Mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn cofio Peter Hain fel gwleidydd o'r tu allan o Gymru aeth ati i ymgorffori holl dueddiadau anymunol y Blaid Lafur Gymreig - traha, llwytholdeb rhemp, rhagrith di feddwl a diffyg diddordeb llwyr mewn cyd weithredu efo elfennau gwleidyddol eraill yng Nghymru.
Bydd hefyd yn cael ei gofio fel gwleidydd oedd byth a hefyd ynghanol rhyw helynt neu'i gilydd - cymryd rhoddion ariannol o ffynonellau amheus ac anghofio eu datgan i'r awdurdodau priodol, defnyddio ei statws fel gweinidog y goron i hyrwyddo busnes ei wraig, ceisio hawlio treuliau ar ddau dy oedd wedi eu lleoli chwe milltir oddi wrth ei gilydd ar yr un pryd ac ati.
Er gwaethaf hyn oll mae'n dra phosibl y bydd y sawl sy'n 'sgwennu hanes Cymru yn y dyfodol yn garedig wrtho am un rheswm ac un rheswm yn unig - ei ran yn yr ymgyrch ddatganoli yn 1997. Hain oedd yn arwain yr ymgyrch Llafur, ac yn ei iard gefn yng Nghastell Nedd Port Talbot oedd y ganran 'Ia' ar ei huchaf. Bychan iawn oedd y mwyafrif tros Gymru, ac mae'n ddigon posibl na fyddai'r ateb wedi bod yn un cadarnhaol oni bai am Hain. Mae'n debyg bod datganoli yn symud ymhellach ac ynghynt na mae Hain yn gyfforddus na'n hapus efo fo - ond serch hynny mae wedi chwarae rhan pwysig i'n cael i'r man yr ydym ynddo heddiw.
Tybed pwy ddaw yn ei le? Mae Blogmenai yn cefnogi'r athrylith etholiadol a lwyddodd i golli'r Rhondda i Lafur yn ol yn 1999.
Showing posts with label Peter Hain. Show all posts
Showing posts with label Peter Hain. Show all posts
Monday, May 14, 2012
Sunday, February 19, 2012
Diolch i Peter _ _ _
_ _ _ am gadarnhau nad oes gan Llafur unrhyw broblem egwyddorol mewn clymbleidio efo'r Toriaid.
'Dwi'n siwr y bydd rhywun yn ei atgoffa y tro nesaf y bydd yn mynd trwy'r mantra Vote Plaid, Get Tory.
'Dwi'n siwr y bydd rhywun yn ei atgoffa y tro nesaf y bydd yn mynd trwy'r mantra Vote Plaid, Get Tory.
Thursday, November 03, 2011
Difa'r genedl _ _ _
Pan mae Peter Hain yn honni y byddai trosglwyddo pwerau trethu i Gymru yn 'difa'r genedl' mae'n euog o bechodau sy'n gyffredin i lawer o Lafurwyr Cymru - gor ddweud gorffwyll a chymysgu rhwng y Blaid Lafur Gymreig a Chymru.
Mae'r blog yma wedi tynnu sylw hyd at syrffed at y ffaith y byddai cyfundrefn drethiant Gymreig yn sefydlu perthynas rhwng trethiant a gwariant cyhoeddus, ac y byddai hynny yn ei dro yn arwain at leihad yng nghefnogaeth y Blaid Lafur Gymreig. Sail eu cefnogaeth yng Nghymru ar hyn o bryd ydi'r ffaith eu bod yn cael galw am fwy a mwy o wariant cyhoeddus, heb orfod codi ffadan goch o dreth ar neb i dalu am hynny.
Petai yna gysylltiad rhwng faint yr ydym yn ei dalu mewn trethi yng Nghymru a faint yr ydym yn ei wario, byddai reid wleidyddol rhad ac am ddim Llafur ar ben, a byddem mewn sefyllfa i esblygu gwleidyddiaeth mwy aeddfed a chyfrifol nag oes gennym ar hyn o bryd.
Byddai hefyd yn gyfle i leihau dylanwad y maen melin o blaid wleidyddol sydd wedi dal y wlad yn ol am gyhyd.

Saturday, October 01, 2011
Gwreiddiau Peter Hain yn ymddangos trwy'r pridd unwaith eto
Mae ymateb Peter Hain i fuddugoliaethau Plaid Cymru yng Ngwynedd nos Iau yn adrodd cyfrolau am y dyn, ac yn bwysicach mae'n adrodd cyfrolau am agweddau gwaelodol y Blaid Lafur yng Nghymru tuag at Gymry Cymraeg.
Yr hyn sydd gan Hain mewn gwirionedd ydi bod y canlyniadau yn rhai y dylid eu diystyru oherwydd bod yr etholiadau wedi eu cynnal yn y Gymru Gymraeg. Mae yna is destun poenus o amlwg i'r ffordd yma o edrych ar bethau - 'dydi pleidleisiau Cymry Cymraeg ddim yn gyfwerth a phleidleisiau pobl eraill, a gellir felly beidio a chymryd o ddifri ganlyniadau etholiadol mewn wardiau sydd a mwyafrioedd llethol o'u hetholwyr yn siarad yr iaith.
Ac mae yna is destun i'r is destun wrth gwrs. Pan mae gwleidyddion Llafur fel Chris Bryant yn amddiffyn hawl Roger Lewis a'i debyg i awgrymu bod siaradwyr Cymraeg yn is ddynol, mae'n gwneud hynny am reswm amlwg iawn - mae agweddau fel rhai Lewis yn atgyfnerthu ac yn rhesymoli'r naratif Llafur bod pleidleisiau Cymry Cymraeg yn rhai nad oes gwerth iddynt.
Wrth ymateb i sylwadau Bryant yn ddiweddar awgrymais ei bod yn niweidiol i pob grwp lleiafrifol o fewn cymdeithas os ydi aelodau rhai o'r grwpiau hynny yn ceisio creu hierarchiaeth o grwpiau y dylid eu parchu - a gosod y grwp maen nhw eu hunain yn digwydd perthyn iddo ar frig yr hierarchiaeth honno. Mae ymgais o'r fath hefyd yn awgrymu diffyg goddefgarwch ar ran y sawl sydd yn ei gwneud.
