Showing posts with label Glyn Davies. Show all posts
Showing posts with label Glyn Davies. Show all posts

Sunday, September 16, 2012

'Mae'r Byd i gyd yn troi o fy nghwmpas i a Sir Drefaldwyn'

Yn ei flogiad diweddaraf ynglyn a'r materion hynod bwysig o'i ddyfodol gwleidyddol ei hun a dyfodol ei etholaeth mae aelod seneddol Trefaldwyn, Glyn Davies yn honni fel a ganlyn:


If the new boundaries are adopted, the historic seat of Montgomeryshire would be ripped asunder, with the bits cast upon the four winds. My view is that parliamentary democracy as we understand it would be obliterated in mid-Wales. 

Mae'n honni - o ddifri ymddengys - y byddai democratiaeth seneddol yn cael ei daflu i'r pedwar gwynt petai ffiniau ei etholaeth yn cael eu newid. Er eglurder, dim ond dwy etholaeth yng Nghymru sydd heb newid o gwbl yn ystod eu hanes - etholaeth Glyn ac Ynys Mon. Mae ffiniau Ceredigion bellach yn cyd fynd a'r hen ffiniau sirol, ond cafwyd newidiadau yno yn y gorffennol cymharol agos.

Mae pob etholaeth arall yng Nghymru - a dwi'n meddwl fy mod yn gywir i nodi - pob un arall ag eithrio un yng ngweddill y DU wedi cael eu newid yn y gorffennol - y rhan fwyaf ohonynt dro ar ol tro ar ol tro ar ol tro. Mae democratiaeth seneddol wedi goroesi'r newidiadau hyn ym mhob man arall - ond byddai'n cael ei 'ddifa' yn Nhrefaldwyn.

Mae gen i ofn bod Glyn yn creu dadl chwerthinllyd a hysteraidd er mwyn galluogi iddo bleidleisio er ei fudd ei hun - ond yn erbyn budd ei blaid. Anhygoel.

Tuesday, July 31, 2012

Glyn, Maldwyn a'r melinau gwynt

Felly mae Glyn Davies yn bygwth ffeit ddyrnau oni bai bod y berthynas draddodiadol rhwng ei etholwyr a'r broses gynhyrchu trydan yn cael ei chynnal - hynny yw bod y gyfrifoldeb a'r anghyfleustra o gynhyrchu a throsglwyddo trydan yn dod i ran eraill, tra bod trigolion Maldwyn yn defnyddio'r dywydedig drydan. Mi geith Baglan Bay, Dinorwig, Penfro, Glannau Dyfrdwy, Shotton, Port Talbot a Ffestiniog gynhyrchu'r trydan ac mi gaiff Maldwyn ei ddefnyddio. Trefniant neis iawn - i Glyn a'i gymdogion.

Mae'n ddiddorol bod y genadwri yma'n codi ar yr un diwrnod a thoriadau yn y gyflenwad trydan yn India a effeithiodd ar 600 miliwn o bobl.. Mae'r rheswm tros y toriadau yn sylfaenol weddol syml - bwlch rhwng faint o alw sydd yna am drydan a'r cyflenwad y gellir ei ddarparu. Mae'r un peth wedi digwydd ym Mhrydain yn y gorffennol - yn ystod yr Ail Ryfel Byd a streiciau'r glowyr yn y 70au er enghraifft. Yn wir mae toriadau mewn cyflenwadau trydan yn hynod gyffredin ar hyd a lled y Byd - fel y gellir gweld yma.

Rwan mae'r newidiadau mae Glyn eisiau ffeit ynglyn a nhw yn digwydd mewn cyd destun ehangach - llawer ehangach. Gyrrir yr angen i ddod o hyd i ffyrdd amgen o gynhyrchu trydan gan ddau beth - a bwlch rhwng cyflenwad a galw sy'n datblygu oherwydd bod nifer o orsafoedd pwer glo a Magnox yn tynnu tua diwedd eu hoes, a chytundebau mae'r DU wedi eu harwyddo sy'n ei chlymu i gynyddu'r ynni adnewyddadwy mae'n ei gynhyrchu. Mae'r ffaith na fydd cyflenwadau olew Mor y Gogledd ar gael am hir - naill ai oherwydd annibyniaeth i'r Alban, neu'r cwymp naturiol mewn lefel cynhyrchiad yn ychwanegu at y pwysau.

