Tuesday, June 30, 2009

Polisi derbyn sylwadau

Efallai bod angen i mi ddweud gair neu ddau ynglyn a chyhoeddi sylwadau darllenwyr.

Hyd yn ddiweddar roeddwn yn hapus i gyhoeddi sylwadau heb eu gwirio er mwyn hyrwyddo trafodaeth wleidyddol.

Nid wyf mewn sefyllfa i wneud hynny ar hyn o bryd oherwydd bod cymaint o sylwadau personol ac enllibus yn cael eu gadael yn y dudalen sylwadau. Mi fyddai'n braf weithiau bod yn Hen Rech Flin.

Mae rhai o'r rhain yn sylwadau enllibus am bobl dwi'n eu hadnabod ac aelodau o fy nheulu gan wrthwynebwyr gwleidyddol.

Mi fyddaf hefyd yn derbyn gwahanol honiadau am fywydau personol gwrthwynebwyr gwleidyddol.

I fod yn gwbl eglur - blog gwleidyddol ydi hwn. Does ganddo ddim gronyn o ddiddordeb ym mywyd personol neb - gwrthwynebydd gwleidyddol na chyfaill gwleidyddol. Os oes gennych storiau am fywydau personol pobl, peidiwch a'u hanfon ataf i - does gen i ddim diddordeb, ac ni fyddaf yn cyhoeddi - dim ots beth ydi'r stori, a dim ots pwy yw gwrthrych y stori honno.

'Dwi'n gwbl barod i ymosod ar ymddygiad a barn gwleidyddol pobl - ond 'dwi ddim yn bwriadu mynd ar gyfyl bywydau personol neb.

'Dwi'n fodlon cyhoeddi pob cyfraniad gwleidyddol - pa mor bynnag feirniadol o fy safbwyntiau i - ond 'dwi ddim yn bwriadu cyhoeddi dim nad yw'n ymwneud a gwleidyddiaeth.

Diolch o flaen llaw am eich cydweithrediad gyfeillion.

Beth ddaw o bleidleisiau UKIP a'r pleidiau 'llai' eraill?

Sefydlwyd patrwm mewn etholiadau Ewrop diweddar bod pleidiau megis UKIP neu'r Gwyrddion yn perfformio'n gryf, ond bod eu pleidlais yn dychwelyd at y prif bleidiau erbyn yr etholiad cyffredinol canlynol.

'Dydi'r ffaith i batrwm ymsefydlu ddim yn golygu ei fod yn barhaol wrth gwrs - ac mae lle i gredu y bydd pethau ychydig yn gwahanol y tro hwn - mae canrannau'r pleidiau 'bychain' yn dal yn rhyfeddol o uchel yn y polau, er i gryn fis fynd heibio ers etholiadau Ewrop. Bydd y canrannau'n cwympo ynghynt o lawer fel arfer. Helynt y treuliau sy'n gyfrifol am hyn yn ol pob tebyg. Serch hynny mae'n rhesymol i ddisgwyl i gyfran go helaeth o'r bleidlais ddychwelyd 'adref'. Pa effaith gaiff hyn ar Gymru yn Etholiad Cyffredinol 2010?

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi nad oes yr un o'r pleidiau bach am ennill sedd yng Nghymru. Yn wir go brin y bydd UKIP yn ennill sedd yn unrhyw le yng ngweddill y DU chwaith. Yn eironig mae gan y Gwyrddion a'r BNP well cyfle na nhw, er i UKIP wneud yn well na nhw o lawer yn etholiadau Ewrop. Y rheswm am hyn ydi bod cefnogaeth UKIP wedi ei ddosbarthu'n weddol gyfartal tra bod cefnogaeth y ddwy blaid arall wedi ei ganoli ar ardaloedd penodol. 'Dydi o ddim yn debygol y byddant yn ennill sedd - ond mae'n bosibl - yn Lloegr. 'Does yna ddim ardaloedd o ddwysedd cefnogaeth i'r BNP na'r Gwyrddion yng Nghymru.

Yr ail bwynt i'w wneud ydi bod pobl yn tueddu i gymryd mai'r Toriaid fydd yn elwa o ostyngiad yng nghefnogaeth UKIP - wedi'r cwbl, nid yw'r ddwy blaid yn anhebyg o ran eu gwleidyddiaeth. Oherwydd hyn mae tueddiad i gymryd bod y Toriaid mewn sefyllfa i guro Llafur yn yr Etholiad Cyffredinol mewn lleoedd lle'r oedd y bleidlais Geidwadol a'r un UKIP yn llawer uwch na'r un Llafur yn yr etholiadau Ewrop. Seddi ydi'r rhain megis De a Gorllewin Caerdydd, Alun a Glannau Dyfrdwy a dwy etholaeth Casnewydd. Mae ychwanegu pleidlais y Toriaid ac UKIP yn gwneud i'r Ceidwadwyr ymddangos yn eithaf bygythiol.

Fodd bynnag, mae'n ymddangos nad yw'n ddiogel i gymryd y bydd y bleidlais UKIP yn mynd i'r Ceidwadwyr mewn etholiad cyffredinol. Yn ol ymchwil diweddar gan ComRes pan ofynwyd i bleidleiswr UKIP i bwy oeddynt wedi pleidleisio yn 2005, roedd yr hollt fel a ganlyn:

Ceidwadwyr 15%: Llafur 16%: Lib Dems 16%: Eraill 12%.

Hynny yw roedd mymryn mwy yn pleidleisio i Lafur a'r Lib Dems nag i'r Ceidwadwyr.

'Dydi'r bleidlais Werdd ddim mor bwysig yng Nghymru, ond pan ofynwyd yr un cwestiwn iddyn nhw roedd yr hollt y tro hwn yn:

Toriaid 7%: Llaf 14%: Lib dems 20%: Eraill 15%.

Does yna ddim gwybodaeth am y BNP - ond mi fyddwn yn eithaf sicr bod mwy o'r bleidlais honno'n tueddu at Lafur nag at y Toriaid.

Felly yn fy marn bach i gellir dysgu dau beth o hyn oll:

(1) Nid ydi hi mor debygol a mae llawer yn meddwl bod nifer o seddi, megis y rhai rwyf wedi eu trafod, yn syrthio i'r Toriaid.

(2) Bod pleidlais pleidiau fel UKIP ar yr un pryd yn symlach ac yn fwy cymhleth na'r disgwyl. Maent yn dennu pleidleisiau o pob rhan o gymdeithas, ond maent dennu'r pleidleisiau hynny am resymau cyfyng a simplistaidd - drwg dybiaeth o Ewrop yn achos UKIP, a drwg dybiaeth o fewnfudwyr yn achos y BNP.

Sunday, June 28, 2009

Mae cerdded yn dda i chi

Mae blogmenai yn ceisio rhoi rhyw gymaint o sylw i wleidydiaeth y gwledydd Celtaidd eraill tra'n peidio a dangos ochr yn rhy amlwg - wedi'r cwbl mater i'r gwledydd hynny ac nid i fi ydi eu cyfeiriad gwleidyddol nhw eu hunain.

Ond ambell waith mae rhywbeth yn mynd a gwynt rhywun, ac mae'n anodd peidio a son amdano. Y stori yma yn fersiwn Iwerddon o'r Sunday Times aeth a fy sylw y tro hwn.

Ymddengys bod aelodaeth yr Urdd Oren wedi cwympo o 93,447 yn 1968 i 35,758 yn 2006 (y flwyddyn olaf i ffigyrau gael eu cyhoeddi). 'Rwan mae'r Urdd yn trefnu tros i 3,000 o orymdeithiau yn ystod y tymor gorymdeithio - un gorymdaith am pob deg aelod - bron i ddeg gorymdaith y dydd tros flwyddyn - ac mae'r gorymdeithio i gyd bron yn mynd rhagddo tros yr haf! Mae'n rhaid bod llawer o'r aelodau yn treulio'r rhan fwyaf o'r haf yn mynd o un orymdaith i'r llall yn ddi baid. Mae'n anodd peidio edmygu'r ynni!

Does yna ddim rhyfedd bod cymaint o'r gorymdeithwyr yn edrych mor hen - mae'r holl ymarfer tros yr haf yn rhoi hir oes i'r hen gojars.

Mi fyddwn innau hefyd wrth fy modd cael byw i fod yn hen gojar rhyw ddiwrnod. Mae'n rhaid i mi fynd i gerdded mwy.

Peter yn y papur eto fyth

Mae Peter yn y papur unwaith eto - y Sunday Times y tro hwn.



Nid dyma'r tro cyntaf wrth gwrs - roedd yna sgandal ychydig flynyddoedd yn ol yn ymwneud a methiant i ddatgan cyfraniadau a roddwyd iddo yn ei ymgyrch drychinebus i gael ei ethol yn is arweinydd y Blaid Lafur Brydeinig.

Mae'n debyg iddo 'anghofio' datgan iddo dderbyn gwerth £100,000 o gyfraniadau. Roedd yr arian wedi ei sianelu'n rhannol trwy sefydliad a ddisgrifid fel think tank (beth bynnag ydi hynny)o'r enw'r Progressive Policies Forum. Nid oes tystiolaeth i'r Fforwm wneud unrhyw beth ag eithrio dod o hyd i arian i ariannu ymgyrch Hain. Roedd dyn o'r enw Willie Nagal, gwerthwr diamwtiau o Dde Affrica wedi defnyddio'r dull yma o roi £5,000 i ymgyrch Hain ynghyd a benthyciad di log o £25,000. Wedyn roedd gwr busnes o Israel - Isaac Kaye wedi defnyddio'r fecanwaith i roi £15,000 a chafwyd £10,000 gan Mike Cuddy.

