Sunday, December 19, 2004

Pam eu bod nhw mor dlawd a ninnau yn gyfoethog?

Mae o'n beth rhyfedd bod trwch y boblogaeth yn gymharol gyfoethog mewn nifer gweddol fach o wledydd. Mae'n debyg bod asedau gwerth $9.4 triliwn gan dlodion y trydydd byd a'r cyn wledydd comiwnyddol - dwy waith cymaint o gyfalaf na sydd yn cylchdroi yng nghyflenwad arian yr UDA - neu i edrych arno mewn ffordd arall asedau cyfwerth a'r rhai a gynrychiolir gan gyfnewidfaoedd stoc Efrog Newydd. Tokyo, Llundain, Frankfurt, Toronto, Paris, Milan a'r NASDAQ efo'u gilydd. Eto, mae pawb bron yn dlawd. Pam?

Yn ol Hernando de Soto mae'r rheswm yn syml. Ni all yr holl asedau hyn gynhyrchu cyfalaf oherwydd nad oes iddynt drefn sy'n rhoi cynrychiolaeth gyfreithiol iddynt - ar ffurf dogfennau, marchnadoedd stoc ac ati - sy'n cael eu derbyn gan bawb. Mae'r asedau mewn gwirionedd y tu allan i'r drefn gyfreithiol - ac oherwydd hynny, ni ellir llawn fanteisio arnynt. Eglurir hyn yn llyfr De Soto The Mystery of Capital.

Dim i'w wneud efo agweddau, ethos economaidd, parodrwydd i weithio ac ati - ond popeth i'w wneud efo darnau o bapur sy'n dderbyniol i bawb.

Sunday, December 12, 2004

Rhy fach i lwyddo ar ein pennau ein hunain?

Dadl a ddefnyddir yn erbyn annibynniaeth i Gymru yn aml ydi ein bod yn rhy fach i lwyddo ar ein pennau ein hunain. Isod rhestraf y gwledydd cyfoethocaf yn y Byd (a mesur hynny mewn GDP beth bynnag).

1 Norwy - poblogaeth 4.6m, GDP $55,280 y flwyddyn y person, twf GDP 3%
2 Swisdir - poblogaeth 7.4m, GDP $51,490, twf GDP 2%
3 Iwerddon - poblogaeth 4.1m, GDP $48,250, twf GDP 4.9%
4 UDA - poblogaeth 295.7m, GDP $41,530, twf GDP 3.2%
5 Awstria - poblogaeth 8.2m, GDP $39,130, twf GDP 2.4%
6 Yr Iseldiroedd - poblogaeth 16.4m, GDP $38,950, twf GDP 2%
7 Prydain - poblogaeth 60.7m, GDP $38,670, twf GDP 2.3%
8 Ffindir - poblogaeth 5.3m, GDP $37,740, twf GDP 3%
9 Japan - poblogaeth 127.4m, GDP $37,550, twf GDP 1.7%
10 Ffrainc - poblogaeth 60.6m, GDP $36,630, twf GDP 2.4%
11 Gwlad Belg - poblogaeth 10.4m, GDP $36,430, twf GDP 2.5%
12 Yr Almaen - poblogaeth 82.7m, GDP $35,450, twf GDP 1.9%

Go brin bod angen i mi ychwanegu mwy.

Sunday, December 05, 2004

Y cytundeb heddwch, Paisley a'r dyfodol.

Ymddengys y bydd y DUP yn dod i benderfyniad yr wythnos yma os ydynt am eistedd oddi amgylch yr un bwrdd a SF, mewn gweinyddiaeth newydd. 'Does yna neb yn gwybod pa ffordd y byddant yn neidio, ond tybed faint o wahaniaeth wnaiff eu penderfyniad yn y diwedd? Mae newidiadau mawr ar droed beth bynnag.

Mae pawb yn gwybod am wn i bod newidiadau strwythurol arwyddocaol yn digwydd ym mhoblogaeth y Gogledd. Ond tybed faint sy'n ymwybodol o'r newidiadau ym mhatrwm gwleidyddol y De?

Cynhalwyd etholiadau lleol yn y Weriniaeth yn gynharach eleni, a chafwyd llu o ganlyniadau fel hyn a hyn a hyn ar hyd a lled ardaloedd dosbarth gweithiol y brifddinas yn ogystal a rhai fel hyn yn ardaloedd traddodiadol y Provos o gwmpas y ffin.

Canlyniad tebygol hyn ydi na fydd hi'n bosibl i Fianna Fail ennill grym am gyfnod maith eto heb gefnogaeth SF. Byddant mewn llywodraeth yn y De erbyn 2007, a byddant yn ol pob tebyg mewn llywodraeth yn y Gogledd hefyd - efo neu heb y DUP.

Byddant yn llywodraethu yn y De a'r Gogledd - beth bynnag am y ffin.

Wednesday, December 01, 2004

Canolfan y Mileniwm



Wel mae Canolfan y Mileniwm wedi agor o'r diwedd.

