Wednesday, April 08, 2015

Y Bib a Syndrom yr Alban

Fel dwi'n sgwennu hwn dwi'n edrych ar y Bib yn gwneud mor a mynydd o stori'r Cambrian News heddiw - stori sydd wedi ei seilio ar godi ychydig o sylwadau o erthygl cylchgrawn bymtheg mlynedd yn ol a chyflwyno'r rheiny yn ddarniog ac yn absenoldeb eu cyd destun.   Mae'n weddol amlwg bod y papur yn cynhyrchu newyddion i bwrpas gwleidyddol ac i bwrpas pardduo unigolyn sy'n sefyll i fod yn Aelod Seneddol.

Mae hyn yn fy atgoffa o'r ffordd aeth y Bib ati i ddlio efo Project Fear yn refferendwm yr Alban y llynedd.  Roedd pethau yn gweithio rhywbeth fel hyn:

1). Papur newydd sy'n berchen i gwmni o Loegr sy'n erbyn annibyniaeth yn honni y byddai'r pandas yn gorfod gadael Sw Caeredin / y byddai'r Alban yn agored i ymysodiadau o'r gofod / y byddai Putin yn ymosod ar yr Alban / y byddai'r henoed i gyd yn colli eu pensiynau ac ati ac ati os oedd yr Alban yn ennill annibyniaeth.
2).  Y Bib yn arwain ar y stori ac yn mynnu ymateb gan y sawl sydd o blaid annibyniaeth.
3).  Eglurhad yn cael ei roi gan yr ochr Ia.
4).  Papur newydd sy'n berchen i gwmni o Loegr sy'n erbyn annibyniaeth yn honni y byddai'r pandas yn gorfod gadael Sw Caeredin / y byddai'r Alban yn agored i ymysodiadau o'r gofod / y byddai Putin yn ymosod ar yr Alban / y byddai'r henoed i gyd yn colli eu pensiynau ac ati ac ati.
5).  Ac ati, ac ati, ac ati.

Rwan nid gohebu cytbwys a gwrthrychol ydi hyn, dawnsio i diwn gwasg brint unochrog ydi o - tystiolaeth o fethiant y Bib i gynnig cyfeiriad a darpariaeth annibynnol.  Roedd y Bib wedi llwyddo i droi eu hunain yn rhan anatod o ymgyrch hysteraidd o negyddol.

Mae'n amlwg o ddigwyddiadau heddiw, a'r wythnos diwethaf nad ydi'r Gorfforaeth wedi dysgu llawer o brofiad anafus ddechrau'r hydref yn yr Alnan.

7 comments:

Anonymous said...

Tramor ydw i ar hyn o bryd. Pa fath o effaith fydd yn sori'n cael ar y Blaid yn Geredigion?

Cai Larsen said...

Dim cymaint a mae rhai yn hoffi meddwl.

Anonymous said...

Gobeithio bo chdi'n iawn Cai

Anonymous said...

Ar pa sail ti'n dweud hynny, Cai ? Onid ydi hi'n ychydig yn fuan i ddweud ?.

Cai Larsen said...

Ar sail bod wedi edrych ar dwnim faint o etholiadau. Mae yna hw ha mawr un diwrnod - storm gyfryngol, ac wedyn mae yna rhywbeth arall yn codi'r diwrnod wedyn ac mae pawb yn anghofio.

Dafydd Williams said...

Roedd pennawd y Cambrian News yn fwriadol gamarweiniol ac eto mae'r BBC yn dilyn fel ci bach.

Bored of Labour said...

Well said, Wales desperately needs it own media, but the smear has backfired spectacularly, Plaid Ceredigion started a crowdfunder today for Mike for a modest £1,000 and have raised £1,055 in 9 hours

https://www.indiegogo.com/projects/cefnogwch-support-mike-parker-ceredigion#pledges

The fund is open for another 14 days if you want to chip in.