Sunday, September 28, 2014

Golwg360 yn dal un o afiechydon y Bib

Ymddengys bod y stori hon wedi arwain arlwy newyddio Golwg360 am gyfnod go lew o'r penwythnos yma - bod UKIP yn sefydlu cangen yn y Rhondda.

Rwan, peidiwch a cham ddeall - dwi'n hoff o Golwg360, a fel rheol mae'n llwyddo i gynnig gwasanaeth sy'n wahanol ddarpariaeth Brydeinllyd arferol y cyfryngau newyddion Cymreig eraill. Ond wir Dduw, dydi sefydlu cangen gan blaid wleidyddol ddim yn stori.  Mae straeon am drefniadaeth mewnol pleidiau Cymreig yn weddol anarferol ar y gorau - ac mae yna rhywbeth gwirioneddol bisar am roi'r fath sylw i addasiad bychan iawn mewn trefniadaeth mewnol plaid wleidyddol.  Mae'n fater cyffredin i ganghenau o bleidiau gwleidyddol gael eu ffurfio, eu huno neu'i diddymu.  Fedra i ddim cofio i stori am ffurfio cangen hyd yn oed wneud y newyddion yn y gorffennol.

Rwan, mae rhywun yn deall bod UKIP yn dominyddu'r newyddion Prydeinig ar hyn o bryd, ond mae hyn yn swnio fel ymdrech wirioneddol bisar i wneud i'r newyddion Cymreig adlewyrchu'r newyddion Prydeinig - un o brif wendidau'r cyfryngau newyddion Cymreig.  Dylai Golwg360, y Bib ac ati ar pob cyfri adael i ni wybod am lwyddiannau etholiadol i UKIP yng Ngymru, twf yn eu haelodaeth, newidiadau polisi sydd a goblygiadau i Gymru ac ati.  Ond dydan ni ddim angen gwybod os ydyn nhw'n ffurfio un cangen diolch yn fawr iawn.  

Friday, September 26, 2014

Aelodaeth y Blaid Lafur yng Nghymru

Cyn ein bod wedi trafod rhifau aelodaeth yr SNP tros y dyddiau diwethaf, efallai ei bod werth cael cip ar rhywbeth cyffelyb sydd yn nes adref - aelodaeth y Blaid Lafur Gymreig. Rydym yn gwybod yn fanwl beth oedd yr aelodaeth yn 2010 oherwydd i'r blaid gyhoeddi canlyniadau yr etholiad am yr arweinyddiaeth etholaeth wrth etholaeth.

11,118 o aelodau oedd ganddynt bryd hynny - ac maent wedi eu dosbarthu tros y wlad fel a ganlyn:



Aberafon.      325

Aberconwy 155
Arfon 154
Alyn a G Dyfrdwy 305
Blaenau Gwent 310
Pen y Bont 288
Caerffili 315
Canol C/dydd 324
Gog C/dydd 408
De C/dydd 375
Gorll C/dydd 454
Dwyrain C/fyrddin 203
Gorll C/fyrddin 207
Ceredigion 146
De Clwyd 252
Gorll Clwyd 161
Cwm Cynon 309
D/for / Meirion 89
Llanelli 276
Merthyr 317
Trefaldwyn 86
Castell Nedd 391
Dwyrain Casnewydd 250
Gorll Casnewydd 346
Islwyn 275
Pontypridd 333
Preseli / Penfro 201
Rhondda 404
Dwyr Abertawe 212
Gorll Abertawe 325
Torfaen 359
Bro Morgannwg 373
Wrecsam 209
Ynys Mon  160
Gwyr 383
Delyn 269
Brych a Maesyfed 220
Mynwy 329
Ogwr 359
Dyffryn Clwyd 261
Rwan, tra'n cydnabod bod gan y Blaid Lafur Gymreig fwy o aelodau na'r un blaid arall yng Nghymru, dydi 11,000 ddim yn llawer o bobl.  Meddyliwch am y peth am funud.  Mae'r blaid yma yn dominyddu bywyd cyhoeddus yng Nghymru, yn dominyddu grym gwleidyddol yng Nghymru, yn cymryd mantais o'i gafael ar rym gwleidyddol i enwebu ei phobl ei hun i 'wasanaethu' ar gyrff cyhoeddus o Fon i Fynwy.