Efallai ei bod werth aros yma i edrych ar ambell i ffaith. Mae'r DU yn gwneud defnydd cymharol drwm o ynni - er mai tua 1% o boblogaeth y Byd sy'n byw yma, gwneir defnydd o tua 2% o'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio tros y Byd. Daw tua tri chwarter y trydan a gynhyrchir yn y DU o bwerdai nwy a glo, gyda niwclear ar tua 15% a dulliau adnewyddadwy yn llai na hanner hynny.

Mae'r DU wedi ymrwymo i gwrdd a tharged o gynhyrchu 15% o'i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2015. Tua 6.7% ydi'r ffigwr ar hyn o bryd. 'Dydi hyn ddim yn darged arbennig o uchelgeisiol - mae targed yr Undeb Ewropeaidd yn ei gyfanrwydd yn 20%, ac mae'r Alban yn bwriadu cyflenwi 100% o'i hanghenion trwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2020. Does yna ddim digon o bwer wedi ei ddatganoli i'r Cynulliad i ddylanwadu ar bethau llawer y naill ffordd na'r llall, a 'dydi llywodraeth Carwyn Jones ddim eisiau'r pwer chwaith. Esiampl arall o ddiffyg uchelgais llwyr y Blaid Lafur Gymreig.

O edrych yn benodol ar ynni gwynt, ar ddiwedd 2009 roedd y DU yn cynhyrchu 3.2% o'i hynni trwy'r dull hwnnw. Y ffigyrau ar gyfer Denmarc oedd 24%, Sbaen 14.4%, Portiwgal 14%, iwerddon 10.1%, Yr Almaen 9.3%. Mae Prydain ymysg prif fewnforwyr trydan y Byd - oherwydd nad ydi'r capasiti presenol yn ddigonol i gwrdd a'n anghenion. Yn wir mae'r Grid Cenedlaethol wedi ei gysylltu a grid yr Iseldiroedd i bwrpas mewnforio trydan.

A daw hyn a ni yn ol at Glyn Davies a rhai o'i etholwyr tymhestlog. Eu hateb nhw i'r bwlch rhwng y cyflenwad a'r galw am drydan sy'n siwr o ddatblygu tros y blynyddoedd sydd i ddod ydi mai mater i bobl eraill ydi mynd i'r afael a'r broblem honno. Problem i eraill hefyd ydi sicrhau bod y DU yn cwrdd a'i haddewidion ynglyn a chynhyrchu trydan o ffynonellau adnewyddadwy. Dim oll i wneud a Maldwyn - dim.

Pan roedd ein holl anghenion trydan yn cael eu cwrdd gan y diwydiant glo, roedd yn dilyn mai'r cymunedau glofaol fyddai'n cynhyrchu'r glo, ac roedd yn synhwyrol i gymunedau cyfagos ei losgi er mwyn creu trydan. Ac rwan mae amgylchiadau wedi newid, ac mae Maldwyn yn fwy addas na'r Rhondda a'r Barri, mae Glyn a'i gyfeillion yn dal o'r farn mai mater i rannau eraill o Gymru a'r DU ydi cynhyrchu trydan o hyd.

Sunday, January 02, 2011

Llwyddiannau Glyn Davies


Ag yntau bellach wedi ei ethol yn Aelod Seneddol Maldwyn, efallai y bydd rhaid i ni ddod i arfer at negeseuon arlywyddol ar ddiwedd pob blwyddyn ar flog Glyn Davies. Yn unol a'r traddodiad o negeseuon arlywyddol, clodfori ei lwyddiannau ei hun ydi un o nodweddion amlycaf neges Glyn.

Un o brif uchafbwyntiau'r flwyddyn iddo wrth gwrs oedd 'achub' S4C:

Also, ensuring that S4C moved forward with a sustainable budget was another 'highlight'

Felly mae gorfodi S4C i gymryd toriad o 25% a symud i gyfundrefn ariannu a allai erydu'r adnoddau sy'n weddill iddi i'r nesaf peth i ddim mewn ychydig flynyddoedd yn 'uchafbwynt''? 'Dydi Orwelaidd ddim yn ansoddair digon cryf rhywsut.

