Wednesday, March 31, 2010

Ffigyrau Mawrth

Record am fis - 4,601 o ymwelwyr unigryw.

Diolch i bawb fu'n ddigon caredig (neu wirion) i alw.

Pedwar rheswm da i bleidleisio i Blaid Cymru


Felly mae'r llinellau sy'n diffinio maes y gad yn yr etholiad sy'n prysur agosau yn glir.

Gallwch bleidleisio i Blaid Cymru er mwyn:


• sicrhau arian teg i Gymru a’r Alban

• gwarchod gwasanaethau lleol a’r mwyaf bregus

• gweithredu i helpu’r economi werdd

• cefnogi twf mewn busnesau

Neu gallwch bleidleisio i'r pleidiau unoliaethol os ydych am weld toriadau mewn gwariant cyhoeddus yng Nghymru.

Beth allai fod yn symlach na hynny?

Tuesday, March 30, 2010

Blogio yn y Gymraeg - ychydig o nodiadau brysiog

Dyma un o'r sylwadau a adawyd yn fy mlogiad diwethaf ar ddiffyg ystyr llawer o ohebiaeth Cymraeg y Lib Dems yn Sir Geredigion.

Beth am flog Penri James:

http://penrijamesceredigion.blogspot.com/2010/03/wwwpenrijamescom.html

Ymgeisydd y Blaid yng Ngheredigion yn cadw blog sy'n 99% uniaith Saesneg.

Ella nad ydi Penri ddim yn gallu sgwennu Cymraeg chwaith.


'Rwan mae'r pwynt yn un perthnasol a gwerth ei drafod. Mae'r rhan fwyaf o ddigon o flogiau gwleidyddol Cymreig yn rhai cyfrwng Saesneg, mae yna un neu ddau sy'n ddwyieithog ac mae yna ychydig sydd trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig

'Dydw i erioed wedi beirniadu cyfrwng blogio neb, ac mae yna reswm am hynny. Yn wahanol i ohebiaeth gwleidyddol sy'n cael ei stwffio trwy dwll llythyrau pawb, does yna neb yn gorfod ymweld a blog oni bai ei fod eisiau gwneud hynny. 'Dwi'n dewis blogio trwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Os nad ydi hynny at ddant rhywun neu'i gilydd, dim problem - gallant beidio ag ymweld a'r blog. Mae eraill yn blogio trwy gyfrwng y Saesneg - os nad ydi pobl yn hoffi hynny, nid oes rhaid iddynt ymweld a'r blog.

Fel rheol mae pobl yn dewis blogio trwy gyfrwng iaith arbennig oherwydd mai trwy gyfrwng yr iaith honno maent yn fwyaf cyfforddus yn ei hysgrifennu. 'Dydi hynny ddim yn wir amdanaf i - gradd Prifysgol Saesneg sydd gen i, a 'dwi'n hapusach yn 'sgwennu trwy gyfrwng y Saesneg na'r Gymraeg. 'Dwi'n blogio trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd fy mod yn teimlo dyletswydd i wneud hynny - mae'r blogosffer gwleidyddol Cymraeg yn fach iawn ac mae'n bwysig i mi bod pob agwedd o fywyd yn cael ei gynrychioli trwy gyfrwng y Gymraeg - ar y We ac yn y cigfyd. 'Dwi'n teimlo bod gennyf gyfraniad bach yn hyn o beth. Mi fyddai'n well gen i petai mwy o bobl sy'n gallu blogio trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud hynny.

Fyddwn i ddim eisiau blogio yn ddwyieithog chwaith - fedra i ddim gweld pwynt. Os ydi rhywbeth ar gael yn y ddwy iaith, mae'r rhan fwyaf o bobl am ddarllen y fersiwn Saesneg. 'Dwi'n deall pam bod rhai blogwyr megis Gwilym yn cyfieithu fwy neu lai pob dim - mae yna bwrpas etholiadol i'w blogiau ac maent eisiau cysylltu a chymaint o bobl a phosibl. Serch hynny mi fyddai'n well gen i weld blogwyr dwyieithog yn 'sgwennu un blogiad yn y Gymraeg ac un arall yn y Saesneg, gan efallai roi eglurhad byr yn y Saesneg pan fydd y blogiad yn Gymraeg fel y bydd Guto yn ei wneud ambell waith.

Mae peidio a chyfieithu pob dim yn egwyddor pwysig ymhell y tu hwnt i fyd blogio - wedi'r cwbl, beth ydi'r pwynt dysgu iaith os ydi pob dim yn cael ei gyfieithu beth bynnag?

I wneud un peth bach yn glir

Mae yna nifer o sylwadau wedi eu gadael ar y blog yma tros yr oriau diwethaf ynglyn a mater nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol a gwleidyddiaeth.

Dim ond gwleidyddiaeth mae blogmenai yn ymhel a fo, o ganlyniad mae gen i ofn na fydd sylwadau felly yn cael eu cyhoeddi. Sori.

Monday, March 29, 2010

Achlustion Anwir fan alcohol Persist

'Dwi'n teimlo fel ymddiheuro i Robin "I live in Gerlan" Millar am fod mor feirniadol o'r llediaith rhyfedd oedd yn britho ei gardiau galw. Wrth ochr y nonsens isod (sydd wedi ei anfon i fyfyrwyr anffodus Aberystwyth) o eiddo Lib Dems Ceredigion mae Cymraeg Robin yn edrych mor gyhyrog a naturiol a Chymraeg Pantycelyn gynt.




'Does gen i ddim o'r geiriau i fynegi pam mor ddi ystyr ydi rhannau o'r llifeiriant gorffwyll yma. Mae'n dda o beth i'r Aelod Seneddol, Mark Williams gymryd y drafferth i olygu'r stwff - Duw yn unig a wyr beth oedd ynddo cyn i Mark fynd ati i'w 'gywiro'. Mae hyd yn oed enw'r blaid - Democratiaid Rhyddfrydol wedi ei gam sillafu. Beth goblyn ydi ystyr mae blad chi yn cyfru, neu wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol pasio cynigion fel un gair yn cynhadledd y gwanwyn i condemnio y tori o cysylltiad rhyngrwyd, ac y bil llyodraeth economi digidol am heb rhoi digon o golwg ar marthu creadigolu a arloeseddu yn ei olygu. Oes gan unrhyw un syniad - unrhyw syniad o gwbl?

'Dwi wedi nodi yn rhywle ei bod yn well gen i weld pobl yn gwneud ymgais i 'sgwennu yn y Gymraeg hyd yn oed os nad yw'n Gymraeg naturiol, nag i beidio a gwneud ymgais o gwbl. Ar ol gweld hwn 'dwi wedi newid fy meddwl. Mae'n well i'r iaith gael ei hanwybyddu na'i mwrdro.

Sunday, March 28, 2010

Ron Davies i sefyll tros y Blaid yng Nghaerffili?

Dyna mae Vaughan yn ei ragweld beth bynnag.

Mae yna awgrym bach arall digon diddorol yn y darn hefyd.

Chwaneg o sterics o Dre'r Sosban

Rydym wedi nodi eisoes bod yna rhywbeth digon hysteraidd am ohebiaeth gwleidyddol Aelod Seneddol Llanelli yn ddiweddar. 'Dydi cyhuddo plaid wleidyddol o frad cenedlaethol ar sail celwydd mae rhywun wedi ei wneud i fyny ei hun (Plaid Cymru MPs openly admit that they would work with the Tories. I see that as a betrayal of the people of Wales) ddim yn arwydd o rhywun sydd mewn rheolaeth llwyr o'i theimladau.

Mae'r ohebiaeth isod yn awgrymu bod yr hysteria wedi cyrraedd y fath binacl nes bod Nia'n cyfogi. Yr hyn sy'n gwneud i Nia deimlo'n gyfoglyd ydi bod 'Plaid Cymru'n codi bwganod ac yn codi ofn ymhlith y mwyaf bregus yn ein cymdeithas'. Yr hyn sydd ganddi mewn golwg ydi bod y Blaid yn lleol ac yn genedlaethol wedi mynegi pryder ynglyn a dyfodol Lwfans Byw i'r Anabl - neu'r DLA a lwfans arall y Lwfans Gofal (Attendance Allowance). Mae lwfansau o'r fath yn hanfodol i lawer o bobl yn rhai o'n hardaloedd tlotaf - llefydd fel Llanelli (lle mae 4,000 yn derbyn y naill lwfans ac 8,000 yn derbyn y llall).

