Sunday, July 31, 2011

Ffigyrau'r mis


Dosbarth cymdeithasol a'r Gymraeg

Mynd i rhyw feddwl wnes i ar ol darllen am ymddeoliad Gwilym Owen yn Golwg y diwrnod o'r blaen os oedd yna rhywbeth yn ei osodiad bod y Gymraeg yn mynd yn iaith i'r dosbarth canol yn unig.  Mae'r canfyddiad hwnnw yn groes i fy argraff i, ond wedyn dwi'n byw mewn tre Gymreig iawn sydd hefyd yn ddosbarth gweithiol at ei gilydd.

Felly mi es i ati i geisio gweld os oes yna sail ystadegol i'r sylwadau.  Ymgais (ychydig yn ansoffisdigedig mae'n rhaid cyfaddef) i brofi os ydi gosodiad Gwilym yn gywir neu beidio ydi'r isod.  Rwyf wedi gosod y wardiau oedd yn ol y cyfrifiad diwethaf gyda 75%+ yn siarad Cymraeg ynddynt yn eu trefn ac wedi nodi eu safle a'u sgor ar Indecs Amddifadedd Cymru. Fel mae'r enw yn rhyw awgrymu ffordd o fesur amddifadedd ydi'r indecs ac mae'n gwneud hynny ar lefel ward etholiadol.  Mesurir amddifadedd 1,792 o gymunedau i gyd.

Felly mae safle isel a sgor uchel yn awgrymu lefel uchel o amddifadedd, tra bod sgor isel a safle uchel yn awgrymu'r gwrthwyneb.  Dwi ymhellach wedi gosod y cymunedau Cymraeg yn eu chwarteli cenedlaethol - mae lefel uchel o amddifadedd mewn cymunedau yn chwartel 4, a lefel isel o amddifadedd mewn rhai yn chwartel 1.  Ceir tair ward yn y chwartel isaf, tair yn y chwartel uchaf, 18 yn y trydydd chwartel a 17 yn yr ail chwartel.

Rwan does yna ddim diffiniad mae pawb yn ei dderbyn o'r hyn sy'n gwneud pobl yn ddosbarth canol - y diffiniad sy'n cael ei ddefnyddio amlaf ydi pobl sy'n syrthio i gategoriau ABC1.  Mae tua hanner poblogaeth Cymru yn syrthio i'r categoriau hynny, tra bod yr hanner arall yng nghategoriau C2DE.  A chymryd hynny mae'r tabl yn awgrymu bod cymunedau Cymraeg eu hiaith wedi eu rhannu yn weddol gyfartal rhwng rhai sydd yn ddosbarth gweithiol a dosbarth canol, ond bod llai ohonynt yn perthyn i'r pegynnau na sy'n wir am Gymru gyfan. 


Un neu ddau o bwyntiau bach technegol cyn gorffen - 'dwi'n derbyn nad ydi cyfrifo amddifadedd yr un peth a chyfrifo dosbarthiad cymdeithasol - ond mae'r naill yn rhoi syniad o'r llall.  Dwi hefyd yn derbyn nad ydi'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yn byw mewn cymunedau 75% + - ond mae proffeil cymunedau Cymreig yn rhoi syniad i ni am broffeil siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol.  Mae hefyd yn wir bod y ffigyrau cyfrifiad yn ddeg oed bellach. Mae unedau cyfrifo'r indecs hefyd mymryn yn wahanol i unedau'r cyfrifiad, ac mae yna ychydig fanylion ar goll o'r indecs.

Wednesday, July 27, 2011

Guto Harri a'r Gemau Olympaidd

Mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr blogmenai yn ymwybodol o'r ffrae fach sydd wedi bod yn mynd rhagddi heddiw (ar y radio yn bennaf) ynglyn a'r ffaith nad yw'n edrych y bydd Cymru'n elwa fawr ddim o'r Gemau Olympaidd.  Mi gychwynodd pethau efo Guto Harri, sydd bellach yn gweithio i faer Llundain, Boris Johnson, yn ymateb ar y Post Cyntaf i sylwadau Carwyn Jones ddoe,  trwy ddweud mai bai Cymru ydi'r sefyllfa am beidio a gwneud digon i elwa o'r holl sioe.