Roedd un peth wedi siomi Glyn yn ystod y flwyddyn fodd bynnag, ac roedd hynny yn ymwneud ag S4C hefyd:

_ _ _even if I have been disappointed by aspects of how the Channel's board has performed.

Hmm, felly mae Glyn yn arenwi gwrthwynebiad Awdurdod S4C i'r newidiadau cynhyrfus mae Jeremy Hunt wedi eu cynllunio ar gyfer y sianel fel un o'r o'r ychydig siomedigaethau iddo eu profi yn ystod y flwyddyn.

Ond 'tydi bywyd yn galed dywedwch?

Tuesday, December 28, 2010

Gorchest Glyn yn y Glaw



Mae'n fater o lawenydd i flogmenai nodi bod y Tori o Faldwyn, Glyn Davies wedi mwynhau ei Wyl San Steffan yn y Trallwng yn cymryd arno i fod yn rhyw fath o arwr yn sefyll yn gadarn yn erbyn y tywydd a rhagfarn.

Mae'n ddiddorol hefyd nodi cymaint mwy o angerdd sydd yn ymysodiadau Glyn ar yr Hunting with Dogs Act nag a lwyddodd i gynhyrchu wrth amddiffyn y Sianel Gymraeg. Efallai y byddai Glyn wedi gwneud mwy o ymdrech i amddiffyn y Sianel petai hela gyda chwn yn cael ei ddarlledu'n fyw arno o bryd i'w gilydd (erbyn meddwl, hwyrach y dylai Awdurdod S4C roi ystyriaeth i'r mater yma yn eu cyfarfod nesaf)

Er, mewn gwirionedd ffug 'angerdd' mae Glyn yn ei ddangos wrth gwrs. Mae plaid Glyn yn rheoli yn San Steffan ar hyn o bryd, a 'does ganddyn nhw ddim y bwriad lleiaf i ddiddymu'r Ddeddf yn ystod bywyd y llywodraeth yma; a hyd y gwn i 'dydi Glyn ddim yn ceisio dyladwadu arnynt i wneud hynny chwaith. Rhyw flogiad bach hunan dosturiol sydd yn gwneud iddo fo'i hun ymddangos yn dipyn o arwr yn sefyll yn y glaw yn erbyn rhagfarn sydd gan Glyn yma - er y byddai ymladd ei achos ar lawr Ty'r Cyffredin yn llawer mwy effeithiol mewn gwirionedd - o safbwynt cael canlyniadau a chadw'n sych. Hel fots heb orfod gwneud llawer ond gwlychu a smalio tantro ydi'r ymarferiad mae gen i ofn.

Ar nodyn cysylltiedig ond gwahanol, mae'n ddiddorol i bol gan ISPOS MORI, a gomiwsiynwyd gan y League Against Cruel Sports, ac a gyhoeddwyd ar Wyl San Steffan ddangos bod 76% o boblogaeth y DU eisiau cadw'r gwaharddiad ar hela llwynogod tra mai 18% yn unig sydd am ei wyrdroi. Mae mwy na hynny yn erbyn hela ceirw ac ysgyfarnogod, ac yn gwbl groes i'r hyn mae Glyn yn ei honni ar ei flog, mae mwyafrif clir iawn o bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn cefnogi'r gwaharddiad hefyd.

Ond, yn y cyfamser, mae'r Countryside Alliance wedi comiwsiynu pol gan ORB lle mae cwestiynau gwahanol yn cael eu gofyn - Do you think that banning hunting and the subsequent requirement to police the ban is a good use of police resources? (62% Na, 33% Ia) a - Do you think that animal rights activists should be allowed to take the law into their own hands for the purpose of protecting wild animals? (Na 85% a Ia 13%).

'Rwan mae cwestiynau'r Countryside Alliance wedi eu llwytho wrth gwrs, ac mae'n ddamniol i'w hachos nad ydyn nhw'n fodlon gofyn y cwestiwn syml os ydi pobl yn cytuno efo'r gwaharddiad neu beidio. Ond mae hefyd yn ymarferiad diddorol o ran nodi pa mor bwysig ydi gofyn y cwestiwn 'cywir' er mwyn cael yr ateb 'cywir' mewn gwleidyddiaeth.

