Tuesday, August 31, 2010

Ystadegau'r mis

Diolch _ _

_ _ _ i'r rhai yn eich plith oedd ddigon caredig i bleidleisio i'r blog yma yng nghystadleuaeth totalpolitics. Roeddwn ddigon ffodus i ennill yn y categori Cymreig eleni - er bod rhai o'r blogiau sydd ychydig yn is i lawr y rhestr yn well pethau na hwn mewn gwirionedd.

Roedd yn dda nodi bod dau flog arall cwbl Gymraeg o ran cyfrwng yn y deg uchaf - da iawn Alwyn a Vaughan, a bod Guto Dafydd ond mymryn y tu allan i'r deg uchaf. Mi fydd o'n beryg bywyd flwyddyn nesaf!

Mae'n dda iawn nodi hefyd bod cymaint o flogiau sy'n gefnogol, neu'n lled gefnogol i'r Blaid wedi sgorio'n uchel - yn arbennig felly Plaid Wrecsam a Syniadau oedd yn ail ac yn drydydd. Dau flog arbennig o dda yn eu ffyrdd gwahanol.


1 (3) Blog Menai
2 (10) Plaid Wrecsam
3 (6) Syniadau
4 (14) Hen Rech Flin
5 (7) Vaughan Roderick
6 (12) Miserable Old Fart
7 (11) Cardiff Blogger
8 (26) Betsan Powys
9 (16) Peter Black AM
10 Everyone's Favourite Comrade
11 Blog Guto Dafyyd
12 (12) Pendroni
13 (41) Wales Home
14 (5) Welsh Ramblings
15 (35) Freedom Central
16 (18) Bethan Jenkins AM
17 Ffranc Sais
18 Dib Lemming
19 The Druid of Anglesey
20 (13) Valleys Mam
21 (36) Blog yr Hogyn o Rachub
22 (23) Glyn Davies MP
23 Plaid Panteg
24 (15) Polemical Report
25 (49) A Change of Personnel
26 (24) Leanne Wood AM
27 (20) Politics Cymru
28 (42) Blog Answyddogol
29 Liberal Smithy
30 Inside Out - A Jaxxland Perspective
31 (45) Alun Williams
32 (28) Gwilym Euros Roberts
33 Institute of Welsh Affairs
34 (29) Dylan Jones-Evans
35 (22) Borthlas
36 (30) Paul Flynn MP
37 (27) David Cornock
38 Morfablog
39 Red Anorak
40 Mike Priestley
41 (44) 07.25 to Paddington
42 Blog Golwg
43 Plaid Cymru Llundain
44 (53) Rene Kinzett
45 (32) This is My Truth
46 (46) Denverstrope
47 Independence Cymru
48 Grangetown Jack
49 Blog Rhys Llwyd
50 (8) Cambria Politico

Sunday, August 29, 2010

Yr ymgyrch ryfedd ar y We yn erbyn Alun Davies


Mi fydd llawer ohonoch yn ymwybodol bod Alun Davies wedi bod yn cwyno yn y wasg bod ymgyrch i'w bardduo wedi ei chynnal ar y We. Gellir gweld manylion yma er enhraifft. Fedra i ddim dweud fy mod wedi bod yn wrthrych ymgyrch pardduo, ond mi fydd yna honiadau celwyddog yn cael eu gadael amdanaf ar y We o bryd i'w gilydd, ac mae'n brofiad digon anymunol. Mae'n un o nodweddion anffodus y We bod pobl yn gallu gadael stwff yn ddi enw ac mae'n anodd gwneud fawr ddim am hynny. Mae'n dilyn felly bod gennyf gydymdeimlad efo Alun.

Cyn mynd ymlaen hwyrach y dyliwn ddweud gair neu ddau am Alun. Mae'n aelod rhanbarthol Llafur tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, ond mae wedi penderfynu sefyll yn erbyn Trish Law (Llais y Bobl) yn etholaeth Mlaenau Gwent yn 2011. Mae Alun yn gyn aelod o Blaid Cymru, ac mae wedi sefyll dros y blaid honno yn y gorffennol. Fel mae'r fideo isod ohono yn ystod ei gyfnod fel aelod o'r Blaid yn ei ddangos, mae'n gymeriad lliwgar, di flewyn ar dafod ac uniongyrchol iawn. Mae'r ffaith bod ganddo dueddiad i ddefnyddio iaith ymfflamychol yn nodwedd o'i gymeriad sy'n creu gelynion.





'Does yna ddim llawer o amheuaeth bod ymgyrch felly wedi bod yn mynd rhagddi - mae'r blogiwr yma yn ogystal a nifer o rai eraill wedi derbyn nifer o negeseuon o dan enw ffug yn gwneud nifer o gyhuddiadau. Mae Alun o dan yr argraff bod cysylltiad rhwng yr honiadau a'r ffaith iddo alw yn ddiweddar iawn alw am ymddiswyddiad ymddiriedolwyr S4C. Gan bod natur yr honiadau o leiaf mor niweidiol i'r sawl sy'n rheoli S4C nag ydynt i Alun, fyddwn i ddim yn meddwl hynny a bod yn onest. Mi fydd yr anoracs go iawn yn eich plith yn cofio i Alun ddangos parodrwydd i wneud defnydd o reolau rhyddid gwybodaeth er mwyn achosi niwed gwleidyddol i Trish Law yn y gorffennol a bod rhai o'i ymysodiadau arni wedi bod yn ffyrnig ac yn bersonol. Mi fyddwn i'n gweld yr honiadau am Alun yng nghyd destun hynny a'r drwg deimlad, ac yn wir y gwenwyn sydd wedi bod yn ffrwtian ers blynyddoedd yn sgil y rhyfel cartref oddi mewn i'r Blaid Lafur yn y De Ddwyrain.

Mae'r honiadau yn erbyn Alun wedi eu seilio ar ddau gais i S4C o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, gan rhywun sy'n defnyddio enw ffug - y naill am fanylion treuliau Alun pan oedd yn gweithio i S4C a manylion am gontract rhwng S4C, a'r llall am wybodaeth ynglyn a chontract honedig rhwng S4C a chwmni lobio Alun, Bute Communications. Mae'r ail wedi ei wneud yn ddiweddarach yn dilyn datganiad clir gan Alun nad oedd contract rhwng Bute Communications a S4C mewn bodolaeth, yn holi os oedd contract personol rhwng Alun yn bersonol ag S4C. Byddai trefniant sydd er budd cwmni ond wedi ei arwyddo yn enw unigolyn yn anarferol a dweud y lleiaf - ac mae'n anodd credu bod unrhyw sylwedd i'r awgrym am y rheswm hwnnw . Gweler yma ac yma am fanylion.

'Dydi'r naill gais na'r llall wedi eu hateb gan S4C eto - ond mae ganddynt ddigon o amser i wneud hynny o dan amodau'r Ddeddf. Mae'r ymholiad cyntaf yn swnio fel trol digon cyffredinol, a 'dwi am ei anwybyddu am y tro am y rheswm hwnnw. Mae'r ail yn fwy manwl ei natur. Yr hyn sydd gan y sawl sy'n holi, ydi bod S4C wedi 'cael gwared' o Alun trwy roi contract iddo fo neu i'w gwmni, a gwneud hynny heb fynd trwy'r drefn dendro arferol. Mi fyddai gweithredu yn y ffordd yma yn gwbl groes i ddeddfwriaeth corfforiaethol Ewropeaidd (o ran S4C yn hytrach na Bute Communications neu Alun wrth gwrs). Lobio cyrff cyhoeddus ar ran S4C oedd natur y gwaith gyda llaw.

Mae'n bwysig nodi yma nad oes yna (yn absenoldeb ymateb S4C i'r cais rhyddid gwybodaeth) affliw o ddim tystiolaeth y tu ol i'r honiad, a bod Alun yn ei wrthod yn llwyr yn ei gyfweliad efo Wales on Line - I am speechless about these allegations, which are without a shred of truth. Yna a ymlaen i nodi ei fod yn dymuno y byddai'r sawl sydd wedi gwneud yr honiad yn cyhoeddi ei enw fel y gallai fynd a fo i gyfraith.

Yn anffodus i Alun, dydi hynny ddim yn debygol, ac yn bwysicach efallai mae'n anodd iawn i wleidydd proffesiynol ennill achos enllib - mae'r bar i bobl felly yn uchel iawn oherwydd bod budd cyhoeddus yn cael ei ystyried yn fater sylweddol gan y llys. Dau achos diweddar y gallaf feddwl amdanynt o wleidydd yn ennill achos enllib - Archer yn erbyn y News of the World a George Galloway yn erbyn y Telegraph. Y ffaith i Archer fod yn fodlon dweud celwydd yn ogystal a thalu i eraill i wneud hynny a arweiniodd at ennill y cyntaf, a diffyg proffesiynoldeb dybryd a rhyfeddol ar ran y Telegraph a arweiniodd at yr ail.

