Thursday, July 30, 2009

Paradocs anffodus ariannu ysgolion yng Nghymru


Yn ol ffigyrau sydd wedi eu rhyddhau gan y Cynulliad yn ddiweddar ceir gwahaniaeth arwyddocaol rhwng gwariant ar addysg gan gwahanol gynghorau Cymru.

Yr awdurdod sy’n gwario’r lleiaf ar addysg uwchradd ydi Powys, sy’n gwario £3,692 y plentyn. Ar y pegwn arall mae Ceredigion yn gwario £4,864 y plentyn. Mae’r amrediad felly yn £1,172 y plentyn. Mae’r gwahaniaeth yma’n syfrdanol. O gymharu dwy ysgol o 1,000 o blant ceir gwahaniaeth yn eu cyllidebau o £1,172,000. Mae hyn yn creu gwahaniaeth cwbl anerbyniol yng ngallu’r ddwy ysgol (ddamcaniaethol) i gyflogi staff dysgu a chymorthyddion yn ogystal phrynu adnoddau, gwasanaethau ac ati.

‘Dydi’r sefyllfa yn y sector gynradd ddim cyn waethed – ond mae’r bwlch eto’n fawr. Caerffili ydi’r awdurdod sy’n gwario leiaf - £2,901 y pen, tra bod Ceredigion (eto) sy’n gwario fwyaf - £3,784. Mae’r amrediad yn £883 y tro hwn – neu £264,300 o wahaniaeth mewn ysgolion o 300. Eto mae’r gwahaniaeth yma’n sylweddol iawn.

Yr eglurhad a geir ydi mai mater i awdurdodau lleol ydi gosod eu blaenoriaethau eu hunain. ‘Dydi hyn ddim yn dderbyniol – sut y gallai fod yn dderbyniol i ysgol mewn un awdurdon fod a miliwn o bunnoedd yn fwy nag un arall? Mae blaenoriaethau’r ysgolion ar y gwaelod yn amlwg yn amhriodol.

‘Rwan yr ateb syml i hyn oll fyddai datganoli cyllid yn uniongyrchol o’r Cynulliad i ysgolion – trefn fwy tebyg i un Lloegr (mae mwy o arian y pen yn cael ei wario ar addysg yn Lloegr gyda llaw). Ond byddai trefn o’r fath yn creu problemau sylfaenol mewn ardaloedd gwledig. Ar hyn o bryd mae fformiwlau cyllido awdurdodau gwledig yn cynnig elfen o warchodaeth i’r ysgolion lleiaf (hy maent yn derbyn mwy o bres y pen nag ysgolion mwy). Y rheswm am hyn ydi bod yr ysgolion hyn yn bwysig yn y siroedd gwledig.

Yng nghyd destun Cymru gyfan byddant yn anhebygol o dderbyn triniaeth mor ffafriol, gan bod ysgolion bach yn llai pwysig o edrych ar bethau o gyd destun Cymru gyfan – mae’r byd yn edrych yn wahanol os ydym yn edrych arno o Gaerdydd yn hytrach nag Aberystwyth. Mae’n dra thebygol y byddai newid o’r math yma yn arwain at gau llawer iawn o’r ysgolion lleiaf.
Esiampl o ddileu un anghyfiawnder dim ond i greu anghyfiawnder arall gwaeth.

Monday, July 27, 2009

Adeiladu'r Great Western, Iwerddon y bedwaredd ganrif ar bymtheg a Chymru heddiw

Beth sydd gan y system rheilffyrdd, - Ghorta Mhor - y Newyn Mawr yn Iwerddon a dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn gyffredin? Dim llawer ar yr olwg gyntaf mae'n debyg - ond mae'r ddadl hirfaith ynglyn a thrydaneiddio rheilffordd y Great Western wedi gwneud i mi feddwl. Dyna un o fanteision / anfanteision cymryd rhan mewn dadleuon ar y We - mae cysylltiadau anisgwyl yn dod i'r wyneb weithiau.

I dorri stori hir yn fyr mae nifer yn gweld arwyddocad i'r ffaith bod Plaid Cymru wedi croesawu'r datganiad gan lywodraeth Prydain bod hen reilffordd y Great Western i'w thrydaneiddio, a bod yn ddigon digywilydd i hawlio peth o'r clod.

Prif ffocws y feirniadaeth ydi y byddai'n fwy priodol o safbwynt cenedlaetholgar i ddatblygu'r is strwythur trafnidiaeth o'r De i'r Gogledd sy'n dreuenus o gyntefig ac aneffeithiol. Mae yna fwy nag awgrym yn y feirniadaeth yma bod y gwariant ar drafnidiaeth Gorllewin / Dwyrain yn rhan o batrwm polisi bwriadol gan lywodraeth Prydain o hybu cysylltiadau o bob math rhwng rhanbarthau o Gymru a rhanbarthau o Loegr, tra'n anwybyddu'r angen i ddatblygu cysylltiadau oddi mewn i Gymru. 'Dwi wedi ceisio dangos yma nad polisi bwriadol oedd hyn yng nghyd destun adeiladu'r rheilffyrdd, ond canlyniad naturiol caniatau i rymoedd y farchnad gymryd eu cwrs. Roedd Cymru fel endid economaidd wedi ei hen ddifa ers canrifoedd - prin bod angen cymryd camau strategol i'w ddifa eto.

Pwynt fy mlogiad oedd mai grymoedd y farchnad oedd yn gyrru datblygiad y system rheilffyrdd (ac yn wir y rhan fwyaf o'r system drafnidiaeth) ym Mhrydan Oes Fictoria a bod hyn yn sefyllfa wahanol i nifer o wledydd eraill Ewrop. Ac wrth gwrs roedd caniatau i'r farchnad gymryd ei gwrs yn un o ideolegau mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Damcaniaethau Adam Smith oedd balast deallusol laissez-faire - y gred bod ymyraeth llywodraethol yn ei hanfod yn wrth gynhyrchiol. 'Dydw i fy hun ddim yn derbyn bod Smith mor benderfynol ynglyn a'r egwyddor hwnnw nag oedd ei ddilynwyr yn ystod Oes Fictoria - ond roedd ffurf bur iawn ar laissez-faire yn gweddu buddiannau dosbarthiadau busnes y cyfnod, a chymerwyd y rhannau o'r hyn roedd gan Smith i'w ddweud oedd yn cefnogi rhyddid llwyr i ddynion busnes a'i droi'n ideoleg - ideoleg llywodraethol am lawer o'r ganrif.

Wrth fyfyrio ar y blogiad fedrwn i ddim peidio a meddwl am y tirwedd ideolegol a deallusol rhyfedd oedd yn bodoli ym Mhrydain - ymysg y dosbarthiadau oedd yn rheoli o leiaf yn Oes Fictoria. Mi awn am dro bach i Iwerddon yn ystod y blynyddoedd roedd y Great Western yn cael ei hadeiladu cyn edrych ar y tirwedd hwnnw.


Mae pawb am wn i wedi clywed am y Newyn Mawr - Ghorta Mhor - trychineb cenedlaethol o'r radd flaenaf a ddigwyddodd yn yr Iwerddon rhwng 1845 a 1852. Yn fras iawn methodd y cnwd tatws am saith blynedd yn olynnol ac arweiniodd hyn at sefyllfa gatyclismaidd ar hyd a lled cefn gwlad Iwerddon. Roedd y rhan fwyaf o'r tlodion yn llwyr ddibynnol ar datws er mwyn bwyta, ac er mwyn talu'r rhent. Heb y tatws roedd pobl - miliynau o bobl - yn colli eu gallu i fwydo eu hunain a'u plant, ac roeddynt hefyd yn colli eu gallu i gysgodi a dilladu'r plant hynny.




Canlyniad hyn yn ei dro oedd creu sefyllfa lle'r oedd canoedd o filoedd o bobl ar unrhyw amser penodol yn crwydro lonydd cefn gwlad heb gysgod a heb fwyd. Nid llwgu i farwolaeth oedd y rhan fwyaf o bobl - roeddynt wedi eu gwanio i' fath raddau nes eu bod yn agored iawn i bob math o afiechydon. Roedd yr arfer treuenus o geisio bwyta tatws pydredig hefyd yn achosi afiechydon. Ceir blas o'r drychineb yn y sylwadau hyn gan y Capten Wynne, aelod o luoedd diogelwch Prydain oedd wedi ei leoli yn Clare yn 1846:

I ventured through that parish this day, to ascertain the condition of the inhabitants, and although a man not easily moved, I confess myself unmanned by the extent and intensity of suffering I witnessed, more especially among the women and little children, crowds of whom were to be seen scattered over the turnip fields, like a flock of famished crows, devouring the raw turnips, and mostly half naked, shivering in the snow and sleet, uttering exclamations of despair, whilst their children were screaming with hunger. I am a match for anything else I may meet with here, but this I cannot stand

Ymhen cyfnod roedd cyrff yn pydru ar ochr y ffyrdd, mewn cytiau, mewn ogofau ac ati am flynyddoedd oherwydd nad oedd yna ddigon o bobl i'w claddu. Pan oeddynt yn cael eu claddu, yn amlach na pheidio fe'i teflid i feddi anferth yn eu canoedd fel gwartheg - yn ddi arch ac yn ddi amdo. Llun o seremoni goffau swyddogol wrth un o'r beddi hynny a geir isod - mae seremoniau o'r fath - yn swyddogol ac answyddogol yn gyffredin hyd heddiw.





Mae'n debyg i o leiaf filiwn farw ac i o leiaf filiwn orfod gadael y wlad.

Rwan yr hyn sy'n llai adnabyddus ,am wn i , ydi nad oedd y 'newyn' yn newyn yn ystyr technegol y gair hwnnw - roedd yna ddigon o fwyd ar gael ar yr ynys. Yn wir roedd Iwerddon yn allforio cryn dipyn mwy o fwyd nag oedd yn ei fewnforio bron trwy gydol y cyfnod. Allforwyd dwy filiwn chwartel o yd o'r wlad yn flynyddol - digon i fwydo'r holl boblogaeth. Roedd yn arferol i longau o America oedd yn cario bwyd wedi ei roi'n rhad ac am ddim gan rai o drigolion y wlad honno i geisio lliniaru ar y sefyllfa, fynd heibio llongau bwyd oedd yn symud i'r cyfeiriad arall. Un o brif orchwylion y fyddin Brydeinig yn y wlad ar y pryd oedd sicrhau bod y bwyd yn mynd o'r caeau yn saff i'r porthladdoedd heb i'r sawl oedd yn llwgu ei ddwyn.

A benthyg llinell gan RS Thomas - And that was just one island - roedd trychinebau fel hyn yn gyffredin yn ystod y cyfnod ar hyd a lled yr Ymerodraeth Brydeinig - ac ar hyd ymerodraethau eraill hefyd. A dweud y gwir roedd llawer iawn, iawn mwy yn marw o ganlyniad i 'newyn' mewn gwledydd fel India. Os ydych eisiau darllen llyfr i godi gwallt eich pen, darllenwch gampwaith Mike Davis - Late Victorian Holocausts.

Rwan, sut y gallai hyn digwydd? - pam na selwyd y porthladdoedd i atal allforio fel a ddigwyddodd pan oedd sefyllfaoedd bygythiol yn datblygu yn y ddeunawfed ganrif? Mae'r ateb ynghlwn a gwleidyddiaeth thirwedd ideolegol a dealluol yr oedd y sawl oedd yn rheoli'r wlad yn byw ynddo.

Y ddamcaniaeth yr ydym wedi ei hystyried uchod - na ddylid ymyryd yng ngweithredoedd y farchnad oedd un o'r prif ffactorau ideolegol y tu ol i ymateb y llywodraeth i'r drychineb, ond mae'n debyg gen i bod mwy iddi. Byddai'n rhaid i ymlyniad pobl i un ideoleg fod yn rhyfeddol o gryf cyn caniatau iddynt adael i'r fath erchyllderau ddigwydd. 'Roedd yna pob math o ideolegau eraill yn boblogaidd yn Oes Fictoria - ac roedd yn bosibl cyfuno rhai o'r rhain i greu fframwaith ddeallusol oedd yn 'cyfiawnhau'r' Ymerodraeth - ac a oedd hefyd yn cyfiawnhau rheoli mewn modd cwbl ddi drugaredd.