Mae'n debyg mai un o'n prif wendidau ni fel cenedl ydi ein bod yn swnian ac yn cwyno am ddatblygiadau y tu hwnt i'n milltir sgwar ein hunain, ac yn mwynhau bychanu ymdrechion eraill. Felly brysiaf i ddweud (cyn gwneud yn union hynny), ei bod ar un wedd yn beth cadarnhaol iawn bod Cymru efo'r adnoddau newydd sydd wedi ymddangos ym Mae Caerdydd ac yng nghanol y ddinas tros y blynyddoedd diweddar. Er yr holl wario pres cyhoeddus mewn ychydig o filltiroedd sgwar digon breintiedig beth bynnag, mae'n debyg ei fod yn gadarnhaol beth bynnag. Yn ddi amau mae'n rhoi cryn le i gredu ein bod yn magu hyder fel cenedl, yn dod yn ymwybodol ohonom ein hunain fel gwlad, yn gweld yr angen am brif ddinas go iawn i wlad go iawn.

Ond, o edrych ar arlwy'r Ganolfan tros y misoedd nesaf mae'n amlwg mai Saesneg a 'rhyngwladol', fydd naws y lle - o ran y ddarpariaeth gelfyddydol, beth bynnag. Digon naturiol mae'n debyg. Anaml iawn y gellid disgwyl llenwi 1,900 o seddi i weld cynhyrchiad Cymraeg.

Ond mae'r cwestiwn bach yn codi unwaith eto - "Oes yna le i ni, y Gymru Gymraeg yn y Gymru newydd hyderus"? 'Mond gofyn.

Wednesday, November 24, 2004

Dipyn o Stad



Ward Seiont, Caernarfon.

Beth petai’r Fro Gymraeg wedi ei adeiladu o’r wardiau hynny sydd a mwy nag 80% yn siarad Cymraeg? Sut byddai’n edrych?

Fel hyn.

Peblig: Caernarfon. Trefol. Byd byrlymus proletaraidd yn berwi efo plant, a chwn. Pencadlys a chartref ysbrydol y cofis oll. Bron y gallai fod yn astudiaeth achos o amddifadedd - 4ydd ward efo incwm isaf yng Nghymru, 15fed uchaf o ran diweithdra, 15fed salaf o ran addysg ac hyfforddiant, 57fed o ran ansawdd tai sal.

Seiont: Caernarfon. Trefol. Mawr a chymysg. Canol tref, fflatiau cyngor, stad dai cyngor, stadau mawr preifat, rhwydwaith o dai teras cul, ffermydd ar gyrion de Caernarfon.

Cadnant: Caernarfon. Trefol. Proletaraidd, ond ddim cymaint felly na Peblig. Stad cyngor mawr (parchus), lwni lands cymdeithasau tai, stad breifat, rhai strydoedd culion canol yn agos at ganol y dref.

Menai: Caernarfon. Trefol. Twthill sy’n dal yn rhannol ddosbarth gweithiol a thai mawr gogledd y dref. Dosbarth canol Cymraeg ei hiaith. Llawer o bobl o’r tu hwnt i Gaernarfon, ac yn wir Gwynedd. Yr unig le cyn belled i’r gogledd lle, nad yw’n anisgwyl clywed acenion y De ynddo.

Llanrug: Pentref mawr. Sownd yng Nghaernarfon ac yn ddibynnol arni’n economaidd. Dosbarth canol Cymraeg a chofis y wlad.

Bontnewydd: Pentref mawr. Sownd yng Nghaernarfon ac yn ddibynnol arni’n economaidd. Cofis wlad yn bennaf, rhai dosbarth canol Cymreig.

Bethel: Gweler Bontnewydd. Digon tebyg.

Penygroes: Pentref mawr. Diwylliant chwarel– er bod hon wedi cau. Yn orbit Caernarfon.

Groeslon. Gweler Penygroes – tebyg ond nes at Gaernarfon.

Llanwnda. Ward o bentrefi llai rhwng Groeslon / Penygroes a’r Bontnewydd. Cynnwys ardaloedd chwarel, pentref glan y mor, dosbarth canol Cymreig a cofis wlad rhan uchaf y Bontnewydd.

Wel dyna hanner yr ugain. Pob un o fewn ychydig filltiroedd i Gastell C/narfon.

Dwyrain Porthmadog: Trefol. Y rhan o Borthmadog sydd ymhell o’r mor ac nad ydi Saeson eisiau dod i fyw yno.

Gogledd Pwllheli: Trefol. Y rhan o Bwllheli sydd ymhell o’r mor ac nad ydi Saeson eisiau dod i fyw yno. Pobl tref Pwllheli a phobl o Ddwyfor wledig sydd wedi mewnfudo i’r dref. Trydydd o ran safon gwael tai yng Nghymru.

Teigl: Trefol. Blaenau Ffestiniog. Yn ol ym myd y chwareli llechi. Chwarel, neu o leiaf fersiwn open cast yn dal yn agored.

Maenofferen: Gweler Teigl. Tebyg.

Bala: Trefol, ond ychydig yn gwahanol i’r uchod. Gwasanaethu byd amaethyddol.

Tudur: Trefol. Llangefni. Proletaraidd. Un o’r wardiau efo’r incwm cyfartalog isaf yng Nghymru.

Cefni: Trefol. Llangefni. Ward mae’r heddlu’n dweud sydd a record anhygoel o anhrefn cymdeithasol. Y rheswm am hyn ydi bod yr heddlu’n ddwl. Maent yn cofnodi pob achos yng nghanol y dref (sydd yn lle anhrefnus liw nos) fel Cefni. Dydi canol y dref ddim yng Nghefni.

