Sunday, June 29, 2014

Tros bwy fydd Louise yn sefyll?


Mae'n lled anarferol i'r Sunday Times roi unrhyw sylw o gwbl i Gymru, heb son am Wynedd, ond am unwaith mae yna stori heddiw o bellafion gorllewinol yr Undeb.  Louise Hughes ydi seren y stori - mae'n debyg ei bod yn cwyno bod Cyngor Gwynedd yn mynnu bod staff cyflogedig yn rhai o ganolfannau hamdden y sir yn siarad y Gymraeg efo cwsmeriaid sydd am siarad y Gymraeg - yn unol a pholisi'r cyngor.

Bydd y sawl sy'n dilyn gwleidyddiaeth Gwynedd yn gwybod bod Louise yn gyn gynghorydd Llais Gwynedd, ond ei bod bellach wedi penderfynu torri ei chwys ei hun wedi i'r grwp ddewis Seimon Glyn yn hytrach na hi i sefyll yn etholiad y Cynulliad, a gwrthod gadael iddi sefyll yn etholiad  San Steffan.  Ymddengys ei bod o'r farn bod hyn yn rhywbeth neu'i gilydd i'w wneud efo hiliaeth honedig ar ran rhai o aelodau Llais Gwynedd.



Ta waeth - mae'n fwy na phosibl y byddwn yn son am Louise eto yn 2015 a / neu 2016.  Mae'r ddynas yn hynod uchelgeisiol, ac mae'n meddwl y byddai'n dda o beth  petai'n cael mynegi ei syniadau - ahem - diddorol mewn talwrn amgenach na Siambr Dafydd Orwig - ym Mae Caerdydd, neu hyd yn oed yn well na hynny yn San Steffan.  Mae o'r farn y byddai'n lais delfrydol i Feirion Dwyfor mewn deddfwrfa genedlaethol.

Ond ar ran pwy fydd yn sefyll?  Mae'n bleser gan Flogmenai gyflwyno prisiau cychwynol:

UKIP 1/5
Toriaid 2/1
Jibio 4/1
Annibynnol 5/1
Monster Raving Loony Party 9/1
Christian Party UK 10/1
Dib Lems 12/1
Llais Gwynedd 15/1
Llafur 33/1
BNP 75/1
Socialist Labour Party 500/1
Sinn Fein 750/1
Respect 1000/1
Islamic Party of Britain 3500/1
Adain wleidyddol y Japanese Golf Religion.4500/1
Plaid Cymru 5000/1




Adolygiadau polisi Llafur

“… this week is a really interesting one where we set up independent reviews to rethink social policy, economic policy, democracy, local government – they come up with ideas and they’re just parked, parked. And instead instrumentalised, cynical nuggets of policy to chime with our focus groups and our press strategies and our desire for a topline in terms of the 24 hour media cycle dominate and crowd out any innovation or creativity…”

John Cruddas

Saturday, June 28, 2014

Mwy o newyddion da i'r Blaid

Mae yna nifer o arwyddion digon cadarnhaol i'r Blaid wedi torri i'r wyneb yn ddiweddar - cadw'r sedd Ewrop - yn groes i'r hyn yr oedd mwyafrif llethol y polau yn awgrymu, symud ymlaen yn sylweddol ar lefel Cynulliad mewn pol ICM a buddugoliaeth mewn is etholiad yn Nhrebannos.

A'r newyddion diweddaraf ydi newyddion am ymarferiad gan YouGov wrth dreialu eu methedoleg.  Gallwch ddarllen am hynny ar flog Roger Scully.  Wna i ddim ailadrodd yr hyn sydd gan Roger i'w ddweud, ag eithrio i nodi bod poblogrwydd Leanne yn cynyddu'n gyflym tra bod Carwyn Jones yn colli peth o'i boblogrwydd.


Rwan ni fyddai'r un o'r arwyddion dwi wedi eu nodi uchod yn arwyddocaol ynddo'i hun, ond o'u cymryd nhw i gyd efo'i gilydd gallwn ddweud bod mwyfwy o le i'r Blaid fod yn obeithiol am ei pherfformiad etholiadol tros y blynyddoedd nesaf.  Fel rydym wedi nodi eisoes y patrwm arferol yng Nghymru ydi i Lafur yng Nghymru  ennill cefnogaeth yn gyflym iawn - a'i gadw - pan mae'r Toriaid mewn grym yn San Steffan.  Roedd yn edrych fel petai'r patrwm yna yn cael ei ailadrodd am ddwy flynedd gyntaf y glymblaid yn San Steffan, ond mae'n dechrau ymddangos bod cefnogaeth Llafur yng Nghymru wedi cyrraedd uchafbwynt tua dwy flynedd yn ol, a'i fod wedi dechrau syrthio'n ol ers hynny.  Yn wir mae yna le i gredu bod y cwymp yng nghefnogaeth Llafur yn cyflymu.

Mae gan y Blaid ddigon o le i fod yn obeithiol wrth fynd i mewn i gyfnod o dair blynedd o etholiadau rheolaidd - San Steffan yn 2015, Cynulliad 2016 ac etholiadau lleol yn 2017.



Thursday, June 26, 2014

Patrymau mudo Caerdydd

Yn sgil Cynllun Datblygu newydd Caerdydd mi ges i rhyw gip bach ar ddogfen sydd  wedi ei pharatoi gan Gyngor y Ddinas i bwrpas paratoi ar gyfer y cynllun - Cardiff Population & Housholds Forcast.  Mae yna gyfoeth o wybodaeth yn yr adroddiad - a dwi wedi dwyn tair delwedd o nifer o rai diddorol.  Mae'r tabl cyntaf yn dangos rhywbeth oedd yn anisgwyl i mi - sef bod mwy o bobl yn symud o Gaerdydd i'r awdurdodau cyfagos na sy'n symud y ffordd arall - er bod poblogaeth Caerdydd yn tyfu'n gyflym wrth gwrs - 35,000 (11.4%) rhwng 2001 a 2011.  Prisiau tai is sy'n gyfrifol am yn RCT, Caerffili, Casnewydd a Phen y Bont yn ol pob tebyg, a phobl gyfoethog yn symud allan sy'n gyfrifol am yr allfudo i Fro Morgannwg.  Mae'n bosibl y bydd y cynllun datblygu newydd yn newid y patrwm yma.

Patrwm arall amlwg iawn ydi bod y twf ym mhoblogaeth y ddinas wedi ei ganoli ar dde'r ddinas - Grangetown, Butetown, Cathays ac Adamsdown.  Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod llawer o'r twf ym mhoblogaeth y brif ddinas yn deillio o fewnfudo o wledydd y tu allan i'r DU.  Dyma'r rheswm pam na chafwyd fawr o gynnydd yn y ganran sy'n siarad Cymraeg yng Nghaerdydd - er bod y niferoedd sy'n siarad y Gymraeg yn cynyddu, roedd y niferoedd o bobl sydd wedi eu geni mewn gwledydd y tu allan i Gymru yn tyfu yn gynt.  Mae hyn wedi arwain at newid eithaf sylweddol ym mhroffil ethnig y ddinas - patrwm sy 'n debygol o gael ei atgyfnerthu gan y datblygiadau tai sylweddol sydd ar y gweill yn sgil derbyn y Cynllun Datblygu.