Ac eto does ganddyn nhw ddim llawer mwy o aelodau na sydd yna bobl yn byw yng Nghaernarfon, neu faint o bobl sy'n mynd i Barc y Sgarlets i weld gem ddarbi efo'r Gweilch.  Mae'n anodd gen i feddwl bod prin unrhyw wlad ddemocrataidd arall efo criw mor fach o bobl yn tra arglwyddiaethu tros fywyd cyhoeddus yn ei gyfanrwydd na sy'n digwydd yng Nghymru. Mae yna fwy o seiri rhyddion yng Nghymru nag aelodau o'r Blaid Lafur - sy'n beth rhyfedd braidd ag ystyried mai pobl sydd ar ol grym a dylanwad nad ydynt yn ei haeddu ydi'r mesyns yn amlach na pheidio. Byddai ymuno efo'r Blaid Lafur yn llawer gwell ffordd o ennill dylanwad anheg yn y Gymru sydd ohoni na mynd i lawr i'r loj i gymryd rhan mewn ymarferiad mymbo jymbo.

Ffigyrau wedi ei cymryd o'r fan hyn.  Amcangyfrif gen i ydi'r rhifau am y ddwy etholaeth gyntaf - am resymau amlwg. 

Wednesday, September 24, 2014

Y pol Cymreig diweddaraf - y neges bwysig

Mae'n ddiddorol bod y Bib a Golwg360 fel ei gilydd wedi dotio ar y gyfradd isel iawn o gefnogaeth i annibyniaeth (3%) a gofnodwyd yn y polBBC / ICM a gyhoeddwyd heddiw.  Roedd yna bol arall yr wythnos diwethaf oedd yn priodoli cefnogaeth llawer uwch i annibyniaeth yng Nghymru (17%), ond chafodd hynny ddim cymaint o sylw am rhyw reswm neu'i gilydd.

Ta waeth, nid dyna fy mhrif bwynt.  Mae'r canolbwyntio ar annibyniaeth yn peri i'r cyfryngau golli patrwm pwysicach o lawer.  Yn 2012 roedd Llafur yn polio mwy na 52% yng Nghymru, erbyn 2013 roedd hynny i lawr i 48%, ac eleni mae'n 42% - efo'r tri pol diwethaf yn eu rhoi ar 38%.  Dydi hyn ddim llawer uwch na'r hyn gawsant yn etholiad cyffredinol 2010 (36%).  Os bydd y cwymp yn eu cefnogaeth yn parhau byddant yn perfformio'n salach na wnaethant yn 2010 - ac roedd y perfformiad hwnnw ymysg y gwaethaf yn eu hanes yng Nghymru.  

Mae'n debyg bod tri pheth yn gyrru'r cwymp cyson yma yng Nghymru - perfformiad sal llywodraeth Carwyn Jones, ymysodiadau gan y wasg Doriaidd yn Lloegr ar lywodraeth Cymru a thwf UKIP.  Does yna'r un o'r sefyllfaoedd yna'n debygol o newid cyn mis Mai.  Bydd ymysodiadau'r Mail a'r Express yn mynd yn fwyfwy hysteraidd fel y bydd yr etholiad yn nesau - bydd llywodraeth Carwyn Jones yn cael ei ddefnyddio fel esiampl o'r 'erchyllderau' sy'n aros pawb yn y DU os etholir Miliband.  Mae UKIP wedi bod yn perfformio'n gryf mewn blynyddoedd diweddar ymysg y dosbarthiadau cymdeithasegol D ac E - grwpiau sydd yn cefnogi Llafur gan amlaf.

Mae'r blog yma wedi nodi yn aml mai un o'r patrymau mwyaf cyson yn hanes etholiadol Cymru ydi gallu'r Blaid Lafur i adeiladu cefnogaeth yn gyflym  a'i gadw pan mae'r Toriaid mewn grym yn San Steffan.  Mae'n ymddangos bod y patrwm hwnnw am gael ei dorri y flwyddyn nesaf.  Dyna ydi'r neges fwyaf arwyddocaol o'r pol yma. 

Tuesday, September 23, 2014

Y diweddaraf am aelodaeth yr SNP

Mae aelodaeth yr SNP wedi parhau i gynyddu ar gyflymder rhyfeddol ers fy mlogiad diwethaf - 51,284 ydi'r cyfanswm diweddaraf.  Mae ganddynt bellach fwy o aelodau na dwy o'r pleidiau Prydain gyfan -UKIP  a'r Lib Dems.  

Petaent yn blaid Prydain gyfan, a phetai ganddynt yr un graddfa o aelodaeth tros y DU byddai ganddynt 624,000 o aelodau - 200,000 mwy o aelodau na'r pleidiau eraill efo'i gilydd.  

