Sunday, November 25, 2007

Fianna Fail a Phlaid Cymru

Gwn ei bod yn rhyfedd i gymharu plaid Wyddelig sydd wedi treulio'r rhan fwyaf o'i hanes yn ymarfer grym yn yr Iwerddon, gyda phlaid Gymreig sydd wedi treulio'r rhan fwyaf o'i hanes ar gyrion gwleidyddiaeth prif lif, ond mae cymhariaeth i'w gwneud a gwers i'w dysgu, yn arbennig cyn bod y Blaid bellach mewn grym ar lefel cenedlaethol.

Fianna Fail ydi’r blaid wleidyddol fwyaf o ddigon yn yr Iwerddon. Mae ganddi fwy o aelodau, mwy o aelodau etholedig a mwy o gefnogaeth na’r un blaid arall ar yr ynys. Mae hefyd ymhlith y pleidiau gwleidyddol mwyaf llwyddianus yn y byd. Cafodd ei ffurfio yn 1926 ac ers dod i rym yn 1932 bu mewn llywodraeth o 1932–48, 1951–54, 1957–73, 1977–81, 82, 1987–94, and since 1997 - 2007. Ychydig iawn, iawn o bleidiau gwleidyddol democrataidd sydd a record y gellir ei gymharu a hyn.

Serch hynny, wedi crafu ychydig oddi tan y hanes moel daw’n amlwg ei bod yn blaid tra anarferol mewn ffyrdd eraill. Tros yr ychydig ddegawdau diwethaf mae dwsinau o’i chynrychiolwyr etholedig wedi bod ynghlwm a rhyw sgandal neu’i gilydd. Fel rheol materion yn ymwneud a cham ddefnydd o rym, neu gam ymddwyn ariannol sydd o dan sylw. Mae’r tri prif weinidog FF diweddaraf wedi cael eu cysylltu gyda rhyw sgandal neu’i gilydd. Yn wir caiff y blaid ei hariannu i raddau helaeth gan gwahanol fusnesau mawr Gwyddelig, ac mae’n joc gyda chryn dipyn o wirionedd iddi mai adain wleidyddol y diwydiant adeiladu ydi FF.



Gwleidyddiaeth anarferol sydd ganddi hefyd. Mae ei gwreiddiau yn y Rhyfel Cartref a’r bobl hynny a ymladdodd yn erbyn y cytundeb gyda Phrydain – ac fe’i hystyrir yn fwy gweriniaethol nag unrhyw blaid arall ag eithrio Sinn Fein. Serch hynny digon cyfnewidiol ydi ei gwleidyddiaeth mewn gwirionedd. O ran lleoliad gwleidyddol bydd yn ei chael yn eithaf hawdd i symud o’r dde i’r chwith ac yna’n ol i’r dde. Mae ei chefnogwyr yn ddosbarth gweithiol at ei gilydd, hyd yn oed pan mae ei gwleidyddiaeth yn gogwyddo i’r dde. Bydd ei chenedlaetholdeb hefyd yn amrywio yn ol y gofyn.

Dydi hi ddim yn cael problem llunio clymblaid efo’r Blaid Werdd ac ambell i weriniaethwr adain chwith adref, tra’n clymbleidio gyda phleidiau Pabyddol adain dde yn Ewrop. Pan fydd angen gall symud yn wleidyddol gyda chyflymder rhyfeddol. Er enghraifft yn dilyn methiant yn etholiadau lleol ac Ewropiaidd 2005, penderfynodd y blaid symud i’r chwith. Collodd Charlie McCreevey (arch geidwadwr cyllidol) – prif bensaer y Teigr Celtaidd yn ol llawer, ei le fel Gweinidog Cyllid a rhoddwyd ei swydd i Brian Cowan gyda’r briff o gynyddu gwariant cyhoeddus. Trawsnewidiodd hyn safle’r blaid erbyn etholiad cyffredinol 2007, a’i galluogi i ennill – yn groes o bob proffwydoliaeth.