Roedd y Fictorianiaid yn hiliol - i raddau sy'n gwbl estron i ni erbyn heddiw. Ceid gwahanol ddamcaniaethau oedd wedi eu seilio ar ddatblygiadau 'gwyddonol' y cyfnod. Phrenololeg - y gred bod siap y benglog yn effeithio ar sut fath o fenydd sydd gan pobl oedd un o'r rhain. Erbyn diwedd y ganrif roedd pob math o systemau yn bodoli oedd yn rhannu dynoliaeth i gategoriau deallusol gwahanol - roedd yr Hotentots druan ar y gwaelod gan amlaf, tra bod y Gwyddelod tua hanner ffordd i fyny'r ysgol. 'Does dim angen dweud pwy oedd ar ben yr ysgol wrth gwrs.

Roedd yna nifer o syniadauau eraill yn troelli o gwmpas damcaniaethau Thomas Malthus
Gwraidd y damcaniaethu yma oedd y gred bod poblogaeth y Ddaear yn cynyddu'n gynt o lawer na'r cyflenwad bwyd, a bod newyn felly'n anhepgor o bryd i'w gilydd - nid yn unig ei fod yn anhepgor, ond roedd yn rhan naturiol o drefn pethau.


Roedd peth o secteriaeth a gwrth Babyddiaeth y canrifoedd blaenorol wedi goroesi - er bod hwnnw'n edwino erbyn Oes Fictoria - ymhlith Saeson o leiaf. Ac roedd yna elfen o genedlaetholdeb Prydeinig yn rhywle yn y cymysgedd mae'n siwr.

Felly - o gymryd y tirwedd deallusol yn ei gyfanrwydd - na ddylid ymyryd ar farchnadoedd, bod pobl megis Gwyddelod, trigolion India, pobl Affrica ac ati yn is raddol, a bod newyn yn rhan naturiol o drefn pethau gallwn weld sut oedd yn bosibl caniatau i rai o'r erchyllderau a ddigwyddodd yn Oes Fictoria ddigwydd.

Iawn – sut mae’r ymweliad bach yma a thirwedd ideolegol a deallusol y sawl oedd yn rheoli’r Ymerodraeth Brydeinig yn Oes Fictoria (a chanlyniadau gweithredu yn unol a rhesymeg yr ideolegau hynny) yn berthnasol i’r dadleuon sy’n mynd rhagddynt ar y blogosffer Cymreig heddiw?

Mae dwy wers yma:

Yn gyntaf mae’n dangos nad yw’n bosibl deall digwyddiadau yn y gorffennol trwy edrych arnynt trwy brism ein tirwedd gwleidyddol ni ein hunain – neu ran o’r tirwedd hwnnw.. Mae llawer o Wyddelod heddiw yn gweld An Ghort Mhor yng nghyd destun gwrthdaro mwy diweddar rhwng dau fath gwahanol iawn o genedlaetholdeb – cenedlaetholdeb Gwyddelig a Phrydeinig.

Mae’r canfyddiad yma yn rhannol gywir – mae ystyriaethau ‘cenedlaetholgar’ yn ystyr ehangaf y gair hwnnw yn aml yn rhan o’r gwead o ideolegau a chanfyddiadau sy’n creu’r tirwedd sy’n rhoi’r cyd destun i brosesau hanesyddol. Ond un elfen yn unig ydyw – fel y gwelwyd, roedd elfennau oedd yn ymwneud a dosbarth cymdeithasol, elw ariannol, ffug wyddononiaeth, secteraiaeth a hiliaeth yn rhannau o’r wead a ganiataodd i’r ‘newyn’ ddigwydd hefyd – rhannau pwysicach na chenedlaetholdeb mae’n debyg.

Yn yr un modd mae gweld patrwm hir dymor a chyson o rannu Cymru’n fwriadol ac intigreiddio gwahanol rannau o’r wlad a rhannau o Loegr yn fwriadol yn esiampl o or symleiddio hanes er mwyn creu mytholeg – conspiracy theorizing fyddai’r term Saesneg am wn i - fersiwn fwdw o hanes Cymru os y mynwch. ‘Dydi hynny ddim yn golygu nad oedd cynllwynio o’r fath yn digwydd weithiau wrth gwrs – ond nid yw’n linyn sy’n rhedeg trwy hanes Cymru. Doedd y cysyniad, neu o leiaf y ddelfryd o Gymru fel endid gwleidyddol annibynnol ddim yn gwneud ei ffordd i’r wyneb yn gyson. Yn hyn o beth roedd Cymru ac Iwerddon yn gwahanol.

Roedd Cymru fel endid gwleidyddol wedi ei chwalu gyda’r Ddeddf Uno (deddf a wnaeth fwy o niwed o lawer i Gymru na’r Deddfau Penyd gyda llaw). Canlyniad naturiol realiti gwleidyddol ac economaidd oedd eisoes wedi ei greu oedd Brad y Llyfrau Gleision, y Welsh Not ac ati. Doedd yna ddim angen ceisio intigreiddio Cymru yn economaidd yn Oes Ficoria – roedd ein diffyg ymreolaeth fel gwlad wedi caniatau i hynny ddigwydd eisoes.

Wedi dweud hynny oll ‘dwi’n derbyn mai’r faith nad ydym wedi bod mewn sefyllfa i gymryd ein penderfyniadau gwleidyddol ein hunain sydd wrth wraidd llawer o’n problemau – natur anghytbwys a gwan ein heconomi, rhaniadau mewnol y wlad, y ffaith i gyd destun ddatblygu lle gallai’r iaith droi’n iaith leiafrifol, er enghraifft. Mae hynny’n rhywbeth y byddai unrhyw un sy’n galw ei hun yn genedlaetholwr yn ei dderbyn fe dybiwn. Ond canlyniad y ffaith nad yw Cymru’n endid gwleidyddol yw hyn oll – nid canlyniad i gynllwynio dieflig cyson.

Yr ail wers i gymryd o’r peth i gyd ydi hyn – ‘does yna ddim pwrpas diffinio ein cenedlaetholdeb yn nhermau faint mae Cymru wedi ddioddef oherwydd ymddygiad a phenderfyniadau ein cymdogion Dwyreiniol. Fel ‘dwi wedi ei dderbyn, mae natur y berthynas wedi bod yn niweidiol iawn i ni fel gwlad – ond yng nghyd destun trefidigaethau eraill dydan ni ddim yn gwybod ei hanner hi.

Rydym eisoes wedi cael golwg ar un digwyddiad (o lawer) yn hanes Iwerddon, ac wedi cyfeirio at India, ond mae pob trefedigaeth yn yr Ymerodaeth Brydeinig wedi dioddef – y rhan fwyaf ohonynt yn llawer gwaeth na ni. Natur ymerodraeth yw ei bod yn niweidio’r sawl mae’n ei goncro. Mae’r rhan fwyaf o’r cyn drefidigaethau wedi symud ymlaen ers iddynt ennill eu hannibyniaeth, ond nid trwy edrych yn ol a thrwy greu naratif hunan dosturiol o fod wedi cael cam. Arwydd o wendid ydi gorfod gwneud hynny – a la Mr Mugabe.

Y ffordd o symud ymlaen fel gwlad ydi trwy gymryd gafael ar ein bywyd cenedlaethol ein hunain, creu cymaint gonsensws a phosibl ynglyn a lle’r ydym, ac i ble yr ydym eisiau mynd – ac adeiladu hynny o gwmpas y ddealltwriaeth bod gwlad yn fwy ffyniannus ac yn hapusach pan mae’n rheoli ei thynged ei hun. ‘Dim ond ni ein hunain sydd a’r gallu i symud Cymru yn ei blaen.

Yn ystod y ddadl fondigrybwyll am y trenau mae fy ngwrthwynbydd achlysurol, Alwyn yn gofyn pam na allai IWJ fod wedi lobio am gyllid digonnol i ddatblygu cysylltiadau De / Gogledd. Mae’r rheswm yn sylfaenol syml – mae’r un rheswm a pham nad ydi hi’n bosibl prynu ceffyl mewn arwerthiant gwartheg. Fyddai datblygu cysylltiadau amhroffidiol De / Gogledd ddim yn gwneud synwyr i weinidogion neu weision sifil Prydeinig – sut y gallai?

‘Dydi hi ond yn bosibl rhesymu mewn ffordd Gymreig mewn cyd destun gwleidyddol Cymreig. ‘Dyna pam bod datblygu datganoli mor bwysig – nid yn unig o ran ennill pwerau deddfu, ond hefyd yn ariannol – cael pwerau benthyg ac ail edrych ar Barnett. Datganoli a datganoli wedi ei ariannu’n briodol ydi’r erfyn pwysicaf sydd gennym i adeiladu gwlad.
Mae’n tynged ni fel gwlad bellach yn ein dwylo ni’n hunain, dydan ni ddim yn cael ein gorthrymu gan neb ond ni’n hunain – petaem, yn dorfol, am adael yr Undeb gallem wneud hynny fory. Fel y dywedodd rhywun callach o lawer na fi, gwlad arall ydi hanes. Mae gan y wlad honno rhywfaint i ddysgu i ni, ond ‘dydi ceisio cynllunio ar gyfer y dyfodol ar sail dehongliad mytholegol o hanes y wlad honno ddim yn gosod canllaw addas i ni symud ymlaen i’r dyfodol.

Saturday, July 25, 2009

Helynt y trenau trydanol


O diar - ffrae arall - ynglyn a'r cynlluniau i drydaneiddio'r hen Great Western yr holl ffordd i Abertawe y tro hwn. Alwyn a Llais Gwynedd (yn gwisgo eu mwgwd cenedlaetholgar am y tro) sydd ar un ochr yn dadlau yn erbyn y cynllun trydaneiddio a Rhydian a gwahanol Bleidwyr sydd ar y llall yn dadlau o'i blaid.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi fy mod yn credu y dylai'r holl system rheilffyrdd yng Nghymru ac ym Mhrydain gael ei thrydaneiddio cyn gynted a bod hynny'n fforddiadwy. Ar hyn o bryd tua 40% o'r system sydd wedi ei thrydaneiddio. Mae hyn yn isel iawn wrth safonau Ewropiaidd. Y brif ddadl tros wneud hyn ydi bod system sydd wedi ei thrydaneiddio yn llawer glanach o safbwynt amgylcheddol - yn enwedig os ydi'r trydaneiddio yn digwydd mewn cyd destun lle mae yna symudiad i ffwrdd oddi wrth bwerdai sy'n defnyddio tanwydd ffosil - rhywbeth sy'n digwydd ar hyn o bryd. Dadl arall ond eilradd o blaid y cynllun ydi ei fod yn debygol o greu cryn dipyn o swyddi yn y De mewn amser anodd - mae'n fuddsoddiad sylweddol - mae'n costio tua £600,000 i drydaneiddio 1km o drac.



'Dwi'n gallu deall pam bod Alwyn, y Tad Deiniol ac ati'n flin - ond 'dwi'n meddwl eu bod yn camgymryd ac yn drysu dau fater gwahanol yma. Gwneir cryn dipyn gan Alwyn o sylwadau gan golofnydd y Guardian, George Manibot. Mae sylwadau George yn ddiddorol, a byddaf yn dychwelyd atynt maes o law - ond (a heb fod mor ddi gywilydd a siarad ar ran George) mi fyddai'n syndod i mi os nad yw yntau o blaid trydaneiddio'r system yn ei chyfanrwydd - wedi'r cwbl iddo fo newid hinsawdd ydi mater pwysicaf yr Oes yma o ddigon.