Sunday, September 21, 2014

Llif o aelodau newydd i'r SNP

Un o ganlyniadau anisgwyl refferendwm ddydd Iau ydi cynnydd anferth yn aelodaeth yr SNP ers dydd Gwener.  Mae'n debyg y bydd y cynnydd hwnnw yn cyrraedd 10,000 tros yr oriau nesaf - gan fynd a chyfanswm aelodaeth y blaid o 25,000 i 35,000.  Yng nghyd destun gwleidyddiaeth gyfoes mae'r ffigwr hwn yn anferth.  

Petai plaid unoliaethol efo'r un gyfradd o aelodaeth tros y DU, byddai ganddi 420,000 o aelodau.  Dydi pob plaid unoliaethol efo'i gilydd ddim yn cyrraedd y cyfanswm yma.  Amcangyfrifir mai 187,000 o aelodau sydd gan y Blaid Lafur (gyda chanran uchel ohonynt yn byw yn Ne Ddwyrain Lloegr), 134,000 o aelodau sydd gan y Toriaid, 37,000 sydd gan UKIP a 44,000 aelod sydd gan y Lib Dems.  

Dwy o'r pleidiau unoliaethol fydd yn talu am yr hyn ddigwyddodd ddydd Iau - y Blaid Lafur a'r Lib Dems.  Bydd Llafur yn colli seddi yn yr Alban y flwyddyn nesaf, a byddant yn cael eu hunain ymhell y tu ol i'r SNP yn etholiad Holyrood yn 2016.  Ond bydd pethau'n waeth ar y Lib Dems.  Rhywbeth sydd heb gael llawer o sylw yn y cyfryngau ydi bod canran uwch o bleidleiswyr Lib Dem wedi fotio Ia na phleidleiswyr Llafur.  Bydd y Lib Dems yn cael eu sgubo o dir mawr yr Alban y flwyddyn nesaf.

Gyda llaw, mae'r Gwyrddion a'r SSP wedi ennill niferoedd sylweddol o aelodau tros y dyddiau diwethaf - ac mae yna hyd yn oed son i'r Blaid ennill rhai aelodau newydd hefyd.




Saturday, September 20, 2014

Y dyfodol i'r Alban

Dwi'n meddwl bod y tabl yma sydd wedi ei gymryd o bol ol refferendwm Ashcroft yn dangos beth sydd am ddigwydd yn yr Alban yn y dyfodol.  Noder bod y grwp 16-24 yn cynnwys degau o filoedd o fyfyrwyr o Loegr.  


Ai Llafur fydd yn dioddef fwyaf o ganlyniad i ddydd Iau?

Mae'n ddiddorol bod aelodaeth yr SNP wedi cynyddu'n sylweddol ers dydd Iau.  Ymddengys bod rhan o'r cynnydd hwnnw yn dod yn uniongyrchol o aelodaeth y Blaid Lafur. Rydym eisoes wedi son am yr is set o bol YouGov sy'n awgrymu bod Llafur bellach y tu ol i'r SNP - hyd yn oed ar lefel San Steffan.  

Mi'r ydan ni'n gwybod i 37% o bleidleiswyr Llafur bleidleisio Ia, a rydan ni hefyd yn gwybod i ugeiniau o filoedd o bobl gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yn sgil y refferendwm.  Mae yna gryn dipyn o ddrwg deimlad go iawn ar lawr gwlad yn yr Alban ar hyn o bryd, ac os llwyddith yr SNP i harnaesu hwnnw gallai eu cefnogaeth gynyddu yn sylweddol.  

Ar ben hynny - fel rydym eisoes wedi trafod - byddai etholiad cyffredinol yn Lloegr sydd wedi ei ymladd ar y cwestiwn o hawliau Lloegr mewn cyfundrefn newydd yn un a fyddai'n anodd iawn i Lafur ei hennill.  Mae'n fwy na phosibl bod Darling, Brown, Murphy ac ati wedi sicrhau y bydd Llafur ar y cyrion gwleidyddol yn y DU am ddeg neu bymtheg mlynedd.  

Friday, September 19, 2014

Rydan ni'n troedio tirwedd newydd

Gwirioneddol dor calonus.  

