Sunday, April 29, 2012

Ymdrechion 'anhygoel' Charles Windsor tros yr amgylchedd

Mae'n ddiddorol bod rhywun o'r enw Robert Redford yn defnyddi'r ansoddair anhygoel am Charles Windsor a'i ymdrechion tros yr amgylchedd. Bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn gyfarwydd efo rwdlan a phrygethu Windsor ynglyn a'r hyn y dylem oll ei wneud i amddiffyn yr amgylchedd.

Yr hyn sy'n llai adnabyddus ydi'r gagendor anferth rhwng yr hyn mae'r uchelwr Seisnig yn ei ddweud a'r hyn mae'n ei wneud. Ym Mhrydain mae ein argraff carbon cyfartalog yn 11 tunnell metrig y flwyddyn y person. 2601 tunnell metrig ydi argraff carbon Mr Windsor. - cymaint a 236 o'r hyn mae pobl cyffredin yn ei gynhyrchu. Mae'r dyn yn ceisio difa'r blaned ar ei ben ei hun bach.

Erbyn meddwl, efallai bod yr ansoddair yn briodol, ond ddim yn y ffordd mae Mr Redford yn ei feddwl.

Sibrydion o'r wardiau

Cyn yr etholiadau diwethaf mi es ati i gynhyrchu dadansoddiad gweddol gynhwysfawr o'r gwahanol ornestau yng Ngwynedd. 'dydw i ddim am wneud hynny y tro hwn - yn rhannol oherwydd diffyg amser, ac yn rhannol oherwydd y ffaith bod unrhyw ddarogan yr oeddwn yn ei wneud yn cael ei ddefnyddio i bwrpas propoganda yn amlach na pheidio. Ond waeth i ni gael cip bach ar un neu ddwy o'r straeon sy'n ymddangos trwy fwg y frwydr.

I ddechrau cydymdeimlad Blogmenai i'r Cynghorwyr Annibynnol Dilwyn Lloyd (Talysarn) a Sion Roberts (Gogledd Pwllheli) sydd wedi cefnogi Llais Gwynedd yn gyson tros gyfnod o bedair blynedd, ond sy'n cael eu hunain efo gwrthwynebwyr o'r grwp hwnnw. Ymddengys bod y ddau wedi eu hypsetio braidd gan y ffasiwn ddatblygiad. Trist iawn, ond dyna ydi natur y broses ddemocrataidd mae gen i ofn hogiau.

Fel y gwelwyd eisoes, mae pethau braidd yn fler i lawr yn Ne Meirion rhwng Louise Hughes o Lais Gwynedd a'r ymgeisydd Annibynnol, John Haycock.

Yn y cyfamser, mae ymgeisydd y Lib Dems yn ward Glyder ym Mangor yn canoli ei ymgyrch yn llwyr o gwmpas tyllau yn y lon - er a bod yn deg mae ei ohebiaeth hefyd yn cyfeiro at goed wedi syrthio, siop wag, llygod mawr a'r angen i dorri coed sy'n amharu ar olygfeydd pobl. 'Dydi o ddim yn anisgwyl bod Doug eisiau son am lygod mawr, coed a thyllau yn y palmant yn hytrach na'i Blaid ei hun a'i pholisiau yn yr amgylchiadau sydd ohonynt, ond wir Dduw mae gohebiaeth Doug yn dod a dimensiwn cwbl newydd i'r term dog shit Liberals. Mae fel patai pob cyfeiriad at unrhyw beth nad yw'n gorwedd ar y palmant wedi ei ddileu o'i ddealltwriaeth o wleidyddiaeth lleol. Does neb yn disgwyl i Lib Dem fel Doug ddyrchafu ei lygaid i'r mynyddoedd, ond efallai y byddai edrych ar rhywbeth -unrhyw beth o gwbl - ag eithrio'r palmant yn syniad.

Atal llywodraethiant gan Blaid Cymru yng Ngwynedd ydi prif ddadl ymgeisydd Llais Gwynedd yn Llanfair a Llanfarian! Roger Payne. Ymddengys bod y Blaid wedi defnyddio eu 'rheolaeth' o'r Cyngor i wneud pob math o bethau ofnadwy megis cymryd penderfyniadau cynllunio dadleuol, codi treth y cyngor, ail strwythuro ysgolion a chartrefi gofal ac ati. Rhywbeth nad yw'n gyfeirio ato ydi'r ffaith nad ydi Gwynedd yn cael ei rheoli gan Blaid Cymru. Mae Gwynedd bron yn unigryw yng Nghymru yn yr ystyr bod grym yn cael ei rannu rhwng pob plaid a grwp. Yn wir, er bod y Blaid efo mwyafrif llwyr eithaf cyfforddus ar y cyngor erbyn hyn, mae'n dewis peidio a manteisio ar ei hawl i gael mwyafrif llwyr ar Fwrdd y Cyngor. Y cydbwysedd ar y Bwrdd ydi Plaid Cymru 7, Annibynnol 4, Llais Gwynedd 2, Lib Dems 1 a Llafur 1.