Tuesday, June 24, 2014

Headbangers?

Ymddengys bod un o wleidyddion mwyaf poblogaidd Iwerddon - un o aelodau seneddol Ewrop De'r Weriniaeth - Brian Crowley wedi colli chwip ei blaid Fianna Fail oherwydd iddo ymuno a grwp yn senedd Ewrop a elwir yn y Conservatives and Reformist Group.

Eglurodd prif chwip Fianna Fail yn y Dail, Seán Ó Fearghaíl ei bod yn anerbyniol i Crowley ymuno a'r grwp yma oherwydd ei fod yn crowd of headbangers.  Toriaid Prydeinig ydi prif gydadran y grwp.

Sunday, June 22, 2014

Mae yna genedlaetholdeb a chenedlaetholdeb

Efallai nad ydi darllenwyr Blogmenai at ei gilydd hefyd yn darllen y Sun yn aml iawn, ond efallai ei bod hefyd werth gwneud sylw neu ddau am yr erthygl isod o eiddo Tony Parsons a ymddangosodd yn y papur yn ddiweddar.  Roedd Mr Parsons - ynghyd a nifer o bobl eraill sy'n 'sgwennu i'r Sun- wedi  cael gwahoddiad i egluro pam eu bod yn falch o fod yn Saeson.  Ymddengys bod Mr Parsons yn falch o'i Seisnigrwydd oherwydd ei fod o'r farn bod ei genedl yn uwchraddol i pob cenedl arall.  Neu i fod yn fwy manwl - a barnu oddi wrth y rhestr o bobl mae'n eu hystyried yn ymgorfforiad o 'athrylith unigryw' ei genedl - mae'n ystyried bod pobl wyn - dynion yn bennaf - o'i genedl yn uwchraddol i bawb arall.

Rwan mae'n hawdd chwerthin ar ben y nonsens yma - honni bod gwlad sydd wedi ymosod ar 90% o wledydd eraill ac wedi concro hanner y Byd yn rhyw fath o wrthbwynt oesol  i orthrwm,-  ond mae yna agwedd digon difrifol iddo.  Mae'r canfyddiad bod Saeson yn uwchraddol i bawb arall yn gred sydd efo gwreiddiau eithaf twfn yn hanes diwyllianol y wlad.  Yn wir defnyddwyd y canfyddiad yma yn Oes Fictoria i gyfiawnhau adeiladu ymerodraeth - a gwnaed defnydd o pob math o mymbo jymbo siwdo wyddonol i gefnogi'r gred - phrenoleg a Darwiniaeth cymdeithasol er enghraifft.  Roedd y gred yma yn rhan o ganfyddiad Ewropiaidd ehangach  - cred a arweiniodd at lawer iawn o ddioddefaint a marwolaeth yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf a'r ganrif flaenorol.

Dydi hi ddim yn ddatblygiad arbennig o gadarnhaol i weld yr hen ideolegau distrywgar yma yn ail ymddangos yn y cyfryngau prif lif Prydeinig cyfoes.  Maent yn ideolegau sydd wedi arwain at drychinebau a dioddefaint ar raddfa Beiblaidd yn y gorffennol, a does yna ddim rheswm i feddwl na ddigwydd hynny yn y dyfodol.

Cenedlaetholdeb cyfrifol ydi cenedlaetholdeb sy'n pwysleisio cydraddoldeb gwledydd a phobl a sy'n cydnabod yr angen i bobloedd gwahanol barchu ei gilydd.  Dydi cenedlaetholdeb Mr Parsons ac eraill yn y cyfryngau prif lif Seisnig ddim yn genedlaetholdeb felly - mae'n feddylfryd hynod negyddol a pheryglus.  Mae'n ffordd o edrych ar y Byd sydd mor gwahanol i genedlaetholdeb Cymreig ag y gallai fod.

No one else on the planet comes close to our creative genius

Sun columnists on why 
they are proud of England

Sex Pistols
Punks like the Sex Pistols make our day
15

I AM proud to be English because this is the most creative corner on the planet.

America comes a deserving second — but nowhere in the world comes close to the creative genius of this green, rain-lashed, endlessly brilliant land.
Lennon and McCartney. Shakespeare and Dickens, Morecambe and Wise. Wilko Johnson and Rudyard Kipling. Morrissey and Marr. George Orwell and George Michael. Turner and Constable. Joe Strummer and Mick Jones. Byron and Shelley. David Lean and David Bowie. Paul Weller and Pete Townshend. The Stone Roses and The Sex Pistols. Graham Greene and Ray Davies. Amy Winehouse and Agatha Christie. John Cleese and Charlie Chaplin. Benny Hill and Buzzcocks.
The English creative spirit is a bottomless well.
For centuries we have entertained and enlightened the rest of the planet with our books, our comedians, our films, our plays, our poetry and our great bands galore.
The English have produced writing that’s endured for 500 years, music that will last for ever, ideas that have entered the consciousness of the entire human race.
Where is the home of Romeo And Juliet, King Lear, 1984 and Heaven Knows I’m Miserable Now?
England. Only England.
For England is a land fit for artists — and heroes.
And I am proud we are a land of heroes, a warrior race that has stood up to oppression and tyrants throughout history (often with the help of our neighbours in Scotland, Ireland and Wales). Military heroes fill our English dreams, and our history books, and every home.
The White Cliffs of Dover has often been in the front line in mankind’s fight for freedom.
William Wilberforce against the obscenity of the slave trade. Churchill against Hitler. Wellington against Napoleon. Drake against the Spanish Armada. And these are just the names in the history books.
There’s every chance that in your own home there is a father or a grandfather or a brother or indeed a sister who fought in the great wars of the last century or in the conflicts of this century. Perhaps there are many of them.
For in every English home there is an unsung hero who fought for freedom. We have stood up to dictators and terrorists throughout our history, and always given them a good kicking.
“Every Blitz your resistance toughening, from the Ritz to the Anchor and Crown,” Noel Coward sang of London in World War Two.
He was also singing of England and a fighting spirit that has never been crushed. England is a land where the past never seems far away. “Every Blitz your resistance toughening.” Isn’t that the eternal spirit of England in five words?
Throughout history the English have confronted every murderous thug on the block and we have never been bullied into submission.
That fills me with a pride that I will take to my grave. I grew up in a city that was still scarred with the bombs of the Luftwaffe.
I was a teenager when the IRA was slaughtering innocent men, women and children (and horses) on the streets of our capital.
And I was in London when al-Qaeda butchers exploded on trains and a bus on 7/7.
They all lost.
And I am very proud of the English relationship to sport — which we practically invented.
If we are sometimes bettered at these sports by others, it’s because they never understood what really counts is how you play the game.
You will see them playing cricket in the West Indies and Pakistan and India and Australia. You will see them kicking footballs in Brazil and Japan and Ghana. You will see them playing rugby in Argentina and Samoa and New Zealand.
The English have invented so many globally popular games on some wet summer afternoon when we were a bit bored.
Raining
Brits are 'blessed' with the weather
Getty
And the English weather!
Oh, how we bitch about it. But the truth is we’re blessed by the English weather.
I have seen earthquakes in Japan, hurricanes in the West Indies, typhoons in the Philippines.
I have sweated buckets in a New York summer and frozen my butt off in the Chicago winter.
The gentle surprises of the English weather are a relief after you have seen what weather looks like in the rest of the world.
How can I explain England to you?
We are a gentle, tolerant, welcoming people and yet ferocious when we are provoked.
We love animals and hate bullies.
We love freedom and we hate people who aren’t polite.
We love our neighbours but never remove our fences.
And we have two unofficial mottos that sum up our English world view.
One is: “Never, never, never shall be slaves.”
The other is: “Mustn’t grumble.”

