Thursday, April 09, 2015

UNSAIN Ynys Mon

Chware teg i UNSAIN Ynys Mon am ddangos eu cefnogaeth i Albert Owen yn Etholiad Cyffredinol fis nesaf.  Dydi o ddim yn arbennig o glir fodd bynnag sut aeth Unsain ati i ddod i'r penderfyniad, a does yna yn sicr ddim tystiolaeth eu bod wedi ymgynghori efo'u haelodau cyffredin ynglyn a'r mater.  A dweud y gwir dydi hi ddim yn eglur o gwbl pwy a wnaeth y penderfyniad a phryd.  Os ydi rhai o aelodau UNSAIN ar Ynys Mon eisiau gwybod sut y daethwyd i'r penderfyniad yma ar eu rhan mae'n debyg y gallant ofyn i'w trefnydd sirol, Thelma Parry egluro'r mater. 



Rhag ofn nad ydych yn siwr pwy ydi hi, amgaeaf lun ohoni efo rhyw ffrind neu'i gilydd.


1 comment:

Anonymous said...

Llun Owen Smith yn f'atgoffa o haelioni Alun Pugh tuag at Dai Smith.

http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/calls-arts-row-minister-resign-2351241