Y pedwar awdurdod efo'r mwyaf o dlodi, a'r mwyaf o amddifadedd yn yr Alban yn pleidleisio Ia yn y gobaith o symud i drefn gallach o lywodraethu - trefn sydd ddim yn creu'r lefelau rhyfeddol o uchel o anghyfartaledd a thlodi a greir gan y wladwriaeth Brydeinig.  Trefn sy'n deg a phawb.  Cafodd y gobaith hwnnw ei chwalu gan  o bobl gyfoethog  - yn wleidyddion, uwch reolwyr banciau ac arch farchnadoedd, perchnogion papurau newydd, gohebwyr y Bib, ser pop, perchnogion busnesau mawr - yn bwlio, gweniaethu, bygwth a chrafu pob yn ail.  Maent wedi gwneud yr hyn maent pob amser yn llwyddo i'w wneud - amddiffyn eu buddiannau eu hunain ar draul pawb arall.

Y bobl sydd am fod yn byw yn yr Alban am chwe deg neu saith deg neu wyth deg o flynyddoedd eto'n pleidleisio'n drwm tros ddyfodol gwell, a'u neiniau a'u teidiau yn pleidleisio'n drwm yn erbyn - ac yn colli cyfle unwaith mewn bywyd i adael y etifeddiaeth fwyaf gwerthfawr y gallant fod wedi ei adael i'w wyrion a'u wyresau - y cyfle i weithio efo'u gilydd i greu gwlad gyfoethog, goddefgar a chyfartal. Rhywbeth na chawsant yn ystod eu bywydau eu hunain Mae'r etifeddiaeth honno wedi ei thaflu i'r pedwar gwynt erbyn heno. Tor calonus.

A rwan rydan ni'n lle ydan ni - a dydi'r fan honno ddim yn lle da o safbwynt Cymru.  Yn y panig gwyllt i gadw olew Mor y Gogledd a'r canolfannau WMDs addawyd mwy a mwy  o bwerau i'r Alban oddi mewn i wladwriaeth Brydeinig, ac o ganlyniad mae holl wrthdaro mewnol y setliad presennol wedi ei ddinoethi'n llwyr.  Mae mwy o rym i'r Alban am arwain at fwy o rym i Loegr.  Mi fydd y broses o wireddu hynny yn ail lunio'r tirwedd gwleidyddol - ac yn ol pob tebyg y tirwedd etholiadol hefyd.  

Bydd yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn cael ei ddominyddu gan gwestiynau cyfansoddiadol - a llawer o'r rheiny yn ymwneud a hawliau Saeson yn y wladwriaeth Brydeinig newydd  Mae'r project datganoli wedi colli ei gydbwysedd yn llwyr.  Dydi Llafur ddim am ennill etholiad sy'n cael ei hymladd yn y tirwedd hwnnw - y Toriaid sydd am wneud - efo UKIP hefyd yn elwa ac yn eu llusgo i'r Dde.  Ni fydd perfformiad trychinebus Ed Milliband ar ei ymweliadau a'r Alban wedi helpu chwaith.

Mi fydd pwy bynnag fydd yn arwain yr SNP (Sturgeon 99% sicr), Peter Robinson, Martin McGuiness, Carwyn Jones a Cameron yn llunio'r wladwriaeth newydd.  Byddwn yn cael ein cynrychioli gan ddoli glwt o ddyn sy'n meddwl mai ufudd-dod i'w feistri yn Llundain ydi'r rhinwedd gwleidyddol mwyaf, a bydd ynghanol pobl wrthnysig, penderfynol a chaled.  Yr hyn y byddwn i yn ei gael ydi'r hyn fydd pobl eraill yn caniatau i ni ei gael.  Byddwn yn cael unrhyw frywsion sy'n digwydd syrthio oddi ar y bwrdd.  






Thursday, September 18, 2014

Beth ddigwyddith heno?

Mae Blogmenai yn darogan etholiadau fel rheol, ond dwi'n cael hon yn uffernol o anodd.  Mi fydd pawb sy'n darllen Blogmenai yn rheolaidd yn gwybod fy mod efo gwendid bach am fetio gwleidyddol.

Mi'r oeddwn yn betio ar bethau eraill fel rygbi ers talwm, ond mi'r oeddwn yn anobeithiol o wael an wneud hynny - felly mi roddais y gorau iddi.  Ond ar wleidyddiaeth y byddaf yn betio y dyddiau hyn. Dwi wedi cael ychydig mwy o lwyddiant efo betio gwleidyddol, ond mae yna resymau am hynny.

Y peth i'w gofio efo betio ydi eich bod yn betio yn erbyn betwyr eraill yn y bon - felly os oes gennych well gwybodaeth na'r rhan fwyaf o bobl, mi fyddwch - at ei gilydd - yn ennill.  Y tair bet wleidyddol fwyaf proffidiol i mi oedd un ar Leanne Wood i ennill arweinyddiaeth y Blaid, un ar i Lyn Boylan ddod ar ben y pol yn etholiad Ewrop yn Nulyn eleni, ac un ar gynnydd ym mhleidlais y Blaid yn etholiad Cynulliad 2007.  

