Wednesday, November 24, 2004

Dipyn o Stad



Ward Seiont, Caernarfon.

Beth petai’r Fro Gymraeg wedi ei adeiladu o’r wardiau hynny sydd a mwy nag 80% yn siarad Cymraeg? Sut byddai’n edrych?

Fel hyn.

Peblig: Caernarfon. Trefol. Byd byrlymus proletaraidd yn berwi efo plant, a chwn. Pencadlys a chartref ysbrydol y cofis oll. Bron y gallai fod yn astudiaeth achos o amddifadedd - 4ydd ward efo incwm isaf yng Nghymru, 15fed uchaf o ran diweithdra, 15fed salaf o ran addysg ac hyfforddiant, 57fed o ran ansawdd tai sal.

Seiont: Caernarfon. Trefol. Mawr a chymysg. Canol tref, fflatiau cyngor, stad dai cyngor, stadau mawr preifat, rhwydwaith o dai teras cul, ffermydd ar gyrion de Caernarfon.

Cadnant: Caernarfon. Trefol. Proletaraidd, ond ddim cymaint felly na Peblig. Stad cyngor mawr (parchus), lwni lands cymdeithasau tai, stad breifat, rhai strydoedd culion canol yn agos at ganol y dref.

Menai: Caernarfon. Trefol. Twthill sy’n dal yn rhannol ddosbarth gweithiol a thai mawr gogledd y dref. Dosbarth canol Cymraeg ei hiaith. Llawer o bobl o’r tu hwnt i Gaernarfon, ac yn wir Gwynedd. Yr unig le cyn belled i’r gogledd lle, nad yw’n anisgwyl clywed acenion y De ynddo.

Llanrug: Pentref mawr. Sownd yng Nghaernarfon ac yn ddibynnol arni’n economaidd. Dosbarth canol Cymraeg a chofis y wlad.

Bontnewydd: Pentref mawr. Sownd yng Nghaernarfon ac yn ddibynnol arni’n economaidd. Cofis wlad yn bennaf, rhai dosbarth canol Cymreig.

Bethel: Gweler Bontnewydd. Digon tebyg.

Penygroes: Pentref mawr. Diwylliant chwarel– er bod hon wedi cau. Yn orbit Caernarfon.

Groeslon. Gweler Penygroes – tebyg ond nes at Gaernarfon.

Llanwnda. Ward o bentrefi llai rhwng Groeslon / Penygroes a’r Bontnewydd. Cynnwys ardaloedd chwarel, pentref glan y mor, dosbarth canol Cymreig a cofis wlad rhan uchaf y Bontnewydd.

Wel dyna hanner yr ugain. Pob un o fewn ychydig filltiroedd i Gastell C/narfon.

Dwyrain Porthmadog: Trefol. Y rhan o Borthmadog sydd ymhell o’r mor ac nad ydi Saeson eisiau dod i fyw yno.

Gogledd Pwllheli: Trefol. Y rhan o Bwllheli sydd ymhell o’r mor ac nad ydi Saeson eisiau dod i fyw yno. Pobl tref Pwllheli a phobl o Ddwyfor wledig sydd wedi mewnfudo i’r dref. Trydydd o ran safon gwael tai yng Nghymru.

Teigl: Trefol. Blaenau Ffestiniog. Yn ol ym myd y chwareli llechi. Chwarel, neu o leiaf fersiwn open cast yn dal yn agored.

Maenofferen: Gweler Teigl. Tebyg.

Bala: Trefol, ond ychydig yn gwahanol i’r uchod. Gwasanaethu byd amaethyddol.

Tudur: Trefol. Llangefni. Proletaraidd. Un o’r wardiau efo’r incwm cyfartalog isaf yng Nghymru.

Cefni: Trefol. Llangefni. Ward mae’r heddlu’n dweud sydd a record anhygoel o anhrefn cymdeithasol. Y rheswm am hyn ydi bod yr heddlu’n ddwl. Maent yn cofnodi pob achos yng nghanol y dref (sydd yn lle anhrefnus liw nos) fel Cefni. Dydi canol y dref ddim yng Nghefni.

Cyngar: Trefol. Llangefni Llai tlawd na Tudur.

Llanuwchllyn: Gwledig. Yr unig ward amaethyddol wledig sydd a thros 80% yn siarad Cymraeg. Fel hyn oedd y rhan fwyaf o’r Fro Gymraeg ers talwm. 7fed salaf o ran ansawdd tai yng Nghymru.



Blaenau Ffestiniog

Plaid Cymru sy'n cynrychioli 11 o'r 17 ward sydd yng Ngwynedd, ond dim un o'r dair sydd ar Ynys Mon.