Yn yr un modd byddwn yn awgrymu i Hain y byddai'n arfer mwy priodol i wleidydd blaenllaw mewn gwlad oddefgar, fodern a gwar i roi'r un parch i ddyfarniadau etholwyr ym mhob rhan o'r wlad, beth bynnag eu cefndir, beth bynnag eu hiaith. Mae barn etholwyr Glan yr Afon, Treorci, Penrhyndeudraeth, Y Friog a Phorthcawl yn haeddu'r un parch yn union a'i gilydd - mae pleidleisiau eu trigolion yn gyfwerth - maent yn ddinasyddion cyfartal.
'Does yna ddim lle i aparteid etholiadol yn y Gymru sydd ohoni.

Tuesday, September 27, 2011
Peter Hain yn parhau i ymosod ar ddemocratiaeth yng Nghymru
Rydym eisoes wedi edrych ar yr effaith y byddai troi at y dull o ethol aelodau Cynulliad mae Peter Hain yn ei awgrymu, yn ei gael ar wleidyddiaeth Cymru - llywodraeth fwyafrifol Llafur hyd yn oed pan mae'r blaid honno yn cael llai na thraean o'r bleidlais.
Ymddengys bod Hain yr parhau yr un mor frwdfrydig tros sefydlu ei syniadau cwbl anemocrataidd heddiw, nag oedd pan ddaethant i'w ben gyntaf ym Mis Gorffennaf.
Efallai ei bod yn rhyw hanner disgwyladwy i ddyn a dreuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Ne Affrica aparteid gael ei ddenu yn is ymwybodol at systemau etholiadol sy'n rhoi'r un canlyniad pob tro - hyd yn oed os ydi'r dyn hwnnw wedi ymladd yn erbyn system felly yn ei wlad enedigol

Saturday, July 16, 2011
Ychydig mwy am gynllun 'di duedd' Peter Hain
Diolch i Dylan am dynnu fy sylw at y ffaith fy mod yn gwneud cam efo Peter Hain trwy ddweud ei fod eisiau gostwng y nifer o aelodau cynulliad o 60 i 30. Ymddengys mai ei gynllun ydi cael dau aelod wedi eu hethol trwy FPTP i pob etholaeth newydd - cynllun fyddai'n cadw'r nifer fel ag y mae ar hyn o bryd - sef 60.
Trefn debyg i hon a geir mewn etholiadau cyngor mewn rhannau trefol o Gymru. Un o'i nodweddion ar y lefel honno ydi ei bod yn sobor o anheg - er enghraifft cafodd Llafur dair sedd allan o dair yn ward Treganna yn etholiadau Cyngor Caerdydd yn 2008 gyda llai na 40% o'r bleidlais. Tros y ddinas cafodd y Lib Dems fwy na dwy waith cymaint o seddau na'r Toriaid a Llafur er i'r pleidiau hynny gael pleidlais digon tebyg.
Dydw i ddim yn gwneud cam a Peter fodd bynnag pan 'dwi'n dweud nad oes yna sail i'w honiad cwbl orffwyll ac anwybodus nad oes tystiolaeth' y byddai FPTP yn ffafrio Llafur yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth yn llethol. Ystyrier, er enghraifft, etholiadau San Steffan yng Nghymru rhwng 1918 a 2010:
O 25 etholiad llwyddodd Llafur i gael mwy o seddi na'u haeddiant ar 24 achlysur. 1931 oedd yr eithriad, a hyd yn oed bryd roedd eu canran o'r seddi yn cyfateb a'u canran o'r bleidlais fwy neu lai yn union. Ar dri achlysur yn unig y cafwyd llai na hanner y seddi - ac 1931 oedd y tro diwethaf i hynny ddigwydd. Felly cafodd Llafur fwy na hanner y seddi ar 22 achlysur er iddynt ond llwyddo i gael mwy na hanner y pleidleisiau 9 gwaith.
Pedwar etholiad Cynulliad a gafwyd ers 1999, ac mae'r patrwm o or wobreuo Llafur hyd yn oed yn fwy amlwg amlwg yma:
Felly roedd Llafur yn cael llai o lawer na 50% o'r bleidlais, tra'n cymryd mwy o lawer na 50% o'r seddi FPTP ar pob achlysur.
Mae dyn yn cydnabod bod Peter Hain wedi ymladd yn ddewr yn erbyn sustem aparteid ei wlad gynhenid, ond mae'n anodd peidio meddwl weithiau iddo fethu cael gwared o'i wneuthuriad seicolegol feddylfryd draddodiadol y wlad honno o fod eisiau trefn etholiadol sy'n rhoi grym i'r un plaid yn dilyn pob etholiad.

| Etholiad | Canran Llafur o'r pleidleisiau | Canran Llafur o'r seddi |
| 1918 | 21.20% | 27.77% |
| 1922 | 40.70% | 50% |
| 1923 | 41.99% | 52.70% |
| 1924 | 40.60% | 45.70% |
| 1929 | 43.80% | 69.44% |
| 1931 | 41.70% | 41.66% |
| 1935 | 45.40% | 50% |
| 1945 | 58.30% | 69.44% |
| 1950 | 58.10% | 75% |
| 1951 | 60.50% | 75% |
| 1955 | 57.60% | 75% |
| 1959 | 56.40% | 75% |
| 1964 | 57.80% | 77.70% |
| 1966 | 60.70% | 88.80% |
| 1970 | 51.60% | 75% |
| 1974 | 46.80% | 66.60% |
| 1974 | 49.50% | 63.80% |
| 1979 | 48.60% | 61.10% |
| 1983 | 37.50% | 52.60% |
| 1987 | 45.10% | 63.10% |
| 1992 | 49.50% | 71% |
| 1997 | 54.80% | 85% |
| 2001 | 48.60% | 85% |
| 2005 | 42.70% | 72.50% |
| 2010 | 36.20% | 65% |
O 25 etholiad llwyddodd Llafur i gael mwy o seddi na'u haeddiant ar 24 achlysur. 1931 oedd yr eithriad, a hyd yn oed bryd roedd eu canran o'r seddi yn cyfateb a'u canran o'r bleidlais fwy neu lai yn union. Ar dri achlysur yn unig y cafwyd llai na hanner y seddi - ac 1931 oedd y tro diwethaf i hynny ddigwydd. Felly cafodd Llafur fwy na hanner y seddi ar 22 achlysur er iddynt ond llwyddo i gael mwy na hanner y pleidleisiau 9 gwaith.
