Sunday, December 30, 2007

Llywodraeth Doriaidd yn 2010?

Pol piniwn arall yn awgrymu mai'r Toriaid fydd yn ennill yr etholiad nesaf. Yn ol rhai mae'n gyffredin i'r brif wrthblaid fod ar y blaen rhwng etholiadau, ond bod y blaid sy'n llywodraethu yn ad ennill pleidleisiau erbyn yr etholiad.

Nid felly mae pethau'n gweithio yn ol Andy Cooke. Yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd ydi bod y Toriaid yn gwneud yn well pan y daw yn etholiad go iawn.

Os ydi ei ddamcaniaeth yn gywir, yna y Toriaid fydd yn llywodraethu Prydain ar ol 2010.

Ydi hyn yn beth da?

Wel nid ydi hanes diweddar Cymru yn awgrymu hynny. Roedd y cyfnod diwethaf o lywodraethau Toriaidd (1979 - 1997) yn dipyn o drychineb i Gymru. Difa'r farchnad mewn glo er mwyn gwneud elw i gyfeillion Dennis Thatcher yn y byd olew, cau pob pwll glo a rhoi'r wlad i Glingon o'r enw Mr Spock ei rheoli yn ei ffordd ddihafal ei hun. Ei weithred gwleidyddol mwyaf cofiadwy oedd anfon £100,000,000 o arian oedd i fod i'w ddefnyddio ar wasanaethau cyhoeddus Nghymru yn ol i'r trysorlys er mwyn i'r rheini gael ei roi at achosion da megis prynu chwaneg o daflegrau.



Mr Spock yn ceisio meimio Hen Wlad Fy Nhadau.

Serch hynny, yr un fantais i'r sefyllfa ydi bod llywodraeth Doriaidd yn gallu esgor ar ddatblygiadau cadarnhaol trwy ddamwain. Oni bai am ddeunaw mlynedd o Mr Spock a'i debyg ni fyddai Cymru wedi ennill Cynulliad yn 1997. Byddai llywodraeth Doriaidd yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddai Cymru'n pleidleisio Ia yn 2011 ac felly yn ei gwneud yn amhosibl i'r Toriaid wneud unrhyw niwed arwyddocaol i ni eto.

Saturday, December 22, 2007

Banciau, Colin a Ken Livingstone

Mae unrhyw un sydd yn buddsoddi mewn cyfrandaliadau, ac yn arbennig felly rhai yn y sector bancio wedi cael ychydig wythnosau digon anymunol. ‘Dwi’n gwybod hyn oherwydd fy mod i’n chwarae o gwmpas gyda chyfrandaliadau (ar raddfa fach i chi gael deall), ac yn cael fy hun yn dlotach nag oeddwn i fis neu ddau yn ol.

Canlyniad i’r argyfwng sub prime hyd y gwn i ‘does neb wedi bathu term Cymraeg amdano eto) Americanaidd ydi hyn oll wrth gwrs. Am wn i mai’r llun sy’n aros o’r argyfwng yn y cof ydi rhesi o bobl yn sefyll y tu allan i fanciau’r Northern Rock yng nghanol trefi ar hyd a lled y DU ydi’r ddelwedd sy’n aros yn y cof.

Serch hynny, mae digwyddiadau wythnos a hanner yn ol yr un mor arwyddocaol. Oherwydd gofidiau ynglyn a iechyd y sector bancio aeth banciau canolog ar ddwy ochr yr Iwerydd ati i dorri cyfraddau llog a’i gwneud yn glir eu bod yn fodlon chwystrellu arian i mewn i’r gyfundrefn bancio.

Dylai hyn fod wedi arwain at ostyngiad yn y cyfraddau llog mae banciau yn eu defnyddio wrth roi benthyciadau i’w gilydd, a dylai gwerth cyfrandaliadau bancio fod wedi codi yn sgil hyn. Syrthiodd gwerth cyfrandaliadau a phrin y symudodd cyfraddau mewnol y byd bancio.

Effaith ymdrechion y banciau canolog oedd cadarnhau beth mae pawb yn y byd bancio yn ei wybod – bod tyllau du anghynnes wedi eu cuddio ym mantolenni nifer o’r banciau mawr. O ganlyniad mae’r olew sy’n caniatau i’r gyfundrefn weithio’n hwylus – liquidity – wedi mynd. Y rheswm am hyn ydi bod ymddiriedaeth mewnol y byd hwn wedi anweddu. Mae banciau, fel unigolion yn fodlon rhoi benthyg i bobl a sefydliadau mae ganddynt ymddiriedaeth ynddynt – ac nid ydynt yn fodlon rhoi benthyg lle nad oes ymddiriedaeth – neu o leiaf maent yn codi cyfraddau llog uchel i wneud iawn am y risg uchel.