Ac efallai mai dyna'r brif wers i'w chymryd o'r holl hanes - sef bod gwleidydd - unrhyw wleidydd yn agored iawn i'r math yma o beth - yn fwy agored o lawer nag ydi'r rhan fwyaf o bobl. 'Dydi'r gyfraith ddim yn cynnig cymaint o amddiffyniad iddynt na mae'n ei wneud i chi neu fi. Mae gwleidydd sy'n mynd ati i gythruddo pobl ac ymddwyn yn ymysodol iawn yn fwy tebygol o fod yn darged i ymgyrch bardduo nag ydi un llai cynhenus, ac mae llai o barodrwydd i gydymdeimlo efo fo pan mae'n wrthrych ymgyrch bardduo. 'Dydi dweud hynny ddim yn cyfiawnhau ymgyrch o'r fath wrth gwrs, ond mae'n sicr yn rhywbeth i wleidyddion feddwl amdano.

Blogio ysgafn

Ymddiheuriadau am y blogio ysgafn (wel y dim blogio o gwbl a dweud y gwir), 'dwi wedi cael fy llusgo gan 'Nacw i Budapest am ychydig ddyddiau.

Rhag ofn nad ydi rhai ohonoch yn fy nghredu, ac yn meddwl fy mod wedi bod yn diogi o gwmpas tafarnau Caernarfon neu rhywbeth, 'dwi'n amgau llun o dafarn a thafarnwr hynod nodweddiadol o ddinas Budapest.

Saturday, August 21, 2010

Yr hyn sy'n gyffredin rhwng S4C a hanner peint o John Smiths

Chwi gofiwch 'dwi'n siwr bod rhai o ymgeiswyr, (a bellach Aelodau Seneddol) y Toriaid wedi bod yn mynd o gwmpas y gorsafoedd radio cyn yr etholiad cyffredinol yn ein sicrhau na fyddai cyllideb S4C yn cael ei thorri. Mi fyddwch hefyd yn cofio i'r llywodraeth 'berswadio' S4C i gymryd toriad o £2,000,000 yn wirfoddol yn fuan iawn wedi i George Osborne gael ei ben ol ar leder moethus 11 Downing Street, ac i doriad llai gwirfoddol hyd yn oed o £25m dros 4 blynedd gael ei ddatgan yn fuan wedyn. 'Dydi Jeremy Hunt, y gweinidog treftadaeth yn Llundain ddim yn ol pob golwg yn rhy awyddus i drafod y mater efo'r gweinidog cyfatebol yng Nghymru.


Yn ol Golwg mae Arwel Ellis Owen yn bwriadu cynnal ymgyrch i ennill cefnogaeth i'r sianel. 'Does yna ddim manylu ar natur yr ymgyrch, na'r gefnogaeth sydd ei hangen. I mi mae natur y gefnogaeth sydd ei hangen yn eithaf syml - dylid dwyn cymaint o bwysau gwleidyddol a phosibl i leihau, neu ddileu'r toriadau. Calon yr ymgyrch honno ddylai fod y cysyniad bod S4C yn achos arbennig - yn achos sydd y tu hwnt i'r storm gyllidol bresenol. Mae S4C wedi bod yn achos arbennig ers y diwrnod y penderfynwyd ei sefydlu - cyfiawnhad gwleidyddol a ieithyddol oedd yna tros ei sefydlu - dim arall. Mae'r sianel yn rhan pwysig o'r rhwydwaith o strwythurau sy'n cefnogi'r iaith - mae ei gwanhau yn debygol o wanhau'r holl strwythur. Y cwestiwn a ddylai fod yn greiddiol i ymgyrch Arwel ydi hwn - ydi'r iaith werth £25m i'r glymblaid Doriaidd / Lib Dem?

A faint ydi £25m i'r llywodraeth? Wel o'r £661,000,000,000 a werir yn flynyddol gan y wladwriaeth mae'n dod i lai na 0.004%. Neu i roi pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol - dychmygwch bod teulu sydd ag incwm o £30,000 y flwyddyn yn gorfod gwneud toriadau oherwydd eu bod yn gwario gormod, a'u bod yn crafu yma ac acw am ffyrdd i arbed arian. Mi fyddai'r £25m yn cyfateb i £1.20 - hanner peint y flwyddyn o John Smiths yn Wetherspoons.

A oes angen dweud mwy am agwedd y glymblaid at y Gymraeg?

Friday, August 20, 2010

Oscar eto


Mi'r ydym wedi trafod y cyfaill yma ar sawl achlysur - yma, ac yma er enghraifft - ac wedi cwyno ei fod wedi cael lle ar y rhestr Geidwadol ar air Nick Bourne.

Ond, yn ol blog Betsan, 'dydi pethau ddim cweit mor syml a hynny, ac mae yna ymdrechion ar lawr gwlad (neu o leiaf yn lolfeydd clwbiau golff ochrau Casnewydd) gan aelodau cyffredin o'r Blaid Geidwadol i roi sbocsan yn olwyn y trefniant bach cyfforddus yma.

Mi fyddai'n anffodus pe na bai Oscar yn cael ei osod ar y rhestr ar ol pob dim - trist iawn, very sad.

Wedi dweud hynny, fyddwn i ddim yn cynhyrfu gormod - mae'r buddugions ar ben y Blaid Geidwadol yng Nghymru eisiau Oscar - a'r buddugions sy'n rhedeg y sioe fach Doriaidd mae gen i ofn - nid yr aelodau.

Wednesday, August 18, 2010

Y polau wedi 100 diwrnod

Wel dyma ni - 100 diwrnod ers ffurfio'r glymblaid, ac mae ICM yn rhoi Llafur a'r Toriaid yn gyfartal.

Nid cwymp yng nghefnogaeth y Toriaid sydd y tu ol i hyn cymaint a chynnydd yng nghefnogaeth Llafur ar draul y Lib Dems. Bu cryn gyfnod ers i bethau fod yn gyfartal gan ICM (ICM ydi un o'r cwmniau polio mwyaf effeithiol gyda llaw). 'Dydi Llafur heb fod yn gyfartal ers hydref 2007 pan ddaeth Brown i'r casgliad trychinebus na ddylai alw etholiad cyffredinol bryd hynny. Amgaeaf isod polau'r cwmni ers hynny.

04/10/2007 38% 38% 16% 8% 0% 1,008 3-4 October, 2007
28/10/2007 40% 35% 18% 7% 5% 1,011 26-28 October, 2007
22/11/2007 37% 31% 21% 10% 6% 1,005 21-22 Nov 2007
19/12/2007 39% 34% 18% 9% 5% 1,004 18-19 Dec 2007
20/01/2008 37% 35% 20% 8% 2% 1,009 18-20 Jan 2008
17/02/2008 37% 34% 21% 9% 3% 1,003 15-17 Feb 2008
16/03/2008 42% 29% 21% 8% 13% 1,003 14-16 Mar 2008
20/04/2008 39% 34% 19% 9% 5% 1,000 18-20 Apr 2008
18/05/2008 41% 27% 22% 9% 14% 1,008 16-18 May 2008
22/06/2008 45% 25% 20% 10% 20% 1,000 20-22 June 2008
20/07/2008 43% 28% 19% 10% 15% 1,007 18-20 July 2008
17/08/2008 44% 29% 19% 9% 15% 1,005 15-17 Augu 2008
25/09/2008 41% 32% 18% 10% 9% 1,012 24-25 September 2008
19/10/2008 42% 30% 21% 7% 12% 1,007 17-19 October 2008
26/11/2008 45% 30% 18% 8% 15% 1,027 25-26 November 2008
14/12/2008 38% 33% 19% 10% 5% 1,003 12-14 December 2008
25/01/2009 44% 32% 16% 8% 12% 1,003 24-25 January 2009
15/03/2009 42% 30% 20% 8% 12% 1,004 13-15 March, 2009
19/04/2009 40% 30% 19% 11% 10% 1,005 17-19 April 2009








