Saturday, April 04, 2015

Ynglyn ag is etholiad Cadnant

Mae yna gryn dipyn o ymateb wedi bod i is etholiad Cadnant - rhywfaint ohono'n synhwyrol a rhywfaint ohono'n llai felly.  Gellir gweld rhywfaint ohono yma.

Rwan fydda i ddim yn rhannu data etholiadol yn aml iawn, ond mi wnawn ni eithriad y tro hwn.  Mae Cadnant yn anarferol fel ward yn yr ystyr bod y Blaid wedi cael llawer, llawer mwy o bleidleisiau mewn etholiadau cyngor na mewn etholiadau San Steffan neu Gynulliad yn y gorffennol agos.  Y rheswm am hynny oedd bod gan y diweddar Huw Edwards bleidlais bersonol sylweddol.  Ystyriwch y ffigyrau canlynol.

Yn etholiad Cyngor 2008 cafodd y Blaid 424 pleidlais, y Toriaid 120 pleidlais a Llafur 118 pleidlais.

Yn etholiad Cyngor 2012 y ffigyrau oedd Plaid Cymru 396, Llafur 268.

Yn is etholiad ddoe y bleidlais oedd Llafur 233, Plaid Cymru 185, Llais Gwynedd 148, Annibynnol 94, Tori 22.  

Rwan mae hyn yn edrych yn gwymp mawr o ran y Blaid - ac mae o.  

Ond ystyrier y pleidleisiau oedd ym mocs Cadnant yn Etholiad San Steffan 2010.  Llafur 246, Plaid Cymru, 234, Toriaid 108, Dib Lems 68 ac UKIP 16.  Roedd y bleidlais Llafur 13 yn is o gymharu a hynny ddoe, a phleidlais y Blaid 49 yn is.  Felly roedd cwymp y Blaid 36 yn fwy nag un Llafur.

Neu ystyrier is etholiad Cyngor Tref yn y ward y llynedd:  Plaid Cymru 216, Annibynnol 126, Llafur 77.

Hynny yw mae pleidlais y Blaid yn etholiad San Steffan yn weddol debyg i'r bleidlais y llynedd ar y Cyngor Tref ac echdoe ar y Cyngor Sir.  Roedd pleidlais y Blaid yn Etholiad y Cynulliad yn 2011 hefyd yn debyg iawn.  

Rwan, os rydym yn edrych ar yr etholiad Cyngor Tref echdoe roedd pleidlais y Blaid yn uwch - ond collwyd y sedd, oherwydd i bleidlais yr ymgeisydd annibynnol, Maria Sarnaki (mam y gantores Sarah Louise gyda llaw) godi mwy o lawer.   Yr un etholwyr yn union oedd yn pleidleisio, ond nid oedd Llafur, y Toriaid na Llais Gwynedd wedi llwyddo i ddod o hyd i ymgeisydd.

Plaid Cymru 280
Annibynnol 360

Hynny yw Plaid Cymru + 95, Annibynnol + 246.

Rwan fedran ni ddim bod yn gysact yma - yn wahanol i'r data blaenorol - ond y tebygrwydd ydi i'r rhan fwyaf o bleidleisiau Llafur fynd i Maria, ac i'r rhan fwyaf o bleidleisiau Llais Gwynedd fynd i'r Blaid.  Mi fedrwn ni hefyd fod yn siwr bod rhywfaint o bleidleisiau Maria yn rhai fyddai wedi mynd i'r Blaid yn ei habsenoldeb.

Felly does yna ddim lle mewn gwirionedd i feddwl y bydd unrhyw beth sylweddol wedi digwydd i Bleidlais y Blaid yng Nghadnant.  Mae o i lawr ychydig o gymharu ag etholiadau Cynulliad a San Steffan - ond yng nghyd destun cystadleuaeth (Llais Gwynedd a Maria) fydd ddim yno ym Mis Mai.  

Mae i lawr yn sylweddol o gymharu a phleidlais Huw - ond roedd tua hanner ei bleidlais o yn un bersonol - pleidlais a ddaeth trosodd ato wedi blynyddoedd o ymdrechu caled, ac wedi marwolaeth Mair Ellis.

Mae pleidlais Llafur hefyd i lawr o gymharu ag Etholiad Cyffredinol 2010, ac Etholiad Cyngor 2012, ond ddim o cymaint a'r Blaid.  Mae eu hymgeisydd yn byw ar stad sylweddol Maesincla (lle mae'r rhan fwyaf o'r etholwyr yn byw), mae wedi gweithio i'r CAB yn y dref am flynyddoedd ac mae eisoes yn gynghorydd tref.