Mae derbyn arian heb ei ddatgan mewn sefyllfa fel hon yn groes i gyfraith etholiadol (ac mae'r sefyllfa yn waeth os ydi ffynhonell yr arian yn un tramor), a danfonwyd manylion yr achos i Wasanaeth Erlyn y Goron. Wedi edrych ar y mater daethant i'r casgliad nad oedd yn briodol i ddod ag achos yn erbyn Hain oherwydd eu bod yn barnu nad oedd yn rheoli Hain4Labour - y corff oedd yn gyfrifol hyrwyddo ei ymgyrch. Hynny yw roeddynt yn derbyn bod gweithred o dor cyfraith wedi digwydd, ond nid oeddynt yn credu y gellid sefydlu'n gyfreithiol pwy oedd yn gyfrifol am y weithred honno.

Bu'n rhaid i Hain ymddiswyddo o'r Cabinet tra roedd yr ymchwiliad yn mynd rhagddi, ac roedd rhaid iddo aros ar y meinciau cefn hyd yr ad drefnu diweddar yng nghabinet Brown. 'Dydi hi ond wedi bod ychydig wythnosau ers iddo ddychwlyd, ac mae'r stori newydd wedi ymddangos yn y Sunday Times.

Stori yn ymwneud a cham ddefnydd o gysylltiadau gwleidyddol ydi hon yn y bon. Roedd Hain wedi sefydlu cwmni _ _ ahem _ _ 'cyfathrebu' gwleidyddol gyda'i wraig - HaywoodHain. Roedd gwefan y cwmni (tan ddoe) yn brolio cysylltiadau gwleidyddol Hain. 'Rwan nid oes unrhyw beth anghyfreithlon am hyn - er ei bod yn bosibl dadlau bod ymddygiad o'r fath yn gwbl groes i god ymarfer gweinidogion y goron. Mae'n amlwg bod y cwestiwn o wrthdaro rhwng swydd Hain fel gweinidog a lles ei gwmni yn codi.

Hyd yn oed a gadael hynny i un ochr mae cwestiwn ehangach yn codi hefyd - pam y dylai rhywun sydd a digon o bres i dalu i HaywoodHain gael mynediad i gysylltiadau gwleidyddol Hain, pan nad yw'r rheiny ar gael i bawb arall?

Er nad oedd Hain yn un o 'ser' Cymreig y sgandal treuliau, mae yna agwedd anarferol iddynt hwythau. Yn 2004 gofynodd i'r swyddfa ffioedd os cai hawlio am forgais am dy oedd wedi ei brynu yn ei etholaethefo'i wraig newydd, Elizaberth Hayward am £400,000, yn ogystal a hawlio am forgais ar ei gyn gartref chwe milltir i ffwrdd. Ni chafodd geiniog am yr ail dy, gan i'r swyddfa ffioedd wrthod y cais.

Felly beth mae hyn oll yn ei ddweud am Ysgrifenydd Gwladol Cymru?

I fod yn garedig - yn ofnadwy o garedig efo Hain, nid yw'r sefyllfa yn llenwi dyn efo hyder yn ein Hysgrifenydd Gwladol. Mae'n ymddangos nad oes ganddo unrhyw allu o gwbl i roi sylw addas i fanylion - hyd yn oed manylion sy'n bwysig iawn i'w dynged ei hun. Nid oedd ganddo unrhyw reolaeth nag yn wir dealltwriaeth o'r ffordd yr oedd ei ymyrch am y dirprwy arweinyddiaeth yn cael ei hariannu.

Nid oedd ganddo chwaith fawr o ymdeimlad o ddiffyg priodoldeb i gyn weinidog hysbysebu ei gysylltiadau gwleidyddol ar y We, ac yn waeth nid oedd wedi croesi ei feddwl y dylai fod wedi ail edrych ar ei faterion busnes masnachol yng ngoleuni'r ffaith ei fod wedi ei ail godi'n weinidog.

Ac ar ben hyn oll, ymddengys nad oedd yn gweld problem ceisio hawlio traeliau ar ddau gartref chwe milltir oddi wrth ei gilydd ar yr un pryd, a gwneud hynny ar gorn y trethdalwr.

Gyda'r ewyllys gorau yn y Byd tuag at Hain, fedra i ddim dychmygu bod y dyn yma yn addas i fod yn ddeilydd un o brif swyddi gwleidyddol Cymru - a 'dwi ddim yn meddwl y byddai'n dal swydd felly oni bai bod Brown wedi ei orfodi gan amgylchiadau gwleidyddiaeth menol Llafur i glymu tynged rhai o gyn weinidogion Blair gyda'i dynged ei hun.

Friday, June 26, 2009

Yr Arwisgiad, G'narfon a Llais Gwynedd

Mae'n ddeugain mlynedd ers yr arwisgiad diwethaf, a bu dadlau yn y wasg, os nad yn unrhyw le arall, ynglyn a'r cwestiwn o gynnal un arall.

Mi wna i ddechrau trwy ddatgan yr hyn sy'n amlwg - 'dwi'n erbyn cynnal yr arwisgiad eto yng Nghaernarfon, Caerdydd nag mewn unrhyw ddinas, dref neu bentref arall yng Nghymru.

Mae dau reswm am hyn. Yn gyntaf, o lle 'dwi'n sefyll yn wleidyddol mae'n weithred gyfangwbl wyrdroedig i unrhyw genedl ddathlu rhywbeth a ddigwyddodd yn sgil difa ei strwythurau gwleidyddol cynhenid ac a arweiniodd at ei israddio i statws rhanbarthol am saith gan mlynedd.



Yn ail mae gen i gof plentyn o fyw mewn pentref ar gyrion Caernarfon yn 1969, ac roedd yn gyfnod cwbl anymunol a chynhenus, gyda theuluoedd, cyfeillion a chymdogaethau yn cael eu hollti. Fyddwn i ddim yn dymuno'r un peth ar unrhyw ardal yng Nghymru.

Os ydi'r teulu brenhinol eisiau cynnal rhyw seremoni neu'i gilydd yn eu gwlad eu hunain, yna mae hynny rhyngddo nhw a'u pethau.

Mae unig gynrychiolydd Llais Gwynedd ar Gyngor Tref Caernarfon yn anghytuno efo fi. Yn ol fy nghopi cyfredol o Golwg (nid y ffynhonell mwyaf dibenadwy mae'n rhaid cyfaddef) mae Anita Kirk yn dweud - Fy hun d'wi'n meddwl fysa fo'n beth da. Does yna ddim busnes yn y dre 'ma - fysa fo'n dod a lot o fusnes fewn i dre'. Mae'n amlwg ei bod yn poeni y gallai'r sbloets fawr fynd i'r De - Dydan ni ddim isho fo fynd i Gaerdydd - i ochrau yma ddyla fo ddod, i Gaernarfon. fodd bynnag 'dydi hi ddim yn colli'r cyfle i sgorio pwynt gwleidyddol - Fysa pobl Gaernarfon a'r stadau i gyd wrth eu bodd. Fysa Plaid ddim, ond fysa pobl Dre wrth eu boddau.

A waeth i ni fod yn blaen, mae'r sylw olaf yn eithaf dadlennol - mae yna elfennau o'r traddodiad Prydeinig lleol yn y gorffennol wedi gweld digwyddiadau fel hyn fel ffordd o rwbio trwynau'r sawl sy'n perthyn i'r traddodiad cenedlaetholgar yn y baw - troi North Road yn eu Garvaghy Road bach nhw eu hunain os y mynwch.

'Rwan nid bwriad y darn yma ydi ymosod ar Anita - mae ganddi hi cymaint o hawl i'w barn na sydd gen i. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o wledydd annibynnol nid oes gan Gymru naratif cytuniedig sy'n diffinio pwy a beth ydym ni. Mae gennym dair neu bedair naratif gwahanol sy'n cystadlu efo'i gilydd. Mae naratif Anita wedi ei seilio ar ganfyddiad cwbl wahanol o'r hyn ydyw Cymru i'r canfyddiad sydd gen i.

Gyda llaw 'dydi defnyddio termau fel 'brad', fel y gwnaethwyd mor aml yn ol yn 68 a 69 gan bobl o fy nhraddodiad i ddim yn briodol mewn sefyllfa fel hyn - pan rydym yn fradwyr cenedlaethol, rydym yn bradychu dehongliad cytunedig o genedligrwydd. Lle nad oes canfyddiad cytunedig, dydi'r term na'r cysyniad ddim yn rhai addas.

Bu Anita'n gyson ers degawdau ynglyn a'r math yma o beth - yn wir roedd yn dweud y drefn wrth glerc y Cyngor Tref ychydig wythnosau'n ol oherwydd nad oedd baner yr Undeb yn hongian uwch ben yr Institiwt ar benblwydd swyddogol y Frenhines. 'Dwi'n anghytuno efo, ac yn wir 'dwi'n casau'r fersiwn o Gymru mae hi'n ei harddel - ond fel y dywedais, mae ganddi hawl i goleddu'r fersiwn honno, ac nid yw bod yn driw iddi yn ei gwneud yn fymryn gwaeth person.

'Dydw i ddim* chwaith yn ceisio awgrymu am funud y bydd yna fflot yn llawn o gynghorwyr Llais Gwynedd yn crechwenu tra'n gwisgo'n debyg i selogion y Last Night at the Proms ac yn bloeddio God Save the Queen a Land of Hope & Glory tra'n chwifio fflagiau'r Undeb wrth ddilyn y Rolls Royces brenhinol ar eu taith araf i fyny Ffordd y Gogledd, tua'r gorllewin i gyfeiriad y dref gaerog a chanol G'narfon - ac yn wir tua chalon y genedl.

I'r gwrthwyneb, 'dwi'n gwybod bod un neu ddau ohonynt yn edrych ar y byd o'r un perspectif na fi. Y pwynt ydi bod ganddynt gynrychiolwyr etholedig fyddai'n ddigon bodlon sefyll ar y fflot. Oherwydd mai plaid wrth Plaid Cymru ydynt yn annad dim arall, gallant ddenu arch Brydeinwyr a chenedlaetholwyr Cymreig rhonc. Efallai na allant eu rhoi ar yr un fflot brenhinol, ond gallantyn hawdd eu cael i eistedd a phleidleisio efo'i gilydd mewn siambr cyngor.