Ail godwyd y peth ar Taro'r Post ac aeth pethau'n fler braidd rhwng aelod seneddol Arfon Hywel Williams a Guto gyda'r naill yn ail adrodd ei gred nad oedd gwleidyddion Cymru wedi gwneud digon o ymdrech i fynd i Lundain efo'u capiau trosiadol yn eu dwylo a'r llall yn cyhuddo Guto o wneud sylwadau camarweiniol ac o fod yn drahaus.



Cyn edrych ar y ffrae, beth am ystyried un neu ddau o ffeithiau syml?  Cafodd cwmniau oedd wedi cyflwyno bidiau cynradd werth £6.2bn o waith gan yr ODA.  £417,415 aeth i gwmniau o Gymru - 0.01% o'r cyfanswm.  Aeth gwerth £3.3bn i gwmniau yn Llundain (53%) ac aeth £1bn i ardaloedd eraill yn Ne Ddwyrain Lloegr (16%).  £24.5m (0.4%) aeth i'r Alban a £18m i Ogledd Iwerddon (0.3%).

Mae cyfanswm o £9.3bn wedi ei roi o'r neilltu i ariannu'r gemau - £2.2bn o'r Loteri Cenedlaethol, £0.6bn o drethi lleol i Lundain,  £0.3bn o ffynonellau lleol eraill a £6.2bn gan y llywodraeth ganolog.  Felly mae 90% o'r gwariant yn dod o ffynonellau Prydain gyfan tra bod 10% yn dod o ffynonellau lleol.  Gellir amcangyfrif bod mwy na £400m wedi ei godi yng Nghymru, a bod tua 0.1% o hynny wedi dod yn ei ol ar ffurf contractau.

Agwedd eilradd i'r ddadl ydi mai ychydig iawn o'r cystadleuthau fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru - hyd yn oed mewn chwaraeon megis hwylio a chanwio - mae adnoddau penigamp yng Nghymru ar gyfer gemau felly.

Rwan, mae hyn yn edrych yn sobor o anheg, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod agwedd Guto trwy'r ddadl yn peri dryswch i mi.  Roedd yn cyfeirio'r bai yn ol at Gymru, ac yn gwneud hynny oddi mewn i fframwaith hen ragfarn gwrth Gymreig - bod y Cymry  yn ddi gic a diog.

Mae'n bosibl wrth gwrs bod llai o ymdrech wedi ei gwneud yng Nghymru nag a wnaethwyd yn Llundain ac mewn ardaloedd eraill, ond 'doedd gan Guto ddim byd mwy i brofi hynny na honiad anelwig nad oedd o a Seb Coe (roedd yn awyddus iawn i adael i ni wybod ei fod yn eistedd yn agos at hwnnw) ddim yn cofio i achos cryf am fawr ddim ddod o Gymru.  Chawsom ni ddim gwybodaeth am sut yn union roedd ymdrechion llefydd eraill yn well na rhai Cymru, na beth oedd gwleidyddion Weymouth wedi ei wneud i ddenu'r cystadleuthau hwylio, dim data o gwbl chwaith  - dim oll ond argraffiadau anelwig Guto ei hun.

Roedd ymateb Guto i awgrym gan Hywel bod lle i feddwl bod tuedd sefydliadol i ffafrio cwmniau o Lundain hefyd yn ddiddorol - roedd y fath awgrym yn dreuenus a 'bron iawn yn enllib'.  Mae pawb yn gwybod wrth gwrs bod sefydliadau sydd wedi eu lleoli yn Llundain megis San Steffan, News International, y Met a'r banciau yn arddel y safonau proffesiynol uchaf, a byddai'n beth ofnadwy petai rhywun di egwyddor wedi awgrymu bod ganddyn nhw broblemau strwythurol o unrhyw fath yn y Byd.

Wnawn ni ddim hyd yn oed mynd ar ol goblygiadau yr awgrym sydd ymhlyg yn nadl Guto y dylid penderfynu ar leoliad daearyddol campau mewn ymateb i - ahem - ymdrechion gwleidyddion yn hytrach nag ar sail proses annibynnol gan yr awdurdodau Olympaidd o leoli, asesu, costio ac achredu safleoedd posibl. 