Cyngar: Trefol. Llangefni Llai tlawd na Tudur.

Llanuwchllyn: Gwledig. Yr unig ward amaethyddol wledig sydd a thros 80% yn siarad Cymraeg. Fel hyn oedd y rhan fwyaf o’r Fro Gymraeg ers talwm. 7fed salaf o ran ansawdd tai yng Nghymru.



Blaenau Ffestiniog

Plaid Cymru sy'n cynrychioli 11 o'r 17 ward sydd yng Ngwynedd, ond dim un o'r dair sydd ar Ynys Mon.

Wps, newydd sylwi fy mod wedi anghofio hen bentref bach Llanber - Mecca twristiaid sy'n hoffi dringo a ballu. Mae o'n edrych yn rhyfedd am wn i cael lle sydd mor boblogaidd efo Saeson fod mor Gymraeg. Ond mewn rhai ffyrdd mae'r lle yn ddigon nodweddiadol o'r lleoedd eraill sy'n Gymreig iawn - siar da o dai cyngor, pentref mawr chwarel (gynt), yn orbit C'narfon.


Saturday, November 20, 2004

Nid ni'n unig sydd mewn trwbwl efo demograffeg.



Mae'n demograffeg ni yn wael, ond nid yw demograffeg Protestaniaid Gogledd Iwerddon yn dda iawn chwaith.

Bu llawer o anghytuno ynglyn a dehongli ffigyrau'r cyfrifiad diwethaf, ond mae ystadegau addysgol Swyddfa Gogledd Iwerddon yn gywir am eu bod yn dangos ymhle mae plant yn cael eu haddysgu, ac yn defnyddio ystadegau ysgolion sydd wedi eu darparu yn uniongyrchol gan rieni.

Dengys y ffigyrau mai Pabyddion ydi'r rhan fwyaf o blant. Dengys ystadegau blaenorol mai Pabyddion ydi'r mwyafrif sydd wedi bod yn cael eu gosod ar y rhestrau etholiadol ers pymtheg mlynedd bellach. Ychwanegwch hyn at y ffaith bod y Gorllewin a'r De Pabyddion yn fwy tebygol o bleidleisio o lawer na'r Dwyrain a'r Gogledd Protestanaidd, a 'dydi o ddim yn gam mawr i gasglu bod newid ar droed yma.

Thursday, November 18, 2004

Ond _ _ _

Ar gychwyn yr unfed ganrif ar hugain mae'r Gymraeg yn dal i ddawnsio oddi ar dafodau plant bychain.

Mae hyn ynddo'i hun yn wyrth. Efallai mai'r wyrth yma ydi'n hunig wir sail tros fod yn obeithiol wrth feddwl am y dyfodol.


Lois ac Owain. Cefnder a chyfnither.

Un neu ddau o bwyntiau ystadegol i gnoi cil arnynt.

Ymhellach i'r blog ddoe, tybed pwy fyddai wedi dychmygu'r canlynol?

1. Mae bron i naw gwaith cymaint o blant ysgolion cynradd methu siarad y Gymraeg o gwbl na sy'n ei siarad adref.
2. Un sir yn unig sydd efo mwy na hanner plant ysgol gynradd yn siarad Cymraeg adref (Gwynedd) a dwy yn unig sydd a mwy na thraean yn gwneud hynny (Gwynedd a Mon).
3. Mae dwy sir arall (Ceredigion a Chaerfyrddin) efo mwy na pumed. Nid oes yr un o'r 18 sir arall yn cyffwrdd a'r marc 10%.
4. Nid oes yr un plentyn yn siarad Cymraeg adref ym Mlaenau Gwent, a dau sydd ym Merthyr - dau o'r un teulu mi fetia i.
5. Mae mwy o ran niferoedd yn siarad Cymraeg adref yng Nghaerdydd na sydd yn Sir Benfro, Nedd Port Talbot, Dinbych a Phowys. Mae'r bedair sir yma wedi bod ag ardaloedd naturiol Gymraeg oddi mewn i'w ffiniau hyd yn ddiweddar iawn.
6. Mae'n debyg bod mwy yn siarad Cymraeg adref yn nhref Caernarfon na sydd mewn unrhyw sir gyfan y tu allan i Wynedd ag eithrio Ceredigion, Caerfyrddin ac Ynys Mon.
7. Mae mwy yn siarad Cymraeg adref yng Ngwynedd na sydd ym mhob sir arall efo'i gilydd, ag eithrio Mon, Caerfyrddin a Cheredigion.
8. Mae 7 o'r 22 Sir efo llai nag 1% yn siarad Cymraeg adref, ac mewn 15 mae llai na 5% yn gwneud hynny.

Nid digalon ydi'r gair rhywsut!

Wednesday, November 17, 2004

Brwydro wnawn am Gymru Rydd Gymraeg?



Efallai bod Cymru rydd yn llawer mwy cyrhaeddadwy na Chymru Gymraeg.

