Monday, March 31, 2014

Trosglwyddiad iaith

Diolch unwaith eto i Hywel M Jones am anfon mwy o graffiau, mapiau ac ati sy'n ymwneud a chanfyddiadau Cyfrifiad 2011 ynglyn a'r iaith Gymraeg.  Trosglwyddiad iaith sydd yn cael y sylw y tro hwn - ac yn benodol - hynny yw y ganran o blant 3/4oec sy'n gallu siarad yr iaith.  Mae'r oed yma yn bwysig i'r graddau ei fod yn rhoi syniad i ni o faint o blant sy'n gallu siarad y Gymraeg cyn i'r system addysg ddechrau dylanwadu  i raddau arwyddocaol.  Ceir nifer o batrymau diddorol - ond un o'r rhai mwyaf arwyddocaol ydi gwendid cymharol Ynys Mon - yn arbennig felly mewn teuluoedd lla mai un oedolyn yn unig sy'n siarad y Gymraeg.

Un rheswm posibl am hyn ydi bod y system addysg y tu hwnt i Gaergybi yn cynhyrchu llawer o siaradwyr Cymraeg, ond bod llawer o'r siaradwyr hynny ddim yn dod o gefndiroedd Cymreig - cafwyd llawer o fewnfudo hanesyddol i Ynys Mon.  Mae'n debygol bod pobl felly yn llai tebygol o drosglwyddo'r iaith na phobl oedd yn siarad yr iaith adref pan oeddynt hwy yn blant.

Gellir cael mwy o fanylion yma.











Saturday, March 29, 2014

Pam bod pleidlais tros Lafur yn bleidlais tros dlodi

Dydw i ddim yn hollol siwr pam ei bod yn fater o syndod i un neu ddau bod Llafur wedi pleidleisio o blaid cap budd daliadau George Osborne.  Mae'n sicr yn wir bod Llafur yn hoffi rhoi'r argraff ei bod yn blaid sy'n edrych ar ol buddianau'r pobl dlotaf mewn cymdeithas, ond mewn gwirionedd ychydig iawn o lwyddiant maent wedi ei gael yn gwneud hynny.  I weld hynny does dim rhaid i ni edrych ymhellach na'r Mynegai Amddifadedd sy'n cael ei gyhoeddi gan y Cynulliad ei hun.  Mae'r mynegai yn mapio amddifadedd yng Nghymru yn hynod fanwl, gan rannu'r wlad i unedau cyfri o tua 1,500 o bobl a chyfrifo'r lefel o amddifadedd - neu dlodi - ym mhob uned.  Edrychir ar amrywiaeth o ddangosyddion - cyflogaeth, incwm, addysg, iechyd, diogelwch, mynediad i wasanaethau, tai a'r amgylchedd.  Ceir perthynas agos iawn rhwng amddifadedd a chynrychiolaeth Llafur.

O edrych ar y mynegai yn ei gyfanrwydd yr hyn sy'n drawiadol ydi'r berthynas hynod agos rhwng ardaloedd sy'n pleidleisio Llafur yn rheolaidd ac amddifadedd.  Er enghraifft mae 44.4% o ardaloedd cyfri Merthyr yn y 20% mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Mae'r ffigyrau hefyd yn uchel iawn ym Mlaenau Gwent (40.4%), Rhondda Cynon Taf (34.9%), Castell Nedd Port Talbot (30.8%), Penybont (28.2%), Caerdydd (26.6%), Caerffili (26.4%), ac Abertawe 24.5%).  Mae'r cwbl o'r ardaloedd hyn efo cynrychiolaeth Llafur ar lefel Cynulliad, ac mae'r cwbl yn gynghorau sy'n cael eu rheoli gan Lafur.  Mae pob ardal hefyd gyda chynrychiolaeth Llafur yn San Steffan ag eithrio Gogledd a Chanol Caerdydd.  Yng Ngorllewin a De Caerdydd - a gynrychiolir gan Lafur - mae mwyafrif llethol yr ardaloedd di freintiedig yng Nghaerdydd.

Nid oes gan y siroedd sydd gyda llai na 10% o'u hardaloedd cyfri yn yr 20% mwyaf difreintiedig (Gwynedd, Powys, Ceredigion, Penfro a Mynwy) ddim  un Aelod Cynulliad nag Aelod Seneddol a dydi Llafur ddim yn rheoli'r un o'r cynghorau.  Yn wir llond dwrn o gynghorwyr yn unig sydd ganddynt rhwng y pump awdurdod.

Mae Llafur wedi tra arglwyddiaethu tros rannau eang o Gymru ers 1918 neu 1922.  Roedd yr ardaloedd yma yn dlawd bryd hynny, ac maen nhw'n dlawd heddiw.  Mae naratif Llafur wedi honni bod pleidlais i Lafur yn bleidlais tros degwch cymdeithasol a thros ddileu tlodi o'r dechrau'n deg.  Ac eto y cymunedau oedd fwyaf di freintiedig yn 1918 ydi'r mwyaf di freintiedig heddiw.  Dydi bron i ganrif o bleidleisio i Lafur ddim wedi newid hynny.  Dydi'r 11 mlynedd pan roedd gan Llafur eu dwylo ar yr holl lefrau pwer yng Nghaerdydd ac yn Llundain ddim wedi newid dim.  Yn wir cynyddodd y bwlch rhwng y tlawd a'r cyfoethog yn ystod y cyfnod hwnnw. Dydi hyn ddim yn fater bach - a dweud y gwir does yna fawr o ddim byd pwysicach - mae tlodi wedi cael effaith hynod negyddol ar fywydau cenedlaethau o bobl yng Nghymru.

Ydi pethau'n debygol o fod yn wahanol yn y dyfodol?  Wrth gwrs nad ydyn nhw.  Dydi mynd i'r afael efo amddifadedd yng Nghymru ddim yn flaenoriaeth i Lafur, a 'doedd o erioed yn flaenoriaeth.  Mae datganiad Llafur nad ydynt am ddiwigio Barnett - er gwaetha'r ffaith eu bod yn cydnabod bod y fformiwla yn anheg a Chymru- yn dangos yn ddigon clir nad yw am fod yn flaenoriaeth yn y dyfodol chwaith.  Mae dweud un peth tra'n gwneud rhywbeth hollol wahanol wedi gweithio am ddegawdau i Lafur yng Nghymru.  Fydd yna ddim byd yn newid tra bod y patrwm hwnnw'n parhau.  Mae pleidlais tros Lafur yn bleidlais tros dlodi.

Gellir gweld y mynegai yn ei chyfanrwydd yma.  