Mae Guto'n ei chael yn amhosibl credu y gallai  rhagfarnau fod yn rhan o wead sefydliadau Llundeinig, ond mae'n ei chael yn hawdd iawn credu y gallai sefydliadau Cymreig fod yn strwythurol ddiog a di gic.  Mae'r holl hanes yn swnio yn hynod debyg i stori oedd ar un adeg yn ddigon cyfarwydd mae gen i ofn - hogyn bach o Gymru yn mynd i'r ddinas a chael tipyn o lwyddiant yno,  yn dotio at y lle ac dod i ymgoleddu pob dim sy'n ymwneud a hi  - hyd yn oed rhagfarnau gwrth Gymreig rhai o'i thrigolion.. 

Beth ddigwyddodd i hwb economaidd y briodas frenhinol?

Ydych chi'n cofio'r holl les oedd y briodas frenhinol i fod i'w wneud i'r economi?

Yn wir yn ol y Bib, pan oedd y corff hwnnw yn dechrau gweithio ei hun  i gyflwr o frwdfrydedd  hysteraidd, roedd y digwyddiad am gyflawni gwyrthiau economaidd - byddai'n hwb i'r sectorau gwerthiant, darlledu a twristiaeth.  Yn wir roedd yr ymdeimlad o hapusrwydd cyffredinol a fyddai'n deillio o'r briodas yn debygol o hybu gwario ar hyd a lled yr  economi. 


Ond mis Tachwedd oedd hynny, a rwan ydi rwan.  Erbyn hyn mae'r Bib yn adrodd bod prif economegydd yr ONS, Joe Grice yn beio'r briodas frenhinol am berfformiad trychinebus yr economi yn ystod y chwarter diwethaf.  A dyfynnu'r adroddiad yn llawn:

Growth in the UK economy slowed in the three months to 30 June.
Gross Domestic Product (GDP) grew by 0.2% in the second quarter, according to the Office for National Statistics (ONS).
Joe Grice is the chief economist at the ONS and he blamed the result on April's Royal Wedding

Dim gair o ymddiheuriad gan y Bib am gynhyrchu adroddiadau naif ac anfeirniadol pan roeddynt yn ceisio 'gwerthu' eu sioe fawr cofiwch. 

Tuesday, July 26, 2011

Demograffeg a dyfodol Gogledd Iwerddon

'Does yna fawr neb yn yr oes sydd ohoni yn cymryd diddordeb mewn ystadegau sy'n ymwneud a chrefydd plant ysgol - yng Nghymru o leiaf.  Mae pethau'n wahanol yng Ngogledd Iwerddon oherwydd bod cysylltiad clos iawn rhwng cefndir crefyddol pobl a'u gwleidyddiaeth.  Mae Pabyddion yn pleidleisio i bleidiau cenedlaetholgar tra bod Protestaniaid yn pleidleisio i rai unoliaethol.

Cafwyd patrwm ers y 70au cynnar o gynnydd graddol yn y bleidlais genedlaetholgar a chwymp cyfatebol yn y bleidlais unoliaethol.  Mae yna ddamcaniaeth mai sylweddoliad bod demograffeg o'u plaid a arweiniodd yn y pen draw at gadoediad yr IRA a'r broses heddwch.

Ta waeth, fe dorrwyd ar y patrwm yna yn etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon yn gynharach eleni pan  gafwyd cwymp bychan yng nghanran y bleidlais genedlaetholgar. Mae rhai unoliaethwyr wedi gweld hyn fel arwydd bod y llanw demograffig ar droi. Mae edrych i lawr yr ysgol ddemograffaidd yn awgrymu nad ydynt yn gywir.

Dydi ystadegau'r adran addysg ddim cefnogi'r ddamcaniaeth honno fodd bynnag.  Mae'r tabl isod yn dangos yr ystadegau crefyddol yn ysgolion cynradd y rhanbarth, ac mae'r patrwm yn un eithaf clir - cynnydd araf iawn yn y ganran o blant a ddiffinir fel Pabyddion, cynnydd cymharol gyflym yn y ganran na ddiffinir yn ol eu crefydd a chwymp gweddol gyflym yn y ganran Brotestanaidd.  Hwyrach bod yna arwyddocad ychwanegol i slogan y chwe degau - make love not war - yng nghyd destun gwleidyddiaeth cenedlaetholgar yng Ngogledd Iwerddon. 