Roedd Glyn Tomos (Cyngor Sir) yn ymgeisydd cryf - a Menna (Cyngor Tref) hefyd - ond mae'r ddau ohonynt yn newydd i etholiadau.  Dydyn nhw heb gael yn agos gymaint o amser i adeiladu cefnogaeth na Huw, nag yn wir yr ymgeisydd Llafur.

A'r gwersi?  Yn gyntaf mae'n cymryd amser i adeiladu cefnogaeth, a does yna ddim rheswm o gwbl pam na ddylai Glyn a Menna adeiladu cefnogaeth felly tros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Ac o ran Etholiad Cyffredinol 2015 - does yna ddim tystiolaeth o fawr o symud ym mhleidlais greiddiol y Blaid na Llafur ers 2010 - mi gadwodd y ddwy blaid y rhan fwyaf ohono yn wyneb cystadleuaeth chwyrn gan Llais Gwynedd a Maria.  Dydi edrych ar is etholiad lleol ddim yn ffordd dda iawn o ddarogan canlyniad Etholiad Cyffredinol. 

Diweddariad 6/4

*Mi ddyliwn fod wedi ychwanegu yma mai ffigyrau bocs Cadnant ydi'r ffigyrau San Steffan.  Roedd pleidlais y pleidiau yn uwch mewn gwirionedd oherwydd bod pleidleisiau post yn cael eu cyfri ar wahan.  Dydi'r addasiad ddim yn newid y ddadl sylfaenol.



13 comments:

Anonymous said...

Diolch Cai. Defnyddiol iawn.

Ond, mae 'na bryder efallai bod pobl sydd ddim yn Bleidwyr yn crynhoi o gwmpas un ymgeisydd 'gwrth genedlaethilaidd' fel ddigwyddodd efo'r Lib Dems yng Ngheredigion.

Yn fras, mae angen sicrhai bod negees Huwel yn glir a'i newid os rhywbeth. Ond mae angen lot o waith ar kawr gwlad.

Mae angen i Hywel fod yn fwy 'animated' hefyd. Mae'n gallu did srosodd yn 'rhy deeallus'. Weithiau, dydy etholwyr ddin eisiau i rhywun esbonio'r broblem iddynt, mae nhw eisiau rhywun i fod yn gtac ar eu rhan. Mae mhw eisiau gweld emosiwn.

Ie, anhen ychydig o passion ac angerdd ac efallai gweiddi a siarad olaen gan Hywel a dweud rhywbeth anisgwyl. Fel mae Joni Eds yn neud.

Ond angen holl bleidwyr Atfon allan yn ei helpu.

M.

Anonymous said...

mewn Cymraeg cofi - bollocs. Mi syrthiodd pleidlais PC I lawr yn sylweddol. Roedd hon yn sedd roeddent wedi meddwl ennill, roedd gwynebau cefnogwyr Plaid Cymru ar y noson yn wynebau o sioc gan geisio didoli "..be aeth allan o le "? Eto dwi yn cytuno na ward Llafur fydd hon mewn unrhyw etholiad cyffredinol/Cynulliad oherwydd ei natur fel ardal di-freintiedig, ac ardal dosbarth gweithiol, ac yn y fan honno mae Plaid Cymru wedi ei cholli, sef nad yw y bobol dosbarth gweithiol yn eu cysidro eu bod yn edrych ar eu h'olau mwyach. - A dweud y gwir tydi y Blaid Lafur genedlaethol ddim chwaith. lol.

Cai Larsen said...

Mae'r ffigyrau dwi yn eu defnyddio yn gwbl gywir. Mae gen ti hawl anghytuno wrth gwrs - ond mi fyddai yna fwy y tu ol i dy anghytundeb pe tai gennyt ffigyrau gwell.

Oes gen ti rai?

Cai Larsen said...

O, ac M - diolch am y sylwadau, ond does yna ddim tueddiad o grynhoi o gwmpas gwrth genedlaetholwr yn Arfon - fel mae'r canlyniadau hwn ac eraill yn ei ddangos mae pobl sy'n fotio yn erbyn y Blaid mewn un etholiad yn ddigon parod i bleidleisio trosti mewn un arall.

Anonymous said...

