Friday, April 21, 2006

Paris - parhad a goroesi

Wedi bod ym Mharis am ychydig o ddyddiau. Fel ym mhob hen ddinas mae rhywbeth trawiadol am y ffordd mae'r presenol a'r gorffennol yn asio yn un. Hen hen adeiladau yn cael eu defnyddio i bwrpas cyfoes, y palmentydd o dan draed wedi eu troedio yn y Canol Oesoedd. Mae llawer o ddinasoedd, trefi a phentrefi fel hyn yn Ffrainc Mae Sarlat yn y Dordogne yn esiampl da. Esiampl anhygoel o hen adeilad mewn cyd destun cyfoes ydi Palas y Pabau yn Avignon.

Beth sydd yn fwy trawiadol efallai ydi'r dystiolaeth o barhad o ran arferion pobl. Roeddym yn digwydd bod yn ardal Jardin des Plantes i’r de o’r afon ar ddydd Gwener y Groglith pan ddaethym ar draws gorymdaith yn dathlu Dydd Gwener y Groglith. Roedd canoedd yn cymryd rhan, ac roeddynt yn aros pob ugain llath neu ddeg llath ar hugain i ganu a gweddio wrth gofio rhyw ddigwyddiad neu'i gilydd yn ystod diwrnod olaf Crist. Mae'n debyg bod tua 30 gorymdaith debyg ar draws Paris ar yr un diwrnod. Seremoni sydd wedi ei hailadrodd am ganrifoedd.



Yna, ar ddiwrnod arall roeddym yn Marais i’r gogledd o’r afon - ardal sydd wedi bod yn gartref i Iddewon ers y Canol Oesoedd cynnar. Maent wedi aros yno yn wyneb tonnau mawr o Iddewon yn dod o ddwyrain Ewrop yn sgil erledigaeth, er gwaethaf erledigaeth yn Ffrainc, er gwaethaf newidiadau poblogaeth sylweddol a thwf enfawr dinas Paris, er gwaethaf digwyddiadau pedwar degau'r ganrif ddiwethaf - ac wedi aros yno am ganrifoedd lawer.



Cerrig bedd Iddewig o'r drydydd ganrif ar ddeg wedi eu cymryd o gwahanol rannau o Baris.



Synagog yn y Marais heddiw.




Copi o'r Torah o Baris.

Monday, April 03, 2006

Mae hi wedi bod yn aeaf, digon rhyfedd - oer, sych a di storm fwy na heb. Tybed beth a ddigwyddodd i'r effaith ty gwydr?

Beth bynnag, pam mor bynnag anarferol y tywydd mae ambell i beth yn aros yr un o hyd - Cennin Pedr ym mis Mawrth er enghtaifft. Byddaf yn mwynhau gyrru i'r gwaith yn ystod mis Mawrth oherwydd bod llawer o Gennin Pedr ar y ffordd rhwng Caernarfon a Threfor. Mae ychydig o liw ar derfyn y gaeaf, mewn mis sy'n ddigon llwydaidd fel arall, yn fwy trawiadol na'r hyn a geir yn ystod dau fis arall mwy amryliw'r gwanwyn.