Wps, newydd sylwi fy mod wedi anghofio hen bentref bach Llanber - Mecca twristiaid sy'n hoffi dringo a ballu. Mae o'n edrych yn rhyfedd am wn i cael lle sydd mor boblogaidd efo Saeson fod mor Gymraeg. Ond mewn rhai ffyrdd mae'r lle yn ddigon nodweddiadol o'r lleoedd eraill sy'n Gymreig iawn - siar da o dai cyngor, pentref mawr chwarel (gynt), yn orbit C'narfon.


Saturday, November 20, 2004

Nid ni'n unig sydd mewn trwbwl efo demograffeg.



Mae'n demograffeg ni yn wael, ond nid yw demograffeg Protestaniaid Gogledd Iwerddon yn dda iawn chwaith.

Bu llawer o anghytuno ynglyn a dehongli ffigyrau'r cyfrifiad diwethaf, ond mae ystadegau addysgol Swyddfa Gogledd Iwerddon yn gywir am eu bod yn dangos ymhle mae plant yn cael eu haddysgu, ac yn defnyddio ystadegau ysgolion sydd wedi eu darparu yn uniongyrchol gan rieni.

Dengys y ffigyrau mai Pabyddion ydi'r rhan fwyaf o blant. Dengys ystadegau blaenorol mai Pabyddion ydi'r mwyafrif sydd wedi bod yn cael eu gosod ar y rhestrau etholiadol ers pymtheg mlynedd bellach. Ychwanegwch hyn at y ffaith bod y Gorllewin a'r De Pabyddion yn fwy tebygol o bleidleisio o lawer na'r Dwyrain a'r Gogledd Protestanaidd, a 'dydi o ddim yn gam mawr i gasglu bod newid ar droed yma.

Thursday, November 18, 2004

Ond _ _ _

Ar gychwyn yr unfed ganrif ar hugain mae'r Gymraeg yn dal i ddawnsio oddi ar dafodau plant bychain.

Mae hyn ynddo'i hun yn wyrth. Efallai mai'r wyrth yma ydi'n hunig wir sail tros fod yn obeithiol wrth feddwl am y dyfodol.


Lois ac Owain. Cefnder a chyfnither.

Un neu ddau o bwyntiau ystadegol i gnoi cil arnynt.

Ymhellach i'r blog ddoe, tybed pwy fyddai wedi dychmygu'r canlynol?

1. Mae bron i naw gwaith cymaint o blant ysgolion cynradd methu siarad y Gymraeg o gwbl na sy'n ei siarad adref.
2. Un sir yn unig sydd efo mwy na hanner plant ysgol gynradd yn siarad Cymraeg adref (Gwynedd) a dwy yn unig sydd a mwy na thraean yn gwneud hynny (Gwynedd a Mon).
3. Mae dwy sir arall (Ceredigion a Chaerfyrddin) efo mwy na pumed. Nid oes yr un o'r 18 sir arall yn cyffwrdd a'r marc 10%.
4. Nid oes yr un plentyn yn siarad Cymraeg adref ym Mlaenau Gwent, a dau sydd ym Merthyr - dau o'r un teulu mi fetia i.
5. Mae mwy o ran niferoedd yn siarad Cymraeg adref yng Nghaerdydd na sydd yn Sir Benfro, Nedd Port Talbot, Dinbych a Phowys. Mae'r bedair sir yma wedi bod ag ardaloedd naturiol Gymraeg oddi mewn i'w ffiniau hyd yn ddiweddar iawn.
6. Mae'n debyg bod mwy yn siarad Cymraeg adref yn nhref Caernarfon na sydd mewn unrhyw sir gyfan y tu allan i Wynedd ag eithrio Ceredigion, Caerfyrddin ac Ynys Mon.
7. Mae mwy yn siarad Cymraeg adref yng Ngwynedd na sydd ym mhob sir arall efo'i gilydd, ag eithrio Mon, Caerfyrddin a Cheredigion.
8. Mae 7 o'r 22 Sir efo llai nag 1% yn siarad Cymraeg adref, ac mewn 15 mae llai na 5% yn gwneud hynny.

Nid digalon ydi'r gair rhywsut!

Wednesday, November 17, 2004

Brwydro wnawn am Gymru Rydd Gymraeg?



Efallai bod Cymru rydd yn llawer mwy cyrhaeddadwy na Chymru Gymraeg.

Er bod cyfrifiad 2001 yn dangos bod mwy o bobl yn siarad Cymraeg nag oedd yn 91, a bod y proffeil yn iach i'r graddau bod llawer o blant yn siarad Cymraeg - pam mor ddibynadwy ydi'r ffigyrau hyn. Mae'r tabl hwn yn dangos faint o blant sy'n siarad Cymraeg yn eu cartrefi. Dyma'r plant sy'n debygol o siarad Cymraeg yn eu bywudau pob dydd - heddiw ac yn y dyfodol. Mae'r ganran - ar 6.2% yn ddagreuol o isel, ac mae wedi bod yn gostwng ers i gofnodion gael eu cadw.