Serch hynny y peth mwyaf eithriadol am y blaid ydi ei bod yn cael ei hystyried gan llawer o’i chefnogwyr fel plaid gwrth sefydliadol – er mai hi ydi’r sefydliad mewn gwirionedd. Mae hyn yn gryn gamp. Gellir cynnig sawl rheswm am hyn, y ffaith bod ei gelynion gwleidyddol (a elwir yn Fine Gael erbyn heddiw) yn apelio at bobl gyda swyddi sefydliadol yn aml, y ffaith mai cyn dadau gwleidyddol Fine Gael a sefydlodd drefn ar wlad cwbl ddi drefn – a bod y drefn honno wedi ei seilio ar y cytundeb gyda Phrydain a ddaeth a’r rhyfel Eingl Wyddelig i ben – cytundeb amhoblogaidd gyda chyfran helaeth o’r boblogaeth. Mae hefyd yn ffaith bod llawer o’i chefnogaeth yn ddibynol ar gefnogaeth bersonol gwleidyddion lleol sydd wedi adeiladu eu cefnogaeth trwy gynorthwyo pobl oddi mewn i’w milltir sgwar i gael eu ffordd – yn aml yn erbyn dymuniadau swyddogion cynghorau lleol, ac yn wir yn aml yn erbyn gofynion cyfraith gwlad. Mae’r tai enfawr sydd i’w gweld yn sefyll yng nghanol caeau ar hyd a lled Iwerddon (yn gwbl groes i reoliadau cynllunio) yn dysteb i rym y wleidyddiaeth yma. Gombeen politics ydi’r term ‘dwi’n meddwl.

Mae llawer y gellid ei ddweud yn erbyn gwleidyddiaeth y gombin – ond mae’n llwyr ddibynnol am ei fodolaeth ar sefyllfa lle mae pobl yn blaenori anghenion lleol. Mae’n ddibynnol ar falchder lleol. Mae balchder lleol yn greiddiol i gefnogaeth wleidyddol FF, mae’n rhywbeth na ellir ei ddiffinio’n llawn na’i gynrychiloi’n ystadegol, mae’n rym gwleidyddol hynod bwerys - a gall fod yn rym distrywgar yn ogystal ag yn gadarnhaol.

Dyma’r grym a alluogodd i gymunedau bychain, tlawd oroesi blynyddoedd erchyll y newyn mawr, cyfnod lle’r oedd cyrff marw yn pydru am fisoedd yn yr awyr agored ar hyd lonydd gorllewin Iwerddon am nad oedd neb ar gael i’w claddu. Dyma’r grym hefyd a wnaeth i’r cymunedau gorllewinol hyn anfon eu meibion dwy ar bymtheg oed allan i’r glaw gyda gynau hynafol i ymladd yn erbyn byddin anferth ymerdorol i waedu i farwolaeth yn mwd man ffermydd eu tadau, i gael eu cyrff wedi eu rhwygo gan arteithiwyr Castell Dulyn cyn cael eu dienyddio fel moch yng nghwrt Mountjoy. Y balchder yma ydi is strwythur cefnogaeth y blaid hyd heddiw – mae’n rym gwleidyddol mwy pwerys na’r un arall ar yr ynys.

Daw hyn a ni at Blaid Cymru – neu o leiaf y Blaid yn ei chadarnleoedd gwledig. Mae tebygrwydd rhwng natur ei chefnogaeth a natur cefnogaeth FF. Mae ei chefnogaeth wedi ei adeiladu i raddau helaeth ar gefnogaeth bersonol gwleiddion lleol. Fe’i gwelir gan y rhan fwyaf o’i chefnogwyr traddodiadol fel plaid leol sydd yn ei hanfod yn wrth sefydliadol a sy’n amddiffyn buddiannau lleol yn erbyn gofynion sefydliadau allanol.