Protestaniaid Pabyddion Eraill Bwlch
2004 / 2005 40.23% 49.44% 9.88% 9.21%
2005 / 2006 40.22% 49.65% 9.95% 9.43%
2006 / 2007 38.90% 50.17% 10.89% 11.27%
2007 / 2008 38.12% 50.46% 11.41% 12.34%
2008 / 2009 37.25% 50.64% 12.10% 13.39%
2009 / 2010 36.92% 50.46% 12.61% 13.54%
2010 / 2011 36.36% 50.64% 12.98% 14.28%

Ffigyrau oll o wefan ystadegol Cynulliad Gogledd Iwerddon

Mae hi'n mynd yn unig yma

'Dydi pethau ddim yn arbennig o llewyrchys ar flogio gwleidyddol cyfrwng Cymraeg.

Achlysurol iawn ydi blogio Vaughan bellach, mae Guto wedi ymddangos, darganfod manteision trydar a mynd, mae'r Hen Rech yn dal wrthi a felly Mabon - ond ddim yn aml iawn, mae Hogyn o Rachub yn awgrymu (unwaith eto) ei fod yn rhoi'r allweddell yn y to - bydd colli'r hanesion am ei deulu yn drasedi cenedlaethol, dydi Gwilym Euros na Dogfael ddim wrthi ers tro byd, blog pedwar blogiad oedd Blog y Blogiwr Cymraeg, pump yn llai na'r Ty Mawr o'r Tu Mewn, distaw fu Storiau'r Tir Du ers misoedd hefyd (er mai blog diwylliannol oedd hwnnw yn hytrach nag un gwleidyddol), ditto Y Prysgodyn a Maes Rhos Rhyfel, distaw fu Cynghorwyr (Plaid Cymru) Sir Gar ers talwm hefyd, mae Ia Tros Gymru wedi gwneud y joban, mi fydd Pendroni yn blogio yn y ddwy iaith.  .Mae gennym Blog Golwg wrth gwrs bydd Ifan yn part teimio ar ei flog ei hun weithiau, bu farw Blog Dylan cyn atgyfodi rhywbryd ar ol y Pasg ar ffurf Anffyddiaeth , bydd Blog Answyddogol yn dangos arwyddion o fywyd ambell waith, bydd Rhys yn blogio yn weddol aml ond crefydd ydi ei bethau fo, ac mae PlaidWrecsam yn blogio yn y Gymraeg weithiau, ac mae yna ambell i flogiwr cyfrwng Saesneg (Pleidwyr gan amlaf) arall sy'n blogio yn y Gymraeg o bryd i'w gilydd.  Ar yr ochr gadarnhaol mae Banw wrthi'n eithaf dygn.  Ydw i wedi anghofio rhywun?

Anialdir?  Dim cweit - ond ar y ffordd mi dyddwn yn tybio. 

Beth mae Barry Island yn ei ddweud wrthym am y Gymru gyfoes.

Aeth y Mrs a finnau a'r fam yng nghyfraith am dro i Barry Island heddiw.  Doeddwn i heb fod yn y lle yn ystod yr haf ers talwn iawn.  Rwan 'dwi'n gwybod nad heddiw oedd y diwrnod gorau i dorheulo - ond roedd y traeth yn ddigon agos at fod yn hollol wag.

'Dydw i ddim yn cofio Barry Island yn y 60au a'r 70au -  Rhyl oedd Barry Island pobl ochrau G'narfon- ond mae'r wraig yn cofio'n dda gorfod cyrraedd y traeth yn gynnar ar ddiwrnod braf neu ni fyddai yna ddigon o le i roi tywel i lawr, oherwydd y niferoedd o bobl fyddai yno erbyn hynny..