Mae'r blog yma wedi dadlau ar sawl achlysur bod gwleidyddiaeth Cymru yn newid, ac y bydd yn esblygu i fod yn un sydd wedi ei nodweddu mwyfwy gan hollt rhwng gwleidyddiaeth cenedlaetholgar a gwleidyddiaeth gwrth genedlaetholgar (hy Prydeinig) yn y dyfodol. Bydd y wleidyddiaeth sydd wedi dominyddu Cymru am ganrif - yr un sydd wedi ei seilio ar ganfyddiad y De diwydiannol o'r hyn yw Cymru - yn llai pwysig nag y bu.

Efallai bod y canfyddiad hwnnw yn un cywir, ac efallai nad yw. Ond y naill ffordd neu'r llall mae'r hollt eisoes yn bodoli, ac mae wedi bodoli ar rhyw ffurf neu'i gilydd trwy'r canrifoedd. Mae hefyd yn bodoli yng Ngwynedd yn gliriach nag yn unrhyw ran arall o'r wlad. Ac eto - ac eto nid oes gan Lais Gwynedd unrhyw farn ar y mater. Mae o leiaf un o'u cynrychiolwyr etholedig yn dadlau'n gryf o blaid hawl y wladwriaeth Brydeinig i reoli Cymru ac i wthio eu symbolau a'u defodau arnom, tra bod eraill yn amlwg yn erbyn, ond yn fud.

Tybed pam bod cenedlaetholwyr Llais Gwynedd yn ymddangos yn fud ynglyn a'u cenedlaetholdeb nhw, tra bo'r gwrth genedlaetholwyr yn eu mysg mor barod i ddatgan eu Prydeindod?

* Mae'r darn yma wedi ei dduo er mwyn rhoi cymorth i ohebwyr Golwg.

Tuesday, June 23, 2009

Etholiadau Ewrop a San Steffan - effaith posibl pleidleiso tactegol

'Dwi'n gwybod fy mod wedi addo cau fy mhig am etholiadau Ewrop, ond fe anfonodd cyfall fap sy'n dangos beth ddigwyddodd yn etholiadau Ewrop i mi. Yn anffodus 'dwi methu gweld lliwiau'n dda iawn, felly dydi o ddim yn golygu llawer i mi. Serch hynny 'dwi'n ei atgynhyrchu yma gan obeithio ei fod o ddiddordeb i'r rhai yn eich mysg sy'n gweld lliw yn well na fi. Dwi'n deall mai Gwyrdd (Plaid Cymru), Coch (Llafur) a Glas (Toriaid). 'Dwi ddim yn hollol siwr ei fod yn hollol gywir - er enghraifft mae Nacw'n dweud wrthyf bod Conwy'n las - er bod y Blaid wedi dod mymryn o flaen y Toriaid yno.




Fi fyddai'r cyntaf i gydnabod nad yw'n ddoeth defnyddio ffigyrau etholiadau Ewrop i ddarogan canlyniadau San Steffan. 'Does ond rhaid i ni edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yng Ngheredigion yn 2004 i brofi hynny - daeth y Lib Dems yn bedwerydd yn etholiadau Ewrop yn 2004 ond yn gyntaf yn etholiadau San Steffan yn 2005.

Serch hynny, beth am gymryd un neu ddau o bethau yn ganiataol er mwyn dadl mwy na dim arall?

(1) Y bydd pleidlais Llafur hyd at 10% yn well yn etholiadau San Steffan nag oeddynt yn etholiadau Ewrop (er nad yw'r polau diweddaraf yn awgrymu hynny)

(2) Bod Llafur yn debygol iawn o golli'r seddi lle nad oeddynt wedi llwyddo i gyrraedd 20% yn etholiadau Ewrop - wnaiff 10% yn ychwnegol ddim eu helpu nhw. Awgryma hyn y byddant yn colli'r seddi canlynol maent yn eu dal ar hyn o bryd: Gogledd Caerdydd, Aberconwy, Dyffryn Clwyd, Bro Morgannwg, Gwyr, Delyn, Arfon (Llafur ydi deiliaid damcaniaethol y sedd newydd hon), Ynys Mon, Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro, Wrecsam a De Clwyd. Y Ceidwadwyr fyddai'n cipio Gogledd Caerdydd, Dyffryn Clwyd, Bro Morgannwg, Delyn, Wrecsam, Gwyr a De Clwyd. Plaid Cymru fyddai'n cipio Arfon. Plaid Cymru fyddai hefyd yn debygol o gipio Ynys Mon, er y byddai gobaith o rhyw fath gan y Toriaid yno. Y Toriaid fyddai'n debygol o gipio Aberconwy a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro, er y byddai gobaith gan Blaid Cymru yn y llefydd hyn.

(3) Bod y pleidiau sydd 20% o flaen eu gwrthwynebwyr agosaf yn weddol sicr o ennill / ddal y sedd honno. Byddai hyn yn golygu y byddai Plaid Cymru yn ennill Arfon ac yn cadw Meirion / Dwyfor a Dwyrain Caerfyddin / Dinefwr. Byddai'r Ceidwadwyr yn sicr o gadw Mynwy.

(4) Bod tebygrwydd y bydd pobl yn pleidleisio yn dactegol yn erbyn Llafur y tro hwn fel y gwnaethant yn erbyn y Toriaid yn 97 ('dydi pobl ddim yn pleidleisio'n dactegol yn etholiadau Ewrop oherwydd y drefn bleidleisio), a bod perygl arwyddocaol i unrhyw sedd lle cafodd Llafur lai na 25% yn yr etholiad Ewrop - hyd yn oed os mai nhw oedd ar ben y pol. Os ydi'r ddamcaniaeth yma'n gywir, byddai'r seddi canlynol mewn perygl - Caerffili, De Caerdydd, Gorllewin Caerdydd, Llanelli, Pen y Bont, Alyn a Glannau Dyfrdwy, Dwyrain Casnewydd, Gorllewin Casnewydd, Pontypridd, Gorllewin Abertawe, Torfaen.

Plaid Cymru fyddai'r perygl yng Nghaerffili, Llanelli a Phontypridd (er y byddai'r Toriaid yn berygl yma hefyd), y Toriaid fyddai'r perygl yn Ne Caerdydd, Pen y Bont, Alyn a Glannau Dyfrdwy, Gorllewin Casnewydd, Torfaen a Gorllewin Caerdydd - er bod Plaid Cymru'n cryfhau'n gyflym yn yr olaf. Ar un olwg byddai bygythiad y Toriaid a'r Lib Dems yn gyfartal yn Nwyrain Casnewydd a Gorllewin Abertawe, ond mae'r Lib Dems yn dda am gymryd mantais o hollt tair ffordd, a byddwn yn eu hystyried nhw'n fwy o fygythiad na'r Toriaid.

Felly - a chymryd na fydd Llafur yn llwyddo i gynyddu eu canran o'r bleidlais o fwy na 10%, a chymryd hefyd y bydd pleidleisio tactegol gwrth Lafur arwyddocaol, mae'n bosibl dychmygu yn realistig y bydd map gwleidyddol nesaf Cymru hyd yn oed yn fwy dramatig na'r un uchod - i'r rhai ohonoch sy'n medru ei weld wrth gwrs.

Petai yna storm berffaith yn erbyn Llafur, yr oll fyddai'n weddill ganddynt fyddai Dwyrain Abertawe, Rhondda, Cwm Cynon, Merthyr, Ogwr, Islwyn, Aberafan a Chastell Nedd (a gallai honno fod yn sigledig). Gallent hefyd ennill Blenau Gwent yn ol. Ychydig iawn o dir Cymru fyddai'n goch - dyna beth fyddai map etholiadol rhyfeddol - hyd yn oed i greadur sy'n ddall i liw.

Diweddariad 24/6/08

'Dwi'n symud y sylwadau hyn sydd wedi eu 'sgwennu ('dwi'n meddwl) gan Ioan Prys - y sawl sy'n gyfrifol am y map:

Mae'r lliwiau ar y map yn 'proportional' i'r bleidlais. Er engraifft:ConwyPlaid Pleidlais %mod lliwPlaid Cymru 4236 25.2% 44.8% 114 Ceidwadwyr 4228 25.1% 44.7% 114 Llafur 2453 14.6% 21.3% 54 Felly yn Conwy, Gwyrdd=114, Glas=114, Coch=54y mod ydi (%vote * 100 -5)/(50-5) (er mwyn cael lliwiau fwy llachar)Felly, mae Conwy yn edrych fel Gwyrdd-las reit fudur!! Arfon: gwyrdd llachar, Rhondda: Gwyrdd+ Coch = Oren/MelynMynwy: glas llacharGorllewin Casnewydd= Coch+Glas = Piwsetc

Ychwanega'n ddiweddarach:

Map tair plaid (Gwyrdd, Coch a Glas) ydi hwn, fellu dio'm yn gweithio gystal lle mae Lib dems yn gryf (h.y. Canol Caerdydd).

Saturday, June 20, 2009

Gwleidyddiaeth Newydd i Gymru?

Mae Hen Rech Flin wrthi'n codi cwestiwn pam bod y Blaid yn dychryn cenedlaetholwyr naturiol fel fo o'i rhengoedd.

Mae HRF a minnau wedi croesi clefyddau ynglyn a hyn o'r blaen - sawl gwaith. Byrdwn cwyn HRF (os nad ydwyf yn ei gamddaeall) ydi bod y Blaid yn rhy bell i'r Chwith, a bod hynny'n llesteirio ar ei chenedlaetholdeb. 'Dwi'n siwr na fydd HRF yn meindio os 'dwi'n nodi ei fod yn geidwadwr 'c fach'.

Fy ateb iddo yn nad yw'n bosibl ennill etholiadau heb bolisiau economaidd a chymdeithasol, a bod rhaid i'r rhain fod yn rhai sydd yn cyd redeg a dyhiadau pobl Cymru. Mae'r wlad oherwydd ei hanes a natur ei heconomi yn gogwyddo tua'r Chwith (pwnc da i flog erbyn meddwl), ac o ganlyniad mae'n rhaid i'r Blaid droedio'r tirwedd gwleidyddol yma. Byddai dilyn cyngor HRF yn arwain at dranc etholiadol.