Wednesday, March 26, 2014

Llafur Cymru yn ffraeo unwaith eto

Does yna ddim llawer dwi'n ei edmygu am Llafur Cymru - ond un eithriad i hynny ydi disgyblaeth mewnol y Blaid - 'dwi'n siwr bod ffraeo mewnol yn digwydd, a dwi'n siwr bod yna safbwyntiau gwrthwynebus yn cyd redeg oddi mewn i'r blaid,   ond anaml iawn mae hynny'n cyrraedd y cyhoedd.

Ond yn ystod yr wythnosau diwethaf mae yna arwyddion bod y pethau yn newid.  Dyna i chi'r ffrae hynod gyhoeddus rhwng Ann Clwyd a Carwyn Jones a phenderfyniad Llafur yn y Cynulliad heddiw nad ydyn nhw eisiau Ms Clwyd ar gyfyl y lle.  Ac wedyn dyna i ni'r coup d'etat oddi mewn i'r Blaid Lafur yng Nghaerdydd - sefyllfa hynod ddigri a arweiniodd at i un o wleidyddion mwyaf amhoblogaidd Cymru, yr anhygoel Russell Goodway, gerdded y planc.  A dyna i ni Owen Smith yn siarad ar ran Carwyn Jones wrth y Byd a'r Betws gan ddweud nad oes gan Lafur ddiddordeb mewn pwerau trethu.  A beth am Llafur Cymru a Llafur yr Alban yn cynhyrchu dau naratif hollol wahanol ynglyn a Barnett?  Ac erbyn meddwl mae yna gryn dipyn o swn wylofain a rhincian dannedd yn dod o gyfeiriad cynghorwyr Llafur yn sgil argymhellion y Comisiwn Williams.

Mae'n anodd osgoi'r argraff bod plaid mwyaf ddisgybledig Cymru yn gyflym ddatblygu i fod yn fwy anisgybledig a ffraegar na'r un plaid arall.  

Tuesday, March 25, 2014

Carwyn Jones yn colli cyfle i hybu'r iaith

Felly mae Carwyn Jones o'r farn mai busnes i'r cynghorau ydi asesu'r galw am addysg Gymraeg a gweithredu ar hynny.  Mewn geiriau eraill caiff y cynghorau hynny sydd wedi methu ag ymateb i'r galw am addysg Gymraeg yn hanesyddol - rhai Llafur yn amlach na pheidio - rwydd hynt i wneud hynny yn y dyfodol.  Mae hyn yn siomedig iawn.

Rwan beth am fod yn onest am funud bach?   Mae yna fwy o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn llawer o feysydd na sydd yna alw amdano fo - ffurflenni, llinellau ffon, peiriannau codi pres ac ati.  Un maes lle mae'r galw yn llawer, llawer uwch na'r ddarpariaeth ydi ym maes addysg Gymraeg.  Yn ol rhai amcangyfrifon byddai 50% o rieni Cymru yn dewis addysg Gymraeg petai addysg felly ar gael yn weddol hawl.  Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi methu ymateb i'r galw hwnnw.  Mae'n debyg mai llai na hanner y sawl sydd eisiau addysg Gymraeg i'w plant sy'n ei gael.

Does yna ddim un cam a fyddai'n gwneud mwy o les i'r iaith na gorfodi awdurdodau lleol i asesu'r galw am addysg Gymraeg ac ymateb yn llawn i hynny.  Mae yna oblygiadau hynod boenus i gynghorau lleol sydd methu ag ymateb i dargedau ailgylchu.  Does yna ddim oblygiadau poenus i awdurdodau sy'n methu asesu ac ymateb i'r galw am addysg Gymraeg.  Ceir ffordd hawdd o newid y sefyllfa - gofyn i ESTYN edrych ar pa mor effeithiol mae awdurdodau yn mynd i'r afael ag ymateb i'r galw am addysg Gymraeg pan maent yn arolygu, a rhoi awdurdodau sy'n methu a gwneud hyn mewn mesurau arbennig.  Gallaf addo y byddai hyn yn trawsnewid y sefyllfa tros nos.

Gallai Carwyn Jones wneud hyn yn ddigon hawdd - ond peidiwch a dal eich gwynt - beth bynnag am y geiriau gwyn fydd y Gymraeg byth yn ddigon o flaenoriaeth i lywodraeth Lafur yng Nghaerdydd i fynd ati i droi'r drol efo cynghorau Llafur ar hyd a lled y wlad.

Mater o flaenoriaethau ydi hyn yn y bon - a dydi'r Gymraeg ddim yn flaenoriaeth uchel i'r Blaid Lafur Gymreig.


Monday, March 24, 2014

Rhaglen Oliver Hides a rhagfarnau'r Bib

Mae dyn yn rhyw feddwl weithiau bod pwy bynnag sy'n penderfynu ar gynnwys rhaglenni'r Bib yng Nghymru braidd yn boncyrs.  Son ydw i wrth gwrs am raglen Oliver Hides ar Radio Wales y bore 'ma.

Roedd yna bobl yn fwy na pharod i ffonio i mewn i hysbysu'r Byd bod gwrando ar bobl yn siarad y Gymraeg yng Nghymru yn wir yn mynd ar eu nerfau.  A dyna ydi'r broblem efo'r math yma o gwestiwn wrth gwrs - mae'r rhan fwyaf o bobl yn weddol gall a goddefgar, ond dydyn nhw ddim am drafferthu ffonio'r rhaglen.  Ar y llaw arall mae lleiafrif o bobl rhagfarnllyd am neidio ar y cyfle - dydyn nhw ddim yn cael y cyfle i ddweud eu dweud wrth filoedd o bobl yn aml iawn.  Roedd y cyfle a roddwyd iddynt gan Radio Wales yn un rhy dda i'w goll.

Gellid bod wedi amrywio tipyn ar y cwestiwn - Do the Jews irritate you? Does people talking in Polish irritate you? DoPakistanis irritate   you?  Do gay people irritate you?  Do people on benifits irritate you?  Do women irritate.you?  Do unmarried mothers irritate you? Gallwch fod yn weddol sicr y byddech yn cael llu o bobl efo rhagfarnau yn ffonio i gael llwyfan i'w rhagfarnau.  Byddai'r un peth yn union yn digwydd petaech yn gofyn Do English people irritate you?  Mae gosod cwestiwn o'r fath yn gwahodd ymateb ymfflamychol, ac mae'r gwahoddiad yn siwr o gael ei dderbyn.  Dydi corff sydd fel rheol mor wleidyddol gywir ddim yn rhoi cyfle i nytars rhagfarnllyd yn aml iawn, ac mae cyfle prin yn ormod o demtasiwn i'r cyfryw nytars ei wrthsefyll.