Dyma'r ffeithiau - heb y sterics. Er bod iechyd wedi ei ddatganoli i Gaerdydd, mater sydd o dan reolaeth San Steffan ydi'r gyfundrefn lwfansau a budd daliadau. Mae Papur Gwyrdd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan lywodraeth Llundain yn argymell newid y drefn a thalu'r budd daliadau hyn i gynghorau lleol yn y lle cyntaf yn hytrach nag yn uniongyrchol i'r anabl a'u gofalwyr. Ymhlyg yn y penderfyniad hwn wrth gwrs mae'r gred sy'n nodweddu Llafur - hen a newydd - bod man fiwrocratiaid a chynghorwyr yn gwybod yn well na phobl gyffredin sut y dylent wario eu hadnoddau prin.

'Rwan efallai nad ydi Nia yn ystyried hyn yn broblem. Os felly efallai na fyddai ganddi wrthwynebiad petai ei chyflog swmpus hi a'i holl lwfansau yn ei chyrraedd yn anuniongyrchol - ar ol i Meriel Gravelle a Mark James gael eu bachau ar y job lot yn gyntaf.



Saturday, March 27, 2010

Rhagor o gelwydd gan y Blaid Lafur

'Dwi'n ymwybodol bod y blog yma wedi dangos diddordeb yn nulliau'r Lib Dems o gamarwain yn y gorffennol (mwy am hyn maes o law). Serch hynny mae'n rhaid cyfaddef nad oes neb wedi bod cystal am jyst dweud celwydd na Phlaid Lafur Tony Blair. Roeddwn yn rhyw obeithio y byddai pethau'n wahanol pan newidwyd arweinydd - ond fel mae'r clip yma yn ei ddangos mae Llafur Brown mor gelwyddog a Llafur Blair.



Diolch i Alan am ddwyn fy sylw at y stori.

Mwy o ganlyniadau gwael i'r Toriaid

Mae'r etholiad sydd yn gyflym agosau yn un digon rhyfedd. 'Dwi'n ddigon hen i gofio ddwy etholiad cyffredinol diwethaf pan cafodd grym ei drosglwyddo rhwng y pleidiau unoliaethol mawr - y naill yn 79 pan gafodd Llafur Callahagn ei guro gan Doriaid Thatcher, ac yn 97 pan sgubwyd Blair i 10 Downing Street.

Ar y ddau achlysur yna roedd yna ymdeimlad amlwg o lif cryf y tu ol i'r blaid a enilliodd. Roeddwn yn meddwl am hynny y bore 'ma wrth edrych ar ganlyniadau is etholiadau lleol nos Iau. Dyma'r canlyniadau (wedi eu copio a'u pastio o'r wefan yma):

Mid Suffolk DC, Haughley and Wetherden

Green 444 (61.0;+45.4), Con 176 (24.2;-20.9), Lib Dem 51 (7.0;-32.4), Lab 32 (4.4;+4.4), UKIP 25 (3.4;+3.4)
Majority 268. Turnout 41.57%. Green gain from Con. Percentage change is since May 2007.

Bracknell TC, Old Bracknell Town

Lab 380 (41.9), Con 370 (40.8), Lib Dem 107 (11.8), Green 49 (5.4)
Majority 10. Turnout 22.4%. Lab gain from Con.

Colwyn Bay TC, Glyn

Lab 150 (31.8), Plaid 121 (25.6), Lib Dem 78 (16.5), Ind 62 (13.1), BNP 35 (7.4), Ind 26 (5.5)
Majority 29. Turnout 15.5%. Lab gain from Ind.

Nailsworth TC

Ind 661 (40.6), Lib Dem 531 (32.6), Ind 436 (26.8)
Majorities 225 / 95. Turnout 21.2%.


Dau ganlyniad siomedig i'r Toriaid a dwy ornest lle nad oedd ganddynt hyd yn oed ymgeisydd. Mae hyn yn rhan o batrwm ehangach - maent yn cael canlyniadau siomedig (rhai yn llawer, llawer mwy siomedig na'r rhain) yn rheolaidd ar nosweithiau Iau.

Mae'r rheswm yn eithaf syml - fel ambell i dim pel droed maent wedi brigo (os mai dyna'r term Cymraeg am peaked) yn rhy gynnar, ac maent eisoes ar y ffordd i lawr yr allt cyn cael eu hethol. Felly os byddant mewn llywodraeth fis nesaf, byddant eisoes wedi hen fynd heibio uchafbwynt eu poblogrwydd, a byddant yn wynebu penderfyniadau anodd a mis mel hynod o fyr efo'r etholwyr.

Mi fydd hyn yn newyddion drwg i'r sawl fydd yn sefyll trostynt yn etholiadau'r Cynulliad (a Senedd yr Alban) y flwyddyn nesaf. Gallai'r etholiadau hynny brofi i fod yn rhai hynod o anymunol iddynt.

Croeso Robin

Ymddengys bod yr ymgeisydd Toriaidd yn Arfon, Robin (my home is in Gerlan) Millar yn un o ddarllenwyr y blog hwn - naill ai hynny neu bod rhywun arall hefyd wedi tynnu ei sylw at y llediaith rhyfedd oedd yn britho ei gerdyn galw.

Ta waeth - croeso Robin os wyt ti yno. Mae'n dda deall dy fod wedi bod yn ffonio o gwmpas i chwilio am gyfieithydd - er dy fod wedi bod ar ol ambell un go anisgwyl.

Y cerdyn gwreiddiol:



Yr ymdrech ddiweddaraf:

Friday, March 26, 2010

O na byddai'n haf o hyd!

Mae'n ddiddorol nodi bod Llais Gwynedd wedi datblygu aeddfedrwydd gwleidyddol a dealltwriaeth strategol o wleidyddiaeth etholiadol yn yr ychydig flynyddoedd ers iddynt ddod i fodolaeth.

Er enghraifft, maent wedi gwneud galwad yn ddiweddar i'r haf ymddangos ym mis Mawrth - cyn i'r dail flaguro, cyn i lawer o'n Cennin Pedr flodeuo, pan bod rhai eirlysiau allan o hyd ac yn ystod y tymor wyna.

Fel esiampl o uchel strategaeth etholiadol mae'r cam yma yn feistrolgar. Prif broblem etholiadol Llais Gwynedd ydi nad ydynt ond yn apelio at grwp cyfyng o bobl ar hyn o bryd, sef pobl nad ydynt yn hoffi Plaid Cymru a sy'n digwydd byw yng Ngwynedd. Trwy alw am i'r haf gael ei ymestyn tros y rhan fwyaf o'r flwyddyn bydd Llais Gwynedd yn ehangu ei apel etholiadol i bob grwp cymdeithasol a chymdeithasegol ym Mhrydain ag eithrio'r bobl hynny sy'n gweithio yn y diwydiant sgio yn yr Alban.

Clyfar iawn wir.

Thursday, March 25, 2010

Llongyfarchiadau i David Cameron

Mae'n anodd gor bwysleisio mor feistrolgar ydi perfformiad Dave yn y cyfweliad isod efo'r cylchgrawn Gay Times.

Pwy all amau bellach nad yw'r Toriaid yn dilyn agenda hawliau cyfartal?


Wednesday, March 24, 2010

Llafur angen pob pleidlais yn Llanelli

Nid fi sy’n dweud hynny ond Nia Griffiths – Aelod Seneddol Llanelli – and for me to be re elected as your Labour MP in Llanelli every vote counts.

Ar yr olwg gyntaf mae’n anodd gweld pam bod aelod gyda 20% o fwyafrif wedi cael ei hun yn y fath banic bod rhaid iddi anfon at pob etholwr unigol yn crefu am eu pleidlais ac yn dweud wrthynt bod pob pleidlais unigol o’r pwysigrwydd eithaf.


O graffu o dan yr wyneb fodd bynnag mae’n hawdd gweld pam. Ers perfformiad cryf Nia yn 2005 mae Llafur wedi wynebu tri etholiad gwirioneddol drychinebus yn Llanelli – etholiad y Cynulliad yn 2007, etholiadau cyngor yn 2008 ac etholiadau Ewrop yn 2009. Mae’r tri pherfformiad wedi bod yn waeth nag unrhyw berfformiad arall gan Lafur yn yr etholaeth ers canrif. Mae hefyd wedi bod ymhlith eu perfformiadau gwaethaf tros Gymru yn ystod cyfnod diweddar gwael iawn i Lafur. Mae trychinebau hyn oll wedi digwydd yn ystod cyfnod Nia fel y prif wleidydd Llafur yn yr etholaeth. O edrych ar bethau o’r cyfeiriad hwnnw ‘does ryfedd nad ydi Nia yn edrych ymlaen rhyw lawer i wynebu’r etholwyr.