Pedwar etholiad Cynulliad a gafwyd ers 1999, ac mae'r patrwm o or wobreuo Llafur hyd yn oed yn fwy amlwg amlwg yma:
| Etholiad | Canran Llafur o'r pleidleisiau | Canran Llafur o'r seddi uniongyrchol |
| 1999 | 37.60% | 67.50% |
| 2003 | 40.00% | 76% |
| 2007 | 32.20% | 60.00% |
| 2010 | 42.30% | 70.00% |
Felly roedd Llafur yn cael llai o lawer na 50% o'r bleidlais, tra'n cymryd mwy o lawer na 50% o'r seddi FPTP ar pob achlysur.
Mae dyn yn cydnabod bod Peter Hain wedi ymladd yn ddewr yn erbyn sustem aparteid ei wlad gynhenid, ond mae'n anodd peidio meddwl weithiau iddo fethu cael gwared o'i wneuthuriad seicolegol feddylfryd draddodiadol y wlad honno o fod eisiau trefn etholiadol sy'n rhoi grym i'r un plaid yn dilyn pob etholiad.
Thursday, July 14, 2011
Cynlluniau cynhyrfus diweddaraf Peter Hain
Mae'n ymddangos bod Peter Hain eisiau difa'r Cynulliad - sefydliad a ddaeth i fodolaeth yn rhannol oherwydd ymdrechion Peter.
Ymddengys ei fod yn meddwl y dylid cael 30 o aelodau ar gyfer y sefydliad fyddai oll wedi eu hethol yn uniongyrchol - o gymharu a'r 60 aelod presennol. Byddai gan y Cynulliad felly lai na hanner nifer aelodau sydd gan y rhan fwyaf o gynghorau unedol yng Nghymru. Byddai ganddo gymhareb o tua un aelod i 75,000 o etholwyr o gymharu ac un i pob 11,000 yng Ngogledd Iwerddon. Byddai hefyd yn debygol o arwain at lywodraeth un plaid Llafur parhaol. Mae'n debyg y byddai'n rhaid i'r bleidlais Lafur syrthio i lli na 30% cyn iddynt fethu a chael mwyafrif llwyr pe gwireddid cynllun Peter. Yn 2007 cafodd Llafur 60% o'r seddi etholaeth gyda 32.2% o'r bleidlais.
Felly dyna freuddwyd fawr Peter ar gyfer y Senedd Gymreig - un o'r siambrau deddfu lleiaf o ran aelodaeth yn y Byd (os nad y lleiaf), sydd pob amser yn dychwelyd yr un blaid - hyd yn oed pan mae hyd at 70% o'r etholwyr yn pleidleisio yn ei herbyn. Gwneud i ddyn feddwl am Ogledd Korea rhywsut.
Petai'r dyn wedi eistedd i lawr, crafu ei ben a meddwl am ffordd o ddifa hygrededd datganoli yng Nghymru, byddai wedi gwneud yn dda i feddwl am ddull mwy effeithiol.

Saturday, April 16, 2011
Peter Hain druan
Nid yn aml y bydd dyn yn teimlo unrhyw gydymdeimlad efo Peter Hain, ond mae'n anodd peidio wrth edrych ar y clip hwn lle mae'r lembo gwirion yn ceisio egluro pam bod presgripsiwn am ddim yn briodol yng Nghymru ond yn amhriodol yn Lloegr.
Thursday, March 31, 2011
Y drwg efo gwleidydda personol
Cliciwch ar y ddelwedd i'w gweld yn iawn.
Y drwg efo gwleidydda personol ydi y gall unrhyw un chwarae'r gem os oes yna darged addas ar gael. Pan bod y sawl sy'n gwleidydda'n bersonol yn darged delfrydol ei hun mae'n gofyn am drwbwl braidd.
Un o bleserau bach cadw blog gwleidyddol ydi'r holl stwff gwleidyddol sy'n cyrraedd blwch derbyn e bost dyn. Er enghraifft daeth y poster isod tros y penwythnos.
Rwan peidiwch a fy nghamddeall i - 'dwi ddim yn cytuno a neges greiddiol y poster, sef y dylid pleidleisio yn dactegol yn erbyn Llafur. I'r gwrthwyneb, fyddwn i ddim yn awgrymu i neb yng Nghymru i bleidleisio i unrhyw blaid unoliaethol o dan unrhyw amgylchiadau.
Wedi dweud hynny mae'r poster yn ddiddorol oherwydd ei fod yn dangos sut y gellir defnyddio arddull Hain o wleidydda personol yn erbyn Hain ei hun. Mi fyddwn i wedi gallu meddwl am bethau mwy cas i'w dweud am Hain (ac yn wir 'dwi wedi yn y gorffennol ar y blog yma), ond mae rhai o'r pwyntiau yn canfod y targed yn ddigon twt. Gwneir defnydd o'r ffaith bod Hain yn gymeriad cynhenus sy'n creu gwrthdaro hyd yn oed oddi mewn i'w blaid ei hun.
Gyda llywodraeth y Cynulliad yn gymharol boblogaidd, a Carwyn Jones yn mwynhau mis mel gwleidyddol cymharol hir, mae ffigwr sinicaidd, chwerw nad oes ganddo fawr hygrededd bellach fel Hain yn darged da - hyd yn oed os nad yw'n sefyll etholiad ar Fai 5.