Saturday, June 21, 2014

Is etholiad Cyngor Tref Pontardawe

Dwi'n hwyr ar hon - ond well hwyr nag hwyrach.

Trebanos

Charlotte Lucy Ford (Plaid Cymru) - 178
Stephen Hayes (Llafur) - 90

Da iawn Charlotte - canlyniad calonogol arall i'r Blaid.  

Monday, June 16, 2014

Faint o bobl sy'n siarad y Gymraeg yn eich ardal?

Diolch i Llyr ab Alwyn am dynnu fy sylw at y wefan hon.  Gallwch ddod o hyd i faint o'ch cymdogion sy'n siarad y Gymraeg trwy roi eich cod post neu enw eich stryd yn y bocs ar ben y dudalen a chlicio tab Culture.

Sunday, June 15, 2014

Y Cymry a bleidleisiodd tros fynd i ryfel yn Irac

Dwi'n gwylio'r newyddion wrth sgwennu hwn - newyddion sydd wedi ei ddominyddu gan y llanast yn Irac.

Cafwyd pleidlais yn Nhy'r Cyffredin ar 18 Mawrth, 2003 ynglyn a mynd i ryfel yn Irac i waredu'r Byd rhag WMDs oedd yn bodoli yn unig yn nychymyg Tony Blair a George Bush.  Bu farw 188,000 o bobl o ganlyniad yn ystod y rhyfel neu yn ystod y blynyddoedd maith o anhrefn a'i ddilynodd.  Mae'n fwy na phosibl y bydd llawer iawn mwy yn marw yn y dyfodol agos mewn gwlad sydd erbyn hyn yn agos at fod yn amhosibl i'w llywodraethu.

Roedd Tony Blair wrthi heddiw yn egluro i ni i gyd mai dim digon o fomio gan y Gorllewin ydi'r broblem - petai awerynnau rhyfel wedi bomio lluoedd llywodraeth Syria mi fyddai pob dim yn iawn.  Mwy o ryfela ydi ateb Tony i bron i pob argyfwng rhyngwladol.

Beth bynnag yr aelodau seneddol Cymreig isod oedd ddigon gwirion i gredu straeon tylwyth teg blaenorol Blair ynglyn a WMDs a phleidleisio tros fynd i ryfela yn Irac.  Aeth gyrfaoedd gwleidyddol y rhan fwyaf ohonynt  rhagddynt yn ddigon del tros y blynyddoedd canlynol fel roedd lladdfa ar raddfa Feiblaidd yn rhwygo trwy ardaloedd tlawd Irac o ganlyniad i'w rhyfel di bwrpas.

Roedd Ms Clwyd yn un o'r prif bropogandwyr tros y rhyfel gyda'i straeon tylwyth teg bisar ei hun - fel rydym wedi ei drafod eisoes.

Jackie Lawrence
Alun Michael
Don Touhig
Chris Bryant
Wayne David
Ann Clwyd
Peter Hain
Kim Howells
Huw Irranca Davies
Paul Murphy
Chris Rusne
David Hanson
Nick Ainger
Donald Anderson

Mwy o anghysondeb gan Lafur

Mae'n ddiddorol bod Owen Smith yn dweud y dylid ymddiried yn y cynghorau i arwain ar ail strwythuro llywodraeth leol yng Nghymru ychydig ddyddiau wedi i Carwyn Jones ddweud rhywbeth oedd yn swnio'n debyg iawn i'r gwrthwyneb.

Rwan mae'n weddol amlwg na fydd llawer o ddim byd yn newid os mai'r cynghorau sy'n arwain y ffordd - mae'r sefyllfa fel ag y mae er budd i gynghorwyr ac i swyddogion cyngor, ond ddim i fawr neb arall.  Dydi cynghorwyr ddim am gytuno i drefn lle mae yna lai o gynghorwyr a dydi swyddogion ddim am gytuno i drefn lle mae yna lai o swyddogion.  Os ydi Owen Smith yn credu bod ei argymhelliad am arwain at newid yna mae'n disgwyl i fodau dynol ymddwyn mewn ffordd sy'n groes i'r natur ddynol.  Ond dydi'r dyn ddim mor wirion wrth gwrs.

Mae'n rhaid edrych ar y sefyllfa yn ehangach i ddeall pam bod Llafur Cymru yn siarad o ddwy ovhr ei cheg ar yr un pryd.  Mae'n adlewyrchu'r tyndra mae datganoli wedi ei greu yn rhengoedd y Blaid Lafur Gymreig.  Mae Carwyn Jones ac aelodau Llafur y Cynulliad am gael eu barnu yng ngoleuni methiant llawer o gynghorau yng Nghymru - felly maent eisiau newid pethau.  Dydi'r Blaid Lafur yn San Steffan ddim yn gorfod poeni am hynny, ond maent yn poeni bod pwysigrwydd aelodau'r Cynulliad yn cynyddu tra bod eu pwysigrwydd nhw eu hunain yn edwino.  Ar rhyw olwg mae'r gwrthdaro rhwng aelodau Llafur yn y Cynulliad ac yn San Steffan yn zero sum game - os ydi'r naill yn ennill grym neu ddylanwad yna mae'r llall yn ei golli.  Gwelwyd adlewyrchiad arall o'r hollt yma yng nghyd destun trethiant yn ddiweddar - Llafur yn cyflwyno dwy neges hollol wahanol.