Yma yn Arfon mae prif ddyn Llafur, Tecwyn Thomas, yn cael trafferth deall pam bod ei blaid yn cael cymaint o drafferth i ddenu ymgeiswyr sy'n siarad Cymraeg.  Efallai y byddai eistedd yn ol a gofyn iddo'i hun beth mae helynt pamffledi Trelai yn ei ddweud am agweddau gwaelodol llawer yn ei blaid tuag at y Gymraeg, a beth mae'r agweddau hynny yn eu dweud wrth Gymry Cymraeg ynglyn a'i blaid yn syniad.  Serch hynny mae'n rhaid llongyfarch nifer o'u hymgeiswyr sy'n fyfyrwyr ac yn dod o'r tu allan i Gymru.  Yn ol Tecwyn maent yn bwriadu aros yma ar ol graddio.  Mae'n gryn gamp cael gwaith yn lleol hyd yn oed wedi graddio yn yr oes sydd ohoni, ond ymddengys bod yr ymgeiswyr Llafur wedi cael eu swyddi ymhell cyn graddio. Da iawn nhw.

Ar nodyn ychydig yn wahanol 'dydw i ddim yn ddyn Facebook fy hun, ond i'r sawl yn eich plith sydd efo cyfri ac eisiau perspectif arall ar bethau, gallwch weld yr etholiad o safbwynt Llais Gwynedd yma.  Anaml y byddaf yn rhoi hysbys i Llais, ond am yr un tro hwn 'dwi'n fodlon gwneud eithriad. 

Gallwch ddysgu pob math o ffeithiau diddorol yno - megis pam bod Louise Hughes yn edmygu Prif Weinidog Awstralia, a pam bod Aeron Jones (ward Llanwnda), yn rhagweld llwyddiant ym Mangor, er nad oes gan Lais Gwynedd cymaint ag un ymgeisydd yn sefyll yn y ddinas.

Mi gewch chi fwy o newyddion fel 'dwi'n ei gael.

Friday, April 27, 2012

Pwy sy'n cael trafferth recriwtio?

Mae ymdriniaeth digon diddorol yn Golwg ddoe o'r etholiadau lleol yng Nghaerdydd, Gwynedd, Caerfyrddin, Ceredigion a Phowys. Mae ymdriniaeth cymharol fanwl o'r fath yn rhywbeth i'w ganmol i'r graddau ei fod yn anarferol yng nghyd destun y cyfryngau Cymreig. Mae'r Bib wrth gwrs yn rhy brysur yn canolbwyntio ar geisio creu brwdfrydedd tros y frenhiniaeth i roi llawer o sylw i'r broses ddemocrataidd yng Nghymru, ond dydi'r cyfryngau eraill fawr gwell chwaith.

Beth bynnag mae eu hymdriniaeth o'r etholiadau yma yng Ngwynedd ychydig yn anghytbwys i'r graddau bod yr ornest yn cael ei phortreadu fel un rhwng Llais Gwynedd a Phlaid Cymru, er bod mwy o ymgeiswyr gan y grwp Annibynnol na sydd gan Llais Gwynedd, a'i bod yn debygol y bydd y grwp Annibynnol yn fwy nag un Llais ar ol yr etholiad - yn union fel y bu tros y bedair mlynedd ddiwethaf.

Yr hyn ddaeth a gwen i fy wyneb yn arbennig oedd sylwadau un o arweinwyr Llais, Alwyn Gruffydd ynglyn ag ymgeiswyr y Blaid. Dyfynnaf:

Mae gweld cyn-gynghorwyr Plaid Cymru yn ceisio ad ennill eu seddau ar Gyngor Gwynedd yn awgrymu fod y Blaid yn cael trafferth recriwtio gwaed newydd.
Rwan yn ol fy nghyfri i mae yna ymgeisydd yn sefyll ar ran Plaid Cymru nad oedd yn gwneud hynny yn 2008 yn y wardiau canlynol:

Glyder, Llanllyfni, Llanwnda, Penisarwaun, Seiont, Talysarn, Tregarth, Waunfawr, Y Bontnewydd, Y Groeslon, Menai - Bangor (2 sedd), Abererch, Llanaelhaearn, Llanystumdwy, Clynnog, Nefyn, Dwyrain Porthmadog, Tudweiliog, Llanengan, Abermaw, Bowydd a Rhiw, Diffwys a Maenofferen, Llanbedr, Llanuwchllyn, Penrhyndeudraeth, Cricieth.

Mae hyn yn rhoi cyfanswm o 27 ymgeisydd 'newydd'.  29 o ymgeiswyr - hen neu newydd - sy'n sefyll tros Lais Gwynedd.