Roeddwn mewn sefyllfa llawer cryfach na'r rhan fwyaf o fetwyr yn etholiad Leanne - dwi'n'nabod llawer iawn o Bleidwyr Arfon.  Mae mwy o aelodau gan y Blaid yn Arfon na'r unman arall, ac mae Arfon ymhell iawn o'r Rhondda.  Roedd y ffaith bod tua hanner aelodau'r Blaid roeddwn yn eu hadnabod yn Arfon yn bwriadu pleidleisio i Leanne yn ei gwneud yn weddol sicr ei bod am ennill. 

Yn achos etholiad 2007 roedd gen i fynediad i'r fanylion y ganfas yn Arfon, ac roedd yn well na chanfas 2003.  Doedd honno ddim mor saff a'r bet ar Leanne - efallai bod rhywbeth rhyfedd yn digwydd yn Arfon - ond roedd yn rhoi syniad go lew o'r hyn oedd am ddigwydd.

Doedd gen i ddim gwybodaeth mewnol yn etholiad Euro 2014 yn Nulyn, ond roedd gen i ychydig o wybodaeth hanesyddol.  Roedd y polau yn rhoi ymgeisydd Fine Gael, Brian Hayes yn gyntaf a Boylan yn ail.  Roedd hi'n bell y tu ol i Hayes, ond roedd yn ail clir.  Mae gan Fine Gael hen hanes o dan berfformio yn Nulyn, ac mae gan y polau hanes o amcangyfrif gormod o gefnogaeth i wleidyddion adain Dde, dyfeisgar yn y ddinas.  Doedd hon ddim yn fet saff o bell ffordd - ond mae 4/1 yn bris da.

Daw hyn a ni at refferendwm heddiw.  Mae yna dri rheswm gweddol gryf i feddwl mai Na fydd yr ateb - y polau, y marchnadoedd betio a'r ffaith bod y cyfryngau yn unfrydol elyniaethus i annibyniaeth i'r Alban - o'r Bib i Sky. O'r Guardian i'r Mail.  Mi gymerwn ni nhw un fesul un.  

Mae yna rai sy 'n dweud bod edrych ar brisiau betio'n ffordd cystal a'r un i ddarogan etholiadau.  Mae'r marchnadoedd yn awgrymu'n gryfach na'r polau mai Na fydd yn mynd a hi. Adlewyrchu faint o bres sy'n cael ei fetio (a barn y bwci i raddau) mae prisiau marchnadoedd betio.  Mae yna fetio trwm wedi bod ar Na - ond yn Lloegr.  Mae'r rhan fwyaf o'r betio yn yr Alban wedi bod ar Ia.  Mae pobl sy'n betio yn Lloegr yn cael eu gwybodaeth i gyd bron o'r cyfryngau prif lif Seisnig.  Mae'r bobl sy'n betio yn yr Alban hefyd yn cael y cyfryngau prif lif - ond mae'n nhw'n cael gwybodaeth o'r ymgyrch llawr gwlad a gwefannau cymdeithasol.  O ganlyniad mae eu canfyddiad o'r hyn sy'n digwydd yn wahanol. Dydi'r marchnadoedd betio ddim yn arbennig o ddibynadwy yn yr amgylchiadau sydd ohonynt.

Mae'r polau bron i gyd yn dweud mai Na fydd y canlyniad - er bod pethau'n weddol agos erbyn hyn.  Dwi wedi trafod eisoes pam bod lle cryf i beidio rhoi gormod o goel ar y polau y tro hwn.  Mae yna amheuaeth am addasrwydd y fethedoleg - ac mae yna hanes o pob pol yn cael pethau'n anghywir yn y gorffennol - 1992 ydi'r esiampl enwocaf.  Yn fwy perthnasol mi dan gyfrifodd pob pol - fwy neu lai - bleidlais yr SNP yn etholiadau Hollyrood yn 2011 - a than gyfrifo o lawer iawn yn yr etholiadau rhanbarthol.  Mae tan gyfrifiad bach am wneud y gwahaniaeth yma.

