Sunday, April 28, 2024

Pam bod creu trydan trwy ddulliau adnewyddadwy mor rhad, mor sydyn?

 Digwyddodd rhywbeth yn gynharach fis yma oedd yn arwyddocaol iawn, sy’n effeithio arnom ni i gyd a sydd a goblygiadau pellgyrhaeddol i’r dyfodol, ond ‘doedd ‘na ddim sôn ar y newyddion o gwbl ac ychydig iawn o bobl wnaeth sylwi ar y peth.

Yr hyn ddigwyddodd oedd i awr o gynhyrchu trydan yn y DU fynd rhagddi lle  syrthiodd y defnydd o danwydd ffosil wrth gynhyrchu’r trydan i 2.4% yn unig. ‘Dydi ffigwr hwn heb fod cyn ised yn hanes y Grid Cenedlaethol.  

Mae tua 80 cyfnod o hanner awr gyda llai na 5% o’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu  o ffynonellau adnewyddadwy wedi digwydd eleni.  Eto mae hyn yn record - a ‘dydyn ni ond traean o’r ffordd trwy’r flwyddyn.  Mae hi bellach yn eithaf cyffredin i ffynonellau ffosil gyflenwi llai na 10% o anghenion dyddiol y Grid.  

Mae’r ffordd rydym yn cynhyrchu trydan yn newid yn gyflym - ac mae’n debygol iawn y bydd y bydd cyfnodau y flwyddyn nesaf pan na fydd defnydd yn cael ei wneud o gwbl o danwydd ffosil.  

Mae’n bwysig bod pethau yn symud i’r cyfeiriad yma  - cynhyrchu ynni trwy losgi tanwydd ffosil ydi un o brif yrwyr newid hinsawdd, ac mae llosgi rhai mathau o danwydd ffosil - glo er enghraifft - yn achosi niferoedd sylweddol iawn o farwolaethau yn fyd eang pob blwyddyn yn sgil y llygredd a gynhyrchir.

Mae ynni adnewyddadwy yn rhad - yn rhad iawn erbyn hyn, nid yw’n cynhyrchu fawr ddim o ran allbynnau carbon, ac ychydig iawn, iawn, o farwolaethau anfwriadol sy’n digwydd yn ei sgil o gymharu a dulliau eraill o gynhyrchu trydan.

Mae’n wir bod roedd cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn ddrud yn y gorffennol - yn achos ynni solar ac ynni gwynt o leiaf - ond mae’n rhad erbyn hyn. 

I egluro sut mae hyn wedi digwydd efallai mai’r ffordd orau ydi dweud stori bach bersonol o oes yr arth a’r blaidd - 70au’r ganrif ddiwethaf - pan oeddwn i’n ddisgybl yn Ysgol Brynrefail.  

Rhywbryd yng nghanol y 70au cefais chwilen yn fy mhen fy mod eisiau ac angen cyfrifiannell - eitem hynod o ddrud ar y pryd.  Doedd gan neb o fy ffrindiau gyfrifiannell.   


Beth bynnag, mi wnes i ddechrau rhoi fy mhres poced, arian penblwydd, arian ‘Dolig ac ati o’r neilltu - dim da da, dim creision, dim cardiau pel droed na dim arall am fisoedd.  Daeth y diwrnod ar ôl hir aros pan oedd gen i ddigon o bres wedi ei hel a phrynais y gyfrifiannell - ac roeddwn i’n hapus fel y gog am dipyn - ond ddim am hir.

Dri mis wedi i mi hel y pres at ei gilydd a phrynu’r teclyn sylweddolais y gallwn fod wedi ei brynu bryd hynny am hanner y pris talais amdano. ‘Doeddwn i ddim mor hapus o ddod i ddeall hynny.

Wedi dwyn hyn i gof wrth baratoi ar gyfer y blogiad yma mi es i ati i gael golwg sydyn ar brisiau cyfrifianellau yn 60au a 70au y ganrif ddiwethaf, ac mae hanes swyddogol y teclynnau yn cadarnhau’r hyn dwi’n gofio.

Daeth y cyfrifianellau cyntaf ar y farchnad am tua £370 yn 1966.  Mae £370 yn swnio’n llwyth o bres heddiw - ond mae yna gryn dipyn o chwyddiant wedi digwydd ers hynny, ac roedd y £370 yn llawer, llawer mwy o bres bryd hynny nag ydi o heddiw. Ym mhres heddiw mae £370 yn 1966 werth tua £3,600.   