Ychydig o bethau sy'n dangos fel mae'r byd yr ydym yn byw ynddo wedi newid mewn ychydig ddegawdau yn well na'r cyferbyniad rhwng y lluniau.  Roedd yna amser pan roedd y rhan fwyaf ohonom yn gwneud fwy neu lai yr un peth ar fwy neu lai yr un pryd.  Roedd hynny yn adlewyrchiad o gymdeithas gydlynus iawn.  Erbyn heddiw mae pobl yn chwalu  i bedwar ban Byd yn ystod yr haf - neu yn aros yn eu gerddi cefn efo'r barbiciw.  Adlewyrchiad ydi hynny yn ei dro o gymdeithas sydd wedi colli llawer o'i chydlyniad.

Dichon bod De Ffrainc yn brafiach lle i dreulio diwrnod neu ddau yn yr haf na Barry Island  - ond roedd y tyrfaoedd o bobl oedd yn ymhel ynghanol y candi fflos, y swn aflafar a'r reids drud cyn gorwedd trwy'r prynhawn ar y traeth i losgi nes eu bod yn edrych fel cimychiaid, yn dod o gymunedau oedd yn fwy unedig ac yn fwy sicr ohonynt eu hunain na'r rhai yr ydym ni'n byw ynddynt heddiw.

Monday, July 25, 2011

Hunaniaeth Gymreig a gwleidyddiaeth

Mae'r Cynulliad yn hel pob math o ystadegau, a 'dydi'r wybodaeth mae rhieni yn ei gyflwyno pan maent yn cofrestru eu plant mewn ysgolion am y tro cyntaf ddim yn eithriad yn hynny o beth - mae'n cael ei ychwanegu at y mor o ystadegau sydd wedi ei hel a'i goledu.  Mae'r ystadegau hynny ambell waith yn rhoi cip digon diddorol ar ein bywyd cenedlaethol.

Pwrpas un o'r cwestiynau ar y ffurflen gofrestru ydi dod i gasgliadau ynglyn a sut mae rhieni yn diffinio hunaniaeth genedlaethol eu plant.  Dengys y tabl isod  hunaniaeth Gymreig plant (yn ol eu rhieni) a gofrestwyd am y tro cyntaf yn 2010 yn ol etholaethau seneddol..  Roedd mwyafrif llethol y dewisiadau eraill yn Prydeinig neu Seisnig


Rwan 'dwi wedi rhestru'r etholaethau yn ol tueddiadau gwleidyddol - ac mae yna berthynas agos rhwng tueddiad i bleidleisio i Lafur neu Blaid Cymru a hunaniaeth Gymreig - ond mae yna batrymau eraill hefyd.  Er enghraifft mae tueddiad amlwg i bobl sy'n byw ar y maes glo ac yn y Gymru Gymraeg ddiffinio eu plant fel Cymry.  Ceir perthynas hefyd rhwng amddifadedd cymdeithasol a hunaniaeth Gymreig.

Yn naturiol mae hunaniaeth Gymreig yn wanach ar y ffin, ond mae hefyd yn gymharol wan mewn etholaethau dinesig - dim ond etholaeth hynod dlawd Dwyrain Abertawe sy'n uwch na'r cymedr.  Mae'n ddiddorol bod pedair etholaeth y brif ddinas yn agos at ei gilydd ac yn is na'r cymedr - gyda Wrecsam, Aberconwy a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn gyfartal neu'n uwch na'r cwbl ohonyn nhw.  .

Os ydych yn gweld patrymau neu dueddiadau eraill - teimlwch yn rhydd i'w gwyntyllu nhw ar y dudalen sylwadau.

Ystadegau oll gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Sunday, July 24, 2011

Llongyfarchiadau i Fwrdd yr Iaith _ _ _

_ _ _ am eu hail ymddangosiad ar y wefan Straight Statistics

Dinoethi gobyldigwc ystadegol ydi cenhadaeth y wefan.  Ymysg y canfyddiadau anisgwyl i'w cyhoeddi gan y Bwrdd yn dilyn holiadur diweddar a gomisiynwyd ganddo, mae yna fwy o lawer o rieni sy'n anfon eu plant i ysgolion Cymraeg yn defnyddio'r iaith  na sy'n gallu ei siarad.