Er bod cyfrifiad 2001 yn dangos bod mwy o bobl yn siarad Cymraeg nag oedd yn 91, a bod y proffeil yn iach i'r graddau bod llawer o blant yn siarad Cymraeg - pam mor ddibynadwy ydi'r ffigyrau hyn. Mae'r tabl hwn yn dangos faint o blant sy'n siarad Cymraeg yn eu cartrefi. Dyma'r plant sy'n debygol o siarad Cymraeg yn eu bywudau pob dydd - heddiw ac yn y dyfodol. Mae'r ganran - ar 6.2% yn ddagreuol o isel, ac mae wedi bod yn gostwng ers i gofnodion gael eu cadw.

Go brin bod y cynnydd yn y niferoedd sy'n siarad y Gymraeg fel ail iaith yn 'rhugl' ac yn 'lled rhugl' am gyfieithu i lawer o siarad Cymraeg ar y stryd yn y dyfodol. Diolch am y 'ffasgwyr ieithyddol'.

Sunday, November 14, 2004

Irac, Vietnam a'r Wasg

Wedi gweld rhain erioed?











Roedd y stwff yma'n ymddangos yn y wasg Orllewinol yn ystod rhyfel Vietnam. Byddai pobl yn dod wyneb yn wyneb a chanlyniadau rhyfel ar gig a gwaed wrth ddarllen eu papur boreol tros eu brecwast. Buan iawn y daeth y rhyfel i fod yn un hynod amhoblogaidd, a bu rhaid i lywodraeth yr UDA ddod a'r lladd i ben.

Er gwaethaf yr holl newyddiadurwyr sydd yn Irac ar hyn o bryd, nifer ohonynt yn embedded, peidiwch a disgwyl gweld unrhyw luniau hyll. Dysgwyd y wers, a dysgwyd sut i reoli'r wasg. Mae'n debyg bod cryn ddioddefaint wedi bod yn Fallujah tros y dyddiau diwethaf. Fyddwn i ddim yn disgwyl gweld delwedd yn y wasg sy'n adlewyrchu'r dioddefaint hwnnw.

Sunday, November 07, 2004

Bewley's, Grafton Street, Johann Sutter a Chymru



Un o landmarks amlycaf Dulyn yn cau yr wythnos yma. Mae erthygl ddiddorol ar hyn yn Sunday Business Post yr wythnos yma.

'Dwi'n gwybod mai'r berthynas rhwng prisiau uchel eiddo (neu aur) a difa busnesau go iawn ydi byrdwn yr erthygl, ond mae hi'n codi cwestiynau ehangach - i ba raddau y gall grymoedd masnachol sgubo nodweddion diwylliannol ardaloedd a'r gwledydd o'r neulltu?

Mae prisiau eiddo - a photensial masnach i wneud elw ar ei fwyaf grymys yng Nghaerdydd (ag edrych ar bethau o safbwynt Cymreig o leiaf). Mae llawer o'r Caerdydd 'dwi yn ei gofio pan ddechreuais fynd yno chwarter canrif yn ol wedi mynd - yr hen dafarnau dinesig Brains, i gyd bron wedi eu hadnewyddu, y cymunedau o gwmpas y dociau wedi eu claddu gan fflatiau, caffis Asteys, marchnad Mill Lane, Y Moon a Smileys ac ati.

Ag edrych yn bellach yn ol mae'r hen gymunedau yn y canol wedi mynd - fel y gymuned unigryw honno - .Newtown - cymdogaeth Babyddol / Wyddelig yng Nghymru.

Mae'n debyg bod lles wedi dod o hyn oll, ond mae llawer wedi ei golli hefyd.

Poscript bach. Ymddengys bod gwerth masnachol o 2,000,000 euro i'r ffenestri lliw, ac mae canoedd o bobl wedi bod yn mynd a'u plant yno i dynnu eu lluniau o flaen y ffenestri yn ystod yr wythnos neu ddwy diwethaf.


Friday, November 05, 2004

Gwersi o'r UDA?

Mae Cymru a'r UDA mor gwahanol ag y gallent fod o ran maint, poblogaeth, gwleidyddiath ac ati. Ond oes gwers yn yr hyn a ddigwyddodd i ni, yma, rwan?

Yn ol pob son ennill wnaeth Bush (neu'n hytrach Rove efallai) trwy apelio at ei etholaeth naturiol yn hytrach na mynd ar ol y 'tir canol' bondigrybwyll. Mae llawer o bobl y byddwn i wedi eu hystyried yn genedlaetholwyr Cymreig ddim yn trafferthu pleidleisio'n aml. A oes yna fwy o bleidleisiau i PC eu hennill yma na sydd mewn brwydr 4 ffordd am fathau eraill o bobl?

Wednesday, November 03, 2004

Bush ta Kerry? (eto)

Mae hi 'rwan yn 10:20 a fydd yna ddim byd swyddogol am sbel eto - ond mae llawer iawn o arian wedi ei fetio ar Kerry yn ystod yr awr i awr a hanner diwethaf os ydi'r cwmniau betio yn unrhywbeth i fynd arnynyt. Gobeithio bod rhywun yn gwybod rhywbeth.

Sunday, October 31, 2004

Ydych chi'n betio?

'Dydw innau ddim chwaith yn aml - ond byddaf yn mentro ceiniog neu ddwy ar rygbi a gwleidyddiaeth weithiau. Newydd wneud bet bach ar Kerry yma.