Monday, November 08, 2010

Glyn Davies a dyfodol S4C

Mae blogio Glyn Davies ar y pwnc yma'n dechrau achosi dryswch i mi mae gen i ofn.

I ddechrau mae'r blogiad diweddaraf yn awgrymu mai'r Cynulliad ddylai ariannu S4C. Mae'r syniad yn un digon od fel mae Rhodri Glyn yn ei awgrymu yn Golwg360. Wedi'r cwbl mae'r Cynulliad yn wynebu toriadau o £1.8 biliwn tros gyfnod o bedair blynedd. Ydi hi'n bosibl bod y Swyddfa Gymreig yn bwriadu torri mwy oddi ar y gyllideb trwy'r drws cefn trwy gynyddu ei gyfrifoldebau heb ariannu hynny? Wedi'r cwbl mae Glyn Davies yn is weinidog yn y Swyddfa Gymreig.

Yn ail 'dwi'n ei cael trafferth gweld pam mae Glyn Davies yn ei chael yn anodd i ddeall beth oedd pwrpas y gwrthdystiad ddydd Sadwrn. Mae'n cyfeirio at ddau fater mae'n eu disgrifio fel rhai 'eilradd' - annibyniaeth y sianel a threfn gyllido'r sianel. Ond dydyn nhw ddim yn faterion eilradd - maent yn greiddiol i ddyfodol y sianel. Yn wir byddai gorfod cystadlu ar yr un telerau a gwahanol gydrannau'r BBC yn sicr o arwain at doriadau sylweddol a chyflym yng nghyllideb S4C. Nid fel cydadran o'r Bib nag unrhyw gorfforaeth Brydeinig arall y cynllunwyd y sianel. Dydi hi ddim yn gwneud unrhyw synnwyr mewn cyd destun felly. Ond a bod yn deg efo Glyn Davies 'dwi'n sylwi ei fod newydd fynegi ei fod yn deall pwysigrwydd cynlluniau ariannu ac annibyniaeth y sianel yn nhudalen sylwadau ei flog.

Yn drydydd mae'r broliant bod 'penderfynoldeb a chlyfrwch' ASau Cymreig y glymblaid wedi atal y sianel rhag wynebu gwaeth ffawd o lawer na sydd yn ei haros yn codi cwestiynau. Mae Glyn Davies yn bendant nad oedd gan yr aelodau seneddol unrhyw fewnbwn i'r penderfyniad i greu'r berthynas newydd efo'r BBC, ac os ydi o'n dweud 'dwi'n derbyn hynny. Ond erys dau gwestiwn - beth yn union oedd cynlluniau Jerry Hunt cyn iddo gael y syniad o orfodi'r BBC i gynnal S4C? a sut y gallai 'penderfynoldeb a chlyfrwch' ASau'r Glymblaid o Gymru fod wedi arwain at y sefyllfa sydd ohoni - un sy'n sicr yn hynod amwys i mi, ac un sydd a barnu o'i flog,hefyd yn amwys i Glyn Davies.

Tuesday, November 02, 2010

S4/C, Nick Bourne a Glyn Davies


Mae'n dda gen i nodi bod consensws ymysg arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad ynglyn a'r bygythiad sy'n wynebu S4/C. Mae'n dda gen i hefyd nodi bod y llythyr a anfonwyd ganddynt at David Cameron yn dangos eu bod yn ymwybodol o natur y bygythiad i S4/C - a bod y rheiny yn ymwneud yn uniongyrchol a'r trefniadau cyllido a'r tebygrwydd y bydd annibyniaeth golygyddol y darlledwr yn cael ei golli. Mae'r alwad am ddiddymu Awdurdod S4/C wedi adolygiad llawn hefyd yn awgrymu eu bod yn ymwybodol bod gwendidau arwyddocaol yn y modd y mae'r sianel wedi ei rheoli a'i goruwchwylio tros y blynyddoedd diweddar.

Siom fodd bynnag ydi sylwi nad ydi'r negeseuon yma yn ymddangos i fod wedi treiddio i ymwybyddiaeth y gwleidyddion Toriaidd Cymreig yn San Steffan. Mae blog Glyn Davies yn gwneud hynny'n weddol glir.

