Tuesday, June 12, 2012
Pam na fydd Llafur Cymru yn derbyn yr hawl i drethu - beth bynnag ffawd Barnett
Dadl Gareth ydi na fydd y Blaid Lafur yng Nghaerdydd yn symud tuag at dderbyn yr hawl i drethu yng Nghymru hyd y bydd y llywodraeth yn Llundain yn diwygio fformiwla Barnett (y dull a ddefnyddir i ariannu Cymru), ac na fydd hynny'n digwydd yr ochr yma i refferendwm yr Alban yn 2014. Y rheswm am hynny yn ol Gareth yw y byddai newid Barnett yn debygol o wneud i fwy o bobl fotio 'Ia' yn y refferendwm hwnnw.
',Dwi'n anghytuno. 'Dydi'r Blaid Lafur Gymreig byth am dderbyn yr hawl i drethu o'u gwirfodd. Y peth diwethaf mae'r blaid ei eisiau ydi sefydlu perthynas rhwng gwariant a threthiant. Mae'r gallu i alw am fwy o wariant cyhoeddus heb orfod trethu neb i dalu am y gwariant hwnnw yn greiddiol i apel y Blaid Lafur Gymreig. Ni fydd y Blaid Lafur Gymreig yn gwneud unrhyw beth i amharu ar eu hapel etholiadol. Ennill etholiadau ydi'r peth pwysicaf o ddigoni Lafur yng Nghymru.
'Dydi diwygio Barnett ddim yn debygol o newid y realiti sylfaenol yma.
Monday, May 21, 2012
Argymhellion Cheryl Gillan ar gyfer y Cynulliad
Rwan mae hyn yn fwy teg na'r hyn mae Llafur yn bygwth ei wneud - mabwysiadu dull fyddai'n caniatau i'r blaid honno gael hyd at 60% o'r seddi gyda 30% o'r pleidleisiau. Ond mae'n dal yn ddull diffygiol. Mae dau reswm am hyn. Yn gyntaf mae'n ddull sy'n gwobreuo methiant etholiadol, ac yn ail mae'n caniatau i bleidiau yn hytrach nag etholwyr ddewis pwy sy'n eistedd yn y Cynulliad. Yn wir penderfyniad criw bach o Doriaid sy'n eistedd ar Fwrdd Rheoli'r Blaid Doriaidd oedd yn gyfrifol am ddewis tua hanner eu ASau - gweithred cwbl ddi gywilydd o anemocrataidd sydd heb gael unrhyw sylw gan y cyfryngau prif lif yng Nghymru.
Argymhelliad Blogmenai ydi diddymu'r etholaethau Cynulliad presenol, cynyddu nifer yr ACau o 60 i 80, mabwysiadu trefn STV a defnyddio'r siroedd fel unedau etholiadol aml aelod. Gallai hyn olygu y byddai gan Ynys Mon ddau aelod, Gwynedd tri, Rhondda Cynon Taf pump a Chaerdydd saith.
Byddai nifer o fanteision i'r dull yma.
1. Mae'n lled gyfrannol.
2. Mae'n sicrhau bod cysylltiad gan pob aelod efo etholaeth.
3. Mae'n trosglwyddo grym oddi wrth beiriannau gwleidyddol i etholwyr.
4. Mae'n osgoi gormod o ffiniau etholiadol gwahanol.
5. Mae'n caniatau i gefnogwyr pleidiau gwahanol gael cynrychiolaeth lleol o'u plaid eu hunain. Byddai gan y Toriaid a Phlaid Cymru gynrychiolaeth yng Nghaerdydd, a byddai gan Llafur (mae'n debyg) gynrychiolaeth yng Ngwynedd.
Ond 'dydw i ddim yn dal fy ngwynt mae gen i ofn. Y perygl ydi y byddwn naill a'n cael ein hunain efo trefn sy'n sicrhau mwyafrif llwyr i Lafur, neu un sy'n sicrhau bod yr Old Boys Club sy'n rhedeg y Blaid Doriaidd yng Nghymru mewn sefyllfa i roi swyddi fel ACau i'w mets. Mater o pa blaid fydd yn gwneud y penderfyniad ydi o mae gen i ofn.