Mae arwyddocad arbennig i anghysondeb y dyddiau diwethaf  - dydi hi ddim yn glir eto os mai gwrth ddatganolwyr San Steffan 'ta aelodau Llafur y Cynulliad (sydd at ei gilydd yn gefnogol i fwy o ddatganoli) sydd am ennill y dydd.  Ond bydd pwy bynnag sy'n cael y maen i'r wal yn gwneud hynny trwy ennill cefnogaeth actifyddion Llafur ar lawr gwlad - ac un ffordd effeithiol iawn o wneud hynny ydi trwy blesio eu cynghorwyr.  Mae ymyraeth Owen Smith yn siwr o blesio cynghorwyr Llafur mewn ardaloedd fel Merthyr a Blaenau Gwent.

Friday, June 13, 2014

Ydi gwleidyddiaeth etholiadol Cymru yn newid?

Cyn ein bod wedi edrych ar bolau oedd (at ei gilydd) yn anffafriol i'r Blaid yn y misoedd cyn etholiad Ewrop, mi edrychwn ni yn frysiog ar un llawer mwy ffafriol a gyhoeddwyd heddiw gan BBC Cymru / ICM.  Gellir gweld y ffigyrau yn erthygl Golwg360 ar y pwnc.  Cyn mynd ymlaen hoffwn bwysleisio nad ydw i wedi gweld y data manwl eto - os oes rhywun efo mynediad i'r data hwnnw, gadewch i mi wybod plis.

Y peth cyntaf i'w nodi ydi nad yw'n syniad arbennig o dda i wneud gormod o bol unigol - ni ddylid gwan galoni o ddod ar draws un pol gwael, ac ni ddylid gorfoleddu o ddod ar draws un da.  Patrwm a chyfeiriad sy'n bwysig.  Dyna pam bod Roger Scully yn gywir i gyfeirio at gyfeiriad y polau tros gyfnod yn ei flogiad diweddaraf.

Mae'r patrwm mae Roger yn tynnu sylw ato yn un sylfaenol syml.  Mewn cyfnod o ddwy flynedd mae'r polau cyfartalog yn awgrymu i gefnogaeth y Blaid ac UKIP gynyddu, i gefnogaeth y Toriaid aros yn sefydlog, i gefnogaeth y Lib Dems aros yn sefydlog (ond isel iawn) ac i gefnogaeth Llafur syrthio'n sylweddol.  Os ydi'r patrwm yma yn un parhaol mae'n anodd gor bwysleisio ei arwyddocad i wleidyddiaeth etholiadol yng Nghymru.

Mae'r blog yma wedi tynnu sylw sawl gwaith yn y gorffennol at hen, hen batrwm yn hanes etholiadol Cymru - sef bod Llafur yng Nghymru yn adeiladu cefnogaeth yn gyflym ac yn ei gadw pan mae yna lywodraeth Doriaidd yn San Steffan, ond eu bod yn colli peth o'r gefnogaeth honno pan mae Llafur mewn grym yn San Steffan.  Mae yna ambell i eithriad i'r patrwm  (79-83 er enghraifft) - ond maent yn brin iawn.  Roedd yn edrych hyd at 2012 bod yr hen batrwm yma'n dal yn fyw ac yn iach - ond mae'r polau - ac yn wir etholiadau - ers hynny yn awgrymu  bod pethau bellach yn newid.

Mae yna sawl rheswm posibl am hyn - efallai bod mewn grym parhaol yn y Cynulliad yn ddrwg i Lafur o safbwynt creu a chynnal cefnogaeth, efallai bod ymysodiadau'r cyfryngau Seisnig ar lywodraeth Cymru yn cael effaith ar y farn gyhoeddus yng Nghymru, neu efallai bod newidiadau cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru yn erydu pleidlais graidd Llafur - rhywbeth mae rhai wedi ei ragweld   ers tro.

Rwan gall pethau newid eto wrth gwrs, a gall hen batrymau ail sefydlu - ond mae'r hyn sydd wedi
digwydd tros y ddwy flynedd ddiwethaf yn rhoi lle i obeithio bod gwleidyddiaeth etholiadol Cymru yn datgloi a bod pethau am fod yn llawer mwy diddorol ac agored yn y dyfodol nag ydynt wedi bod yn y gorffennol.


Thursday, June 12, 2014

Enwebiaeth Llais Gwynedd ym Meirion Dwyfor

Mae'n debyg nad ydi pwy a ddewisir gan Llais Gwynedd i ymladd etholiad Cynulliad Meirion Dwyfor yn 2016 yn ddim o fy musnes i, ond mi wna i sylw neu ddau beth bynnag.

Yn gyntaf mae yna rhywbeth bisar yn yr honiad gan rai o gefnogwyr Louise bod peidio a dewis rhywun sydd ddim yn siarad y Gymraeg yn dda iawn yn 'hiliol'.  Mae'n un o nodweddion mwyaf blinderus y Gymru gyfoes bod y cyhuddiad o hiliaeth yn cael ei daflu yn aml gan bobl sydd wedi methu  cael rhywbeth neu'i gilydd  a'u bod yn priodoli hynny i'w hanallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r agweddau 'swyddogol' tuag at hiliaeth - y rhai mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu derbyn i rhyw raddau neu'i gilydd erbyn heddiw - yn cael eu llywio i raddau helaeth gan ddeddfwriaeth gwrth hiliaeth a ddaeth i fodolaeth yn y 60au, 70au a 2010.  Pwrpas y ddeddfwriaeth  oedd gwneud yr anffafriaeth cyffredinol ac anymunol a ddangoswyd tuag at bobl o gefndiroedd ethnig gwahanol yn anghyfreithlon.  Mewn geiriau eraill roedd yn amddiffyn pobl oedd a'u gwreiddiau y tu allan i'r DU rhag deilliannau agweddau oedd wedi gwreiddio'n ddwfn mewn cymdeithas yn y DU.  Ac eto mae rhai pobl sydd a'u hagweddau gwaelodol wedi eu gwreiddio yn y gymdeithas honno yn defnyddio'r term i ddadlau y dylent hwy eu hunain gael eu penodi i swyddi nad oes ganddynt y cymwysterau ar eu cyfer, ac y dylent gael mantais mewn prosesau fel yr un sydd wedi gwrthod gwasanaethau Louise.  Wnewch chi byth bron glywed y bobl hyn yn cwyno am hiliaeth sydd wedi ei gyfeirio at bobl o'r tu allan i'r DU.  Yn wir mae yna rai ohonyn nhw yn byw yng nghefn gwlad Cymru oherwydd bod yr ardaloedd hynny yn gwbl 'wyn' o ran ethnigrwydd eu poblogaeth..

