Showing posts with label Tai fforddiadwy. Show all posts
Showing posts with label Tai fforddiadwy. Show all posts

Saturday, July 04, 2009

Tai Fforddiadwy

Nid yn aml y byddaf yn cyfeirio at ddau gyfraniad i flog Dyfrig ddwywaith o'r bron - ond dyna 'dwi am ei wneud heddiw.

Y ddadl yma sy'n mynd a fy niddordeb. 'Dwi ddim am fynd i mewn i'r achos ei hun ag eithrio i nodi bod cynllun yn cael ei gynnig i ddatblygu tai fforddiadwy ym mhentref Talysarn. Fel mewn llawer achos tebyg, roedd y cynllun yn un oedd yn creu gwrthwynebiad yn lleol ond roedd hefyd yn ceisio diwallu anghenion ehangach. Fe syrthiodd y cynnig.

'Rwan, does gen i ddim problem efo hyn fel y cyfryw - mae penderfyniadau fel hyn yn aml yn ddibynol ar gytbwyso gofidiau lleol yn erbyn lles ehangach. Mae gan pob cynghorydd hawl i'w farn, ac mae ganddo hawl i fynegi'r farn honno ar ffurf pleidlais. Peth felly ydi llywodraeth leol.

'Rwan yn ol Dyfrig, dywedodd un o bwysigon Llais Gwynedd yn y cyfarfod mai Spin llwyr yw Tai Fforddiadwy. Dydw i'n amlwg ddim yn gwybod os ydi hynny'n wir gan nad oeddwn yn y cyfarfod - ond 'dydi Aeron ddim yn cywiro Hen Rech Flin pan mae yntau'n cyfeirio at y mater yma. Mae gwrthwynebu tai fforddiadwy fel strategaeth o fynd i'r afael a diffyg gallu pobl leol i fforddio tai yn fater tra gwahanol i wrthwynebu datblygiad arbennig o dai fforddiadwy.

Yn ystod eu hymgyrch ar gyfer etholiadau lleol 07, gwnaeth Llais Gwynedd gryn dipyn o dai fforddiadwy ac ymddiriedolaethau tai. Ymddengys eu bod bellach wedi newid eu meddyliau. Ynddo'i hun 'does yna ddim oll o'i le yn hyn - bydd pobl a phleidiau yn newid eu meddyliau o bryd i'w gilydd. Mae serch hynny'n deg gofyn os nad ydi Llais Gwynedd bellach yn credu mewn tai fforddiadwy, beth yn union ydi eu strategaeth ar gyfer mynd i'r afael a phroblem sydd yn un ddwys iawn yn rhannau o Wynedd?

Mae Aeron hefyd yn cyfeirio at y ffaith nad ydi Cyngor Gwynedd yn cynnig morgeisi i bobl ifanc. Mae hyn wedi'i gynnwys yng Nghynllun Ymateb i'r Dirwasgiad sydd wedi ei lunio gan Cyngor Gwynedd. Adolygwyd hyn yn ddiweddar gan Fwrdd y Cyngor er mwyn goresgyn rhai o'r anhawsterau gyda rhai cymdeithasau adeiladau yn gwrthod morgeisi ar gyfer tai Adran 106. Cefnogwyd hyn yn unfrydol gan bob plaid - gan gynnwys LLais Gwynedd.

I gynnig morgeisi, mae rhaid cael tai wrth gwrs. Un o brif fanteision morgais llywodraeth leol yw ei fod yn ffordd o gwmpas agwedd rhai cymdithasau adeiladu at Adran 106. Ond os ydi'r cysyniad o dai fforddiadwy yn ddiwerth, mae'n cyfyngu'n sylweddol ar ddefnyddioldeb morgais llywodraeth leol.