Dwi'n gwybod bod rhai o'r ymgeiswyr yn ymladd y seddi yn enw'r Blaid y tro hwn, tra eu bod yn eu hymladd ar ran rhywun arall yn 2008, a dwi hefyd yn gwybod i un neu ddau sefyll ar ran y Blaid ymhellach yn ol yn y gorffennol nag yn 2008. 

Dwi hefyd yn gwybod ei bod yn amser etholiad a bod gwleidyddion yn gyffredinol yn troelli ac yn gor ddweud ar amser felly.  Mae hynny'n ddigon dealladwy.  Ond bobol bach, mae hon yn gryn droelliad. 

Thursday, April 26, 2012

Beth goblyn sydd o'i le ar y Cambrian News?

Wele eu stori tudalen flaen yr wythnos yma.Mae Louise Hughes o Lais Gwynedd yn cwyno fod y cyn gynghorydd annibynnol Morgan Vaughan wedi bod yn ffonio pobl a dweud wrthynt nad yw'n ddibynadwy.
Ymddengys mai'r peth pwysicaf sydd wedi digwydd yn nhiriogaeth y Cambrian News yr wythnos diwethaf ydi bod cynghorydd yn cyhuddo cyn gynghorydd o ddweud pethau cas amdani yn ystod yr wythnosau cyn etholiad.

O ddifri rwan - ydi'r Cambrian News o dan yr argraff bod yna rhywbeth anarferol am bethau cas yn cael eu dweud am gynghorwyr yn ystod ymgyrchoedd etholiadol?

Am y tro cyntaf mae'n debyg, mae Blogmenai yn cael ei hun yn llongyfarch ac edmygu  Louise Hughes - roedd yn gryn gamp ar ei rhan i allu dwyn perswad ar bapur newydd i redeg  stori mor ddi ddim - heb son am ei rhoi ar eu tudalen flaen. 

Wedi dweud hynny, dwi ddim rhy siwr beth i'w ddweud am y Cambrian News.

Y diffyg democrataidd yng Nghymru

Mi fydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog yma efo'r hawl i bleidleisio yr wythnos nesaf, ond bydd yn agos i 140,000 o bleidleiswyr yn colli cyfle i wneud hynny - y sawl sy'n byw mewn wardiau lle mae'r cynghorydd wedi ei ddychwelyd yn ddi wrthwynebiad. 
Mae yna 96 o wardiau heb eu cystadlu yng Nghymru - felly mae 58,024 o etholwyr Gogledd Cymru a 55,160 o bleidleiswyr yng Nghanol a Gorllewin Cymru ddim am gael dewis i ethol eu cynghorydd.  Mae 23 o 73 sedd Powys (31.5%) heb eu llenwi a  20 o 74 sedd Gwynedd (27%).

Rwan, beth bynnag ein barn wleidyddol, os ydym yn credu mewn democratiaeth iach siawns y gallwn gytuno nad ydi'r sefyllfa yna yn un boddhaol.  Mae yna ddwy ffordd o fynd i'r afael a hyn - lleihau'r nifer o gynghorwyr, neu newid y gyfundrefn bleidleisio.  Mae'r blog yma wedi argymell defnyddio dull STV efo wardiau aml aelod.  Dyma'r dull a ddefnyddir mewn etholiadau lleol yn yr Alban, ym mhob etholiad yng Ngweriniaeth Iwerddon, ac ym mhob etholiad ag eithrio un San Steffan yng Ngogledd Iwerddon.  Mae'n ddull cymharol gyfrannol sydd hefyd yn cadw cysylltiad rhwng aelod ac ardal benodedig.  Mae hefyd yn dileu'r diffyg democrataidd a geir yng Nghymru.

Gellir cael manylion llawnam y diffyg democratiaeth yng Nghymru yma gan Gymdeithas Newid Etholiadol Cymru.

Tuesday, April 24, 2012

Russell a Leanne

Mae'n ddiddorol deall nad ydi Leanne Wood yn bwriadu derbyn yr £20,000 blynyddol yn ychwanegol y byddai ei statws fel arweinydd Plaid Cymru yn ei sicrhau iddi.

Mae'r un mor ddiddorol bod Plaid Cymru yn Nhonyrefail yn gwneud defnydd o'r ffaith ac yn ei gyferbynnu efo ymddygiad un o'r cynghorwyr lleol ac arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Russell Roberts. Mae Russell wedi llwyddo i wneud i gynrychiolaeth gyhoeddus weithio'n berffaith - iddo fo ei hun os nad i'w etholwyr. Llwyddodd i gael pum joban gyda chyflog o £100,000 rhyngddynt. Russell ydi un o'r gwleidyddion sy'n ennill y mwyaf o bres yng Nghymru, os nad Prydain.