17/05/2009 39% 28% 20% 14% 11% 1,002 5-17 May 2009
14/06/2009 39% 27% 18% 15% 12% 1,006 12-14 June 2009
11/07/2009 41% 27% 20% 12% 14% 1,000 10-11 July 2009
23/08/2009 42% 25% 19% 15% 17% 1,004 21-23 Augu 2009
20/09/2009 43% 26% 19% 12% 17% 1,001 18-20 September 2009
18/10/2009 44% 27% 18% 11% 17% 1,002 16-18 October 2009
15/11/2009 42% 29% 19% 10% 13% 1,010 13-15 November 2009
13/12/2009 40% 31% 18% 11% 9% 1,009 11-13 December 2009
24/01/2010 40% 29% 21% 10% 11% 1,000 22-24 January 2010
21/02/2010 37% 30% 20% 13% 7% 1,004 19-21 February 2010
14/03/2010 40% 31% 20% 9% 9% 1,002 12-14 March 2010
31/03/2010 38% 29% 23% 10% 9% 1,003 30-31 March 2010
03/04/2010 37% 33% 21% 9% 4% 1,001 1-3 April 2010
11/04/2010 37% 31% 20% 9% 6% 1,001 9-11 April 2010
18/04/2010 33% 28% 30% 9% 5% 1,024 16-18 April 2010
25/04/2010 33% 28% 30% 8% 5% 1,031 23-25 April 2010
02/05/2010 33% 28% 28% 12% 5% 1,026 30 April - 2 May 2010
04/05/2010 36% 28% 26% 10% 8% 2,022 3-4 May 2010
06/05/2010 36.45% 29.01% 23.03% 11.95% 7% GENERAL ELECTION RESULT - 6 May, 2010
23/05/2010 39% 32% 21% 8% 7% 1,001 21-23 May 2010








20/06/2010 39% 31% 21% 8% 8% 1,000 18-20 June 2010
25/07/2010 38% 34% 19% 8% 4% 1,009 23-25 July 2010
15/08/2010 37% 37% 18% 8% 0%


Data i gyd o Guardian Datablog.

Rhag ei fod o ddiddordeb i rhywun, roedd IBM yn rhoi'r Toriaid ar 34%, Llafur ar 32% a'r Lib Dems ar 21% tros Brydain ym mis Mai 2007 - y mis pan gynhalwyd etholiadau'r Cynulliad yng Nghymru a'r Alban. Yng Nghymru yn yr etholiad hwnnw cafodd Llafur 32.2%, y Toriaid 22.4%, Plaid Cymru 22.4% a'r Lib Dems 14.8%.

Mae'r blog yma wedi awgrymu eisoes y byddai bod o gwmpas y 10% yn etholiadau'r Cynulliad yn drychinebus i'r Lib Dems. Mae'n edrych yn fwyfwy posibl y bydd hyn yn digwydd.

Sunday, August 15, 2010

Cyfiawnder i gwn


Pleser o'r eithaf ydi nodi o ddarllen fy nghopi cyfredol o'r News of the World, bod Cheryl Gillen, Ysgrifennydd Gwladol newydd, gwych Cymru wedi llwyddo i wrthdroi un o anghyfiawnderau mawr ein hoes.

Mi gofiwch 'dwi'n siwr i Cheryl druan gael ei hun mewn dwr poeth yn ystod yr helynt treuliau am hawlio £4.47 i fwydo ei chwn Tizzy a Curby efo bagiad o Iams Senior Chicken meal "for older dogs" a dau gan o Cesar chicken and turkey meat. Aeth ati hefyd i hawlio £1,884.23 o bres nad oedd ganddi hawl iddo er mwyn talu at forgais.

Yn anffodus, mewn esiampl o greulondeb ofnadwy tuag at gwn gorfodwyd Cheryl i dalu'r £4.47 yn ei ol yn ogystal a'r £1,884.23 am y morgais ar gyfer y naill neu'r llall o'i chartrefi oherwydd yr holl hw ha yn y papurau newydd. Dychmygwch y gofid mae hyn oll wedi ei achosi i Tizzy a Curby druan - meddyliwch am y boen o beidio bod yn rhy siwr os ydi'ch perchenog yn gallu fforddio i'ch bwydo 'fory. Yn anffodus ni chafodd y £1,884.23 am y ty / tai yn ei ol.

Ond pleser o'r eithaf ydi cael dweud bod diwedd hapus i'r stori - mae Cheryl wedi llwyddo i hawlio'r £4.47 yn ei ol gan yr awdurdodau seneddol. Gall Tizzy a Curby gysgu'n sownd unwaith eto yn ei cartrefi bach clud yn Chesham and Amersham a Battersey.
.
Buddugoliaeth arall i achos teilwng a phwysig hawliau anifeiliaid.

Friday, August 13, 2010

Peter Hain ac Old Sarum

Tref, neu a bod yn fwy manwl bwrdeistref oedd Old Sarum sydd a'i hanes yn mynd yn ol i'r canol oesoedd . 'Doedd yna erioed lawer o bobl yn byw yno, ond mi symudodd ei phoblogaeth i gyd bron i New Sarum (Salisbury heddiw) rhywbryd yn y canol oesoedd hwyr gan adael y lle bron iawn yn amddifad o bobl - ac etholwyr. Ond ni wnaeth hynny ddim oll i effeithio ar gynrychiolaeth seneddol yr ardal hyd Deddf Diwigio 1832. Dychwelwyd 1 aelod o 1414 hyd 1641, ac o'r flwyddyn honno ymlaen dychwelwyd 2. Roedd sefyllfa etholiadol y fwrdeisdref yn weddol boncyrs am y cwbl o'i hanes - ychydig iawn, o bobl yn dychwelyd aelodau seneddol.

Er enghraifft yn 1802 dychwelwyd dau Dori, Nicholas Vansittart a Henry Alexander. Yr etholwyr oedd Y Parch Dr. Skinner Y Parch Mr. Burrough, William Dyke, Esq. Mr. Massey and Mr. Brunsdon. Pump o etholwyr, dau aelod seneddol. Doedd yr un o'r cyfryw etholwyr yn byw yn Old Sarum. Byddai'r etholwyr yn cael eu dewis o'r tu allan gan berchenog y tir i bleidleisio. Y teulu Pitt oedd y perchnogion hyd 1802 pan werthwyd y lle i deulu arall. Gan nad oedd y perchenog yn debygol o ddewis etholwyr fyddai'n pleidleisio'n groes i'w ewyllys, nid yw'n fawr o syndod mai perthnasau i'r perchenog oedd yr aelodau yn amlach na pheidio. Yn y cyfamser ceid trefi newydd oedd yn byrlymu efo pobl heb gynrychiolaeth o gwbl. Mae'r stori yn dysteb i ffolineb y gred y dylid cadw trefn etholiadol fel ag y mae hi am ei bod yn hen drefn a dim arall.

'Does yna ddim rotten boroughs heddiw wrth gwrs, ond mae yna gryn anghyfartaledd mewn nifer yr etholwyr mewn etholaethau ar draws y DU. Maent yn cael eu dwyn i'r cof ar hyn o bryd oherwydd yr anghydfod ynglyn a bwriad y llywodraeth i newid ffiniau etholaethau yn y DU yn sylweddol. Rydym eisoes wedi edrych ar effaith posibl hyn ar Gymru yma.

Mae'r newidiadau yn cael eu gyrru gan ddwy flaenoriaeth llywodraethol - lleihau'r nifer o aelodau seneddol a dileu i bob pwrpas yr amrywiaeth sylweddol a geir ar hyn o bryd ym maint etholaethau (o ran etholwyr) tros y DU. Mae'r blaenoriaethau hyn yn ymddangos i mi yn rhai digon rhesymol - hyd yn oed os ydynt yn debygol o fod o gymorth etholiadol i'r Toriaid tros y DU (os nad yng Nghymru fel y trafodwyd yma).

Mae'r rhesymau tros yr anghyfartaledd yn eithaf cymhleth. Bu gor gynrychiolaeth hanesyddol yng Nghymru ar Alban - ond mae hwnnw wedi ei ddileu fwy neu lai mewn blynyddoedd cymharol ddiweddar yn yr Alban. Mae'r gor gynrychiolaeth Gymreig yn parhau. Yn bwysicach ceir patrwm o ran symuniadau poblogaethol mewn blynyddoedd diweddar lle mae pobl yn symud o ganol dinasoedd (ardaloedd Llafur gan amlaf) i gyrion dinasoedd a thu hwnt. Hefyd mae llai o bobl yn gyffredinol yn cofrestru i bleidleisio - ac mae hyn yn arbennig o wir mewn trefi mawr.