Mae hefyd yn foesol gywir i ddilyn y trywydd yma yn fy marn i, ac ar ben hynny mae'r cysyniad i chware teg yn ganolog i hunaniaeth cenedlaethol llawer o Gymry. Ond yn anffodus mae dilyn y trywydd yma wedi arwain at golli cenedlaetholwyr da fel Alwyn, ac mae hynny'n fater o dristwch.

Serch hynny, efallai y bydd pethau'n newid yn y dyfodol agos. Mae'r blog diwethaf i mi ei gynhyrchu yn dadlau y gallai gwleidyddiaeth Cymru ail strwythuro mewn ffordd fydd yn ei normaleiddio - yn ei wneud yn wleidyddiaeth sydd a statws cyfansoddiadol Cymru yn fwy canolog iddo na gwleidyddiaeth dosbarth cymdeithasol. Ar rhyw ystyr bydd gwleidyddiaeth Cymru wedi gwneud tro llawn, a bydd yn fwy tebyg i wleidyddiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg nag i wleidyddiaeth y degawdau diwethaf. 'Dydi hynny ddim yn golygu na fydd materion economaidd / cymdeithasol yn bwysig - ond byddant yn llai pwysig nag ydynt ar hyn o bryd.

O dan amgylchiadau fel hyn - lle mae newid statws cyfansoddiadol Cymru yn fwy canolog i wleidyddiaeth Cymru - bydd yn haws i'r teulu cenedlaetholgar gyd fyw efo'i gilydd yn ddiddig - ac os gwireddir hynny, fydd yna neb yn hapusach na fi.

Friday, June 19, 2009

Etholiadau Ewrop - cipolwg olaf

Waeth i ni gnoi cil ar yr etholiad un waith eto cyn symud ymlaen i edrych mwy ar etholiad mwy diddorol - Etholiad Cyffredinol Gwanwyn 2010.

Yr agwedd ar yr etholiad aeth a sylw'r cyfryngau oedd y ffaith i'r Toriaid ddod yn gyntaf. Byddai'n grintachlyd braidd peidio a chydnabod pwysigrwydd hynny - mae'n garreg filltir arwyddocaol iddynt. Ond wedi cydnabod hynny, doedd y perfformiad ddim mor gryf a hynny iddynt mewn gwirionedd. Hyd at 1997 galla'r Toriaid ddisgwyl i gael rhwng chwarter a thraean o'r bleidlais mewn Etholiad Cyffredinol. 21% o'r bleidlais a gawsant y tro hwn. Roeddynt hefyd yn gwneud yn dda iawn mewn etholiadau Ewrop yn ol yn 80au'r ganrif ddiwethaf.



I mi mae'r etholiad hefyd yn cael ei nodweddu gan ddau batrwm arall - y gwymp syfrdanol ym mhleidlais Llafur, a'r ffaith bod pawb wedi elwa mymryn o'r gwymp yna. O safbwynt y Mudiad Cenedlaethol mae'r gwymp ym mhleidlais Llafur yn gam arwyddocaol ymlaen - mae'r ffaith i ni fethu ag elwa mwy na neb arall yn siom, ac yn fethiant etholiadol mewn gwirionedd. Serch hynny 'dwi'n meddwl bod y gwymp ym mhleidlais Llafur yn bwysicach o safbwynt hir dymor nag ydi'n methiant ni i gymryd llawn fantais o hynny. Mi geisiaf egluro pam.

Mae'n anodd gor bwysleisio'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru. Yn hanesyddol mae Cymru wedi bod yn wlad o hegemoniau gwleidyddol - hegemoni'r Rhyddfrydwyr hyd at ddegawau cyntaf y ganrif ddiwethaf, ac yna un Llafur ar ol hynny. 'Dwi'n siwr fy mod yn gywir i ddweud mai dyma'r unig etholiad ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf i Lafur fethu dod o flaen y pleidiau eraill yng Nghymru. Mae yna adegau wedi bod yn ystod y cyfnod hwnnw lle'r oedd yn edrych fel petai pethau'n newid - yn ol yn 1983 er enghraifft pan wnaeth y Toriaid yn dda, neu'n 1999 pan wnaeth y Blaid yn dda yn etholiadau cyntaf y Cynulliad a'r rhai Ewrop y flwyddyn ganlynol. Ond yn y ddau achos llwyddodd Llafur i ail afael yn y rhan fwyaf o'r tir a gollwyd mewn cyfnod cymharol fyr.

Y cwestiwn y dylid ei ofyn mae'n debyg yw os ydi'r hyn sydd wedi digwydd y tro hwn yn barhaol neu'n lled barhaol? Mae'n anodd dweud - ond mae rhai arwyddion sy'n awgrymu efallai bod rhywbeth sylfaenol yn digwydd.

Y peth cyntaf ydi ei bod yn ymddangos bod Llafur yn colli pleidleisiau ar sawl ffrynt ar yr un pryd - yn y dinasoedd, yn y Gymru Gymraeg, ar hyd y maes glo, yn y Gogledd Ddwyrain - ym mhob man.

Yn ail mae'n ymddangos bod Llafur yn perfformio'n waeth yng Nghymru na mae'n ei wneud yng ngwledydd eraill y DU - yn sicr roedd y gwymp yn fwy serth o lawer. Mae hyn yn newydd. Yn y gorffennol mae'r Blaid Lafur wedi dangos gallu i wrthsefyll llif cryf tuag at y Toriaid yng Ngweddill Prydain - ym mhumpdegau'r ganrif ddiwethaf er enghraifft.

Yn drydydd y ffigyrau eu hunain - mae'r bleidlais mae Llafur wedi ei dderbyn y tro hwn yn is o lawer nag yw wedi bod o'r blaen. Yn llawer, llawer is, ac fel y dywedwyd mae'r cwymp yn un sy'n gyffredinol tros y wlad i gyd.

Os oes newid sylfaenol yn digwydd - ac mae'n 'os' o hyd - yna beth ydi'r goblygiadau? Mae dau brif oblygiad 'dwi'n credu, ac mae'r ddau yn gysylltiedig.

Mae'r blog yma wedi dadlau yn y gorffennol y byddai cwymp arwyddocaol yn lefelau cefnogaeth Llafur o fwy o fantais i Blaid Cymru na neb arall - nid cymaint oherwydd y byddai rhan o'u cefnogaeth yn mynd i'r Blaid - ond yn hytrach oherwydd na fydd yn bosibl ffurfio clymblaid ym Mae Caerdydd nad yw'n cynnwys y Blaid os nad ydi ffigyrau Llafur a'r Lib Dems rhyngddynt yn gallu ffurfio mwyafrif.

Byddai clymblaid sy'n cynnwys Llafur a'r Toriaid yn ail strwythuro gwleidyddiaeth Cymru, a 'dydi'r naill blaid na'r llall am adael i hynny ddigwydd os oes yna unrhyw beth y gallant ei wneud am y peth. O dan yr amgylchiadau hyn y blaid sy'n gallu dewis ei phartner ydi'r blaid gryfaf - beth bynnag am y nifer o Aelodau Cynulliad. Dyma pam bod y PDs yn Iwerddon wedi llwyddo i wireddu eu holl agenda fwy neu lai trwy fynd i bartneriaith efo Fianna Fail - er ei bod yn blaid llawer, llawer llai na FF.

Mae'n bwysig bod y Blaid yn deall y rheol clymbleidio euraidd - mai'r blaid sydd yn sicr o fod mewn clymblaid efo rhywun neu'i gilydd sy'n llywio'r agenda - beth bynnag ei maint cymharol. O ddeall hyn, ac o gael yr arddeliad priodol, gall y Blaid sicrhau bod y blynyddoedd nesaf yn rhai lle bydd gwladwriaeth newydd yn cael ei hadeiladu bricsen wrth fricsen.

Yn ail gall arwain at normaleiddio gwleidyddiaeth Cymru. Tros y ganrif ddiwethaf mae gwleidyddiaeth Cymru wedi bod yn abnormal o safbwynt y sawl sy'n ystyried Cymru'n wlad yn ystyr llawn y gair hwnnw. Yn ystod y cyfnod hwnnw rydym wedi dilyn patrwm gwleidyddol De / Canol / Chwith gwledydd annibynnol Ewrop. Neu i'w roi mewn ffordd arall, mae ein gwleidyddiaeth wedi ei yrru gan ystyriaethau dosbarth cymdeithasol. Gan amlaf mewn sefyllfa lle nad yw gwlad yn annibynnol mae gwleidyddiaeth dosbarth cymdeithasol yn cael ei anghofio'n rhannol tros dro, ac mae gwleidyddiaeth gwrth drefiigaethol yn weithredol.

Gyda llywodraeth Doriaidd lled barhaol yn San Steffan - ac un a barnu o sylwadau sydd wedi eu gwneud tros yr wythnosau diwethaf - sydd am fod eisiau torri ar bwerau'r Cynulliad, bydd y tirwedd gwleidyddol yn newid yn sylfaenol - gyda'r llinellau gwleidyddol yn rhai cenedlaetholgar / unoliaethol - yn unol a'r drefn drefedigaethol hwyr arferol.

Mae cwymp disymwth Llafur yn yr etholiadau Ewrop diweddar yn magu arwyddocad ychwanegol yn y cyd destun 'dwi wedi ei ddisgrifio uchod. Mae carfannau sylweddol o bobl yng Nghymru wedi pleidleisio i Lafur yn y gorffennol, yn rhannol oherwydd canfyddiad mai hi ydi'r blaid sefydliadol 'Gymreig'. Mae unrhyw beth sy'n cynorthwyo i chwalu'r canfyddiad hwnnw yn yr hir dymor am ei gwneud yn haws i greu gwleidyddiaeth newydd, ac felly'n llesol i'r Mudiad Cenedlethol - hyd yn oed os mai'r Ceidwadwyr ac UKIP sy'n elwa yn y tymor byr.