Ddim yn aml y bydd gol mor gyfangwbl agored a hon yn ymddangos mewn gwleidyddiaeth leol.

Monday, April 23, 2012

Y frenhiniaeth, y Bib a'r farn gyhoeddus yng Nghymru

Felly yn ol archwiliad British Future 35% yn unig o bobl Cymru sy'n falch o'r Frenhines - a chymharu ag 80% o Saeson.

Peidiwch a meddwl am eiliad y bydd y Bib yng Nghymru yn cymryd y mymryn lleiaf o sylw o hynny. Mi fyddwn yn cael ein cyflwyno i realaeth amgen y Gorfforaeth yng Nghymru tros y misoedd nesaf, lle byddant yn cymryd arnynt bod yna rhyw frwdfrydedd lloerig yma tuag at pob dim brenhinol efo llwyth o raglenni idiotaidd megis Elizabeth's Wales. yn cael eu stwffio o flaen ein trwynau.

'Does yna ddim byd sy'n datgelu gwir natur a phwrpas y Bib yng Nghymru mwy na'u hymdriniaeth o faterion brenhinol. Mae eu hymdriniaeth o'r sefydliad cyntefig a Phrydeinllyd yma'n afresymegol o grafllyd, di feirniadaeth ac anghynrychioladol o'r farn gyhoeddus yng Nghymru.

Sunday, April 22, 2012

Pregeth am ddewrder gwleidyddol o gyfeiriad anisgwyl

Paul Williams, y Tori o Fon sydd wrthi yn pregethu am ddewrder gwleidyddol ar ei flog. Ei gwyn ydi nad ydi arweinydd newydd y Blaid, Leanne Wood wedi bod efo digon i'w ddweud am y datblygiadau diweddar yn hanes hir a chymhleth Wylfa B.

Hwn ydi'r un Paul Williams nad oedd yn fodlon cyfaddef ei fod yn Dori nes i'r Toriaid ei ddewis i sefyll trostynt yn etholiadau'r Cynulliad y llynedd. Ei modus operandi cyn hynny oedd cynhyrchu naratif Toriaidd, argymell i bobl bleidleisio i gwahanol Doriaid a beirniadu'r sawl nad ydynt yn Doriaid, tra' grwgnach yn flin nad Tori mohono pob tro roedd rhywun yn awgrymu hynny.

Mae'n anodd meddwl am well esiampl o lyfdra gwleidyddol nag anfodlonrwydd i gyfaddef teyrngarwch gwleidyddol.

Saturday, April 21, 2012

Plaid Cymru ar y blaen yn yr etholiadau lleol!

Wel, mewn ffordd o leiaf.

Yn ol y Bib cafodd 22 o Bleidwyr eu hethol yn ddi wrthwynebiad.

Mae hyn yn cymharu efo 18 Llafurwr, 16 Tori, 6 Lib Dem a 31 o'r pleidiau a grwpiau eraill.

Dechrau da o leiaf.

Thursday, April 19, 2012

Etholiadau lleol - beth fydd yn digwydd yng Nghymru?

Mae hi'n drybeulig o anodd darogan canlyniadau etholiadau lleol o ddata polio - yn llawer mwy anodd nag ydi hi i ddarogan canlyniadau etholiadau San Steffan neu rai'r Cynulliad. Yr erfyn mwyaf defnyddiol mewn cyd destun Prydeinig mae'n debyg ydi cyfrifau Collin Rallings. Mae'r cyfrifiadau hyn yn awgrymu y bydd canran Llafur ym Mhrydain yn cynyddu 13%, un y Toriaid yn gostwng 9% a chanran y Lib Dems yn gostwng 5%.

Mae'r newid yma yn sylweddol iawn, ac o'i wireddu byddai'n arwain at ganoedd lawer o seddi yn newid dwylo tros y DU. Er ei bod yn anodd trosglwyddo'r ymarferiad i gyd destun Cymru gan fod Plaid Cymru yn blaid gref ar lefel llywodraeth leol yma, byddai patrwm tebyg i hyn yng Nghymru yn arwain at newid arwyddocaol. Fel enghraifft o hyn 'dwi am edrych yn frysiog ar Gyngor Caerdydd. Os ydych yn cymryd bod pleidlais y Blaid yn aros yn statig, a bod pleidlais y pleidiau unoliaethol yn newid yn unol a darogan Rallings, byddai cydbwysedd y cyngor yn cael ei drawsnewid yn llwyr.

Y sefyllfa ar hyn o bryd ar Gyngor Caerdydd ydi:
Lib Dems 34
Toriaid 17
Llafur 14
Plaid Cymru 6
Eraill 4

Y sefyllfa newydd fyddai:
Llafur 43
Lib Dems 19
Plaid Cymru 4
Toriaid 5
Annibynnol 4

Felly ar noswaith pryd bydd Llafur yn debygol o golli yn drwm yn nwy brif ddinas arall tir mawr Prydain, mae'n bosibl y byddant yn cael eu sgubo yn ol i rym yn ninas Caerdydd.

