Monday, December 31, 2018

Ynglyn a gadael yr UE

Wrth baratoi i ail gychwyn blogio ddoe roeddwn yn edrych tros hen flogiadau ac roedd yn fy nharo bod os oes egwyddor cyson o gwbl y tu ol i Flogmenai mai’r gred bod gwleidyddiaeth a’r prosesau sy’n ymwneud a gwleidyddiaeth yn eu hanfod yn syml hyd yn oed os ydynt yn ymddangos yn gymhleth ydi hwnnw.  

Fy mwriad ydi parhau i ddilyn y trywydd hwnnw - ac mi wnawn ni ddechrau efo’r mater ymddangosiadol gymhleth hwnnw - ymadawiad y DU a’r UE.


Dros i flwyddyn yn ol - pan roedd y DU wrthi’n cael ei llusgo trwy gam cyntaf y negydu mi ysgrifennais yr isod ar Flogmenai.


Y peth cyntaf i'w ddweud ydi nad proses o negydu yn yr ystyr arferol ydi'r hyn sydd wedi dod i fwcl heddiw.  Yn hytrach mae'n broses o'r UE yn dweud wrth y DU beth sy'n rhaid iddi ei wneud cyn cael trafod trefniadau masnach yn y dyfodol, a'r DU - ar ol tipyn o theatrics - yn cytuno i'r hyn maent yn gofyn amdano.  


Mae'r rheswm pam bod hyn yn digwydd yn eithaf syml yn y bon - mae pethau'n unochrog iawn - mae'n 'negydu' rhwng bloc masnachu anferth a gwlad ganolig ei maint sydd ddim efo cytundeb masnach efo unrhyw wlad yn annibynnol o'r UE. Byddai methu a dod i gytundeb yn niweidiol i'r UE - ond byddai'n gwbl drychinebus i'r DU o safbwynt masnachol.


Dwi’n meddwl bod y darn bach yna o ddarogan wedi goroesi yn eithaf da - a ‘dydi’r ffeithiau sylfaenol oedd y tu ol iddo ddim wedi newid llawer.  Yn sylfaenol maent fel a ganlyn:


  1. ‘Dydi’r negydu ddim rhwng negydwyr cyfartal.  Mae’r UE yn llawer mwy pwerus yn economaidd na’r DU - ac mae angen y DU am gytundeb yn llawer mwy nag un y DU. 
  2. Er bod yr UE yn greadur eithaf cymhleth, yr hyn yw yn waelodol ydi bloc masnachu.  Mae bloc masnachu pob amser am roi ffafriaeth i’w aelodau ei hun tros bawb arall.  Partneriaid agos sy’n dod yn ail.  Trydydd gwledydd sy’n dod yn - wel - drydydd.  Pe na fyddai bloc yn ymddwyn yn y ffordd yma  ni fyddai unrhyw gymhelliad i unrhyw wlad ymuno a’r bloc, aros yn y bloc na sefydlu trefniadau arbennig efo’r bloc.  
  3. Mae cyfraith yr UE yn adlewyrchu’r realiti uchod, a felly fydd cyfraith yr UE ddim yn cael ei newid na’i addasu i gyfarfod ag anghenion gwlad sy’n gadael yr UE - a sydd o bosibl eisiau bod yn drydydd gwlad.  Mae hyn yn cyfyngu yn sylweddol ar yr hyn y gellir ei gynnig i’r DU.

Camddealltwriaeth - bwriadol neu anfwriadol - ynglyn a hyn arweiniodd at ganlyniad refferendwm 2016.  Gwerthwyd - a phrynwyd - y syniad ei bod yn bosibl i’r DU adael yr UE a chadw’r manteision tra’n hepgor yr anfanteision.  ‘Doedd hyn ddim yn bosibl yn 2016, ‘dydi o ddim yn bosibl rwan a fydd o byth yn bosibl. 


Un waith eto er mwyn eglurder - ‘dydi hi ddim yn bosibl gadael orbit rheoliadol a chyfreithiol yr UE a chadw’r manteision o fod yn yr orbit hwnnw.  Byddai caniatau hynny yn weithred o hunan laddiad ar ran yr UE. 


Ac mae’r stori o ddwy flynedd o trafodaethau Brexit wedi adlewyrchu methiant Prydain i ddod i dermau efo’r ffaith bod Brexit wedi ei werthu ar sail celwydd gwaelodol.  Mae'r llywodraeth yn gofyn am rhywbeth amhosibl. Dywedir wrthi nad ydi’r hyn mae’n gofyn amdano yn  bosibl. Mae’r llywodraeth wedyn yn mynd ati i ofyn am union yr un peth 27 gwaith eto trwy fynd o gwmpas y gwahanol lywodraethau a gofyn yn unigol iddynt am rhywbeth amhosibl.  Mae’r rheiny yn dweud 27 gwaith mai’r UE ac nid llywodraethau unigol negydu. Ar ol hir a hwyr mae rhywun ar ochr yr UE yn gweiddi  nad ydi’r hyn mae llywodraeth y DU yn gofyn amdano yn bosibl.