Mae gwahaniaethau lu wrth gwrs – dydi cam ymddygiad ariannol ddim yn rhan o ddiwylliant gwleidyddol y Gymru Gymraeg. A dweud y gwir dydi cael gormod o bres prin hyd yn oed yn barchus yn y Gymru Gymraeg. Dydi siniciaeth gwleidyddol yn yr ystyr bod polisiau yn cael eu newid a’u gollwng yn ol anghenion y funud ddim yn nodweddu’r Blaid chwaith. Ond mae tebygrwydd pendant yn y ffordd mae cefnogwyr y ddwy blaid yn gweld eu pleidiau – endidau lleol sydd yn amddiffyn buddiannau pobl leol yn erbyn grymoedd amhersonol nad ydynt yn lleol o ran eu tarddiad.

Nid pawb o fewn y Blaid sy’n gweld pethau fel hyn wrth gwrs – ac yn amlwg mae ennill grym ar gynghorau ac yn genedlaethol yn troi y Blaid yn un sefydliadol. Mae gwrthdaro wedi bodoli ers degawdau rhwng Pleidwyr lleol sy’n gweld eu prif ddyletswydd yn nhermau amddiffyn buddiannau eu hetholwyr a rhai sydd a’u prif ddiddordeb mewn rheolaeth gwleidyddol. Mae’r maes cynllunio wedi bod yn brif faes y frwydr yma tros y blynyddoedd, gydag un ochr heb ffeuen o ots am reoliadau cynllunio tra bod y llall yn eu hystyried yn bwysig i sicrhau datblygiad cytbwys.



Mae’r hollt yma wedi amlygu ei hun yng nghynlluniau ail drefnu’r gwasanaeth addysgol yng Ngwynedd yn ddiweddar. Plaid Cymru sy’n dominyddu’r weinyddiaeth sy’n rheoli’r sir. Heb fynd yn rhy fanwl, cynllun ydi hwn i ail strwythuro’r holl wasanaeth addysg – bydd 29 ysgol yn cau, with yn agor a’r rhan fwyaf o’r gweddill yn colli eu hanibyniaeth yn yr ystyr na fydd iddynt bennaeth na chorff llywodraethu eu hunain. Mae’n gynllun radicalaidd, strategol a phell gyrhaeddol. Mae’n mynd llawer pellach na sy’n rhaid mynd i ymateb i’r problemau sy’n wynebu’r Gwasanaeth Ysgolion.

Bydd yn trawsnewid y ddarpariaeth addysg ac yn amddifadu cymunedau o’u hysgolion neu o’u rheolaeth tros eu hysgolion. Mae hefyd yn adlewyrchu buddugoliaeth llwyr adain reolaethol (managerial) y Blaid yng Ngwynedd tros yr adain gwrth sefydliadol. Bydd hefyd yn trawsnewid yn llwyr ganfyddiad pobl o’r Blaid – ac mae tra arglwyddiaeth y Blaid yng Ngwynedd tros y degawdau wedi bod yn ddibynol i raddau helaeth ar natur y canfyddiad hwnnw. Bydd goblygiadau i hyn a fydd yn dryllio delwedd draddodiadol y Blaid, ac yn effeithio ar wleidyddiaeth Gwynedd am flynyddoedd. Yn fwyaf sydyn y Blaid ydi’r sefydliad, a’r bygythiad.

Fel Pleidiwr i flaenau fy mysedd charwn i byth weld y Blaid yn ymdebygu i FF ac rwyf yn sylweddoli bod rhaid i blaid sydd am reoli fod a gweledigaeth reolaethol. Ond, mae gwers i’w dysgu gan blaid fel FF – sef bod llwyddiant etholiadol plaid yn ddibynol ar ddeall y rhesymau pam bod pobl yn cefnogi’r blaid honno – a gallu chymryd ystyriaeth o hynny wrth ffurfio polisi. Mae FF yn deall hyn i’r dim, ‘dydi arweinyddiaeth y Blaid yng Ngwynedd ddim yn deall nature ei chefnogaeth hithau.

