tro hwn. Beth bynnag mae'r polau 'cenedlaethol' yn ei ddweud mae hi'n ddigon posibl dylanwadu ar bethau yn sylweddol yn lleol trwy ennill y frwydr ar lawr gwlad, neu a bod yn fwy cywir trwy ymladd am etholaethau stryd wrth stryd.

Dyna pam ei bod yn braf clywed o wahanol etholaethau am cymaint o bobl sydd wedi bod allan yn curo'r drysau ar ran y Blaid tros yr wythnosau diwethaf. Er gwaethaf ymdrechion y cyfryngau torfol i gulhau'r etholiad i ras tri cheffyl mae pob un o seddi targed y Blaid yn dal yn enilladwy gyda llai na phethefnos i fynd, ac mae yna bosibilrwydd o berfformiadau cryf mewn nifer o etholaethau eraill hefyd. Felly i bawb sydd wrthi o ddydd i ddydd, daliwch ati - mae gennym ni pob cyfle i wneud argraff sylweddol ar Fai 6.

Un o ddau griw oedd allan yn canfasio i'r Blaid yn Arfon y bore 'ma. Roedd yna griw arall allan yn ystod y prynhawn ac mi fydd yna un arall eto heno.

Ydi'r bleidlais Llafur yn chwalu?

'Dwi'n gofyn y cwestiwn am ddau reswm. Yn gyntaf mae wedi fy synnu cymaint o gefnogwyr Llafur soled 'dwi wedi siarad efo nhw wrth ganfasio yma yn Arfon, tros y diwrnodiau diwethaf sydd wedi diflasu'n llwyr. Mae hynny'n cyd fynd efo'r awgrym hwn ar wefan etholiadol orau Prydain, Politicalbetting.com yn ogystal a'r gyfres o bolau diweddar sy'n rhoi Llafur yn drydydd o ran pleidleisiau ar lefel Prydeinig.

Friday, April 23, 2010

Pam nad ydi Robin eisiau dweud yn lle mae'n byw?


Fel y gwelwch, er bod Robin 'I live in Gerlan' Millar yn disgrifio ei hun fel 'hogyn lleol' 'dydi o ddim eisiau dweud ymhle mae'n byw ar y papur pleidleisio. Yn wahanol i bobl sydd eisiau mynd ar gyngor er enghraifft, mae ganddo pob hawl i wrthod datgelu ei gyfeiriad.

Mewn blogiad diweddar holais os oes gan Robin dy yn Arfon o gwbl. 'Dwi ddim yn gwybod yr ateb i hynny, ond 'dwi'n gwybod bod yna Mr a Mrs R Millar yn berchen ty sydd a chyfeiriad Gerlan (ond mae wedi ei leoli mewn gwirionedd yn nes o lawer at Dal y Bont) wedi gwneud cais yn 2003 i droi adeilad cyfagos (hen feudy) yn dy. Cafwyd caniatad. Gellir gweld y cofnodion perthnasol yma. Cais rhif 14 ydi'r un 'dwi'n cyfeirio ato.

A derbyn bod mae gan Robin dy (neu yn hytrach efallai dai) yn Arfon, yn ogystal a chartref yn Newmarket (lle mae'n gweithio a lle mae'n gynghorydd) mae'n ddiddorol holi pam nad yw'n rhoi cyfeiriad un o'r tai lleol ar y papur pleidleisio er mwyn 'profi' ei fod yn 'hogyn lleol' chwedl yntau?

Tybed os mai'r ateb ydi bod mai dau dy haf sydd ganddo, ac nad ydi Robin wedi treulio llawer o amser o gwbl ynddynt hyd eleni, a bod y naill dy wedi bod yn dy haf ers iddo gael ei brynu yn 2001 a bod y llall hefyd wedi ei droi yn dy haf rhywbryd wedi iddo ddechrau cael ei adnewyddu yn 2003?

Wedi'r cwbl 'dydi bod yn berchenog tai haf yn Arfon ddim yn union yr un peth a bod yn hogyn lleol.

Os mai perchnogaeth tai haf ydi'r peth pwysig mi fyddai gan Arglwydd Penrhyn well lle i ddisgrifio ei hun fel 'hogyn lleol' na Robin.

Thursday, April 22, 2010

Ymgeisyddiaeth Louise Hughes - eglurhad o fath.