Wednesday, May 09, 2012
'Vote Labour get Tory'
Ond mae'n ymddangos bod y Blaid Lafur mewn rhannau eraill o'r DU yn fwy na pharod i daro bargen efo'r Toriaid os ydi hynny yn sicrhau eu bod yn cael eu bachau ar ychydig o rym. Er mai'r SNP ydi plaid fwyaf Cyngor Stirling, mae'r ddwy blaid unoliaethol fawr wedi dod at eu gilydd i'w hatal rhag cymryd grym.
Tybed os bydd Carwyn yn teimlo fel condemnio'r ffasiwn ymddygiad? Na, efallai ddim - ymddengys nad ydi Toriaid yr Alban mor ddrwg na Thoriaid Cymru.
Tuesday, April 10, 2012
Amgylchiadau ehangach yn rhoi cyfle i'r Blaid yn etholiadau lleol eleni?
Yr hyn sy'n ddidddorol- ac efo arwyddocad posibl o safbwynt Cymru, ydi methiant Llafur i gymryd mantais o'r sefyllfa - mae eu rhifau nhw hefyd yn gostwng neu'n fflat yn y polau. Mae'r polau, yn ogystal ag is etholiad Bradford West yn awgrymu mai pleidiau sydd y tu allan i gonsensus cyfforddus San Steffan sy' n elwa, gyda'r UKIP yn gwneud yn dda yn y polau a George Galloway yn sgubo i fuddugoliaeth yn is etholiad Bradford West. Mae'r polau a'r marchnadoedd betio yn awgrymu y bydd Llafur yn cael cweir yn etholiadau lleol yr Alban, ac y bydd Ken Livingstone yn methu yn ei ymgais i ail ennill marroliaeth Llundain.
Y cwestiwn diddorol i'n pwrpas ni ydi - i ba raddau y bydd y patrwm hwn yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru yn yr etholiadau lleol? 'Dydi'r cyfryngau Cymreig ddim yn comisiynu polau piniwn yn aml iawn, felly rydym mewn tywyllwch braidd ynglyn a'r tirwedd etholiadol yma.
Ers datganoli mae Cymru wedi tueddu i ddilyn ei thrywydd etholiadol ei hun i rai graddau - ddim yn adlewyrchu patrymau Lloegr yn llwyr, ond ddim yn dilyn trywydd mor wahanol a'r Alban chwaith.
Mae'r tystiolaeth sydd gennym yn awgrymu bod Llafur wedi ennill cefnogaeth yng Nghymru ers etholiad cyffredinol 2010. Oherwydd hynny mae pobl wedi tueddu i gymryd y bydd Llafur yn ad ennill tir yn etholiadau lleol 2012 wedi eu perfformiad trychinebus yn 2008. Ond tybed i ba raddau y bydd hynny'n digwydd - er i Lafur wneud yn gymharol dda yn etholiadau'r Cynulliad 2011, ni lwyddwyd i ad ennill mwyafrif - ac hynny mewn amgylchiadau hynod ffafriol. Cymysg, ar y gorau ydi eu record mewn is etholiadau cyngor wedi bod ers 2010.
Efallai bod gwleidyddiaeth ehangach nag un Cymru yn rhoi cyfle i bleidiau sydd y tu allan i'r consensws unoliaethol, neo ryddfrydig i ennill tir. Dim ond un plaid felly sydd yng Nghymru sydd a'r adnoddau a'r drefniadaeth i gymryd mantais o newid strwythurol o'r fath, a Phlaid Cymru ydi honno.
Fel rheol niweidiol ydi effaith patrymau gwleidyddol Prydeinig o safbwynt y Blaid. Gallai eleni - o bosibl - fod yn eithriad.