Ceir cred bod y sawl sy'n dweud nad ydynt yn gwybod yn fwy tebygol o gadw at y status quo ar ddiwrnod pleidleisio - ac efallai bod gwirionedd yn hynny.  Ond mae yna ddadl mai pobl sydd eisiau cael eu perswadio i bleidleisio Ia ydi'r bobl hyn yn yr achos yma - ac mae yna fymryn o dystiolaeth anecdotaidd i gefnogi hynny - Andy Murray heddiw, Newsnight neithiwr - yn ogystal a phatrwm tros yr wythnos neu ddwy diwethaf o symudiad at Ia gan y sawl nad oeddynt yn siwr.

Ac wedyn dyna 'ni 'r ymdriniaeth gyfryngol.  Mae'n anodd gwadu bod llifeiriant di baid o bropoganda yn rhywbeth anodd iawn i fynd i'r afael efo fo - a go brin i unrhyw etholiad gael ei hennill yn wyneb pwysau felly yn y gorffennol.  Ond mae dau ffactor yn milwrio o blaid Ia y tro hwn - yr ymgyrch llawr gwlad enfawr sydd wedi mynd ati yn systematig i berswadio pobl a'u darparu efo ffeithiau a gwefannau cymdeithasol - mae'r ochr Ia wedi dominyddu yn y fan honno.  Yn wir mae celwydd ar y teledu a'r radio yn aml yn cael ei gywiro ar y We o fewn eiliadau i gael ei wyntyllu.  Dydi hyn ddim yn unioni'r anghydbwysedd - ond mae'n helpu.

Ychwanegwch at hynny drefn etholiadol yr SNP, yr ynni rhyfeddol sydd wedi ei ryddhau ar lawr gwlad a'r fyddin o weithwyr sydd gan yr ochr Ia - ac mae pethau'n edrych yn bosibl.  Yn fwy na phosibl efallai.

Dwi heb fod yn ddigon hyderus i fetio'n drwm y tro hwn ddim o bell ffordd - ond  mae gen i fet fach neu ddwy yn agored.  Mi gefais fet wythnosau'n ol ar i Ia gael mwy na 43% - honno ydi fy met fwyaf.  Mae gen i fet hefyd ar i Glasgow bleidleisio Ia - wedi ei gwneud ar sail ymweliad a'r ddinas honno.  Dwi hefyd wedi rhoi bet ar yr ochr Ia i ennill, ac un fach iawn ar yr ochr Ia i gael mwy na 55%. 

Betio efo'r galon yn bennaf efallai - ond dwi 'n meddwl bod yna rhywfaint o sail rhesymegol hefyd.


Pwy sydd yn fotio Na?

Os ydi pol STV neithiwr yn gywir pobl sydd ddim yn rhentu eu ty, pobl sydd tros 55 oed, y sawl sydd heb blant yn byw yn y ty a'r sawl sydd wedi ymddeol.  Mae mwyafrif pobl pob sector arall o'r boblogaeth yn pleidleisio Ia.  

Tuesday, September 16, 2014

Greenock heno

Tair mil o bobl dwi'n deall.

Tri pol yn dweud yn union yr un peth

Mae yna dri pol heno yn rhoi Na ar y blaen 52/48.

Diddorol de - ond nid anisgwyl.  Mae polau yn aml yn dod at ei gilydd at ddiwedd ymgyrch etholiadol - ond dydi hynny ddim yn golygu eu bod nhw'n mynd yn gywirach - rhywbeth arall sydd ar waith.

Dydi hi ddim yn beth da i gwmni polio wneud smonach o bol - bod yn wahanol i bawb arall a bod yn anghywir.  Does yna ddim gwell ffordd o golli busnes.  Felly maent yn tueddu i gopio methedoleg ei gilydd fel mae'r ymgyrch yn mynd rhagddi.  Pen draw hyn ydi polau sy'n dweud fwy neu lai yr un peth erbyn diwedd ymgyrch - dwi'n credu mai herding ydi'r term Americanaidd am y patrwm yma.   

George Square Glasgow heno




Pam y gallai'r polau fod yn gwbl anghywir

Ian James Johnson soniodd y diwrnod o'r blaen ar ol y rali yng Nghaerdydd ei fod o'r farn y gallai'r polau fod yn anghywir ac ei bod yn fwy na phosibl bod y naill ochr neu'r llall am ennill yn rhwydd.  Dwi'n tueddu i gytuno - dydi joban y polwyr ddim yn un i'w chwenych y tro hwn.