Mae’r ohebiaeth yn codi nifer o gwestiynau eraill digon diddorol hefyd. Er enghraifft pryd cafodd Nia droedigaeth i fod o’r farn y dylid mynd ati i ddiwigio Barnett? Yn sicr roedd yn amddiffyn y gyfundrefn bresennol gwta flwyddyn yn ol ar CF99 mewn trafodaeth gydag Helen Mary Jones. Gallai’r gyfundrefn roedd yn ei hamddiffyn fod wedi costio hyd at £241 miliwn i etholaeth Llanelli tros gyfnod o ddegawd. Bellach ymddengys ei bod o’r farn mai dim ond Llafur all ddiwigio’r drefn.


Neu beth am hon? Mae’n rhestru gwahanol fudd daliadau sydd (meddai hi) o dan fygythiad os caiff y Toriaid eu hethol – ond dydi hi ddim yn son dim am Lwfans Byw i'r Anabl na Lwfans Gweini – mae yna gryn le i gredu y bydd Llafur yn cael gwared o’r ddwy lwfans os cant eu hail ethol, ac mae Plaid Cymru wedi bod yn rhybuddio bod y newidiadau hyn ar y gweill ers tro. Ydi Nia yn anuniongyrchol yn cadarnhau hyn trwy eu gadael allan o’i rhestr?


Beth bynnag mae’r crefu am pob pleidlais a goslef hysteraidd rhannau o’r llythyr yn awgrymu bod Nia’n poeni'n ddirfawr. Gallai pethau fod yn ddiddorol yn Nhre’r Sosban tros yr wythnosau nesaf.



Tuesday, March 23, 2010

Gobyldigwc a'r gasgen borc

Mae'n rhaid gen i bod Derwydd y Goban Las o Ynys Mon wedi torri rhyw fath o record wrth ymateb i fy meirniadaeth ohono. Dyma'r ymateb hiraf i mi erioed ei chael. Gellir gweld y feirniadaeth honno yma. Cyn mynd ymlaen mae'n debyg y dyliwn gynnig canmoliaeth lle mae canmoliaeth yn haeddianol. Mae ei ymateb yn berthnasol i'r pwyntiau yr oeddwn i'n eu gwneud ac yn hollol rhydd o'r sterics, y myllio, y tantro a'r sylwadau personol sy'n nodweddu ymatebion ambell un sy'n derbyn berirniadaeth wleidyddol ar y blog hwn. Yr unig gwyn sydd gen i ydi pan mae'n dweud ar ddiwedd ei lith fy mod yn darogan clymblaid SNP / Plaid Cymru / Llafur. Mae'n amlwg o fy ngeiriad mai dweud ei fod yn un posibilrwydd oeddwn i. Serch hynny at ei gilydd mae'n ymateb aeddfed, a dyna pam 'dwi'n ymateb iddi gyda pheth manylder.

Ta waeth aeddfed neu beidio, mae'r ymateb yn wallus. I dorri stori hir yn fyr mae'r Derwydd yn ymateb yn bennaf i sylwadau a wnes i oedd yn awgrymu ei fod yn Dori, ei fod yn gyndyn i gyfaddef hynny tra'n cam ddefnyddio ystadegau i hyrwyddo achos y Toriaid ar Ynys Mon. Roedd y Derwydd yn ei flogiad gwreiddiol trwy'r defnydd o pob math o nonsens ystadegol hynod amheus wedi dod i'r casgliad mai 1% oedd y tebygrwydd y byddai Plaid Cymru mewn clymblaid ar ol yr etholiad. Mae dod i gasgliad mor gysact ynddo'i hun yn awgrymu bod yna ddrwg yn y caws. Petai'n bosibl rhagweld digwyddiadau gwleidyddol mor fanwl byddai'r Derwydd yn gwastraffu ei amser yn blogio - gallai ddod yn ddyn cyfoethog iawn mewn dim amser trwy ddefnyddio ei ddawn ar y marchnadoedd betio.

Craidd dadl ystadegol y Derwydd ydi'r dechneg tra amheus o ddod o hyd i gymedr polau piniwn tros gyfnod o fis - ac roedd y mis dan sylw yn gorffen nifer o ddyddiau cyn i'r blogiad gael ei 'sgwennu - a'r defnydd o ddull cyfieithu canrannau pol piniwn i seddi ar raddfa Prydain gyfan sydd wedi ei ddyfeisio gan Martin Baxter. Mae'r ddau ddull yn broblematig a dweud y lleiaf. Tra fy mod yn hoff o wefan (a methedoleg) Mr Baxter, mae'n weddol amlwg ei fod yn defnyddio dull sy'n gweddu i gyfundrefn tri phlaid, nid i un pedair plaid fel a geir yng Nghymru. Yn wir mi fydd yn ddiddorol gweld pa mor effeithiol fydd y calcalus yn Lloegr gyda'r pleidiau llai yno yn debygol o berfformio'n gryf yn ol pob tebyg.

Mae defnyddio cymedr polau yn fwy amheus fyth. 'Does yna ddim mewath o dystiolaeth i awgrymu bod y dull hwn yn un sy'n ddefnyddiol o ran rhagweld canlyniad etholiad - hyd yn oed pan mai polau diweddar sydd wedi eu defnyddio. Os oes patrwm o ran dewis pa bol ydi'r gorau, mae'n debyg mai polau sydd o fewn yr amrediad arferol, ond sydd hefyd yn agos at eithafion yr amrediad hwnnw sy'n tueddu i fod yn gywir. Mae cynnwys polau sydd wedi dyddio cymaint yn cymhlethu'r broblem yn sylweddol - mae tirwedd etholiadol yn newid yn gyflym. Petai cymedr pob pol am fis yn gywir, Kinnock fyddai wedi ennill yn 92, Heath yn 74 a Wilson yn 70. Kenny ac nid Cowen fyddai prif weinidog Iwerddon heddiw hefyd. Mae polau unigol diweddar yn awgrymu bod pob canlyniad yn bosibl - o rhywbeth yn ymylu ar fuddugoliaeth lwyr i Lafur (cofier, gall Llafur 'ennill' gyda chryn dipyn llai o bleidleisiau na'r Toriaid) ar ei liwt ei hun i gwahanol glymbleidiau i fuddugoliaeth swmpus i'r Toriaid.

Neu i roi pethau mewn ffordd arall mae'r Derwydd yn defnyddio gwefan Baxter sydd wedi ei modelu ar gyfundrefn tair plaid ac yn dod o hyd i gymedr poliau o'r gorffennol i wneud hynny, er nad oes yna unrhyw le o gwbl i feddwl bod dod o hyd i gymedr poliau (cymharol ddiweddar) yn fwy effeithiol na dewis pol ar hap. Mae'r fethodoleg yn wirion, ond mae'n creu canlyniad mae'r Derwydd yn ei hoffi.

Mae'r honiad gan y Derwydd nad yw'n Dori mewn gwirionedd ond ei fod yn gogwyddo tuag atynt am bod Plaid Cymru a Llafur wedi 'methu' Ynys Mon eto'n amheus. Mae Ieuan Wyn yn cael y bai oherwydd ei fod wedi cynrychioli'r Ynys ers 1987, a Llafur oherwydd iddynt fod mewn grym ers 97. Ond y Toriaid oedd mewn grym o 79 i 97, ond dydyn nhw ddim yn gorfod ysgwyddo'r bai am broblemau economaidd Mon. Petaen nhw, byddai'r Derwydd yn gorfod cefnogi Rogers neu'r cyn farman o Lanelwy (chwedl yntau).

Mae blogmenai yn llawn dderbyn bod llywodraethau yn Llundain wedi methu edrych ar ol buddiannau economaidd Ynys Mon yn benodol a Gorllewin Cymru yn gyffredinol. Yn wir mae'n rhan o genhadaeth y blog yma na all Cymru ffynnu yn economaidd hyd yy bydd yn gyfrifol am ei thynged economaidd ei hun.

Mae diffiniad y Derwydd o swydd aelod seneddol yn un Gwyddelig iawn ('dwi'n gwybod bod Y Fam ynys a'r Ynys Werdd yn agos). Mae'n arfer yno i'w haelodau etholedig geisio ennill dylanwad er mwyn gallu allgyfeirio adnoddau i'w hetholaeth eu hunain a felly adeiladu cefnogaeth wleidyddol - gwleidyddiaeth casgen borc neu wleidyddiaeth y gombin ydi hyn yn y bon. Clientism fyddai'n derm arall. 'Dwi ddim yn amau bod y math yma o beth yn digwydd yn y DU, ond 'dydi o ddim mor gyffredin, a does yna fawr neb yn ei ystyried yn ymddygiad gwleidyddol priodol. Dyma pam bod Sir Benfro yn agos at waelod cynghreiriau datblygiad economaidd Cymru (a Phrydain) trwy gydol amser Nick Edwards fel Ysgrifennydd Gwladol tros Gymru.