Dwi wedi bod i fwy o hystings etholiadol - y digwyddiadau lle dewisir ymgeiswyr gan bleidiau - yn amlach na sy'n ddoeth.  Mi fedra i ddweud efo fy llaw ar fy nghalon mai'r prif ystyriaeth sydd gan y rhan fwyaf o bobl wrth bleidleisio ydi pa ymgeisydd sydd fwyaf tebygol o ennill y sedd - yn achos y Blaid o leiaf.  Mae'n weddol amlwg bod rhywun sy'n gallu siarad y Gymraeg a'r Saesneg yn hytrach na dim ond y Saesneg am gael mwy o bleidleisiau mewn ardal lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn siarad y Gymraeg fel mamiaith.  Mae penderfyniad Llafur i ddewis Alun Puw fel ymgeisydd San Steffan yn Arfon yn un anoeth am yr un rheswm.  Dwi yn gymharol addysgiedig, ac mae gen i radd Saesneg - ond dwi'n llawer hapusach yn cyfathrebu ar lafar trwy gyfrwng y Gymraeg na'r Saesneg.  Mae yna lawer iawn o etholwyr Meirion Dwyfor ac Arfon yn llai cyfforddus eu Saesneg na fi.

Does gan Llais Gwynedd ddim byd i'w egluro yn yr achos yma.  Rhoddodd Louise a Seimon eu henwau ymlaen ar gyfer yr enwebiaeth, dewiswyd Seimon.  Mae'n debygol bod y ffaith bod sgiliau ieithyddol Seimon yn ehangach ac felly yn fwy addas i'r etholaeth oedd un o'r rhesymau am hynny.  Mae aelodau Llais Gwynedd wedi gwneud dewis ymarferol - dydi hyn ddim oll i'w wneud efo hiliaeth.


Hysbyseb


Wednesday, June 11, 2014

Nick Ramsay druan

Peidiwch a chamddeall rwan - fyddwn i ddim yn argymell i neb fynd i'w waith yn feddw - ond mae gen i rhyw ychydig o gydymdeimlad efo Nick Ramsay yn sgil cwyn gan Julie Morgan ei fod yn feddw gocos yn y Cynulliad y diwrnod o'r blaen.  Petai Nick yn gweithio yn San Steffan yn hytrach nag ym Mae Caerdydd go brin y byddai neb yn cymryd fawr o sylw ei fod o dan effaith y ddiod gadarn.

Fel y gellir gweld yma mae'r hogiau (ond nid y genod o bosibl) efo hanes o seshio trwy'r dydd cyn pleidleisio yn Ny'r Cyffredin.  Mi fyddan nhw'n mynd i gwffio o bryd i'w gilydd, ac mae'r arfer yn mynd yn ol o leiaf cyn belled a 1666.  Bydd aelodau weithiau yn cael trafferth i gerdded i'r lobi i bleidleisio heb son am sefyll a gwneud araith fel y gwnaeth Nick.

Ceir 9 bar yn Nhy'r Cyffredin at ddefnydd Aelodau Seneddol a'u gwesteon, ac roedd trosiant y 9 bar yn £1.33m y tro diwethaf i'r ffigyrau gael eu cyhoeddi.  Fel bwyd yr aelodau mae'r trethdalwr yn sybsideiddio eu diota, gyda diodydd yn rhatach yn San Steffan nag yn unman arall ym Mhrydain bron - heb son am ganol Llundain.  Mae'r trethdalwr yn gorfod dod o hyd i yn agos at £6m y flwyddyn i gynnig bwyd a diod i Aelodau Seneddol yn San Steffan am bris gostyngol. Mae eu cyflogau aelodau mainc gefn yn fwy na thair gwaith y cyflog cyfartalog yn y DU.   Mae yna 44,000 potel o win yn seleri Ty'r Cyffredin at ddefnydd y circa 650 aelod.

Druan o Nick - mae'r creadur yn gweithio yn y ddeddfwrfa anghywir.

Sunday, June 08, 2014

Mwy am y cyfryngau Cymreig a'r blogosffer

Ymhellach i fy mlogiad ddoe, mae'n debyg y dyliwn i gyfeirio at nifer o straeon diweddar sydd wedi derbyn sylw yn y blogosffer a sydd heb dderbyn sylw gan y cyfryngau prif lif - hyd iddynt ymddangos ar y We o leiaf.

Aelod Ewrop diweddaraf Cymru - Nathan Gill a'i deulu - ydi gwrthrychau nifer o'r straeon yma.  Mae'n gyfres o straeon digon hyll am fusnes y Gills yn egsploitio mewnfudwyr yn ogystal a nifer o honiadau eraill yn cael eu codi ym mlog Jac o' The North, tra bod straeon ynglyn a thad Nathan Gill yn ymddangos ar flog C'neifiwr - straeon sy'n ymwneud a rhyw a theiars mae gen i ofn.

Rwan mae'r straeon yn ganlyniad newyddiaduriaeth ymchwiliol da gan y ddau flogiwr - ond mae'n ffaith bod llawer (er nad y cwbl)  o'r deunydd sy'n cael ei gyhoeddi yn ddefnydd sydd eisoes ar gael yn gyhoeddus - open source material.  Mae dau flogiwr sy'n 'sgwennu yn eu amser hamdden wedi dod o hyd i straeon na lwyddodd sefydliadau newyddiadurol proffesiynol i'w darganfod - nid eu bod nhw wedi gwneud unrhyw ymdrech i ddarganfod dim wrth gwrs - roedden nhw'n rhy brysir yn darparu Nigel Farage efo cymaint o sylw a phosibl yn yr wythnosau oedd yn arwain at yr etholiad.

Efallai nad oedd y stori a dyrchwyd gan y blog yma ar ddechrau ymgyrch is etholiad Mon - ynglyn ag Alun Michael yn cael ei hun o flaen llys yn ateb cyhuddiadau o enllib mor arwyddocaol a'r straeon am Gill a'i deulu, ond roedd pob dim a ymddangosodd ar fy mlog i yn ddeunydd oedd wedi ei dynnu o ffynonellau agored.  Ni ddangoswyd unrhyw ddiddordeb o gwbl yn y mater gan y cyfryngau prif lif, er y byddai rhywun wedi meddwl y byddai gonestrwydd ymgeisydd blaenllaw mewn is etholiad pwysig yn fater y byddent wedi ymddiddori ynddo.  Ond wedyn wnaethon nhw ddim dangos llawer iawn o ddiddordeb yn yr is etholiad ei hun.

Yn y cyfamser Gareth Clubb ar ei flog yntau gododd y cwestiwn ynglyn a'r posibilrwydd bod Alun Davies wedi torri'r cod ymddygiad trwy ddefnyddio ei ddylanwad fel gweinidog yn llywodraeth Cymru i ddod a mantais i'w etholaeth ei hun.  Mae'r mater o weinidogion yn torri'r cod ymarfer yn derbyn sylw sylweddol yn y cyfryngau Seisnig ar hyn o bryd wrth gwrs yn sgil y ffrae rhwng Michael zgove a Theresa May.  Dydi'r posibilrwydd bod gweinidog wedi torri'r cod ymarfer heb wneud yr un argraff ar y cyfryngau Cymreig - er i'r Western Mail gyfeirio at y stori  bellach.  Doedd  llawer o'r deunydd yn stori Gareth ddim ar gael o ffynonellau agored - ond roedd ar gael trwy ddefnyddio'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth - rhywbeth sydd ar gael i 'r cyfryngau prif lif.