Mae yna nifer o resymau i gredu bod y polau ymhell ohoni:

1). Mae methodoleg polio fel rheol wedi ei fireinio trwy gymharu perfformiad efo etholiadau go iawn.  Does yna ddim refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban wedi bod o'r blaen.  
2).  Mae'r rhan fwyaf o gwmniau polio yn addasu eu canfyddiadau yn ol eu barn o debygrwydd pobl i bleidleisio.  Mae addasiadau felly yn amhosibl y tro hwn oherwydd bod y gyfran sy'n pleidleisio am fod mor uchel.
3).  Mae mwyafrif y cwmniau polio yn gwneud hynny ar y We.  Mae pobl yn gwirfoddoli i gymryd rhan yn yr ymarferiadau hyn.  Mae'n fwy na phosibl bod yr un pobl yn gwirfoddoli i sawl cwmni.  Os felly yr un pobl sy 'n cael eu polio i raddau helaeth - mae hynny'n gwneud camgymeriadau polio yn llawer, llawer mwy tebygol.
4).  Mae yna ugeiniau lawer o filoedd o bobl wedi cofrestru i bleidleisio yn ystod yr wythnosau diwethaf.  Mae'n debygol na fydd mwyafrif llethol y rhain yn cael eu polio.
5).  Mae yna hanes o gam bolio mewn refferenda.  Ceir refferenda yn aml yn yr Iwerddon gan na ellir addasu'r cyfansoddiad heb gynnal un.  Mae'n gyffredin i'r polau wneud smonach o bethau.
6).  Dydi polio ffon ddim yn dda am ddal dynion ifanc - mae'r grwp yma yn llai tebygol o ateb cwestiynau canfaswyr na neb arall.  Dydi hyn ddim yn gwneud gwahaniaeth mawr gan amlaf am nad ydyn nhw'n deueddol o fotio chwaith.  Ond mae'n debyg y byddant yn fotio mewn niferoedd mawr yn y refferendwm yma.
7).  Dydi polio ffon ddim yn cysylltu efo pobl sydd ond efo ffon symudol fel arfer.  Eto dydi pobl sydd heb linell yn mynd i 'r ty ddim yn tueddu i fotio fel arfer - ond byddant y tro hwn.
8).  Mae cefnogaeth mewn refferenda yn llai sefydlog na chefnogaeth pleidiol.  Mae'r rhan fwyaf o bobl mewn etholiad yn y diwedd yn pleidleisio i'r sawl wnaethon nhw bleidleisio trosto o'r blaen.  Does yna ddim. 'o'r blaen' i gyfeirio'n ol ato'r tro hwn.  Gallai pethau symud yn gyflym iawn ar y diwedd.

Mae'n fwy na phosibl y bydd yr hyn ddigwyddodd yn Etholiad Cyffredinol 1992 yn digwydd eto, ac y bydd y polau oll yn anghywir.

Monday, September 15, 2014

Lluniau o Lundain y tro hwn

Gan fy mod wedi postio lluniau o gynulliadau mawr yr ochr Ia, byddai'n well i mi bostio lluniau o gynulliad mawr o blaid yr ochr Na o amgylch symbol imperialaidd enwog yng nghanol dinas Llundain.  Fyswn i ddim eisiau i neb feddwl fy mod mor unllygeidiog a'r Bib. 

Dwi'n siwr y byddwch yn cytuno y bydd y delweddau hyn yn dwyn perswad pwerus ar drigolion Govan a Kelvinside i fotio Na.  








Sunday, September 14, 2014

Pam bod y Bib wedi ei cholli hi

Mae'n hen gwyn gan Flogmenai bod y Bib yn strwythurol - anymwybodol bron - yn gefnogol i'r sefydliad Prydeinig a chenedlaetholdeb Prydeinig ac yn elyniaethys i genedlaetholdeb Celtaidd.

Mae honna wedi ffrwydro i'r wyneb yn yr Alban yr wythnos diwethaf ac wedi arwain at o bosibl bum mil o bobl yn hel o gwmpas pencadlys BBC Scotland ar lannau'r Afon Clyd i brotestio heddiw.  Pedwar peth o'r gorffennol agos sydd wedi dod a phethau i hyn.  

Y cyntaf ydi penderfyniad dw lali Nick Robinson i ddweud celwydd noeth ar y newyddion ddydd Mawrth.  Roedd wedi gofyn cwestiwn i Alex Salmond mewn cynhadledd i'r newyddion ddydd Mawrth, ac roedd hwnnw wedi mynd ati i roi ateb llawn, cyn mynd  ymosod ar y Bib.  Wnaeth Robinson ddim cymryd hyn yn dda. Honodd  na chafodd ateb i'w gwestiwn, er i 100,000 weld y fideo ar y We  cyn Newyddion 6  ac i filiynnau weld yr ateb yn fyw.  