Dydi cymunedau bach gorllewinol Cymru heb ddioddef fel rhai Iwerddon, ond mae balchder lleol yr un mor bwysig i’w hunaniaeth - ac mae'r hunaniaeth yn un anarferol. Mae'n hunaniaeth sydd wedi datblygu mewn cymunedau sydd ymhell o'r prif systemau trafnidiaeth Prydeinig, ymhell o farchnadoedd Prydeinig ac ymhell o rwydweithiau grym Prydeinig. Yn wir cymharol gyfyng fu effaith uniongyrchol y chwyldro diwydiannol ar llawer ohonynt. Mae’r pentrefi tlawd, diarffordd hyn sydd wedi eu golchi gan y glaw a’u sgubo gan stormydd yr Iwerydd am ganrifoedd wedi pleidleisio tros y Blaid am genedlaethau oherwydd eu bod yn ystyried mai dyna’r ffordd orau o amddiffyn eu cymuned a gwerthoedd y gymuned honno. Mae’r canfyddiad hwn bellach yn cael ei drawsnewid.

Os oes unrhyw wers i’w dysgu oddi wrth blaid mwyaf llwyddiannus Ewrop, dyma hi – mae’n bosibl bod yn wrth sefydliadol hyd yn oed i blaid sydd bellach yn sefydliadol. Y ffordd i wneud hynny ydi cymryd sylw o ddymuniadau pobl wrth ymarfer grym sefydliadol.

Saturday, November 17, 2007

Ochr arall y geiniog ddemograffig

Mae'r problemau sy'n wynebu Cyngor Gwynedd (gweler isod)i raddau helaeth yn ganlyniad i newidiadau pell gyrhaeddol yn strwythur y boblogaeth - llai o blant o oed ysgol gynradd nag a fu ers canrif neu ddwy o bosibl.

Mae ochr arall i'r geiniog yma, sef y nifer o bobl tros oed pensiwn sydd yn y boblogaeth o'u cymharu a phobl sydd o oed gweithio. Isod rhestraf y gyfradd o bobl oed gwaith o'u cymharu a phobl o oed pensiwn mewn ardaloedd gwahanol gynghorau yng Nghymru.

Conwy 2.0
Powys 2.3
Penfro 2.4
Dinbych 2.4
Ynys Mon 2.5
Caerfyrddin 2.5
Gwynedd 2.6
Mynwy 2.6
Ceredigion 2.7
Castell Nedd Port Talbot 2.8
Abertawe 2.9
Torfaen 2.9
Blaenau Gwent 2.9
Bro Morgannwg 3.0
Pen y Bont 3.0
Merthyr Tydfil 3.2
Newport 3.2
Rhondda Cynon Taf 3.2
Fflint 3.2
Wrecsam 3.2
Caerffili 3.3
Caerdydd 4.09
Cymru 2.91
Lloegr 3.34
DU 3.32

Nid yw'r ffigyrau hyn yn iach - yn arbennig felly yn y Gymru gymharol Gymreig (o ran iaith). Maent yn awgrymu bod poblogaeth Cymru at ei gilydd yn hyn na phoblogaeth Lloegr a gweddill y DU, a bod canran is o'r boblogaeth yn economaidd weithredol. Mae hyn yn fwy gwir am Orllewin y wlad. Fel rheol mae incwm pensiynwyr yn isel, ac o ganlyniad mae'n gael effaith negyddol ar ffigyrau GDP y pen Cymru (Mae GDP y pen yng Nghymru yn £13,813 o gymharu a £24,075 yn Llundain).