Mi fyddai'r oll o'r uchod yn faterion o ddiddordeb cyfryngol yn Lloegr wrth gwrs - ond Lloegr ydi Lloegr a Chymru ydi Cymru.  

Saturday, June 07, 2014

Newsnight Cymru

Mi wnes i fwynhau sgwrs gan Mabon ap Gwynfor yn y Galeri yng Nghaernarfon heddiw.  Sgwrsio oedd Mabon am y syniad o gael fersiwn Gymreig o Newsnight ar y BBC yng Nghymru - hynny ydi rhaglen materion cyfoes sy'n cael ei darlledu yn ddyddiol yn ystod yr wythnos a sy'n cynnig arlwy o ddadansoddi gwleidyddol yn ogystal a chyfle i holi gwleidyddion, gweinidogion ac ati.  Dadl Mabon ydi y byddai creu darpariaeth reolaidd fel hyn yn dechrau gwneud iawn am rhai o'r diffygion mewn darpariaeth newyddion yng Nghymru ar hyn o bryd - ac roedd ganddo restr hir o esiamplau diweddar o ddarpariaeth anigonol ar ran y gwasanaethau newyddion yng Nghymru.

Rwan i roi fy nghardiau ar y bwrdd ar y cychwyn mae gen i amheuon ynglyn a chaniatau i'r Bib gymryd yr awennau o ran llywio'r ddisgwrs wleidyddol Gymreig.  Wna i ddim ailadrodd y beirniadaethau sydd yn cael eu gwneud yma'n fynych o'r Bib yng Nghymru, ond mae diwylliant mewnol y Bib yng Nghymru yn ei gwneud yn anodd iddynt gynnig darpariaeth materion cyfoes effeithiol.  Tuedda'r Bib i weld ei hun fel un o brif bileri'r sefydliad Gymreig, ac mae hynny'n ei gwneud yn amharod i edrych ar bileri eraill y sefydliad Cymreig trwy lygaid beirniadol.  Mae hefyd yn llawer rhy barod i gymryd arweiniad gan y Bib Prydeinig - sydd yn ei dro yn cymryd ei arweiniad gan y cyfryngau print Seisnig.  Y canlyniad ydi ymdriniaeth geidwadol, di ffrwt, dameidiog a Seisnig o faterion Cymreig.  Serch hynny dwi yn meddwl bod rhinweddau i'r syniad o Newsnight Cymreig.

Fel y bydd darllenwyr cyson y blog yma yn gwybod, roeddwn yn yr Iwerddon tros wyliau'r Sulgwyn.  Roedd etholiadau Ewrop a lleol  newydd gael eu cynnal ar hyd a lled yr ynys, ac roedd y pleidleisiau yn cael eu cyfri fel yr oeddem yn croesi o arfordir y Dwyrain i arfordir y Gorllewin.  Yr hyn oedd yn drawiadol oedd cymaint o ddiddordeb oedd yn y canlyniadau.  Roedd pobl yn dilyn y datganiadau o'r canolfannau cyfri mewn tafarnau, roedd pobl yn trafod y canlyniadau mewn tai bwyta.  Roedd hefyd yn drawiadol bod y cyfryngau torfol yn cymryd yr etholiadau o ddifri - rhaglenni teledu a radio oedd yn parhau i bob pwrpas am ddau ddiwrnod, papurau lleol yn arwain ar y canlyniadau, toriadau ar raglenni arferol pan oedd datganiadau yn cael eu gwneud o'r canolfannau cyfri.  Mewn geiriau eraill roedd y cyfryngau torfol a'r cyhoedd yn ymddiddori yn yr etholiadau mewn modd sydd ddim yn digwydd yng Nghymru.  Roedd diddordeb y naill yn atgyfnerthu diddordeb y llall.

Rwan mae yna resymau penodol am hyn - mae yna ddiwylliant gwleidyddol cryf yn yr Iwerddon sy'n rhoi cymhelliad i'r cyfryngau ddarparu ymdriniaeth gynhwysfawr o wleidyddiaeth sydd yn ei dro yn atgyfnerthu'r diwylliant gwleidyddol.  Mae'r sefyllfa yn hollol wahanol yng Nghymru - mae'r diwylliant gwleidyddol yn wan, tameidiog ydi diddordeb y cyfryngau mewn gwleidyddiaeth Gymreig, ac mae hynny yn ei dro yn atal diwylliant gwleidyddol aeddfed rhag datblygu.

Byddai rhaglen reolaidd o leiaf yn rhoi cychwyn ar greu disgwrs  weleidyddol  aeddfed yng Nghymru.  Peidiwch a fy nghamddeall i - dwi'n derbyn bod yna ddarpariaeth ar gael ar hyn o bryd, a bod rhai rhaglenni (Manylu ar Radio Cymru er enghraifft) gyda pherspectif Cymreig iawn.  Ond mae'r pethau hyn yn wasgaredig a does yna ddim naratif lled gyffredin yn eu clymu nhw at ei gilydd. Byddai rhywbeth rheolaidd o ran darlledu a chyson o ran fformat yn creu ffocws i drafodaeth wleidyddol yng Nghymru.  Dydw i ddim yn credu y gall diwylliant mewnol y Bib newid yn hawdd - ac efallai nad yw'n bosibl iddo newid o gwbl.  Ond yn y pen draw y Bib ydi'r unig beth sydd gennym mewn gwirionedd sy'n gallu cynnig darpariaeth Cymru gyfan - a byddai cam bach i'r cyfeiriad cywir yn well na dim.  A phwy a wyr - efallai y byddai newid bach yn arwain at newid mwy maes o law.

Wednesday, June 04, 2014

Y sensro cwestiynau arferol ar Question Time

Mae'n ddiddorol nad yw'r BBC yn fodlon gadeal i aelod o'r gynulleidfa ofyn cwestiwn ar Question Time ynglyn a'r gwahaniaeth rhwng agwedd UKIP at bobl sy'n symud i Loegr yn dysgu Saesneg a phobl yn symud i Gymru yn dysgu Cymraeg. Ymddengys bod y gorfforaeth o'r farn na fyddai cwestiwn o'r fath efo apel 'digon eang'.

Mi fyddai rhywun sydd ddim yn 'nabod y Bib wedi meddwl y byddai'n ystyried y gallai cwestiwn o'r fath - sy'n  ymdrin a mater  yn y newyddion Prydeinig o ongl ychydig yn wahanol i'r arfer - daflu goleuni  ffresh ar y mater hwnnw.  Ond dydi'r Bib ddim eisiau i faterion gwleidyddol cyfoes ym Mhrydain gael eu harddangos mewn goleuni gwahanol - atgyfnerthu naratifau Prydeinig ydi pwrpas y Bib - y peth diwethaf maen nhw am ei wneud ydi dangos y naratifau hynny mewn goleuni amgen a mwy heriol.  Byddai hynny'n gwneud i bobl feddwl - a Duw a'n gwaredo rhag hynny.  Perspectif amhrydeinig ar wleidyddiaeth Prydain ydi'r peth diwethaf y gallwn ei ddisgwyl gan y Bib.  Mi fedrwn ni ddisgwyl yr un hen gwestiynau un dimensiwn ar y rhaglen mae gen i ofn.