Rwan fel dwi wedi awgrymu eisoes, mae'n bosibl y bydd presenoldeb y Blaid yn arwain at sefyllfa wahanol yng Nghymru. Dydan ni ddim yn gwybod faint o effaith y bydd y newid yn arweinyddiaeth a chyfeiriad y Blaid yn ei gael. Mae'r etholiad am yr arweinyddiaeth hefyd wedi rhoi mwy o sylw i'r Blaid o lawer na mae'n arfer ei gael.

Ond petai'r oruwchafiaeth Lafur yn cael ei hatgyfodi mor fuan wedi i Lafur golli grym yn San Steffan - a hynny er gwaetha eu amhoblogrwydd enbyd, gwta ddwy flynedd yn ol - byddai'n adlewyrchiad hynod o wael ar ein diwylliant gwleidyddol. Er gwaetha'r faith bod Cymru wedi pleidleisio i Lafur ym mhob math o etholiad, bron yn ddi eithriad ers 1918, rydan ni'n dal yn dlotach na'r unman arall yn y DU. Er gwaetha'r ffaith bod llawer yn gweld trwy Lafur pan maent mewn grym yn San Steffan, rydym yn pleidleisio iddynt mewn modd Paflofaidd cyn gynted ag y bo'r Toriaid yn ennill grym yn Llundain.

Byddai hefyd yn dysteb i fethiant hanesyddol ar ran y Blaid i ffurfio naratif sy'n cynnig cyfeiriad arall, a sy'n rhyddhau pobl o'r feddylfryd syml sy'n eu harwain i bleidleisio i Lafur fel modd o ddatgan gwrthwynebiad i'r Toriaid. Creu naratif felly ddylai fod prif flaenoriaeth arweinyddiaeth newydd y Blaid tros y flwyddyn neu ddwy nesaf.

Tuesday, April 17, 2012

Sut i beidio a chwffio'r etholiadau lleol - gwers bach gan y Lib Dems Cymreig

Mae'n debyg gen i nad yw'n gwbl anisgwyl i'r Blaid Lafur Gymreig geisio ymladd eu hetholiadau llywodraeth leol trwy eu stwffio i gyd destun Prydeinig, a'u cyflwyno fel refferendwm ar y glymblaid amhoblogaidd sy'n rheoli yn Llundain. 'Dydi record Llafur mewn llywodraeth leol yng Nghymru ddim yn rhywbeth maent am i'r etholwyr feddwl gormod amdano.

Ond yr hyn sy'n fwy anisgwyl ydi bod y Lib Dems 'Cymreig' yn ceisio gwneud yr un peth. Dyna maent yn ei wneud a barnu oddi wrth eu darllediad gwleidyddol heno o leiaf. Doedd yna ddim son am y cynghorau sy'n cael eu harwain gan eu plaid yng Nghymru, a dweud y gwir doedd yna ddim son am Gymru o gwbl. Roedd pob dim wedi ei ganoli ar Nick Clegg a'r gwahanol ryfeddodau mae'n honni iddo eu cyflwyno fel dirprwy brif weinidog.

Rwan, mi fyddai dyn yn disgwyl y byddai'r Lib Dems yng Nghymru eisiau hoelio'r sylw ar eu cynghorau cymharol effeithiol yng Nghymru, a chuddio eu harweinyddiaeth amhoblogaidd yn San Steffan. Mae'n strategaeth y byddai unrhyw ffwl yn dod ati, bron iawn heb feddwl. Mae'r ffaith eu bod yn arddel y strategaeth idiotaidd o ganu clodydd eu plaid seneddol Brydeinig amhoblogaidd yn dangos yn gliriach na dim mai'r Lib Dems ydi'r blaid fwyaf llywaeth Brydeinig o'r pleidiau Cymreig.

Sunday, April 15, 2012

Un gair bach arall am helynt pamffledi Trelai

Un o'r cynghorwyr sy'n gyfrifol am yr holl helynt ynglyn a'r pamffled gwrth Gymreig yn Nhrelai ydi Russell Goodway, neu Russell Goodwage fel y cai ei adnabod yn ol yn y dyddiau pan roedd yn arwain Cyngor Caerdydd.



Bydd y rhan fwyaf ohonoch o bosibl yn cofio Russell fel y boi a arweiniodd Llafur i anialdir yn nhermau llywodraeth leol yng Nghaerdydd. Yn wir cymaint ei amhoblogrwydd fel bod son ar led bod neb llai na'i aelod Cynulliad ar y pryd, Rhodri Morgan, wedi cynllwynio i'w gael i golli ei sedd i ymgeisydd annibynnol yn 2004. Yn anffodus llwyddod i gadw ei sedd.