Go brin bod y cynnydd yn y niferoedd sy'n siarad y Gymraeg fel ail iaith yn 'rhugl' ac yn 'lled rhugl' am gyfieithu i lawer o siarad Cymraeg ar y stryd yn y dyfodol. Diolch am y 'ffasgwyr ieithyddol'.

Sunday, November 14, 2004

Irac, Vietnam a'r Wasg

Wedi gweld rhain erioed?











Roedd y stwff yma'n ymddangos yn y wasg Orllewinol yn ystod rhyfel Vietnam. Byddai pobl yn dod wyneb yn wyneb a chanlyniadau rhyfel ar gig a gwaed wrth ddarllen eu papur boreol tros eu brecwast. Buan iawn y daeth y rhyfel i fod yn un hynod amhoblogaidd, a bu rhaid i lywodraeth yr UDA ddod a'r lladd i ben.

Er gwaethaf yr holl newyddiadurwyr sydd yn Irac ar hyn o bryd, nifer ohonynt yn embedded, peidiwch a disgwyl gweld unrhyw luniau hyll. Dysgwyd y wers, a dysgwyd sut i reoli'r wasg. Mae'n debyg bod cryn ddioddefaint wedi bod yn Fallujah tros y dyddiau diwethaf. Fyddwn i ddim yn disgwyl gweld delwedd yn y wasg sy'n adlewyrchu'r dioddefaint hwnnw.

Sunday, November 07, 2004

Bewley's, Grafton Street, Johann Sutter a Chymru



Un o landmarks amlycaf Dulyn yn cau yr wythnos yma. Mae erthygl ddiddorol ar hyn yn Sunday Business Post yr wythnos yma.

'Dwi'n gwybod mai'r berthynas rhwng prisiau uchel eiddo (neu aur) a difa busnesau go iawn ydi byrdwn yr erthygl, ond mae hi'n codi cwestiynau ehangach - i ba raddau y gall grymoedd masnachol sgubo nodweddion diwylliannol ardaloedd a'r gwledydd o'r neulltu?

Mae prisiau eiddo - a photensial masnach i wneud elw ar ei fwyaf grymys yng Nghaerdydd (ag edrych ar bethau o safbwynt Cymreig o leiaf). Mae llawer o'r Caerdydd 'dwi yn ei gofio pan ddechreuais fynd yno chwarter canrif yn ol wedi mynd - yr hen dafarnau dinesig Brains, i gyd bron wedi eu hadnewyddu, y cymunedau o gwmpas y dociau wedi eu claddu gan fflatiau, caffis Asteys, marchnad Mill Lane, Y Moon a Smileys ac ati.

Ag edrych yn bellach yn ol mae'r hen gymunedau yn y canol wedi mynd - fel y gymuned unigryw honno - .Newtown - cymdogaeth Babyddol / Wyddelig yng Nghymru.

Mae'n debyg bod lles wedi dod o hyn oll, ond mae llawer wedi ei golli hefyd.

Poscript bach. Ymddengys bod gwerth masnachol o 2,000,000 euro i'r ffenestri lliw, ac mae canoedd o bobl wedi bod yn mynd a'u plant yno i dynnu eu lluniau o flaen y ffenestri yn ystod yr wythnos neu ddwy diwethaf.


Friday, November 05, 2004

Gwersi o'r UDA?

Mae Cymru a'r UDA mor gwahanol ag y gallent fod o ran maint, poblogaeth, gwleidyddiath ac ati. Ond oes gwers yn yr hyn a ddigwyddodd i ni, yma, rwan?

Yn ol pob son ennill wnaeth Bush (neu'n hytrach Rove efallai) trwy apelio at ei etholaeth naturiol yn hytrach na mynd ar ol y 'tir canol' bondigrybwyll. Mae llawer o bobl y byddwn i wedi eu hystyried yn genedlaetholwyr Cymreig ddim yn trafferthu pleidleisio'n aml. A oes yna fwy o bleidleisiau i PC eu hennill yma na sydd mewn brwydr 4 ffordd am fathau eraill o bobl?

Wednesday, November 03, 2004

Bush ta Kerry? (eto)

Mae hi 'rwan yn 10:20 a fydd yna ddim byd swyddogol am sbel eto - ond mae llawer iawn o arian wedi ei fetio ar Kerry yn ystod yr awr i awr a hanner diwethaf os ydi'r cwmniau betio yn unrhywbeth i fynd arnynyt. Gobeithio bod rhywun yn gwybod rhywbeth.