Tuesday, March 08, 2011
Gweld y brycheuyn yn llygad ei frawd _ _
Gan bod Peter Hain yn llenwi'r oriau gweigion sydd ar gael iddo, yn sgil y ffaith ei fod mewn swydd dibwynt a di gyfrifoldeb, yn codi amheuon am effeithlonrwydd eraill, efallai ei bod yn werth holi'n frysiog pa mor effeithiol ydi Peter ei hun?
Byddwch yn cofio i Peter fethu'n dreuenus i gael ei ethol i'r cabinet cysgodol gan ei gyd aelodau seneddol Llafur, ac iddo ddod yn olaf ond pan safodd i fod yn ddirprwy arweinydd ei blaid. Methodd fynd yn is arweinydd, er gwaethaf iddo dderbyn cyfraniadau o hyd at £100,000 i gynnal ei ymgyrch - cyfraniadau na chofiodd i'w cyhoeddi - ac o ganlyniad cafodd ei hun mewn dwr poeth efo'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Gallwch weld y stori drist yma.
Wedyn efallai na ddylid anghofio anturiaethau bach Peter yn defnyddio ei enw fel gweinidog yn y llywodraeth i hyrwyddo cwmni cyfathrebu ei wraig, HaywoodHain. Ac wedyn dyna'r tro hwnnw pan bu ond y dim iddo ddymchwel llywodraeth Cymru'n Un trwy geisio torri'r cytundeb i gynnal refferendwm ar ei ben ei hun bach.
A rwan mae Peter yn mynd ymhell y tu hwnt i'w raddfa cyflog trwy gynnal ymgyrch bersonol yn erbyn arweinydd y blaid sy'n bartner i'w blaid ei hun ym Mae Caerdydd a di sefydlogi yr unig lywodraeth ym Mhrydain mae Llafur a rhan ynddo- a gwneud hynny yn groes i ewyllys arweinydd ei blaid yng Nghymru.
'Dwi'n siwr bod y Blaid Lafur Gymreig yn ystyried Peter yn gryn gaffaeliad.
Wednesday, February 23, 2011
Peter Hain yn dychweld at ei wreiddiau?
'Dwi'n gwybod fy mod yn hwyr ar hon, ond mae honiadau Peter Hain tros y penwythnos bod Plaid Cymru yn 'wrth Seisnig' yn ddiddorol. 'Doedd Peter ddim yn darparu unrhyw dystiolaeth i gefnogi ei honiadau ymfflamychol wrth gwrs, a'r rheswm am hynny ydi nad oes yna unrhyw dystiolaeth yn bodoli - ag eithrio ym mhen Peter. Mae naratif gwleidyddol y Blaid (fel un yr SNP) wedi ei nodweddu gan dueddiad i bwysleisio mai mater i ni ein hunain ydi gwella ein sefyllfa economaidd a chyfansoddiadol, ac mai'r ffordd i wneud hynny ydi trwy rymuso ein sefydliadau cenedlaethol, ac yn arbennig felly y Cynulliad Cenedlaethol.
Yn wir o gyfeiriad Llafur Cymru yn gyffredinol a Peter yn benodol y daw'r naratif o feio gwrth Gymreigrwydd o gyfeiriad San Steffan am pob dim. O gyfeiriad Peter fel y gwelir yma yn y jambori tros y penwythnos er enghraifft; ac mae rhai o'i aelodau seneddol wedi dechrau dilyn ei esiampl - Kevin Brennan yma er enghraifft.
Rwan cyn mynd ymlaen 'dwi'n llawn gydnabod bod gan Peter record glodwiw o wrthwynebu cyfundrefn aparteid ei wlad enedigol. Ond wedi dweud hynny, mae tueddiad Peter i ethnigeiddio ymgom wleidyddol yn nodweddiadol o'r diwylliant gwleidyddol y byddai wedi tyfu i fyny ynddo. Ymgais i dynnu'r rhesymeg allan o wleidyddiaeth ac i annog pobl i ymateb i sefyllfa wleidyddol ar lefel reddfol, emosiynol ac efallai hysteraidd, yn hytrach nag ar lefel ddealluso,l ydi'r dechneg yma wrth gwrs.

Dyna pam roedd PW Botha yn defnyddio rhethreg ethnig, dyna pam roedd Enoch Powell yn defnyddio'r rhethreg a ddefnyddiodd yn ei araith Rivers of Blood, dyna pam roedd Ian Paisley yn tueddu i ddefnyddio rhethreg secteraidd ar drothwy etholiadau, dyna pam bod Ramesh Patel yn ethnigeiddio'r ddadl ail strwythuro ysgolion yng Nghaerdydd, ac ennyn ymateb emosiynol i rethreg ethnig a secteraidd ydi craidd gwleidyddiaeth Nick Griffin.
Efallai ei bod yn bryd i Peter adael ei gefndir ar ol unwaith ac am byth, a dechrau gwerthfawrogi bod ymgom gwleidyddol ei wlad fabwysiedig yn fwy ystyrlon a rhesymol a llai ymfflamychol nag oedd yn ei wlad frodorol - ac mai dim ond yr elfennau mwyaf eithafol a hysteraidd sy'n teimlo'r angen i ethnigeiddio gwleidyddiaeth yma.
Wednesday, November 03, 2010
Methiant yn galw methiant arall yn fethiant
Yn anarferol braidd 'dwi'n cael fy hun mewn cytundeb llwyr efo Peter Hain ynglyn a'r hyn ddywedodd wrth Cheryl Gillan heddiw:
You failed to stand up for S4C, you failed to stand up for the defence training college, you failed to stand up for the Anglesey energy island, you failed to stand up for the Severn barrage, you got a terrible deal for Wales out of the comprehensive spending review. I'm sorry to say you are failing Wales abysmally. If you are not going to fight for Welsh jobs, you shouldn't be in your job.
