Monday, September 16, 2019

Pam y byddai ethol Dewi Evans yn gadeirydd yn weithred hunan niweidiol ar ran y Blaid

Mae’n debyg y dylwn gychwyn trwy ddatgan diddordeb.  ‘Dwi’n eistedd ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid ac ar ei Phwyllgor Aelodaeth, Safonau a Disgyblu.  Roeddwn ar y panel disgyblu yn ystod gwrandawiad cyntaf Neil McEvoy a roeddwn yn y gwrandawiad a fethodd ddod i benderfyniad os dylid ganiatáu iddo ail ymaelodi a’r Blaid.  Fodd bynnag nid oes gennyf fwriad i gyfeirio at achos Neil McEvoy yn benodol,nag at unrhyw achos arall - i’r graddau bod hynny’n bosibl.

 

Yr hyn hoffwn ei wneud ydi cywiro ambell i gam ganfyddiad ynglŷn a sut mae prosesau disgyblu’r Blaid yn gweithio.  Mae gen i ofn bod cryn dipyn o droelli cwbl gam arweiniol ynglŷn a phrosesau disgyblu’r Blaid.- enghraifft o hynny ydi yr hyn mae Dewi Evans yn ei ddweud yma (What is not healthy is when differences get personal, and members are being expelled for being in the ‘wrong’ group or being on the ‘wrong’ side of the debate.)  Mae’n gwbl gamarweiniol i awgrymu bod y broses disgyblu yn gweithio yn y modd yma – ac mae’n fwy na phosibl bod yr honiad yn fwriadol gamarweiniol.  Efallai y byddai o gymorth i edrych  ar bwrpas a gweithdrefn y Pwyllgor Aelodaeth, Safonau a Disgyblu.  

 

Prif orchwyl y corff ydi ystyried pa gamau i’w cymryd pan mae cwyn yn dod i law bod aelod neu aelodau o’r Blaid wedi torri ei rheolau sefydlog.

 

Fel mae’r enw yn awgrymu pwrpas rheolau sefydlog ydi rheoli’r ffordd mae’r Blaid a’i aelodau yn gweithredu yn fewnol.  

 

Yn y bon mae tri cham wedi i gwyn am aelod gael ei derbyn gan y Blaid yn ganolog.:

 

  1. Y gwyn yn cael ei throsglwyddo i banel o dri (gan amlaf).  Y panel yn ystyried y gwyn, yn chwilio am dystiolaeth bellach os oes angen gwneud hynny, ac yn cynnal gwrandawiad os yw o’r farn bod achos i’w ateb.  Yn dilyn y gwrandawiad daw i ddyfarniad os oes rheolau sefydlog wedi eu torri neu beidio - ac os oes rheolau wedi eu torri daw i gasliad ynglyn a sancsiwn priodol.
  2. Os ydi’r sawl sydd wedi ei ddyfarnu’n euog o dorri rheolau sefydlog yn teimlo ei fod / bod wedi cael cam gall apelio’r dyfarniad a / neu briodoldeb y gosb.  Bydd panel o dri yn ystyried y cais - ac yn amlwg nid oes cysylltiad rhwng aelodau’r panel newydd a’r penderfyniad gwreiddiol.
  3. Os ydi aelod wedi ei wahardd gall wneud cais i ail ymuno a’r Blaid wedi i gyfnod y gwaharddiad ddod i ben.  Nid panel, ond yn hytrach y Pwyllgor Aelodaeth a Disgyblaeth llawn sydd yn ystyried y cais yma.  Mae gorchwyl y pwyllgor yn wahanol y tro hwn.  Yr hyn sydd yn cael ei ystyried ydi os oes tystiolaeth bod yr apelydd yn deaebygol o dorri’r un rheolau sefydlog, a’i fod / bod felly yn anhebygol y bydd yn torri’r un rheolau eto.  Mae rhesymau da am hyn.  Os nad ydi apelydd yn deall ei fod / bod wedi torri rheolau sefydlog y tebygrwydd ydi y bydd yr aelod yn torri’r un rheol eto, ac y bydd cwyn arall tebyg yn dod i law ac y bydd y broses yn cychwyn eto.

 

Yn groes i awgrym Dewi Evans nid oes ystyriaeth o unrhyw fath yn cael ei roi i farn gwleidyddol  neb – oni bai bod y farn honno yn groes i reolau sefydlog y Blaid, ac mai’r farn honno fyddai’r rheswm am y gwyn.  ‘Dwi ddim yn ymwybodol o unrhyw achos lle mae hyn wedi digwydd.

 

Mae’r broses  yn annibynnol - a ni all neb o’r tu allan amharu arni. Petai Dewi Evans yn cael ei ethol yn gadeirydd y Blaid ni fyddai ganddo’r mymryn lleiaf o rym i ganiatau i aelodau sydd wedi eu gwahardd ddychwelyd - ddim mwy na fyddai ganddo petai’n arweinydd, prif weithredwr, aelod etholedig, yn aelod o’r Cyngor Cenedlaethol, neu aelod cyffredin o’r Pwyllgor Gwaith nad yw hefyd yn eistedd ar y Pwyllgor Disgyblu. 