O ganlyniad ceir llawer o etholaethau trefol gyda phoblogaeth cymharol isel - o ran etholwyr o leiaf. Mae'r drefn bresenol o adolygu ffiniau yn raddol yn delio efo'r broblem - ond graddol ydi'r ferf weithredol. Bwriad y llywodraeth ydi clymu'r broses o adolygu'r ffiniau efo'r broses o leihau'r nifer o ASau a dod a'r holl beth i fwcwl erbyn diwedd y senedd yma. Eto mae yna elfen o hunan les yma ar ran y Toriaid yn arbennig - ond mae'r camau ynddyn nhw eu hunain yn ymddangos yn weddol rhesymegol.

Roedd ymateb Llafur i hyn oll ychydig yn wahanol yng Nghymru nag yn Lloegr. Lein Llafur yng Nghymru ydi mai jerimandro gwrth Gymreig sydd ar waith. Gan mai sicrhau cysondeb o ran nifer etholwyr ydi bwriad y mesurau, a chan bod y Comisiwn Ffiniau yn annibynnol, mae'r cyhuddiadau hwnnw yn chwerthinllyd. Mae ymateb Llafur yn Lloegr ychydig yn wahanol - jerimandro (eto) a phwynt mwy sylweddol, sef bod llawer o etholwyr mewn etholaethau trefol heb eu cofrestru. Hynny yw mae poblogaethau (yn hytrach na chyfanswm etholwyr) mewn llawer o'r etholaethau trefol yn gymharol uchel. Y broblem ydi nad yw canran uchel o'r bobl hyn yn trafferthu i gofrestru. Dadl Llafur ydi y dylid ceisio eu hannog i gofrestru cyn adolygu'r ffiniau.

Rwan mae yna lawer o resymau am y diffyg cofrestru - mae yna bobl efo'u rhesymau eu hunain tros beidio a bod eisiau tynnu llawer o sylw at eu presenoldeb mewn man arbennig trwy gofrestru, mae poblogaethau trefol yn aml yn symudol ac mae'n fwy anodd cofrestru o dan amodau felly, ac mae lefelau addysg yn tueddu i fod yn gymharol isel mewn rhai ardaloedd trefol - a thuedda hynny hefyd i arwain at debygrwydd is o gofrestru. Ond mae yna reswm arall hefyd - un pwysicach na'r un o'r lleill. Ers i Lafur Newydd symud o'u lleoliad gwleidyddol traddodiadol a cheisio meddianu'r tir canol bondigrybwyll mae llawer o'u cefnogwyr traddodiadol wedi colli diddordeb mewn gwleidyddiaeth - ac mewn cofrestru i bleidleisio.

Cafodd Llafur dair blynedd ar ddeg i geisio mynd i'r afael efo problemau tan gofrestru ond wnaethon nhw ddim - wedi'r cwbl beth ydi'r pwynt gwneud ymdrech i sicrhau bod y rhan fwyaf o bobl Liverpool Riverside yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd os ydi'r cyfryw etholaeth yn ethol AS Llafur beth bynnag? Pa fantais ydi annog llwyth o blebs ochrau Newcastle i gymryd rhan yn y broses etholiadol pan mae etholiadau yn cael eu hennill a'u colli mewn etholaethau megis Hampstead & Killburn?

Yn fwyaf sydyn mae pethau wedi newid, a gallai diffyg mynediad i'r broses ddemocrataidd gan bobl ddosbarth gweithiol arwain at leihad yng nghynrychiolaeth Llafur yn San Steffan. Gan bod sicrhau cynrychiolaeth mor deilwng a phosibl o bobl (dosbarth canol yn bennaf) Llafuraidd yn San Steffan yn bwysicach na dim arall i Lafur maent yn datblygu diddordeb o'r newydd mewn cynyddu'r bobl dosbarth gweithiol sydd ar y gofrestr bleidleisio. 'Dydi fy nghydymdeimlad ddim yn fawr mae gen i ofn. Ddim yn aml y byddaf yn cytuno efo'r llywodraeth yma, ond yn yr achos hwn _ _ _.

Wednesday, August 11, 2010

Ymweliad y Pab a Llais Gwynedd

Mae'n ddiddorol nodi i Lais Gwynedd ddangos amheuon ynglyn ag ymweliad y Pab a Phrydain (neu a'r Ynys a defnyddio term anarferol braidd Llais Gwynedd) yn ddiweddarach eleni. Mae'r meicroblaid mewn cwmni eithaf da yn eu amheuon - mae Urdd Oren Iwerddon yn gwrthwynebu'r ymweliad yn llwyr, tra bod sefyllfa Urdd Oren yr Alban ychydig yn fwy cymodlon (ond cymhleth) - 'dydyn nhw ddim yn croesawu'r ymweliad, ond dydyn nhw ddim yn gwrthwynebu chwaith. Mae'r ddau fudiad yn credu mai'r Pab ydi'r Gwrth Grist. Tra bod y gred yna'n un rhyfedd o safbwynt y rhan fwyaf o bobl, mae'n debyg ei bod yn rhesymegol i'r Urddau Oren wrthwynebu ymweliad gan y Gwrth Grist os ydynt yn credu mai dyna pwy sy'n dod yma ym mis Medi mewn gwirionedd.

Dyna'n sicr mae Ian Paisley yn ei gredu, ond ar sail sgandalau diweddar yn yr Eglwys mae'n gwrthwynebu'r ymweliad y tro hwn. Roedd o hefyd yn gwrthwynebu'r ymweliad gan y Pab diwethaf yn ol yn ol ym 1982 cyn bod yna son am sgandalau. Y busnes Gwrth Grist oedd yn ei boeni y tro hwnnw. Dyna oedd yn ei boeni yn ol yn 1963 pan ddaeth i sylw'r cyhoedd am y tro cyntaf wrth arwain gwrthdystiad y tu allan i Neuadd y Ddinas yn Belfast oherwydd bod Jac yr Undeb yn chwifio ar hanner mast yn dilyn marwolaeth y Pab Ioan.

Gwrth Babyddiaeth sydd y tu ol i wrthwynebiad Eglwys Bresbyteraidd Rydd yr Alban hefyd, mae mynychu cynhebrwng Pabyddol yn ddigon i gael rhywun wedi ei daflu o'r Eglwys honno. Ar y llaw arall mae'r anffyddwyr milwriaethys Richard Dawkins a Christopher Hitchins yn edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad oherwydd eu bod nhw'n gobeithio manteisio ar y cyfle i arestio'r Pab am droseddau yn erbyn dynoliaeth.

Os ydw i'n deall safbwynt Llais Gwynedd yn iawn, 'dydyn nhw yn ddim gwrthwynebu'r ymweliad ond maent o'r farn mai'r Eglwys Babyddol ddylai dalu am pob dim sy'n ymwneud a hi. Mi fyddai'n hynod o anarferol os nad unigryw disgwyl i arweinydd gwleidyddol, gwladol neu grefyddol sydd wedi derbyn gwahoddiad gan lywodraeth Prydain i ymweld a'r wladwriaeth i dalu am y trefniadau - yn wir byddai gwahoddiad o'r fath yn bur sarhaus. Fel mae'n digwydd yr Eglwys Babyddol sydd yn talu am yr agweddau defosiynol ar yr ymweliad - bydd hyn yn tua £7m. Codir yr arian trwy garedigrwydd noddwyr a thrwy gynnal casgliadau arbennig mewn Eglwysi yn ystod yr Offeren. Bydd y wladwriaeth Brydeinig yn cyfranu (mae'n debyg) £10m i £12m yn ogystal a chostau plismona. Mae'r llywodraeth bresenol ynghyd a'r un flaenorol wedi mynegi eu bod yn hapus efo'r trefniant yma.

'Rwan a bod yn deg a Llais Gwynedd mae ganddyn nhw pob hawl i'w barn ynglyn a threfniadau talu am yr ymweliadau swyddogol a'r DU. Ond mae hefyd yn deg gofyn pam eu bod yn cymryd yr agwedd yma tuag at yr ymweliad arbennig yma? Wedi'r cwbl anaml y bydd Llais Gwynedd yn mynegi barn ynglyn a gwariant ar lefel Brydeinig (mae hyn yn hollol ddealladwy wrth gwrs - grwp lleol ydynt), er eu bod yn gwneud datganiadau anisgwyl ynglyn a gwariant cyhoeddus ar lefel ehangach na Chymru weithiau - dadlau na ddylid anfon pobl i'r lleuad tra bod pobl yn llewygu ar y Ddaear er enghraifft, neu ddadlau yn erbyn trydaneiddio'r rheilffyrdd.