Aeth ymlaen i arwain Siambr Fasnach Caerdydd i ddifancoll ariannol - bu'n rhaid i'r Siambr ddod i ben oherwydd na allai dalu yn ol dyledion o tua £1.5m, a chollodd 35 o bobl eu gwaith.

'Dydi bod ynghanol smonach ddim yn brofiad newydd i Russell Goodway o bell, bell ffordd.

Saturday, April 14, 2012

George yn dychwelyd i Orllewin Caerdydd

Ymddengys bod ysbryd George Thomas, aka Arglwydd Tonypandy yn dal i droedio strydoedd Gorllewin Caerdydd.

Mae'n rhyfedd mor anodd ydi hi i Lafur y De gael gwared o'i thueddiadau llwythol, secteraidd. Efallai mai'r gwir ydi bod secteriaeth llwythol yn rhan o wead y blaid, ac na fydd byth yn llwyddo i ryddhau ei hun rhagddynt.

Friday, April 13, 2012

Gig Llanberis nos Wener

Beth am fynd i gig sydd wedi ei threfnu gan Gangen Llanberis o'r Blaid? Mae'r gangen wedi atgyfodi yn ddiweddar ac yn awyddus i gael pethau'n symud unwaith eto - ac maen nhw am gychwyn ar eu gweithgareddau efo gig.

Gwibdaith Hen Fran a Dafydd Iwan fydd wrthi, ac mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal yng Ngwesty'r Dolbadarn am 8.30 (nos Wener Ebrill 20). Mae'r tocynnau yn hynod rhad - £5 yr un. Er mwyn sicrhau tocyn ffoniwch Eurig ar 07930148999 Gwil ar 07979740676 neu Olwen ar 07970983396.

(sori Eurig - 'dwi'n dal i gael trafferthion bach technegol yma wrth drio cyhoeddi'r poster - mi sortia i pethau allan ar ol cyrraedd adref).

Thursday, April 12, 2012

Llais Gwynedd a thref Caernarfon

A finnau mor bell o lygad y ffynnon mae newyddion yn fy nghyraedd o Gaernarfon bod Llais Gwynedd yn ofnadwy o flin bod Cangen Caernarfon o Blaid Cymru wedi cyfeirio mewn pamffled at eu cynlluniau ar gyfer hyd at 700 o swyddi yng Nghyngor Gwynedd.

Yn wir roeddynt mor flin nes mynd ati i blagio'r Caernarfon & Denbigh Herald i redeg stori yn dweud fod y Blaid yn dweud celwydd am Lais Gwynedd. Ni redwyd y stori gan yr Herald oherwydd bod y sylwadau yn y pamffled yn digwydd bod yn wir.

'Dydi'r Blaid yng Nghaernarfon nag yn unman arall ddim yn gwneud honiadau nad ydynt yn wir. Rhag bod yna unrhyw amheuaeth, dyfynnaf y sail i'r sylwadau:

 
Llythyr Daily Post, 13 Ionawr 2012 sylwadau gan Owain Williams, 'we would look to restructure the staffing levels at the council's top end - employing around 700 upper and middle management is a luxury we can't afford.'
 
Golwg 360 (gwefan), 20  Ionawr 2012, teitl 'Llais Gwynedd v Plaid Cymru: ffrae swyddi' Owain Williams yn dweud: Yn ôl y Cynghorydd Owain William mae lle i “chwynnu” ar y nifer o bobol sy’n gweithio yn reolwyr ar rannau’r cyngor. “Mae 600 o middle-management i gael yng Nghyngor Gwynedd,” meddai Owain Williams, “fyddai hynny byth yn digwydd yn y sector preifat.”

Mr Williams wrth gwrs ydi arweinydd Llais Gwynedd.

Rwan mae unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am strwythur staffio'r Cyngor yn gwybod y byddai mynd ar ol 700 o swyddi yn debygol o effeithio ar lawer o bobl sydd mewn swyddi digon cyffredin, ond hanfodol i weinyddiaeth effeithiol y Cyngor.

Mae llawer o'r swyddi hyn yn ardal Caernarfon, a byddai toriad sylweddol yn hoelen go fawr yn arch economi'r ardal - ardal sydd yn digwydd bod yn ardal Gymreiciaf Cymru o ran iaith.

Mae'r syniad yn rhan o batrwm ehangach gan Lais Gwynedd o ymddwyn mewn ffordd sy'n uniongyrchol groes i fuddiannau tref Caernarfon. Rydym wedi edrych ar hyn yn y gorffennol - gwrthwynebu grant i helpu Ysgol Syr Hugh Owen ddod tros broblemau ariannol tymor byr, gwrthwynebu'r datblygiad yn Ysgol yr Hendre - buddsoddiad o £10m yn un o wardiau mwyaf difreintiedig y Gogledd ac ati. Gellir cael y manylion yma.