Mae'r stori yn fy atgoffa o'r profiad od braidd o ganfasio cefnogwr UKIP yng Ngwalchmai y llynedd. Eglurodd i mi yn ddigon cwrtais ei fod yn fotio i UKIP oherwydd bod 'na ormod o dramorwyr yn dod i Brydain i gymryd y swyddi i gyd ac nad oedd llawer ohonyn nhw yn gallu siarad Saesneg.  Mi es i ymlaen efo'r sbil canfasio arferol a gofyn iddo pa faterion lleol oedd yn ei boeni.  Yr ateb oedd bod diffyg croeso iddo yng Ngwalchmai oherwydd ei fod yn dod o Loegr a'i fod methu siarad Cymraeg.  Dwi ddim yn meddwl i anghysondeb ei safbwyntiau erioed groesi ei feddwl.

Araith amgen y Blaid


Mae'n arfer bellach i'r Blaid gyhoeddi Araith y Frenhines Amgen ar ddiwrnod Araith y Frenhines yn San Steffan.  Yn wahanol i'r fersiwn San Steffan mae fersiwn y Blaid yn un sy'n berthnasol i Gymru a sydd wedi ei gwreiddio yng ngwerthoedd craidd y Blaid.  Wele'r 'araith' isod.
Mesur (Ariannu Teg) Diwygio Barnett
Byddai’r mesur hanfodol bwysig hwn yn diwygio fformiwla ariannu’r DU sydd, yn ôl ymchwil Comisiwn annibynnol Holtham, yn gweld Cymru ar ei cholled o tua £300-400m y flwyddyn. Mae Plaid Cymru eisiau gweld fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion, nid poblogaeth cenedl. Mae’r Arglwydd Barnett ei hun wedi cydnabod fod y fformiwla bellach yn ddi-werth.
Mesur Isadeiledd
Bwriad y Mesur Isadeiledd yw i fuddsoddi mewn prosiectau isadeiledd Cymreig er mwyn trawsnewid ein rhwydwaith trafnidiaeth (e.e. Metro De Cymru, trydaneiddio prif lein Gogledd Cymru a lein y Cymoedd, adeiladu trydedd pont dros y Fenai, a gwella cysylltiadau ffordd rhwng y Gogledd a’r De) a sicrhau fod Cymru’n cael cyfran deg o wariant ar brosiectau Lloegr-yn-unig megis CrossRail a HS2.
Mesur Tegwch Economaidd
Dyma fesur fyddai’n taclo anghyfartaledd unigol a daearyddol drwy fabwysiadu’r model Almaenaidd o flaenoriaethu ardaloedd difreintiedig ar gyfer buddsoddiad er mwyn ail-gydbwyso’r economi a sicrhau ffyniant ledled y wlad. Yng Nghymru mae rhai o gymunedau tlotaf Ewrop gyfan – byddai’r mesur hwn yn gam tuag at roi terfyn ar y statws hwn.
Mesur Hawliau Gweithwyr
Mae’r Mesur Hawliau Gweithwyr yn cynnig polisiau i amddiffyn a grymuso gweithwyr megis sefydlu comisiwn i archwilio cyflog byw, rhoi terfyn ar gytundebau dim-oriau gorfodol, apwyntio gweithwyr i bwyllgorau gosod cyflogau, ac atal cyflogwyr rhag anfanteisio’r gweithlu cartref drwy dalu llai na’r isasfwm cyflog i weithwyr tramor.
Mesur Adnoddau Naturiol Cymru
Pwrpas y mesur hwn yw i drosglwyddo grym dros adnoddau naturiol Cymru (Ystadau’r Goron) o San Steffan i Gymru fel mai pobl Cymru sy’n elwa fwyaf o’r defnydd o’r adnoddau hyn. Byddai’r mesur yn gwarchod yr adnoddau hyn rhag cael eu hymelwa e.e. defnyddio dŵr Cymru ar gyfer prosiectau ffracio yn Lloegr, fel mae Llywodraeth y DU wedi ei awgrymu.
Mesur Darpariaeth y Gymraeg
Byddai Mesur Darpariaeth y Gymraeg yn llunio deddf newydd yn gorfodi cwmniau preifat ar gytundebau llywodraeth i gydymffurfio â’r Ddeddf Iaith a chanllawiau Comisiynydd yr Iaith, hyd yn oed os ydi eu pencadlys yn Lloegr neu eu bod yn gweithredu o Loegr.
Mesur Twristiaeth a Lletygarwch
Mae’r mesur hwn yn cynnig toriad TAW i’r diwydiant twristiaeth a fyddai’n rhoi’r hwb angenrheidiol i fusnesau, yn enwedig o ystyried fod y tywydd garw diweddar wedi effeithio’n fawr ar y sector.
Mesur Hawliau Dioddefwyr
Diben y mesur hwn yw i roi hawliau i ddioddefwyr trosedd fel nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu hymylu gan y system gyfiawnder. Daw hyn ar ôl i nifer o ffigyrau cyhoeddus, gan gynnwys y cyn-Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Keir Stamer, alw am ail-ystyried y ffordd y caiff dioddefwyr eu trin gam y system gyfiawnder. Byddai hyfforddiant ar y mesur hwn yn orfodol i bob gweithiwr proffesiynol ym maes cyfiawnder troseddol.
Mesur Trais yn y Cartref
Byddai’r Mesur Trais yn y Cartref yn gwneud pob agwedd o drais yn y cartref yn drosedd drwy roi statws statudol i ddiffiniad y llywodraeth o drais yn y cartref, sy’n cydnabod ymddygiad o reoli a gorfodi yn ogystal â thrais corfforol. Byddai hyfforddiant yn angenrheidiol ar gyfer ymarferwyr fel bod ymchwiliadau i honiadau o drais yn y cartref yn flaenoriaeth, yn ogystal â sicrhau fod asesiadau risg yn cael eu cwblhau’n briodol.
Mesur Heddlu a Chyfiawnder Cymreig
Pwrpas y mesur hwn yw creu awdurdodaeth Gymreig arwahan, drwy ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i gynnwys gweinyddu cyfiawnder. Byddai’r mesur yn cynnwys darpariaeth i sefydlu gwasanaeth erlyn annibynnol yng Nghymru, ac i Gymru reoli gweinyddiaeth y llysoedd. Byddai darpariaeth bellach mewn grym i ddatganoli Gwasanaeth Erlyn y Goron; cyfrifoldebau dros y gwasanaeth prawf, carchardai a’r heddlu; a system cymorth gyfreithiol arwahan, ynghyd â darpariaethau eraill yn dilyn pasio Deddf Llywodraeth Cymru newydd. 