Yr ail ydi'r ffaith i'r Bib neidio i ddilyn naratif Cameron wedi i hwnnw fwlio'r archfarchnadoedd i honni - i gyd ar yr un pryd - y byddai prisiau yn codi yn sgil annibyniaeth.  Tyllwyd hen straeon i fyny gan y Gorfforaeth o'r gorffennol cymharol bell i bwrpas atgyfnerthu'r naratif.  Ni ofynwyd y cwestiynau amlwg - Pam bod nifer o archfarchnadoedd yn dweud yr un peth ar yr un pryd, a pham ddiawl y byddai codi prisiau uwch yn fater o ofid i archfarchnad?  Dydi'r ffaith iddi ddod yn amlwg i benaethiad yr archfarchnadoedd gael eu galw i Stryd Downing i gael eu bwlio heb fod o gymorth.

Mae'r trydydd yn gysylltiedig a'r ail.  Mae lle i gredu bod Stryd Downing wedi bod yn rhyddhau gwybodaeth masnachol sensetif i Robinson i bwrpas ei helpu efo'i naratif gwrth annibyniaeth.

Ac yn bedwerydd mae'r Bib wedi bod yn cynrychioli raliau anferthol o blaid annibyniaeth yng nghanol dinasoedd mawr yr Alban efo lluniau o chwech neu saith o bobl sydd wedi eu tynnu o'r dorf.

Rwan dydi hyn ddim yn newydd - cafwyd protest y tu allan i bencadlys y Bib yn Glasgow yn erbyn celwydd a phropoganda'r Bib tua mis yn ol.  Roedd pawb yn dal cerdyn evo rhif arno i fyny.  Y rhif uchaf oedd tua 1,200.  Cyfeiriodd y Bib yn frysiog at y digwyddiad gan honni mai 400 o bobl oedd yn bresenol.

Ond yr hyn sy'n wahanol ar hyn o bryd ydi bod y Bib o dan bwysau - mae yna bosibilrwydd gwirioneddol bod eu hannwyl Deyrnas Unedig yn syrthio'n ddarnau o dan bwysau'r anghyfiawnder cymdeithasol sydd wedi ei adeiladau i mewn i'r wladwriaeth ei hun.  O dan amgylchiadau felly mae rhagfarnau yn torri i'r wyneb go iawn - ac mae'r Bib wedi gadael iddi'i hun ymddwyn fel Pravda ar steroids.  


Ac ychydig o luniau o rali Caerdydd ddoe

Ychydig o luniau o'r Bae ddoe - ac erbyn meddwl y tro cyntaf i lun o awdur Blogmenai ymddangos ar y blog - ar ol ymhell tros 2,000 blogiad.










Peidiwch a disgwyl gweld hwn ar y Bib chwaith

Protest yn  Glasgow i brotestio yn erbyn ymdriniaeth unochrog y Bib o'r refferendwm.











Y polau eraill

Efo'r holl bolau refferendwm yma o'r Alban, mae'n hawdd anghofio bod polio arferol yn mynd rhagddo fel arfer - ac mae hwnnw'n awgrymu bod agwedd y Blaid Lafur at annibynniaeth i'r Alban yn gwneud niwed sylweddol iawn i'r Blaid honno.  Mae'n hawdd anghofio bod yr SNP yn gwneud yn llawer gwell yn etholiadau Senedd yr Alban na rhai San Steffan.  Ond dyma mae is set o bolio diweddaraf YouGov yn ei awgrymu.


@UKELECTIONS2015: YOUGOV

Scottish voting intentions

SNP 34%
LAB 31%
CON 17%
GREEN PARTY 6%
UKIP 5%
LIBDEMS 5%

A dyma oedd canlyniadau'r Alban yn 2010.  

FULL SCOTLAND SCOREBOARD


PartySeatsGainLossNetVotes%+/-%
Labour410001,035,52842.0+2.5
Liberal Democrat11000465,47118.9-3.7
Scottish National Party6000491,38619.9+2.3
Conservative1000412,85516.7+0.9
UK Independence Party000017,2230.7+0.3
Green000016,8270.7-0.3
British National Party00008,9100.4+0.3
Trade Unionist and Socialist Coalition00003,5300.1
Scottish Socialist Party00003,1570.1-1.7
Christian Party00008350.0
Others000010,0000.4-0.6

Petai'r bleidlais ddydd Iau yn 'Na' a phetai'r SNP yn gallu hoelio'r bai am hynny ar y Blaid Lafur, gallai'r goblygiadau i Lafur fod yn ddifrifol iawn.