Sunday, April 12, 2015

Carry on Cairns

Hmm, felly mae miloedd o bobl o pob plaid ym Mro Morgannwg yn troi at Alun Cairns oherwydd ei fod o'n foi mor dda, oherwydd eu bod nhw eisiau stopio'r SNP ac oherwydd nad ydyn nhw yn hoffi gwleidyddion proffesiynol? 

Mae Alun wedi bod yn ennill ei fara menyn fel gwleidydd proffesiynol ers 1999.  


2 comments:

Anonymous said...

Oes na wahaniaeth mawr rhwng 1999 a 2001?

Ymddengys eich bod yn cefnogi Hywel Williams ers ei ethol felly ydi 14 blynedd gymaint gwell na 16? Ai peth da ydi fod Elfyn Llwyd wedi ymddeol? Wedi'r cyfan, mae o'n wleidydd llawn amser ers 1992 (er yn gweithio fel arall nawr ac yn y man). Panic, paranoia ta twpdra di sail y sylw?

Cai Larsen said...

Does gen i ddim problem efo gwleidyddion yn gwneud gyrfa ohoni. Carry on Cairns sy'n trio portreadu ei hun fel boi o'r tu allan i'r sefydliad gwleidyddol, tra ei fod mewn gwirionedd yn ymgorfforiad o'r 'insider' sefydliadol.