Yr hyn sy'n ddadlennol wrth gwrs ydi nad ydi Radio Wales yn cael problem o unrhyw fath gwneud siaradwyr Cymraeg yn dargedau i sen pobl efo rhagfarnau yn eu herbyn, tra na fyddai hyd yn oed yn croesi meddwl golygyddion rhaglenni i wneud yr un peth i grwp arall oddi mewn i gymdeithas.  Mae gen i ofn bod y stori yn adrodd cyfrolau am ragfarnau gwaelodol y sawl a wnaeth y penderfyniad i wneud y rhaglen.


Gweinyddiaeth Llafur Caerdydd - ffuredau mewn sach

Tri chynghorydd Llafur yn ymddiswyddo o'r cyngor mewn ychydig fisoedd, arweinydd y grwp Llafur a'r cyngor yn camu o'r neilltu oherwydd 'rhesymau teuluol' a rwan mae'r brodyr yn cael coblyn o ffrae  ynglyn a phwy sy'n cael mynd ar y cabinet.  Mae'r llanast rhyfeddol yma'n digwydd mewn cyfnod pan mae toriadau enbyd yn gorfod cael ei wneud i'r cyngor sydd a'r boblogaeth uchaf yng Nghymru o ddigon.  Pan y dylai'r weinyddiaeth fod yn dangos arweinyddiaeth gadarn yn wyneb amgylchiadau anodd mae ei meddwl wedi ei ffocysu'n llwyr ar ymgecru mewnol.

Mae prif ddinas Cymru yn haeddu llawer gwell arweiniad na hyn.

Saturday, March 22, 2014

Ydi pethau'n symud i gyfeiriad yr ymgyrch 'Ia' yn yr Alban?

Mae'n ymddangos bod y gogwydd tuag at yr ymgyrch 'Ia' yn parhau yn yr Alban.  Un peth a allai wthio pethau ymhellach i gyfeiriad yr ymgyrch honno fyddai canfyddiad ymysg pobl dosbarth gweithiol bod y Toriaid yn debygol o ennill etholiad cyffredinol Prydain yn 2015.  Mae'r polau heno yn awgrymu bod y bwlch rhwng y Toriaid a Llafur yn cau.  Efallai mai symudiad dros dro yn sgil y gyllideb ydi hyn wrth gwrs - ond cyllideb 2012 oedd yn gyfrifol am roi'r oruwchafiaeth i Lafur - goruwchafiaeth sydd wedi parhau am ddwy flynedd.

Gallai'r ychydig fisoedd nesaf fod yn hynod ddiddorol.




Cadw pethau yn y teulu - Y Blaid Lafur

Hmm, felly mae Stephen Kinnock wedi ei ddewis i amddiffyn sedd saff Llafur yn Aberafon yn 2015. Cafodd Stephen ei fagu yn Ealing, Lloegr, ei addysg prifysgol yng Nghaergrawnt ac mae'n byw yn Nenmarc neu yn y Swistir - yn ddibynol ar pwy rydych yn ei gredu.  Hogyn lleol felly.

Ond mae Stephen wrth gwrs yn fab i gyn arweinydd ac Aelod Seneddol Bedwellty, Neil Kinnock, a'r cyn Aelod Ewrop, Glenys Kinnock.  Mae gan Lafur Cymru hanes o gadw pethau yn y teulu - meddyliwch am Rhodri a Julie Morgan, neu Tal Michael / Alun Michael / Mary Wimbury, Huw Lewis a Lynne Neagle, Naz a Gwion Malik.

Nid bod llosgach gwleidyddol yn unigryw i Lafur Cymru wrth gwrs, mae'n nodweddu'r blaid yn ehangach - Hilary / Tony Benn, Herbert Morrison / Peter Mandelson, Harriet Harman / Jack Dromey, Ed a David Miliband er enghraifft.

Mae yna nifer o blant gwleidyddion Llafur eraill sydd wrthi'n chwilio am seddi saff ar hyn o bryd - Euan Blair, Georgia Gould, Emily Benn, Andy Sawford a Joe Dromey dim ond i enwi 5. Tybed faint ohonyn nhw fydd mor ffodus a Stephen?

Friday, March 21, 2014

Ann Clwyd a'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru

Waeth i mi roi fy nghardiau ar y bwrdd cyn cychwyn.  'Dwi'n  ei chael braidd yn anodd i gydymdeimlo  efo Ann Clwyd.  Dwi'n gwybod ei bod yn weddw, dwi'n gwybod bod amgylchiadau marwolaeth ei gwr yn rhai trist, dwi'n gwybod ei bod wedi teimlo'r amgylchiadau hynny i'r byw a'i bod am sicrhau bod pethau'n well i. bobl eraill.  Ond i mi mae yna rhywbeth anymunol a di chwaeth yn y cyferbyniad rhwng ei diddordeb yn ei theimladau ei hun a'i  hanes fel propogandydd tros ryfeloedd tramor - rhyfeloedd sydd wedi arwain at ddioddefaint ar raddfa Beiblaidd i ddegau o filoedd o bobl eraill.

Ac yn anarferol dwi'n cael fy hun yn rhyw hanner cydymdeimlo efo Carwyn Jones.  Roedd ei ymysodiad ar Ann Clwyd yn y Cynulliad yn fwy chwyrn nag oedd yn ddoeth o'i safbwynt o, ond mae'n hawdd deall ei rwystredigaeth.  Mae'r Toriaid yn Llundain yn achub ar pob cyfle i ymosod ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru - nid am eu bod efo fawr o ddiddordeb yn y pwnc ond fel rhan o'u strategaeth yn i danseilio Llafur yn etholiad cyffredinol 2015.  Dydi o ddim botwm o ots ganddyn nhw os ydi miloedd o weithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn cael eu pardduo fel rhan o'r strategaeth honno.  Dydi o ddim mymryn o ots ganddyn nhw chwaith os ydynt yn tanseilio moral gweithwyr iechyd yng Nghymru yn llwyr yn y broses - mater bach ydi hynny o gymharu a chadw David Cameron yn 10 Downing Street.  Mae ymddygiad Ann Clwyd yn atgyfnerthu'r strategaeth honno, a mae'n rhaid bod Andrew RT Davies wrth ei fodd cael ei dyfynu tros lawr y Cynulliad Cenedlaethol.