Mae’r cyfryngau Prydeinig wedyn yn dechrau wylofain a stampio eu traed a gweiddi bod yr UE yn bod yn afresymol, anheg ac anhyblyg.   Yn y cyfamser mae’r  llywodraeth yn pwdu am ddiwrnod neu ddau cyn mynd ati i feddwl am gais arall cwbl amhosibl.  Mae  hwnnw‘n cael ei wrthod ac yna mae’r  broses uchod yn cael ei hailadrodd.


Ar ol gofyn am bedwar neu bump o bethau amhosibl gwahanol a mynd trwy’r un rigmarol pob tro rydan  ni’n dod yn ol at at y cais amhosibl cyntaf, ac yna’n ailadrodd y cylch.  Mae’r DU - a’i chyfryngau torfol - wedi bod yn ymddwyn fel plentyn bach dyflwydd oed sydd heb gael llawer o gwsg am ddau neu dri diwrnod ac yn cael un meltdown cyhoeddus ar ol y llall.  


Ar ol hir a hwyr daeth y llywodraeth - neu rai yn y llywodraeth - i sylweddoli bod amgylchiadau yn cyfyngu’n sylweddol ar sut gytundeb trosoannol oedd yn bosibl i ‘r DU, a ffrwyth y sylweddoliad hwnnw ydi cytundeb May - mae’n gytundeb sydd wedi ei negydu yn unol a’r hyn sy’n dderbyniol i’r UE.  ‘Dydi’r geiniog heb syrthio i elfennau sylweddol oddi mewn i’r Blaid Geidwadol, a dyna pam bod llawer o’r sawl sydd o blaid Brexit yn gwrthwynebu’r cytundeb.  Mae’r sawl sydd eisiau aros yn gwrthwynebu am resymau eraill wrth gwrs.


Ac yn sylfaenol dyna lle’r ydan ni lai na thri mis cyn gadael yr UE.  Mae yna berygl gwirioneddol i ni adael yr UE heb gytundeb a heb sail cyfreithiol oherwydd na all y Blaid Geidwadol - neu elfennau arwyddocaol ohoni dderbyn bod y math o Brexit roeddynt yn ei gynnig wedi ei seilio ar gelwydd.  


Mae’r ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth yn rhan o’r stori yma wrth gwrs - a byddwn yn edrych ar hynny yn hwyrach wythnos yma.


Wele gyfeiriad y blog cyfochrog newydd - https://blogmenai.home.blog/2018/12/31/ynglyn-a-gadael-yr-ue/


Sunday, December 30, 2018

Adduned flwyddyn newydd

Fel y byddwch wedi sylwi ‘dwi heb fod yn blogio rhyw lawer yn ystod y flwyddyn diwethaf.  Pan wnes i ymddeol ddwy flynedd yn ol roeddwn yn credu y byddai gennyf fwy o amser ac amynedd i flogio - ond am resymau nad wyf am eich blino efo’u manylion, llai nid mwy o amser ac amynedd ddaeth fy ffordd.


Ta waeth, dwi wedi gwneud adduned flwyddyn newydd i flogio ychydig yn amlach.  Dwi’n bwriadu cadw at yr adduned, ond bydd yna un neu ddau o newidiadau.


  1. Yn wythnosol y byddaf yn blogio gan amlaf.  Y bwriad ydi cyhoeddi blogiad pob dydd Llun.  Byddaf yn blogio ychydig yn amlach weithiau.  Mae’n debyg y bydd yna fwy nag un blogiad wythnos yma oherwydd bod yna cymaint o waith dal i fyny efo Brexit.
  2. ‘Dwi’n chwarae efo’r syniad o newid platfform o Blogspot i Wordpress.  Y rheswm am hyn ydi mai oddi ar ffon neu ddyfeisiadau symudol eraill y byddaf yn blogio gan amlaf, a dwi’n tueddu i golli rheolaeth ar ddelweddau, graffiau ac ati wrth wneud hynny.   Felly byddaf yn argraffu’r un blogiad ar Wordpress a Blogspot am sbel tra dwi’n asesu os ydi hi’n werth newid platfform yn llwyr.  Bydd cyfeiriad y blog newydd ar gael efo’r blogiad nesaf.

ON - diolch i bawb (a rydan ni’n son am dipyn go lew o bobl yma) sydd wedi holi am y blog ers i mi beidio blogio’n rheolaidd. ‘Dwi’n mawr werthfawrogi’r sylwadau caredig.