Friday, April 03, 2015

Ynglyn a'r ddadl deledu

Reit waeth i ni son am hon cyn bod pawb arall yn gwneud hynny.  Yn naturiol mi fyddwn ni'n edrych ar y mater trwy brism Cymreig.

I ddechrau dwi'n meddwl bod perfformiad Leanne yn un da - dywedwyd yr hyn oedd angen ei ddweud i sefydlu lleoliad gwleidyddol perthnasol i'r Blaid ar gyfer etholiad fis nesaf.  Mae rhai wedi gwneud mor a mynydd o'r ffaith nad oedd Leanne ar ben y polau man a'r lle , ond fyddwn i ddim yn poeni am hynny. Roedd Leanne yn cyfeirio yn benodol at Gymru a materion Cymreig - dyna oedd y peth cywir i'w wneud o'i safbwynt hi, ond doedd gwneud hynny ddim am apelio at gynulleidfa Seisnig yn bennaf.  Roedd rhaid i Nicola Sturgeon apelio at gynulleidfa ehangach am resymau strategol - rhesymau sy'n ymwneud yn llwyr a gwleidyddiaeth mewnol yr Alban gyda llaw.   Roedd Leanne hefyd yn rhannu llawer o'i safbwyntiau efo Nicola Sturgeon, ac mae hithau'n fwy adnabyddus - felly mae pleidlais tros y safbwynt yn tueddu i fynd i'r person mwyaf adnabyddus sy'n arddel y safbwynt.  Mae'r un peth yn wir am Natalie Bennet gyda llaw - byddai ei ffigyrau polio hithau wedi bod yn uwch yn absenoldeb Nicola Sturgeon.



Beth bynnag mae yna nifer o resymau pam bod y perfformiad yn hynod gadarnhaol o safbwynt y Blaid.

1).  Roedd Cymru ar y map 'cenedlaethol' am y tro cyntaf.  Go brin bod y gair 'Wales' wedi cael ei ddefnyddio ar ddadl o'r math yma o'r blaen.  Cafodd y gair ei ddefnyddio dro ar ol tro ar ol tro neithiwr. Am unwaith roedd Cymru yn berthnasol i'r ddisgwrs Brydeinig.

2). Roedd y safbwyntiau a fynegwyd gan Leanne yn gosod bwlch amlwg rhwng y Blaid a Llafur - ac roedd y rhan fwyaf o'r safbwyntiau hynny yn nes at galon y farn gyhoeddus yng Nghymru na'r hyn roedd Ed Miliband yn ei ddweud.  Roedd agosatrwydd y dair prif blaid yn cael ei amlygu.

3).  Roedd hi hefyd yn fwy parod na Ed Miliband i feirniadu safbwyntiau Nigel Farage.  Mae Ed Miliband mewn lle anodd yn yr ystyr yna - mae yna gydadranau o'i gefnogaeth sy'n cytuno efo llawer o'r hyn mae Farage yn ei ddweud - ond mae yna rai eraill sy 'n casau neges UKIP.  Mi fydd safiad Leanne yn apelio at y bobl hynny.

4). Mi fydd adnabyddiaeth pobl Cymru o Leanne wedi ei gynyddu'n sylweddol.  Un o brif broblemau Plaid Cymru ydi bod y rhan fwyaf o'r newyddion maent yn ei dderbyn yn dod o Loegr - a chafwyd llais Cymreig iawn yn dod o Loegr neithiwr.  Mae'n debygol bod lefel adnabyddiaeth Leanne yn uwch nag un Carwyn Jones erbyn hyn.  Yn sicr mae ganddi fwy o ddilynwyr trydar na Carwyn Jones yn dilyn y ddadl.  Ofni hyn oedd y rheswm pam bod Leighton Andrews mor flin ar trydar yn yr oriau cyn y ddadl ddoe.  Bydd yn cystadlu yn erbyn rhywun llawer iawn mwy adnabyddus na fo ei hun yn y Rhondda y flwyddyn nesaf.

5). Mi gafodd y wleidyddiaeth Gymreig, ryddfrydig, eangfrydig, ddyngarol sy'n rhoi anghenion pobl wrth ei chalon sy'n nodweddu yr hyn ydi'r Blaid ei mynegi, ei mynegi'n effeithiol a'i mynegi i gynulleidfa eang.  Ni all hynny ond gwneud lles i achos y Blaid.  

1 comment:

Cymro said...

Mae'n arbennig o ddiystyr i ddweud bod Nicola Sturgeon wedi ennill yn erbyn Leanne Wood - does dim un pleidleisiwr sy'n cael dewis rhwng y ddau, felly maen nhw'n anelu at gynulleidfaodd hollol wahanol.