Rwan, dydi'r sefyllfa ddim yn union yr un peth a'r sefyllfa Dafydd Elis Thomas.  Roedd Dafydd yn tanseilio ei Blaid oherwydd ei fod o'r farn ei bod o'r pwysigrwydd mwyaf ei fod o'n cael doethinebu yn ddi dramgwydd.  Mae Ann Clwyd yn tanseilio ei phlaid (ac yn tanseilio gweithwyr iechyd) am ei bod wedi ei hargyhoeddi bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn wirioneddol wallus.  Mae o leiaf rhan o'r canfyddiad hwnnw wedi ei seilio ar brofiad unigol personol.  Mae'r canfyddiad wedi ei atgyfnerthu gan dystiolaeth pobl sydd - am rhyw reswm neu'i gilydd - ddim eisiau datgelu eu henwau na manylion eu cwynion.  Petai yr hyn mae'n ei ddweud yn wir, mi fyddai tanseilio ei phlaid yn gwbl ddealladwy.  Ond - fel mae Carwyn Jones yn ei ddweud - dydi hi ddim yn cyflwyno unrhyw dystiolaeth o werth i ddangos bod gwirionedd yn ei honiadau.  Dydi hi ddim chwaith yn fodlon datgelu manylion yr ymchwiliad i amgylchiadau marwolaeth ei gwr - a hynny ar sail preifatrwydd - a hynny er ei bod wedi bod yn fodlon gwneud defnydd o wybodaeth ddethol, cyffredinol ac emosiynol o'r achos er mwyn ymosod ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Rwan, petai Ann Clwyd yn cymryd cam yn ol ac yn ceisio ymateb i'r sefyllfa mewn ffordd llai emosiynol byddai'n gweld nad oedd ei methiant yn gynharach heno i ddweud nad oedd Ysbyty'r Heath yn cymharu efo Mid Staffs yn briodol, a bod cymhariaeth o'r fath yn pardduo gweithwyr iechyd yn yr Heath.  Byddai hefyd yn gweld bod rhaid iddi ddarparu manylion os ydi hi am i gwynion gael eu cymryd o ddifri.  Byddai yn gweld nad ydi hi'n rhesymegol casglu bod amgylchiadau marwolaeth trist ei gwr yn golygu bod y gwasanaeth yn ei gyfanrwydd yn bwdr.  Ac yn wir byddai'n gweld ei bod yn cael ei defnyddio gan elynion y Gwasanaeth Iechyd, a'i phlaid ei hun i yrru agenda wleidyddol.

Ond dyna ydi problem Ann Clwyd, dydi hi ddim yn cymryd cam yn ol ac yn edrych ar bethau yn oeraidd.  Ymateb emosiynol i sefyllfa'r Cwrdiaid oedd yn gyfrifol am ei throi'n bropogandydd rhyfel i George  Bush yn y gorffennol ac ymateb emosiynol i drychineb bersonol sydd wedi ei throi yn bropogandydd i agenda Doriaidd heddiw.  Mae hefyd yn amlwg yn afresymegol i ddadlau na ddylai'r Cynulliad gael mwy o bwerau yn sgil ei honiadau, tra'n ddigon bodlon i bwerau tros iechyd aros yn San Steffan er gwaethaf sgandalau llawer, llawer gwaeth.

Cyn gorffen hoffwn bwysleisio nad ydw i'n dadlau na ddylid dal y weinyddiaeth Llafur yng Nghaerdydd yn stebol am fethianau yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.  Lle ceir tystiolaeth ddibenadwy dylid gwneud hynny ar pob cyfri.  Ond yr hyn sydd ddim yn briodol ydi ymosod mewn modd hysteraidd ar y Gwasanaeth yn ei gyfanrwydd ar sail cwynion unigol - yn arbennig felly cwynion sydd yn rhai cyffredinol yn absenoldeb unrhyw fanylion penodol.  Mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a'i gweithwyr yn rhy bwysig i gael ei drin fel pen droed gwleidyddol.

Thursday, March 20, 2014

Y diweddaraf gan Gwilym Owen

Ei ragfarn yn erbyn Cyngor Gwynedd sy'n cael sylw yng ngholofn Gwilym Owen heddiw.  Bydd y sawl sy'n darllen y golofn gwynfanus yn rheolaidd yn cofio colofn ryfeddol o unochrog Gwilym ychydig fisoedd yn ol pan aeth ati i drafod adroddiad ESTYN ar y Gwasanaeth Addysg yng Ngwynedd trwy restru pob beirniadaeth yn yr adroddiad tra'n anwybyddu pob canmoliaeth.

Cysylltu tri datblygiad sydd mewn gwirionedd yn gwbl ddi gyswllt er mwyn creu camargraff o argyfwng mae Gwil y tro hwn - ymddeoliad prif weithredwr y cyngor, Harri Thomas, penderfyniad y deilydd portffolio addysg, Sian Gwenllian i sefyll i lawr er mwyn canolbwyntio ar etholiad y Cynulliad yn 2016 a'r drafodaeth ynglyn chynllunio a thai yng Ngwynedd ydi'r trydydd.  Mi gymerwn y tri phwynt ar wahan,

Mae Harri Thomas wedi cyrraedd oed ymddeol.  Mae pobl yn ymddeol pan maent yn cael eu hunain yn gymwys i wneud hynny.  Mae pobl yn ymddeol pob dydd.  Gwneir cryn dipyn ganddo o gyflog prif weithredwr Gwynedd gan Gwil - £108,000.  Rwan mae'r cyflog yn uchel, ond yr hyn nad ydi Gwil yn trafferthu i'w ddweud ydi mai dyma'r ail gyflog isaf a delir i brif weithredwr cyngor yng Nghymru, ac mae ymysg yr isaf ym Mhrydain.  Mae cyflog prif weithredwr y cyngor lleiaf yng Nghymru, Blaenau Gwent fymryn bach yn is.  Mae wedi cynhyrfu hefyd gan gymal yn yr hysbyseb i gael olynydd i Harri Thomas ' - yn arwain y gweithlu drwy gyfnod o newid sylweddol'.  'Sylw llawn dirgelwch' meddai Gwil.  Duw a wyr pam mae'n dod o hyd i ddirgelwch yma - mae pob cyngor yn y DU yn mynd trwy gyfnod o newid sylweddol sydd wedi eu gorfodi ar gynghorau wedi i Lafur yrru'r economi i'r diawl ac wedi i'r Toriaid gymryd mantais o'r sefyllfa i dorri gwariant cyhoeddus i'r bon.

Mae'n mynd ati wedyn i gwyno bod Sian Gwenllian yn rhoi'r gorau i'r portffolio addysg.  Mae'n ymddangos ei fod o'r farn y dylai fod wedi aros i fynd i'r afael efo'r cyni ariannol.  Mae'n anodd braidd gweld yn union beth o fusnes Gwil ydi penderfyniad Sian Gwenllian.  Mi fydd yna rhywun arall yn cymryd ei lle ar y cabinet, ac mae delio efo'r argyfwng cyllidol yn gyfrifoldeb ar pob un o gynghorwyr Gwynedd - Sian Gwenllian yn gynwysiedig.