Mae'r indices taleithiol yn ddifyr. Mae up side y bet Nevada yn bedair gwaith y downside os ydych yn betio tros Kerry (hy sell). Mae'r pol diweddaraf yn rhoi'r dalaith yn hollol gyfartal (er mai hwn ydi'r cyntaf ers sbel i beidio a rhoi Bush ar y blaen). Gwerth £1 neu ddwy y pwynt i'r mentrus efallai?

Saturday, October 30, 2004

Bush neu Kerry?

Mae'r rhan fwyaf o bobl - gan gynnwys y bwcis o'r farn mai Bush fydd yn ennill. 'Dwi'n anghytuno - am bedwar rheswm:

(1) Mae'r polau yn agos - ond 'dydyn nhw ddim yn 'gweld' pobl sydd ond efo ffonau symudol. Bydd y rhan fwyaf o'r bobl hyn yn pleidleisio i Kerry.
(2) 'Dydi'r polau ddim yn gweld pobl sydd wedi cofrestru'n hwyr chwaith. Democratiaid ydi'r rhan fwyaf o'r rhain.
(3) Anaml iawn y bydd arlywydd yn cael ei ail ethol os nad oes ganddo 50% yn y polau piniwn ar ddiwedd yr ymgyrch. Nid oes gan Bush hynny.
(4) Yn 2000 roedd Bush ymhellach o flaen Gore yn y polau nag yw o flaen Kerry 'rwan. 'Collodd' y bleidlais o 500,000 pleidlais.

Tuesday, October 26, 2004

John Peel wedi marw



Wel, John Peel wedi marw. Gallwn ddisgwyl cofiannau lu tros y dyddiau nesaf. Tybed faint o son fydd mai John Peel oedd un o'r ychydig DJs Saesneg a roddodd sylw i fandiau Cymraeg (hy rhai sy'n canu yn y Gymraeg)? Dim llawer debyg.

Saturday, October 23, 2004

Gwleidyddiaeth yr UDA a'r dyfodol

Plaid pobl wyn Saesneg eu hiaith ydi'r blaid Wereniaethol yn bennaf - wel yn llwyr bron. Mae'n bosibl y byddant yn ennill yr etholiad ddechrau'r mis nesaf. Ond faint o etholiadau a fyddant yn eu hennill yn y dyfodol? Mae demograffeg y wlad yn edrych yn ddrwg iddynt.

Friday, October 22, 2004

McDonalds Aberystwyth

'Dwi'n deall o blog Nic bod wyth wedi eu harestio am baentio McDonalds Aberystwyth. Oeddet ti yno Low? Ac os nad oeddet, pam?

Monday, October 18, 2004

Diolchgarwch, y Mayflower ac Indiaid Cochion

Tybed pwy sy'n gwybod pam bod Americanwyr yn meddwl y byd o wyl Diolchgarwch? Y rhan fwyaf o bobl mae'n debyg, ond 'dwi am ail adrodd y stori. Mae hi bron yn ddameg o'r hyn sy'n digwydd pan mae'r Dde crefyddol yn America yn cael ychydig o wynt yn ei hwyliau.

Croesodd y Mayflower gefnfor yr Iwerydd yn 1620 i ddianc rhag erledigaeth crefyddol yn Lloegr. 'Roedd 102 o bobl ar fwrdd y llong. Yn anffodus roedd amodau yn hynod o galed yn ystod y gaeaf cyntaf, a bu farw 46 o'r 102. Oni bai am gymorth Indiaid Cochion lleol mae'n debyg y byddai'r cwbl wedi marw.

'Roedd 1621 yn flwyddyn well o lawer a chafwyd cynhaeaf da. I ddathlu'r gwelliant hwn yn eu lwc gorchmynodd William Brewster, arweinydd y trefedigaethwyr i rai o'r dynion fynd i hela gwyddau a chwiaid er mwyn cael parti. Cafwyd gwledd anferth gyda pob math o fwyd - bwyd mor, ffrwythau wedi sychu, bara wedi ei ffrio mewn menyn, cig eidion, cig carw, llysiau (ond ddim tatws - roedd pobl yn meddwl eu bod yn wenwyn pur pryd hynny!), a llawer o bethau eraill. Fel arwydd o ddiolch i'r Indiaid oedd wedi eu helpu tros y gaeaf caled, cafodd 91 ohonynt wahoddiad i'r wledd.

Nid oes cofnod o wledd ym 1622, ond cafwyd un arall tebyg ym 1623. Y rheswm y tro hwn oedd bod sychter hir yn bygwth y cynhaeaf a bod y gymuned gyfan wedi ymgasglu i weddio i Dduw am law. Cafwyd glaw y diwrnod wedyn. Eto cafodd yr Indiaid wahoddiad.

Nid oes cofnod o wledd arall hyd 1676. Nid oedd yr Indiaid yno y tro hwn. 'Roedd y wledd yn rhannol yn dathlu gorchfygu'r Indiaid yn filwrol - neu i'w roi mewn ffordd arall, eu lladd.

Friday, October 15, 2004

I'm off to Dublin in the green, in the green

Mae Gwion yn cwffio yn Nulyn tros y penwythnos (cystadleuaeth judo, nid esiampl o idiotiaith yr ifanc). Mae hyn yn esgys penigamp i minnau gael mynd hefyd. Felly dyma'r neges olaf am ychydig ddyddiau. Yn anffodus dyma'r neges olaf yn fy blog arall (mwy defnyddiol o lawer) hefyd am sbel bach.