Problem Ynys Mon ydi problem gweddill Cymru, ac yn arbennig felly y gorllewin. Mae'n cyfundrefnau trethiannol, a'r polisiau economaidd yr ydym yn gaeth iddynt yn amhriodol i ardaloedd gwledig ar gyrion Ewrop. Yr unig ffordd o newid hynny ydi trwy redeg ein economi a'n cyfundrefn drethiannol ein hunain - a'r unig ffordd o symud i'r cyfeiriad hwnnw ydi trwy bleidleisio i Blaid Cymru. Dydi chwilio am gombin o wleidydd i dyrchu o gwmpas am gasgenni porc ddim am fynd i'r afael a gwir broblemau Ynys Mon.

Monday, March 22, 2010

Llafur - y blaid sy'n cefnogi haint?


Newydd ddod ar draws un o'r darnau o ohebiaeth etholiadol mwyaf proffesiynol 'dwi wedi ei weld ers tro - llyfryn mae Llafur yng Nghymru wedi ei gynhyrchu ar gyfer eu haelodau a'u hactifyddion. Mae'r cynnwys yn y pen draw yn sbwriel o'r radd eithaf wrth gwrs, ond mae hefyd yn effeithiol. Mae'r llyfryn wedi ei rannu yn ol y themau mae Llafur eisiau cwffio'r etholiad arnynt ac mae pob adran yn cynnwys dadleuon simplistaidd (a rhannol wir ar y gorau) y gellir eu defnyddio yn erbyn pob un o elynion gwleidyddol Llafur. Mae'n wir bod dyn yn teimlo'n anghyfforddus braidd wrth edrych ar y wen sbwci ar wyneb Gordon Brown ar y dudalen flaen, ond dyna fo.



Un mater bach arall - pam goblyn bod y nyrs yn yr adran ar iechyd wedi ploncio ei phen ol ar wely'r claf? Petai'r sawl sydd wedi cynhyrchu'r llyfryn yn gwybod rhywbeth am y Gwasanaeth Iechyd byddai'n ymwybodol bod y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau yn gwahardd staff a hyd yn oed ymwelwyr ag ysbytai rhag eistedd ar wely yn enw obsesiwn diweddaraf y wasanaeth - rheoli haint - infection control. Mae'n weddol amlwg bod yna rhyw gymaint o sail i'r mesurau rheoli haint sydd wedi eu cyflwyno i ysbytai yn ddiweddar, wedi'r cwbl mae MRSA yn broblem enbyd. Gellir yn hawdd ddeall pam bod ymwelwyr a wardiau yn cael eu hannog i ddi heintio eu dwylo cyn mynd i mewn. Mae'r arfer o wahardd blodau ac eistedd ar welyau yn ymddangos i mi i fynd yn rhy bell, ond os gellir dangos eu bod yn lleihau'r tebygolrwydd o ledaenu haint, mae'n debyg bod modd eu cyfiawnhau. Ymateb i bwysau o lefel lywodraethol mae'r ymddiriodolaethau pan maent yn cyflwyno mesurau fel hyn wrth gwrs.

Ta waeth - mae'r ffaith nad yw Llafur yn cael eu hunain yn rhoi llun ar eu propoganda sy'n dangos nyrs yn gwneud rhywbeth sydd yn ol llawer o ymddiriodolaethau yn arfer ddrwg yn ddadlennol i'r graddau ei fod yn dangos un gwirionedd syml. Mae Llafur yn hoff o'r Gwasanaeth Iechyd oherwydd ei fod yn boblogaidd, ei fod wedi ei gysylltu efo Llafur yn annad yr un plaid arall a'i fod yn ennill pleidleisiau iddynt. Petai haenen etholedig Llafur yn cael mwy i'w wneud efo'r Gwasanaeth - hynny ydi mynd i ysbytai a siarad efo gweithwyr iechyd fel bod ganddynt rhyw syniad o'r materion cyfredol sy'n wynebu'r gwasanaeth - yn hytrach nag edrych arno o hirbell fel sbwnj i wasgu pleidleisiau ohono - efallai y byddai'r wasanaeth yn fwy cost effeithiol, ac na fyddai rhaid gwahardd pobl rhag eistedd ar wely a dod a blodau i'r ysbyty.

Sunday, March 21, 2010

Llafur - y blaid sy'n cefnogi haint?


Newydd ddod ar draws un o'r darnau o ohebiaeth etholiadol mwyaf proffesiynol 'dwi wedi ei weld ers tro - llyfryn mae Llafur yng Nghymru wedi ei gynhyrchu ar gyfer eu haelodau a'u hactifyddion. Mae'r cynnwys yn y pen draw yn sbwriel o'r radd eithaf wrth gwrs, ond mae hefyd yn effeithiol. Mae'r llyfryn wedi ei rannu yn ol y themau mae Llafur eisiau cwffio'r etholiad arnynt ac mae pob adran yn cynnwys dadleuon simplistaidd (a rhannol wir ar y gorau) y gellir eu defnyddio yn erbyn pob un o elynion gwleidyddol Llafur. Mae'n wir bod dyn yn teimlo'n anghyfforddus braidd wrth edrych ar y wen sbwci ar wyneb Gordon Brown ar y dudalen flaen, ond dyna fo.



Un mater bach arall - pam goblyn bod y nyrs yn yr adran ar iechyd wedi ploncio ei phen ol ar wely'r claf? Petai'r sawl sydd wedi cynhyrchu'r llyfryn yn gwybod rhywbeth am y Gwasanaeth Iechyd byddai'n ymwybodol bod y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau yn gwahardd staff a hyd yn oed ymwelwyr ag ysbytai rhag eistedd ar wely yn enw obsesiwn diweddaraf y wasanaeth - rheoli haint - infection control. Mae'n weddol amlwg bod yna rhyw gymaint o sail i'r mesurau rheoli haint sydd wedi eu cyflwyno i ysbytai yn ddiweddar, wedi'r cwbl mae MRSA yn broblem enbyd. Gellir yn hawdd ddeall pam bod ymwelwyr a wardiau yn cael eu hannog i ddi heintio eu dwylo cyn mynd i mewn. Mae'r arfer o wahardd blodau ac eistedd ar welyau yn ymddangos i mi i fynd yn rhy bell, ond os gellir dangos eu bod yn lleihau'r tebygolrwydd o ledaenu haint, mae'n debyg bod modd eu cyfiawnhau. Ymateb i bwysau o lefel lywodraethol mae'r ymddiriodolaethau pan maent yn cyflwyno mesurau fel hyn wrth gwrs.

Ta waeth - mae'r ffaith nad yw Llafur yn cael eu hunain yn rhoi llun ar eu propoganda sy'n dangos nyrs yn gwneud rhywbeth sydd yn ol llawer o ymddiriodolaethau yn arfer ddrwg yn ddadlennol i'r graddau ei fod yn dangos un gwirionedd syml. Mae Llafur yn hoff o'r Gwasanaeth Iechyd oherwydd ei fod yn boblogaidd, ei fod wedi ei gysylltu efo Llafur yn annad yr un plaid arall a'i fod yn ennill pleidleisiau iddynt. Petai haenen etholedig Llafur yn cael mwy i'w wneud efo'r Gwasanaeth - hynny ydi mynd i ysbytai a siarad efo gweithwyr iechyd fel bod ganddynt rhyw syniad o'r materion cyfredol sy'n wynebu'r gwasanaeth - yn hytrach nag edrych arno o hirbell fel sbwnj i wasgu pleidleisiau ohono - efallai y byddai'r wasanaeth yn fwy cost effeithiol, ac na fyddai rhaid gwahardd pobl rhag eistedd ar wely a dod a blodau i'r ysbyty.

Thursday, March 18, 2010

Lib Dems Ceredigion eto

O lle maen nhw'n cael y pres dywedwch?

Ers y Nadolig mae yna bedair taflen gyffredinol (yn hytrach na'r rhai sydd wedi eu hanelu yn benodol at ffermwyr, myfyrwyr ac ati) wedi eu hanfon trwy'r post at etholwyr anffodus Ceredigion. Roedd y tair cyntaf wedi eu hargraffu yn Llundain, Didcot a Bryste, er i'r olaf gael ei hargraffu yn yr etholaeth.

Mae'r ffaith mai trwy law'r Post Brenhinol y bydd y deunydd yn cyrraedd yn adrodd cyfrolau am gyflwr y Lib Dems ar lawr gwlad yn yr etholaeth. Mae anfon gohebiaeth trwy'r dull hwn yn ychwanegu'n sylweddol iawn at y costau - mae'n debyg i pob taflen gostio pedair i chwe mil o bunnoedd i'w dosbarthu. Ond os nad oes gan blaid lawer o actifyddion lleol, dyma'r unig ffordd o ddosbarthu. 'Dwi ddim yn meddwl i Blaid Cymru yn Arfon erioed ddosbarthu dim trwy'r post ond am yr un darn o ohebiaeth y gellir ei hanfon yn rhad ac am ddim yn ystod ymgyrch etholiadol.