Mae yna dri o gynghorwyr Llafur Caerdydd wedi ymddiswyddo tros y misoedd diwethaf ac mae'r arweinydd wedi cael ei newid.  Am rhyw reswm 'dydi Gwil ddim yn gweld hynny yn argyfwng.  Mae hefyd yn gwbl dawel am y digwyddiadau rhyfeddol yn Sir Gaerfyrddin lle mae'r prif weithredwr (uchel iawn ei gyflog) wedi ei atal rhag mynd i'w waith tra bod heddlu o Loegr yn edrych i mewn i benderfyniadau ynglyn a'i gyflog a wnaed gan gabinet y cyngor.  Ond wedyn cynghorau sy'n cael eu harwain gan Lafur ydi rhai Caerfyrddin a Chaerdydd wrth gwrs.

Ac yn drydydd mae'n mynd trwy'i bethau am yr anghydfod ynglyn a hawl cynllunio a chodi tai (dydi Cyngor Gwynedd ddim yn bwriadu codi tai, fel mae Gwil yn honni wrth gwrs, does gan gynghorau ddim hawl i wneud hynny.  Mae'r ddadl yn ymwneud a hawl cynllunio).  Rwan mae yna ddadl cwbl briodol i'w chael ynglyn a'r cwestiwn o beth yn union ydi'r galw lleol yng Ngwynedd. Ond does a wnelo'r ddadl honno ddim oll  efo ymddeoliad Harri Thomas na phenderfyniad Sian Gwenllian i adael cabinet Cyngor Gwynedd.

Rydym wedi nodi eisoes bod gan Gwil ddiddordeb mewn addysg, ond diddordeb dethol iawn.  Mae'n ymddiddori mewn unrhyw beth negyddol y gall ddod o hyd iddo mewn addysg mewn un sir yng Nghymru.  Yn yr un ffordd mae ganddo ddiddordeb dethol iawn mewn llywodraeth leol - unrhyw beth negyddol y gall ddod o hyd iddo am un sir a hynny'n unig.

Sunday, March 16, 2014

Pan nad yw dweud yr hyn sy'n gwbl amlwg yn dderbyniol

Mae'n ddiddorol ac yn ddadlennol bod Nigel Farage yn cael disgrifio'r Swyddfa Gartref fel sefydliad amhrydeinig, heb gael ei hun yn destun sterics cyfryngol.  Yn yr un modd gall Nick Clegg ddefnyddio term tebyg am UKIP, ac mae George Osborne yn cael galw Llafur yn wrth Brydeinig heb achosi unrhyw wylofain na rhincian dannedd.

Ond os oes yna gyfeiriad gan y Blaid mewn datganiad i'r wasg at y ffaith cwbl ddi ymwad bod UKIP yn anghymreig yna mae'r  cyfryw blaid anghymreig  yn honni bod hynny'n golygu bod eu holl gefnogwyr ac yn wir cefnogwyr pob plaid unoliaethol yn cael eu disgrifio fel pobl anghymreig, mae Dafydd Ellis Thomas yn dod i'r casgliad bod rhaid iddo danseilio strategaeth etholiadol ei blaid ac mae Vaughan Roderick yn rhoi bron y cwbl o'i gyfweliad efo Dafydd Trystan ar Sunday Supplement i holi am y pwnc, ac ati.

Rwan mae pethau yn sylfaenol syml.  Mae UKIP yn anghymreig - 'dydi ei ideoleg ddim wedi ei gwreiddio yn y byd syniadaethol Cymreig, does ganddi ddim strwythur Cymreig fel sydd gan y pleidiau eraill, does ganddi ddim diddordeb yng Nghymru fel endid ynddi'i hun, byddai gweithredu ei pholisiau creiddiol yn hynod niweidiol i Gymru.

Ond dydi hynny ddim yn gyfystyr a dweud bod ei chefnogwyr yn anghymreig. Dwi'n meddwl mai yng  nghyfri Arfon yn 2010 oeddwn i yn gwrando ar areithiau'r ymgeiswyr yn dilyn datgan y canlyniad pan sylwais mai un ymgeisydd yn unig oedd heb drafferthu i ddefnyddio cymaint a gair o Saesneg.  Elwyn Williams, ymgeisydd UKIP oedd hwnnw.  Does yna ddim byd anghymreig am Elwyn, ond dydi hynny ddim yn golygu nad yw ei blaid yn anghymreig.

Yn yr un modd gallaf feddwl am bobl sydd wedi pleidleisio i'r Blaid na fyddai byth yn defnyddio'r ansoddair 'Cymreig' amdanyn nhw eu hunain.  Mae yna bobl yn fotio i bleidiau am resymau tactegol -  am nad ydyn nhw yn hoffi peilons neu ryfel Irac, am eu bod yn gwrthwynebu Ewrop, am eu bod nhw'n hoffi'r ymgeisydd, am bod eu gwraig / gwr yn dweud wrthynt lle i fotio, am bod yr ymgeisydd wedi eu helpu nhw efo rhyw broblem neu'i gilydd, am eu bod nhw'n hoffi'r logo ac am gant a mil o resymau eraill.

Mae'n gwbl briodol dod i'r casgliad bod UKIP yn anghymreig.  Dydi hi ddim yn briodol dod i gasgliad bod cefnogwyr y blaid adweithiol i gyd yn anghymreig - ond does 'na neb yn gwneud hynny wrth gwrs.  Mae'r ffaith bod defnyddio'r gair yn esgor ar y fath sterics yn dweud llawer am y cyfryngau Cymreig, ac am gymhlethdod israddoldeb llawer o Gymry.

Saturday, March 15, 2014

Ac i'r sawl sydd ddim yn cymryd bygythiad UKIP yn etholiadau Ewrop o ddifri _ _ _

Dyma mae pol ComRes a ryddhawyd heno yn ei awgrymu (ar lefel Prydeinig).

Petai'r canlyniad yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru mae'n debyg mai Llafur fyddai'n cael y sedd gyntaf, UKIP fyddai'n cael yr ail, Y Blaid fyddai'n cael y drydydd a Llafur fyddai'n cael y bedwerydd gan adael y Toriaid heb sedd.

Friday, March 14, 2014

Pam bod Leanne yn gywir i ddiswyddo Dafydd Elis Thomas

Mae'n rhyfedd fel mae perhau'n dod at ei gilydd mewn ffyrdd anisgwyl weithiau - ac mae marwolaeth Tony Benn yn digwydd ddiwrnod wedi diswyddo Dafydd Ellis Thomas fel llefaydd mainc flaen a chadeirydd pwyllgor yn y Cynulliad yn esiampl o hynny.