'Dwi wedi colli eto fyth

'Dwi wedi colli, ac rydym ni wedi colli (3-2 yn y ddau achos)i Holyheadars. Tristach yw Cymru trosti, tre a gwlad _ _ _.

Wednesday, October 13, 2004

Ac roedd gwell i ddod

A doedd GDP y rhyfel yn ddim wrth ymyl yr hyn oedd i ddod pan ddaeth heddwch. Neu, o edrych ar bethau mewn ffordd arall, pan ddaeth rhyfel Korea, rhyfel Vietnam, argyfwng Ciwba a'r rhyfel oer.

Tuesday, October 12, 2004

Cost economaidd rhyfel

Ag ystyried mor ddrud ydi rhyfeloedd efallai y byddai'n syniad i'r UDA a Phrydain geisio eu hosgoi. Ar y llaw arall efallai ddim.

Sut i gael cymaint o lwyddiant a'r Gwyddelod mewn chwaraeon

Fel hyn a fel hyn

Sunday, October 10, 2004

Twyllo yn derbyn sel brenhinol?

Mae pawb sy'n ymwneud a'r byd addysg yn gwybod bod yna rhywfaint o dwyll wedi ei adeiladu i mewn i'r system - ond yn Eton? efo mab Carlo? Dduw mawr.

O Diar

Shit, Cymru'n colli efo peldroed a'r Sgarlets yn colli efo rygbi. Mae'r ail o'r trychinebau hyn wedi colli ymhell tros £100 i mi ar spread bet. Dyna bres poced Gwion wedi mynd am rai misoedd

Diddorol gweld bod BBC Cymru yn gweld pethau o safbwynt Cymreig.

Friday, October 08, 2004

Pwy sydd am ennill?

Na, nid y gem bel droed fory , ond y rygbi eleni. Wedi gweld Dreigiaid Gwent ar y teledu yn chwarae wythnos diwethaf, a'r wythnos yma - ac wedi chwarae tri hanner gwych. Mae'r Gweilch wedi chwarae dwy gem wych hefyd. Mae hyn yn awgrymu efallai, o'r diwedd, bod y rhod ar droi. Hwyrach bod dyddiau gwell i ddod i Gymru.

O ia, a gobeithio y bydd y tim pel droed yn cael canlyniad fory hefyd.

'Dwi wedi ennill

'Dwi wedi ennill - a rydan ni wedi ennill hefyd - 5-0. Cofis yn ennill a Howgets yn colli. Dim cystal a churo Holyheadars wrth gwrs - mae hyn i ddod wythnos nesaf - gobeithio.

Wednesday, October 06, 2004

Capel Cymraeg yn Nulyn

Ymysg papurau Cyfarfod Misol Henaduriaeth Mon mae yna nifer o bapurau ynglyn a chapel nad oedd ar yr ynys o gwbl - Capel Cymraeg Talbot Street yn Nulyn yng nghanol y ddinas. Cynhelid y gwasanaethau oll trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma'r unig gapel i'r Methodistiaid Calfinaidd ei gael yn Iwerddon erioed yn ol pob son.

Agorwyd y capel yn 1838, mae'n debyg i ymateb i ofynion llongwyr. Cyn hynny arferid cynnal gwasanaethau ar fwrdd llongau. 'Roedd digon o gymuned Gymraeg ei hiaith yn Nulyn i gynnal y capel hyd Rhagfyr 1939 - 'doedd hi ddim yn saff gyrru gweinidogion tros y dwr yn ystod y rhyfel. Ni ail agorwyd y lle ac fe'i gwerthwyd ym 1944. Ers hynny mae wedi bod yn siop esgidiau ac yn neuadd snwcer.

Mae'n rhyfedd fel mae darnau bach o'r Gymru Gymraeg yn ymddangos mewn lleoedd mwyaf anisgwyl.

Tuesday, October 05, 2004

Mae Michael Howard yn codi pwys arnaf

Newydd weld rhannau o araith wirioneddol sinicaidd, sentimental a chwydlyd Michael Howard ar Newsnight.

Ymddengys ei fod eisiau diolch i Brydain a'r diweddar Winston Churchill am 'ennill' yr Ail Ryfel Byd' trwy fod yn Brif Weinidog.

Beth am edrych ar un neu ddau o ffeithiau am y rhyfel hwnnw?

'Doedd yna erioed llai na 75% o fyddin yr Almaen ar y ffrynt ddwyreiniol. Am wythnos neu ddwy yn unig yn dilyn D Day cyrhaeddwyd 25% yn y gorllewin. Syrthiodd yn barhaus wedyn. O gymharu a gelynion eraill yr Almaen, ychydig iawn a ddioddefodd Prydain, ac ychydig iawn o'r baich a ysgwyddwyd ganddi. Mae'r wefan yma'n manylu ar y colledion:

http://www.valourandhorror.com/DB/BACK/Casualties.htm

Pe bai Howard yn onest byddai'n diolch i Stalin a'r Fyddin Goch neu Tito a'r Partisans Serbaidd neu arwyr pathetig Geto Warsaw.

Maes-e yn ei ol

Wel, wel, mae'r maes yn ei ol.