Os ydi’r rhifyn cyfredol o Golwg yn gywir, ymddengys nad oedd y sibrydion y cyfeirwyd atynt ar y blog hwn yn ddiweddar ynglyn a bwriad Louise Hughes i ymddiswyddo o Lais Gwynedd yn wir. Mae Louise yn parhau i fod yn aelod o Lais Gwynedd. Mae hefyd yn parhau i fod yn ymgeisydd seneddol ym Meirion Dwyfor, ond ddim ar ran Llais Gwynedd.


Heb fod yn hollol siwr, 'dwi'n meddwl fy mod yn deall pethau. Ceisiodd Louise sefyll yn enw Llais Gwynedd, ond nid oedd y grwp hwnnw’n fodlon gadael iddi sefyll. Ar y cychwyn ildiodd (o dan gryn brotest) i ewyllys y grwp cyn newid ei meddwl a sefyll yn annibynnol. Er iddi weithredu’n groes i ddymuniad y grwp mae’n dal yn aelod ohono, ac mae’r rhan fwyaf o gynghorwyr Llais Gwynedd yn gefnogol i’w hymgeisyddiaeth, - er bod cnewllyn ohonynt yn boenus oherwydd ei diffyg rhuglder yn y Gymraeg. Yn ol Louise hithau, bai ei mam ydi’r diffyg rhuglder nid ei bai hi. Mae Louise hefyd yn nodi am rhyw reswm ei bod yn berson blin, ac mai camgymeriad fyddai cymryd person felly yn ysgafn. Ymddengys ei bod hefyd yn bleidiol i ‘doiledau, ysgolion, swyddfeydd post a bysiau’. Dydi hi ddim yn dweud os ydi ei blaenoriaethau wedi eu rhestru yn nhrefn eu pwysigrwydd iddi.


Gobeithio bod y nodiadau uchod yn gwneud pob dim yn glir i bawb.

Wednesday, April 21, 2010

Neu efallai nad ydynt mor lwcus wedi'r cyfan


Cawn weld maes o law os oes sylwedd i'r stori yma, ond mae'n ymddangos bod y wasg Doriaidd yn troi tu min.

Lib Dems - y blaid lwcus

Mae etholiadau yn bethau digon defnyddiol - i flogiwr o leiaf. Er nad ydw i'n cael llawer o amser i flogio, am resymau amlwg, mae yna lawer iawn o ymwelwyr yn galw yma pob dydd. Llawer iawn o sylw heb lawer o waith. Neis iawn.

Ta waeth, hwyrach y dyliwn gyfeirio at yr eliffant ar y stepan drws - y twf 'anisgwyl' yng nghefnogaeth y Lib Dems yn sgil 'buddugoliaeth' Clegg yn y ddadl fawr.

Y pwynt cyntaf i'w nodi ydi nad yw mor anarferol a hynny i blaid anisgwyl wneud yn dda mewn etholiad. Er enghraifft gwnaeth y Blaid yn rhyfeddol o dda yn etholiadau'r Cynulliad yn 99, gwnaeth UKIP yn dda yn etholiadau Ewrop 2005 a 2009 ac mae gen i frith gof i'r Gwyrddion wneud yn dda yn un o etholiadau Ewrop yn y nawdegau. Yr hyn sy'n anarferol y tro hwn ydi bod plaid anisgwyl yn llwyddo mewn etholiad cyffredinol.

Yr ail bwynt ydi hwn - mae'n eithaf hawdd gweld y rheswm am y canlyniadau hyn. Yn achos y Gwyrddion, hysbysebu etholiadol effeithiol oedd yn gyfrifol, fflam cenedlaetholdeb yn codi yn sgil y refferendwm oedd y tu ol i lwyddiant y Blaid yn 99, Killroy Silk oedd yn gyfrifol am lwyddiant UKIP yn 2005 a'r sgandal treuliau yn 2009.

'Dwi fy hun ddim yn meddwl mai'r ddadl ynddi ei hun oedd yn gyfrifol am yr hyn sy'n digwydd y tro hwn ond yn hytrach ymateb rhyfeddol o gytun y cyfryngau iddi. O'r ychydig a welais i ohoni doedd yna fawr o wahaniaeth rhwng y tri, ond creuwyd 'stori'r' etholiad (sef bod Clegg yn foi da wedi'r cwbl) gan y cyfryngau a chafodd hynny yn ei dro effaith sylweddol ar y tirwedd etholiadol.