Mae Gillan a'i grwp bach o aelodau seneddol Toriaidd Cymreig llywath a lleddf wedi methu'n llwyr i amddiffyn buddiannau Cymru hyd yn hyn. Maen nhw mor amherthnasol i benderfyniadau'r llywodraeth yn Llundain fel nad oes ganddynt fawr o obaith o hyd yn oed lwyddo i atal deddfwriaeth newid ffiniau etholiadol fydd yn rhoi seddi'r mwyafrif ohonynt mewn perygl gwirioneddol.
Ond mae mae'n rhaid wrth dderyn glan i ganu, a methiant llwyr oedd cyfnod Peter Hain ei hun fel Ysgrifennydd Gwladol tros Gymru. Bu Hain yn Ysgrifennydd Gwladol ers 2002, a bu ei lywodraeth mewn grym yn San Steffan ers 1997.
Ac ar ddiwedd y cyfnod hir yma mae Cymru yn dal yn agos at waelod pob tabl sy'n mesur cyfoeth yn y DU, ac mae mor ddibynnol ar wariant cyhoeddus fel bod y toriadau sydd ar y gweill yn mynd i daro Cymru yn galetach na'r un rhan arall o'r DU. Mae yna cyn lleied o gyflogwyr preifat mawr yn y wlad fel bod pob cynllun cyfalaf sy'n cael ei ddileu gan y Toriaid yn gic anferthol i'r holl economi. Ar ddiwedd cyfnod Hain mae'r sector breifat yn llawer rhy wan i wneud iawn am y swyddi fydd yn cael eu difa gan y Toriaid. Mae Hain a'i lywodraeth Lafur wedi ein gadael yn hollol ddiymgeledd yn wyneb yr hyn sydd o'n blaenau.
Methiant yn galw methiant yn fethiant.
Wednesday, February 10, 2010
O diar. o diar - oes yna bwrpas i flogmenai bellach?
Os oes gan flogmenai genhadaeth, hon ydi hi - dadlau y byddai Cymru'n ffynnu petai ganddi reolaeth lawn tros ei bywyd cenedlaethol ei hun.
A dyna Peter Hain yn dod a thorri'r tir o dan fy nhraed - mae wedi dod o hyd i wlad annibynnol sydd hyd yn oed yn dlotach na Chymru, sef Rwanda. Ar ol saith gan mlynedd o gael ein helpu gan ein cymydog agosaf a thair mlynedd ar ddeg o haelioni anhygoel ac effeithiolrwydd llywodraethol New Labour, rydym bellach yn well ein byd na Rwanda.
Diolch Peter. Diolch, diolch, diolch, diolch _ _ _.
Oes yna bwrpas i barhau i flogio dywedwch?
Wednesday, January 13, 2010
Blogmenai'n cadw'r glendid a fu i'r oesoedd a ddaw
'Dydi Vaughan ddim yn fodlon ail ddangos fideo gwych David Taylor a Peter Hain i ddathlu'r ffaith i'r naill gael joban gan y llall. Mae blogmenai'n falch o ddweud ei fod yn fodlon llenwi'r bwlch a adawyd gan y Bib - unwaith eto.
Pam ydan ni'n talu am y drwydded deledu dywedwch?
Pam ydan ni'n talu am y drwydded deledu dywedwch?
Tuesday, November 24, 2009
Y peth gorau a allai ddigwydd i ddatganoli fyddai ymadawiad Peter Hain
Wps - bu bron i'r holl sioe a syrthio'n ddarnau y prynhawn yma gyda Plaid Cymru yn bygwth tynnu allan o Cymru'n Un oherwydd i Lafur ymddwyn fel y bydd Llafur yn ymddwyn pob tro mae pendefyniad anodd i'w wneud ynglyn a datganoli.
Mae gwahanol flogwyr yn cynnig eu dehongliadau eu hunain ynglyn a'r digwyddiadau. Yn ol Welsh Guerilla Warefare Llafur sy'n profi pa mor bell maent yn cael mynd, tra bod Syniadau o'r farn bod Llafur ond eisiau mwy o bwerau i'r Cynulliad os nad ydynt yn rheoli yn Llundain. Mae Gareth Hughes o'r farn mai ymgais gan Peter Hain i ohirio refferendwm am cymaint o amser a phosibl.
'Dwi'n meddwl mai Gareth sydd agosaf ati. Mae Llafur Cymru yn gwbl afresymegol pan maent yn wynebu problemau sy'n ymwneud datganoli, yn yr un ffordd nag y mae'r Toriaid Prydeinig yn mynd ychydig bach yn dw lali pan maent yn ceisio meddwl am Ewrop. Mae'r rheswm yr un peth yn union - mae'r ddwy blaid wedi eu hollti'n llwyr - y naill ar ddatganoli a'r llall ar Ewrop.
Mae'r ffaith bod Llafur Cymru pob amser yn edrych ar ddatganoli yng nghyd destun eu anghenion mewnol yn golygu bod datganoli Cymreig wedi bod yn ddiffygiol o'r cychwyn. Yr angen i gyfaddawdu er mwyn undod mewnol a arweiniodd at ddiffyg eglurder y setliad gwreiddiol, dyna hefyd arweiniodd at y system LCO bondigrybwyll. Ymgais i wthio penderfyniadau anodd i'r dyfodol oedd comisiwn Syr Emyr, a dyna oedd lol heddiw. 'Dwi'n eithaf siwr yn bersonol i Peter Hain addo i rai o ddeinasoriaid ei blaid i beidio a symud ymlaen efo datganoli am gyfnod penodedig ar yr amod nad oeddynt yn cicio yn erbyn y tresi pan oedd y gyfundrefn LCOs yn cael ei chreu - ac mae'n gorfod byw efo'r addewid hwnnw 'rwan.
'Dydi datganoli byth am weithio tra bod y Blaid Lafur Gymreig yn credu bod eu hystyriaethau pleidiol eu hunain yn bwysicach na llunio cyfundrefn effeithiol o lywodraethu Cymru. 'Does yna neb yn fwy euog na Peter Hain o fod a blaenoriaethau gwyrdroedig yn y cyswllt yma. Mae eisoes yn wleidydd sydd wedi ei faeddu y tu hwnt i adferiad - fel y gellir gweld yma yma ac yma, er enghraifft. Mae'n bryd iddo fynd - ni all feddwl yn rhesymegol am ddatganoli a thra ei fod yn ysgrifenydd gwladol fydd Llafur ddim yn ymddwyn yn rhesymegol mewn perthynas a datganoli chwaith.