Roeddwn i'n 100% siwr fy mod yn gwybod beth oedd wedi digwydd, ond mae'r sylwadau yr oeddwn yn meddwl oedd wedi troi'r drol yna o hyd. Rhyfedd o fyd.

Sunday, October 03, 2004

Mwy o newyddion drwg i Bush

'Dwi ddim yn meddwl bod yr hen foi yn darllen y New York Times rhywsut, ond petai wedi trafferthu dyma fyddai wedi ei aros . Digon i wneud i ddyn dagu ar ei Pretzel.

Kerry ar y blaen

Oes yna unrhyw beth mor wirion a rhywun yn gweld canfyddiadau un pol maent yn ei hoffi ac yn ei wneud yn destun blog?

Go brin - ond gan nad ydi'r cyfle wedi codi ers wythnosau waeth i mi wneud y mwyaf ohono:

Newyddion da o lawenydd mawr

Saturday, October 02, 2004

'Dwi'n edmygu'r Ceidwadwyr

Mae'r teitl braidd yn gamarweiniol a dweud y gwir. Cangen y blaid yng Ngogledd Iwerddon 'dwi'n ei edmygu, nid y blaid yng ngweddill y DU. Gweler eu gwefan isod:

http://www.conservativesni.com/

Fel y gwelwch mae'r wefan 'i lawr'. Efallai nad oedd ganddynt neb i'w chynnal, neu efallai nad ydynt yn gallu fforddio i'w hadnewyddu. Byddant yn sefyll mewn etholiadau ac yn cael rhwng 0.2% ac 1% o'r bleidlais. Maent yn nes at y 0.2% ar hyn o bryd - roedd eu 'hoes aur' 10 neu 15 mlynedd yn ol. A bod yn deg wrthynt mae dyfynnu ffigyrau tros y dalaith i gyd braidd yn gamarweiniol gan nad ydynt yn sefyll ym mhob man - dim ond mewn ardaloedd cyfoethog, Protestanaidd sy'n debygol o gynhyrchu rhai pobl sydd a chydymdeimlad a'u syniadau. Llefydd fel Lagan Valley:

Etholiadau Cynulliad 2003 (Tachwedd 26: 6 sedd)
Jeffrey Donaldson (UUP) 14104 (34.2%)
*Edwin Poots (DUP) 5175 (12.5%)
*Seamus Close (Alliance) 4408 (10.7%)
Andrew Hunter (DUP) 3300 (8.0%)
Paul Butler (SF) 3242 (7.9%)
*Patricia Lewsley (SDLP) 3133 (7.6%)
*Billy Bell (UUP) 2782 (6.7%)
*Ivan Davis (Ind) 2223 (5.4%)
Norah Beare (UUP) 1508 (3.7%)
Jim Kirkpatrick (UUP) 675 (1.6%)
Joanne Johnston (Cons) 395 (1.0%)
Frances McCarthy (WP) 97 (0.2%)
Andrew Park (PUP) 212 (0.5%)

Mae hyd yn oed hyn yn llwyddiant ysgubol o'i gymharu a beth fydd yn digwydd pan maent ar ambell achlysur prin yn mentro i diroedd llai cyfeillgar - Gorllewin Belfast yn etholiadau Fforwm 1996 er enghraifft:

Etholiadau Fforwm (1996 - 5 sedd)
Sinn Féin (SF) 22,355 (53%); 4 sedd (Gerry Adams, Dodie McGuinness, Alex Maskey, Annie Armstrong)
Social Democratic and Labour Party (SDLP) 11,087 (26%); 1 sedd (Joe Hendron)
Progressive Unionist Party 1,982 (5%)
Democratic Unionist Party (DUP) 1,769 (4%)
Ulster Unionist Party (UUP) 1,489 (4%)
Workers Party (WP) 984 (2%)
Ulster Democratic Party (UDP) 848 (2%)
Alliance Party of Northern Ireland (APNI) 340 (1%)
Labour (Lab) 319 (1%)
Northern Ireland Women's Coalition (NIWC) 252 (1%)
Green Party 156 (0.37%)
Conservative Party (Con) 60 (0.14%)
Ulster Independence Movement (UIM) 43 (0.10%)
Democratic Left (DL) 37 (0.09%)
Independent Democratic Unionist Party 36 (0.09%)
Natural Law Party (NLP) 30 (0.07%) Communist Party of Ireland (CP) 28 (0.07%) Ulster's Independent Voice (UIV)
26 (0.06%) Independent Chambers 12 (0.03%)

Anodd peidio edmygu'r ymroddiad sy'n cadw plaid mor rhyfeddol o amhoblogaidd yn mynd.

Friday, October 01, 2004

Mae'r Toris yn drist a'r Bib yn ddwl

Y Toris wedi dod yn bedwerydd ar ol UKIP yn is etholiad Hartlepool. Trist iawn, very sad.

http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk_politics/3706100.stm

Beth sydd yn fy rhyfeddu fi fwy na pherfformiad treuenus y Toris ydi typdra'r BBC.

Y bore ma roedd eu gwefan yn honni mai dyma'r tro cyntaf i'r Toriaid syrthio o ail safle i'r pedwerydd. Digwyddodd hyn yn is etholiad Islwyn yn 95.