Mae hefyd yn deg peidio a hoffi rhywbeth neu'i gilydd - gwleidyddion, chwaraeon, crefyddau ac ati (er nad yw'n dderbyniol i fod a rhagfarnau yn erbyn aelodau grwpiau crefyddol wrth gwrs). 'Dydw i ddim yn hoffi peldroed, ac mae'r gem yn ddrud iawn i'r wladwriaeth. Mae'n anodd cyfrifo beth ydi'r gost i'r wladwriaeth o blismona'r canoedd o gemau peldroed sy'n digwydd yn wythnosol - mae'n debyg ei fod yn ugeiniau o filiynau yn flynyddol. Ond fyddwn ni ddim yn codi hynny fel rhyw fater mawr - mae mynychu gemau peldroed yn rhan digon di niwed o wead bywydau llawer iawn o bobl - yn union fel mae ymarfer y ffydd Babyddol yn rhan o ddiwylliant llawer iawn o bobl hefyd.

Ond pam - o bob dim - mynd ar ol ymweliad gan arweinydd crefyddol fel esiampl o wastraff ariannol ar lefel San Steffan? Bydd gwariant cyhoeddus yn y DU eleni oddeutu £661,000,000,000 neu 55,000 o weithiau'r swm mae Llais Gwynedd yn poeni amdano. Mae yna pob math o wastraff oddi mewn i'r gyllideb yna. Er enghraifft bydd £44,000,000,000 yn cael ei wario ar, ahem, 'amddiffyn' eleni. Hwyrach bod yna eitem neu ddwy i fynd ar eu ol yna - yr £8,800,000 sy'n cael ei wario'n flynyddol ar y Red Arrows efallai? Roedd gwariant y llywodraeth (Brydeinig) ar hysbysebu yn £540,000,000 y llynedd. Mae adrannau o'r llywodraeth yn gwario tua £40,000,000 yn flynyddol ar lobio. Mae'n bosibl y bydd adnewyddu Trident yn costio £100,000,000,000 tros y blynyddoedd nesaf (tua 6 gwaith cyllideb flynyddol Cymru). Mae'r rhestr yn un diddiwedd - ond ymweliad y Pab a'r 'Ynys' sy'n poeni Llais Gwynedd.

Mae'r hyn yr ydym yn poeni'n gyhoeddus amdano a'r hyn nad ydym yn trafferthu gwneud fawr ohono yn aml yn dweud llawer iawn am ein hagweddau a'n gwerthoedd gwaelodol.

Monday, August 09, 2010

Y Lib Dems eto

'Dwi'n ddigon hen i gofio gwleidyddiaeth y saithdegau - ac roedd y tirwedd yn dra gwahano i un heddiw. 'Doedd yr arfer o ymladd am y 'tir canol' bondigrybwyll heb gychwyn, ac roedd gwahaniaeth gwirioneddol rhwng y ddwy brif blaid Brydeinig. Roedd hyn yn wir am y pum degau a'r chwe degau - er bod y degawdau hynny y tu hwnt i'm cof i hyd yn oed. Mae'r graff isod yn cyfleu'r symudiadau yn eu cefnogaeth ers 1820:

Rhyddfrydwyr / Lib Dems - melyn, Llafur - coch, Toriaid - glas.

Byddai dyn yn disgwyl y byddai hyn yn rhoi digon o wagle gwleidyddol i blaid canol y ffordd megis y Rhyddfrydwyr (fel y gelwid y Lib Dems bryd hynny). Nid felly oedd hi - gwan iawn oedd y gefnogaeth i'r Rhyddfrydwyr trwy gydol y cyfnod. Ffenomena cymharol ddiweddar ydi cefnogaeth arwyddocaol i'r Lib Dems - cafwyd llwyddiant (mewn termau pleidleisiau os nad seddi) wedi sefydlu'r Gynghrair yn yr wythdegau, edwino yn y 90au a thwf wedi troi'r mileniwm newydd:

Bl Canran Seddi
1983 25.40% 23
1987 22.60% 22
1992 17.80% 20
1997 16.70% 46
2001 18.30% 52
2005 22.10% 62
2010 23% 57

Pam felly bod y Lib Dems wedi tyfu mewn cyfnod lle mae'r tir canol wedi ei lenwi gan y pleidiau gwleidyddol mawr? Mae'r ateb mi dybiwn yn weddol gymhleth, ond mae'n rhannol yn ymwneud efo'r ffaith bod yna newidiadau cymdeithasegol sylweddol wedi digwydd yn y ddeg mlynedd ar hugain diwethaf. Mi fu hollt ers talwm rhwng aelodau o'r gweithlu a weithiai yn y diwydiannau trwm traddodiadol, a rhai oedd efo'u busnesau eu hunain neu a weithiai mewn swyddi coler gwyn. Roedd pobl yn tueddu i ddiffinio eu hunain yn wleidyddol yn unol a'u galwedigaeth, ac yn pleidleisio ar sail hynny.

Gyda diflaniad y diwydiannau traddodiadol daeth canfyddiad pobl o'u gwleidyddiaeth eu hunain i fod yn fwy cymhleth, a chaniataodd hyn i'r Lib Dems lenwi gwahanol niches gwleidyddol - a gwnaethant hyn yn gelfydd iawn. Er enghraifft rhoddodd rhyfeloedd tramor Llafur Newydd gyfle i'r Lib Dems osod eu hunain mewn rhai ffyrdd i'r chwith o'r Blaid Lafur gan apelio at yr elfennau hynny mewn cymdeithas Brydeinig sy'n draddodiadol wrthwynebus i ryfeloedd o bob math. Mae'r grwp yma yn un mawr. Roedd gwrthwynebiad llywodraeth Blair i hawliau sifil sylfaenol hefyd o gymorth. Llwyddwyd i apelio at fyfyrwyr trwy addo i edrych ar ol eu buddiannau hunanol nhw, llwyddwyd i apelio at bobl oedd wedi cael llond bol ar Lafur yn rheoli trefi mawr a dinasoedd yng Ngogledd Lloegr, a llwyddwyd i ddominyddu'r bleidlais draddodiadol wrth Geidwadol mewn rhannau eang o Dde Lloegr.

Mae'n rhaid ychwanegu wrth gwrs i'r Lib Dems yn aml feistrioli tactegaeth gwleidyddol ar lefel lleol - cyflwyno eu hunain fel rhyw grwp ffocws oedd yn canolbwyntio ar ateb problemau penodol lleol (felly'r term dogshit Liberals), ac wrth gwrs honni mai ond y nhw allai guro Plaid X trwy gynhyrchu'r holl graffiau digri 'na.

Y drwg efo bod mewn grym wrth gwrs ydi bod y ddadl y dylid pleidleisio i chi am nad ydych yn rhywun neu'i gilydd yn syrthio - ac yn aml dyna'r brif ddadl tros bleidleisio i'r Lib Dems. Os na ellir gwireddu dyheuadau'r niche mae cefnogaeth y niche yn toddi fel eira Mai. Mae pleidlais y Lib Dems yn gymhleth fel y dywedwyd, ond mae tua dau draean o'i phleidlais yn gogwyddo tuag at y Toriaid tros Brydain. Mae'n dilyn felly bod tua thraean yn gogwyddo tuag at Lafur (neu genedlaetholwyr yng Nghymru a'r Alban). Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Lloegr mae llawer o'r gefnogaeth 'Lafuraidd' neu asgell chwith. Yma felly y gellir disgwyl gweld y rhan fwyaf o'r cwymp yng nghefnogaeth y Lib Dems.

Rwan, yn y sgwrs a soniais amdani yn y blogiad isod roedd Vaughan yn rhyw awgrymu y gallai'r gynrychiolaeth Lib Dem syrthio o dan y 6 arferol yn etholiadau'r Cynulliad yn 2011 gan golli llawer iawn o'u cefnogaeth mewn rhannau o Gymru, ac aeth mor bell ag awgrymu y gallai'r Lib Dems Cymreig a'r rhai Albanaidd fod yn eistedd ar ochr arall i'r Ty Cyffredin erbyn diwedd y senedd yma. Mae'r blog yma wedi edrych ar yr hyn a allai ddigwydd i'r Lib Dems yn y Cynulliad ar sail eu trallodion diweddar yn y polau piniwn Prydeinig. 'Dwi fy hun ddim yn gweld y blaid yng Nghymru yn hollti oddi wrth yr un Brydeinig - o'r tair plaid fawr unoliaethol yng Nghymru y Lib Dems ydi'r un sy'n fwyaf seicolegol ddibynnol ar y fersiwn Seisnig ohoni ei hun. Gallai'r Lib Dems yn yr Alban a rhai o'r aelodau trefol o Ogledd Lloegr dorri eu cwys eu hunain serch hynny.