Beth bynnag - dyma'r sylwadau mae Alwyn yn eu dyfynu:

The railway map of Wales is a classic indicator of an extractive economy. The lines extend either towards London or towards the ports. As Eduardo Galeano established in The Open Veins of Latin America, the infrastructure of a country is a guide to the purpose of its development. If the main roads and railways form a network, linking the regions and the settlements within the regions, they are likely to have been developed to enhance internal commerce and mobility. If they resemble a series of drainage basins, flowing towards the ports and borders, they are likely to have been built to empty the nation of its wealth for the benefit of another. Like Latin America, Wales is poor because it was so rich. Its abundant natural resources gave rise to an extractive system, designed to leave as little wealth behind as possible.

'Rwan 'dwi'n digwydd cytuno efo'r sylwadau, ond 'dwi'n meddwl fy mod yn eu dehongli yn wahanol i Alwyn a'r Tad Deiniol (os 'dwi'n anghywir yma, 'dwi'n ymddiheuro).

Cyn mynd ymlaen, fe gawn ni gip bach sydyn ar hanes datblygu'r rheilffyrdd ym Mhrydain. 'Roedd y ffordd y datblygodd y system ym Mhrydain yn wahanol iawn i'r hyn a ddigwyddodd yn Ffrainc, neu Wlad Belg er enghraifft. Yng Ngwlad Belg y llywodraeth oedd yn gyfangwbl gyfrifol am adeiladu'r rheilffyrdd. Yn Ffrainc roedd gan gyfalaf preifat ran yn y broses, ond y llywodraeth oedd yn gwneud y penderfyniadau mawr. Roedd pethau'n gwahanol ym Mhrydain - cyfalaf preifat oedd yn gyfrifol am ddatblygu'r system hyd i'r job lot gael ei wladoli gan Attlee.

Mae'r rhesymau am y gwahaniaeth yma yn gymhleth ac yn aml ochrog - ond roedd dau ffactor yn bwysicach na'r lleill - yn gyntaf, argaeledd cyfalaf preifat ym Mhrydain Oes Fictoria, ac yn ail roedd rhaid i wledydd ar dir mawr Ewrop gymryd materion strategol i ystyriaeth wrth adeiladu rheilffyrdd - mae defnydd milwrol i drenau, ac roedd Ewrop Oes Fictoria yn lle peryglus iawn o safbwynt milwrol. Roedd Prydain yn ynys oedd wedi ei hamddifyn gan lynges anferthol.



A'r gair pwysig yma ydi strategol - mae system rheilffyrdd Ffrainc wedi ei hadeiladu mewn ffordd strategol - 'does ond angen edrych ar y ffordd mae'r system yno wedi ei ganoli ar Paris ac yn ymestyn i pob cornel o'r wlad - fel pelydrau o haul. 'Doedd yna ddim ystyriaethau strategol wrth adeiladu'r rheilffyrdd ym Mhrydain Oes Fictoria - ystyriaethau masnachol oedd yn gyrru'r broses. Y drefn arferol oedd bod consortiwm o ddynion busnes yn gofyn i San Steffan am ganiatad i adeiladu rheilffordd - ac roeddynt yn gwneud hynny am resymau masnachol, ac am resymau masnachol yn unig.

Er enghraifft adeiladwyd y Great Western (cyn ein bod yn trafod honno) hyd at Fryste yng nghanol y ganrif cyn yr un ddiwethaf gan gyfalafwyr o Fryste oedd eisiau amddiffyn statws y ddinas honno (a'u helw eu hunain) fel ail borthladd yr Ymerodraeth. Roedd Lerpwl yn tyfu'n gyflym ac yn bygwth cymryd ei lle. Gwnaed cais i'r Senedd yn 1833 i gael adeiladu rheilffordd, caniatawyd y cais hwnnw yn 1835 - ond cyfalaf preifat a adeiladodd y lein.

'Rwan mae hyn yn arwain at wahaniaeth sylfaenol rhwng system Ffrainc ac un Prydain - mae'r system Ffrangeg wedi ei hadeiladu gyda gweledigaeth strategol y tu ol iddi, dydi un Prydain ddim - mae hi'n fwy mympwyol o lawer. 'Dydi'r system heb ei chreu efo'r bwriad o ddarnio Cymru, na'i goresgyn - cafodd ei hadeiladu i wneud pres i nifer fach o bobl.

Mi ddywedais yn gynharach nad oeddwn yn anhytuno efo George - a 'dydw i ddim - ond y pwynt 'dwi'n meddwl oedd yn ei wneud oedd mai adlewyrchiad o natur economi Cymru yn Oes Fictoria oedd y system rheilffyrdd - nid achos y drefn honno (ond 'dwi'n derbyn bod achos ac effaith yn toddi i mewn i'w gilydd mewn sefyllfaoedd cymhleth fel hyn weithiau).

Hynny yw, ar aml i wedd roedd Cymru yn cael ei thrin fel trefedigaeth - fel India neu Rhodesia dyweder. 'Doedd hi ddim yn cael ei hystyried yn wlad, felly doedd y llywodraeth ddim yn trafferthu rhoi strwythurau a sefydliadau cenedlaethol mewn lle, a 'doedd yna ddim ymdrech i gynnal economi cytbwys. Unig flaenoriaeth y llywodraeth oedd caniatau i fuddiannau cyfalafol wneud cymaint o arian a phosibl - a gwneid hyn trwy ganiatau iddynt ddatblygu is strwythur addas i symud y glo, haearn, llechi, cynyrch amaethyddol ac ati i'r porthladdoedd i'w allforio a'i werthu, neu ei symud i ganofanau poblog Lloegr i'r un pwrpas.

Asset stripping
ydi'r term Saesneg. Yr unig gysur o hyn oll ydi i'r feddylfryd yma arwain at golli miliynau o fywydau mewn gwledydd fel India (a'r Iwerddon o ran hynny). Bu hanes yn ffeindiach efo ni nag oedd efo nhw.

Y rheswm 'dwi wedi mynd trwy'r holl gymhlethdod yma (gobeithio nad wyf wedi colli fy holl ddarllenwyr) ydi er mwyn awgrymu nad oes rhaid i ni edrych ar ddatblygu system drafnidiaeth sy'n mynd i'r Dwyrain fel un enghraifft arall o ymgais gan y Saeson i rannu Cymru - adlewyrchiad o'r economi oedd yn bodoli oedd y datblygiadau blaenorol - a dyma ydi hwn hefyd. Ac yn ychwanegol 'dydi'r datblygiad yma ynddo'i hun ddim yn gwella'r ddarpariaeth deithio llawer - mae'r amserau teithio yn ddigon tebyg - gwella effaith amgylcheddol trenau fydd y prif wahniaeth. Byddai'n rhaid ail osod y cledrau oll i greu darpariaeth cyflymder uchel.

Wedi dweud hyn oll, 'dwi'n cytuno efo'r awgrym sydd ymhlyg yn sylwadau Alwyn (a Deiniol a George) - sef ei bod yn bwysig datblygu cysylltiadau rhwng y De a'r Gogledd - 'dwi'n derbyn ei bod yn hanfodol i ddatblygiad Cymru fel gwlad bod gwelediaeth strategol yn bodoli- a gweledigaeth sy'n ceisio datblygu'r system drafnidiaeth fydd yn intergreiddio'r wlad mewn ffordd na ddigwyddodd erioed o'r blaen yn ein hanes. Mae yna beth gwaith wedi digwydd yn hyn o beth ers i Gymru'n Un ddod i fodolaeth, ac mae hyn wedi achosi peth gwrthdaro rhwng Llafurwyr megis Huw Lewis a'r Pleidwyr. Serch hynny fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef mai camau cyntaf ar daith hir iawn ydi'r rhain.

'Dwi'n cytuno 100% efo sylw George yn ei erthygl y dylai'r Cynulliad ar y lleiaf un edrych ar gynllun penigamp Y Tad Deiniol i wneud defnydd o'r safleoedd hen reilffyrdd sydd eisoes yn bodoli gyda'r bwriad o ddatblygu rheilffordd sy'n mynd o'r De i'r Gogledd. Ond mae hynny'n rhywbeth sydd rhaid i ni ei wneud ein hunain -'dydi San Steffan byth am fabwysiadu strategaeth Cymru gyfan - ein busnes ni ydi hynny. 'Dydi'r cynllun trydaneiddio ddim yma nag acw o ran datblygu gweledigaeth strategol ar gyfer creu system trafnidiaeth Cymru gyfan.

Friday, July 24, 2009

Bet ar y Gwyrddion yn Brighton Pavilion?

Newydd weld hwn ar flog Iain Dale:

Gwyrddion 1,456 - 38.5% (+17.6%)
Ceidwadwyr 1,104 - 29.2% (-0.9%)
Llafur 816 – 21.5% (-6.8%)
Lib Dems 280 - 7.4% (-7.32%)
UKIP 129 - 3.4% N/A

Ffigyrau is etholiad yn Brighton neithiwr ydyn nhw.

Fel y gwelwch mae yna ogwydd sylweddol iawn tuag at y Gwyrddion.

Mae gan y Gwyrddion gyfle gwirioneddol yn Brighton Pavilion lle mae eu harweinydd Caroline Lucas yn sefyll. Nid yn Pavilion oedd yr is etholiad - ond roedd yn ffinio efo'r etholaeth.

Efallai ei bod werth edrych ar y 2/1 mae Paddy Power yn ei gynnig ar y Gwyrddion.

Lib Dem Watch 5

Bu blogmenai ers peth amser yn edmygu sgiliau camarwain y Lib Dems. Mae hon yn un dda o Norwich North (er nad yw yn un o'r goreuon).



Yr hyn a wneir yma ydi cymryd canlyniadau un set o etholiadau (hy y rhai lleol eleni yn siroedd Lloegr) i ddangos sut mae'r Lib Dems yn honni eu bod yn gweld pethau mewn un sedd seneddol benodol. 'Rwan dydi'r Lib Dems ddim yn gryf yn y rhan yma o'r Norwich ac nid yw eu perfformiad cryf yng ngynghorau sir Lloegr yn newid hynny o gwbl.

Cyfatebiaeth Cymreig posibl fyddai defnyddio ffigyrau etholiadau Ewrop tros Gymru i 'ddangos' nad oes gan y Lib Dems fawr o obaith yng Nghanol Caerdydd y flwyddyn nesaf - oherwydd iddynt ddod yn bumed yn etholiadau Ewrop Cymru gyfan eleni.

Wednesday, July 22, 2009

Baniwch y bom (strategol o leiaf)

Pan oedd y ganrif a'r mileniwm newydd ar droi ddegawd yn ol, roedd yna lawer o ddelweddau oedd i fod yn rhai eiconig oedd yn nodweddu'r ganrif oedd ar fin marw yn ymddangos yn y wasg - lluniau Andy Warhole. car mini, ffotograffau du a gwyn o Joe diMaggio ac ati. I mi ffotograff o B52 sydd fwyaf addas i gyfleu'r ganrif ddiwethaf.



'Dydw i ddim yn ystyried fy hun heddychwr fel y cyfryw - 'dwi'n derbyn bod rhaid i wladwriaethau, cymunedau ac unigolion amddiffyn eu hunain weithiau. Wedi dweud hynny bydd darllenwyr cyson blogmenai yn gwybod nad oes gen i lawer o amynedd efo'r rheiny sy'n meddwl bod rhyfela yn ffordd effeithiol o wireddu amcanion gwleidyddol.

Edrych ar un agwedd cwbl anerbyniol ar ryfela ydi bwriad y blogiad yma fodd bynnag - bomio strategol - agwedd ar ryfela sydd yn nodweddu'r ganrif ddiwethaf yn anad dim arall. Mae lladd sifiliaid mor hen a rhyfel wrth gwrs - ond llofruddio sifiliaid ar raddfa diwydiannol ydi bomio strategol.