Mae'r wers yn eithaf clir i etholwyr Caernarfon yn etholiadau mis Mai - 'Os ydych chi'n pleidleisio i Lais Gwynedd, rydych yn pleidleisio i grwp sydd a record cyson o wrthwynebu datblygiadau llesol i'r dref'.

Tuesday, April 10, 2012

Amgylchiadau ehangach yn rhoi cyfle i'r Blaid yn etholiadau lleol eleni?

Fel rydym wedi ystyried yn frysiog yn y gorffennol, mae'r hinsawdd etholiadol yn y DU wedi newid yn sylweddol ers i George Osborne fod ddigon caredig a defnyddio ei gyllideb i ddangos yn glir i ni bod ei lywodraeth yn llywodraethu yn bennaf er budd pobl gyfoethog - pobl fel aelodau'r llywodraeth. Yn wir, yn ol rhai o polau mae'r Toriaid ar 30% - lefel nad ydynt wedi gostwng iddo ers dyddiau Michael Howard.

Yr hyn sy'n ddidddorol- ac efo arwyddocad posibl o safbwynt Cymru, ydi methiant Llafur i gymryd mantais o'r sefyllfa - mae eu rhifau nhw hefyd yn gostwng neu'n fflat yn y polau. Mae'r polau, yn ogystal ag is etholiad Bradford West yn awgrymu mai pleidiau sydd y tu allan i gonsensus cyfforddus San Steffan sy' n elwa, gyda'r UKIP yn gwneud yn dda yn y polau a George Galloway yn sgubo i fuddugoliaeth yn is etholiad Bradford West. Mae'r polau a'r marchnadoedd betio yn awgrymu y bydd Llafur yn cael cweir yn etholiadau lleol yr Alban, ac y bydd Ken Livingstone yn methu yn ei ymgais i ail ennill marroliaeth Llundain.

Y cwestiwn diddorol i'n pwrpas ni ydi - i ba raddau y bydd y patrwm hwn yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru yn yr etholiadau lleol? 'Dydi'r cyfryngau Cymreig ddim yn comisiynu polau piniwn yn aml iawn, felly rydym mewn tywyllwch braidd ynglyn a'r tirwedd etholiadol yma.

Ers datganoli mae Cymru wedi tueddu i ddilyn ei thrywydd etholiadol ei hun i rai graddau - ddim yn adlewyrchu patrymau Lloegr yn llwyr, ond ddim yn dilyn trywydd mor wahanol a'r Alban chwaith.

Mae'r tystiolaeth sydd gennym yn awgrymu bod Llafur wedi ennill cefnogaeth yng Nghymru ers etholiad cyffredinol 2010. Oherwydd hynny mae pobl wedi tueddu i gymryd y bydd Llafur yn ad ennill tir yn etholiadau lleol 2012 wedi eu perfformiad trychinebus yn 2008. Ond tybed i ba raddau y bydd hynny'n digwydd - er i Lafur wneud yn gymharol dda yn etholiadau'r Cynulliad 2011, ni lwyddwyd i ad ennill mwyafrif - ac hynny mewn amgylchiadau hynod ffafriol. Cymysg, ar y gorau ydi eu record mewn is etholiadau cyngor wedi bod ers 2010.

Efallai bod gwleidyddiaeth ehangach nag un Cymru yn rhoi cyfle i bleidiau sydd y tu allan i'r consensws unoliaethol, neo ryddfrydig i ennill tir. Dim ond un plaid felly sydd yng Nghymru sydd a'r adnoddau a'r drefniadaeth i gymryd mantais o newid strwythurol o'r fath, a Phlaid Cymru ydi honno.

Fel rheol niweidiol ydi effaith patrymau gwleidyddol Prydeinig o safbwynt y Blaid. Gallai eleni - o bosibl - fod yn eithriad.

Thursday, April 05, 2012

Llais Gwynedd yng Nghaernarfon

O graffu ar y 'runners & riders' yn etholiadau Cyngor Gwynedd mae'n ddiddorol nodi bod tri ymgeisydd gan Llais Gwynedd yng Nghaernarfon. Mae hyn yn ddiddorol.


Mae'r canfyddiad (ffug fel mae'n digwydd) bod gormod o bres cyhoeddus yn cael ei wario ar lannau'r Fenai yn greiddiol i ddealltwriaeth Llais Gwynedd o'r Byd a'i bethau. A bod yn deg efo'r Llais, mae ganddynt pob hawl i gred o'r fath ac maent wedi gweithredu mewn modd cyson a'r camargraff hwn ers eu ffurfio. Maent o ganlyniad wedi gweithredu yn gyson mewn modd sy'n groes i fuddiannau Caernarfon.