Yn y bon diffyg ymddiriedaeth oedd yn gwneud i bobl sefyll yn yr oerni trwy’r dydd y tu allan i fanciau’r Northern Rock ychydig fisoedd yn ol, a’r un peth sy’n egluro ymddygiad anisgwyl y marchnadoedd arian.

Mae gallu pobl a sefydliadau i ymddiried yn ei gilydd yn bwysig ymhell y tu hwnt i hynt a helynt marchnadoedd pres. Wedi’r cwbl mae’r grymoedd sy’n gyrru marchnadoedd yn aml yw’r rhai sy’n gyrru rhyngberthynas pobl yn gyffredinol. Ymddiriedaeth yn wir ydi’r olew sy’n hwyluso pob bargen rhwng pobl.

O feddwl amdano, mae’r peth yn amlwg. Mae dyn yn llawer mwy tebygol o gael caniatad ei wraig i fynd am wythnos o golffio ym Mhortiwgal gyda hogiau’r clwb golff os nad yw wedi ei ddal efo’i dafod i lawr gwddf a’i law ar ben ol y Sulwen fach ben felen honno ar falconi smygu’r Ship & Castle ar ol nos Sadwrn hir.

Fel mae paragraff cyntaf y darn yma yn ei awgrymu, dydw i ddim y buddsoddwr craffaf erioed. Yn wir, ‘dwi wedi byw mewn hen dai am y rhan fwyaf o fy mywyd fel oedolyn – sy’n ffolineb ariannol o’r radd flaenaf. Bydd costau sylweddol yn deillio o’r sefyllfa yma o bryd i’w gilydd. ‘Dwi’n hollol ddi glem pan mae’n dod i adeiladu, felly mae’n rhaid i mi dalu i rhywun ddelio gyda phob llechen sy’n syrthio oddi ar y to neu damprwydd ar wal y gegin gefn.

Un person fydda i’n ei ddefnyddio i bron i pob joban – Colin o Lanrug. O bryd i’w gilydd, os ydi’r joban yn un faith bydd yn gofyn am ei bres cyn gorffen. Does gen i fawr o broblem cydymsynio. Petai tincar yn gwneud yr un joban, ac yn gwneud yr un cais, fyddwn i ddim yn breuddwydio rhoi dimau goch iddo. Pam – am bod Colin yn debygol o fod yn fwy gonest na’r tincer? Does gen i ddim rheswm i feddwl bod Colin yn anonest, ond dydw i ddim yn gwybod hynny i sicrwydd – fydda i ddim yn gwneud dim efo fo yn gymdeithasol. Ond mae Colin a finnau yn gwybod petawn i a phobl tebyg i mi yn cerdded i fyny ac i lawr Stryd Llyn ar fore Sadwrn yn achwyn na ellir dibynnu arno, ni fyddai yn cael gwaith gan neb. ‘Does gen i ddim rheswm i feddwl bod y tincer yn anonest chwaith, ond gwn y gall godi ei bac a mynd i Lerpwl fory nesaf – dydi o ddim yn gorfod gweithio oddi tan yr un ddisgyblaeth a Colin. Mewn geiriau eraill, mae’r ffaith bod gen i ymddiriedaeth y bydd Colin yn gorffen ei waith yn caniatau iddo fo ddelio gyda’i broblemau cashflow, ac mae hefyd yn gadael i mi beidio a phoeni na fydd y joban yn cael ei gorffen i safon priodol. Ymddiriedaeth ydi’r olew sy’n gwneud i’r fargen weithio’n hwylus.

Daw hyn a ni at ymddiriedaeth mewn gwleidyddion. Rwan does yna neb yn ymddiried mewn gwleidyddion yn yr un ffordd ag y maent yn ymddiried yn y banc neu’r offeiriad neu’r dyn drws nesaf. Mae pawb yn deall mai delio mewn addewidion a breuddwydion mae gwleidyddion, ac mae pawb hefyd yn deall na ellir gwireddu pob breuddwyd nag addewid. Yn draddodiadol mae pobl wedi tueddu i ymddiried yn eu plaid wleidyddol eu hunain yn yr ystyr eu bod yn meddwl bod y pleidiau hynny yn gwneud eu gorau trostynt pan maent yn ennill grym – ac mae’r ymddiriedaeth gyffredinol yma wedi sicrhau cefnogaeth hir dymor i bleidiau. Weithiau, am gwahanol resymau, bydd yr ymddiriedaeth hwnnw’n syrthio’n ddarnau ymysg cydrannau arwyddocaol o’r boblogaeth – gyda chanlyniadau etholiadol trawiadol - fel y dysgodd Llafur yn 79 a’r Toriaid yn 97 – ond stori arall ydi honno.