Ac nid dyna'r cwbl, maent hefyd yn ffonio pawb - gan gynnwys gwraig a mam ymgeisydd y Blaid, Penri James. 'Dydi'r galwadau ffon ddim yn dod o ganolfan leol (na thrwy gyfrwng y Gymraeg wrth gwrs), maent yn dod o Gaerdydd. A chymryd eu bod yn ffonio pawb (yn ol pob golwg) mae'r ymarferiad yma'n ddrud hefyd.

Felly hyd yn hyn ymddengys nad ydi ymgyrch 'leol' y Lib Dems yn lleol iawn yng Ngheredigion, actifyddion yn ffonio o Gaerdydd a deunydd gwleidyddol yn cael ei gynhyrchu yn Lloegr a'i ddosbarthu gan y Post Brenhinol.

Defnydd o bres mawr gan bobl o'r tu allan i Geredigion i berswadio pobl Ceredigion i bleidleisio tros ymgeisydd o'r tu allan i Geredigion sy'n perthyn i blaid sydd a'r sir ymhell, bell o fod yn flaenoriaeth iddi.

Trist braidd.

Wednesday, March 17, 2010

Gwrando arnach, gweithio iddych


'Dydw i ddim yn un o'r bobl hynny sydd efo obsesiwn ynglyn a chywirdeb iaith (wel iaith ysgrifenedig o leiaf). Mae'n well gen i weld pobl yn ceisio 'sgwennu yn y Gymraeg ac yn methu cael pethau yn gwbl gywir nag yn peidio a thrafferthu.

Serch hynny, mae yna'r fath beth a safonau proffesiynol - a phan rydym yn ysgrifennu mewn cyd destun proffesiynol mae'n bwysig gwneud mwy o ymdrech i 'sgwennu mewn Cymraeg eithaf twt. Syndod felly oedd dod ar draws yr ymdrech yma gan Geidwadwyr Arfon.

'Dwi ddim yn meddwl bod llawer o gwestiwn mai Arfon ydi'r etholaeth Gymreiciaf (yn ystyr ieithyddol y gair) o ddigon yng Nghymru. 'Dwi hefyd yn cydnabod bod y Toriaid yng Nghymru yn blaid ryfeddol o Seisnig. Ond o ddifri, byddai rhywun wedi disgwyl y byddai ganddynt o leiaf un aelod yn yr etholaeth sydd a Chymraeg digon naturiol i gywiro'r ymdrech ryfedd yma.

Tuesday, March 16, 2010

Beth ydi pwrpas pleidiau gwleidyddol os nad ydynt yn sefyll mewn etholiadau?


Gyda chryn ryddhad mae blogmenai yn cael ar ddeall nad oes yna fymryn o wirionedd yn yr honiadau oedd ar led yr wythnos diwethaf bod yna glamp o ffrae wedi bod rhwng aelodau Llais Gwynedd oherwydd bod Louise Hughes (mi fydd darllenwyr y blog yma yn cofio am ei hymdrech ddewr tros doiledau'r Sir) o'r farn y dylai hi gael sefyll yn erbyn Elfyn Llwyd ym Meirion Dwyfor yn yr etholiad San Steffan fydd yn cael ei chynnal maes o law. Doedd y grwp cynghorwyr Llais Gwynedd ddim yn cytuno efo farn honno.



Yn ol y Daily Post rhywbeth a elwir yn hiccup a gafwyd. 'Dwi ddim yn rhy siwr beth ydi hiccup, ond mae'n debyg ei fod yn rhywbeth tra gwahanol i ffrae. Beth bynnag, yn ol Louise mae'n bwriadu aros gyda'i phlaid er iddi gael ei hed hyntio i fod yn ymgeisydd seneddol i'r Toriaid a'r Blaid Lafur. Ymddengys ei bod yn cael sefyll mewn rhyw etholiad cyffredinol neu'i gilydd yn y dyfodol ar ran Llais Gwynedd.

Mae'r holl stori yn codi nifer o gwestiynau diddorol. Er enghraifft, pam bod y Toriaid eisiau i Louise sefyll yn etholiadau San Steffan trostynt? Mae ganddynt ymgeisydd digon parchus ym Meirion Dwyfor (Lisa Francis), ac ymgeisydd o rhyw fath Arfon ('dwi ddim yn cofio ei enw mae gen i ofn) a fwy neu lai pob man arall. Yn sicr mae gan Nick Bourne (y dyn anarferol o lan) gryn feddwl o Louise, fel y gellir gweld yma. Mae Nick yn ei disgrifio fel the excellent Louise Hughes. Ond sut y gallai addo ymgeisyddiaeth sydd eisoes wedi ei llenwi iddi? Ydi hyn yn rhywbeth i'w wneud a'r ffaith ei fod wedi cynnig yr ail le ar restr De Ddwyrain Cymru yn etholiadau'r Cynulliad i Mohammad Ashkar am adael ei blaid, er nad ydi'r etholiad ar gyfer yr ymgeisyddiaethau hynny wedi ei gynnal eto?

Yr ail gwestiwn ydi hwn - ym mha etholiad cyffredinol y bydd Louise yn sefyll tros Lais Gwynedd ynddo ac yn lle? Ac mae'r trydydd yn codi yn naturiol o hynny - pam nad ydi Llais Gwynedd yn awyddus i wynebu'r pleidleiswyr? Roedd yna son rai misoedd yn ol bod un o'u cynghorwyr eisiau sefyll yn Arfon yn yr etholiad cyffredinol, ond ni ddaeth dim o hynny. Rydym yn gwybod i sicrwydd bod Louise am sefyll, ond nad oedd Llais Gwynedd am iddi wneud hynny.

Mae dyn yn deall pam na fyddai plaid ranbarthol yn sefyll yn etholiadau Ewrop, mi fyddai'n anodd iawn iddynt gael pleidleisiau o'r tu allan i'w rhanbarth. Ond mae yna ddwy etholaeth seneddol yng Ngwynedd, a phwrpas pleidiau gwleidyddol ydi ymladd etholiadau.

Mae'r holl stori yn sawru o lyfdra gwleidyddol mae gen i ofn.

Monday, March 15, 2010

Lib Dem Watch - rhif 94

Mi fydd darllenwyr rheolaidd y blog hwn yn ymwybodol ein bod yn edrych ar idiotrwydd gohebiaeth etholiadol y Lib Dems o bryd i'w gilydd. Mi fyddant hefyd yn ymwybodol o ddamcaniaeth y blog ynglyn a pham bod y Lib Dems yn syrthio i bydew tyfnach na neb arall yn hyn o beth. Oherwydd eu bod yn blaid nad oes iddi unrhyw reswm mewn gwirionedd tros fodoli ag eithrio fel bwced i ddal pleidleisiau pobl sydd ag agwedd negyddol tuag at bleidiau eraill, mae'n rhaid iddynt greu rhesymau i bobl bleidleisio trostynt. 'Dydyn nhw ddim yn poeni rhyw lawer pa mor bynnag chwerthinllyd nag yn wir geirwir ydi'r rhesymau 'gwneud' yma.

Graff sydd gennym y tro hwn sydd wedi ei gynhyrchu gan Lib Dems Ceredigion. Yr unig adran o'r Lib Dems yng Nghymru sy'n cynhyrchu nonsens etholiadol gwirionach nag a gynhyrchir yng Ngheredigion ydi Canol Caerdydd. Mi fydd y gystadleuaeth rhwng y blaid yn y ddwy etholaeth yn yr wythnosau nesaf i gynhyrchu'r sbwriel celwyddog gwirionaf yn hynod ddifyr.


Does dim rhaid dweud mai ar gyfer ffermwyr yn unig y cynhyrchwyd y darn nodedig yma o nonsens. 'Dwi ddim yn meddwl y bydd yn cael ei stwffio trwy dyllau llythyrau yn Aberystwyth, nag yn wir yng Nghanol Caerdydd.

Fel y gwelwch, pwrpas y graff ydi 'profi' bod y Lib Dems fwy o blaid rheoli moch daear na Phlaid Cymru. I wneud hyn maent yn cymryd arnynt mai'r un blaid ydi'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru (rhai o aelodau Llafur sydd a gwrthwynebiad o ran egwyddor i ddifa moch daear). Dydyn nhw ddim yn cymryd i ystyriaeth mai 6 aelod yn unig sydd gan y Lib Dems yng Nghymru, a bod traean ohonynt felly wedi pleidleisio yn erbyn y mesur. Dydyn nhw ddim yn son chwaith bod un o Aelodau Cynulliad y Lib Dems, Peter Black yn cynnal ymgyrch chwyrn ar ei flog yn erbyn y mesur i reoli moch daear.

'Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud na phleidleisiodd unrhyw aelod o Blaid Cymru yn erbyn y mesur. Mae'r Lib Dems yn cydnabod i ddau o'u chwe aelod nhw bleidleisio yn erbyn y mesur. Felly mae'r Lib Dems yn gwbl fwriadol yn rhannu gohebiaeth sy'n ceisio camarwain eu darllenwyr yn llwyr - maent yn rhoi darlun cwbl gelwyddog o'r patrwm pleidleisio.

Fel dwi wedi dweud o'r blaen, 'dydan ni ddim yn dweud celwydd wrth bobl mae gennym barch tuag atynt. 'Does gan y Lib Dems ddim mewath o barch at ffermwyr Sir Geredigion.

Thursday, March 11, 2010

Y blaid wrth Doriaidd?

Blogiad (arall) diddorol gan Vaughan ddoe.

Anghytuno yn rhannol mae Vaughan efo damcaniaeth Roger Scully bod cyfnod goruwchafiaeth Llafur yng ngwleidyddiaeth Cymru bellach ar ben. Dadl Vaughan ydi bod Llafur yn debygol o gadw eu goruwchafiaeth tros yng Nghymru ar lefel San Steffan o leiaf oherwydd bod eu neges mai nhw ydi'r blaid wrth Geidwadol yn un bwerus iawn yng Nghymru. Mae yn llygad ei le.

Y tro diwethaf (mewn etholiad San Steffan) i oruwchafiaeth Llafur yng Nghymru fod tan fygythiad oedd yn 1983 pan roeddynt o dan fygythiad gan yr SDP. Ychydig o dan 27% yn unig o bleidlais Brydeinig a sicrhawyd gan Lafur - mymryn mwy na'r glymblaid Rhyddfrydol / SDP. Oherwydd trefn etholiadol anarferol y DU cawsant fwy o seddi o lawer na'r glymblaid wrth gwrs. Gwnaeth Llafur yn well yng Nghymru - o tua deg pwynt canrannol - ond roedd hyn yn isafbwynt hanesyddol yng Nghymru iddynt.

Aeth Llafur ati i ail adeiladu rhwng 1983 ac 1997 tros y DU - ond yr hyn sy'n drawiadol ydi iddynt ail adeiladu'n gynt o lawer yng Nghymru. Yn etholiad 1987 roedd Llafur ar 29.5% yn Lloegr ond ar 45% yng Nghymru. 34% a 49.5% oedd y ffigyrau cymharol yn 1992. Roedd Llafur unwaith eto'n dominyddu yng Nghymru tra'u bod yn gymharol wan o hyd yn Lloegr. Erbyn 1997 roedd pleidlais Llafur yng Nghymru yn ymylu ar 55%.

Yr her i'r Blaid yn y byr dymor (hy yr etholiad sydd yn brysur ddynesu) ac yn y tymor canolig (hyd yr etholiad cyffredinol nesaf) ydi i beidio a gadael i'r un peth ddigwydd eto. Yr unig ffordd o wneud hynny mewn gwirionedd ydi trwy ladd y myth mai Llafur ydi'r blaid wrth Doriaidd yng Nghymru. Mi gawn olwg ar sut i fynd ati i wneud hyn maes o law.

Tuesday, March 09, 2010

Derwydd y Wisg Las


Mi fydd y rhan fwyaf o bobl sy'n dilyn blogiau gwleidyddol Cymreig yn ymwybodol o ychwanegiad cymharol ddiweddar i'r teulu dedwydd - blog y Druid.

Mae'r Derwydd yn rhyw gymryd arno ei fod yn ymladdwr annibynnol tros Ynys Mon, ond dydi o ddim yn cymryd rhyw lawer o ddarllen i weld mai blog sy'n cefnogi'r Blaid Geidwadol yw mewn gwirionedd. Ceir cymysgedd o ymysodiadau ar Blaid Cymru a'r Blaid Lafur tra'n gor fynegi cyfle'r Blaid Geidwadol (trwy ychwanegu holl bleidleisiau Peter Rogers at holl bleidlesiau'r Toriaid, ychwanegu 10% a gweddio am fwy) mewn etholaeth sy'n eithaf anobeithiol iddynt. Mae'r ymysodiadau ar Lafur a'r Blaid yn amrywio o'r rhesymol i'r hysteraidd. Mae yna ambell i ymysodiad ar y Lib Dems hefyd. Ymddengys bod y ffaith i'w hymgeisydd gael ei fagu Llanelwy a'i fod wedi gweithio mewn bar yn y gorffennol yn broblem sylweddol.

Nodwedd arall o'r blog ydi'r defnydd o gobyligwc ystadegol i gefnogi ei wahanol ddamcaniaethau. Mae'r cyfaill yn hoff iawn o bolau piniwn, ond dydi o ddim yn eu deall yn dda. Mae ymdrech heddiw yn esiampl dda.

Dadlau mae'r Derwydd nad oes gan y Blaid unrhyw obaith o gwbl o fod mewn sefyllfa i ddal cydbwysedd grym yn y senedd nesaf. Mae ei ddefnydd o ystadegau a pholau piniwn yn ddethol a bod yn garedig. Craidd ystadegol ei ddadl ydi polau piniwn sydd wedi dyddio. Mae'n defynnu 'polau piniwn am fis hyd at Mawrth 4' tros Brydain ac yn defnyddio gwefan Martin Baxter i fynegi hynny ar ffurf seddi Cymreig, ac yn darogan, ar sail hynny, mai'r cyfanswm y gall y Blaid ei ennill ydi pump, ac na allant ond cael dylanwad ar bethau os ydi'r Toriaid un yn brin o fwafrif llwyr. Felly 1% ydi'r tebygolrwydd y byddem mewn sefyllfa i fargeinio. Mae hyn yn nonsens o'r radd eithaf.

Yn ol y Derwydd mae'r polau yn dweud y bydd y Toriaid yn cael 38%, Llafur 29% a'r Lib Dems 19%. Roedd hynny'n wir fis diwethaf, ond mae'r ffigyrau yn cael eu gwyrdroi gan dri phol Angus Reid - cwmni sydd erioed wedi ei brofi ym Mhrydain a sydd yn rhoi Llafur yn llawer, llawer is na mae'r cwmniau confensiynol yn ei awgrymu.

Dydi polau'r mis hwn (sydd ddim yn cynnwys un gan AngusReid) ddim yn cefnogi dadl y Derwydd, felly mae'n eu hanwybyddu. 'Dwi'n eu rhestru isod.

CONSERVATIVES39%38
LABOUR34%33
LIB DEMS16%

CONSERVATIVES37%33.2
LABOUR30%36.2
LIB DEMS16%

CON 36%
LAB 34%
LD 18%


CON 40%
LAB 31%
LD 18%


CON 38%
LAB 33%
LD 17%


CON 39%
LAB 31%
LD 19%


CON 38%
LAB 32%
LD 17%


CON 38%
LAB 32%
LD 19%


CON 38%
LAB 33%
LD 16%


CON 39%
LAB 32%
LD 17%


Mi fyddai canlyniadau rhai o'r polau hyn yn caniatau i'r SNP a'r Blaid roi Llafur mewn gym ar eu pennau eu hunain - heb i'r Lib Dems orfod bod yn rhan o bethau o gwbl (yn wir ni fyddai angen yr SNP ar y blaid pe gwireddid un o'r polau). Byddai'r cwbl ag eithrio dau yn arwain at senedd grog - rhai efo Llafur ar y blaen, a rhai efo'r Ceidwadwyr ar y blaen. Mewn geiriau eraill mae'n defnyddio polau sydd wedi dyddio (rhai ohonynt cymaint a chwech wythnos oed) a sydd a phroblem o bol hollol wahanol i'r lleill yn cael ei gyfri dair gwaith, er bod rhai mwy diweddar a lla phroblematig ar gael. Mae'r rheswm am hyn yn amlwg - byddai ystyried polau cyfredol wedi dryllio ei ddadl.