Tuesday, June 16, 2009

Lib Dem Watch 4

Diolch i gyfaill o Geredigion (lle maen nhw'n deall y math yma o beth yn iawn) am dynnu fy sylw at athrylith y Lib Dems yn y maes hynod o arbenigol o wneud cam ddefnydd llwyr o ystadegau, ffigyrau a graffiau.

Yma, er enghraifft maent yn honni mai dim ond y nhw neu Lafur allai ennill is etholiad Glenrothes trwy ddangos graff o ganlyniad etholiadol etholaeth arall yn Dunfirmlin ddwy flynedd ynghynt.!

Neu yma maent yn dangos faint o gynnydd oedd y Lib Dems wedi ei wneud (yn ol un pol piniwn) yn Crewe & Nantwitch. Roedd y pol hefyd yn dangos nad oedd ganddynt obaith o ennill y sedd.

Maent yn cymryd mantais o anwybodaeth pobl o drefn pleidleidio d'Hont yma, er mwyn gallu cam arwain pobl sydd ddim yn hoffi'r Toriaid i bleidleisio iddynt. Mae hon yn debyg i ymdrechion Jenny Randerson yng Nghanol Caerdydd.

Ceir triciau eraill hyd yn oed yn fwy tebyg i'r rhai Canol Caerdydd yma, lle mae etholiadau San Steffan sy'n cael eu cynnal o dan drefn FPTP yn cael eu drysu'n fwriadol efo rhai Ewrop sy'n cael eu cynnal mewn etholaeth llawer iawn mwy ac o dan yfundrefn bleidleisio cwbl wahanol.

Ceir tric tebyg yma - ond y Gwyrddion syn ei chael hi y tro hwn.

Enghraifft wych o gam lunio graffiau yma er mwyn gwneud i faint o Lib Dems sy'n twyllo ar eu treuliau edrych yn llai nag ydyw mewn gwirionedd.

Enghraifft arall wych o graff wedi ei gam lunio yng Ngheredigion - un oedd mor hynod nes iddo ddod o hyd i'w ffordd i bapur arholiad.

Ac wrth gwrs pan mae rhywun arall yn gwneud yr un math o beth 'does yna neb yn cwyno'n fwy croch na'r Lib Dems.

A dweud y gwir mae rhai o'r rhain mor gyfan gwbl ddi gywilydd maent yn ddigri. Ond mae dwy neges arall i'w cymryd o'r holl duedd hefyd:

(1) Mai'r gwacter sydd wrth galon ideolegol y blaid sydd yn gyfrifol yn y pen draw am y dull cwbl gamarweiniol yma o wleidydda.
(2) Mae ceisio camarwain pobl yn fwriadol yn arwydd di feth o ddirmyg y sawl sy'n ceisio camarwain at y sawl mae'n ceisio eu camarwain. 'Dydan ni ddim yn dweud celwydd wrth bobl yr ydym yn eu parchu.

Saturday, June 13, 2009

Buddugoliaeh Mr Ahmadinejad

Ymddengys bod Mr Ahmadinejad wedi ennill yr etholiad yn Iran gyda buddugoliaeth ysgubol.

Mae'r cyfryngau gorllewinol wedi bod yn dweud wrthym am gwpl o wythnosau ei fod yn debygol o golli i'w wrthwynebydd mwy rhyddfrydig, Mr Mousavi. Fel 'dwi'n 'sgwennu mae Mrs Clinton yn ar Sky News yn awgrymu bod y canlyniad wedi ei ffugio mewn rhyw ffurf neu'i gilydd.



Mae hwn yn batrwm sy'n ddigon cyfarwydd - cyfryngau gorllewinol yn cydio mewn rhyw blaid gymharol ryddfrydig mewn gwlad anryddfrydig. Wedyn maent yn dangos llawer o luniau i ni o raliau gwleidyddol brwdfrydig gan y blaid honno gyda phobl dosbarth canol, myfyrwyr ac ati, sy'n siarad Saesneg da iawn yn egluro pam maent am bleidleisio i'r blaid ryddfrydig. Wedyn mae arweinwyr gorllewinol a'r cyfryngau yn cynhrfu'n lan ac yn meddwl bod newid mawr ar droed. Ac wedyn mae'r etholiad yn cael ei chynnal ac mae'r mab darogan rhyddfrydig yn cael cweir gan yr etholwyr.

'Dydi hi ddim yn anodd daeall pam bod hyn yn digwydd. Ychydig flynyddoedd yn ol aeth y Mrs a minnau am wythnos i Istanbul. Mae rhannau eang o ganol y ddinas yn edrych ac yn teimlo'n ddigon gorllewinol. Ond pan mae dyn yn crwydro oddi ar y prif strydoedd i'r cymdogaethau dosbarth gweithiol mae'n fyd cwbl wahanol. Mae dylanwad Islam yn treiddio pob dim. Mae addoldy ar pob bloc, pan mae'r galwadau i weddio yn atseinio mae'r strydoedd yn llenwi efo pobl sy'n aml yn rhedeg i'w haddoldai. Ar ddyddiau Gwener mae'r palmentydd wedi eu blocio am oriau gan luoedd o bobl ar eu gliniau y tu allan i'w haddoldai. Mewn llefydd fel hyn mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n mynd ati i bleidleisio yn byw.

'Dydi ideoleg gwleidyddol a chymdeithasol gwledydd Islamaidd heb eu llywio gan y digwyddiadau mawr sydd wedi ffurfio meddylfrydau gorllewinol rhyddfrydig. Serch hynny mae'r cyfryngau gorllewinol - a llywodraethau gorllewinol - yn disgwyl mai prif ddelfryd cymdeithasau felly ydi troi'n gymdeithasau mwy gorllewinol. Mae'r canfyddiad hwn yn un abswrd - ac mae hefyd yn un hynod o beryglys. Dyma'r canfyddiad oedd i raddau helaeth yn cynnal y feddylfryd gwleidyddol yn y gorllewin a arweiniodd at ryfeloedd Irac ac Afganistan.

Thursday, June 11, 2009

Erthygl Golwg

Mae erthygl yn Golwg ar dudalen 5 lle maent yn rhoi llais i'r sylwadau enllibus am awdur y blog hwn gan y Cynghorydd Gwilym Euros Roberts o Flaenau Ffestiniog.

'Dwi ddim am ddweud llawer gan fy mod yn bwriadu edrych ar y posibiliadau o fynd a'r papur i gyfraith.

Mi hoffwn nodi'r canlynol fodd bynnag:

Mae'n ymddangos i mi bod y papur yn fwriadol wedi mynd ati i hyrwyddo'r enllib gwreiddiol trwy ddyfynu darn dethol o fy sylwadau yn llwyr y tu allan i'w gyd destun, a gwneud hynny mewn modd sy'n ei gwneud yn bosibl i gredu fy mod yn dweud rhywbeth cwbl groes i'r hyn roeddwn yn ei ddweud mewn gwirionedd.

Mae'r ffaith eu bod wedi doctora fy ymateb iddynt trwy ddileu brawddeg sy'n egluro mai dadlau yn erbyn cyfranwr i fy mlog oedd yn ceisio creu cyswllt rhwng UKIP a Llais Gwynedd oeddwn, yn atgyfnerthu'r canfyddiad hwn.

Fydda i ddim yn trafod y mater yma eto nes i mi gael cyngor cyfreithiol llawn.

Mi fyddaf yn cyhoeddi unrhyw sylwadau gan gyfranwyr yn y dudalen sylwadau cyn belled a nad ydynt yn enllibus na sarhaus - yn ol yr arfer.

Tuesday, June 09, 2009

Llais Gwynedd a'r Dde Brydeinig

Ymddengys bod Gwilym Euros wedi ypsetio'n ofnadwy oherwydd fy mod wedi gwneud rhyw sylw neu'i gilydd ar dudalen sylwadau'r cyfranid cyn hwn, sy'n awgrymu (yn ei farn o) bod rhai o'r sawl a bleidleisiodd i Lais Gwynedd yn 2007 wedi pleidleisio i'r BNP yr wythnos diwethaf. Yn od iawn - o gymryd y rhan yn ei gyd destun, dadlau yn erbyn honiad gan gyfranogwr arall bod cysylltiad rhwng UKIP a Llais Gwynedd oeddwn.

Mae o wedi ypsetio cymaint nes iddo wneud llwyth o gelwydd i fyny fy mod yn gadeirydd rhanbarth Arfon o Blaid Cymru a mynd i gwyno wrth y Blaid yn ganolog, Golwg, y BBC a phawb arall sy'n fodlon gwrando. Dyma'r sylw sydd wedi creu'r holl golli dagrau:

Hen Rech Flin - Yn niffyg Plaid Cymru driw i'w ddaliadau i bleidleisio drosti - IWCIP, gwaetha'r modd, cafodd eu plediais brotest eleni' (hy - aelodau o deulu HRF).

Fi - Y broblem efo hyn ydi bod pleidlais UKIP bron yn sicr yn is yng Ngwynedd y tro hwn nag oedd yn 2004 (mae'n anodd gwneud cymhariaeth llwyr oherwydd bod y rhanbarthau cyfri yn gwahanol).

'Dwi ddim yn amau am eiliad bod cydadran o bleidlais Llais Gwynedd wedi rhoi croes i UKIP (a'r BNP o ran hynny)- ond fel mae'r blog yma wedi dadlau sawl gwaith, pleidlais wrth Gymreig ydi rhan arwyddocaol o bleidlais Llais Gwynedd. Cofier Mr Walker er enghraifft.