Mewn blynyddoedd diweddar mae troelli gwleidyddol wedi dod yn arf gwleidyddol pwysig i pob plaid, ac mae cam gynrychioli safbwyntiau a dweud celwydd noeth am wrthwynebwyr wedi dod yn fater o gwrs mewn gwleidyddiaeth. Mae hyn yn ei dro wedi di brisio naratif gwleidyddol pob plaid, ac wedi erydu ymddiriedaeth mewn gwleidyddion yn gyffredinol. Dyma sy’n rhannol gyfrifol bod cymaint o’r boblogaeth bellach yn ymneilltuo oddi wrth y broses etholiadol yn ei chyfanrwydd.

Roedd ymgyrch y Blaid Lafur yn yr etholiadau Cynulliad diweddar yn esiampl dda o hyn. Yn syml unig sail eu hymgyrch oedd Mae’r Toriaid yn ddrwg iawn ac os byddwch yn pleidleisio i Blaid Cymru bydd y bobl ddrwg yn ennill grym ac yn llusgo eich gwraig y tu ol i’r clawdd, yn bwyta eich babis ac yn lluchio eich rhieni oedrannus i mewn i’r fynnon. Damia fo – dwi wedi dal yr afiechyd ac yn troelli cystal a Mandelson ei hun!

Mae’n anodd credu yn yr hinsawdd gwleidyddol sydd ohoni mi wn ond mi fydd yna etholiadau y flwyddyn nesaf – rhai lle mae Llafur yn ffefrynau clir i ennill (2:5 yn erbyn 13:8 y Toriaid). Yr etholiadau am faer Llundain ydi’r rheini. Mae Ken Livingstone yn debygol o gael ei ethol yn faer Llundain yn ystod blwyddyn lle gall Llafur golli eu rheolaeth ar pob un o’u cynghorau yng Nghymru. Yn draddodiadol mae’r Blaid Lafur wedi bod yn gryfach o lawer yng Nghymru nag yn Llundain – ond bydd hynny’n cael ei droi ar ei ben at ddiwedd y gwanwyn.

Rwan, mae nifer o ffactorau y tu ol i hyn – mae llawer o Lundain yn newid yn gyflym yn gymdeithasegol ac o ran proffeil ethnic er enghraifft. Ond y ffactor mwyaf arwyddocaol ydi persenoliaeth, neu o leiaf bersona gwleidyddol yr ymgeisydd Llafur – Ken Livingstone. Mae ei ddelwedd yn lliwgar – bywyd personol cymhleth, cefndir adain chwith pell, tueddiad i agor ei geg a sarhau grwpiau mawr o bobl mewn ffordd hynod o anwleidyddol gywir, parodrwydd i ymosod ar arweinyddiaeth ei blaid ei hun ac hyd yn oed sefyll yn erbyn ei blaid ei hun. Mae’r dyn yn graff wrth gwrs – mae’n deall gwleidyddiaeth gymhleth llwythol Llundain i’r dim ac mae’n deall pwy i’w sarhau a phwy i beidio eu sarhau. Mae ganddo hefyd ddawn di feth i ddod o hyd i dir gwleidyddol cul ond cadarn i ymladd arno ac mae'n deall bod ffrwd ‘annibynnol’ gref i wleidyddiaeth Llundain erioed. Gall hefyd ddod o hyd i dir syml Mae'n dra anhebygol y byddai Llafur yn ffefrynnau gydag unrhyw ymgeisydd arall.

Ond mae dau ffactor arall hefyd – mae’r dyn yn onest – neu o leiaf mae ganddo ddelwedd gyhoeddus onest. Pan mae’n cael ei holi gan y cyfryngau mae’n ateb y cwestiwn sy’n cael ei ofyn yn hytrach na meddwl am gant ac un ffordd o beidio ei ateb a la Michael Howard ar Newsnight. Os yw’n cael cwestiwn ynglyn a’i farn ynglyn ag unrhyw beth mae’n ei rhoi – nid honni i fod heb farn a la Rhodri Morgan ar ryfel Irac. Mae pobl hefyd yn gwybod ei fod gyda hanes o ddod yn weddol agos at wireddu’r hyn mae’n ei addo cyn ei etholiadau. Mewn geiriau eraill mae pobl, neu'r rhan fwyaf o bobl, yn ymddiried ynddo - ac ymddiriedaeth ydi'r olew sy'n hwyluso'r berthynas rhwng gwleidydd a'i etholwyr.