Tuesday, November 03, 2009
Ydi Peter Hain a Rhodri Morgan yn gywir am unwaith?
Syniadau ydi un o fy hoff flogiau - a 'dwi'n cytuno efo fo o leiaf 90% o'r amser. Serch hynny 'dwi ond yn rhyw hanner cytuno efo'r sylwadau hyn ar ddadl Peter Hain a Rhodri Morgan y gallai lleihau'r nifer o Aelodau Seneddol Cymreig arwain at lai o Aelodau Cynulliad? 'Dwi'n cytuno efo'r prif bwynt - mai'r ffordd i amddiffyn Cymru oddi wrth yr hyn sydd o'n blaenau pan ddaw'r Toriaid i rym ydi trwy ddefnyddio'r Cynulliad i wneud hynny - nid trwy ddal gafael ar ambell i Aelod Seneddol. 'Dwi yn meddwl fodd bynnag bod Hain a Morgan efo pwynt.
'Dwi'n derbyn bod yna ormod o Aelodau Seneddol o lawer, a'i bod yn briodol i leihau eu nifer. Edrychwyd ar sut y gellid gwneud hynny yma. 'Dwi hefyd yn derbyn bod Hain yn falwr cachu o'r radd flaenaf, a bod ei ddadl ar yr wyneb yn nonsens llwyr. Yn wir, petai nifer yr etholaethau San Steffan yn cael eu torri ni fyddai'n rhaid ethol mwy o aelodau rhestr fel mae Syniadau yn awgrymu. Pan dorwyd y nifer Aelodau Seneddol yn yr Alban, cadwyd at yr hen etholaethau yn etholiadau Holyrood. Yn wir credaf i ambell i etholaeth newydd ymddangos - er enghraifft daeth Orkney & Shetland yn ddwy etholaeth yn hytrach nag un.
Yr hyn sydd yn fy mhoeni ydi na fydd y Toriaid eisiau gwanio San Steffan mewn cymhariaeth a'r Cynulliad. Mae eu hanes o wrthwynebu democrateiddio Cymru yn wirioneddol gywilyddus. Roeddynt yn gwrthwynebu sefydlu'r Cynulliad - ac roeddynt yn gwrthwynebu gadael i bobl Cymru gael mynegi safbwynt ar y mater - roedd Major, Redwood, Thatcher, Hunt a Walker yn gwybod yn well na phobl Cymru beth sy'n dda iddynt dach chi'n gweld.
Os ydan ni'n mynd yn ol mewn hanes (i'r gorffennol pell neu agos) mae'r Toriaid wedi bod yn blaid cwbl wrth ddemocrataidd mewn cyd destun Cymreig - ac mewn cyd destun ehangach na hynny. Eu patrwm arferol yng Nghymru ydi gwrthwynebu pob dim nes bod rhaid ildio- S4C, datganoli, sefydlu yr Eglwys yng Nghymru, y Swyddfa Gymreig. Adlewyrchiad ydi hwn o batrwm ehangach o wrthwynebu democratiaeth pan maent yn gweld hwnnw'n fygythiad i'r 'cyfansoddiad' Prydeinig - coleddu'r Ymerodraeth, gwrthwynebu ymestyn yr hawl i bleidleisio, gwrthwynebu hunan reolaeth i'r Iwerddon hyd yn oed pan roedd yn gwbl glir bod mwyafrif llethol eisiau hynny, gwrthwynebu hawliau cyfartal i Babyddion ac ati, ac ati.
Felly ydi hi'n bosibl y bydd y Toriaid yn ceisio gwanio'r Cynulliad pan fyddant mewn grym? Wel ydi siwr - mae'n sicr yn bosibl. Lleihau nifer yr ACau fyddai un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud hynny - ac mi fyddai lleihau nifer yr Aelodau Seneddol Cymreig yn esgys da tros wneud hynny.

Tuesday, October 06, 2009
A beth wnawn i o hynt a helynt yr LCO iaith?
'Dwi ddim yn siwr ble i ddechrau efo hon a dweud y gwir.
Dyna ni Peter Hain yn gwneud datganiad i'r wasg ynglyn a'r mater cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud yn y Cynulliad - ac felly'n dangos ei ddirmyg a'i wawd tuag at y corff hwnnw.
Wedyn, fel mae Vaughan yn nodi, mae bellach yn amlwg bod Ty'r Cyffredin yn ail siambar i'r Cynulliad.
Wedyn ymddengys bod cwmniau sy'n cynnig hyfforddiant - fel un Peter Hain a'i wraig bellach ddim yn dod o dan ofynion y ddeddf, oherwydd nad ydynt yn derbyn arian cyhoeddus. Gobeithio ei fod wedi datgan diddordeb os oedd angen iddo wneud hynny - rydym eisoes wedi gweld bod y boi'n gallu bod yn rhyfeddol o anghofus.
Ond y pwynt mwyaf arwyddocaol ydi hwn - pam goblyn bod y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig eisiau trafod y mater eto, a chabinet San Steffan eisoes wedi rhoi sel bendith i'r newidiadau?
Yr ateb mwyaf tebygol ydi nad oes gan Aelodau Seneddol Cymreig bellach fawr o ddim byd i wneud efo'u hamser, a dyna pam maen nhw'n torri glo man yn glapiau yn ystod y broses craffu ar argymhellion Caerdydd, a dyna pam maen nhw'n cyfarfod i drafod penderfyniadau sydd eisoes wedi eu gwneud.
Wir Dduw, mae pedwar deg Aelod Seneddol yn San Steffan yn ormod o beth coblyn. Byddai hanner hynny'n gwneud yr un joban yn llawer mwy cost effeithiol na'r criw presenol o holltwyr blew proffesiynol.