Rhywbeth nad ydi llawer o bobl sydd a barn wleidyddol gryf yn ei sylweddoli ydi bod llawer yn newid y ffordd maent yn pleidleisio o etholiad i etholiad. Fel rheol maent yn newid i pob cyfeiriad, ond weithiau bydd amgylchiadau yn codi sy'n gwneud i'r rhan fwyaf ohonynt symud i'r un cyfeiriad - dyna pryd fydd newidiadau etholiadol sylweddol yn digwydd, a dyna pryd mae 'stori' etholiadol' yn cael y mwyaf o effaith.

Rwan fyddai hyn heb ddigwydd oni bai bod amgylchiadau ehangach yn caniatau hynny. Ni all 'stori' etholiadol gael effaith oni bai bod y tir yn aeddfed ar ei chyfer. Diflastod efo'r patrwm etholiadol presenol sydd wedi paratoi'r ffordd. Roedd UKIP wedi gobeithio elwa o hynny, ond fel y Blaid, yr SNP a phleidiau llai eraill dydi'r gyfundrefn newydd o ymgyrchoedd etholiadol arlywyddol eu naws, sydd wedi eu canoli ar ddadleuon ar y teledu ddim yn caniatau iddynt wneud argraff ddofn mewn etholiad cyffredinol. Rhyw fath o aparteid etholiadol gyda phob plaid yn gyfartal, ond rhai yn fwy cyfartal na'r gweddill os y mynwch.

Felly'r blaid 'wahanol' yn ol y cyfryngau oedd y Lib Dems, ac maent o ganlyniad wedi elwa o'r diflastod cyffredinol tuag at wleidyddion - sy'n eironig ag ystyried bod roedd ganddynt hwythau eu siar o Aelodau Seneddol llwgr.

Cafodd y Lib Dems lwyddiant yn yr Alban a Chymru y tro o'r blaen oherwydd bod eu gwrthwynebiad (digon sigledig ar adegau) i'r rhyfel yn Irac yn cael sylw cyfryngol tra nad oedd gwrthwynebiad llawer cadarnach y Blaid a'r SNP ddim yn derbyn llawer o sylw o gwbl.

Byddai'n eironi chwerw petai'r un patrwm yn cael ei ailadrodd gyda'r Lib Dems yn cael ei phortreadu fel y blaid wrth sefydliadol, er bod trwynau llawer o'i gwleidyddion wedi eu stwffio'r un mor dwfn yn y cafn ag aelodau'r ddwy blaid fawr unoliaethol arall. Byddai hefyd yn tipyn o lwc cwbl anhaeddianol.

Hysbys

Hysbyseb ar flogmenai - mae yna dro cyntaf i bob dim!

Monday, April 19, 2010

A thra ein bod yn son am y cyfangwbl ddi glem _ _

Beth am y pamffled yma sy'n cael ei ddosbarthu ar fwsiau gan Lafur sy'n honni bod y Toriaid am ddiddymu'r hawl i'r henoed deithio am ddim ar fysus?



Ymddengys nad yw 1 Cathedral Road yn ymwybodol mai penderfyniad y Cynulliad oedd caniatau i bobl deithio am ddim, ac mai'r Cynulliad yn unig a allai ddiddymu'r hawl hwnnw.

'Dydi o ddim mymryn o ots faint y byddai San Steffan yn torri ar gyllid y Cynulliad, os nad ydi'r weinyddiaeth yno am ddileu'r hawl yna bydd yn aros. Llafur sy'n arwain y glymblaid yn y Cynulliad (rhag ofn nad ydi Cathedral Road yn gwybod hynny chwaith). .

Pwy goblyn ydi'r 3%?


Ymddengys bod 55% o'r sawl a holwyd gan YouGov o'r farn mai Ieuan Wyn Jones a enillodd y ddadl Gymreig ddydd Sul, tra bod 23% yn ei rhoi hi i Peter Hain, 19% i Kirsty Williams a 3% i'r Tori Cheryl Gillan.

Mae hyn yn anghredadwy. Sut goblyn y gallai 3% fod o'r farn bod dynas nad oedd yn gwybod pwy ydi Prif Weinidog Cymru, wedi ennill yn y ddadl?