Sunday, February 19, 2012
Diolch i Peter _ _ _
'Dwi'n siwr y bydd rhywun yn ei atgoffa y tro nesaf y bydd yn mynd trwy'r mantra Vote Plaid, Get Tory.
Tuesday, December 13, 2011
Swnian diweddaraf Carwyn Jones
Y ffaith syml amdani ydi mai unoliaethwr Prydeinig ydi Carwyn o ran ei wleidyddiaeth, ac mae unoliaethwr Prydeinig yn derbyn bod ystyriaethau'r llywodraeth Brydeinig mewn materion sydd y tu allan i gwmpawd cyfrifoldebau'r Cynulliad yn bwysicach nag ydi rhai'r llywodraeth Gymreig.
Mae Carwyn yn y bon yn cwyno yn erbyn rhesymeg creiddiol ei wleidyddiaeth ei hun.
Sunday, November 13, 2011
Pam bod Llafur eisiau newid y dull ethol aelodau Cynulliad?
Etholiadau San Steffan:
| Etholiad | Canran Llafur o'r pleidleisiau | Canran Llafur o'r seddi |
| 1918 | 21.20% | 27.77% |
| 1922 | 40.70% | 50% |
| 1923 | 41.99% | 52.70% |
| 1924 | 40.60% | 45.70% |
| 1929 | 43.80% | 69.44% |
| 1931 | 41.70% | 41.66% |
| 1935 | 45.40% | 50% |
| 1945 | 58.30% | 69.44% |
| 1950 | 58.10% | 75% |
| 1951 | 60.50% | 75% |
| 1955 | 57.60% | 75% |
| 1959 | 56.40% | 75% |
| 1964 | 57.80% | 77.70% |
| 1966 | 60.70% | 88.80% |
| 1970 | 51.60% | 75% |
| 1974 | 46.80% | 66.60% |
| 1974 | 49.50% | 63.80% |
| 1979 | 48.60% | 61.10% |
| 1983 | 37.50% | 52.60% |
| 1987 | 45.10% | 63.10% |
| 1992 | 49.50% | 71% |
| 1997 | 54.80% | 85% |
| 2001 | 48.60% | 85% |
| 2005 | 42.70% | 72.50% |
| 2010 | 36.20% | 65% |
Ac etholiadau'r Cynulliad:
| Etholiad | Canran Llafur o'r pleidleisiau | Canran Llafur o'r seddi uniongyrchol |
| 1999 | 37.60% | 67.50% |
| 2003 | 40.00% | 76% |
| 2007 | 32.20% | 60.00% |
| 2010 | 42.30% | 70.00% |
Mae'n weddol amlwg pam bod y dull yn atyniadol i'r Blaid Lafur Gymreig - gallant ennill cyn lleied a 30% o'r bleidlais, ond parhau i sicrhau mwyafrif llwyr yn y Cynulliad.
Petai'r dull yn cael ei fabwysiadu, mae'n bosibl y byddai Cymru efo'r system etholiadol lleiaf cyfrannol a theg o holl wledydd democrataidd y Byd.
Rhywbeth i fod yn wirioneddol falch ohono.
Thursday, November 03, 2011
Difa'r genedl _ _ _
Mae'r blog yma wedi tynnu sylw hyd at syrffed at y ffaith y byddai cyfundrefn drethiant Gymreig yn sefydlu perthynas rhwng trethiant a gwariant cyhoeddus, ac y byddai hynny yn ei dro yn arwain at leihad yng nghefnogaeth y Blaid Lafur Gymreig. Sail eu cefnogaeth yng Nghymru ar hyn o bryd ydi'r ffaith eu bod yn cael galw am fwy a mwy o wariant cyhoeddus, heb orfod codi ffadan goch o dreth ar neb i dalu am hynny.
Petai yna gysylltiad rhwng faint yr ydym yn ei dalu mewn trethi yng Nghymru a faint yr ydym yn ei wario, byddai reid wleidyddol rhad ac am ddim Llafur ar ben, a byddem mewn sefyllfa i esblygu gwleidyddiaeth mwy aeddfed a chyfrifol nag oes gennym ar hyn o bryd.