Mae gan ymddygiad Tony Benn  yn y gorffennol gweddol bell bellach gysylltiad agos a rhai o egwyddorion ymgyrchu gwleidyddol cyfoes.  Arweiniodd arfer Benn o ganolbwyntio ei ynni gwleidyddol ar rwygiadau mewnol oddi mewn i'r Blaid Lafur at hollti'r Chwith Prydeinig yn ddau ac at ddeunaw mlynedd o lywodraeth Doriaidd.  Ni chollodd y Dde ei gafael ar awenau'r wladwriaeth Brydeinig nes iddynt hwythau ddechrau cecru yn gyhoeddus - ar bwnc Ewrop yn bennaf.

Ar un ystyr Benn oedd tad y 'Llafur' Newydd a ymddangosodd yng nghanol y nawdegau.  Beth bynnag am wendidau Llafur Newydd - ac roedd yna ddigon, roeddynt wedi dysgu gwersi o'r gorffennol.  Mae rhai o nodweddion eu hymgyrch 1997 yn parhau i fod yn fodel o sut i wneud rhai pethau wrth ymgyrchu - cyflwyno nifer fach o negeseuon atyniadol ond syml, sicrhau bod pawb yn cadw at y naratif honno, cysylltu pob dim efo'r naratif.

Mae yna fwy i ymgyrchu diweddar wrth gwrs - ond mae'r egwyddorion uchod yn dal yn hanfodol.  Dylid gweld araith Leanne i'r gynhadledd yn y cyd destun hwnnw.  Etholiad gyda chyfradd isel yn pleidleisio ydi etholiad Ewrop.  Mae yna fygythiad i sedd y Blaid (mae hynny hefyd yn wir am sedd UKIP a'r Toriaid).  Os bydd pleidlais graidd y Blaid yn dod allan i bleidleisio bydd y sedd yn cael ei chadw, os na fydd hynny'n digwydd bydd yn cael ei cholli.  Yn y cyd destun yna mae tynnu sylw at oblygiadau cynrychiolaeth UKIP yn absenoldeb cynrychiolaeth gan y Blaid yn beth deallus i'w wneud.  I wneud hynny'n effeithiol mae'n rhaid tynnu sylw at y gwahaniaethau rhwng gwerthoedd Cymreig y Blaid a gwerthoedd  Prydeinig UKIP.  Y neges syml ydi 'Ni neu'r Dde Brydeinig'.

Rwan dwi ddim yn amau bod dadl ffug academaidd - neu ddadl ty tafarn efallai - i'w chael ynglyn a'r cwestiwn os ydi'r traddodiad adweithiol Brydeinig mor 'Gymreig' ag ydi'r traddodiadau rhyddfrydig, cenedlaetholgar neu undebol, ond o safbwynt etholiadol wleidyddol mae gor gymhlethdod siwdaidd o'r math yma yn waeth na diwerth.

Meddyliwch am funud bod newyddiadurwr yn ol yn 1997 yn gofyn i rhyw hen gojar ffuantus oedd wedi bod ar fainc flaen Llafur ers degawdau 'What did you think of Tony Blair's conference speech emphasising the need for change and emphasising that things can only get better under Labour?" a bod hwnnw 'n ateb 'I thought it was very superficial, 'change' & 'better' are relative terms you know.  Who are we to decide on the central locus that 'change' and 'better' are relative to? who are we to yada, yada, yada, yada _ _ _'. Byddai'n amlwg yn tanseilio strategaeth oedd wedi ei llunio'n gywrain er mwyn dangos ei hun, neu awgrymu ei fod o'n fwy deallus na'r arweinyddiaeth, neu am ei fod yn meddwl bod ei hawl i gael mynegi cymhlethdod ei dirwedd mewnol yn bwysicach na lles ei blaid neu beth bynnag. Byddai ei ddyddiau mainc flaen ar ben cyn iddo orffen ar ei rwdlan wrth gwrs.

Mae cynhadledd wleidyddol - yn enwedig un sydd yn sail i ymgyrch etholiadol yn cymryd llawer o waith paratoi a threfnu - gan wleidyddion y Blaid, gan yr adain wirfoddol, ac yn enwedig gan weithwyr cyflogedig y Blaid.  Mae'r Blaid yn hynod ffodus bod ganddi dim bach, ifanc ond hynod frwdfrydig o weithwyr cyflogedig.  Llwyddodd sylwadau Dafydd i daflu ychydig o gysgod  tros beth ddylai fod wedi bod yn ymarferiad effeithiol a chysact i lawnsio ymgyrch Ewrop trwy gyflwyno naratif negyddol i'r cyfryngau ar blat.  Doedd y sawl a wariodd cymaint o ymdrech a brwdfrydedd yn rhoi'r gynhadledd at ei gilydd ddim yn haeddu hynny.

Dwi ddim yn awgrymu bod y Blaid yn efelychu Llafur Blair yn y rhan fwyaf o bethau, ond mae'r egwyddorion y dylid sicrhau naratif wleidyddol syml sydd wedi ei theilwrio ar gyfer etholiadau penodol, ac y dylai holl ladmeryddion plaid drosglwyddo'r neges honno ac osgoi anghytuno a'u gilydd yn gyhoeddus - ar boen eu bywydau - yn rhai hanfodol i lwyddiant etholiadol.  Llwyddodd Dafydd i feirniadu'r naratif, i anghytuno efo gweddill ei blaid ac i achosi ffrae gyhoeddus mewn ychydig eiriau.

Mae yna ddigon o le i anghytuno oddi mewn i Blaid Cymru yn fewnol - mwy felly nag a geir yn y pleidiau eraill.  Mae gan Dafydd fwy o gyfle na'r rhan fwyaf o aelodau cyffredin i fynegi ei farn yn fewnol.  Yn anffodus mae'n well ganddo fynegi anghytundeb trwy gyfrwng y cyfryngau torfol - gan beidio a phoeni llawer os ydi hynny'n niweidio'r blaid yn etholiadol, nag am y siom mae'n achosi i'w gyd bleidwyr ar pob lefel.

Wednesday, March 12, 2014

Prynu cath mewn sach

Mae'r stori am ddiarddel y Cynghorydd Gethin James o gabinet Cyngor Ceredigion oherwydd ei fod yn aelod o UKIP, er cael ei ethol yn gynghorydd annibynnol, yn wers fach ddiddorol am y traddodiad annibynnol.  Er bod y sawl sy'n defnyddio'r label yma yn defnyddio pob math o ddadleuon ynglyn a'u gwrthrychedd gwleidyddol eu hunain tra'n wynebu etholiad - y gwir ydi bod llawer o'r creaduriaid hyn yn yn bobl wleidyddol iawn.  Maent yn cuddio natur eu gwleidyddiaeth oherwydd eu bod yn gwybod y byddai datgeliad  yn difetha eu gobeithion o gael eu hethol.