Sunday, April 18, 2010

Byw mewn dau le ar yr un pryd


Mae'n rhaid cyfaddef bod Robin 'I live in Gerlan' Millar (ymgeisydd y Toriaid yn Arfon) yn ddyn clyfar iawn. Mae'n llwyddo i gyflawni'r dasg anodd o fyw mewn dau le ar yr un pryd.

Yn ol gwefan Forest Heath District Council mae'n gynghorydd tros ward All Saints yn y fan honno ac yn byw yn 42 Barry Lynham Drive, Newmarket, CB8 8YT. Mae ganddo rif ffon landline yno yn ogystal a chyfeiriad e bost llywodraeth leol - robin.millar@forest-heath.gov.uk

Yn y cyfamser mae ei wefan etholiadol
yn honni ei fod yn hogyn lleol, wedi ei eni ym Mangor ac yn byw yn Arfon (ond ddim yn manylu ynglyn a lle yn yr etholaeth mae'n byw). Mae ganddo gyfeiriad e bost gwahanol - robin@adeiladuarfon.com yn ogystal a rhif ffon symudol.

Gan bod Robin yn fodlon gwneud cymaint o wybodaeth amdano ei hun, a sut i gysylltu efo fo, yn gyhoeddus, mae'n rhyfedd braidd nad yw'n ein darparu efo ei gyfeiriad honedig yn Arfon.

Tybed os oes ganddo gyfeiriad yn Arfon o gwbl?

Louise i ymddiswyddo o Lais Gwynedd

Mae yna sibrydion o gwmpas bod Louise Hughes i ymddiswyddo o Lais Gwynedd mewn cyfarfod o'r grwp nos fory.

Yn anffodus mae'n eithaf sicr y bydd y cyfarfod yn un hynod anodd am resymau eraill fydd yn dod yn amlwg maes o law.

Saturday, April 17, 2010

Y penderfyniad etholiadol gwaethaf erioed?

Mae'r gyfres o bolau sydd wedi eu rhyddhau ers y sioe nos Iau (mae'r diweddaraf yn rhoi'r Lib Dems ar y blaen o ran pleidleisiau) yn galonogol i'r Lib Dems wrth gwrs - ond mae hefyd yn dda i Lafur. Er mai trydydd fyddant o ran pleidleisiau pe gwireddid y polau, byddant yn dod yn gyntaf o ran y seddi y gallant ddisgwyl eu hennill.

Mae'r holl beth yn drychineb o'r radd flaenaf i'r Toriaid ar y llaw arall. Flwyddyn yn ol roedd ganddynt oruwchafiaeth o fwy na 10% yn y polau. Erbyn heddiw mae'n ymddangos yn bosibl y bydd Toriaid Cameron yn 2010 yn llai poblogaidd na rhai Michael Howard yn 2005.

Penderfyniad trychinebus Cameron i gymryd rhan yn y sbloets ydi un o'r prif resymau am y sefyllfa sy'n ei wynebu heno. Yn draddodiadol 'dydi'r sawl sydd ar y blaen ddim yn mentro cymryd rhan mewn digwyddiad o'r fath rhag ofn rhywbeth tebyg i'r hyn sydd newydd ddigwydd. Mae'r blog yma eisoes wedi trafod pam ddigwyddodd hyn - oherwydd bod y sgandal treuliau wedi newid strwythur gwleidyddiaeth etholiadol Prydain trwy gryfhau'r pleidiau llai, a bod y Toriaid eisiau ail greu'r hen drefn tair plaid sydd wedi bod mor garedig tuag atynt tros y degawdau.

Mi fydd darllenwyr cyson y blog hwn yn fwy nag ymwybodol nad oes gen i fawr o amser i'r Lib Dems a'u nonsens gwirion. Serch hynny mae'n anodd peidio a gwenu wrth feddwl am Cameron yn gwneud yr hyn a allai fod yn benderfyniad etholiadol mwyaf trychinebus yn hanes diweddar y DU oherwydd ei fod, fel ei blaid, o ran greddf yn wrth ddemocrataidd ac am gadw grym gwleidyddol mewn cyn lleied o ddwylo a phosibl.