'Dwi wedi dileu'r sylw yn nhudalen sylwadau'r blog perthnasol rhag bod rhywun arall wedi cam ddaeall. 'Dwi'n ei adael fel ag y mae yma gan fy mod yn rhoi eglurhad. Cyfeiriad ydyw at y ffaith fy mod yn credu bod elfen o bleidlais Llais Gwynedd yn apelio at elfennau gwrth Gymreig yng Ngwynedd - ond yn y cyd destun arbennig yma roeddwn hefyd yn dadlau nad oedd tystiolaeth bod cefnogwyr Llais Gwynedd wedi troi mewn niferoedd arwyddocaol at UKIP neu'r BNP yn yr etholiad yma. Dyna pam roeddwn yn nodi nad oedd eu pleidlais wedi tyfu.

Mae yna wrth gwrs rhai pobl sydd a chysylltiadau efo UKIP gyda chysylltiadau efo Llais Gwynedd. 'Does yna ddim pwt o amheuaeth bod un cyfaill sydd a chydymdeimlad ag UKIP ac i raddau llai BNP yn cefnogi Llais Gwynedd. Ystyrier John Walker o Glwt y Bont - dyn sydd wedi bod yn y newyddion oherwydd i'w dy gael ei fandaleiddio ar ddau neu dri o achlysuron. Mae'n hoff o adael sylwadau ar flogiau.

Cymerer hwn ar flog Betsan Powys er enghraifft.

At 10:34 AM on 17 Nov 2007, John R. Walker wrote:

Where have you been all these years Betsan? Plaid has been pulling itself apart in public since, at least, 2001...

It's great fun to watch - the view is much better from up here in Gwynedd, though!

Now Cllr. Simon Glyn is reported to have resigned from Plaid and I'm expecting a quite a few more to follow as the abject failure of 3-4 decades of Plaid Gwynedd's policies becomes plainer for all to see. This schools closure issue is just the tip of the mis-management iceberg...

Where I fundamentally disagree with Wayne David MP is that Plaid shouldn't be thought of in terms of 'constructive' or 'destructive' personalities because Plaid policies are fundamentally destructive - Plaid is a hard-left international socialist Party intent upon breaking up the United Kingdom and handing the reigns of power to the unelected tranzis in the EU and the UN. A few moderate sounding voices doesn't change that! If anybody had any lingering doubts, that defence paper floated out this week by Jill Evans MEP should help to clarify their minds! Cloud, cuckoo, and land come to mind...

It doesn't matter whether Plaid play the short game or the long game - they are still, ultimately, a destructive force in British politics and they should be marginalised by the 'Brits' at every opportunity.

But, going back to the coalition, I keep asking myself who is the REAL nationalist - Rhodri Morgan or Ieuan Wyn Jones?


'Dydi'r dyn ddim yn hoff iawn o addysg Gymraeg chwaith - nag yn wir unrhyw beth i'w wneud efo'r Gymraeg.
Blog Betsan eto

At 09:38 AM on 20 May 2007, * John R. Walker wrote:

Interesting - so Dafydd Wigley, one of Derby's most famous sons, went to a school which still has an all-English website and an education philosophy so very different from the 'forced Welsh' environment prevalent in Anglesey and Gwynedd Council LEA schools.

Perhaps Dafydd Wigley would care to come out now and support those of us who see the same English medium education facilities as being essential in Anglesey and Gwynedd, without the need for parents to have to pay the private sector to provide them?

English medium education should be available to all throughout the UK as of right - it shouldn't just be available to those who can afford to pay!

We've come to a sorry state when the British government feels the need to sanction payment for private education for members of H.M. forces in Gwynedd and Anglesey "who would otherwise be disadvantaged, academically and socially, by the bilingual teaching policy adopted within the Gwynedd and Isle of Anglesey Local Education Authorities"...

Fine - I don't mind paying for their good fortune - but what about everybody elses' kids????


Ydi Mr Walker yn aelod o'r BNP? Nag ydi - mae'n gyn aelod o'r Blaid Geidwadol ac mae'n aelod o UKIP (ymddangosiad Guto Bebb yn y Blaid Geidwadol oedd y rheswm am ei ymadawiad mae'n debyg). Ond mae wedi mynegi cydymdeimlad gyda'r BNP ar fwy nag un achlysur. Er enghraifft yn ol y Western Mail:

And in a letter to a newspaper in Yorkshire, he offered support to a bus driver whose duties involved transporting vulnerable disabled children and adults with special needs, and who was sacked after being elected a BNP councillor. The employer considered his public status as a BNP councillor posed a health and safety risk to clients. Mr Walker wrote: “If nothing else, the sacking... for no apparent reason other than that he is a member of a legitimate registered political party, the BNP, should show the politically-correct fascism of the left is every bit as dangerous as any racially-motivated fascism from the right

Ydi Mr Walker yn cefnogi'r BNP? Ddim o angenrhaid - mae'n debygol nad yw erioed wedi bwrw pleidlais trostynt.

Mae Mr Walker yn sicr yn cefnogi Llais Gwynedd i'r graddau mai fo oedd un o gynigwyr eu hymgeisydd yn Neiniolen yn 2007 - Ian Stephen Hunter Franks.

Ydi hyn yn golygu bod unrhyw beth yn gyffredin rhwng syniadaeth Llais Gwynedd a'r BNP? Nag ydi, wrth gwrs - does dim oll yn gyffredin rhyngddynt.

Ydi hyn yn golygu bod aelodau ac arweinyddion Llais Gwynedd yn rhannu syniadaeth? Nag ydi, wrth gwrs. 'Dwi'n gwybod o'r gorau nad ydi hynny'n wir - ac mae pawb arall.

Ond mae gelyniaeth Llais Gwynedd tuag at Blaid Cymru - plaid genedlaetholgar Gymreig adain chwith - yn apelio at genedlaetholwyr Prydeinig adain dde. Yr elyniaeth tuag at Blaid Cymru sy'n gyffredin rhyngddynt - dim arall.

Felly ydi hi'n deg casglu bod cydadran o gefnogaeth Llais Gwynedd yn dod o'r Dde Prydeinig? 'Does yna ddim ffordd o wybod i sicrwydd wrth gwrs - ond 'dydi'r casgliad ynddo'i hun ddim yn un afresymol. Serch hynny - fel y dywedais wrth Hen Rech Flin, nid oedd pleidlais UKIP na'r BNP wedi cynyddu yng Nghymru yn etholiadau Ewrop - awgryma hyn nad ydi profiad HRF o weld cenedlaetholwyr naturiol yn troi at UKIP yn un cyffredin iawn.

Monday, June 08, 2009

Yr ail etholiad Ewrop orau i'r Blaid erioed!

Rhyw dynnu coes ydw i - ond 'dwi'n meddwl bod hynny'n wir beth bynnag. Dim ond y 29.6% a gafwyd yn 1999 oedd yn well.

Bryd hynny daeth y Blaid yn gyntaf yn Ne Penfro - Gorllewin Caerfyrddin, Islwyn, Dwyrain Caefyrddin - Dinefwr, Ceredigion, Y Rhondda, Pontypridd, Caernarfon, Conwy, Meirion Nant Conwy, ac Ynys Mon. O berfformio felly'r tro hwn byddem hefyd, mae'n debyg, wedi ennill yn Ne Clwyd, Gorllewin Clwyd, Preseli Penfro, Caerffili, Cwm Cynon, Ogwr, Aberafon, Bro Gwyr, Castell Nedd a Blaenau Gwent. Ychydig iawn, iawn o seddi fyddai Llafur wedi eu hennill yng Nghymru. Dydi'r panic sy'n ymestyn trwy'r Blaid Lafur Gymreig yn ddim wrth ymyl y panic fyddai yn cydio ynddynt petaem wedi llwyddo i ailadrodd perfformiad 99. Mi fyddai yna banic yn rhengoedd y pleidiau adain Dde unoliaethol hefyd.

Ond ni wireddwyd hynny - yn rhannol oherwydd i bleidiau bach fel y Blaid Werdd gystadlu'n effeithiol am bleidleisiau, ond yn bennaf oherwydd i ni fethu a pherswadio pleidleiswyr naturiol Llafur i bleidleisio i ni yn hytrach nag aros adref yn pwdu. Dyna pam bod Hen Rech Flin yn anghywir pan mae'n honni mai prif gamgymeriad y Blaid oedd peidio ag ymosod digon ar UKIP (er ei fod yn fwy cywir na mi wrth ddarogan y canlyniad a bod yn deg). Gelyn Plaid Cymru ydi Llafur. Mae UKIP yn pysgota yn yr un pwll etholiadol a'r Blaid Geidwadol.

Prif amcan wleidyddol y Blaid ddylai fod i ddifa'r Blaid Lafur yng Nghymru ac ennill cefnogaeth y sawl sy'n ei chefnogi ar hyn o bryd. O wneud hynny gallwn fynd ati i ail strwythuro gwleidyddiaeth Cymru mewn modd fyddai'n caniatau i ni fynd i'r afael a'r Dde unoliaethol a'i churo.

Mwy am hyn tros y dyddiau nesaf.

Sunday, June 07, 2009

Etholiadau Ewrop - rhan 13

Wel wel - 21%, 20% ac 19%.

Am ganlyniad hynod!

Y Toriaid yn dod ar y blaen am y tro cyntaf erioed - a phob un o'r prif bleidiau yn cael pleidlais ymhell o dan eu pleidlais uchaf erioed. Pob un o'r pleidiau o fewn tafliad carreg i'w gilydd.

Byddwn yn dychwelyd at hyn tros y dyddiau nesaf.

Etholiadau Ewrop - rhan 12

OK - C/fon Plaid / Toriaid / Llafur / UKIP / Lib Dems / Gwyrddion
Conwy - Plaid / Toriaid / UKIP / Llafur
Meirion - Plaid / Toriaid / UKIP / Llafur / Lib Dems / Gwyrdd
Llanelli - Plaid / Llafur / Tori / UKIP
Dwyr Caerfyrddin - Plaid / Tori / Llafur
Ceredigion - Plaid Circa 40%.

Canlyniadau'r Gymru Gymraeg ydi hyn - ond dydi canrannau'r Blaid ddim digon uchel i'n rhoi yn gyntaf. Canrannau UKIP yn is na'r disgwyl.