Mae'r Bwrdd wedi gwneud gwaith pwysig tros y blynyddoedd wrth gwrs - ond 'dydi postio nonsens ystadegol ddim yn gwneud llawer i'w hygrededd mae gen i ofn.

Saturday, July 23, 2011

Gair o blaid y wasg

Wrth ystyried digwyddiadau’r dyddiau diwethaf yn Portcullis House mae’n hawdd anghofio bod nifer o’n sefydliadau ‘cenedlaethol’ wedi cael eu hunain o dan y lach tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf – y banciau, San Steffan ac rwan y wasg – a’r heddlu a gwleidyddion unwaith eto erbyn meddwl. Cafodd y cyfryw sefydliadau oll eu hunain mewn trybeini ymhellach yn y gorffennol – ond dyma’r tro cyntaf iddynt  gael eu hunain mewn trybeini o fewn ychydig flynyddoedd i'w gilydd..


Mae’r ffaith bod bancwyr, heddweision, newyddiadurwyr papur newydd a gwleidyddion proffesiynol ymysg y mwyaf tebygol i gymryd eu hunain o ddifri yn yn rhoi rhyw ogwydd ysgafn i’r holl sgandalau – mor ddifrifol ag ydynt mewn gwirionedd. Does yna ddim llawer o bethau mwy digri wedi dod o ddigwyddiadau’r dyddiau diwethaf nag ystumio hunan bwysig a hunan gyfiawn Keith Vaz – gweler ei hanes yn ystod y sgandal ddiwethaf yma

Yn ychwanegol at hynny, mae'n anodd iawn gen i gredu bod y ffaith bod papurau newydd yn hacio ffonau o syndod i lawer o'r sawl sy'n ysgwyd eu pennau, twt twtian a ffugio sioc ar y tonfeddi ar hyn o bryd.  Mae technoleg hacio yn hysbys ers blynyddoedd, ac mae straeon am bapurau newydd yn defnyddio'r dechnoleg honno hefyd mewn cylchrediad ers blynyddoedd.



Er mor wahanol y sgandalau ar un olwg, mae yna lawer sy’n gyffredin rhyngddynt – ac felly mae yna wersi cyffredinol i’w dysgu. Mae pob sgandal yn cyfuno sefydliadau uchel eu parch, diffyg rheolaeth a goruwchwyliaeth oddi mewn i'r sefydliadau hynny, canfyddiad nad ydi troseddwr yn debygol o gael ei ganfod na’i gosbi a chymhelliad ariannol cryf i dwyllo. Lle ceir y cyfuniad yna, mae’n ymddangos bod aelodau seneddol, heddweision, newyddiadurwyr, bancwyr a phob grwp arall o bosibl, mor debygol o dwyllo a charcharor sydd yn Walton oherwydd twyll sy'n cymryd rhan mewn gyrfa chwist gyda'i gyd garcharorion. Mae'n dilyn felly lle ceir y cyfuniad yma mae’n debygol bod pob sefydliad bron yn agored i lygredd.

Yr ail wers i’w chymryd ydi hon – mae’r papurau newydd wedi bod yn elfen flaenllaw ym mhob sgandal. Rhai o’r papurau newydd ydi prif wrthrychau’r sgandal gyfredol, ond mae’r wasg wedi bod yn allweddol yn natgeliad rhai o’r sgandalau eraill hefyd.
.
Tour de force mewn newyddiaduriaeth ymchwiliol gan y Telegraph ddaeth a sgandal treuliau aelodau seneddol i’r amlwg, newyddiadurwyr sydd wedi cadw llygad barcyd ar driciau’r bancwyr yn dilyn eu sgandalau nhw, a dycnwch a phenderfyniad newyddiadurwyr y Guardian ddaeth a News International i’w liniau yn ystod yr wythnosau diwethaf. Yn wir mae newyddiadurwyr News International wedi gwneud gwaith gwerthfawr i wneud y pwerus yn atebol  (yn ogystal a llawer o waith llai gwerthfawr wrth gwrs).