Rydym yn reddfol am wn i yn tueddu i wahanu bomiau i ddau gategori - bomiau niwclear a rhai confensiynol. Mae hyn yn ddigon naturiol ar un olwg oherwydd y gwahaniaeth sylweddol ym mhotensial distrywgar y ddau fath o arf. Ond i mi mae'n fwy rhesymegol i edrych ar fwriad y weithred o fomio ei hun yn hytrach na natur y bomiau a ddefnyddir. Os ydym yn edrych ar bethau yn y goleuni yma gallwn gategorio mewn ffordd ychydig yn wahanol - bomio strategol a bomio tactegol.

Y gwahaniaeth yn syml ydi mai ymysod ar dargedau milwrol ydi bwriad bomio tactegol, tra mai difa adnoddau, cyfleusterau, adeiladau, is strwythurau ac ati a ddefnyddir gan sifiliaid ydi bomio strategol. Weithiau bydd bomio strategol yn ymgais fwriadol i lofruddio cymaint a phosibl o sifiliaid fel yn achos Hiroshima neu Dresden er enghraifft - ond nid lladd sifiliaid ydi'r brif amcan gan amlaf - mae'r sifiliaid yn marw oherwydd eu bod yn gwneud defnydd o is strwythurau a chyfleusterau sifilaidd pan mae gelynion eu gwladwriaeth yn ceisio difa'r is strwythurau a chyfleusterau hynny.



Cyn mynd ymlaen, cip bach ar hanes yr arfer. Mae'n debyg mai'r esiampl cyntaf oedd gollwng 5 bom ar Gare L'Est ym Mharis yn 1914 ar gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymhen ychydig roedd y ddwy ochr yn bomio milwyr ei gilydd bymtheg y dwsin, a chafwyd rhai ymysodiadau ar ddinasoedd ac ati. Lladdwyd rhai canoedd o sifiliaid yn Lloegr o ganlyniad i ymysodiadau Zeppelin. Fe laddwyd nifer o Almaenwyr hefyd.

Ni ddylai fod o syndod i neb i'r Ymerodraeth Brydeinig barhau efo'r arfer wedi'r rhyfel. 'Roedd yr unig brif weinidog o Gymro, David Lloyd George yn hoff iawn o fomio strategol. Yn ystod ei gyfnod fel prif weinidog o 1916 i 1922 roedd y Llu Awyr Prydeinig yn gyfrifol am fomio strategol yn Irac, Iran, Yr Aifft ac Afghanistan. 'Roedd Lloyd George wedi bod o blaid y math yma o beth trwy ei yrfa - hyd yn oed pan roedd rhaid saethu'r bomiau o ganon pan nad oedd awerynnau i wneud y gwaith - fel mae'r dyfyniad enwog yma ganddo o 1902 yn ei ddangos - Britain reserves the right to bomb niggers. Meddyliwch am honna y tro nesaf rydych yn cerdded heibio'r cerflun ar y maes yng Nghaernarfon.





Cafodd y Llu Awyr Prydeinig gryn lwyddiant wrth ymarfer y dechneg yn Irac yn ystod y cyfnod, o dan arweinyddiaeth Bomber Harris wrth ymosod ar bentrefi Cwrdaidd ac Iraci efo bomiau confensiynol a nwy. Fel y dywedodd Harris - The Arab and Kurd now know what real bombing means, in casualties and damage. They know that within 45 minutes a full-sized village can be practically wiped out and a third of its inhabitants killed or injured. Roedd y bomio hwn yn hynod lwyddiannus o ran gwireddu amcanion y llywodraeth.

Llai llwyddiannus ond mwy adnabyddus oedd ymysodiadau Llu Awyr yr Almaen ar Guernica yng Ggwlad y Basg ac ymysodiad Llu Awyr Siapan yn Guangzhou, China.



Y bomio strategol mae'r rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd a fo ydi'r hyn a ddigwyddodd yn yr Ail Ryfel Byd. Wna i ddim aros efo hyn ag eithrio i nodi iddo arwain at farwolaeth hyd at 61,000 0 sifiliaid Prydeinig, 500,000 o sifiliaid yn Japan a 600,000 yn yr Almaen. Os oes rhywun a diddordeb, ceir yr hanes yn llawn yma.

Y tueddiad am wn i ydi i feddwl am yr Ail Ryfel Byd fel penllanw'r arfer - ond yn rhyfedd iawn lladdwyd llawer, llawer mwy o bobl o ganlyniad i fomio strategol yn y degawdau yn dilyn y rhyfel. Er enghraifft cafodd mwy na 50% o ddeunaw dinas yng Ngogledd Korea eu difa yn ystod rhyfel yr Americanwyr yn y wlad honno (1950 - 1953). 'Dydi hi ddim yn glir faint o bobl a laddwyd o ganlyniad i'r bomio, ond credir i rhwng 1,500,000 a 3,000,000 o sifiliaid farw yn ystod y rhyfel - nid bomio strategol a laddodd y cwbl wrth gwrs - ond roedd yn gydadran arwyddocaol.

Mae'n debyg i hyd at 4,000,000 o sifiliaid farw yn rhyfel Vietnam (1959 - 1975). Eto nid yw'n glir faint fu farw o ganlyniad i fomio strategol - ond roedd bomio strategol yn cael ei ddefnyddio'n aml iawn, iawn yn ystod y rhyfel yma.



Ail ryfel Irac ydi'r esiampl diweddar mwyaf adnabyddus o fomio strategol - a bu farw llawer o sifiliaid o ganlyniad i fomio - ond nid oedd pethau ar raddfa tebyg i'r hyn a ddigwyddodd yn Vietnam a Korea. Mae'r blog yma eisoes wedi edrych ar rhai o'r delweddau anymunol oedd yn gysylltiedig ag ymysodiadau Llu Awyr Israel ar Lain Gaza a chafwyd bomio strategol a arweiniodd at farwolaethau sifiliaid yn ddiweddar yn Ne Osetia.



'Rwan, fel y dywedais ar y cychwyn 'dwi ddim yn heddychwr, er nad ydw i'n hoffi rhyfeloedd, ond mae'n ymddangos i mi bod ymgyrchoedd heddychwyr yn methu am un o ddau reswm - naill ai am eu bod yn rhy gyffredinol - eisiau atal rhyfel yn ei gyfanrwydd - tasg amhosibl, mae rhyfel yn rhan o'r cyflwr dynol - neu am eu bod yn canolbwyntio ar amcanion penodol ond amhosibl, neu o leiaf hynod anhebygol - diarfogi niwclear er enghraifft.

Byddwn yn tybio y byddai'n well canolbwyntio ar adeiladu ar yr hyn sydd ar gael eisoes. Mae Pedwerydd Confensiwn Geneva eisoes yn amddiffyn sifiliaid oddi wrth milwyr gwladwriaeth sydd wedi goresgyn eu gwlad, neu'r rhan o'r wlad maent yn digwydd byw ynddi. Petai'r Confensiwn yn cael ei ymestyn i wahardd gwledydd rhag ymosod ar gyfleusterau ac is strwythurau sifilaidd pan nad oes milwyr yn eu defnyddio, a phetai arweinwyr gwladwriaethau a byddinoedd sy'n torri'r Confensiwn yn cael eu hunain o flaen eu gwell yn yr Hague , byddai peryglon rhyfeloedd i sifiliaid yn llawer, llawer llai.

Byddai'r peryglon i filwyr yn llai hefyd - byddai rhyfeloedd yn anos o lawer i'w hennill os na fyddai'n bosibl ymosod ar gyfleusterau sifilaidd, a byddai gwladwriaethau'n llai parod i fynd i ryfel ar chwarae bach. Byddent yn cael eu gorfodi i wneud y peth call - trafod a chymodi.

Fideos gwleidyddol 3

'Dwi'n boenus o ymwybodol bod degau o filoedd o bobl sydd a daliadau Adain Dde yn dilyn blogmenai yn rheolaidd, a 'dwi ddim eisiau eu pechu nhw trwy bostio fideos sy'n cael eu cysylltu efo'r Chwith yn unig.

Felly, i gadw'r ddisgl yn wastad hoffwn gyflwyno yr anhygoel, yr anfarwol, y byth gofiadwy Merle Haggard.

Fideos gwleidyddol 2

'Dwi wedi rhyw addo yn y gorffennol bostio fideos gwleidyddol o bryd i'w gilydd ac heb wneud hynny - felly dyma geisio cadw at fy addewid.

Christy Moore yn canu am Victor Jara oedd y blogiad cyntaf. Victor Jara yn canu am Ho Chi Min ydi'r ail.


Cwis bach arall

Pa wlad sydd ag arweinydd sydd heb ei ethol gan neb ag eithrio'i blaid ei hun?

A sydd a 4,200,000 o gamerau CCTV - un am pob 14 person sy'n byw yno - a hynny er nad oes yna fewath o dystiolaeth eu bod yn lleihau tor cyfraith.

A sydd a'i llywodraeth yn coledu gwybodaeth yn ddi ddiwedd ynglyn a'i thrigolion i'w cadw mewn amrediad di ddiwedd o ganolfannau bas data - a sydd efo hanes cyson o golli'r data hwnnw ar dacsis, bysus ac ati

A sydd a chyfreithiau sydd yn eich cosbi am beidio gwirfoddoli data personol ar gyfer y dywydiedig amrediad o fasdata.

A lle mae'r wladwriaeth yn bwriadu gwario rhwng £12 biliwn ac £18 biliwn er mwyn gwneud i bawb gario cardiau adnabod sydd wedi eu cysylltu efo'r annwyl ganolfannau basdata.

A lle mae llawer o'r data y tu allan i oruwchwyliaeth y Comiwsiynydd Gwybodaeth.

A lle mae'r wladwriaeth yn defnyddio trais, arfau, canon dwr, bwledi plastig ac yn caethiwo pobl i un lle am oriau fel defaid wrth blismona protestiadau.

A sydd yn cadw samplau DNA pobl nad ydynt yn euog o unrhyw weithred o dor cyfraith - yn groes i Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop.

A lle mae'r heddlu yn cael atal ac archwilio pobl nad ydynt yn hoffi eu golwg a'u cloi i fyny am gyfnodau maith heb eu cyhuddo.

A lle mae'n bosibl i blentyn 10 oed gael ei gyhuddo o droseddau.

A lle nad yw'n bosibl i bobl gadw'n ddistaw wedi iddynt gael eu harestio heb oblygiadau i achos cyfreithlon posibl.

A lle mae yna Ddeddf Atal Terfysgaeth sy'n diddymu llawer o hawliau sifil sylfaenol diffynyddion, ond lle nad oes ond 0.5% o'r sawl a arestir oddi mewn i'w chyfyngiadau yn eu cael yn euog o unrhyw beth o gwbl.

A lle mae'r heddlu newydd dderbyn yr hawl i fynd i mewn i dai pobl a thynnu posteri sy'n beirniadu'r Gemau Olympaidd i lawr.

Y peth gwirioneddol ddychrynllyd ydi bod hyn oll wedi dod i fodolaeth yn gymharol ddiweddar ac nad ydyw'n poeni dim arnom, ac nad ydyw'n cael fawr o sylw yn y talwrn gwleidyddol..

Tuesday, July 21, 2009

Diolch i Blaid Geidwadol Cymru

Diolch i'r Blaid Geidwadol am dynnu ein sylw at y ffaith bod Cyngor Bro Morgannwg ymysg y cynghorau mwyaf gwastraffus Cymru - i'r graddu y gellir barnu hynny ar sail faint a delir i uchel swyddogion o leiaf.

Trwy gyd ddigwyddiad anffodus braidd, y Toriaid sydd yn rheoli Bro Morgannwg.

Diolch bois.

Monday, July 20, 2009

Paradocs rhyfedd gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon

Mi fydda i o bryd i'w gilydd yn cael cip ar y sefyllfa wleidyddol mewn gwledydd eraill, yn arbennig rhai cyfagos - ac yn arbennig pan mae gennyf ychydig amser ar fy nwylo. Mi gawn ni gip ar wleidyddiaeth Gogledd Iwerddon heddiw.