Byddai'n beth anoeth iawn i berson sydd eisiau  cath i'w phrynu mewn sach heb gael golwg arni'n gyntaf.  Ond mae pobl yn rheolaidd yn bwrw eu pleidlais i berson nad ydynt yn siwr o'i wleidyddiaeth a sydd heb ei ffrwyno gan y ddisgybliaeth sydd ynghlwm a bod yn aelod o blaid wleidyddol.

Prynu cath mewn sach  ydi pleidleisio i ymgeisydd annibynnol.  

Sunday, March 09, 2014

Y Toriaid a gwleidyddiaeth leol yng Ngwynedd

Mi fydda i'n tueddu i wenu pan mae gwleidyddion Toriaidd yn mynegi barn am wleidyddiaeth Gwynedd - fel y gwna Aelod Seneddol Toriaidd Aberconwy, Guto Bebb, yma.

Y ffaith amdani ydi nad yw'n bosibl cynnal dadl ystyrlon efo"r Toriaid am wleidyddiaeth leol yng Ngwynedd oherwydd nad oes ganddyn nhw'r diddordeb lleiaf yn y pwnc -  ag eithrio i bwrpas ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol pan mae etholiad mae'r Toriaid efo diddordeb ynddi ar y gorwel.  Yn wir cyn lleied ydi diddordeb y Toriaid yng ngwleidyddiaeth y sir fel nad ydynt prin byth hyd yn oed yn trafferthu cyflwyno unrhyw  ymgeiswyr ger bron yr etholwyr.  Dydi'r blaid erioed wedi trafferthu i  gyflwyno ymgeisydd ym mwyafrir llethol wardiau'r sir.  Maen nhw'n gadael yr hen fusnes 'amherthnasol ' yna o ymhel a gwleidyddiaeth leol i'r brodorion fel petai.

Mi fyddai rhywun yn rhyw ddeall petaent yn ddi gefnogaeth yn y sir - ond dydi hynny ddim yn wir - cawsant bron i 11,000 o bleidleisiau rhwng Meirion Dwyfor ac Arfon yn 2010.  Y sefyllfa ydi nad oes ganddyn nhw'r mymryn lleiaf o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth leol yma.  Pwy goblyn fyddai'n trafferthu gwrando ar farn plaid ynglyn a materion nad oes ganddi'r mymryn lleiaf o ddiddordeb ynddynt?

Friday, March 07, 2014

Mwy o ganlyniadau gwych i'r Lib Dems yn Lloegr


Canlyniadau wedi eu dwyn o politicalbetting.com 

Wye on Ashford (Conservative Defence)
Result: Ashford Independent 323 (43% +11%), Conservative 240 (32% -7%), UKIP 97 (13% +3%), Green 55 (7%), Labour 22 (3% -8%), Liberal Democrat 13 (2% -7%)
Ashford Independent GAIN from Conservative with a majority of 83 (11%) on a swing of 9% from Conservative to Ashford Independent

Ramsbottom on Bury (Labour Defence)
Result: Conservative 1,398 (47% unchanged on 2011), Labour 1,033 (35% -12% on 2011), UKIP 351 (12%), Green 157 (5%), Liberal Democrat 38 (1% -5% on 2011)
Conservative GAIN from Labour with a majority of 365 (12%) on a swing of 6% from Labour to Conservative
Turnout: 33%

Burnham on King’s Lynn and West Norfolk (Conservative Defence)
Result: Conservative 374 (78% +5%), UKIP 103 (22%)
Conservative HOLD with a majority of 271 (56%) on a swing of 9% from Conservative to UKIP
Turnout: 34%

Clifton North on Nottingham (Labour Defence)
Result: Labour 1,179 (41%), Conservative 1,025 (36%), UKIP 536 (19%), Elvis 67 (2%), Liberal Democrat 56 (2%)
Labour HOLD with a majority of 154 (5%)

Ethandune on Wiltshire (Conservative Defence)
Result: Conservative 480 (36% -25%), Liberal Democrats 372 (28% +3%), UKIP 236 (17%), Independent 192 (14%), Labour 69 (5% -10%)
Conservative HOLD with a majority of 108 (8%) on a swing of 14% from Conservative to Liberal Democrat
Turnout: 37%

Wednesday, March 05, 2014

Proffeil galwedigaethol y Gymru Gymraeg

Diolch unwaith eth i Hywel M Jones am y lincs i'w dablau am ddosbarth cymdeithasol a phroffeil cyflogaeth Cymry Cymraeg.  Dwi wedi cymryd lluniau o'r graffiau sy'n ymwneud a galwedigaeth yn y siroedd hynny lle ceir canrannau uchel o Gymry Cymraeg.

Unwaith eto cawn nad ydi'r ystadegau yn cefnogi'r consensws cyfryngol Cymreig masocistaidd - sef bod yr iaith yn rhywbeth mwyfwy ddosbarth canol.  Y patrwm amlwg ydi tan gynrychiolaeth sylweddol o Gymry Cymraeg mewn swyddi proffesiynol uwch, tan gynrychiolaeth llai (oni bai am Ynys Mon) ymysg swyddi proffesiynol eraill a than gynrychiolaeth mewn swyddi elfennol (unwaith eto gydag eithriad Ynys Mon).

Ceir gor gynrychiolaeth sylweddol ymysg Cymry Cymraeg mewn swyddi sy'n ymwneud a chrefftau medrus, gweinyddiaeth a darparu gwasanaethau.

Mae'r tablau dosbarth cymdeithasol yn dangos patrwm tebyg.






Tuesday, March 04, 2014

Y Bib yn dechrau poeni am fewnfudo

Mae'n ddiddorol bod y BBC wedi cynnal stori trwy'r dydd ar y nifer cynyddol o bobl na anwyd yn y DU sydd bellach yn byw yng Nghymru.  Gogwydd y Bib ar y stori ydi bod y cynnydd canrannol wedi bod yn uchel.  Mae hynny yn gwbl wir wrth gwrs - ond y rheswm ydi bod y nifer cychwynol yn hynod o isel.  Yr hyn sydd ddim yn cael cymaint o sylw ydi bod y niferoedd a'r ganran bresenol yn parhau i fod yn isel wrth safonau gwledydd tebyg.  Y canrannau ar gyfer y DU ydi:

Lloegr - 13.8%
Yr Alban - 7%
Gogledd Iwerddon - 6.6%
Cymru 5.5%

Neu o edrych yn ehangach:

UDA - 14.3%
Yr Almaen - 11.9%
Ffrainc - 11.6%
Canada - 20.7%
Rwsia  - 7.7%
Awstralia - 27.7%
Swisdir - 28.9%
Awstria - 15.7%
Norwy - 13.8%