Mae cam ddefnydd o ffigyrau yn nodwedd o'r blog. Yn hwn er enghraifft mae wedi cynhyrfu'n lan oherwydd bod is set o 234 o bobl mewn pol mwy o lawer yn awgymu i bleidlais y Blaid syrthio o 17% i 10% mewn mis yng Ngogledd Cymru. Yn wir mae'n meddwl ei fod yn gwybod pam - oherwydd addewid y Blaid i godi pensiynau. 'Dydi o ddim yn egluro pam mai pobl Gogledd Cymru yn unig sy'n gwrthwynebu'r syniad. 'Dydi o ddim yn egluro chwaith nad ydi is set mor fach yn ystadegol ddibynadwy o gwbl - mae'r symudiad yn y pol oddi mewn i margin of error sampl mor fach, a 'dydi o ddim chwaith yn egluro nad oes gennym unrhyw syniad os ydi polio Cymreig YouGov yn ddibynadwy gan nad ydyw wedi ei brofi yn erbyn etholiad go iawn (yn wahanol i'w polau Prydeinig). Ond mi fyddai gwneud hynny yn difetha ei stori, felly 'dydi o ddim yn trafferthu.

Rwan, mae blogmenai hefyd ymhell o fod yn ddi duedd - dwi'n ei gwneud yn gwbl eglur mai blog sy'n gyffredinol gefnogol i Blaid Cymru ydi hwn, ond 'dydw i ddim yn gwneud defnydd dethol o ystadegau i geisio cynnal dadl na allwn ei chynnal ar ei phen ei hun. Ar wahan i'r tueddiad i gam ddefnyddio ffigyrau, 'does yna ddim rheswm yn y Byd pam na all y Derwydd fod yn un ochrog o blaid y Toriaid wrth gwrs, ond yr hyn fedra i ddim ei ddeall ydi pam na wnaiff gyfaddef ei fod yn cefnogi'r Toriaid? Oes ganddo gywilydd o'i blaid?





Monday, March 08, 2010

Ceidwadwyr Conwy - o ddrwg i waeth

'Dwi'n gorfod cyffwrdd fy nghap unwaith eto i Alwyn am fod ar y blaen efo'r dystiolaeth ddiweddaraf o ddadfeiliad y grwp Ceidwadol yng Nghonwy.

Plaid y ganrif ddiwethaf



Llythyr a anfonwyd at aelodau plaid Lafur Gorllewin Caerdydd ydi’r uchod gan is gadeirydd pwyllgor rhanbarth yr etholaeth honno. Fel y gwelwch, mae’n poeni bod y rhestr aelodaeth ganolog wedi dyddio.


Mae hi’n iawn i boeni mae gen i ofn. Cyfeirwyd y llythyr 'dwi wedi ei sganio at berthynas i mi a chyn aelod sydd wedi marw ers pum mlynedd. Doedd o ddim yn aelod yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd, a ‘dwi’n meddwl (er nad wyf yn siwr) mai yn 1997 neu 1998 oedd y tro diwethaf iddo bleidleisio i’r Blaid Lafur. Mi fydd yn cael llythyrau yn fynych yn gofyn iddo fynd i ganfasio a ‘ballu, er i'w wraig egluro'r sefyllfa i'r Blaid Lafur yng Ngorllewin Caerdydd sawl gwaith.


Felly ymddengys nad oes gan Lafur fawr o glem pwy ydi eu haelodau, nid ydynt yn gwybod os ydynt wedi talu eu tal aelodaeth neu beidio, dydyn nhw ddim yn gallu chwalu enwau aelodau sydd wedi marw oddi ar eu basdata canolog, ac maent yn ceisio dwyn perswad ar y meirwon i fynd allan i ganfasio iddynt.


Mi fyddai'r peth yn ddigri oni bai mai dyma'r criw sy'n rhedeg y DU.



Sunday, March 07, 2010

Y dadleuon mawr - edrych ar ol y status quo

‘Dwi wedi trafod y ddadl ‘fawr’, neu’r dadleuon mawr bod yn fanwl gywir, sydd i’w darlledu yn ystod yr wythnosau cyn yr etholiad cyffredinol. Er fy mod yn ceisio osgoi ailadrodd fy hun, mi wnaf i eithriad y tro hwn.

Mae’r sioe arbennig yma yn cael ei chynnal am y tro cyntaf am un rheswm ac un rheswm yn unig – mae’r ymarferiad er budd y ddwy blaid fawr Brydeinig. ‘Does yna ddim dadl wedi bod o’r blaen oherwydd y byddai cynnal un yn erbyn buddiannau y naill neu’r llall o’r pleidiau mawr unoliethol – yr un oedd ar y blaen yn y polau piniwn. ‘Does yna ddim pwynt mentro syrthio i mewn i fagl mewn dadl gyhoeddus sy'n cael ei gwylio gan filiynau os ydi'r polau o’ch plaid beth bynnag.


Mae pethau’n wahanol y tro hwn, ac mae rheswm syml am hynny – sgandalau treuliau aelodau seneddol. Roedd y sgandal yma’n bygwth ail strwythuro gwleidyddiaeth Prydain ar un cyfnod – ac fe adlewyrchwyd hynny yn etholiadau Ewrop y llynedd – dim ond 57% o’r bleidlais a lwyddodd y tair plaid fawr Brydeinig i gael rhyngddyn nhw tros Brydain a 52% yng Nghymru. Roedd hyn yn record ar lefel Prydeinig a Chymreig – record o fath nad oedd y pleidiau mawr Prydeinig yn ei groesawu.


Mae’r dadleuon felly yn ddelfrydol o safbwynt y pleidiau mawr – mae’n cynnig cyfle i ddad wneud y niwed yn hollol ddealladwy o’u safbwynt nhw. Bydd yr etholiad cyffredinol yn cael ei phortreadu fel y gystadleuaeth arferol rhwng Twidldi, Twidldym a Thwidldidyms. Yn ychwanegol mae’r ffaith bod y dadleuon yn cael eu cynnal yn Lloegr, ac y byddant yn ymwneud yn llwyr, neu bron yn llwyr a materion Seisnig yn cymryd gofal o’r ymylon gwleidyddol Celtaidd yn eithaf twt.


Mae hyn oll yn neis iawn i Twidldi, Twidldym a Thwidldidyms wrth gwrs, ond yr hyn sy’n ddiddorol ydi bod y cyfryngau mor awyddus i gymryd rhan yn y sbloets. Wrth gwrs mi fydd y Bib, Sky ac ITV druan yn cael cynulleidfa fawr am 90 munud, ond dyna’r cwbl y byddant yn ei gael am daflu’r orchest fach gelwyddog o fod yn ddi duedd maent yn mynd trwyddi’n barhaus a pharhaol allan trwy’r ffenest.


Y gwir syml amdani ydi bod y cyrff darlledu yn gwbl sefydliadol o ran natur, ac mae’r status quo wedi bod yn ffeind iawn efo’r Bib a Sky. Dydi'r drefn sydd ohoni heb fod mor ffeind efo ITV (does gan rheiny ddim papurau newydd gyda chylchrediad o filiynau i lwgr wobreuo’r pleidiau unoliaethol trwy gynnig, neu fygwth atal eu cefnogaeth iddynt). Ond does ganddyn nhw ddim dewis ond i ddilyn yng nghamau’r monopoli darlledu cyhoeddus, a’r lled fonopoli darlledu preifat mae’r prif bleidiau wedi eu meithrin, a’u cynnal trwy’r degawdau trwy greu amodau ariannu a goruwchwylio delfrydol ar eu cyfer.


Mae’n braf gweld ffrindiau yn edrych ar ol ei gilydd, mewn hindda a thywydd garw fel ei gilydd.

Wednesday, March 03, 2010

Carchar Bro Dysynni - ymgynghori lleol?

Cyhoeddwyd y rhestr o safleoedd posibl ar gyfer carchar i Ogledd Cymru heddiw. Ceir chwe safle posibl - safle Aliminiwm Mon yng Nghaergybi, safle hen orsaf BP Rhosgoch. Ynys Mon, hen safle milwrol Morfa yn Nhywyn, Bro Dysynni, hen safle fferm Greengates ger Parc Busnes Llanelwy a dau safle yn Wrecsam - gan gynnwys safle ffatri Firestone.

Mae'r blog yma eisoes wedi nodi mai Llais Gwynedd a ddechreuodd rowlio'r bel parthed y cynllun i ddenu'r datblygiad i Feirion. Holwyd hefyd i ba raddau roedd Llais Gwynedd wedi ymgynghori cyn gwthio i gael y datblygiad ym Mro Dysynni. Ni chafwyd ateb. Mae hyn yn rhyfedd - yn aml mi fydd ymateb yn cael ei adael ar dudalen sylwadau'r blog o fewn munudau i mi wneud rhyw sylw neu'i gilydd am Lais Gwynedd.

Ydi hi'n bosibl na fu ymgynghori gyda'r trigolion lleol o gwbl?