Roedd y Sinclair Scientific yn gwerthu am £49.95 yn 1974 (tua £700 ym mhres heddiw) - tua pryd oeddwn i’n stwffio pob magan oedd yn dod fy ffordd i mewn i’r cadw-mi-gei er mwyn prynu cyfrifiannell.

Roedd yr un model yn union ar werth am £7 (tua £63 ym mhres heddiw) ddwy flynedd yn ddiweddarach.  

Erbyn heddiw gellir prynu cyfrifiannell am fawr mwy na £1, a gellir cael fersiynau digidol ohonynt yn rhad ac am ddim.


Ar y pryd roedd yn hynod anodd deall pam bod y newid enfawr yma wedi digwydd a pham bod oeddwn i wedi safio a sgimpio cymaint yn ddi-angen - ond a thyfu’n hen a gallu edrych yn ôl a bod efo mymryn o ddealltwriaeth sut mae marchnadoedd yn gweithio, mae’r peth i gyd yn eithaf hawdd i’w esbonio.  Roedd tri ffactor yn gyrru’r cwymp mewn prisiau.

 

Yn gyntaf mae technoleg yn gwella ac yn mynd yn fwy effeithiol tros amser - ac mae hynny’n gyrru prisiau i lawr.  

 

Yn ail pan mae nwyddau yn cael eu cynhyrchu ar raddfa anferth mae’r gost o gynhyrchu pob uned yn syrthio’n sylweddol.  

 

Yn drydydd pan mae nwyddau yn cael eu cynhyrchu yn eang iawn, mae cyflenwyr newydd yn dod i’r farchnad mewn niferoedd mawr, ac mae cynyddu cystadleuaeth yn gyrru prisiau i lawr.  

 

Canlyniad hynny ydi bod prisiau nwyddau a systemau technolegol yn syrthio’n gyflym iawn pan mae’r tri ffactor yna yn dod ynghyd. Felly ceir cwymp esbonyddol - ‘exponensial’ - mewn prisiau.

 

‘Rydan ni’n sôn am rymoedd economaidd sylfaenol yn y fan hyn, ac mae’r grymoedd hynny yn gweithredu yn y farchnad ynni hefyd - ond gydag un ychwanegiad pwysig. 

 

Dylai hyn fod yn eithaf amlwg - ond mae’n debyg bod ambell un yn methu’r amlwg yn llawer rhy aml  - os ydym yn cynhyrchu ynni o’r gwynt neu o oleuni’r haul, ‘dydyn ni ddim yn gorfod prynu goleuni na gwynt.  Ar y llaw arall os ydym yn defnyddio glo, olew neu nwy i gynhyrchu trydan, rydan ni’n gorfod prynu’r glo, olew neu nwy.

 

Canlyniad hyn ydi bod creu trydan o ffynonellau adnewyddadwy yn rhatach na chreu trydan o ffynonellau eraill.   Gweler y graffiau isod (rwyf wedi eu dwyn efo’r digwyleidd-dra arferol)  i ddangos hyn.





 

Y gost gyntaf i gael ei chofnodi erioed am gynhyrchu ynni solar oedd $1865 (mewn pres heddiw) am 1 watt o drydan.  ‘Dydi 1 watt ddim llawer o drydan o gwbl. Mae’r systemau sydd ar doeau tai preifat heddiw yn cynhyrchu tua 400 watt y panel y diwrnod .   A chymryd bod 16 panel ar do, golyga hyn bod mwy na 30kwh yn cael ei gynhyrchu pob dydd - ar ddiwrnod braf.  

 

Ar brisiau 1956 byddai cynhyrchu cymaint a 30kwh o drydan wedi costio tua $500,000.  Yn amlwg ddigon dylai ymchwil i’r mater fod wedi dod i stop yn y fan a’r lle bryd hynny yn wyneb y ffasiwn gost - a dyna fyddai wedi digwydd oni bai am un peth - yr unig ffordd o gynhyrchu trydan yn y gofod ydi trwy ynni solar.  Roedd y ‘space race’ yn ei ddyddiau cynnar bryd hynny.