Maent hefyd yn awgrymu bod argyfwng gwariant cyhoeddus ar y ffordd i siroedd y Gorllewin. Mae'r ffordd mae llywodraeth leol yn cael ei ariannu yng Nghymru yn adlewyrchu strwythur y boblogaeth i raddau - mae arian cyhoeddus yn tueddu i ddilyn y gyfradd o blant sydd i gyngor yn ogystal a'r twf poblogaeth. Mae setliad y Cynulliad ar gyfer cynghorau eleni yn adlewyrchu hynny:

Abertawe 2.3% (twf gwariant heb ystyried chwyddiant)
Blaenau Gwent 1.8%
Bro Morgannwg 3.6%
Caerdydd 2.8%
Caerffili 2.8%
Caerfyrddin 2.8%
Casnewydd 1.8%
Castell-nedd Port Talbot 2.1%
Ceredigion 2.1%
Conwy 1.1 %
Dinbych 2.3%
Fflint 2.5%
Gwynedd 1.9%
Merthyr T 2.5%
Môn 1.1%
Mynwy 2.1%
Penfro 2%
Penybont 3.1%
Powys 1%
Rhondda Cynon Taf 2.4%
Torfaen 2%
Wrecsam 2.4%
Cymru 2.3%


Nid yw'r drefn yma yn llawn adlewyrchu'r ffaith bod costau sylweddol ynghlwm a phoblogaeth hen. Gellir bod yn siwr y bydd y gyfradd gweithwyr i bensiynwyr yn gwaethygu ym mhob man tros y blynyddoedd nesaf, ac y bydd y gyfradd yma yn waeth yng Ngorllewin Cymru nag yng ngweddill y wlad ac y bydd y gyfradd honno yn ei thro yn waeth nag un y DU yn gyffredinol.

O graffu ar y ffigyrau yng nghyd destun data'r cyfrifiad a data ieithyddol, mae'n anodd osgoi y casgliad mai pobl mewn oed o Loegr sy'n gyfrifol am o leiaf rhywfaint o'r patrwm hwn - mae'r naw sir uchaf yn y rhestr hefyd yn uchel o ran mewnlifiad o Loegr, ac mae'n debyg mai Saeson sydd wedi mewnfudo ar ol ymddeol ydi llawer o'r henoed sy'n byw yng Ngorllewin Cymru.

Yn fy marn bach i mae dau gasgliad i ddod iddo o hyn oll:

(1) Dylai cynghorau o Loegr sy'n allforio eu henoed i Gymru gyfranu at gadw eu cyn drigolion yn eu henaint - wedi'r cwbl maent wedi manteisio o'r bobl hyn pan oeddynt yn economaidd gynhyrchiol.

(2) Dylai'r Cymry (a Chymry Cymraeg yn arbennig) gael mwy o blant. Os nad ydi hyn yn digwydd mae'r rhagolygon economaidd a ieithyddol i Orllewin Cymru yn ddu. Pe bai Cymru'n annibynnol gellid cynnig manteision trethiannol i annog pobl i gael plant - fel y gwneir yn Ffrainc. Ond wedyn dydi hi ddim, ac mae'r sefyllfa honno yn ei gwahardd rhag gallu dyladwadu ar ei thynged ei hun yn y maes hwn, fel mewn cymaint o feysydd eraill.



Llandudno - prif ddinas henoed Cymru.

Sunday, November 11, 2007

Plaid Cymru a'r cynlluniau i ad drefnu ysgolion cynradd Gwynedd

Fel mae unrhyw un sy'n dilyn y newyddion yng Nghymru yn gwybod mae awdurdodau addysg ar hyd a lled y wlad yn gorfod ystyried ad drefnu eu darpariaeth ysgolion cynradd. Dwy broblem a dau gorff cyhoeddus sy'n gyrru'r newid yma.



Ysgol Llanystumdwy

Y problemau ydi bod gormod o lefydd gwag oddi fewn i'r sector a bod gwahaniaeth sylweddol rhwng yr hyn sy'n cael ei wario ar blant mewn gwahanol rannau o'r sector. Mae'r ddau sefyllfa yn ddrud ac yn wastraffus o ran adnoddau. Dyna pam bod y corff sy'n arolygu safonau addysg yng Nghymru - ESTYN, yn ogystal a'r corff sy'n gyfrifol am sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n effeithiol - y Comisiwn Archwilio yn mynu bod awdurdodau lleol yn 'ail strwythuro' eu darpariaeth gynradd.

Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd term neis am gau ysgolion ydi 'ail strwythuro', ac yn wir dyna mae awdurdodau addysg led led y wlad yn ei wneud. Prin bod wythnos yn mynd heibio heb bod son am rhyw brotest neu'i gilydd i amddiffyn rhyw ysgol neu'i gilydd yn rhywle neu'i gilydd.

Nid dyma'r union sefyllfa yng Ngwynedd. Cafwyd dwy flynedd o ymgynghori'n maith helaeth gyda phawb a phopeth, ac addewidion mai ychydig iawn o lefydd fyddai'n cau, ond yn mynu bod rhaid creu haenen newydd reolaethol. Canlyniad cwbl ragweladwy hyn oll i'r Awdurdod oedd cael eu lambastio gan ESTYN am fethu a wynebu eu problemau. Felly dyma anghofio'r ymgynghoriad drudfawr, a pharatoi adroddiad newydd, tra gwahanol i ddeilliannau'r hen broses ymgynghori.

Llond dwrn o bobl oedd yn gyfrifol am yr adroddiad yma - pedwar neu bump o swyddogion a chynghorwyr. Y ddau swyddog oedd yn bennaf gyfrifol oedd Iwan Trefor Jones ac Iwan Roberts, ac mae enw tri chynghorydd ar waelod yr adroddiad - Dafydd Iwan, Richard Parry Hughes a Dyfed Edwards - er nad oedd gan yr olaf unrhyw ran mewn ysgrifennu'r adroddiad. Mae'r tri yn ffigyrau pwysig i Blaid Cymru yng Ngwynedd, ac mae Dafydd Iwan wrth gwrs yn llywydd y Blaid ar lefel cenedlaethol.

Nid yw'n fwriad gen i drafod gwerth addysgol yr adroddiad yma ag eithrio i nodi bod iddi rinweddau yn ogystal a diffygion. I bwrpas yr ymarferiad yma ei oblygiadau gwleidyddol sydd yn bwysig.

Argymhelliad yr adroddiad ydi cau 29 o ysgolion, agor 8 a defnyddio'r arian a arbedir trwy gau sefydliadau i ariannu haenen newydd reolaethol fydd yn effeithio ar y rhan fwyaf o ysgolion y sir o ddigon. Felly yn ogystal a chau 21 o ysgolion, bydd y rhan fwyaf o'r gweddill yn colli eu statws fel ysgol, eu cyrff llywodraethu a'r hawl i fod a phennaeth iddynt hwy eu hunain. Mae'r cynlluniau yn llawer mwy pell gyrhaeddol a radical nag unrhyw gynlluniau eraill yng Nghymru - maent hefyd yn effeithio ar llawer mwy o sefydliadau.

Fel aelod gweithgar o Blaid Cymru, mae'n ddrwg calon gen i ddatgan y farn bod yr adroddiad am arwain at drychineb gwleidyddol i'r Blaid. Mae'n feirniadaeth deg ar y Blaid Lafur yng Nghymru mai ei phrif raison d'etre ydi amddiffyn buddianau ei chleiantiaid. Ni ellir cyhuddo'r Blaid o hyn yng Ngwynedd. Yn wir, gellid dadlau ei bod yn ymosod ar fuddiannau ei chefnogwyr ei hun. Ni ellir chwaith gyhuddo'r Blaid yng Ngwynedd o lyfdra, yn wir mae iddi ddewrder Cwicsotaidd.

Y rhannau o Wynedd sy'n pleidleisio drymaf tros y Blaid ydi pentrefi gwledig Cymraeg eu hiaith. Mae'r cynlluniau hyn yn effeithio ar bentrefi felly mwy na mae'n effeithio ar unrhyw lefydd eraill. Y sector o'r gweithly sydd fwyaf cefnogol i'r Blaid yng Ngwynedd ydi'r sector addysg. Mae llawer, llawer mwy o bobl sy'n gweithio i'r sector honno yn gwrthwynebu'r cynlluniau nag sydd yn eu cefnogi. Yn wir, mae'r cynlluniau yn bygwth bywoliaeth nifer arwyddocaol o weithwyr y sector.