Y peth cyntaf i'w ddeall am y wleidyddiaeth yma ydi ei bod yn unigryw o llwythol - yng nghyd destun Ewrop o leiaf. 'Rydym yn gwybod bod peth perthynas yng Nghymru rhwng cefndir ieithyddol a phatrymau pleidleisio. Mae'r berthynas rhwng cefndir crefyddol a thueddiadau pleidleisio yn gryfach o lawer yng Ngogledd Iwerddon. Mae mwyafrif llethol pobl o gefndir Pabyddol yn pleidleisio i'r SDPL neu Sinn Fein, tra bod mwyafrif llethol pobl o gefndir Protestanaidd yn pleidleisio i'r DUP, yr UUP, y PUP a'r blaid newydd - y TUV (mwy am hyn wedyn).

Mae yna batrwm dosbarth llai amlwg hefyd. Yn gwahanol i weddill Prydain mae pobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol yn fwy tebygol o bleidleisio na rhai dosbarth canol, ac mae llawer mwy o'u gwleidyddion o gefndiroedd felly. Ar ben hynny mae tueddiad gan bobl dosbarth gweithiol Pabyddol i bleidleisio i SF tra bod y rhai dosbarth canol yn pleidleisio i'r SDLP. Ar yr ochr arall tuedda pobl dosbarth canol i bleidleisio i'r UUP, tra bod rhai dosbarth gweithiol yn cefnogi'r dair plaid arall.

Gellir dod o hyd i hanes etholiadol y dalaith yng ngwefan penigamp Nicholas Whyte - Northern Ireland Elections.

Yn fras mae'r patrwm tros yr ugain mlynedd diwethaf fel a ganlyn:

Ar yr ochr Unoliaethol yr UUP oedd yn ennill pob etholiad (ag eithrio rhai Ewrop) tan i'r broses heddwch ddod i fodolaeth. Roedd yr UUP yn cael ei hystyried yn fwy cymhedrol na'r DUP wrth gwrs. Roedd hyn yn cael ei adlewyrchu ar ochr arall y rhaniad gwleidyddol gyda phlaid gymhedrol yr SDLP yn gyfforddus o flaen SF.

Pan ddaeth y broses heddwch dechreuodd pethau newid gyda phleidleisiau'n symud ar un llaw tuag at y DUP, ac ar y llall tuag at SF. Mae'n debyg bod tros i hanner yr Unoliaethwyr wedi pleidleisio yn erbyn Cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn 1998 - ac roedd yn ddigon naturiol i'r rheiny droi at y DUP - plaid oedd bryd hynny yn erbyn y Cytundeb.

Ar y llaw arall roedd derbyn y Cytundeb wedi symud SF tua'r canol (ac oddi wrth drais yr IRA), ac roedd hefyd yn naturiol i'r gyfadran weddol fawr o bleidleiswyr yr SDLP oedd yn genedlaetholwyr di gyfaddawd ym mhob ystyr ond eu cefnogaeth i drais, ddechrau troi tuag at SF.

Erbyn blynyddoedd cynnar y ddegawd yma (2001 yn achos SF a 2003 yn achos y DUP) roedd y pleidiau 'eithafol' ar y blaen. Erbyn 2007 cyrhaeddodd y broses yma ei phenllanw gyda'r DUP yn cael dwywaith cymaint o bleidleisiau na'r UUP, a SF yn gwneud bron cystal mewn cymhariaeth a'r SDLP yn yr etholiaau Cynulliad.

Wedi etholiadau 2007 roedd y DUP yn teimlo'n ddigon hyderus i allu rhannu grym efo SF - ac i bob pwrpad i dderbyn Cytundeb Dydd Gwener y Groglith. Arweiniodd hyn at ffurfio plaid newydd - y TUV - plaid sydd yn ffyrnig yn ei gwrthwynebiad i rannu grym gyda SF. Arweinydd y blaid yma ydi Jim Allister - Aelod Ewrop y DUP tan eleni. Maent wedi sefyll yn erbyn y DUP ddwywaith - mewn is etholiad cyngor (yn Dromore) ac yn etholiad Ewrop. Er iddynt fethu ag ennill sedd ar y ddau achlysur, gwnaethant niwed etholiadol arwyddocaol i'r DUP. Collwyd y sedd DUP yn Dromore a methodd y blaid a dod ar ben y pol yn ol eu harfer yn yr eholiad Ewrop.



Ar ochr arall y frwydr etholiadol methodd SF a chynyddu eu canran o'r bleidlais, ac yn wir cafwyd cwymp bach. Roedd cwymp mwy o lawer yn y nifer a bleidleisiodd iddynt. Mae'n debyg mai'r rheswm am hyn oedd iddynt dderbyn y gwasanaeth heddlu newydd y PSNI yn 2008. Nid yw'n dderbyniol gan nifer helaeth o bleidleiswyr y blaid hon i gael eu plismona gan heddlu 'tramor'.

'Roedd SF yn gallu arwain eu dilynwyr allan o ryfel, i mewn i strwythurau gwleidyddol 'tramor', i mewn i rym efo'u harch elynion, y DUP - ond maent yn cael mwy o drafferth o lawer i werthu'r egwyddor y dylai cymdogaethau Gweriniaethol gael eu plismona gan heddlu cyffredin.

Serch hynny nid oedd llawer o niwed etholiadol i SF, tra bod niwed sylweddol ac arwyddocaol i'r DUP. Mae hyn yn broblem - ac yn yr hir dymor mae'n fwy o broblem i'r traddodiad Unoliaethol nag yw i'r un Cenedlaetholgar. Y rheswm am hyn ydi bod llwyddiant y TUV yn ei gwneud yn anhebygol y gall y DUP (a'r UUP o ran hynny) symud oddi wrth eu safbwyntiau a'u hethos traddodiadol.



Mae eu problem yn sylfaenol yn un ddemograffig. Mae'r ganran sydd wedi bod yn pleidleisio i'r pleidiau Cenedlaetholgar wedi bod yn cynyddu'n raddol am ddegawdau, tra bod y bleidlais Unoliaethol wedi bod yn cwympo. Mae'r rheswm am hyn yn syml - mae Payddion Gwyddelig yn cael mwy o blant na Phrotestaniaid Gwyddelig. Gellir amcangyfrif y bydd y nifer o bleidleiswyr Cenedlaetholgar yn goddiweddyd y nifer Unoliaethol mewn tua naw mlynedd - erbyn 2018 - dwy flynedd ar ol canmlwyddiant Gwrthryfel 1916.

'Rwan os ydi'r mwyafrif Unoliaethol i barhau, mae'n rhaid iddynt ddechrau apelio at bobl o gefndir Pabyddol. Nid yw'n bosibl iddynt wneud hynny heb symud i dir gwleidyddol llai jingoistaidd, llai secteraidd, llai Protestanaidd a mwy cynhwysol. Mae presenoldeb Jim Allister a'i blaid newydd yn gwneud hyn yn llawer mwy anodd iddynt. Mae unrhyw symudiad at y canol yn colli pleidleisiau.

Felly ar un olwg mae Mr Allister yn cymaint o fygythiad i ddyfodol yr Undeb ag ydi Mr McGuinness, oherwydd bod ei bresenoldeb yn ei gwneud yn anos o lawer i'r traddodiad Unoliaetholapelio at Babyddion - y grwp crefyddol fydd yn y mwyafrif ymysg pleidleiswyr o fewn degawd. Byd bach rhyfedd iawn ydi byd gwleidyddol Gogledd Iwerddon.

Cystadleuaeth Total Politics

'Dwi ddim am grefu am bleidleisiau - ond mae'n debyg y dyliwn dynnu sylw at gystadleuaeth Total Politics.

Click here to vote in the Total Politics Best Blogs Poll 2009

'Dwi'n meddwl y dylai pobl bleidleisio tros y blogiau maent yn eu mwynhau ac yn ymweld a nhw yn aml. Ceisiwch hefyd bleidleisio i flogiau Cymreig neu Geltaidd eu naws.

Saturday, July 18, 2009

Betio a ballu

'Dwi ddim yn un mawr am fetio, ond mi fyddaf yn betio o bryd i'w gilydd - ond dim ond ar rygbi a gwleidyddiaeth. Y wefan orau i fetio ar wleidyddiaeth Prydeinig yn eironig ddigon ydi un y bwci Gwyddelig Paddy Power.

Mae ganddyn nhw bellach nifer dda o etholaethau unigol y gellir betio arnynt. Gan fod y blog yma'n ymddiddori'n bennaf mewn gwleidyddiaeth Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill 'dwi am gymryd cip ar bets y gellir eu cael ar etholaethau Celtaidd. Un sedd Gymreig sydd ganddynt - Gorllewin Casnewydd, a dim un Gwyddelig. Seddi Albanaidd ydi'r gweddill.

'Dwi ddim yn honni i fod yn arbenigwr ar wleidyddiaeth lleol y seddi yma - ond 'dwi wedi hel canlyniad etholiad 05, is etholiadau diweddar lle'n berthnasol a chanlyniadau etholiadau Senedd yr Alban neu'r Cynulliad yn 2007. Gair o rybudd efo'r rhain - 'dydi'r etholaethau yn yr Alban yn etholiadau San Steffan ddim yn rhannu'r un ffiniau a rhai Senedd yr Alban - felly 'dwi ond wedi cynnwys canlyniadau Senedd yr Alban lle mae yna debygrwydd gweddol rhwng y ffiniau. 'Dwi hefyd wedi nodi odds Paddy Power fel maent yn sefyll heddiw.

Aberdeen South:

Etholiadau San Steffan 2005:

Llafur: 15272 (36.7%)
Lib Dems: 13924 (33.5%)
Ceidwadwyr: 7134 (17.1%)
SNP: 4120 (9.9%)
Eraill: 1171 (2.8%)
Mwyafrif: 1348 (3.2%)

Etholiadau Senedd yr Alban 2007

Lib Dems: 10,843 (36.3)
SNP: 8111 (27.1%)
Llafur: 5499 (18.4)
Ceidwadwyr: 5432 (18.2%)
Mwyafrif: 2,731 (9.1%)

Llafur 11/8, Lib Dems 2/1, Toriaid 10/3, SNP 13/2

Mae'r 2/1 ar y Lib Dems yn ymddangos yn bet dda yma - ag ystyried i Lafur ddod yn drydydd yn etholiadau senedd yr Alban a bod pethau'n agos ar lefel San Steffan y tro o'r blaen. Mi fydd yr SNP yn debygol o fwyta i mewn i bleidlais y Lib Dems a Llafur - ond byddant yn cael mwy o bleidleisiau Llafur.

Dunfermline and West Fife

Llafur: 20111 (47.4%)
Lib Dems: 8549 (20.2%)
SNP: 8026 (18.9%)
Ceidwadwyr: 4376 (10.3%)
Eraill: 1332 (3.1%)
Mwyafrif: 11562 (27.3%)

Is etholiad 2006:

Lib Dems: 12,391 (35.8%)
Llafur: 10,591 (30.6%)
SNP: 7,261 (21%)
Ceidwadwyr: 2,702 (7.8%)
Eraill: tua 1,500
Mwyafrif: 1,800 (5.2%)

Lib Dems 5/6, Llafur 15/8, SNP 6/1, Ceidwadwyr 80/1.

Y 15/8 ar Lafur sy'n edrych orau yma. Er i'r Lib Dems gipio'r sedd mewn is etholiad yn 06, roedd mwyafrif Llafur yn sylweddol iawn yn 05. Mae ganddynt obaith da o ennill y sedd yn ol - er bod record y Lib Dems o ddal seddi maent wedi eu hennill mewn is etholiadau yn gyffredinol dda.