Ac mae gwers yma i wleidyddion yng Nghymru, a phob man arall. Mae llawer i’w ennill tros osgoi troelli, packaging gwleidyddol ac yn lle hynny adeiladu delwedd onest, cyflwyno addewidion sy’n bosibl eu gwireddu cyn etholiad, ac yna ymdrechu’n galed i’w gwireddu wedi etholiad. Mae ennill ymddiriedaeth tymor hir gwleidyddol yn bwysicach nag ennill manteision tymor byr pardduo gwrthwynebwyr trwy droelli.

Saturday, December 15, 2007

Cynllun ail strwythuro Gwynedd (eto mae gen i ofn)

Copi o neges rwyf newydd ei phostio ar maes e yn dilyn cymeradwyo'r ddogfen Ad-drefnu Ysgolion Cynradd y Sir er Lles Addysg Holl Blant Gwynedd ddydd Iau diwethaf.

'Dwi wedi osgoi cymryd rhan yn y drafodaeth yma hyd yn hyn oherwydd fy mod yn broffesiynol gysylltiedig a'r datblygiadau. Serch hynny efallai ei bod yn bryd i mi ddweud gair neu ddau.

I ddechrau, fodd bynnag, dyliwn ddatgan buddiant - 'dwi'n bennaeth mewn ysgol gynradd yng Ngwynedd fydd yn cael ei ffederaleiddio tuag at ddiwedd y broses - os yn wir y bydd y broses yn cyrraedd ei therfyn.

O ddarllen neges Lleucu, mae'n un anarferol yn y ffaith bod ei hawdur yn deall y cynllun yn iawn. At ei gilydd dydi pobl ddim - gan gynnwys rhai sydd wedi dadlau'n groch o'i blaid ac yn ei erbyn ar y cyfryngau. Mae hyn yn rhyfedd braidd gan fod y ddogfen yn ei hanfod yn un syml iawn.

Un neu ddau o bwyntiau cyffredinol i ddechrau:

(1) Dydi hi ddim yn bosibl i pob ysgol yng Ngwynedd (nag yn yr un sir arall) aros ar agor am byth. Mae Cyngor Gwynedd yn gywir pan maent yn dweud bod llai o lawer o blant mewn ysgolion a bod y ffaith bod cymaint o'r ysgolion bellach yn syrthio i'r 'rhwyd diogelu' nes peri straen gwirioneddol oddi mewn i'r gyfundrefn cyllido ysgolion. Mae yna ysgol yng Ngwynedd ar hyn o bryd gyda phedwar o blant, un athrawes a thua dwsin o lywodraethwyr.

(2) Mae'r hyn sydd yn digwydd yng Ngwynedd yn mynd rhagddo mewn cyd destun ehangach. Mae ysgolion yn cau ar hyd a lled Cymru - mewn ardaloedd trefol yn ogystal a rhai gwledig. Yn rhai o gymoedd y De mae'r newidiadau demograffig ar eu mwyaf ysgytwol. Mae'n digwydd hefyd yn rhai o ardaloedd cyfoethocaf Cymru. Fis diwethaf clywodd rhieni Sandy Lane Infants ym Mynwy bod eu hysgol yn cau a bod eu plant am orfod symud i St Mary's Junior.

(3) Byddai peidio a newid y ddarpariaeth a gwrthod ymateb i ganfyddiadau ESTYN a'r Comisiwn Archwilio yn ol pob tebyg yn arwain at golli rheolaeth ar y sector gynradd, a gadael yr holl ddarpariaeth ar drugaredd biwrocratiaid yn Cathays Park.

Felly a derbyn bod rhywfaint o newid yn anochel, y ddau gwestiwn sy'n codi ydi Faint o newid? a Sut fath o newid?

Yn bersonol, byddwn wedi gobeithio y byddai'r Cyngor yn minimeiddio'r cau ac yn ceisio bod mor gost effeithlon a phosibl wrth wneud hynny. Wedi'r cwbl mae'r sector addysg yn bwysig o safbwynt cymdeithasol, ieithyddol ac economaidd. Ysgolion hefyd ydi unig fuddsoddiad y Cyngor mewn llawer o'i chymunedau gwledig. Ceir buddsoddiad anferth mewn trefi, a buddsoddiad aneffeithiol iawn o safbwynt ariannol yn aml. Mae'r colledion a wneir yng Nghanolfan Denis Arfon yng Nghaernarfon a Phwll Nofio Bangor yn ddigon a chodi gwallt dyn.