Byddwn yn disgwyl i'r Toriaid gael 2 ac i Lafur a'r Blaid gael 1 yr un.

Llafur yn ail mae'n debyg.

Etholiadau Ewrop rhan 11

Diweddariad - Plaid ar y blaen o 9 yng Nghonwy - 25%. Ail gyfri. dyna pam mae'n debyg bod pawb yn disgwyl am ganlyniad. 9 o wahamiaeth.

Etholiad Ewrop Rhan 10

Hen etholaeth Conwy, Toriaid yn gyntaf, Blaid yn ail, UKIP yn drydydd, Llafur yn bedwerydd.

Etholiad Ewrop Rhan 9

Plaid Cymru yn gyntaf yn Meirion, Ceidwadwyr yn ail, UKIP yn drydydd, Llafur yn bedwerydd efo'r Lib Dems a'r Blaid Werdd yn agos tu ol. Sibrydion bod y Ceidwadwyr yn gyntaf dros Gymru, Llafur yn ail, a PC yn drydydd drost Gymru.

Etholiad Ewrop Rhan 8

Sibrydion bod y toriaid ar y blaen dros Gymru, efallai y blaid yn ail. Y bedwaredd sedd rhwng UKIP a Lib Dems. Plaid Cymru tua 40% yn Ceredigion.

Etholiad Ewrop Rhan 7

Llafur yn ennill yn y Rhondda, Plaid Cymru ar y blaen yn Llanelli gyda Llafur yn ail. Plaid Cymru wedi ennill Caernarfon efo hanner y bleidlais, toriaid yn ail, Llafur yn drydydd, UKIP yn bedwerydd. Plaid Cymru ar y blaen yn Nwyrain Caerfyrddin. UKIP ddim i weld yn gryf yng Nghymru.

Friday, June 05, 2009

Etholiadau Ewrop Rhan 6

Dim llawer i'w ychwanegu am Gymru mae gen i ofn ond bod cyfradd pleidleisio yr hen etholaeth Meirion / Dyffryn Conwy yn 33.2%.

Mae'n bosibl y bydd canlyniad Gogledd Iwerddon yn un anisgwyl. Y son yw bod y gyfradd pleidleisio wedi cwympo'n sylweddol o 51.7% i tua 36%. Mae hwn yn gwymp arwyddocaol - ac mae'n agor y drws i rhywbeth nad oedd neb yn ei ddisgwyl. 'dydi hyn heb ei gadarnhau yn swyddogol hyd y gwn i.

Rhai yn unig o'r ffigyrau am etholaethau unigol sydd wedi eu rhyddhau- Belfast South: 42.1%:: Belfast West: 46.6%:: Lagan Valley: 38.86%:: South Down: 44.97%:: Mid Ulster: 52.83%:: North Antrim 43.7%. Mae'r ffigyrau'n awgrymu bod y gyfradd Babyddol yn uwch na'r un Brotestanaidd.

Gallai nifer o bethau ddigwydd o ganlyniad i hyn. Mae bron yn sicr mai Sinn Fein fydd ar ben y pol. 'Dydi hyn ddim yn arbennig o arwyddocaol cyn bod y bleidlais Unoliaethol wedi i hollti tair ffordd, tra bod yr un Genedlaetholgar wedi hollti ddwy ffordd - ond mae'r DUP wedi gwneud mor a mynydd o'r posibilrwydd.

Mae posibilrwydd y bydd yr SDLP yn ennill y trydydd sedd. Byddai hyn yn ddigwyddiad arwyddocaol - byddai'r tro cyntaf i'r Cenedlaetholwyr wneud yn well na'r Unoliaethwyr mewn etholiad tros y dalaith i gyd. 'dydw i ddim wedi fy argyhoeddi eto bod y ffigyrau yno i ganiatau i hyn ddigwydd - ond mae'n fwy tebygol o lawer nag oeddwn yn ei feddwl ddydd Mercher.

Yn drydydd, ac yn bwysicaf, mae'n debygol bod y blaid newydd sy'n gwrthwynebu Cytundeb Dydd Gwener y Groglith, y TUV wedi cymryd sleisen sylweddol o bleidlais plaid fwya'r dalaith y DUP. Os bydd y niwed etholiadol i'r DUP yn arwyddocaol iawn, mae'n bosibl iawn y bydd y drefn rhannu grym a geir ar hyn o bryd yn cwympo - a bydd anhrefn gwleidyddol yn y dalaith am gyfnod sylweddol.

Diweddariad - son heno mai 9% i lawr mae'r bleidlais, nid 15%. Son hefyd bod y DUP yn boenus iawn oherwydd bod y gyfradd pleidleisio mewn ardaloedd dosbrth gweithiol Protestanaidd yn isel iawn.

Diweddariad - It looks like the Sinn Fein candidate, Bairbre De Brun is on course to top the poll comfortably with perhaps as much as 28% of the vote. The three unionist candidates appear to be tightly packed, which means the Traditional Unionist Jim Allister must have taken a significant percentage of the DUP vote. So far the Conservatives and Unionists appear to be optimistic that Jim Nicholson's vote has held up, but with such a tight field it's impossible to say at this stage how the count will pan out so far as the last two seats are concerned.

Devernport Diaries

Etholiadau Ewrop Rhan 5

Sibrydion diweddaraf.

Tua 33% wedi pleidleisio yn hen etholaeth Caernarfon.

Mae hyn yn awgrymu bod y bleidlais wledig yn gymharol drwm. Mae hyn yn dda i PC, ond yn ddrwg i Lafur. Mae'n ymddangos mai PC sydd ar y blaen yma - ond eto mae mwy na'r disgwyl o bleidleisiau UKIP - a rhai BNP.

Plaid ar y blaen yn hawdd yng Ngheredigion, gyda Llafur ar y gwaelod.

Plaid ar y blaen yn eithaf hawdd yn Llanelli - ond pleidlais i UKIP yma hefyd.

'Dydi'r uchod ddim yn anisgwyl - felly ni ddylid darllen gormod i mewn i bethau.

Ynys Mon - cyfradd pleidleisio 33%.

Etholiad Ewrop rhan 4

Pwt neu ddau cyn mynd am y gwely.

Mae'r gyfradd pleidleisio yn Llanelli tua 30%.

Mae rhai pleidleisiau eisoes wedi eu gweld. Mae awdurdodau etholiadol yn gwirio bod y nifer o bleidleisiau sydd mewn bocs yn unol a faint sydd wedi eu bwrw. Yn aml bydd y rhain yn cael eu cyfri a'u pennau i lawr, felly mae'n anodd eu gweld. Mae'n haws gweld (a felly cyfri) y pleidleisiau sy'n agos at ymyl y papur - UKIP, Llafur, BNP er enghraifft. Mae'n fwy anodd cyfri rhai sy'n agos at y canol - Plaid Cymru neu'r Lib Dems. Felly mae'r hyn 'dwi am ei ddatgelu yn anwyddonol a dweud y lleiaf - hefyd 'dwi'n gorfod bod yn ofalus - mae'n dir amheus o safbwynt cyfreithiol i ddatgelu canlyniad cyn bod y swyddog etholiadol yn gwneud hynny.

Beth bynnag - mewn un sedd sydd ym meddiant Llafur ar lefel San Steffan ond Plaid Cymru ar lefel Cynulliad mae Plaid ar y blaen gydag UKIP yn ail a Llafur yn drydydd. Mewn sedd arall sydd ym meddiant Plaid ar lefel Cynulliad a San Steffan, ond gyda Llafur yn ail yn y ddau achos, mae Plaid ar blaen yn hawdd iawn gydag UKIP ac nid Llafur yn ail. Mae'r Lib Dems yn isel iawn - ond maent yn agos at ganol y papur - felly mae tan gyfrifo o'u safbwynt nhw. Mae Plaid hefyd yn agos at ganol y papur. 'Dydi'r Toriaid ddim yn ymddangos i bolio'n gryf yn y naill achos na'r llall.

Mae'r nifer o bleidleisiau sydd wedi eu gweld yn y ddau achos yn isel (cwpl o ganoedd), felly ni ddylid rhoi gormod o bwyslais ar yr hyn yr ydwyf newydd ei ddweud - ond petai'n arwyddocaol, byddai'n edrych yn dda i UKIP am y pedwerydd sedd

Thursday, June 04, 2009

Etholiadau Ewrop 3

Mae yna chwe gorsaf bleidleisio yng Nghaernarfon.

Roedd y ganran a bleidleisiodd rhwng 20% a 30%. Yr ardaloedd tlotaf oedd y rhai gyda'r ganran isaf yn pleidleisio, a'r rhai cyfoethocaf oedd efo'r ganran uchaf.

Felly mae'r ganran ar tua 25% yn gyffredinol uwch nag oeddwn yn ei ragweld am bump o'r gloch.

I'r cyfaill oedd yn holi os ydi hyn yn dda i'r Blaid, dydw i ddim yn siwr - ond mae'n sicr yn ddrwg i Lafur.

Etholiad ewrop rhan 2

Wedi gweld y rhan fwyaf o gofrestrau tref C/fon.

Pleidlais yn isel iawn - o dan 20% ym mhob man (6 o'r gloch) - ond y bleidlais yn ymddangos i fod yn sylweddol uwch mewn cymdogaethau dosbarth canol nag yn y rhai dosbarth gweithiol.

Etholiad Ewrop Rhan 1

Newydd weld (5 o'r gloch) cofrestrau pleidleisio dau o fythau pleidleisio tref Caernarfon. O dan 10% wedi pleidleisio yn un a 15% yn y llall. Dydi hyn ddim yn cynnwys y sawl sydd a phleidleisiau post - mae tua hanner rheiny wedi pleidleisio yn Arfon.

Mae'n ymddangos y bydd y gyfradd pleidleisio yn isel - neu'n isel iawn.