Tuesday, June 03, 2014

STV wedi ei animeiddio

Diolch i Dafydd Meurig am anfon linc i wefan sy'n dangos ar ffurf sydd wedi ei animeiddio ganlyniadau etholiadau lleol Iwerddon ddydd Gwener cyn yr un diwethaf.

Bydd darllenwyr cyson Blogmenai yn gwybod fy mod yn hoff o'r dull Gwyddelig - STV - o bleidleisio - yn rhannol oherwydd ei fod yn gyfrannol ac yn rhannol am ei fod yn gwneud diwrnod y cyfri yn wirioneddol gynhyrfus.  Mae'r wefan yn rhoi syniad i chi o'r newidiadau sy'n digwydd yn ystod y cyfri - er ei fod wedi ei gyflymu wrth gwrs - mae cyfri go iawn yn parhau trwy'r dydd, neu weithiau am fwy.  Mae yna rhywbeth  ymlaciol am edrych ar yr animeiddiadau hefyd.

Os ydych efo diddordeb yn y dull hwn o bleidleisio cliciwch yma - er bod y dull Gwyddelig ychydig yn wahanol i'r un a ddisgrifir yn y darn.  Gyda llaw defnyddir STV yn y DU hefyd - ym mhob etholiad ag eithrio rhai San Steffan yng Ngogledd Iwerddon, ac mewn etholiadau lleol yn yr Alban.

Sunday, June 01, 2014

Etholiad Ewrop - ychydig o ffeithiau

Wythnos i heno y cafwyd canlyniadau etholiadau Ewrop, felly am wn i bod rwan cystal amser a'r un i edrych yn ol ar ychydig o ffeithiau.

  • Plaid Cymru oedd y mwyaf llwyddiannus o lawer o ran gael ei phleidlais allan -  O ddefnyddio perfformiad Etholiad Cyffredinol 2010 fel gwaelodlin llwyddodd PC i gael 67% o'r sawl fotiodd trostynt bryd hynny allan. Ffigwr Llafur oedd 54%, un y Toriaid oedd 43% ac un y Lib Dems oedd 10% - roedd rhaid i mi edrych ar honna eto. 
  • Plaid Cymru hefyd gafodd y mwyafrif sirol gorau - yng Ngwynedd.  Cafwyd mwyafrif o 23%. Blaenau Gwent ddaeth nesaf efo mwyafrif o 17% i Lafur.  Os ga i fod yn blwyfol am ennyd, dwi'n bersonol hynod falch hyn.  Mae'r Blaid wedi rheoli yng Ngwynedd ers talwm iawn ac wedi gorfod cymryd penderfyniadau amhoblogaidd.  Dim ond yn ddiweddar mae Llafur wedi ail afael ar rym ym Mlaenau Gwent.  Mae'r canlyniad yn dystiolaeth o allu'r Blaid yng Ngwynedd i gael ei chefnogaeth allan ac i'r graddau mae'n ran o wead bywyd llawr gwlad yng Ngwynedd.
  • Blaenau Gwent oedd efo'r ganran uchaf i blaid gyda 47% i Lafur.  Plaid Cymru oedd efo'r ganran ail uchaf yng Ngwynedd efo 43% - mwy na gafodd Llafur yn RCT, Caerffili, Castell Nedd Port Talbot ac ati.
  • O edrych ar y gwahaniaeth rhwng darogan y polau piniwn ar ddechrau'r etholiad a'r canlyniad ei hun mae'n amlwg mai Llafur gafodd ei niweidio fwyaf gan UKIP a Phlaid Cymru leiaf.
  • Gwnaeth y Toriaid yn llawer gwell nag oeddwn wedi ei ragweld.  Cafwyd cwymp o 3.8% yn umig o gymharu a 2009.  
  • Methodd Llafur i gael eu pleidlais allan mewn nifer o ardaloedd lle mae ganddynt seddi targed.  15% yn unig oedd eu pleidlais yng Ngwynedd (lle mae Arfon yn sedd darged), 23% oedd eu pleidlais yng Nghaerfyrddin (lle mae Dwyrain Caerfyrddin a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn sedd darged a Llanelli yn sedd mae'n ei dal), 18% oedd eu pleidlais yng Nghonwy (lle mae Aberconwy yn sedd darged), a 21% oedd eu pleidlais ym Mhenfro (lle mae Preseli / Gogledd Penfro yn sedd darged yn ogystal a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro).  16% oedd eu pleidlais yn Ynys Mon - sedd maent yn ei dal.  Dwi'n pwysleisio nad ydi edrych ar etholiad Ewrop yn ffordd dda o ddarogan canlyniadau etholiadau cyffredinol - ond mae'r ffigyrau yma yn awgrymu nad ydi peirianwaith llawr gwlad Llafur yn effeithiol yn y lleoedd hyn.
  • Mae gan y Lib Dems seddi San Steffan yng Ngheredigion, Powys, a Chaerdydd.  11%, 13% a 7% oedd eu pleidlais yn y lleoedd hyn.  Cafodd y Blaid dair gwaith eu pleidlais yng Ngheredigion, cafodd y Toriaid ac UKIP ddwy waith eu pleidlais ym Mhowys, a chafodd Llafur bedair gwaith eu pleidlais yng Nghaedydd. 
  • Cafodd y Lib Dems lai na 5% o'r bleidlais yn ugain o ddwy sir ar hugain Cymru.  Ceredigion a Powys oedd yr eithriadau.  Eu canran isaf oedd 1% ym Mlaenau Gwent.
  • Er i Lafur wneud y penderfyniad bisar o wthio eu hail ymgeisydd Jayne Bryant ar y sail ei bod yn dod o Gasnewydd ac yn cefnogi Newport County a Dreigiau Casnewydd / Gwent (gan anghofio nad ydi 95% o'r etholwyr yn byw yng Nghasnewydd), o 1% yn unig y daeth Llafur o flaen UKIP yno.  Duw a wyr pwy mae Nathan Gill yn ei gefnogi.
  • Mae Llafur Cymru yn canmol eu hymgyrch eu hunain i'r cymylau.  A chofio eu methiant i gael pamffledi allan cyn i lawer o bobl bleidleisio, eu defnydd o'r Newport County Strategy, eu methiant i gynnwys dim byd am Ewrop yn eu gohebiaeth, eu methiant i gael neb allan yn gweithio ar lawr gwlad tros y rhan fwyaf o Gymru a'u methiant i wneud unrhyw ddefnydd o gwbl o boblogrwydd eu harwrinydd Cymreig byddwn yn awgrymu'n garedig ei bod yn ymgyrch gwarthus o aneffeithiol.