Yn wahanol i arweinydd y Toriaid Cymreig, ymddengys bod Glyn yn rhyw feddwl bod llawer i'w ddweud tros y penderfyniad, a rhywsut neu'i gilydd mae'r dyn wedi argyhoeddi ei hun iddo gael yr hyn roedd ei eisiau yn y lle cyntaf (I wanted S4C to continue as an 'independent' Welsh Language channel, funded sufficiently well to provide quality output _ _ _ I'm not sure that I didn't get all that I wanted.). Roedd hefyd yn disgrifio'r gwrthwynebiad eang a thrylwyr i gynlluniau Hunt fel orchestrated outrage.

Er efallai ei bod yn deg nodi fod barn Glyn am y penderfyniad braidd yn gyfnewidiol a'i fod ar adegau eraill yn rhyw feddwl efallai bod yna rhywbeth o'i le ar y setliad arfaethiedig a'i fod yn bwysig ei fod yn dweud ei fod yn gweithio y tu ol i'r llenni i wella pethau.

Cyn i'r penderfyniad gael ei wneud i daflu S4/C ar drugaredd tyner y Bib, roedd Glyn yn hynod flin bod y Gweinidog Treftadaeth a Diwylliant Cymreig, Alun Ffred Jones wedi awgrymu nad oedd Jeremy Hunt (y gweinidog Prydeinig) yn rhyw ymwybodol iawn i bwysigrwydd y sianel i'r iaith Gymraeg. Roedd wedi gwneud ei hun yn fwy blin fyth efo'i ddehongliad bisar o feirniadaeth o grebwyll Jeremy Hunt mewn materion Cymreig, fel ymgais i ddweud mai dim ond Plaid Cymru sy'n poeni am ddyfodol y sianel.

Mae'n ymddangos nad ydi Nick Bourne yn cytuno efo edmygedd ceg agored Glyn o allu rhyfyddol Hunt i ddirnad materion Cymreig - na chwaith bod sefyllfa newydd S4/C yn hynci dori.

Mae yna rhywbeth yn bathetig am flogiad diweddaraf Glyn ar y pwnc, lle mae'n canmol y dylanwad mae ACau Toriaidd Cymru wedi ei gael ar benderfyniadau Hunt (many of whom have been working very hard to ensure that a vibrant independent Welsh Language TV channel continues into the long term).

Y gwir syml amdani yw nad ydi Hunt, hyd yn hyn, wedi cymryd y mymryn lleiaf o sylw o farn yr aelodau seneddol hynny (hyd yn oed os ydi hi'n wir eu bod nhw wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn dadlau tros rhywbeth neu'i gilydd i'w wneud efo'r Sianel). Yn ol ei gyfaddefiad ei hun ni ymgynghorwyd a Glyn (na felly'r Swyddfa Gymreig na'r aelodau seneddol Cymreig) cyn gwneud y datganiad syfrdanol am ddyfodol S4/C. 'Doedd eu barn nhw ddim digon pwysig i fynd i ofyn amdano. Mae'r Swyddfa Gymreig, yr Aelodau Seneddol Toriaidd Cymreig a Glyn ei hun yn amherthnasol, yn ynysig ac yn ymylol o safbwynt y llywodraeth glymbleidiol yn Llundain. Os nad ydi saga S4/C yn ddigon i brofi hynny i chi, meddyliwch am ffawd y swyddfa basports, San Tathan, y morglawdd ar yr Hafren, cynlluniau i uwchraddio is strwythur trafnidiaeth yn y De ac ati.

Gobeithio, wir Dduw, bod mae gan Nick Bourne fwy o ddylanwad.

Wednesday, December 23, 2009

Problem Glyn


Tra bydd Glyn Davies, cyn aelod Cynulliad tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn c'noi ei dwrci y 'Dolig hwn mi fydd rhan o leiaf o'i feddwl ar yr etholiad cyffredinol ym Maldwyn, a'i obeithion o ddiorseddu'r Lib Dem ecsentrig, Lembit Opik. Chwi gofiwch i Glyn ddatgan ei fwriad i sefyll i fynd i San Steffan yn fuan wedi colli ei sedd Cynulliad.