Lle mae canrannau Cymru yn anarferol o uchel fodd bynnag ydi yng nghyd destun y bobl a anwyd yn Lloegr ond sy'n byw yng Nghymru - bron i 21%.  Tua 9% ydi'r ffigwr ar gyfer yr Alban a 3.5% ydi'r ffigwr ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Rwan, dydw i ddim yn gwneud sylw y naill ffordd na'r llall ynglyn a mewnfudo o Loegr, nag o'r tu hwnt i'r DU.  Ond mae'n ddiddorol bod y Bib yn ystyried ei bod yn werth gwneud stori o gwmpas set o ystadegau sy'n dangos math o fewnlifiad sydd wrth safonau rhyngwladol yn isel iawn, tra'n anwybyddu set arall o ddata sy'n awgrymu bod math arall o fewnlifiad - mewnlifiad mewnol yn y DU - yn cael effaith anarferol o sylweddol yng  Nghymru.  Ychydig iawn o sylw mae'r math yma o symud poblogaeth yn ei gael gan y Bib - a'r rhan fwyaf o'r cyfryngau Cymreig eraill.

Mae'r rheswm pam yn ddiddorol.  Hyd yn ddiweddar doedd hi ddim yn barchus i drafod mewnfudo o unrhyw fath.  Mae'r cyfryngau print Adain Dde yn Lloegr wedi newid hynny. Mae mewnfudo o'r tu allan i'r DU yn fater prif lif gwleidyddiaeth Prydeinig bellach.  Felly mae BBC Cymru yn gwbl hapus yn ymdrin a hynny - er ei fod yn fater bychan yng Nghymru mewn gwirionedd.  Ond dydi'r Bib ddim yn gyfforddus yn ymdrin a symudiadau poblogaeth o fewn y DU ac effaith hynny ar Gymru oherwydd nad yw'r agwedd yna ar fewnfudo wedi cael ei barchuso gan bapurau tabloid Llundain. 

Tystiolaeth os bu erioed o'r feddylfryd Brydeinig sy'n rhan canolog o wead y Bib yng Nghymru.


Sunday, March 02, 2014

William o blaid heddwch - am unwaith

Mae'n dda deall bod William Hague yn erbyn rhyfel yn yr Iwcrain.

Yr unig broblem wrth gwrs ydi nad oes yna fawr neb am gymryd ei brotestiadau gormod o ddifri.  Mae'n chwyrn yn erbyn gweld gwledydd ag eithrio'r DU a'r UDA yn mynd i ryfela i bwrpas amddiffyn eu buddiannau, ond mae'n ei chael yn rhyfeddol hawdd i gefnogi ymyraeth milwrol gan ei wlad ei hun a'r UDA - hyd yn oed pan mae'n anodd iawn gweld bod yr hyn sydd wedi arwain at yr ymyraeth yn unrhyw beth o gwbl i'w wneud efo'r ddwy wlad.

Roedd o blaid mynd i ryfela yn Syria a Lybia, Afghanistan ac Irac ddwywaith.  A dweud y gwir fedra i ddim meddwl am unrhyw un o ryfeloedd diweddar y DU mae wedi bod yn eu herbyn - er nad oedd y rhan fwyaf o'r rheiny yn ddim oll i'w gwneud efo amddiffyn buddiannau uniongyrchol y DU.

A bod yn deg efo William mae'n edrych ar y Byd a'i bethau o gyfeiriad diwylliant gwleidyddol sydd wedi arwain at  ymosodau ar 90% o'r gwledydd sydd ar gael i ymosod arnynt.  Mae'n debyg nad yw'n gweld dim yn chwithig mewn ceryddu gwledydd eraill am ryfela tra'n fodlon neidio ar pob cyfle i ryfela ddaw ei ffordd ei hun.

Mae'n  weddol amlwg nad ydi ei air am gario llawer o bwysau efo neb yn y cyswllt yma.  

Saturday, March 01, 2014

Leighton yn anwybyddu'r Kremlin ar y Tywi tra'n myllio am y Kremlin ar y Cleddau

Mae'n debyg y dylid llongyfarch Leighton Andrews ar y gamp o roi ei ddwy erthygl ddiwethaf yn Golwg bron yn llwyr i gamweinyddiad Cyngor Penfro parthed rhoi taliadau anghyfreithlon i uwch swyddog,  tra'n llwyddo i beidio dweud yr un gair am Sir Gaerfyrddin sydd o dan y chwyddwydr am yr un peth.

Mae'n wir i Leighton ffocysu yn llwyr ar un agwedd gweddol gul ar y sgandal ym Mhenfro - ymgais i ddefnyddio Cwnsler y Frenhines a gyflogir gan y Cyngor i gau cegau cynghorwyr mewn cyfarfod llawn o'r cyngor i drafod y taliadau.  Mae'r sgandal yn llawer ehangach wrth gwrs - ac mae'n ehangach yn Sir Gaerfyrddin nag yw yn Sir Benfro.  Mae'r cyngor yno wedi bod yn defnyddio arian cyhoeddus i gefnogi achos llys gan y prif weithredwr yn erbyn blogiwr sydd wedi bod yn feirniadol o'r cyngor a'i brif weithredwr.  Ni wnaed defnydd o Gwnsler y Frenhines i gau cegau cynghorwyr, ond mae'r cyngor wedi bod yn priodoli beirniadaeth o'i weithgareddau anghyfreithlon i gymhelliad gwleidyddol y sawl sy'n beirniadu.

Roedd ymddangosiad Cwnsler y Frenhines o Lundain ( ar gost y cyngor) yng nghyfarfod llawn Cyngor Caerfyrddin echdoe i bwrpas ymosod ar adroddiad yr Archwiliwr Cyffredinol yn rhy hwyr i Leighton wneud sylw arno yn Golwg wrth gwrs - ond mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf na fydd yna son am Sir Gaerfyrddin  yn ei erthygl yr wythnos nesaf chwaith.  Mae Cyngor Caerfyrddin yn cael ei arwain gan y Blaid Lafur wrth gwrs tra bod Cyngor Penfro yn cael ei arwain gan gynghorwyr annibynnol.

Rwan, dydi'r naill gyngor na'r llall efo record arbennig o dda, ac mae lle i ddadlau bod pethau yn gyffredinol hyd yn oed yn waeth yn Sir Benfro nag ydynt yn Sir Gaerfyrddin.  Ond mae'n debyg bod hanes Sir Gaerfyrddin o ran diffyg  trylowyder yn waeth nag yw yn unman arall yng Nghymru.  Os ydych eisiau darllen am hwnnw does yna'r unman yn well i fynd iddo na'r blog Cneifiwr