Mi'r ydwyf fodd bynnag yn derbyn ei bod yn dra thebygol y bydd cynrychiolaeth y Lib Dems yn y Cynulliad yn syrthio, gyda sedd ranbarthol y Gogledd yn cael ei cholli, yn ogystal a Maldwyn ac o bosibl Canol Caerdydd. Yn wahanol i Vaughan fodd bynnag fedra i ddim gweld y sedd yn y De Ddwyrain yn cwympo. Mi fyddwn i yn disgwyl iddyn nhw ennill 4 - Brycheiniog a Maesyfed, sedd ranbarthol y De Orllewin, sedd ranbarthol y De Ddwyrain a naill ai sedd ranbarthol Canol De Cymru neu Canol Caerdydd. Mi fyddwn hefyd yn disgwyl iddyn nhw ildio eu safleuoedd cryf ar gynghorau'r bedair dinas fawr yng Nghymru yn etholiadau lleol 2012 ac ennill yn sylweddol lai na 100 cynghorydd tros y wlad. Mae ganddynt 155 ar hyn o bryd.

Saturday, August 07, 2010

Y rhagolygon i Lafur

Mi es i'r 'Steddfod yn y diwedd - a'r digwyddiad cyntaf i mi ei fynychu oedd yr un a 'hysbysebwyd' gan Vaughan ar ei flog y diwrnod o'r blaen oedd yn cael ei gynnal yng nghwmni Arwyn Jones, Daran Hill a Vaughan ei hun. Mi godwyd nifer o faterion. 'Dwi am aros efo dau, sydd fel mae'n digwydd wedi eu codi ar y blog hwn eisoes - y tebygrwydd neu'r anhebygrwydd y bydd Llafur yn ad ennill y tir sylweddol a gollwyd ganddynt yng Nghymru, a'r trallod etholiadol tybiedig sy'n aros y Lib Dems yng Nghymru. Mi edrychaf ar yr ail fory a'r cyntaf heddiw.

Roedd Vaughan yn cyfeirio at anghytundeb rhwng Rhodri Morgan a Dicw ynglyn a thynged y bleidlais Lafur yng Nghymru. Ymddengys bod Rhodri Morgan yn credu mai canlyniad anochel bod mewn grym yn San Steffan am gyfnod maith ydi'r cwymp yng nghefnogaeth Llafur, ac y bydd y blaid yn ad ennill y tir a gollwyd maes o law. Ar y llaw arall mae Dicw o'r farn ('dwi'n meddwl - chlywais i ddim ei sgwrs) bod y strwythurau cymdeithasegol sydd wedi cynnal yr hegemoni Llafur wedi crebachu bellach, a bod y cwymp yn un parhaol. Mae Vaughan yn dod i lawr rhywle yn y canol - mi fydd Llafur yn ad ennill tir ar lefel San Steffan, ond bydd pethau'n wahanol ar y lefelau etholiadol eraill.

'Dwi'n tueddu i fod braidd yn besimistaidd a dweud y gwir - yn y byr dymor o leiaf. Tra bod newidiadau cymdeithasegol diweddar wedi sicrhau bod y byddinoedd anferth o bobl fyddai'n pleidleisio Llafur ym mhob etholiad doed a ddel wedi diflannu, mae'r amgylchiadau gwleidyddol a geir ar hyn o bryd yn creu byddin arall o bleidleiswyr posibl i Lafur - pobl sy'n ddibynol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar wariant cyhoeddus. Maent yn wynebu bygythiad byr dymor sylweddol. Mae yna lawer iawn o bobl o pob dosbarth cymdeithasol yn y sefyllfa yma ym mhob rhan o Gymru - ac mae'r sefyllfa yn creu pwll sylweddol o bobl sydd a llawer i'w ennill ac ychydig i'w golli trwy obeithio am gynrychiolaeth Llafur.

Mae gan Vaughan bwynt pan mae'n nodi ei bod yn bosibl na fydd y grwp yma'n pleidleisio i Lafur ar pob lefel, ac mae yna beth lle i gredu bod etholwyr Cymru yn gymhol soffistigedig i'r graddau eu bod yn gwahaniaethu rhwng etholiadau wrth bleidleisio. Ond y broblem ydi hyn - mae un etholiad yn effeithio ar y llall, a dydi Llafur ddim yn gorfod dod yn agos at eu penllanw etholiadol i gael eu hunain mewn sefyllfa o reoli bron i pob dim. Mi fyddai 45% yn debygol o'u gweld yn rheoli'r Cynulliad, y rhan fwyaf o gynghorau Cymru ac yn cael dwy o'r bedair sedd Ewropiaidd yn ogystal nag efallai 32 neu 33 o'r 40 etholaethau fydd ar ol erbyn etholiad cyffredinol 2015 . Mae Llafur wedi cael mwy na 50% yng Nghymru mor ddiweddar a degawd yn ol.

'Dwi'n mawr obeithio fy mod yn anghywir - 'dydi bron i ganrif bellach o gefnogaeth i'r Blaid Lafur ddim wedi gwneud mymryn mwy i Gymru na'n rhoi mewn sefyllfa o dlodi cymharol a dibyniaeth economaidd ar Lundain, ond mae amgylchiadau presennol yn ei gwneud yn fwy tebygol yn hytrach na'n llai tebygol y bydd y gefnogaeth (ac o ganlyniad y ddibyniaeth a'r tlodi cymharol) yn parhau.

Thursday, August 05, 2010

T James Jones a'r syndrom S4C




Ymddengys bod yr Archdderwydd - dyn o'r enw T James Jones dwi'n deall - yn meddwl ei bod yn warth bod rhai Cymry Cymraeg wedi cadw draw o'r Eisteddfod oherwydd ei bod yn yn cael ei chynnal yn yr hen Sir Fynwy eleni - Rwy’n credu ei bod yn warth bod pobol yn dewis pa Eisteddfod i’w chefnogi oherwydd ardal. Mae’n bwysig dod i weld ardal newydd a dysgu amdani.

'Rwan mae'n debyg fy mod i'n un o'r bobl mae Mr Jones yn eu lambastio, er fy mod wedi dreifio un o'r genod acw i'r maes pebyll, a 'dwi'n bwriadu ymweld a'r maes 'fory. Serch hynny mi hoffwn nodi un neu ddau o bethau sy'n weddol amlwg i'r rhan fwyaf ohonom, hyd yn oed os nad ydynt yn bethau mae Mr Jones o anghenrhaid yn eu sylweddoli.


Yn gyntaf 'dydi'r Eisteddfod ddim yn rhan greiddiol o hunaniaeth y mwyafrif llethol o Gymry Cymraeg naturiol. Mae yna deip o Gymro a Chymraes sy'n gweld y jambori fawr flynyddol fel rhyw ganolbwynt i'w cenedligrwydd - ond lleiafrif cymharol fach ydi'r rheiny, a lleiafrif nad ydynt yn aml mor amlwg eu hunaniaeth am hanner cant ac un wythnos arall y flwyddyn. I'r rhan fwyaf ohonom rydym yn mynd pan y gallwn, ond mae gennym bethau eraill i wneud efo'n hamser megis gweithio, mynd am beint, palu'r ardd, darllen llyfr, gwneud beth bynnag mae pobl yn ei wneud efo ipads, crwydro'r mynyddoedd, mynychu gig neu ddrama a mynd ar wyliau er enghraifft.

Nid dweud ydw i na ddylai pobl wneud ymdrech i gefnogi'r Eisteddfod - mi fyddaf i'n ceisio gwneud hynny pob blwyddyn i ryw raddau neu'i gilydd, er nad ydi trampio trwy'r mwd, bysnesu mewn gwahanol stondinau a sgwrsio efo pobl nad ydwyf wedi eu gweld ers oes yr arth a'r blaidd at fy nant mewn gwirionedd. Dweud nad ydi hunaniaeth pobl, ac felly eu hagwedd tuag at faterion eisteddfodol, mor syml a mae Mr Jones yn awgrymu ydw i. Rhywbeth ategol i'n hymdeimlad o fod yn Gymry ydi'r Eisteddfod i'r rhan fwyaf ohonom - nid calon yr ymdeimlad hwnnw. O ganlyniad mae lleoliad yr Eisteddfod yn rhwym o effeithio ar faint o bobl sy'n ymweld a hi.

Os ydi'r lleoliad yn y Gogledd yna mae yna ddegau o filoedd o Gymry Cymraeg yn byw o fewn pellter rhesymol ati, ac mi fydd llawer yn ymweld - hyd yn oed os nad yr Eisteddfod ydi eu prif ddileit mewn bywyd. Mae hynny'n benderfyniad rhesymol a rhesymegol i rhywun sydd eisiau cefnogi'r sefydliad, hwyrach nad ydi treulio rhai oriau yn profi pleserau'r A470 mor resymol na rhesymegol i Eisteddfodwr llugoer.