Edinburgh South West:

2005

Llafur: 17476 (39.8%)
Ceidwadwyr: 10234 (23.3%)
Lib Dems: 9252 (21.1%)
SNP: 4654 (10.6%)
Eraill: 2310 (5.3%)
Mwyafrif: 7242 (16.5%)

Edinburgh Pentlands - Etholiad Senedd yr Alban

Ceidwadwyr: 12,927 (37.6%)
Llafur: 8,402 (24.2%)
SNP: 8,234 (24%)
Lib Dems: 4,814 (14%)

Llafur 1/2, Ceidwadwyr 6/4, Lib Dems 16/1, SNP 20/1
Mwyafrif: 4,525 (13.2%)

Er i'r Ceidwadwyr ennill yn Pentlands yn etholiadau Senedd yr Alban - mae proffeil South West yn fwy dosbarth gweithiol nag un Pentlands. Ar ben hynny 'dydi'r Toriaid ddim yn gwneud yn dda yn yr Alban yn ol y polau. Serch hynny sedd Alistair Darling ydi hi - ac ni ddaeth y gwron hwnnw allan o'r busnes treuliau'n arbennig o dda. Efallai y byddai bet fach ar y Ceidwadwyr yn syniad.

Edinburgh South

2005

Llafur: 14188 (33.2%)
Lib Dems: 13783 (32.3%)
Ceidwadwyr: 10291 (24.1%)
SNP: 2635 (6.2%)
Eraill: 1801 (4.2%)
Mwyafrif: 405 (0.9%)

Lib Dems: 11398 (35%)
Llafur: 9,469 (29.1%)
SNP: 6,117 (18.8%)
Ceidwadwyr: 5,589 (17.2%)
Mwyafrif: 1,929 (5.9%)

Toriaid 1/1, Lib Dems 13/8, Llafur 7/2, SNP 25/1.

Fedra i ddim deall pam bod y Ceidwadwyr yn cael 1/1. Mae'n rhaid bod pleidleisiau y bydd Llafur yn eu colli yn fwy tebyg o fynd i'r Lib Dems nag i Lafur. Y 13/8 i'r Lib Dems ydi'r bet orau.

Glasgow East:

Llafur: 18775 (60.7%)
SNP: 5268 (17%)
Lib Dems: 3665 (11.8%)
Ceidwadwyr: 2135 (6.9%)
Eraill: 1096 (3.5%)
Mwyafrif: 13507 (43.7%)

Is etholiad 2008
SNP: 11277 (43.1%)
Llafur: 10,912 (41.7%)
Ceidwadwyr: 1636 (6.3%)
Lib Dems: 915 (3.5%)
Mwyafrif: 635 (1.4%)

Senedd yr Alban 2007:

Glasgow Baillieston

Llafur: 9141 (52.9%)
SNP: 5,207 (30.2%)
Ceidwadwyr: 1,276 (7.4%)
Lib Dems: 1,060 (6.1%)
Mwyafrif: 3,934 (22.8%)

Llafur 8/15, SNP 11/8, Ceidwadwyr 80/1, Lib Dems 80/1

Er i'r SNP gipio'r sedd yn is etholiad 08, ac er bod ganddynt Aelod Seneddol effeithiol iawn, 'dwi'n meddwl bod yr odds yma yn eihaf cywir - ac ni fyddwn yn betio ar hon.

East Renfrewshire

Llafur: 20815 (43.9%)
Ceidwadwyr: 14158 (29.9%)
Lib Dems: 8659 (18.3%)
SNP: 3245 (6.8%)
Eraill: 528 (1.1%)
Mwyafrif: 6657 (14%)

Llafur: 15,047 (35.8%)
Ceidwadwyr: 14,186 (33.6%)
SNP: 7,972 (18.9%)
Lib Dems: 3,603 (8.6%)
Eraill: 1327 (8.6%)
Mwyafrif: 891 (2.1%)

Ceidwadwyr 5/6, Llafur 5/6, SNP 80/1, Lib dems 80/1.

Mi fyddai hon yn gyraeddadwy i'r Ceidwadwyr yn Lloegr - ond ddim yn yr Alban efallai. Y bet Llafur ydi'r un orau - er na fydda i'n trafferthu fy hun.

Kircaldy & Cowdenbeath:

Sedd Gordon Brown wrth gwrs.

San Steffan 2005

Llafur: 24278 (58.1%)
SNP: 6062 (14.5%)
Lib Dems: 5450 (13%)
Ceidwadwyr: 4308 (10.3%)
Eraill: 1698 (4.1%)
Mwyafrif: 18216 (43.6%)

Senedd yr Alban 2007:

Llafur: 10,627 (43.9%)
SNP: 8,005 (33.1%)
Lib Dems: 3,361 (13.9%)
Ceidwadwyr: 2,202 (9.1%)
Mwyafrif: 2,622 (10.8%)

Llafur 1/20, SNP 16/1, Annibynnol 16/1, Lib Dems 100/1, Ceidwadwyr 100/1.

Mae Brown yn siwr o ennill, ond efallai y byddai bet fach ar yr SNP ar 16/1 yn syniad oherwydd y posibilrwydd y bydd Brown wedi ei ddiorseddu erbyn yr etholiad. Gallai hynny rhoi rhyw fath o obaith i'r SNP.

Gorllwin Casnewydd:

Llafur: 16021 (44.8%)
Ceidwadwyr: 10563 (29.6%)
Lib Dems: 6398 (17.9%)
Plaid Cymru: 1278 (3.6%)
Eraill: 1472 (4.1%)
Mwyafrif: 5458 (15.3%)

Cynulliad 2007

Llafur: 9,582 (40.5%)
Ceidwadwyr: 8,181 (34.8%)
Lib Dems: 2,813 (11.9%)
Plaid Cymru: 2,449 (10.4%)
Eraill: 634 (2.7%)
Mwyafrif: 1,401 (5.9%)

'Dwi'n credu i Lafur ddod yn gyntaf yn etholiadu Ewrop - ond gyda tua chwarter y bleidlais yn unig.

Llafur 4/7, Ceidwadwyr 5/4, Lib Dems 33/1, Plaid Cymru 100/1.

Y bet ar y Toriaid ydi'r un orau yma. Mae gen i ofn bod sedd Paul Flynn men perygl - mae'r Toriaid mor debygol o'i chipio nag ydi Llafur i'w chadw. Mi fyddai'n bechod colli Cymro da o'r senedd - ond gall ddigwydd yn hawdd.

Peidiwch a chymryd hyn gormod o ddifri - a pheidiwch a dod yma i chwilio am eich pres os ydych yn dilyn fy nghyngor ac yn colli yr uffernols barus.

Problemau technegol?

Mi es i allan i Dre heno, a chael syndod o ddeall cymaint o bobl sydd yn cael trafferth i 'weld' blogmenai.

Mae'n ymddangos bod pobl sy'n defnyddio Explorer fel porwr yn cael bod y blog yn diffodd ei hun ychydig eiliadau wedi iddynt gael mynediad.

'Dwi'n teimlo ychydig fel y cadeirydd hwnnw yr ydym oll yn ei adnabod sy'n gofyn yn Gymraeg ar gychwyn cyfarfod pwy sydd angen offer cyfeithu yn dweud hyn - ond os ydych yn cael anhawster, defnyddiwch borwr ag eithrio Explorer.

Mi geisiaf gael rhywun sy'n deall y pethau 'ma yn well na fi i edrych ar bethau tros y dyddiau nesaf.

Friday, July 17, 2009

Sarhau'r etholwyr

Diolch i politicalbetting.com am am ddod a gwen i'r wyneb trwy dynnu ein sylw at y stori fach yma.

Ymddengys bod cyn aelod seneddol Norfolk North wedi sarhau ei etholwyr trwy awgrymu bod ganddynt dueddiadau llosgachol. Dyfynaf o'r Telegraph.

“For years, country folk in Norfolk have been the butt of jokes suggesting that incest is rampant in the county. Now, one of its MPs has caused uproar by stating publicly that people in Norfolk are inbred…

Dr Ian Gibson, the Norwich North MP and former chairman of the Commons science and technology committee, proposed inbreeding as a reason for the high incidence of diabetes among children in the area.

“I would imagine it is linked to the fact that people in Norfolk are quite inbred, with many not leaving the county,” he told the Eastern Daily Press this week. “It is something that needs to be looked at as a priority, especially as many cases are linked to obesity, too.”

Dr Gibson knew at the time that he was playing with fire. When asked if he thought people would be offended by his comments, he replied: “Probably, but they are inbred. If you look at the names in Norfolk, there’s a lot that are the same.”

Roedd y stori'n gwneud i mi feddwl am ein Ian Gibson ni - Rhys Williams, cyn ddarpar ymgeisydd y Blaid Lafur yn Nwyrain Caerfyrddin / Dinefwr. Chwi gofiwch iddo frolio yn Barn ei fod yn casau'r Cymry Cymraeg. Mae tua dau o phob tri o etholwyr Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr yn siarad Cymraeg.

Yn bersonol fyddwn i ddim yn dweud bod y naill achos na'r llall - cyhuddiad penodol o dueddiadau llosgachol y Dr Gibson, neu gyhuddiad mwy cyffredinol o ddrygioni mwy anelwig Mr Williams mor sarhaus a thueddiad y Lib Dems i drin yr etholwyr fel petaent yn idiotiaid o'r radd flaenaf.

Sunday, July 12, 2009

Beth mae hanes yn ei ddysgu i ni? Dim byd o gwbl.


Llun ydi'r uchod gan Elizabeth Butler o'r Dr William Brydon. Hynodrwydd Dr Brydon yw mai fo oedd yr unig greadur o 16,000 o aelodau'r fyddin Brydeinig a sifiliaid oedd ynghlwm a'r fyddin honno i ddychwelyd o Afghanistan wedi ymgyrch yno yn 1842. William George Keith Elphinstone oedd y swyddog a lwyddodd i arwain ei fyddin i'r ffasiwn drychineb.

Mae'n siwr gen i bod yna rhyw reswm ofnadwy o bwysig yn cael ei roi tros yr ymgyrch honno (bygythiad dychmygol o Rwsia oedd y rheswm y tro hwnnw os 'dwi'n cofio'n iawn).

Trwy gyd ddigwyddiad mae'r nifer a gollwyd yn 1842 yn debyg i'r nifer o filwyr Sofietaidd a gollwyd yn Afghanistan ganrif a hanner yn ddiweddarach (tua 15,000). Mae hanes y wlad anffodus yma wedi ei fritho gan bwerau mawrion yn ymosod arni er mwyn hyrwyddo eu agendau eu hunain. Mae hefyd yn hanes sydd wedi ei drochi mewn gwaed pobl Afghanistan a'r sawl oedd yn ymosod arni. 'Does yna ddim hanes gwerth son amdano o ymyraeth allanol llwyddiannus yn Afghanistan - yn yr ystyr bod llwyddiant yn lled barhaol o leiaf.

Ond am rhyw reswm 'dydym ni byth, byth yn dysgu. 'Dydi'r rhyfel yma ddim yn enilladwy - a'r cyntaf yn y byd y bydd pethau'n dod i ben y lleiaf ohonom ni a nhwythau fydd yn colli eu bywydau yn ddi angen.

Saturday, July 11, 2009

Reheboth, Patagonia, Cymru a Chwrdestan

Aeth y Mrs a minnau i Gapel Reheboth yn Nant Peris neithiwr. Fydda i ddim yn cael fy hun mewn capel yn aml, yn arbennig felly ar nos Sadwrn. Roeddym yno oherwydd bod cyngerdd wedi ei drefnu i hel pres i ddwy ddynes o Batagonia a gafodd eu hel adref gan yr awdurdodau mewnfudo yn Heathrow tra'n ceisio ymweld a'u mamwlad.



Roedd nifer o berfformwyr yn perfformio - Dafydd Iwan, Aron Elias a Jackie Williams, Cass Meurig a Nial Cain, Gwenan Gibbard a Cathrin Williams. Cafwyd sgwrs ddirdynnol gan Erica, chwaer Shirley Edwards (un o'r sawl a anfonwyd adref).

Ymddengys bod y gost o hedfan i Brydain yn fuddsoddiad sylweddol i berson cyffredin o'r Ariannin, ac mae ymwelwyr nad yw'r biwrocratiaid yn Heathrow yn eu hoffi yn dioddef yn ariannol. Yn waeth mae'n dipyn o slap i rhywun sy'n cysylltu eu hunain yn emosiynol a Chymru i ddeall nad oes ganddynt hyd yn oed hawl i ymweld a'r wlad.