Thursday, September 17, 2009
Llythyr Peter Hain i'r Guardian
Gallwch weld campwaith Peter yma.
Poeni mae Peter bod y Toriaid am ddod yn gyntaf yng Nghymru fel y gwnaethant yn etholiadau Ewrop, a felly mynd i lywodraeth yn San Steffan. Mi fyddai canlyniadau hyn yn anymunol gan bod y Toriaid yn wahanol i Lafur yn 'ddau wynebog'. Ymhellach, mae gan Adam Price gynllun cudd i glymbleidio efo'r Toriaid.
Y ffordd i osgoi hyn wrth gwrs ydi i bawb yng Nghymru fotio i blaid Peter - wedi'r cwbl fel a ddaeth yn amlwg yn 2007 pleidlais i'r Toriaid ydi pleidlais i Blaid Cymru mewn gwirionedd a mae'r Lib dems mor fach nad ydyn nhw'n werth pleidleisio trostynt beth bynnag.
'Rwan 'dwi'n petruso cyn awgrymu bod gan Peter issues yn ymwneud ag ansawdd ei ddeallusrwydd, ond 'dydw i ddim yn gwybod beth arall i'w feddwl.
Cymerer am eiliad bod pleidleiswyr Plaid Cymru i gyd yn sylweddoli mai pleidleisio i'r Toriaid maent mewn gwirionedd ac mai clymblaid Tori / Plaid Cymru sy'n rheoli yng Nghaerdydd a bod Rhodri Morgan yn Geidwadwr o fri. Cymerer eu bod yn credu celwydd Hain am gynlluniau cudd Adam Price.Cymerer bod cefnogwyr y Lib Dems yn derbyn bod eu plaid yn rhy fach i drafferthu pleidleisio iddi. Cymerer bod pwerau perswadio Peter mor rhyfeddol nes ei fod yn argyhoeddi holl gefnogwyr y Toriaid yng Nghymru (hyd yn oed Guto Bebb) bod eu plaid yn ddau wynebog ac na ddylid pleidleisio trosti. Cymerer bod pob copa walltog (a'r copaon moel) yng Nghymru yn pleidleisio i blaid Peter - yna beth fyddai'n digwydd?
Wel - mi fyddai'r Blaid Lafur yn ennill unarddeg sedd ychwanegol yng Nghymru. Yn y cyfamser mae'r Toriaid ugain pwynt ar y blaen yn Lloegr - 45% i 25%. Mae hyn yn ogwydd o 10%. Mae 533 o'r 650 sedd yn Nhy'r Cyffredin yn rhai Seisnig. Mae'n anodd bod yn fanwl yma - ond mae'n debyg y byddai hyn yn arwain at tua 270 mwy o seddi Toriaid yn Lloegr na fyddai yna o rai Llafur. Piso dryw bach yn y mor fyddai'r unarddeg sedd Llafur newydd yng Nghymru. Piso gwylan fyddai'r deugain sedd Gymreig.
Neu i roi pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol, mae pleidlais i Lafur gan berson sy'n byw yng Nghymru yn wastraff llwyr o bleidlais. Y gorau y gall pleidlais i Lafur ei wneud ydi dychweld rhywun fel Nia Griffiths neu Chris Bryant i gymryd eu lle ymysg nifer fechan o aelodau shellshocked Llafur, Seisnig fydd a'u hysbryd yn isel. Mi fyddant hefyd yn destun gwawd cyffredinol.
Beth mewn difri fyddai'n gwneud i'r Toriaid betruso cyn gwneud i Gymru yr hyn mae'r Toriaid yn ei wneud pob tro - gweld Cymru yn dychwelyd at ei hen batrwm gwleidyddol aneffeithiol, di ddannedd, lleddf a hynny mewn cyd destun Prydeinig lle na fydd Llafur mewn grym eto am genhedlaeth, ta gweld cyfundrefn wleidyddol newydd yn dechrau ffurfio yng Nghymru - un sy'n fygythiad i'w hannwyl Deyrnas Gyfunol?
'Dwi ddim yn meddwl bod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw'n anodd iawn.
Sunday, June 28, 2009
Peter yn y papur eto fyth
Mae Peter yn y papur unwaith eto - y Sunday Times y tro hwn.

Nid dyma'r tro cyntaf wrth gwrs - roedd yna sgandal ychydig flynyddoedd yn ol yn ymwneud a methiant i ddatgan cyfraniadau a roddwyd iddo yn ei ymgyrch drychinebus i gael ei ethol yn is arweinydd y Blaid Lafur Brydeinig.
Mae'n debyg iddo 'anghofio' datgan iddo dderbyn gwerth £100,000 o gyfraniadau. Roedd yr arian wedi ei sianelu'n rhannol trwy sefydliad a ddisgrifid fel think tank (beth bynnag ydi hynny)o'r enw'r Progressive Policies Forum. Nid oes tystiolaeth i'r Fforwm wneud unrhyw beth ag eithrio dod o hyd i arian i ariannu ymgyrch Hain. Roedd dyn o'r enw Willie Nagal, gwerthwr diamwtiau o Dde Affrica wedi defnyddio'r dull yma o roi £5,000 i ymgyrch Hain ynghyd a benthyciad di log o £25,000. Wedyn roedd gwr busnes o Israel - Isaac Kaye wedi defnyddio'r fecanwaith i roi £15,000 a chafwyd £10,000 gan Mike Cuddy.
Mae derbyn arian heb ei ddatgan mewn sefyllfa fel hon yn groes i gyfraith etholiadol (ac mae'r sefyllfa yn waeth os ydi ffynhonell yr arian yn un tramor), a danfonwyd manylion yr achos i Wasanaeth Erlyn y Goron. Wedi edrych ar y mater daethant i'r casgliad nad oedd yn briodol i ddod ag achos yn erbyn Hain oherwydd eu bod yn barnu nad oedd yn rheoli Hain4Labour - y corff oedd yn gyfrifol hyrwyddo ei ymgyrch. Hynny yw roeddynt yn derbyn bod gweithred o dor cyfraith wedi digwydd, ond nid oeddynt yn credu y gellid sefydlu'n gyfreithiol pwy oedd yn gyfrifol am y weithred honno.