Y reddf yma sydd hefyd y tu ol i wrthwynebiad y Toriaid i gyfundrefn bleidleisio gyfrannol a theg. Mae'r dymuniad i gadw cymaint a phosibl o bleidiau rhag ymarfer grym (trwy hyrwyddo a chynnal cyfundrefn etholiadol llwgr) a rhag cael sylw cyfryngol (trwy ganoli'r ymgyrch ar ymryson arlywyddol ar y teledu) yn dechrau edrych fel petai am gadw'r Toriaid eu hunain rhag ymarfer grym am gyfnod eto.

Trist iawn, very sad.

Ymgeisydd anisgwyl ym Meirion Dwyfor


Mae yna hen joc go gas wedi bod o gwmpas ers i Llais Gwynedd benderfynu na fyddai'n syniad rhy dda iddynt gyflwyno ymgeiswyr gerbron yr etholwyr yn yr etholiad cyffredinol. Mae hi'n mynd rhywbeth fel hyn -

Cwestiwn: Pam bod Llais Gwynedd eisiau cadw'r holl doiledau 'na'n agored?
Ateb: Er mwyn cael rhywle i guddio ynddo pan mae'n amser etholiad.

Mae'r blog yma eisoes wedi trafod y ffaith bod Llais Gwynedd yn rhy ofnus o ddyfarniad yr etholwyr ar eu cyfnod fel plaid etholedig ar Gyngor Gwynedd i adael i Louise Hughes sefyll yn etholiadau San Steffan. Mae hyn yn anffodus oherwydd ei bod yn bwysig bod pleidiau gwleidyddol yn sefyll mewn etholiadau pan mae hynny'n bosibl. Mae etholiadau cyson a chyflawn yn hanfodol i unrhyw gyfundrefn etholiadol iach.

Mae'n dda iawn gen i felly ddeall bod Louise yn sefyll yn yr etholiadau wedi'r cwbl. Er nad yw'n sefyll yn enw Llais Gwynedd mae'n debyg, credaf bod y sefyllfa yn cynnig cyfle gwych i'r etholwyr hynny ym Meirion Dwyfor sy'n credu bod Llais Gwynedd wedi bod yn gaffaeliad i ddemocratiaeth yng Ngwynedd fynegi hynny trwy bleidleisio i Louise.

Rhyw fath o refferendwm ar eu perfformiad os y mynwch.

Friday, April 16, 2010

Yr etholiad bach arall hwnnw.

Wedi treulio ychydig ddyddiau yng Ngogledd Iwerddon (Ballycastle, reit yn y gogledd ddwyrain - braf iawn - mi fyddwn yn ei argymell i unrhyw un sy'n hoffi cerdded a golygfeydd). Dyna pam bod y blog wedi bod mor ddistaw.

Mae yna etholiad yn y fan honno wrth gwrs - ond fel mae'r posteri isod yn ddangos mae yna rhywbeth hynod o am Mhrydeinig (os oes yna'r fath derm) amdani. Mae'r dalaith wedi ei phlastro gyda phosteri gyda llaw.

Mae themau'r etholiad hefyd yn gwbl estron - datganoli pwerau cyfiawnder, ymysodiadau terfysgol, ffrae rhwng yr SDLP a Sinn Fein ynglyn ag amharodrwydd y cyntaf i lunio cytundeb etholiadol, achos llys lle mae Jim Allister (TUV) yn mynd ag Ian Paisley jnr i'r llys oherwydd enllib honedig yn ei ohebiaeth etholiadol ac ysgyrnygu a rhincian dannedd go iawn gan bawb nad yw'n aelod o'r Eglwys Bresbetaraidd, oherwydd bod y trethdalwr yn gorfod dod o hyd i £200m i achub cynllun buddsoddi oedd ond yn agored i aelodau o'r eglwys honno.

Mi fyddai rhywun yn meddwl ei bod yn wlad wahanol oni bai bod y cyfryngau yn ein sicrhau nad yw fawr gwahanol i Cumberland.








Y Shinners fyddai'n ennill yr etholiad yn weddol hawdd petai posteri yn cael pleidleisio gyda llaw. Mae ganddynt fwy o bosteri i fyny nag ydynt yn debygol o gael i bleidleisio iddynt mewn ambell i etholaeth (megis East Antrim er enghraifft). Yn y llefydd trefol lle maent yn boblogaidd mewn gwirionedd, 'dydi hi ddim yn bosibl edrych i fyny unrhyw lon heb weld eu posteri.