Beth bynnag am hynny roedd y digwyddiad yn un hynod ddiddorol. 'Dwi erioed wedi gweld eiconau megis y Galon Santaidd a'r Forwyn Fair a'i Baban sy'n gyfarwydd ac yn annwyl iawn i mi oherwydd fy nghefndir crefyddol, yn cael eu harddangos mewn capel anghydffurfiol o'r blaen. Roedd y rheswm am hynny yn ymwneud a chysylltiadau trefnydd y noswaith gyda Christnogion o Cwrdestan - mwy am hynny maes o law.



Roedd yn ddiddorol am resymau eraill hefyd. Ar rhyw olwg roedd trefn y noswaith yn fler, di drefn ac ad hocaidd. gyda pheth ansicrwydd ymysg y gynulleidfa (gweddol fawr) ar adegau a'r perfformwyr ynglyn ag union drefn pethau. Mae traddodiad anrhydeddus i'r math yma o beth yng Nghymru.

Ar olwg arall roedd rhywbeth gwirioneddol hyfryd ynglyn a'r peth i gyd - roedd yn nhraddodiad gorau gwleidydda all etholiadol y Gymru Gymraeg. 'Roedd nifer teilwng iawn o bobl o pob rhan o'r Gogledd Orllewin wedi dod at ei gilydd ym mhentref mwyaf diarffordd Arfon ar noswaith fufur iawn, mewn capel lle nad oes ond chwech yn addoli'n rheolaidd. Roeddynt wedi dod yno er mwyn ceisio gwirio anghyfiawnder, er mwyn mynegi cefnogaeth i bobl o ochr arall y Ddaear sy'n rhannu peth o'n traddodiad diwyllianol unigryw, ac er mwyn rhoi cyfraniad ariannol i bobl sydd angen cymorth ariannol. Roedd y perfformwyr hefyd wedi cyfranu yn rhad ac am ddim. Mae'n esiampl o'r hyn y gall un person penderfynol ei wneud os ydyw'n coleddu amcanion teilwng.

Cafwyd nifer o areithiau byr. Safodd arweinydd Cyngor Gwynedd - Dyfed Edwards ac arweinydd Llais Gwynedd Owain Williams ochr yn ochr. Roedd Owain yn gweld y stori yng nghyd destun gorthrwm hanesyddol, tra bod Dyfed yn gofyn sut oeddym wedi cael ein hunain mewn sefyllfa lle'r oeddym yn allforio rhyfel i bellafion byd tra'n methu a rhoi croeso tros dro i'n pobl ein hunain. Dau bwynt teilwng iawn - ond y pwynt a wnaeth y mwyaf o argraff arnaf i oedd un cyfaill o Gwrdestan, nad wyf yn anffodus yn cofio ei enw.

Mae'r ffaith bod rhywun o Gwrdestan yno ynddo ei hun yn rhyfedd - roedd hynny'n deillio o gysylltiadau trefnydd y noswaith, Eilian Williams. Am ychydig oriau roedd Capel Reheboth yn taflu goleuni'r gannwyll ar edefyn bach bregus sy'n cysylltu Cwrdestan, Cymru a'r Wladfa, ac hynny yng nghanol gwynt a glaw Eryri - edefyn sydd ond gan amlaf ond yn weladwy i'r sawl sy'n chwilio amdano. Anhygoel.

Ta waeth am hynny, ei bwynt oedd hyn - bod gwendid Cymru o ran hunan ymreolaeth yn arwain at ddiffyg sylfaenol ac arwyddocaol - nad ydym yn gallu diffinio pwy sy'n Gymry a phwy nad ydynt. Mae hynny'n hollol wir.

Y bobl sydd a'r hawl i wneud y diffiniad yma ydi man fiwrocratiaid Seisnig ym meysydd awyr a phorthladdoedd Lloegr. Mae eu barn wedi ei seilio ar eu profiad cyfyng eu hunain o fywyd. 'Does yna neb sy'n llai addas i farnu ar y mater yma na nhw.

Ein bai ni ydi hynny ac nid bai'r Saeson na neb arall. Pob tro yr ydym yn pleidleisio i bleidiau unoliaethol rydym yn gwadu ein hawl ein hunain i ddiffinio pwy sy'n Gymro neu Gymraes a phwy nad yw'n Gymro neu Gymraes. Rydym yn rhoi'r hawl yna i fiwrocratiaid y meysydd awyr - pobl sy'n gwybod dim oll am Gymru - ein diffinio ni. Rydym yn amddifadu ein hunain o hawl cenedlaethol sylfaenol - ac i bob pwrpas ymarferol rydym yn trosglwyddo'r hawl yna i bobl nad ydynt yn gwybod unrhyw beth o gwbl amdanom. Mae hyn yn fater o warth cenedlaethol.

Thursday, July 09, 2009

Pob lwc Mr Murphy!

Wnes i erioed feddwl y byddwn yn 'sgwennu'r frawddeg uchod mewn perthynas a'r Bonwr Paul Murphy, hyd i mi weld hyn ar flog Vaughan Roderick.

Ymddengys bod Paul Starling yn sefyll i'r People's Voice yn erbyn Paul Murphy yn Nhorfaen. Starling oedd yn arwain ymgyrch warthus y Welsh Mirror (RIP) yn erbyn Seimon Glyn yn benodol, ac yn erbyn cenedlaetholwyr a hyd yn oed siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol.

Roedd sbwriel ymfflamychol, anghyfrifol a sinicaidd y Welsh Mirror yn ystod y cyfnod pan roedd Llafur yn ceisio ad ennill y tir yr oeddynt wedi ei golli i'r Blaid yn 1998 yn bydew na welwyd mo'i debyg cynt na wedyn, yn hanes newyddiaduriaeth Gymreig.

Duw yn unig a wyr beth mae'r People's Voice yn ei weld yn y creadur yma.

Wednesday, July 08, 2009

Tydio'n beth rhyfedd dywedwch

Blog gwleidyddol ydi blogmenai - neu dyna beth ydi o i fod o leiaf. Mae'r nifer sydd yn ei ddarllen yn eithaf cyson.

Ac eto mae'r darlleniad wedi bod yn rhyfeddol o uchel heddiw. Yr unig dro 'dwi'n wei cael ffigyrau uwch yn y gorffennol agos ydi ar nosweithiau etholiad - pan mae llawer o bobl ar eu cyfrifiaduron yn chwilio am wybodaeth cynnar am ganlyniadau'r etholiadau.

Y rheswm wrth gwrs ydi'r ffrae ynglyn a'r stori parcio - mater sydd i mi yn ddigon aniddorol yn y bon. Mi fydd pawb wedi anghofio am yr holl beth mewn wythnos. Yn sicr mae'n stori ag ychydig iawn o arwyddocad gwleidyddol iddi. Tybed os ydi HRF, Gwilym, Rhydian a maes e wedi cael profiad tebyg?

Y fi sy'n rhyfedd ta phawb arall tybed?

Tybed os ydi HRF, Gwilym, Rhydian a maes e wedi cael profiad tebyg?

Tuesday, July 07, 2009

Dadl Fawr y Ganrif

'Dwi ddim yn hollol siwr faint ohonoch sydd wedi bod yn dilyn y ffrae ddwyieithog bisar sydd wedi bod yn mynd rhagddi ar flog fy nghyfaill agos Gwilym Euros.

Asgwrn y gynnen ydi'r cwestiwn allweddol bwysig os ydi Dafydd Iwan wedi parcio ar slot sydd wedi ei chlustnodi ar gyfer yr anabl. Mae'r ddadl yn llawer, llawer rhy gymhleth i rhywun fel fi ei deall wrth gwrs, felly 'dwi am gadw fy nghyngor i mi fy hun ynglyn a'r mater - rhag i mi wneud ffwl ohonof fy hun.



Mi hoffwn fodd bynnag gymeradwyo Gwilym ar ei sensitifrwydd i anghenion yr anabl. Fel mae'n dweud wrth un o bapurau Trinity Mirror :

What if an old lady who was disabled wanted to park there? I would never park in a disabled parking bay and I’ve never done.



Mae'n wych deall nad ydi parcio mewn llefydd sydd wedi eu clustnodi ar gyfer yr anabl ymysg gwendidau Gwilym, ac nad yw'n bwriadu magu'r gwendid hwnnw yn y dyfodol, agos na'r un canolig na phell.

Gan ei fod yn poeni cymaint am yr hen wraig fethiedig ddamcaniaethol oedd yn marw eisiau defnyddio'r slot, 'dwi'n siwr ei fod wedi gwneud pob dim o fewn ei allu i hysbysu'r awdurdodau priodol o'r broblem, a gofyn iddynt glirio'r slot cyn gynted a phosibl - yn ogystal a rhedeg at y papurau a myllio ar ei flog.

Fel arall mae'n debyg y byddai'n rhaid i ddyn ddod i'r casgliad mai ymdrech bathetig i sgorio pwyntiau gwleidyddol amherthnasol a thynnu sylw ato fo ei hun fyddai'r holl ymarferiad.

Monday, July 06, 2009

Rhyfel Affganistan a phroblemau heroin Prydain

Pam ydi o bod pobl sy'n hoffi rhyfeloedd hefyd yn cael problemau efo dweud y gwir?

Fe gofiwch i ni gael ein perswadio i fynd i ryfela yn Irac ar y sail bod y lle yn llawn o WMDs. Erbyn dod i ddeall, yr unig bethau oedd yn llawn o WMDs (oni bai am arfdai'r Unol Daleithiau a Phrydain) oedd dychymyg George Bush, Dick Cheney, Tony Blair, Alistair Cambell, Ann Clwyd a gweddill y giwed gegog oedd yn bloeddio mor groch am waed yn ol yn y misoedd oedd yn arwain at ryfel 2003.



Wrth yrru adref o'r gwaith heddiw, roedd rhyw gaplan neu'i gilydd i'r fyddin yn egluro pam mor ofnadwy o bwysig ydi'r gyflafan yn Affganistan er mwyn (ymysg pethau eraill) atal heroin rhag cyrraedd strydoedd Prydain. Gan ei fod yn gwneud ei sylwadau ar y radio, fedrwn i ddim barnu os y llwyddodd i gadw ei wyneb yn syth wrth ddweud hyn. Roedd Nia Griffith - aelod seneddol Llafur Llanelli (a dynes rwyf yn ei hystyried yn ddeallus) yn hoff iawn o'r sylw - ac aeth ati i nodi sylwadau mor dda a gafwyd gan y parchedig gaplan. Fedrwn i ddim barnu os y llwyddodd hi i gadw ei hwyneb yn syth chwaith.

Un neu ddau o ffeithiau syml am heroin yn Affganistan. Cyrhaeddodd cynhyrchiant heroin ei uchafbwynt yno yn 1999 - roedd 350 milltir sgwar o dir wedi ei blanu efo popi (y planhigyn sy'n cynhyrchu opiwm - craidd heroin). Y flwyddyn ganlynol cafodd planu popi ei wneud yn anghyfreithlon yn y wlad gan y llywodraeth - llywodraeth a reolid gan y Taliban. Roeddynt yn brysur yn gwneud pob dim yn anghyfreithlon ar y pryd. Erbyn 2001, 30 milltir sgwar o'r wlad oedd o dan bopi. Blwyddyn wedyn roedd llywodraeth y Taliban wedi ei ddymchwel ac roedd 285 milltir sgwar o'r wlad o dan bopi drachefn. Affganistan oedd prif ffynhonell heroin y Byd unwaith eto. Bu cynnydd cyson mewn faint o'r cyffur a gynhrchir oddi ar hynny.