Bu'n rhaid i Hain ymddiswyddo o'r Cabinet tra roedd yr ymchwiliad yn mynd rhagddi, ac roedd rhaid iddo aros ar y meinciau cefn hyd yr ad drefnu diweddar yng nghabinet Brown. 'Dydi hi ond wedi bod ychydig wythnosau ers iddo ddychwlyd, ac mae'r stori newydd wedi ymddangos yn y Sunday Times.
Stori yn ymwneud a cham ddefnydd o gysylltiadau gwleidyddol ydi hon yn y bon. Roedd Hain wedi sefydlu cwmni _ _ ahem _ _ 'cyfathrebu' gwleidyddol gyda'i wraig - HaywoodHain. Roedd gwefan y cwmni (tan ddoe) yn brolio cysylltiadau gwleidyddol Hain. 'Rwan nid oes unrhyw beth anghyfreithlon am hyn - er ei bod yn bosibl dadlau bod ymddygiad o'r fath yn gwbl groes i god ymarfer gweinidogion y goron. Mae'n amlwg bod y cwestiwn o wrthdaro rhwng swydd Hain fel gweinidog a lles ei gwmni yn codi.
Hyd yn oed a gadael hynny i un ochr mae cwestiwn ehangach yn codi hefyd - pam y dylai rhywun sydd a digon o bres i dalu i HaywoodHain gael mynediad i gysylltiadau gwleidyddol Hain, pan nad yw'r rheiny ar gael i bawb arall?
Er nad oedd Hain yn un o 'ser' Cymreig y sgandal treuliau, mae yna agwedd anarferol iddynt hwythau. Yn 2004 gofynodd i'r swyddfa ffioedd os cai hawlio am forgais am dy oedd wedi ei brynu yn ei etholaethefo'i wraig newydd, Elizaberth Hayward am £400,000, yn ogystal a hawlio am forgais ar ei gyn gartref chwe milltir i ffwrdd. Ni chafodd geiniog am yr ail dy, gan i'r swyddfa ffioedd wrthod y cais.
Felly beth mae hyn oll yn ei ddweud am Ysgrifenydd Gwladol Cymru?
I fod yn garedig - yn ofnadwy o garedig efo Hain, nid yw'r sefyllfa yn llenwi dyn efo hyder yn ein Hysgrifenydd Gwladol. Mae'n ymddangos nad oes ganddo unrhyw allu o gwbl i roi sylw addas i fanylion - hyd yn oed manylion sy'n bwysig iawn i'w dynged ei hun. Nid oedd ganddo unrhyw reolaeth nag yn wir dealltwriaeth o'r ffordd yr oedd ei ymyrch am y dirprwy arweinyddiaeth yn cael ei hariannu.
Nid oedd ganddo chwaith fawr o ymdeimlad o ddiffyg priodoldeb i gyn weinidog hysbysebu ei gysylltiadau gwleidyddol ar y We, ac yn waeth nid oedd wedi croesi ei feddwl y dylai fod wedi ail edrych ar ei faterion busnes masnachol yng ngoleuni'r ffaith ei fod wedi ei ail godi'n weinidog.
Ac ar ben hyn oll, ymddengys nad oedd yn gweld problem ceisio hawlio traeliau ar ddau gartref chwe milltir oddi wrth ei gilydd ar yr un pryd, a gwneud hynny ar gorn y trethdalwr.
Gyda'r ewyllys gorau yn y Byd tuag at Hain, fedra i ddim dychmygu bod y dyn yma yn addas i fod yn ddeilydd un o brif swyddi gwleidyddol Cymru - a 'dwi ddim yn meddwl y byddai'n dal swydd felly oni bai bod Brown wedi ei orfodi gan amgylchiadau gwleidyddiaeth menol Llafur i glymu tynged rhai o gyn weinidogion Blair gyda'i dynged ei hun.

Friday, March 27, 2009
Croeso Aneurin Glyndwr
Wel, wel, wel - ar ol bod yn poeni nad oes ganddynt bresenoldeb ar y rhithfro Cymreig mae Eluned Morgan, Peter Hain a'r anfarwol Alun Davies wedi creu blog o'r ansawdd uchaf - Aneurin Glyndwr
Er mor fyr hyd yn hyn, mae'n amlwg yn gampwaith gwybodus, deallus a soffistigedig - a does yna ddim mwy felly na'r fideo anfarwol sydd ar waelod y blog yma - sydd yn ol pob golwg yn ymdrech i lawnsio ymgyrch etholiadau Senedd Ewrop Llafur.
Does gen i ddim y geiriau i fynegi maint fy edmygedd o'r safonau cynhyrchu godidog, y sgiliau ffotoshop, y naratif deallusol ac effeithiol, geiriau soffistigedig y gan (sydd wedi eu 'sgennu gan neb llai nag Eluned ei hun), y llais soniarus, y gallu rhyfeddol i gwmpasu'r tirlun gwleidyddol cyfoes mewn ychydig eiriau _ _ _ - jyst pob dim - mae'r blydi peth yn gampwaith.
'Rwan, mae yna rhyw dderyn bach yn dweud wrthyf y bydd y fideo a'r wefan yn cael ysgariad maes o law - ond rhag i'r berl bythgofiadwy o fideo ddiflannu - a thrwy hynny amddifadu traddodiad diwylliannol Cymru o un o'i gampweithiau, 'dwi wedi ei gopio er mwyn i chi gael ei fwynhau - trosodd a throsodd a throsodd.
Os nad ydych chi'n gwrando ar gymaint ag un gair o gyngor y cewch ar y blog hwn - plis edrychwch ar y fideo - yn arbennig felly os ydych byth yn cael eich temtio am cymaint a munud i bleidleisio i blaid Eluned Morgan.

Subscribe to:
Posts (Atom)