Dwi'n amau dy ffeithiau. Mae dy ganlyniad 2010 yn awgrymu mae dim ond cwta 50% drafferthodd fwrw pleidlais yn ward Cadnant. Mae hyn yn cymharu a 63% ar gyfer Arfon sy'n cynnwys wardiau myfyrwyr Bangor. Anodd credu fod Cadnant mor isel.

Lle ddaeth dy ganlyniad? Straw poll PC? Go brin fod modd credu hwnnw os ydi mater mor sylfaenol a faint ddaru fwrw pleidlais yn anghywir.

Cai Larsen said...

O gyfri'r pleidleisiau fel maent yn dod allan o'r bocs. Mae'r ffigyrau yn gywir +\-2%.

Anonymous said...

Felly ffigyrau PC di'r rhai 'hollol gywir' ddaru ti ddefnyddio? Bellach sylwaf hefyd fod 'hollol gywir' wedi newid i +/- 2% felly fyddai gweddol gywir yn well disgrifiad?

Not at y pwynt. Pa reswm sydd dros gyn lleieg a 50% yn bwrw pleidlais yn Wards Cadnant er fod 63% wedi gwneud hyn ar draws Arfon? Yn draddodiadol wardiau stiwdants Bangor sydd a'r nifer isaf yn pleidleisio - cyn lleied a 25%. Os oedd Cadnant hefyd yn arswydus o isel fel ti'n honno mae'n awgrymu fod 'na ganrannau uchel iawn iawn mewn wardiau eraill.

Yn syml - dwi'n amheus o dy ffeithiau sydd, fel ti'n cydnabod, wedi ei casglu gan ymgyrchwyr PC.

Anonymous said...

Yr wyf yn gresynnu'n arw na chafodd Glyn Tom ei ethol - gweithiwr diflino yn ei ardal enedigol ac yn Arfon ers degawdau.
Mae eironi mawr - fel aelod selog o'r mudiad Adfer, buasai safbwynt Glyn ar fewnfudo Seisnig i gefn gwlad Arfon yn llawer agosach at farn rhai o sylfaenwyr Llais Gwynedd nac y buasai at farn Leanne Wood, sydd wedi ei chaethiwo gan syniadau'r chwith i raddau.

Cai Larsen said...

anon 3.38

Fedra i ddim profi i ti bod y ffigyrau yn gywir - dydyn nhw ddim wedi eu cyhoeddi - ond dwi wedi pechu rhyw fymryn nad wyt yn eu derbyn - dwi'n ymfalchio fy mod yn darparu gwybodaeth ffeithiol gywir ar y blog yma - ac mi fyddwn i 'n dy herio i ddod o hyd i stwff sydd ddim yn gywir. Dydw i ddim yn gwneud hyn oherwydd fy mod yn foi arbennig o dda, ond oherwydd fy mod o'r farn ei bod yn bwysig darparu gwybodaeth gywir er mwyn sicrhau hygrededd y blog.

O ran y ffigyrau penodol Cadnant, fi gyfrodd y bocs hwnnw fy hun yn 2010 - dwi'n hyderus ei fod yn gywir iawn.

Mae yna amrywiaeth o tua 2% ar hyd y set data i gyd - hynny yw yr etholaeth i gyd. Dwi'n hyderus bod y ffigwr cadnant yn fwy cywir o lawer na hynny.

Cai Larsen said...

Anon 6.18 - dydw i ddim yn gwybod beth ydi agwedd Llais Gwynedd at fewnfudo. Wyt ti?

Cai Larsen said...

O - Anon 3.38 - ffogyrau y pleidleisiau ym mocs Cadnant dwi wedi eu rhoi i ti - dydi'r pleidleisiau post ddim yn y bocs - mae'r rheiny i gyd yn cael eu cyfri ego'u gilydd.

Anonymous said...

Dwi'n cofio sylwadau Seimon Glyn yn 2001, a dwi'n gwybod beth fuasai agwedd Alwyn Gruffydd. 'Rhai' o sylfaenwyr oedd fy mhwynt, noda. Ni chredaf y buasai yna lawer o Gymraeg rhwng Louise Hughes a Glyn Tom.

Cai Larsen said...

Does gen i ddim diddordeb mynd i ffraeo efo LlG - does yna fawr o bwrpas i'r hollt bellach - ond roedd bron i'r cwbl o gynghorwyr y mudiad yn canfasio i Louise yn 2011.