Byddai hefyd yn gyfle i leihau dylanwad y maen melin o blaid wleidyddol sydd wedi dal y wlad yn ol am gyhyd.
Sunday, July 17, 2011
Etholaethau Llafur a diweithdra
Ond o edrych ar gyfraddau di weithdra Cymru mae'n weddol amlwg fod y naratif hwnnw wedi ei seilio ar ffantasi. Mae di weithdra yn uchel mewn etholaethau sy'n cael eu cynrychioli gan Lafur, ac mae'n is mewn etholaethau sy'n cael eu cynrychioli gan y pleidiau eraill. Mae'r berthynas rhwng diweithdra a thuedd i bleidleisio Llafur yn un rhyfeddol o gyson a rhagweladwy - fel mae'r tabl isod yn dangos.
Dwi wedi lliwio'r etholaethau i ddynodi'r blaid sy'n cynrychioli pob etholaeth ar lefel Senedd Cymru a San Steffan.
Ffigyrau i gyd yn cyfeirio at gyfraddau budd daliadau di waith i ddynion ac wedi eu cymryd o'r wefan Datablog.
Monday, July 04, 2011
Wel dyna lwcus _ _ _
Lwcus iawn.
Sunday, April 11, 2010
Gwneud (llai na) hanner eu gorau tros Gymru
Sesiynnau 2008-09 a Sesiynnau 2009-10
Sesiynnau: 54
Hywel Williams: 41
Sian James: 28
Albert Owen: 24
Nia Griffith: 19
Mark Pritchard: 13
Martyn Jones: 12
David Davies: 7
Llongyfarchiadau i David Davies am lwyddo i bresenoli ei hun mewn saith o 54 cyfarfod y Pwyllgor Dethol Tros Faterion Cymreig. Fel Tori 'dydi materion Cymreig ddim o llawer o ddiddordeb iddo wrth gwrs - ag eithrio pan mae'n ceisio atal datblygiad democratiaeth yng Nghymru.
Rydym eisoes wedi nodi nad ydi Martin Jones yn gwybod fawr ddim am faterion Cymreig, er ei fod yn gyn gadeirydd o'r pwyllgor, felly nid yw'n fawr o syndod nad yw yntau'n trafferthu i fynychu'r pwyllgor chwaith. Tori sy'n cynrychioli etholaeth yn Lloegr ydi Mark Pritchard, felly fydd yna neb yn syrthio oddi ar ei sdol o ddeall na fydd o'n tywyllu'r drws yn rhy aml.
Mwy anisgwyl ydi'r ffaith bod Nia Griffith ac Albert Owen yn methu mwy na hanner y sesiynnau - wedi'r cwbl mae'r ddau yn rhoi'r argraff bod ganddynt rhyw fath o ddiddordeb mewn materion Cymreig.
Efallai bod ganddynt rhywbeth pwysicach i'w wneud na gwastraffu amser yn ymwneud a'r hen bethau plwyfol 'na sydd mor bwysig i'w hetholwyr.
Friday, April 09, 2010
Ydi Llafur yn poeni eu bod am golli Gorllewin Caerdydd? ( We'll Keep the Red Flag Flying Here)
Dau lythyr a geir uchod sydd wedi eu bwriadu nid ar eich cyfer chi, ond ar gyfer aelodau Plaid Lafur Gorllewin Caerdydd. Mae’r naill wedi ei ‘sgwennu gan aelod seneddol yr etholaeth, Kevin Brennan a’r llall gan ei asiant, David Costa. Mae’r ddau lythyr yn eithaf dadlennol.
Mae, wrth gwrs ychydig yn ddigri nodi bod Kevin yn defnyddio termenoleg Hen Lafur (Dear Comerade, socialist values ac ati) wrth anerch y ffyddloniaid, tra bod gohebiaeth ar gyfer pawb yn cadw’n sobor o glir oddi wrth y fath dermenoleg. Mae hefyd yn eglur bod Kevin yn ddoeth yn ei ddewis o asiant - mae’n amlwg bod yr ymgyrch wedi ei chynllunio’n fanwl iawn.