Cymhlethir pethau gan y ffaith na chymerwyd unrhyw sylw o ganfyddiadau'r ymgynghori blaenorol. Bydd siniciaeth llwyr ynghlwm a'r ymgynghori nesaf.

Yn waeth na dim, mae'r newidiadau yn digwydd yn ystod cyfnod etholiadau lleol. Bydd yr adroddiad yn dod ger bron y cyngor llawn ym mis Rhagfyr, bydd ymghynghori yn digwydd ym mis Ionawr a Chwefror a bydd yr etholiadau ym mis Mai.

Mi fyddwn i'n tybio y bydd rhywun neu'i gilydd yn sefyll yn erbyn bron i bob cynghorydd Plaid Cymru sydd wedi pleidleisio o blaid yr adroddiad, yn ogystal a nifer fydd wedi pleidleisio yn ei herbyn. 'Dwi'n gwybod fel ffaith y bydd nifer fawr o bobl sydd wedi pleidleisio i'r Blaid trwy'r blynyddoedd (gan gynnwys rhai o'i gweithwyr caletaf) yn atal eu pleidlais neu yn pleidleisio yn ei herbyn. Am fisoedd cyn yr etholiad cyngor diwethaf bu'r Blaid yn canolbwyntio ei hymdrechion ar ddod o hyd i ymgeiswyr cryf ar gyfer yr etholiadau. Y tro hwn buom yn canolbwyntio ar ail strwythuro ysgolion.

Mae'n arwyddocaol bod dau o'r tri gwleidydd sydd a'u henwau ar waelod y ddogfen yn dod o'r tu allan i Wynedd. Mae gen i ofn nad ydynt yn deall gwleidyddiaeth y sir. Nid cenedlaetholdeb Cymreig ydi'r brif ffrwd gwleidyddol yng Ngwynedd - brogarwch a'r cystadleuaeth rhwng pentrefi ac ardaloedd sy'n dod yn sgil hynny ydi hanfod gwleidyddiaeth y sir. Mae'r cynllun yma yn mynd yn gwbl groes i'r lli yma - mae'n gosod y Blaid ben ben a llawer iawn o bobl - nifer fawr ohonynt yn gefnogwyr naturiol iddi. Efallai ei bod yn edrych yn dda ar lefel deallusol, ond yn wleidyddol mae'n gwbl naif.

Canlyniad anhepgor hyn yw y bydd y Blaid yn colli rheolaeth ar Wynedd ym mis Mai. Bydd plaid neu bleidiau newydd yn cael eu ffurfio yng Ngwynedd yn unswydd i wrthwynebu'r Blaid, a byddant yn apelio yn uniongyrchol at ei chefnogwyr naturiol. Ymhellach ymlaen yn yr etholiad cyffredinol nesaf, os na fydd newid sylweddol bydd cwymp arwyddocaol ym mhleidlais Elfyn (ond bydd ei sedd yn saff), a bydd bygythiad gwirioneddol i sedd Hywel - sedd a fyddai oni bai am hyn oll yn gwbl ddiogel.

Mae pawb yn deall bod penderfyniadau anodd yn gorfod cael eu gwneud, ond yr hyn a ddylai'r Blaid fod wedi ei wneud ydi minimeiddio yn hytrach na macsimeiddio'r penderfyniadau hynny, ceisio adeiladu consensws yn hytrach na chynnen a chadw y llywydd cyn belled a phosibl oddi wrth unrhyw benderfyniadau amhoblogaidd. Am rhyw reswm sydd y tu hwnt i mi rydym wedi stampio'r newidiadau cwbl amhoblogaidd hyn gyda'r triban.