Sunday, April 11, 2010

Gwneud (llai na) hanner eu gorau tros Gymru



Sesiynnau 2008-09 a Sesiynnau 2009-10

Sesiynnau: 54

Hywel Williams: 41

Sian James: 28

Albert Owen: 24

Nia Griffith: 19

Mark Pritchard: 13

Martyn Jones: 12

David Davies: 7


Llongyfarchiadau i David Davies am lwyddo i bresenoli ei hun mewn saith o 54 cyfarfod y Pwyllgor Dethol Tros Faterion Cymreig. Fel Tori 'dydi materion Cymreig ddim o llawer o ddiddordeb iddo wrth gwrs - ag eithrio pan mae'n ceisio atal datblygiad democratiaeth yng Nghymru.


Rydym eisoes wedi nodi nad ydi Martin Jones yn gwybod fawr ddim am faterion Cymreig, er ei fod yn gyn gadeirydd o'r pwyllgor, felly nid yw'n fawr o syndod nad yw yntau'n trafferthu i fynychu'r pwyllgor chwaith. Tori sy'n cynrychioli etholaeth yn Lloegr ydi Mark Pritchard, felly fydd yna neb yn syrthio oddi ar ei sdol o ddeall na fydd o'n tywyllu'r drws yn rhy aml.


Mwy anisgwyl ydi'r ffaith bod Nia Griffith ac Albert Owen yn methu mwy na hanner y sesiynnau - wedi'r cwbl mae'r ddau yn rhoi'r argraff bod ganddynt rhyw fath o ddiddordeb mewn materion Cymreig.


Efallai bod ganddynt rhywbeth pwysicach i'w wneud na gwastraffu amser yn ymwneud a'r hen bethau plwyfol 'na sydd mor bwysig i'w hetholwyr.

Karen Robson - hogan fach neis


Mae'n debyg gen i na fydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog yma wedi clywed am Karen Robson, darpar ymgeisydd y Toriaid yng Nghanol Caerdydd. Mae ei phamffledi (uniaith Saesneg wrth gwrs) yn ei phortreadu fel athrawes fach neis iawn sydd o blaid gwell trafnidiaeth i'r hen a'r methedig, chware teg i fyfyrwyr, gwasanaeth hel sbwriel effeithiol ac ati.

Mae Karen hefyd yn hoff o wleidydda negyddol - fel y gallwch weld o'r pamffled uchod. 'Dydi o ddim fy lle fi i amddiffyn y Lib Dems wrth gwrs, ond mae'r cyfryw blaid wedi bod mewn grym yng Nghaerdydd ers blynyddoedd ac mae'n debyg bod y cynnydd o 18% yn nhreth y cyngor yn is na chwyddiant.

Ta waeth, os ydi Karen eisiau gwleidydda'n negyddol, iawn - mae'n rhan o'r gem (yn arbennig os mai'r Lib Dems ydi'r gwrthwynebwyr). Ond os ydi hi'n mwynhau y math yna o ymgyrchu efallai y dylai fod yn onest am y peth. Mae'n ufuddhau i'r gyfraith ac yn cydnabod mai'r Toriaid sy'n gyfrifol am yr ohebiaeth, ond yn gwneud hynny mewn ffont maint 3 eu 4. Lleiafrif bach o bobl all ddarllen ysgrifen mor fach heb gymorth chwyddwydr.

Saturday, April 10, 2010

Pwy ddywedodd _ _ _?

_ _ _ people should vote with their hearts, they should vote for what they believe in. The electorate should not be told there are only two options.

Nick Clegg, credwch o neu'i beidio. Mae cyd destun yn bwysig 'da chi'n gweld - ymateb oedd Nick i alwad yr Arglwydd Adonis ar i bleidleiswyr y Lib Dems bleidleisio yn dactegol i Lafur yn erbyn y Toriaid.

Yn y cyfamser ar hyd a lled y gwledydd hyn, mae'r Lib Dems yn dweud wrth pobl mai dau opsiwn yn unig sydd, ac yn crefu am eu pleidlais ar y sail hwnnw - fel mae'r pamffled yma o Ganol Caerdydd yn dangos:



Ac roedd Nick ei hun eisiau i bobl ddeall mai opsiwn o dair plaid yn unig oedd gan pobl ar ei ymweliad diweddar (a byr iawn) a Chymru - dydi'r etholwyr ddim i fod i ystyried irrelevant, two bit parties.