Yn fwy diddorol, fodd bynnaf, ydi’r ymdeimlad o banic sy’n amlygu ei hun o ddarllen y ddau lythyr. Mae Kevin yn cychwyn ei lythyr efo’r frawddeg – We face the fight of our life in the General Election that has now been called. O ddarllen ymlaen mae’n amlwg mai cyfeirio at etholaeth Gorllewin Caerdydd mae Kevin, ac nid y DU yn ei chyfanrwydd.
Mae’n rhaid bod calon Kevin yn suddo at ei sodlau pan mae’n ystyried yr holl ganfasio mae David wedi ei drefnu ar ei gyfer tros yr wythnosau nesaf – tri sesiwn dyddiol yn ystod yr wythnos a dau ar y penwythnosau. Os ydi fy syms i yn gywir, golyga hyn y bydd Kevin allan wyth deg dau o weithiau tros y mis nesaf. Un ffordd o golli pwysau am wn i.
Ac nid dyna’r unig ganfasio chwaith; mae David am i pob cangen fynd allan i ganfasio bedair gwaith yr wythnos. Mae gan Lafur wyth cangen yng Ngorllewin Caerdydd, felly dyna ni dri deg dau sesiwn arall – 114 sesiwn o ganfasio i gyd mewn cyfnod o fis. Ac nid dyna’r cwbl – mae Dave hefyd eisiau i bobl fynd i beth sy’n weddill o Transport House i ffonio etholwyr anffodus Gorllewin Caerdydd.. Mae’r hogiau a’r genod am fod wrthi o chwech o’r gloch ymlaen pob nos ar y ffonau ac o ddeg o’r gloch y bore pob dydd Sadwrn. Ymddengys bod Dave hefyd yn bygwth anfon pobl i fynd o gwmpas yn crefu ar bleidleiswyr Llafur i fynd allan i fotio am ddeg diwrnod cyfan – o Ebrill 27 hyd at ddiwrnod y bleidlais.
Rwan, mi fyddai dyn wedi rhyw ddisgwyl hefyd y byddai mwyafrif sylweddol Llafur yn sicrhau y gallai Kevin gymryd pethau ychydig yn fwy hamddenol. Mae’n demtasiwn hefyd i nodi na fyddai’n rhaid iddo daflu ei hun i’r holl weithgaredd lloerig yma petai wedi bod ychydig yn fwy gweladwy yn yr etholaeth tros y blynyddoedd diwethaf. Mae Kevin yn gymeriad llawer llai amlwg yng ngorllewin y ddinas nag oedd y ddau aelod seneddol Llafur a ddaeth o’i flaen. Ond mae hynny braidd yn arwynebol. Adlewyrchiad ydi’r sefyllfa o’r graddau mae Llafur wedi colli eu cefnogaeth yn ninasoedd mawr y De yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r cwymp rhyfeddol yma mewn cefnogaeth i’w weld ar ei amlycaf yng nghanlyniadau’r etholiadau lleol diweddaraf, ond mae canlyniadau etholiadau Ewrop a’r Cynulliad yn tystio i’r chwalfa hefyd. Mae’n amlwg o lythyr David nad ydi Llafur yn canolbwyntio ar ennill pleidleiswyr newydd – mae holl ffocws pethau ar berswadio pleidleiswyr traddodiadol i fynd allan i bleidleisio. Gellir ddweud mai strategaeth o grefu ydi un Dave a Kevin.