Yn anffodus mae'r cynllun a gafodd ei fabwysiadu ddydd Iau yn dod yn agos at facsimeiddio'r cau, ac yn gwneud hynny mewn ffordd a allai fod yn hynod o aneffeithiol o safbwynt ariannol.

Gan osgoi mynd i mewn i ffigyrau gormod dyma ar ei symlaf sut y bydd y cynllun yn gweithio.

Cau 29 ysgol.

Agor 8.

Gwario tros i ddwy draean o'r arian a arbedir trwy gau i greu haenen newydd o benaethiaid nad ydynt yn dysgu i reoli dwy, tair neu bedair safle oddi mewn i ysgol ffederal, neu i reoli ysgolion ardal. Nid yw'r cynllun yn manylu ar beth fydd yn digwydd i'r draean arall mwy nag i nodi y bydd yn cael ei wario yn rhywle yn y gyfundrefn addysg.

Rwan, mae problemau gwirioneddol yn codi o hyn, nodaf y rhai amlycaf:

(1) Does yna ddim lle o gwbl i dybio bod yr haenen newydd reolaethol am fod yn ddefnydd effeithiol o adnoddau. I'r gwrthwyneb, mae'r dystiolaeth sydd ar gael (sydd yn brin rhaid cyfaddef) yn awgrymu bod uno ysgolion yn erbyn eu hewyllys yn gyrru safonau addysgol i lawr. Mae swydd ddisgrifiadau'r swyddi newydd arfaethiedig yn wirioneddol broblematig. Ymddengys bod disgwyl i ddeiliaid y swyddi newydd 'arwain yn gymunedol a ieithyddol'. Dydi hyn ddim yn rhan o swydd pennaeth yn ol diffiniad statudol y swydd honno. Mewn geiriau eraill bydd deiliaid y swyddi newydd yn cael eu talu am gyflawni tasgau nad oes unrhyw ffordd o'u gorfodi i'w cyflawni.

(2) Er mwyn talu am yr haenen hon (ac mae'n rhyfeddol o ddrud - yn ddrytach na Chanolfan Denis Arfon a Phwll Nofio Bangor efo'i gilydd) ni fydd llawer o adnoddau i'w dosbarthu i ysgolion mawr trefol, lle mae gwariant y pen y plentyn yn isel. Er enghraifft yn Ysgol yr Hendre - ysgol fwyaf y sir o ddigon mae'r cynllun hwn fel mae'n sefyll yn gwarantu cynnydd o £60 y plentyn y flwyddyn. Piso dryw yn y mor ydi hyn - digon i gyflogi un gweinyddes - ar y gorau. Neu i edrych arno mewn ffordd arall mae'n bosibl dadlau mai cau fydd Ysgol Llanystumdwy er mwyn cyflogi gweinyddes ychwanegol yn yr Hendre.

(3) Nid ydi'r cynllun mewn gwirionedd yn delio efo'r gwahaniaeth mewn gwariant y pen - ond bydd yn ei guddio. O osod cyllid ysgol fechan iawn mewn cyfundrefn ffederal yna mae'r gwariant yn ymddangos yn is gan bod nifer y plant yn y tair neu bedair ysgol yn cael ei rannu efo cyfanswm cyllid y dair neu bedair ysgol. Ond, os ydi'r safle fechan yno o hyd mae'r gwariant y plentyn ar y safle honno yr un mor uchel ag erioed - ond gyda dau wahaniaeth - nid oes rhaid cyhoeddi'r ffigwr a bydd y faich o gynnal yr ysgol yn cael ei drosglwyddo oddi wrth y gyfundrefn yn ei chyfanrwydd i ddwy neu dair uned arall yr ysgol ffederal.

Rwan, 'dwi'n digwydd adnabod y swyddogion a'r cynghorwyr sy'n bennaf gyfrifol am y cynllun - ac mae gen i brin barch at y rhan fwyaf ohonynt. Mae'n fater o ofid i mi bod cymaint o wawd a sen wedi ei daflu i'w cyfeiriad. Mae arweinydd y cyngor yn wr boneddigaidd a didwyll sydd wedi dangos cryn ddewrder wrth 'werthu'r' cynllun arbennig yma. Er gwaethaf hynny mae gen i ofn bod y cynllun hwn yn sylfaenol wallus. Mae'n cau llawer mwy o ysgolion na sydd rhaid ac yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n hynod o aneffeithiol yn gyllidol.

Byddai cau llai o lawer o ysgolion a dosbarthu'r arian fydd yn deillio o'r cau hwnnw i gyllidebau ysgolion er mwyn creu swyddi i athrawesau a gweinyddesau yn hytrach nag i greu haenen reolaethol NHSaidd yn ddefnydd llawer callach o adnoddau prin.