 

Eto mae rheswm da pam nad yw pobl sydd y tu allan i’r broses yn gallu dylanwadu arni - er mwyn osgoi amharu ar sail gwleidyddol neu bersonol. Dyma yn ol yr hyn a ddeallaf fwriad Dewi Evans os caiff ei ddewis yn gadeirydd y Blaid - amharu ar broses ddisgyblu am resymau gwleidyddol.  Byddai ceisio gwneud hyn yn achosi cryn anhrefn mewnol.

 

Mae ymhlyg yn ymgyrch Dewi Evans nad oes angen cyfundrefn ddisgyblu o gwbl – neu o leiaf cyfundrefn ddisgyblu sydd efo dannedd. Byddai cyfundrefn ddisgyblu sydd ddim yn cosbi neb am dorri rheolau sefydlog  ddim gwerth ei chael.  Os nad oes gan y Blaid gosb effeithiol am dorri’r rheolau hynny does ganddi hi ddim parch at ei rheolau ei hun - ac os nad oes ganddi barch at ei rheolau ei hun ‘does ganddi ddim parch ati hi ei hun chwaith yn y pen draw. 

 

 

‘Dwi’n troi rwan at gam argraff arall sy’n ymddangos i fod ymhlyg yn ei ymgyrch, sef y canfyddiad bod llawer o bobl ar hyn o bryd wedi eu gwahardd o’r Blaid.  ‘Dydi hynny ddim yn wir.  Gellir cyfri’r sawl sydd yn y sefyllfa yna ar un llaw.

 

Er enghraifft mae yna ganfyddiad bod nifer fawr o bobl wedi eu gwahardd yn dilyn anghytundeb yn Llanelli ynglŷn a dewis ymgeisydd i sefyll yn Etholiad Cyffredinol 2017. ‘Dwi’n credu fy mod yn gywir i ddweud mai un aelod yn unig a waharddwyd gan y Pwyllgor Disgyblu, ac mae hwnnw’n rhydd i wneud cais i ail ymaelodi bellach - os yw eisiau gwneud hynny.   

 

Mae’n wir i rai aelodau adael o’u gwirfodd, a bu’n rhaid i’r cadeirydd presennol wahardd cangen tref Llanelli dros dro - yn dilyn gweithredu anghyfansoddiadol  cyson o fewn y gangen honno.  Mae’r gwaharddiad hwnnw wedi dod i ben ers tro byd.

 

A daw a hyn a ni at rôl y cadeirydd yn y broses ddisgyblu – ac mae’n gwbl wahanol i’r hyn sy’n cael ei awgrymu gan ymgyrch Dewi Evans.  Mae dyletswyddau cadeirydd y Blaid yn ei orfodi i gymryd penderfyniadau dydd i ddydd - yn wahanol i’r rhan fwyaf o aelodau’r Pwyllgor Gwaith - yn arbennig felly pan mae argyfwng yn codi.  Os yw’n cymryd penderfyniad  bydd yna’n gofyn am sel bendith y Pwyllgor Gwaith llawn yn fuan wedyn.  Mae’r cadeirydd presennol wedi gorfod gwneud penderfyniadau felly - yn achlysurol iawn.  Mae hefyd wedi dangos cryn ddewrder wrth ymateb yn gadarn i broblemau.  

 

Mae Dewi Evans yn honni mai cymodi ydi’r ffordd o fynd i’r afael a chwynion bod aelodau wedi torri rheolau sefydlog y Blaid.  Mae’r ffordd yma o edrych ar bethau yn sylfaenol wallus.  ‘Dydi cymodi ddim yn ffordd o ddelio efo aelodau sy’n torri rheolau sefydlog – llwfdra di gyfeiriad ydi mynd ati i wneud hynny. Ffordd o ddelio efo sefyllfa pan mae carfannau  yn anghytuno ydi cymodi, ac mae hynny - wrth gwrs - wedi digwydd mewn sefyllfaoedd felly.  Yn wir mae cryn ymdrech wedi ei wneud i gymodi rhwng gwahanol garfanau yn y gorffennol – ac mae’r cadeirydd presennol wedi chwarae rhan blaenllaw yn yr ymdrechion hynny i gymodi.

 

‘Dwi’n credu ei bod yn deg casglu o’r hyn mae Dewi Evans wedi ei ddweud na fyddai fel cadeirydd y Blaid yn fodlon ymateb yn gadarn i argyfwng, ac na fyddai am i aelodau  sy’n gweithredu yn groes i’r rheolau sefydlog yn wynebu unrhyw ganlyniadau am wneud hynny.  Byddai’n treulio ei amser yn ceisio cymodi yn hytrach nag amddiffyn y Blaid oddi wrth y sawl fyddai’n gweithredu’n groes i’w rheolau.  Byddai hefyd yn ceisio amharu ar y broses ddisgyblu – er nad oes ganddo unrhyw hawl cyfansoddiadol  i wneud hynny.

 

Byddai ethol cadeirydd sydd ddim eisiau amddiffyn rheolau sefydlog y Blaid, sydd ddim eisiau cymryd camau effeithiol pan mae argyfwng yn codi, ond sydd eisiau amharu ar brosesau sydd y tu hwnt i’w faes gorchwyl yn gamgymeriad dybryd. Y peth diwethaf mae’r Blaid ei angen ar yr adeg yma yn ei hanes ydi cadeirydd gwan – a chadeirydd sy’n ymffrostio yn ei wendid ei hun.