Mae'r rheswm am y cynnydd yn syml - y rhyfel sydd yn creu'r cymhelliad i gynhyrchu opiwm. Mae'n rhaid i'r gwahanol grwpiau sy'n ymladd yno nad ydynt yn cael eu hariannu gan yr UDA ddod o hyd i rhyw ffordd o brynu arfau. Felly maent yn annog ffermwyr i dyfu'r stwff, amddiffyn y cnwd, ei symud tros yr afon Oxus - ffin Tajikistan - a'i ffeirio yn y bazars ar hyd y ffin am AK 47s, drylliau saethu hofrenyddion ac ati. Gellir ffeirio 1kg o heroin am chwech AK 47 fe ymddengys.

Mae yna ddadleuon tros ryfel Affganistan - 'dydw i ddim yn cytuno efo'r rhan fwyaf ohonyn nhw, ond o leiaf mae rhai yn rhesymegol. Ond mae dadlau bod y rhyfel yn ymwneud a delio gyda phroblemau cyffuriau adref yn nonsens anonest.

Y rhyfel a'r cynhyrchiant uchel o heroin sy'n dod yn ei sgil ydi un o'r prif resymau pam bod pris heroin ar strydoedd y DU yn gymharol isel, ac felly'r rhyfel sy'n gyfrifol am y defnydd uchel o'r stwff - a'r holl dor cyfraith sy'n ei ddilyn fel cysgod.

'Dwi'n un am redeg, ac mae yna ddarn o dir gwastraff ar gyrion Caernarfon 'dwi'n rhedeg trwyddo yn aml lle ceir dwsinau o nodwyddau wedi eu gwasgaru ar hyd y llawr yn ddi eithriad. Mae yna hefyd nifer go dda o hogiau a genod y dre yn Affganistan ar hyn o bryd. Ceir cysylltiad uniongyrchol rhwng y naill beth a'r llall - ac mae'r cysylltiad hwnnw'n un torcalonus.

'Dydi gwrando ar droelli rhyfelgar Ms Griffith a'r parchedig gaplan ddim yn gwneud i mi deimlo'n garedig tuag at y naill na'r llall mae gen i ofn.

Saturday, July 04, 2009

Gogledd Korea, Miliband, Scuds a Trident

Mae David Milliband yn ofnadwy o flin bod Gogledd Korea wedi profi taflegrau Scud. Am unwaith 'dwi'n cytuno efo David - mae llywodraeth Gogledd Korea ymhlith y mwyaf anymunol yn y byd.



Fodd bynnag mi fyddai llais David yn gryfach pe na fyddai ei blaid eisiau gwario £76 biliwn ar system Trident newydd.

Mae gan Trident 2 gyrhaeddiad o 7,500 milltir, cyflymder o 18,000 mya ac wyth warhead niwclear ar pob taflegryn.

Efo'r system mae David eisiau gwario'n holl bres arni, gall llong danfor sydd wedi ei chuddio yng nghanol Mor yr Iwerydd ddifa dinas yn y Dwyrain Canol, China neu Rwsia. Mi fydd gan y system newydd 64 taflegryn a 768 warheads - y gallu i ddifa 768 dinas.

Ymddengys bod Gogledd Korea wedi profi bomiau niwclear, ond does yna ddim lle i gredu eu bod yn gallu gosod eu harfau niwclear ar flaen taflegryn a gwneud iddynt ffrwydro.

Cyrhaeddiad y Scud mwyaf effeithiol ydi 1,000km, ac mae'n llawer llawer llai cywir na Trident. Dydi'r Scud ddim yn system aml warhead chwaith. Mewn geiriau eraill, petai - petai - Gogledd Korea yn gallu dod o hyd i ffordd o wneud i'w bomiau niwclear cyntefig ffrwydro pan maent ar flaen taflegryn, byddaiefallai hanner dwsin o ddinasoedd yn Japan a De Korea o dan fygythiad. Petai David yn cael ei system Trident 2, gallai fygwth pob tref yn y byd.

Ti'n gywir i fyllio am y peth Dave - ond wir Dduw mae gofyn deryn glan i ganu.

Tai Fforddiadwy

Nid yn aml y byddaf yn cyfeirio at ddau gyfraniad i flog Dyfrig ddwywaith o'r bron - ond dyna 'dwi am ei wneud heddiw.

Y ddadl yma sy'n mynd a fy niddordeb. 'Dwi ddim am fynd i mewn i'r achos ei hun ag eithrio i nodi bod cynllun yn cael ei gynnig i ddatblygu tai fforddiadwy ym mhentref Talysarn. Fel mewn llawer achos tebyg, roedd y cynllun yn un oedd yn creu gwrthwynebiad yn lleol ond roedd hefyd yn ceisio diwallu anghenion ehangach. Fe syrthiodd y cynnig.

'Rwan, does gen i ddim problem efo hyn fel y cyfryw - mae penderfyniadau fel hyn yn aml yn ddibynol ar gytbwyso gofidiau lleol yn erbyn lles ehangach. Mae gan pob cynghorydd hawl i'w farn, ac mae ganddo hawl i fynegi'r farn honno ar ffurf pleidlais. Peth felly ydi llywodraeth leol.

'Rwan yn ol Dyfrig, dywedodd un o bwysigon Llais Gwynedd yn y cyfarfod mai Spin llwyr yw Tai Fforddiadwy. Dydw i'n amlwg ddim yn gwybod os ydi hynny'n wir gan nad oeddwn yn y cyfarfod - ond 'dydi Aeron ddim yn cywiro Hen Rech Flin pan mae yntau'n cyfeirio at y mater yma. Mae gwrthwynebu tai fforddiadwy fel strategaeth o fynd i'r afael a diffyg gallu pobl leol i fforddio tai yn fater tra gwahanol i wrthwynebu datblygiad arbennig o dai fforddiadwy.

Yn ystod eu hymgyrch ar gyfer etholiadau lleol 07, gwnaeth Llais Gwynedd gryn dipyn o dai fforddiadwy ac ymddiriedolaethau tai. Ymddengys eu bod bellach wedi newid eu meddyliau. Ynddo'i hun 'does yna ddim oll o'i le yn hyn - bydd pobl a phleidiau yn newid eu meddyliau o bryd i'w gilydd. Mae serch hynny'n deg gofyn os nad ydi Llais Gwynedd bellach yn credu mewn tai fforddiadwy, beth yn union ydi eu strategaeth ar gyfer mynd i'r afael a phroblem sydd yn un ddwys iawn yn rhannau o Wynedd?

Mae Aeron hefyd yn cyfeirio at y ffaith nad ydi Cyngor Gwynedd yn cynnig morgeisi i bobl ifanc. Mae hyn wedi'i gynnwys yng Nghynllun Ymateb i'r Dirwasgiad sydd wedi ei lunio gan Cyngor Gwynedd. Adolygwyd hyn yn ddiweddar gan Fwrdd y Cyngor er mwyn goresgyn rhai o'r anhawsterau gyda rhai cymdeithasau adeiladau yn gwrthod morgeisi ar gyfer tai Adran 106. Cefnogwyd hyn yn unfrydol gan bob plaid - gan gynnwys LLais Gwynedd.

I gynnig morgeisi, mae rhaid cael tai wrth gwrs. Un o brif fanteision morgais llywodraeth leol yw ei fod yn ffordd o gwmpas agwedd rhai cymdithasau adeiladu at Adran 106. Ond os ydi'r cysyniad o dai fforddiadwy yn ddiwerth, mae'n cyfyngu'n sylweddol ar ddefnyddioldeb morgais llywodraeth leol.

Friday, July 03, 2009

Llafur Arfon

Mae gan Dyfrig stori ddiddorol ar ei flog answyddogol - nad oes neb eisiau sefyll tros Lafur yn Arfon.

Os ydi hyn yn wir, mae'n eithaf rhyfeddol. Mae'n weddol anarferol i neb addas roi ei enw ymlaen i Lafur ar gyfer etholiad San Steffan - hyd yn oed mewn etholaeth anobeithiol. Etholaethau anobeithiol ydi'r camau cyntaf ar y grisiau i yrfa wleidyddol lewyrchus.

Ond 'dydi Arfon ddim yn etholaeth anobeithiol i Lafur, neu o leiaf ni ddylai fod. 'Doedd yr etholaeth ddim yn bodoli yn ystod etholiadau San Steffan 2005, ond yn ol y bobl sy'n deall y pethau 'ma, Llafur fyddai wedi ennill petai'n bodoli. Y canlyniad damcaniaethol fyddai:

Llafur: 8165 (35.5%)
Plaid Cymru: 8072 (35.1%)
Toriaid: 3431 (14.9%)
Lib Dems: 2599 (11.3%)
Eraill: 748 (3.2%)
Mwyfrif: 93 (0.4%)

Felly, 'dydi Llafur methu cael neb cael neb i sefyll am sedd maent yn ei dal - yn dechnegol o leiaf. Pam?

Mae'r ateb yn eithaf syml - ers i'r etholaeth newydd ddod i fodolaeth mae Llafur wedi cael eu llabuddio yno dair gwaith. Dyma oedd canlyniad etholiad Cynulliad 2007:

Plaid Cymru 10,260 (52.4%)
Llafur 5,242 (26.8%)
Toriaid 1,858 (9.5%)
Lib Dems 1,424 (7.3%)
UKIP 789 (4%)
Mwyafrif 5,018 (25.6%)

Aeth pethau'n waeth iddynt wedi hynny, gyda'r stadau tai mawr yng Nghaernarfon a Bangor yn pleidleisio'n drwm iawn yn eu herbyn yn etholiadau lleol 2007 - yn rhyfeddol o drwm. Aeth pethau o ddrwg i waeth yn etholiadau Ewrop eleni.

'Rwan mae hyn oll yn digwydd mewn cyd destun o gwymp ym mhleidlais Llafur trwy'r DU, a chwymp gwaeth yng Ngogledd Cymru - ac un gwaeth byth yn y Gymru Gymraeg.

Felly bydd y Blaid Lafur yn ganolog yn cael eu gorfodi i ddewis ymgeisydd ar gyfer Arfon - ac mae'n debygol y bydd y person hwnnw / honno yn dod yn drydydd. Roedd Llafur yn uchel eu cloch y gallant ennill yn Arfon yn 2007.

Trist iawn, very sad.

Wednesday, July 01, 2009

Cefnogaeth y Toriaid yn chwalu

Yn yr Alban hynny yw. Yn ol pol TNS System 3 diweddar dyma sut mae pethau'n edrych yn yr Alban ar hyn o bryd:

Senedd yr Alban - Etholaethau

SNP - 39% (+6)
Llafur - 32% (-)
Toriaid - 12% (-5)
Lib Dems - 11% (-5)
Eraill - 7% (+5)

Senedd yr Alban - Rhanbarthau

SNP - 39% (+8)
Llafur - 29% (-)
Toriaid - 10% (-4)
Lib Dems - 12% (+1)
Gwyrddion - 5% (+1)

Seddau tebygol:

SNP - 57 (+10)
Llafur - 43 (-3)
Toriaid - 11 (-6)
Lib Dems - 15 (-1)
Gwyrddion 3 (+1)

Mae'r gymhariaeth yn y cromfachu gydag etholiadau 2007 pob tro.

Yn ol yn 1955 pan oedd y blaid Albanaidd yn cael ei hadnabod fel y Scottish Unionist Party cawsant 50.1% o'r bleidlais yn yr Alban a 37 0'r 73 sedd. Bryd hynny roedd ganddi gefnogaeth dosbarth gweithiol sylweddol ar hyd a lled y wlad. Bellach ymddengys y bydd yn bedwerydd plaid yr Alban ar ol etholiadau nesaf Hollyrood.

Mae dau prif reswm am y cwymp anferthol yma. Yn gyntaf maent yn cael eu gweld fel plaid Seisnig iawn bellach. Yn ail mae'r SNP wedi ymddangos a gall apelio at y bleidlais draddodiadol Brotestanaidd yn ogystal a chenedlaetholwyr o'r traddodiad Pabyddol. 'Does yna'r un plaid arall yn yr Alban sy'n gallu dod a'r glymblaid yma at ei gilydd ar hyn o bryd.