Tybed os oes yna blaid mwy rhagrithiol na hon yn Ewrop?

Friday, April 09, 2010

Ydi Llafur yn poeni eu bod am golli Gorllewin Caerdydd? ( We'll Keep the Red Flag Flying Here)




Dau lythyr a geir uchod sydd wedi eu bwriadu nid ar eich cyfer chi, ond ar gyfer aelodau Plaid Lafur Gorllewin Caerdydd. Mae’r naill wedi ei ‘sgwennu gan aelod seneddol yr etholaeth, Kevin Brennan a’r llall gan ei asiant, David Costa. Mae’r ddau lythyr yn eithaf dadlennol.


Mae, wrth gwrs ychydig yn ddigri nodi bod Kevin yn defnyddio termenoleg Hen Lafur (Dear Comerade, socialist values ac ati) wrth anerch y ffyddloniaid, tra bod gohebiaeth ar gyfer pawb yn cadw’n sobor o glir oddi wrth y fath dermenoleg. Mae hefyd yn eglur bod Kevin yn ddoeth yn ei ddewis o asiant - mae’n amlwg bod yr ymgyrch wedi ei chynllunio’n fanwl iawn.


Yn fwy diddorol, fodd bynnaf, ydi’r ymdeimlad o banic sy’n amlygu ei hun o ddarllen y ddau lythyr. Mae Kevin yn cychwyn ei lythyr efo’r frawddeg – We face the fight of our life in the General Election that has now been called. O ddarllen ymlaen mae’n amlwg mai cyfeirio at etholaeth Gorllewin Caerdydd mae Kevin, ac nid y DU yn ei chyfanrwydd.


Mae’n rhaid bod calon Kevin yn suddo at ei sodlau pan mae’n ystyried yr holl ganfasio mae David wedi ei drefnu ar ei gyfer tros yr wythnosau nesaf – tri sesiwn dyddiol yn ystod yr wythnos a dau ar y penwythnosau. Os ydi fy syms i yn gywir, golyga hyn y bydd Kevin allan wyth deg dau o weithiau tros y mis nesaf. Un ffordd o golli pwysau am wn i.


Ac nid dyna’r unig ganfasio chwaith; mae David am i pob cangen fynd allan i ganfasio bedair gwaith yr wythnos. Mae gan Lafur wyth cangen yng Ngorllewin Caerdydd, felly dyna ni dri deg dau sesiwn arall – 114 sesiwn o ganfasio i gyd mewn cyfnod o fis. Ac nid dyna’r cwbl – mae Dave hefyd eisiau i bobl fynd i beth sy’n weddill o Transport House i ffonio etholwyr anffodus Gorllewin Caerdydd.. Mae’r hogiau a’r genod am fod wrthi o chwech o’r gloch ymlaen pob nos ar y ffonau ac o ddeg o’r gloch y bore pob dydd Sadwrn. Ymddengys bod Dave hefyd yn bygwth anfon pobl i fynd o gwmpas yn crefu ar bleidleiswyr Llafur i fynd allan i fotio am ddeg diwrnod cyfan – o Ebrill 27 hyd at ddiwrnod y bleidlais.


Rwan, mi fyddai dyn wedi rhyw ddisgwyl hefyd y byddai mwyafrif sylweddol Llafur yn sicrhau y gallai Kevin gymryd pethau ychydig yn fwy hamddenol. Mae’n demtasiwn hefyd i nodi na fyddai’n rhaid iddo daflu ei hun i’r holl weithgaredd lloerig yma petai wedi bod ychydig yn fwy gweladwy yn yr etholaeth tros y blynyddoedd diwethaf. Mae Kevin yn gymeriad llawer llai amlwg yng ngorllewin y ddinas nag oedd y ddau aelod seneddol Llafur a ddaeth o’i flaen. Ond mae hynny braidd yn arwynebol. Adlewyrchiad ydi’r sefyllfa o’r graddau mae Llafur wedi colli eu cefnogaeth yn ninasoedd mawr y De yn ystod y blynyddoedd diwethaf.


