Saturday, April 18, 2015

Mr Parker, Mr Thomas a Ms Hopkins

Dwi ddim yn un am gyfyngu ar ryddid pobl i ddweud yr hyn maent eisiau ei ddweud, ond mae hyn yn mynd braidd yn bell, ac mae'n cael ei gyhoeddi mewn papur dyddiol sydd a chylchrediad ymysg yr uchaf ym Mhrydain.


Ymysg myfyrdodau ymfflamychol dwys Ms Hopkins ceir y frawddeg yma.

Make no mistake, these migrants are like cockroaches. They might look a bit “Bob Geldof’s Ethiopia circa 1984”, but they are built to survive a nuclear bomb. They are survivors.  

Cymharwch hyn a'r sylwadau ynglyn a barn wleidyddol lleiafrif o fewnfudwyr o Loegr i Gymru a wnaeth gan Mike Parker amser maith yn ol, a sylwadau Huw Thomas ynglyn a baneri Lloegr ar geir ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach.  Achosodd y ddwy hen stori yma storm gyfryngol.  Ond mae amrywiaethau ar y naratif uchod yn ymddangos yn rheolaidd yn y cyfryngau - fel arfer heb unrhyw sylw cyfryngol o gwbl.

Dwi'n meddwl bod yr hyn sydd y tu ol i'r safonau deublyg yma yn eithaf hawdd i'w arenwi - yn y Brydain gyfoes mi gewch chi gyhoeddi'r hyn rydych eisiau ei gyhoeddi am rhai grwpiau torfol o bobl, ond mae'r awgrym lleiaf o feirniadaeth o grwpiau eraill yn esgor ar hysteria cyfryngol.  

Dydi hyn ddim yn sefyllfa iach.



1 comment:

Anonymous said...

Nid sylwadau Mr Thomas sydd wedi rhyfeddu pobol Ceredigion ond ei gondemniad o Mike Parker! Byddai gwerth iddo ddarllen y blog ad ystyried a magu'r egwyddor o 'na fernwch fel na'ch barner' ...