Yr hyn sydd ganddynt ydi bod y tri aelod seneddol Plaid Cymru wedi defnyddio rhan o'u lwfansau cadw swyddfa ac ati i dalu am gyngor cyfreithiol ynglyn a'r posibilrwydd o uwch gyhuddo Blair. Mae'r defnydd yma o bres y trethdalwr yn cymaint o stwmp ar stumog y Daily Post, maent wedi mynd ati i greu stori tudalen flaen o'r mater.
Am rhyw reswm 'dydi'r stori ddim yn nodi mai cost y rhyfel hwnnw i drethdalwyr Unol Daleithiau'r America oedd $1,600,000,000,000,000,000, na bod 4,296 o'r dywydiedig drethdalwyr wedi eu lladd yn y rhyfel (heb son am y 110,600 o Iraciaid a laddwyd wrth gwrs).Yn ffodus roedd pethau'n rhatach ym Mhrydain - 179 o farwolaethau milwrol yn unig a chost i'r trethdalwr o £5,300,000,000, ond 'dydi'r Post ddim yn son am hynny chwaith.
Y prif reswm bod Prydain wedi cymryd rhan yn yr ymarferiad gorffwyll o ddrud (yn ariannol ac o ran y bywydau pobl) yma ydi bod y llywodraeth Lafur wedi rhaffu un celwydd ar ol y llall er mwyn creu argraff bod bygythiad o gyfeiriad Irac.
Fedra i ddim honni mai'r grwp atgas o bapurau mae'r Daily Post yn perthyn iddo - Trinity Mirror - oedd y mwyaf euog o bell ffordd o bedlera propoganda Blair yn y misoedd cyn y rhyfel. Serch hynny, pe byddai'r wasg - Trinity Mirror yn gynwysiedig - ar y pryd heb fod mor bathetig o grediniol o gelwydd gwleidyddion, hwyrach na fyddai'r trethdalwr wedi orfod dod o hyd i biliwn ar ol biliwn o bunnoedd i dalu am antur oedd wedi ei chyfiawnhau gan llond trol o gelwydd.