Tuesday, June 02, 2009

Lib Dem Watch 3

Mae cyfaill wedi e bostio lluniau o un o'r gyfres di ddiwedd o'r pamffledi boncyrs mae Lib Dems Canol Caerdydd yn eu cynhyrchu ar raddfa diwydiannol. Mae'n bleser cael eich cyflwyno ger eich bron. Nid dyma'r pamffled yr oeddwn yn son amdano isod. Ymddengys bod Canol Caerdydd yn cael ei foddi mewn pamffledi sy'n mynegi ffantasiau rhyfedd y Lib Dems.




Maent yn esiampl digon twt o'r hyn 'dwi wedi bod yn son amdano.

Mae'r ail ddelwedd yn esiampl da o wleidydda budur y Lib Dems.

Mae'r ddelwedd gyntaf yn esiampl o gelwydd / diffyg crebwyll y Lib Dems. Yn gyntaf ceir honiadau gan rai o'r papurau Seisnig bod Llafur am gael cweir ddydd Iau. Wedyn maent yn mynd ati i ddod i'r casgliad chwerthinllyd, abswrd a gwrth ffeithiol mai'r unig ffordd o sicrhau hynny ydi trwy bleidleisio i'r Lib Dems - voting Plaid, Tories or anyone else will just help Labour. Y cyfiawnhad tros y canfyddiad gorffwyll yma ydi bod y Lib Dems yn digwydd bod yn gryf yn etholiadau San Steffan yn un o'r 40 etholaeth Gymreig - Canol Caerdydd.

Ymddengys nad ydi'r Lib Dems yn deall mai etholiad o dan ddull De Hoet tros Gymru gyfan sydd yn cael ei hymladd, yn hytrach nag etholiad First Past The Post yng Nghanol Caerdydd. Maent yn llafurio o dan y camargraff bod canol Caerdydd gyda phedwar aelod Ewropiaidd.

Naill ai hynny, neu eu bod yn dweud celwydd noeth wrth etholwyr Canol Caerdydd.

Rhag bod unrhyw un mor ddi niwed a chredu celwydd / nonsens y Lib Dems - dyma oedd canlyniadau'r etholiadau Ewropiaidd yn 2004:

Llafur 297,810
Toriaid 177,771
Plaid Cymru 159,888
UKIP 96,677
Lib Dems 96,116
Gwyrddion 32,761
BNP 27,135
Respect 5,427
Eraill 24,101
Cyfanswm 917,686

Lib Dem Watch 2

Mae Guerilla Warefare ymysg eraill yn tynnu sylw at dipyn o wleidydda budr gan y Lib Dems.

Dydi hyn ddim yn syndod i flogmenai. Mae'r blog yma wedi dadlau o'r blaen bod y gwacter ystyr sydd wrth galon y Lib Dems yn arwain at ddulliau gwag o wleidydda. Byddant yn gwleidydda mewn ffyrdd sydd weithiau'n anarferol o fudur ac weithiau'n rhyfedd o amherthnasol. I'r ail gategori mae'r darn yma o ohebiaeth a anfonwyd at drigolion anffodus Cathays yng Nghanol Caerdydd gan eu haelod cynulliad Jenny Randerson.

Gan bod y rhan fwyaf o etholwyr Cathays yn fyfyrwyr, mae'r rhan fwyaf o'r darn yn ymwneud a'r amrediad cyfyng o bethau sydd gan myfyrwyr i boeni amdanynt - cynhesu byd eang (sydd ymhell o fod yn ganolig i wleidydda Ewrop), a ffioedd dysgu (sydd ddim oll i'w wneud efo Ewrop). Mae'n ddigon teg i dargedu cydrannau o'r etholaeth am wn i - mae pawb yn gwneud y math yma o beth - er bod y ffocws yma mor gul nes ymylu ar fod yn ogleisiol.



Mae'r Toriaid yn cael eu clymu i UKIP wrth gwrs - ond o leiaf dydi Jenny ddim yn eu clymu i Sinn Fein ac UKIP fel y gwna'r pamffled cenedlaethol. 'Dydi polisiau'r Toriaid ar Ewrop ddim yr un peth - diweddu aelodaeth y DU ydi uchelgais UKIP, eisiau refferendwm cyn arwyddo Lisbon.

Maent hefyd yn honni bod yna Doriaid nad ydynt yn credu mewn cynhesu byd eang. Mae hyn yn ddi amau yn wir. Mae hefyd yn ddi amau yn wir bod yna Lib Dems sydd eisiau cyfreithloni cyffuriau.

Yr hyn sydd fwyaf trawiadol am y pamffled fodd bynnag ydi'r defnydd amhriodol o ystadegau etholiadol - mae hyn yn nodweddu llawer o lenyddiaeth gwleidyddol y Lib Dems. Maent yn dadlau mai'r unig ffordd o roi trwyn gwaed i Lafur ydi trwy fotio iddyn nhw. I 'brofi' hyn maent yn dangos graff o ganlyniad etholiad cyffredinol 2005 yng Nghanol Caerdydd. 9% yn unig oedd pleidlais y Toriaid - felly mae hyn yn profi yng ngolwg y Lib Dems (50%) bod mai'r Lib Dems yn unig all guro Llafur.

Y gwirionedd ydi mai pumed (ar ol Llafur, y Toriaid, Plaid Cymru ac UKIP) oedd y Lib Dems yn etholiad Ewrop yn 2004 - yr unig etholiad mae'n briodol cymharu etholiad dydd Iau efo hi.

'Rwan golyga hyn un o ddau beth - naill ai bod y Lib Dems yn credu bod yr etholiad yn cael ei hymladd yng Nghanol Caerdydd yn unig - ac mai trigolion yr etholaeth honno'n unig sy'n dewis y pedwar cynrychiolydd Cymreig, neu eu bod yn ceisio camarwain yr etholwyr yn fwriadol.

Os mai'r cyntaf sydd yn wir, dylai Jenny fod yn gweithio y tu ol i'r til yn Tesco, ac nid fel Aelod Cynulliad.

Os mai'r ail sydd yn wir mae agwedd Jenny at ei hetholwyr yn sarhaus a gwawdlyd ac mae'n eu camarwain yn fwriadol. Nid Cynulliad ydi ei lle yn yr achos hwnnw chwaith.

Blogmenai'r gratitude to the Conservative party

Blogmenai rarely blogs in English - but such is my gratitude to the most Welsh of parties - the Welsh Conservative Party - that I tearfully feel it's the very least I can do.

It seems that their Wales wide address for the European elections carries a whole sentence in Welsh - yes that's right - one whole sentence. Such is the historic significance of the event that I'm happy to quote it in full - Os ydych chi am dderbyn yr anerchiad etholiadol hwn yn gymraeg, ffoniwch ni ar 029 20 616 031 neu ebostiwch ccowales@tory.org




The mockers & begrudgers have had a field day over the trivial matter that none of the Conservatives' candidates in the Euro elections want to live anywhere near Wales - but they must be speechless now. The vicious myth propagated by the enemies of the Conservative party of an English party for an English nation has once & for all been well & truly shattered.

If you'd like to thank the Conservative party for this most magnanimous of gestures - a gesture that proves beyond a shadow of doubt that they've finally entered the nineteenth century in matters of language equality, why not phone them on 029 20 616 031 to express your gratitude? I'm sure that they'll be pleased to listen to your grovelling - if they can drag themselves from such important matters as supervising the clearing of the moats around their Balmoral inspired follies, the placing of duck houses in their ponds, the spreading of tons of horse manure on their gardens, the hanging of chandeliers from their fake gothic ceilings & so on.

Please remember to doff your cap while you're speaking

Monday, June 01, 2009

Pam bod y sgandal treuliau mor niweidiol i Lafur?

Mae'r sgandal wedi cael effaith syfrdanol ar gefnogaeth Llafur - gydag un pol heddiw yn awgrymu y byddant yn cael llai nag 20% petai etholiad cyffredinol yn cael ei hymladd heddiw - y sgor isaf erioed i blaid sy'n llywodraethu. Mae rhai o'r polau ar gyfer etholiadau Ewrop hyd yn oed yn waeth.

Effeithwyd ar y Toriaid hefyd mae'n debyg, ond i raddau llai o lawer. Ar un olwg mae hyn yn rhyfedd - mae sgandalau'r Toriaid wedi bod o leiaf cyn waethed a rhai Llafur, ac maent wedi bod mor lluosog - ac mae yna lai o lawer o Doriaid yn y senedd i gael y cyfle i bechu.

Yn ddi amau mae sawl rheswm am hyn - bod gwynt yn hwyliau'r Toriaid beth bynnag, a bod pobl yn tueddu i feio plaid sydd wedi bod yn rheoli ers mwy na degawd am gyfundrefn sydd yn ddi amau yn gwbl llwgr, er enghraifft.

Nid dyma'r rhesymau pwysicaf fodd bynnag. Mae'r prif reswm wedi ei wreiddio'n dwfn yn y ffordd mae'r Blaid Lafur yn gweld ac yn diffinio ei hun. Yn annad dim arall mae Llafur yn gweld ei hun fel plaid 'foesol' - plaid sydd yn meddiannu'r ucheldir moesol. Dydi'r hunan gyfiawnder yma ddim yn annwylo'r blaid i mi a dweud y gwir, ond mae'r ffaith eu bod wedi adeiladu naratif gwleidyddol pwerus o amgylch y canfyddiad wedi bod yn un o'r elfennau pwysicaf yn eu llwyddiant etholiadol.

Y broblem gyda hyn wrth gwrs ydi bod y naratif yn datgymalu'n llwyr pan mae'r prif edefyn sy'n rhedeg trwyddo yn chwalu - a dyna'n union sydd yn digwydd pan mae pobl yn casglu bod llawer o'r sawl sy'n arwain y blaid yn lleol ac yn genedlaethol yn lladron ac yn dwyllwyr.

'Dydi'r Toriaid ddim yn y sefyllfa yma - 'dydi bod yn uwchraddol foesol erioed wedi bod wrth galon eu naratif gwleidyddol, felly 'dydi'r naratif ddim yn datgymalu pan mae'n dod yn amlwg mai moesoldeb lladron pen ffordd sydd ganddynt.