 

Felly parhaodd yr ymchwil a syrthiodd cost cynhyrchu ynhyrchu trydan trwy’r dull hwn - yn raddol iawn ar y cychwyn - ond yn gyflym iawn erbyn ail ddegawd y ganrif hon. Erbyn heddiw mae ynni solar wedi datblygu i fod yn un o’r ffyrdd rhataf o gynhyrchu trydan.  Mae egwyddorion tebyg yn wir am ddulliau adnewyddadwy eraill o gynhyrchu trydan.  Bydd y broses yma yn parhau i’r dyfodol a bydd cost ynni adnewyddadwy yn parhau i syrthio.

 

Mae yna broblem efo ynni adnewyddadwy wrth gwrs - mae’r rhan fwyaf ohono -  er nad y cyfan o bell ffordd - yn cael ei gynhyrchu gan y gwynt a goleuni’r haul. Ceir adegau pan nad ydi’r naill na’r llall ar gael.  

 

Ac mae yna bobl fel Andrew Neil a John Redwood yn ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at yr achlysuron gweddol brin hynny pan mai ychydig iawn o ynni adnewyddadwy sy’n cael ei greu, tra’n aros yn hollol fud pan bod bron i’r cwbl o’r trydan a gynhyrchir yn dod o ffynonellau adnewyddadwy.  

 

Mae gan lywodraeth y DU darged o gynhyrchu trydan yn gyfan gwbl o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, ac o ganlyniad mae’n rhaid cyfarch y broblem o sut i gynhyrchu trydan pan mae hi’n gymylog ac yn ddi wynt erbyn hynny.  

 

Yn ddamcaniaethol nid oes rhaid gwneud dim.  Mae cyfran go lew o’r trydan sy’n cyrraedd y Grid ar hyn o bryd yn  dod trwy ryng-gysylltyddion - ‘interconnectors’  - hynny ydi o wledydd cyfagos megis Ffrainc neu wlad Belg.  

 

Cynhyrchir llawer o’r trydan  hwnnw trwy ddulliau niwclear - dulliau sydd yn osgoi llosgi tanwydd ffosil, ond sy’n dod a phroblemau eraill yn eu sgil. Ond mae’n rhaid cyfaddef nad ydi cynyddu dibyniaeth ar wledydd eraill yn gwneud synnwyr o safbwynt y DU - yn arbennig a ninnau wedi gwenwyno ein perthynas efo nhw yn sgil Brexit. 

 

Ond mae yna opsiynau eraill  - storio trydan pan mae amodau cynhyrchu yn ffafriol a’i ddefnyddio pan nad ydi amodau yn ffafriol ydi un dull.  Mae unrhyw un sydd wedi prynu batri solar yn gwybod eu bod yn bethau drud. Ond y newyddion da ydi bod yr un ffactorau sy’n gyrru prisiau cynhyrchu trydan i lawr hefyd yn gwthio prisiau batris i lawr yn gyflym. Mae cost batris lithiwm wedi syrthio tua 99% tros gyfnod o 30 o flynyddoedd. ‘Does yna ddim lle i gredu bod y cwymp yma yn arafu (mae graddfa’r gostyngiad yn debyg iawn i un ynni solar gyda llaw). 




 

Nid solar, gwynt a batris ydi’r unig opsiwn o ran cynhyrchu ynni heb losgi tanwydd ffosil (na defnyddio niwclear).  Ceir sawl arall sydd eisoes mewn defnydd.- er enghraifft hydro, biomass, trydan yn cael ei gynhyrchu o wres tanddaearol, llanw ac ati.

 

‘Dwi ddim eisiau creu’r argraff bod cyrraedd sefyllfa lle mae holl drydan y DU yn cael ei gynhyrchu trwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2035 am fod yn hawdd.  Ond ‘does ‘na ddim rheswm i gredu nad ydi o’n bosibl, a nid oes rheswm i gredu os na chyrhaeddir y targed erbyn 2035 na ellir gwneud hynny yn fuan wedyn. 

 

Byddai llwyddo i wneud hynny yn gadarnhaol ym mhob ffordd - byddai ynni yn cael ei gynhyrchu yn rhad, mewn modd sydd ddim yn creu llygredd, nac  yn cyfrannu at newid hinsawdd chwaith.