Erbyn y prynhawn yma roedd y stori wedi newid - dyma'r tro cyntaf, ymddengys, i'r brif wrthblaid ddod yn bedwerydd ers 1974. Digwyddodd hyn (eto i'r Toriaid - tu ol i Lafur, SNP a SSP) yn Hamilton South yn 99. Ydi hi'n bosibl nad ydi'r Bib mewn sefyllfa i gyflogi ymchwilwyr gwleidyddol? Neu efallai mai'r broblem ydi nad yw'r Bib yn ganolog yn gwybod dim am wleidyddiaeth Cymru na'r Alban.

Hunan dosturi

Gall, fe all fod cyn waethed, neu'n waeth. Collais 3-2 a chollodd y tim 4-1 i Langefni (ych a fi!).

O ran tegwch a'r ychydig bobl sy'n ymweld a'r blog hwn, dyliwn eich cynghori i gadw'n glir o blogs nos Iau a bore Gwener rhag cael eich boddi mewn mor o ddagrau hunan dosturiol.

Thursday, September 30, 2004

Mwy o lwyddiant eleni, gobeithio.

'Dwi ar fin mynd allan i chwarae sboncen.

Dwi wedi chwarae i dim Caernarfon ers ugain mlynedd bellach, a'r llynedd oedd fy mlwyddyn lleiaf llwyddiannus o ddigon. Fedar eleni ddim bod fawr gwaeth siawns?

Wednesday, September 29, 2004

Cafodd Fflorida rybudd têg

etholiad 2000
manylion llawn


Mae hi'n glawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn yn ol y Beibl, ond ymddengys mai ond ar yr anghyfiawn y bydd hi'n chwythu.

Fel mae'r map yn dangos o ddiwedd taith corwyntoedd diweddar yn Fflorida - siroedd a bleidleisiodd i Bush yn unig a effeithwyd. Yn wir aeth Charlie ymlaen i Georgia(Bush), ac aeth Frances i Georgia a South Carolina (Bush a Bush).

Duw a wyr beth ddigwydd os byddant yn ddigon ffol i bleidleisio tros Bush y tro hwn. Cawsant eu rhybuddio!

Tuesday, September 28, 2004

Nhw a ni - pam y gwahaniaeth?

Hanes y marina yn gwneud i mi feddwl am ddigwyddiad pan aeth y Mrs a'i modryb am wyliau i Ddulyn yn gynharach eleni (mae'r ddwy o dras Gwyddelig). Tra'n cael eu tywys o gwmpas Carchar Kilmanham dechreuodd y grwp edrych ar rhywbeth wedi ei ysgrifennu mewn Gwyddelig. Gofynodd y fodryb i Lynne os oedd o'n debyg i'r Gymraeg. 'Anhebyg iawn' meddai Nacw.

'I disagree' meddai Sais oedd yn yr un grwp, 'They're very similar'
'So you speak Welsh' meddai Lynne, wedi synnu braidd.
'No' meddai'r Sais.
'Irish then?'
'No', meddai yntau, 'But I'd be fine given six months'.

Hyd yn oed wedi'r cyfaddefiad bach yma (ei fod yn cymharu dwy iaith nad oedd yn gallu eu siarad, efo'i gilydd) roedd yn dal yn benderfynol o ennill y ddadl.

'If you look carefully enough, you'll find that they're much the same' meddai'r awdurdod ieithyddol.

Byddem yn mynd ymhell iawn gydag un degfed o bowldrwydd y rhain.

Marina Pwllheli

Cyngor Gwynedd wedi penderfynu gohirio'r penderfyniad hwn.

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3690000/newsid_3697600/3697680.stm

'Dydi'r syniad o gael 300 cwch yn ychwanegol ym Marina Pwllheli ddim am apelio fawr at rhywun sy'n byw ar Ffordd y Gogledd, Caernarfon. Eisoes mae afon ddi ddiwedd o geir yn llifo (bympar wrth fympar) tua'r gorllewin pob nos Wener yn yr haf, ac yna'n dychwelyd tua'r dwyrain.

Gallai pethau fod yn waeth am wn i. Gallwn fod yn byw ochrau Pwllheli. Mae'n amhosibl parcio yno dros yr haf y dyddiau hyn.

Monday, September 27, 2004

Problemau alcohol ymhlith yr ifanc

Mae'n ymddangos bod y llywodraeth yn poeni yn ofnadwy am or- yfed ymhlith yr ifanc. Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn meddwl eu bod yn gwneud mor a mynydd o bethau nes i mi ddod ar draws y llun trist hwn yng ngwefan Cymdeithas yr Iaith. Mae'r hen fyd 'ma'n gyflym fynd a'i ben iddo. Daeth yr amser am ddeffroad crefyddol arall!


Meddwyn


Dadl olaf maes-e?

O diar, dim i'w wneud heno wedi diflaniad di symwth maes-e. Felly waeth i mi siarad yma efo fi fy hun ddim.

Dadl olaf y maes (efallai) oedd un am ddilysrwydd polau piniwn yn yr UDA. Pe bai'r maes ar ei thraed o hyd byddwn wedi gosod y wefan yma:

http://polipundit.com/index.php?p=4176

Mae canoedd o bolau wedi eu cymryd tros yr ymgyrch, ond ymddengys bod methodoleg rhai ohonynt yn wan, tra bo eraill yn anobeithiol. Maent oll yn gwneud pres i'r sawl sy'n eu cynnal.