Ail drefnu addysg a Leighton Andrews - rhaid wrth dderyn glan i ganu


Mae Vaughan yn gwbl gywir i awgrymu fod safonau deublyg ar waith pan mae Leighton Andrews yn honni bod Awdurdodau Lleol yn tin droi ar fater ail strwythuro ysgolion tra'n cadw ffeil ail strwythuro yn ardal Treganna, Caerdydd yn barhaol ar waelod ei in tray.

Mae'r rheswm, eto fel mae Vaughan yn ei awgrymu, yn eithaf amlwg - mae ail strwythuro ysgolion yn wenwyn pur o safbwynt gwleidyddol yng Ngorllewin Caerdydd, ac mewn rhannau eraill o'r ddinas. 'Does yna ddim penderfyniad sydd yn mynd i blesio pawb parthed cynlluniau'r Awdurdod i gau Ysgol (Saesneg) Heol Lansdowne a symud Ysgol (Gymraeg) Treganna i'r safle.



Mae'r mater yn arbennig o sensitif i Lafur a Phlaid Cymru - y ddwy blaid sy'n cystadlu am oruwchafiaeth ar lefel llywodraeth leol yn Nhreganna. I'r sawl sy'n adnabod Gorllewin Caerdydd mae'n ymddangos yn rhyfedd bod Plaid Cymru'n domiwnyddu ar lefel leol yn wardiau cyfagos Glan yr Afon a'r Tyllgoed, ond yn methu gwneud hynny yn Nhreganna - ardal sydd yn ymddangos yn fwy addawol ar sawl cyfrif. Mae nifer wedi honni bod methiant ar ran y Blaid i fod yn ddigon pendant eu cefnogaeth i'r cynllun i gau Lansdowne wedi costio pleidleisiau Cymry Cymraeg iddynt. 'Dwi ddim yn gwybod os ydi hynny'n wir, ond mae'n eithaf pendant na wnaeth yr holl bennod les i'r Blaid, ac mae'n debygol hefyd i gefnogaeth Llafur (ac yn arbennig Ranesh Patel) i Lansdowne les iddynt hwythau yn yr etholiadau lleol.

Yn yr achos yma mae bwrdd Cyngor Caerdydd (sydd bellach yn cynnwys aelodau o'r Blaid) wedi dangos dewrder gwleidyddol ac wedi symud ar fater anodd a sensitif. 'Dydi o ddim yn adlewyrchu'n dda ar Leighton Andrews nad ydi o yn gallu dod o hyd i ddewrder gwleidyddol tebyg a dod a'r broses i fwcwl y naill ffordd neu'r llall.

Llyfdra gwleidyddol pur mae gen i ofn.

Tuesday, March 02, 2010

Hwyl fawr Dr Paisley

Ymddengys na fydd yn sefyll eto - rhywbeth sy'n fater o ryddhad ar un wedd (bu'n ddylanwad negyddol ar wleidyddiaeth y Gogledd), ond bydd yn gwneud y byd gwleidyddol cymaint a hynny'n llai lliwgar.

Yr hyn nad ydwyf wedi ei glywed heddiw ydi son am y gwahaniaeth enfawr yn nhirwedd gwleidyddol Gogledd Iwerddon heddiw o gymharu a'r un oedd yn bodoli pan etholwyd Paisley yn gyntaf.



Mi gafodd y dyn ei ethol i San Steffan yn gyntaf ym 1970 mewn cyfnod pan roedd gan y traddodiad unoliaethol reolaeth llwyr ar pob agwedd o fywyd yng Ngogledd Iwerddon. Roeddynt yn rheoli y senedd leol (Stormont), pob cyngor ag eithrio dau neu dri a phob sedd seneddol ag eithrio West Belfast a Mid Ulster. Doedd dim grym o gwbl yn cael ei rannu mewn cyngor na Chynulliad a reolwyd gan yr unoliaethwyr. Yn etholiad 1970 pleidleisiodd 470,000 i'r pleidiau unoliaethol - tua 60% o'r cyfanswm. Roedd hyn yn tan gyfrifo'r oruwchafiaeth unoliaethol mewn gwirionedd gan bod y Northern Ireland Labour Party yn dennu pleidleisiau llawer o Brotestaniaid. Roedd etholiadau 1974 (roedd y rhyfel wedi sgubo'r pleidiau oedd yn apelio at y ddwy gymuned o'r neilltu) yn dangos y goruwchafiaeth etholiadol unoliaethol yn well - 63.5% o'r bleidlais.

Erbyn hyn 10 o'r deunaw sedd seneddol sydd yn eu meddiant, 14 o'r 26 cyngor a'u pleidlais wedi syrthio i llai na 50% yn y ddwy etholiad diwethaf (Ewrop a Chynulliad) iddynt eu hymladd. Maent hefyd yn gorfod rhannu grym gyda phobl o'r traddodiad cenedlaetholgar yn Stormont. Mae gyrfa wleidyddol Paisley wedi cyd redeg a newidiadau sylweddol a sylfaenol yn natur cymdeithas a gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon - mwy o newidiadau na sydd wedi digwydd mewn cyfnod cyffelyb ers canrifoedd yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r newidiadau hyn yn anathema i Paisley.

Mae'n dra phosibl y bydd yna fwy o bleidleiswyr cenedlaetholgar yn y Gogledd nag o rai unoliaethol o fewn deg i bymtheg mlynedd. Tybed os caiff Paisley fyw i weld hynny?

Monday, March 01, 2010

Y polau piniwn diweddaraf a naratif etholiadol y Blaid

Dyna ni ddau arall heno - YouGov a Com Res - mae'r ddau yn rhoi y Toriaid ar y blaen o ran nifer pleidleisiau, ond mi fyddai Llafur ar y blaen mewn seddi petai Com Res yn gywir. Llafur fyddai hefyd ar y blaen o ran seddi petai'r pol YouGov a gyhoddwyd tros y penwythnos yn gywir, yn wir byddant o fewn pedair neu bump sedd i fwyafrif llwyr.

Beth bynnag, senedd grog fyddai'r canlyniad yn y tri achos. Mae'n dechrau edrych mai senedd grog ydi'r canlyniad mwyaf tebygol. Fel mae'r blog yma wedi dadlau sawl gwaith mae'r sefyllfa yma'n cynnig cyfle unigryw i'r Blaid i greu naratif etholiadol hynod effeithiol - fotiwch i ni a'n pris am gefnogi llywodraeth fydd ariannu Cymru'n deg.

Byddai ariannu teg yn caniatau i Gymru osgoi'r toriadau enbyd mewn gwariant cyhoeddus sy'n ymddangos tros y gorwel yn ddyddiol. Mae'r sefyllfa yma'n gyfle unigryw i'r Blaid apelio at bobl trwy gyflwyno neges sy'n cynnig lles ariannol tymor byr i ganolig iddynt am eu pleidlais. Y ddwy blaid unoliaethol fawr sydd mewn sefyllfa i wneud hyn fel rheol. Mae'n gyfle rhy dda i'w golli.

A thra ein bod mewn hwyliau gofyn cwestiynau _ _ _

_ _ _ un bach i Gyngor Caerdydd.

Pam - ag ystyried eich bod yn rhai mor fawr am ailgylch a 'ballu - nad ydych yn ei gwneud yn bosibl i unrhyw un o'r masnachwyr ym Marchnad Canol Caerdydd i ail gylchu cymaint a bocs, afal na photel o lucozade?

Yn wir mae'n bosibl dadlau bod gennych fwy o ddylanwad ar y farchnad na sydd gennych ar yr un sefydliad masnachol yn y ddinas - ac eto nid yw'n ail gylchu o gwbl.

Dau gwestiwn bach i'r Bib

Tra ei bod yn ddiddorol ac yn galonogol nodi bod y ganran o'r etholwyr sydd eisiau pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad yn cynyddu, mae gen i gwestiwn bach i'r Bib - pam - a chithau'n cynnal arolwg beth bynnag wnaethoch chi ddim holi beth ydi bwriad pleidleisio pobl yn yr Etholiad Cyffredinol? Go brin y byddai wedi ychwanegu fawr ddim at gost yr ymarferiad, ac mae ambell un efo diddordeb yn y tirwedd etholiadol yng Nghymru a ninnau mor agos at Etholiad Cyffredinol.

Yr ail gwestiwn ydi hwn - pam goblyn gwneud eich Vox pop ar y Post Cyntaf ynglyn a'r mater yng Nghreigiau o pob man? 'Dwi ddim yn amau bod un neu ddau o'r sawl sy'n gweithio i'r Bib o dan yr argraff bod y ward yma, sydd ymysg y cyfoethocaf yng Nghymru, yn nodweddiadol o weddill y wlad, ond does yna fawr o neb arall yn llafurio o dan yr un camargraff.