Problem fawr Kevin ydi bod Llafur yng Nghaerdydd wedi gelyniaethu llawer o’u cefnogwyr naturiol (tybed os bydd Russell Goodway yn cymryd rhan yn yr holl ganfasio?). Eglura hyn pam bod yr holl ganfasio yn cychwyn ar strydoedd proletaraidd y stadau sy'n gyfochrog a Cowbridge Road West – dyma’r bobl sydd wedi bod fwyaf selog i Lafur, a dyma’r bobl mae Llafur wedi eu hanwybyddu. ‘Dwi’n rhyw dybio y bydd yr holl weithgaredd lloerig a'r holl grefu yn ddigon i gadw’r sedd i Lafur y tro hwn – ond fyddwn i ddim yn rhoi ffadan goch ar ragolygon Llafur yn etholiadau’r cynulliad y flwyddyn nesaf.
ON – mi fyddwn yn awgrymu eich bod yn cadw’n glir o’r Janata Palace (yr hen Far Pavilions a'r Royal Curry cyn hynny) am fis rhag i chi orfod gwrando ar sesiynnau briffio dolefus Dave. Ceir digon o fwytai Indiaidd blasus ar ochr y dref i
Tuesday, January 26, 2010
Beth ydi £1,000 i bobl fel hyn?
Mae'n neis iawn nodi bod un sefydliad Cymreig yn cefnogi un arall unwaith eto, gydag adnoddau'r WRU yn cael eu defnyddio i drefnu cinio mawreddog i noddwyr y Blaid Lafur y tro hwn.
Y syndod i Vaughan ydi fod Llafur yn gallu gofyn am cymaint a £1,000 i bobl am gael dod i'r digwyddiad. Vaughan druan, mae'r Byd wedi symud ymlaen tros yr ychydig ddegawdau diwethaf. Roedd tad a thaid y ddynas acw yn aelodau brwd o'r Blaid Lafur yng Nghaerdydd trwy gydol eu bywydau. Fyddai'r naill na'r llall wedi gallu fforddio mynychu'r sbloets, ond nid ar gyfer eu teips nhw mae'r sesiwn loddesta wedi ei threfnu wrth gwrs.
Y bobl sydd yn bwysig i Lafur bellach ydi eu noddwyr cyfoethog. 'Dydi'r rhain ddim yn bobl gyffredin fel fi a chi a Vaughan i chi gael dallt - o na - mae'r rhain yn bobl arbennig - yn wir maent yn bobl uwchraddol. Maen nhw'n gallu gwneud mwy o bres na bathdy Llantrisant, a beth ar wyneb daear sy'n fwy rhinweddol na hynny?
'Dydi cyfraniadau o tros i filiwn o bunoedd i'r blaid Lafur gan ddynion busnes cyfoethog iawn ddim yn anarferol iawn mewn cyd destun Prydeinig wrth gwrs. Pobl ydi'r rhain fel Lord Sainsbury, Lord Bhattacharyya, Sir Christopher Ondaatje, Sir Gulam Noon, Sir David Garrard, Sir Ronald Cohen, Sir Frank Lowe, Sir Alan Sugar, Bernie Ecclestone, Mahmoud Khayami heb son am David Abrahams a Peter Watt a'u tebyg. O gymharu a hynny 'dydi hi ddim yn syndod anferthol bod aelodau o gymuned busnes De Cymru yn fodlon talu £1,000 y plat am gael hobnobio efo Carwyn a Peter a'r hogiau a'r genod.
'Dydi £1,000 ddim yn swm anferth i aelodau seneddol y blaid Gymreig chwaith gyda'r cyflogau sylweddol a'r holl dreuliau a 'ballu. Mae arferion bucheddol y bobl busnes hyfryd mae'r aelodau seneddol yn ciniawa efo nhw wedi gwneud argraff ddofn arnynt - arferion megis dod o hyd i ffyrdd o dalu cyn lleied o dreth a phosibl. Mae gan yr aelodau seneddol fantais tros y dynion busnes hyd yn oed yma - maen nhw'n gallu gofyn i'r trethdalwr am y pres i dalu i rhywun i wneud n siwr nad ydi eu cyfraniad nhw eu hunain i goffrau'r trysolys yn ormodol. Wedi'r cwbl, pam y byddai aelod seneddol Llafur eisiau cyfrannu mwy na sydd rhaid i healthandeducation?