Mae’r cwymp rhyfeddol yma mewn cefnogaeth i’w weld ar ei amlycaf yng nghanlyniadau’r etholiadau lleol diweddaraf, ond mae canlyniadau etholiadau Ewrop a’r Cynulliad yn tystio i’r chwalfa hefyd. Mae’n amlwg o lythyr David nad ydi Llafur yn canolbwyntio ar ennill pleidleiswyr newydd – mae holl ffocws pethau ar berswadio pleidleiswyr traddodiadol i fynd allan i bleidleisio. Gellir ddweud mai strategaeth o grefu ydi un Dave a Kevin.


Problem fawr Kevin ydi bod Llafur yng Nghaerdydd wedi gelyniaethu llawer o’u cefnogwyr naturiol (tybed os bydd Russell Goodway yn cymryd rhan yn yr holl ganfasio?). Eglura hyn pam bod yr holl ganfasio yn cychwyn ar strydoedd proletaraidd y stadau sy'n gyfochrog a Cowbridge Road West – dyma’r bobl sydd wedi bod fwyaf selog i Lafur, a dyma’r bobl mae Llafur wedi eu hanwybyddu. ‘Dwi’n rhyw dybio y bydd yr holl weithgaredd lloerig a'r holl grefu yn ddigon i gadw’r sedd i Lafur y tro hwn – ond fyddwn i ddim yn rhoi ffadan goch ar ragolygon Llafur yn etholiadau’r cynulliad y flwyddyn nesaf.


ON – mi fyddwn yn awgrymu eich bod yn cadw’n glir o’r Janata Palace (yr hen Far Pavilions a'r Royal Curry cyn hynny) am fis rhag i chi orfod gwrando ar sesiynnau briffio dolefus Dave. Ceir digon o fwytai Indiaidd blasus ar ochr y dref i Cowbridge Road East – ac mae perchnogion nifer o’r rheiny yn gefnogol i Blaid Cymru.



Thursday, April 08, 2010

'Dim ond ni all ennill yn _ _ _

Hmm - felly yn ogystal a bod yr unig blaid all ennill yng Nghanol Caerdydd, dim ond y Lib Dems all ennill yn y Gogledd (ar sail eu bod yn gallu cynhyrchu graff sy'n dangos faint o gynghorwyr sydd ganddynt), a dim ond y nhw all ennill yn Ne'r ddinas (ar sail graff rhyfedd sy'n 'dangos' eu bod yn tyfu ynghynt na neb arall.

Bydd rhaid iddynt fod yn hynod greadigol (hyd yn oed wrth eu safonau eu hunain) os ydynt am gynhyrchu graff sy'n dangos mai dim ond nhw all ennill yng Ngorllewin Caerdydd.

'Dydi'r Toriaid jyst ddim yn ei chael hi'

Gobeithio nad ydi'r cyfieithiad o ddywediad diweddar Saesneg yn rhy hyll ar y glust, ond dyna'r dywediad ddaeth i fy mhen i neithiwr wrth wrando ar Guto Bebb, ymgeisydd y Toriaid yn Aberconwy. yn amddiffyn y ffaith bod gwybodaeth - ahem - camarweiniol yn cael ei ddosbarthu gan ei ymgyrch.

Os oeddwn i'n deall yn iawn mae Guto yn y cyfweliad efo'r Bib (yr un Cymraeg a'r un Saesneg) yn mynegi siom - nid siom yn ei ymgyrch ei hun wrth gwrs, ond siom mewn sylw gan yr aelod aelod o'r cyhoedd, Gwen Gray a ddaeth a'r camarwain i sylw'r cyfryngau.

Mi fydd y senedd lwgr bresenol yn cael ei diddymu ddydd Llun, a bydd y lle'n cael ei garthu o'i aelodau seneddol gwaethaf. Mae hyn yn fendith i bawb. Ond mae'n werth nodi bod llawer o'r hyn sydd wedi arwain at ddifa hygrededd y lle tros y blynyddoedd diwethaf yn deillio, yn y pen draw, o draha a hyfdra ei haelodau a'u diffyg parch tuag at y cyhoedd. Mae'n fater o ofid felly i nodi bod y traha a'r diffyg parch tuag at y cyhoedd yn parhau ymhlith y sawl sydd eisiau cymryd lle'r hen do.

Mi fyddai wedi bod yn rheitiach o lawer i Guto ddiolch i Mrs Gray am dynnu ei sylw at y 'camgymeriad' yn hytrach na mynegi siom nad aeth i edrych ar wefan y Toriaid neu gael gair bach distaw efo swyddfa'r Toriaid yn Aberconwy.