O leoli'r digwyddiad yng Nghaerdydd, er enghraifft mi fydd mwy o bobl yn mynd oherwydd bod pob math o bethau aneisteddfodol i'w gwneud hefyd - a gellir cael wythnos o wyliau gyda'r Eisteddfod yn rhan o'r profiad. Mae Glyn Ebwy, a Blaenau Gwent yn gyffredinol yn ddiddorol i'r sawl yn ein plith sy'n ymddiddori mewn hanes - ond gyda phob parch nid dyma'r lle gorau yng Nghymru i fynd ar wyliau iddo. Mae hefyd ymhell o'r Gymru Gymraeg. Mae felly'n dilyn y bydd yna llai yn mynychu - yn arbennig os ydi pawb lleol wedi cael mynd i mewn am ddim ar gychwyn yr wythnos. 'Dydi hyn ddim yn golygu na ddylid cynnal yr wyl mewn llefydd fel Blaenau Gwent wrth gwrs - i'r gwrthwyneb, mae'n dda gweld y Gymru Gymraeg yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'w ffiniau naturiol am ychydig ddyddiau. Ond mae'n golygu y dylai awdurdodau'r Eisteddfod fod yn realistig ynglyn a'r hyn y gellir ei ddisgwyl o ran y niferoedd sy'n mynychu. Golyga hefyd ymatal rhag harthio ar bobl i ymddwyn mewn ffordd arbennig ar y sail eu bod nhw yn Gymry Cymraeg a dim arall.

Daw hyn a ni at S4C. Un o wendidau diweddar y sianel ydi canfyddiad ar ran yr awdurdodau sy'n ei rhedeg bod y Gymru Gymraeg yn ddiwylliannol fonolithig, ac mai priod le y sianel ydi darparu rhaglenni Cymraeg, ac mai priod ddyletswydd Cymry Cymraeg ydi ymgynnull o gwmpas y teledu liw nos - yn union fel y byddai teuluoedd yn ei wneud yn saith degau'r ganrif ddiwethaf pan fyddai Z Cars, Dixon of Dock Green, Alf Garnett a Steptoe a'i fab druan yn ymwthio i mewn i'w hystafelloedd byw trwy sgrin fach ddu a gwyn.



Mae'r byd hwnnw wedi hen farw wrth gwrs - mae yna gystadleuaeth gan lu o sianeli eraill a chan gyfryngau eraill bellach. Mae'r Gymru Gymraeg yn yr ystyr bod llawer ohonom yn anabl neu'n anghyfforddus yn defnyddio'r Saesneg wedi marw hefyd. Wnawn ni byth weld rhyw bedwaredd ganrif ar bymtheg arall lle'r oedd degau, os nad canoedd o filoedd ohonom yn darllen papurau newydd Cymraeg am na allem ddarllen yr un iaith arall. Mi'r ydym i gyd bron yn rhannol Seisnig bellach - mi fedrwn ni gael mynediad i, a mwynhad o'r oll sydd gan y cyfryngau Seisnig i'w cynnig. Yn y cyd destun yma, mae cymryd bod dyletswydd ar bobl i flasu pob llwyaid o uwd llwyd, di flas S4C yn gamgymeriad. Mae gosod disgwyliad i bobl ymddwyn mewn ffordd sylfaenol afresymegol yn ystod eu horiau hamdden - fel mae T James Jones yn ei wneud, hefyd yn gamgymeriad.

Dydi hyn oll ddim yn golygu nad ydi'r ffaith bod cynnyrch S4C yn Gymraeg o ran iaith ac yn Gymreig o ran cynnwys a pherspectif yn ychwanegu at apel y sianel i lawer ohonom. Ond mae angen mwy na hynny - mae angen cystadlu o ran ansawdd ac yn wir difyrwch a gwreiddioldeb.

Mae bod yn Gymro neu'n Gymraes Gymraeg ei iaith / hiaith yn yr oes sydd ohoni yn gallu bod yn feichus - baich a ddylai fod yn fater o falchder i ni gael y cyfle - y fraint - o'i hysgwyddo, ond baich serch hynny. 'Dydi cael dyn mewn oed mawr yn ein dwrdio am ymddwyn mewn ffordd digon rhesymegol, ac yn rhoi hynny yng nghyd destun rhyw hen hollt rhwng Cymru a Sir Fynwy nad oes fawr neb ohonom (hyd yn oed fi) yn ddigon hen i'w gofio ddim yn rhywbeth sy'n ychwanegu at yr ymdeimlad bod ein baich torfol yn un sy'n werth ei chario. Dydi diwylliant sy'n mynnu bod arnom ddyletswydd i edrych ar raglen deledu, gwrando ar rhywbeth ar y radio neu ddarllen cofnodolyn neu lyfr oherwydd ei fod yn y Gymraeg ddim yn ychwanegu at yr ymdeimlad yna chwaith. Yn waeth - mae creu disgwyliad i bobl ymddwyn mewn ffordd sylfaenol afresymegol oherwydd eu bod nhw'n Gymry Cymraeg yn y pen draw yn niweidiol i'r iaith oherwydd bod ymddygiad felly yn ein troi ni'n stereoteip yn hytrach na grwp diwylliannol - ac mae'n anodd meddwl am unrhyw beth mwy niweidiol i'r iaith.

Wednesday, August 04, 2010

Fideos yr haf 4

Ychydig o gelwydd gwleidyddol sydd gen i heddiw - y rhan fwyaf ohonyn nhw'n esiamplau enwog o gelwyddgwn yn mynd trwy eu pethau. Mwynhewch!

Y cyntaf ydi Tony Blair yn dweud celwydd er mwyn cael rhoi 'Rhyfel' ar ei CV.



Met i Blair, Clinton efo'r celwydd gwleidyddol modern enwocaf am wn i.



Met arall iddo efo amrediad eang o gelwydd ynglyn ag Irac.



Y George Bush cyntaf yn addo peidio a chyflwyno trethi newydd - cyn mynd ati i godi trethi gwta flwyddyn wedi iddo gael ei ethol.



Y diweddar Richard Nixon yn ein sicrhau nad crook mohono.



Brown yn honni bod ffigyrau mewnfudo (i'r DU) yn gostwng - pan roeddynt mewn gwiorionedd yn cynyddu.



Amrywiaeth bach o gyfeillion yn beio'r 'system' a'r 'rheolau' oherwydd iddynt gael eu dal efo'u trwynau yn y cafn.

Tuesday, August 03, 2010

Addysg Gymraeg eto

Un gair bach arall am addysg Gymraeg. Mae'r sylwadau a wnes yma ynglyn a llwyddiant neu aflwyddiant addysg Gymraeg i gynhyrchu siaradwyr Cymraeg wedi esgor ar drafodaeth digon diddorol. Pwynt pwysig mae MH - o flog Syniadau - yn ei wneud ydi bod y ffigyrau sydd gennym ynglyn a chanrannau'r plant 'rhugl' yn ddiffygiol oherwydd mai asesiad rhieni ydynt. Mae hyn yn sylw synhwyrol - mae'r syniad o ddibynnu ar asesiad o ruglder plant gan rieni sydd yn aml heb air o Gymraeg eu hunain yn dipyn o joc mae'n debyg. Gall rhai o fy mhlant i gyfathrebu yn ymddangosiadol effeithiol mewn Ffrangeg - ond gan nad oes gen i air o Ffrangeg mae hyd a lled fy asesiad i o'u rhuglder yn amlwg yn sobor o gyfyng o ran ei gywirdeb.

Cyn 2002 / 2003 prifathrawon oedd yn asesu rhuglder plant. Mae gen i ofn nad ydi'r ffigyrau hyn yn ddibynadwy chwaith, yn arbennig mewn perthynas a faint sy'n siarad Cymraeg adref. Derbynir plant i'r ysgol yn dair oed yn aml, ac o ganlyniad nid yw sgiliau llafaredd plant yn aml wedi datblygu llawer iawn pan mae'r ysgol yn dod i gysylltiad a nhw yn gyntaf. Mae sefyllfa ieithyddol cartrefi yn aml yn gymhleth yn yr oes sydd ohoni - bydd plant yn siarad un iaith efo un rhiant a iaith arall efo'r llall - neu iaith wahanol efo taid a nain nag ydynt yn siarad efo mam a dad. Ymhellach, gall hyn newid. Bydd plentyn weithiau yn dechrau siarad iaith efo un rhiant ar ol ei dysgu yn yr ysgol - bydd rhieni weithiau yn dysgu'r Gymraeg ac yn dechrau siarad yr iaith efo'u plant (er mwyn ymarfer weithiaf). Mi ddigwyddodd hyn i fy nain i ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf. Mae yna hefyd gymhelliad i brifathrawon - yn arbennig mewn ysgolion swyddogol (yn hytrach na naturiol) Gymraeg i roi atebion gwahanol ar gyfer plant unigol yn dibynnu ar eu hoedran. Mae pwysau ar yr ysgol i ddangos eu bod yn llwyddo.