Ar yr olwg, 'does gan Glyn ddim gobaith o gwbl. Unwaith yn unig ers oes yr arth a'r blaidd mae'r Rhydfrydwyr wedi colli'r sedd, ac maent wedi llwyddo i'w dal ar adegau pan nad oeddynt yn gallu dal fawr ddim arall ar hyd y DU. Mae mwyafrif y Lib Dems yn uchel - 24% bron. Er bod y polau 'cenedlaethol' yn awgrymu bod gogwydd oddi wrth y Lib Dems i'r Toriaid, mae'n llawer llai na'r 12% a fyddai ei angen. Ar ben hynny, mae'r Lib Dems yn draddodiadol yn hynod effeithiol am ddal seddi wedi iddynt eu hennill, hyd yn oed pan mae gogwydd cyffredinol yn eu herbyn. Serch hynny, mae yna gryn son wedi bod y gallai Glyn ennill - gan Glyn ei hun ymysg eraill.

Mae'r optimistiaeth hwn wedi ei seilio i raddau helaeth ar y ffaith bod Lembit wedi bod yn treulio cyfran go lew o'r bedair mlynedd a hanner diwethaf yn ymddwyn fel - wel, lembo. Mae yna bethau eraill hefyd- fel mae Glyn yn nodi ei hun, perfformiad cryf y Toriaid yn yr etholaeth mewn etholiadau diweddar, y ffaith bod persona cyhoeddus (o leiaf) Glyn yn fwy atyniadol i'r rhan fwyaf o bobl nag un Lembit, llyfr Sian Lloyd ac mae'r ods mae'r bwcis yn eu rhoi iddo (7/2) yn ddigon rhesymol.

Fodd bynnag, os ydi Glyn am ennill bydd rhaid iddo neidio tros ben un clwyd go fawr. Mae Lembit a Mick Bates yn ennill yn hawdd yn Nhrefaldwyn oherwydd eu bod yn dda am berswadio pobl sy'n gogwyddo tuag at Blaid Cymru neu Lafur i bleidleisio trostyn nhw er mwyn cadw'r Toriaid allan.

Dyma ydi arbenigedd y Lib Dems - cael pobl i fotio iddynt nid am eu bod yn arbennig o hoff ohonynt, ond oherwydd eu bod yn drwg licio rhywun arall mwy. Gallant wneud hyn mewn amrediad o etholaethau gwahanol - maent yn cymryd pleidleisiau oddi wrth Lafur a'r Toriaid yng Ngheredigion ar y sail nad nhw ydi Plaid Cymru, oddi wrth Plaid Cymru a Llafur ym Maldwyn ar y sail nad Toriaid ydynt, ac oddi wrth y Toriaid yng Nghanol Caerdydd am nad ydynt yn Llafurwyr. Rydym wedi edrych sawl gwaith yn y gorffennol ar gam ddefnydd di gywilydd y Lib Dems o graffiau ac ystadegau. Maent yn ddibynol yn aml ar y math yma o beth oherwydd mai eu prif apel ydi'r ffaith nad ydynt yn rhywun arall.

'Rwan, os ydi Glyn i ennill mae'n rhaid iddo droi'r patrwm yma ar ei ben - hynny yw mae'n debyg y bydd rhaid iddo berswadio pobl sy'n gogwyddo tuag at Plaid Cymru a Llafur i bleidleisio'n dactegol tros y Toriaid yn erbyn y Lib Dems. Byddai gwneud hyn yn gryn gamp - un nad oes neb wedi llwyddo i'w chyflawni o'r blaen. Mae'n ymddangos i mi yn llawer mwy tebygol y byddai lled Lafurwyr a lled Bleidwyr sydd methu stumogi Lembit yn mynd yn ol adref at eu pleidiau naturiol.

Os ydi hyn yn digwydd, mae'n dal yn bosibl i Glyn ennill - ond byddai angen gogwydd cryn dipyn yn uwch na 12% oddi wrth y Lib Dems - mae hyn yn bosibl wrth gwrs, ond dydi symudiadau felly ddim yn digwydd yn aml iawn. Mae'n wir bod Maldwyn yn wledig ac yn geidwadol yn ystyr c fach ceidwadiaeth, ond mae hyd yn oed llefydd felly yn llai piwritanaidd heddiw nag y buont. Ac hefyd wrth gwrs, os oes mewath o wirionedd yn y dywediad Saesneg, all publicity is good publicity, mi fydd Lembit yn cael ei ail ethol - er gwaethaf pawb a phopeth - a fo'i hun.