Busnes pobl eraill ydi hynny.
'Dydi £1,000 yn ddim byd i'r bobl hyn siwr Dduw.

Cliciwch ar y llun o ffurflen os nad ydych yn ei gweld yn glir.
Wednesday, October 28, 2009
Pol YouGov
(1) Mae YouGov yn gwmni uchel ei barch - ond 'dwi'n cytuno efo Alwyn - dydi'r fethodoleg heb ei phrofi yn erbyn etholiadau go iawn eto - felly mae'n ddigon posibl bod y ffigyrau'n llai na chywir.
(2) Os 'dwi'n gweithio pethau allan yn iawn, naw sedd ychwanegol fyddai'n cael eu hychwanegu at gyfanswm y Toriaid - Brycheiniog a Maesyfed, Gogledd Caerdydd, Aberconwy, Bro Morgannwg, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Gorllewin Casnewydd, Dyffryn Clwyd, Bro Gwyr a Phen y Bont. Byddai Plaid Cymru yn ennill Arfon, Ceredigion ac Ynys Mon.
Ond y ffaith amdani ydi nad ydi gogwyddau yn gyson y dyddiau hyn - gallai'r gogwydd fod yn uwch na'r 9% gogwydd o Lafur i'r Ceidwadwyr a'r 5.5% gogwydd oddiwrth Llafur i Blaid Cymru mewn rhai seddi (ac yn is mewn rhai eraill wrth gwrs). Felly gallwn ddadlau bod amrediad o seddi eraill mewn perygl - os ydi canfyddiadau YouGov yn gywir byddai Delyn, Gorllewin Caerdydd, De Caerdydd Penarth, De Clwyd a Dwyrain Casnewydd o fewn 2.5% i'r gogwydd cyffredinol (felly dim ond angen 1.25% neu lai o ogwydd ychwanegol) - mae hyn yn agos iawn.
Ymhellach byddai Llanelli, Wrecsam, Alyn a Glannau Dyfrdwy, a Gorllewin Abertawe angen llai na 5% o ogwydd yn ychwanegol i'r gogwydd cyffredinol. Mae amrywiaeth felly yn eithaf cyffredin. 'Dydi hyn ddim yn golygu eu bod i gyd am syrthio wrth gwrs, ond mae'n golygu eu bod oll yn rhan o'r gem. Mi fyddwn i'n dadlau mai'r unig seddau Llafur sydd yn weddol saff ydi'r 11 sydd yn y cymoedd (ag eithrio Blaenau Gwent). Fyddwn i ddim yn hoffi gorfod amddiffyn 18 sedd mewn amgylchiadau anffarfiol - ond dyna fydd rhaid i Lafur ei wneud.
(3) Mae'r ffaith bod cymaint mwy o blaid pwerau 'fel rhai'r Alban' na sydd o blaid 'pwerau deddfu llawn' yn bisar. Mae trefn yr Alban yn cynnig mwy na phwerau deddfu llawn (yr hawl i amrywio treth incwm er enghraifft). Yr unig eglurhad y gallaf feddwl amdano ydi os ydi'r cwestion yn cael ei fframio mewn ffordd sy'n tynnu sylw at rhywbeth sydd gan wlad gyfagos bod yr etholwyr am efelychu'r wlad honno.
Felly mi hoffwn wneud awgrym i Syr Emyr - beth am ofyn Ydych chi eisiau annibyniaeth fel Iwerddon, Ffrainc neu Sbaen?
Neu yn well, Ydych chi eisiau annibyniaeth fel Iwerddon, Ffrainc neu Sbaen, ta bod yn rhan o wlad fwy o lawer fel Chechnya, De Ossetia, neu Darfur?
Hwyrach y byddai llun o draeth yn Ffrainc a chregyn o adeiladau Chechneyaidd wedi eu bomio gan danciau'r Rwsiaid yn syniad hefyd.
Tuesday, October 06, 2009
A beth wnawn i o hynt a helynt yr LCO iaith?