Efallai mai'r ffigyrau mwyaf dibynadwy mewn gwirionedd(fel mae MH yn awgrymu) ydi rhai sy'n ymwneud ag asesiadau athrawon. Mae yna gymhelliad i ysgolion beidio a chynnwys plant nad ydynt yn rhugl eu Cymraeg mewn asesiadau iaith gyntaf - yn y gyfundrefn sydd ohoni mae'n well peidio asesu plant yn y Gymraeg na'u hasesu a'u methu.

Mae'r tablau isod yn dangos y ganran o'r blant a asesir fel plant Cymraeg iaith gyntaf, a sut mae'r patrwm hwnnw wedi newid tros ychydig mwy na degawd. O gymryd bod y nifer a asesir fel plant iaith gyntaf yn rhoi syniad go lew o'r nifer sy'n rhugl, mae'n amlwg bod cynnydd graddol mewn rhuglder - ond graddol iawn ydyw. Ag ystyried ei bod yn weddol sicr bod y galw am addysg Gymraeg yn uwch o lawer na'r ganran sy'n derbyn addysg Gymraeg mae arafwch y cynnydd yn wastraffus ar y gorau, ac yn fethiant i gymryd mantais o gyfle hanesyddol i newid natur y wlad er gwell ar y gwaethaf.

Ffigyrau i gyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru:

CA1 (7 oed)
CA 2 (11 oed)

CA 3(11 oed)
Blwyddyn Canran
Blwyddyn Canran
Blwyddyn Canran
1998 18.1
1998 17.5
1998 12.4
1999 18.2
1999 17.6
1999 12.8
2000 18.1
2000 17.5
2000 13
2001 19.0
2001 17.5
2001 13.8
2002 18.9
2002 17.6
2002 13.9
2003 19.1
2003 18.3
2003 14.4
2004 19.5
2004 18.1
2004 14.7
2005 19.6
2005 19
2005 14.4
2006 20.0
2006 19.3
2006 15.7
2007 20.3
2007 19.5
2007 15.3
2008 21.0
2008 19.8
2008 16
2009 21.0
2009 19.1
2009 15.9

Monday, August 02, 2010

Rhyfel Afghanistan

Mae delweddau rhyfel wedi eu saniteiddio fel yr un isod o gyrff milwyr Prydeinig yn dychwelyd adref o Afghanistan wedi dod yn bethau digon cyffredin ar y teledu ac ar y cyfryngau print yn ddiweddar yn anffodus.


Er bod canfyddiad ar gychwyn y rhyfel y gellid ei ennill mae'r ystadegau sydd ar gael yn dangos mai'r gwrthwyneb sydd yn wir. Gwaeth ac nid gwell ydi pethau 'rwan nag oeddynt ar y cychwyn. Cymerer er enghraifft y ffigyrau ar gyfer aelodau o'r lluoedd diogelwch sydd wedi colli o leiaf un fraich neu goes.

Date Afghanistan Iraq
All 2006 7 6
Q1-2007

Q2-2007 5
Q3-2007

Q4-2007

All 2007 12 10
Q1-2008 6
Q2-2008

Q3-2008

Q4-2008 15
All 2008 30
Q1-2009



Neu'r nesaf sydd yn dangos anafiadau drwg a difrifol.



Anafiadau drwg Anafiadau drwg a ystyrir yn ddifrifol
Cyfanswm 419 216
2001 0 0
2002 1 1
2003 1 0
2004 6 3
2005 2 2
2006 31 18
2007 63 23
2008 65 27
2009 157 82


Marwolaethau a geir yn y trydydd:

YEAR Iraq Afghanistan
2001
0
2002
3
2003 53 0
2004 22 1
2005 23 1
2006 29 39
2007 47 42
2008 4 51
2009 1 108
2010 0 82



TOTALS 179 327

Yr hyn na fyddwn yn glywed amdano mor aml (oherwydd fel, y gwelwyd yn ddiweddar, mae'r wybodaeth yn cael ei guddio oddi wrthym) ydi'r niferoedd cynyddol o sifiliaid sy'n cael eu lladd yn y llanast. Gweler yma am fanylion. - miloedd ar filoedd yn ol pob tebyg - 33 ar Chwefror 21 eleni gan awyrennau rhyfel NATO, 1o o sifiliaid gan gynnwys 8 myfyriwr gan filwyr Americanaidd ddiwrnod 'Dolig y llynedd, rhwng 70 a 90 o sifiliaid oedd yn ceisio dwyn olew o loriau olew a gafodd eu difa gan awyrennau awyr yr UDA, efallai (ceir peth anghytuno yma) 147 o sifiliaid gan gynnwys o leiaf 97 o blant ym Mis Mai yn llynedd gan B1-B Americanaidd, dwy wraig feichiog, geneth yn ei harddegau, plismon a'i frawd gan filwyr Americanaidd ynghynt eleni ac ati, ac ati ad nauseum. Lleddir llawer iawn yn ychwanegol gan fomiau'r Taliban wrth iddynt ymosod ar luoedd y Gorllewin - fel yn yr achos dychrynllyd yma heddiw.

Er ein bod ni yn cael ein gwarchod rhag hyn oll, 'dydi pobl De Afghanistan ddim, a 'dydi'rdelweddau sy'n diffinio'r rhyfel i'n gwrthwynebwyr ddim yn rhai dymunol - maent yn ddelweddau sydd yn cyfrannu at broses seicolegol anymunol sy'n anfon pobl allan i'r llwch a'r gwynt efo ffrwydrolion wedi eu clymu o gwmpas eu canol er mwyn llofruddio eraill a nhw eu hunain.



Yr hyn y gallwn ei ddweud gyda sicrwydd ydi bod y polisi o ryfela yn Afghanistan yn dangos ffydd rhyfeddol mewn gallu lefelau anferth o drais i ateb problemau gwleidyddol yn y wlad honno. Ffydd nad oes yna unrhyw dystiolaeth hanesyddol i'w gefnogi. Mae'r llwybr hwn wedi ei ddilyn gan yr Undeb Sofietaidd yn ogystal a chan Brydain (wrth gwrs) ar sawl achlysur.

Llun enwog gan Elizabeth Butler ydi'r isod (1842) o ddyn o'r enw William Brydon yn dychwelyd o Afghanistan ar ddiwedd y rhyfel Eingl Afghanistan cyntaf. Fo oedd yr unig un i ddychwelyd o 16,000 a anfonwyd i ymosod ar y wlad. Cafwyd dau ryfel Eingl Afghanistanaidd arall, nad oedd mor waedlyd (i Brydain o leiaf) ond a achosodd lawer iawn mwy o drafferth byr a hir dymor nag oedd neb wedi dychmygu ar y pryd - trafferthion oedd yn waeth na'r rhai a'n hanfonodd i ryfel i'w datrys.


Yn rhyfedd iawn mi gollodd yr Undeb Sofietaidd yn y ganrif ddiwethaf tua'r un faint o filwyr a Phrydain yn y rhyfel Eingl Afghanistan cyntaf, ac mi gafodd tua 10,000 eu gwneud yn barhaol anabl. Gadael heb ennill oedd eu hanes nhw - fel y bydd ein hanes ni maes o law. Yn amlwg roedd colledion pobl Afghanistan a sifiliaid yn arbennig, yn llawer iawn, iawn uwch. Fel yna mae hi wedi bod erioed.

A'r tro nesaf y byddwch yn clywed am filwr yn cael ei ladd ('dydych chi ddim yn debygol o glywed am sifiliaid brodorol oni bai eich bod yn mentro i Wikileaks), gofynwch i chi'ch hun y cwestiwn hwn - pa dystiolaeth hanesyddol sydd gan y sawl sy'n ein rheoli bod trais eithafol yn cynhyrchu deillianau cadarnhaol yn Afghanistan, ac os nad oes tystiolaeth o'r fath, pam ydym yn caniatau iddynt ryfela ar sail eu ffantasiau gwirion?