Rydym wedi nodi yn ddiweddar y byddai eu cynllun i 'ail edrych' ar tua 700 o swyddi'r cyngor yn gallu bod yn hynod niweidiol i economi'r dref a'r cylch o'i gwmpas. Ond mae nifer o achosion eraill o weithredu'n groes i fuddiannau'r dref hefyd - rhedeg at y papurau newydd pan gafodd Ysgol Syr Hugh Owen grant arbennig gan yr Awdurdod Addysg i'w cynorthwyo i ddod tros problemau ariannol, troi trwyn ar y cynllun i godi adeilad newydd ar gyfer Ysgol yr Hendre, mynegi'r farn mai trefi 'mawr' fel Caernarfon ddylai gynnig lloches i'r cwbl o'r di gartref, gwrthwynebu gwerthu adeilad y Goleuad, gwrthwynebu'r camau a arweiniodd at ddatblygu ardal Doc Fictoria, ac ati.

Bydd yn ddiddorol gweld sut mae eu hymgeiswyr yn egluro hyn oll i'w darpar etholwyr.

Wednesday, April 04, 2012

Y Blaid i gadw Cyngor Gwynedd?

Wel, mae'n rhy fuan i ddweud i sicrwydd wrth gwrs - 'does yna'r un pleidlais wedi ei bwrw hyd yma, a mater i'r etholwyr ydi dewis cynghorwyr.

Ond mae'n argoeli yn dda. Eisoes mae cymaint a deuddeg aelod wedi eu dychwelyd yn yn ddi wrthwynebiad (38 ydi'r targed) ac mae gan y Blaid fwy o ymgeiswyr nag erioed o'r blaen. Mae'r nifer o ymgeiswyr Llais Gwynedd yn llawer is nag oeddem wedi ein harwain i ddisgwyl, ac mae'r ymdrech Llafur wedi ei chyfyngu i ardal Bangor a Chaernarfon.

Mae pethau'n edrych yn dda ar hyn o bryd.

Monday, April 02, 2012

Effaith wleidyddol y gyllideb

Ymddiheuriadau o flaen llaw am flogio ysgafn tros y dyddiau nesaf - dwi unwaith eto ymhell oddi cartref yn cadw golwg ar bethau i ddarllenwyr Blogmenai.

Beth bynnag, cyllideb llywodraeth San Steffan yr wythnos diwethaf ydi'r pwnc dan sylw heddiw. Mae'n bosibl - er nad ydi hyn yn sicr yn absenoldeb tystiolaeth polio cynhwysfawr - y bydd yr un digwyddiad yma'n newid y ffordd mae pobl yn canfod y llywodraeth yn llwyr.

Tra ei bod yn gyffredin i lywodraethau golli eu poblogrwydd, mae'n anarferol i un digwyddiad wneud hynny. Er enghraifft cyfres o sgandalau yn y 90au oedd yn gyfrifol am ddifa poblogrwydd llywodraeth Major, tra mai cyfres o streiciau wnaeth hynny i lywodraeth Callahagan yng ngaeaf 78-79. O bosibl roedd y poll tax ynddo ei hun yn ddigon i roi'r cei bosh ar boblogrwydd Thatcher, ond mi gymrodd ryfeloedd a chanfyddiad tros amser o ddiffyg gonestrwydd i newid y ffordd roedd pobl yn edrych ar lywodraeth Blair. Cyfuniad o'r argyfwng economaidd a sgiliau cyfathrebu difrifol o wael oedd yn gyfrifol am droi llywodraeth Brown o un boblogaidd i un hynod o amhoblogaidd.

Efallai bod yna resymeg economaidd y tu cefn i gyllideb yr wythnos diwethaf, ond o safbwynt gwleidyddol roedd yn tour de force mewn diffyg crebwyll - addasu'r cyfraddau treth er budd yr 1% cyfoethocaf, tra'n codi trethi ar bastai a phensiynwyr, gostwng lwfans plant ac ati. Byddai'r gyllideb ynddi ei hun yn ddigon gwael o safbwynt gwleidyddol, ond mae ei chyflwyno pan mae tros i hanner y cabinet yn filywnyddion yn cadarnhau canfyddiad oedd eisoes yn dechrau ffurfio - mai edrych ar ol y cyfoethog ydi prif genhadaeth y llywodraeth. Roedd y ffars wythnos diwethaf o idiotiaid a'u cefndir yn Eton yn rwdlan am garejes a jeri cans yn wyneb yr 'argyfwng' petrol yn atgyfnerthu'r syniad ymhellach, fel roedd y newyddion y gellir dylanwadu ar bolisi'r llywodraeth am 250k.

Tybed os bydd un araith yn ystod un prynhawn wedi bod yn ddigon i newid y tirwedd gwleidyddol yn llwyr? Cawn weld tros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.