'Dwi ddim yn siwr ble i ddechrau efo hon a dweud y gwir.
Dyna ni Peter Hain yn gwneud datganiad i'r wasg ynglyn a'r mater cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud yn y Cynulliad - ac felly'n dangos ei ddirmyg a'i wawd tuag at y corff hwnnw.
Wedyn, fel mae Vaughan yn nodi, mae bellach yn amlwg bod Ty'r Cyffredin yn ail siambar i'r Cynulliad.
Wedyn ymddengys bod cwmniau sy'n cynnig hyfforddiant - fel un Peter Hain a'i wraig bellach ddim yn dod o dan ofynion y ddeddf, oherwydd nad ydynt yn derbyn arian cyhoeddus. Gobeithio ei fod wedi datgan diddordeb os oedd angen iddo wneud hynny - rydym eisoes wedi gweld bod y boi'n gallu bod yn rhyfeddol o anghofus.
Ond y pwynt mwyaf arwyddocaol ydi hwn - pam goblyn bod y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig eisiau trafod y mater eto, a chabinet San Steffan eisoes wedi rhoi sel bendith i'r newidiadau?
Yr ateb mwyaf tebygol ydi nad oes gan Aelodau Seneddol Cymreig bellach fawr o ddim byd i wneud efo'u hamser, a dyna pam maen nhw'n torri glo man yn glapiau yn ystod y broses craffu ar argymhellion Caerdydd, a dyna pam maen nhw'n cyfarfod i drafod penderfyniadau sydd eisoes wedi eu gwneud.
Wir Dduw, mae pedwar deg Aelod Seneddol yn San Steffan yn ormod o beth coblyn. Byddai hanner hynny'n gwneud yr un joban yn llawer mwy cost effeithiol na'r criw presenol o holltwyr blew proffesiynol.
Saturday, May 23, 2009
Y Daily Post a Lwfansau Plaid Cymru
Yr hyn sydd ganddynt ydi bod y tri aelod seneddol Plaid Cymru wedi defnyddio rhan o'u lwfansau cadw swyddfa ac ati i dalu am gyngor cyfreithiol ynglyn a'r posibilrwydd o uwch gyhuddo Blair. Mae'r defnydd yma o bres y trethdalwr yn cymaint o stwmp ar stumog y Daily Post, maent wedi mynd ati i greu stori tudalen flaen o'r mater.
Am rhyw reswm 'dydi'r stori ddim yn nodi mai cost y rhyfel hwnnw i drethdalwyr Unol Daleithiau'r America oedd $1,600,000,000,000,000,000, na bod 4,296 o'r dywydiedig drethdalwyr wedi eu lladd yn y rhyfel (heb son am y 110,600 o Iraciaid a laddwyd wrth gwrs).Yn ffodus roedd pethau'n rhatach ym Mhrydain - 179 o farwolaethau milwrol yn unig a chost i'r trethdalwr o £5,300,000,000, ond 'dydi'r Post ddim yn son am hynny chwaith.
Y prif reswm bod Prydain wedi cymryd rhan yn yr ymarferiad gorffwyll o ddrud (yn ariannol ac o ran y bywydau pobl) yma ydi bod y llywodraeth Lafur wedi rhaffu un celwydd ar ol y llall er mwyn creu argraff bod bygythiad o gyfeiriad Irac.
Fedra i ddim honni mai'r grwp atgas o bapurau mae'r Daily Post yn perthyn iddo - Trinity Mirror - oedd y mwyaf euog o bell ffordd o bedlera propoganda Blair yn y misoedd cyn y rhyfel. Serch hynny, pe byddai'r wasg - Trinity Mirror yn gynwysiedig - ar y pryd heb fod mor bathetig o grediniol o gelwydd gwleidyddion, hwyrach na fyddai'r trethdalwr wedi orfod dod o hyd i biliwn ar ol biliwn o bunnoedd i dalu am antur oedd wedi ei chyfiawnhau gan llond trol o gelwydd.