Mae'n amlwg bod y diffyg goruwchwyliaeth a geir ar hyn o bryd yn anghynaladwy, ac mae'n rhaid newid.  Ond mae'r un mor amlwg  bod yna  berygl gwirioneddol y gwnaiff camau rhy frwdfrydig i liniaru ar hawliau’r wasg fwy o ddrwg nag o les o ran sicrhau atebolrwydd sefydliadau. Mae’r ffaith bod y cyfryngau print yn aml yn wleidyddol ac unochrog iawn, gyda’u agendau a’u obsesiynau eu hunain yn eu gwneud yn fwy gwerthfawr o lawer na chyfryngau honedig di duedd y tonfeddi radio a theledu yn y cyswlltyma.

Os byth y byddwn yn cael ein hunain yn ddibynol ar y Bib am y ffurf ar newyddiaduraeth dewr ac ymchwiliol sy’n dal sefydliadau ac unigolion pwerus yn atebol, yna bydd y cyfryw sefydliadau ac unigolion yn hynod hapus...

Ail ymweld a Chastell Penfro


 

Fel y soniais ddoe, mae blogio wedi bod yn ysgafn yn ddiweddar oherwydd fy mod wedi treulio ychydig ddyddiau allan o gysylltiad efo’r We yn Ne Sir Benfro.  Cyn i mi fynd ymlaen peidiwch a cham ddeall y blogiad, er y gwahaniaethau diwylliannol a hanesyddol rhwng Gwynedd a De Penfro, oni bai am fy ardal fy hun dyma fy hoff ran o Gymru.. 


Un o adeiladau mwyaf diddorol ac adnabyddus yr ardal ydi Castell Penfro. Dyma un o’r ychydig gestyll Normanaidd i beidio a chael ei bygwth gan fyddinoedd Cymreig erioed.     

Mae’n bymtheg mlynedd da ers i mi ymweld a’r lle ddiwethaf, ac roeddwn wedi anghofio llawer am ei hanes  – ac yn arbennig felly ei holl gysylltiadau efo’r pethau mwyaf negyddol yn hanes Cymru:  Ymyraeth y Normaniaid yn hanes y wlad, Harri'r Cyntaf, Ieirll Penfro, y cul de sac Tuduraidd, Richard Strongbow ac ymosodiadau’r Normaniaid ar Iwerddon, William de Valence,  Oliver Cromwell, Militia Penfro – corff sydd efo hanes o ymosod ar wrthdystwyr Rebecca, helpu sicrhau nad oedd trigolion Gogledd Affrica yn cael hunan reolaeth, cymryd rhan yn ymyraeth hynod waedlyd Prydain yn Ne Affrica yn ystod Rhyfel y Boer. 

Mae’n anodd dychmygu rhywsut bod yr adeilad yma ond ychydig filltiroedd oddi wrth gastell arall sydd a chysylltiadau mwy cadarnhaol o lawer iddo o safbwynt Cymru – Castell Maenorbyr – man geni Gerallt Gymro. 

Friday, July 22, 2011

Is etholiad Glyder

Gan i mi fod allan o gysylltiad efo’r We am ychydig ddyddiau, doeddwn i ddim mewn sefyllfa i bostio ar lwyddiant Elin Walker Jones yn is etholiad Glyder neithiwr. Amddiffyn ward ar gyrion Bangor ar ran Plaid Cymru oedd Elin yn dilyn marwolaeth diweddar y Cynghorydd Dai Rees Jones. Er nad oedd canran Elin o'r bleidlais cyn uched ag un Dai, roedd ei pherfformiad yn un hynod glodwiw - roedd ganddi wrthwynebydd profiadol ac adnabyddus iawn yn lleol yn Doug Madge - dyn sydd wedi sefyll sawl gwaith yn yr ward.

Dyma’r trydydd is etholiad i’r Blaid ei ennill tros y misoedd diwethaf – llwyddwyd i gymryd sedd gan y Lib Dems yn Arllechwedd yn Nyffryn Ogwen fis diwethaf, a llwyddwyd i gymryd un gan Lais Gwynedd ym Mlaenau Ffestiniog ym mis Medi y llynedd..

Perfformiodd y Blaid yn gryf mewn dau is etholiad arall - un yn Ne Caernarfon  ym mis Hydref y llynedd gan gynyddu canran ei phleidlais, er i Endaf Cooke o Lais Gwynedd ennill y dydd ar yr achlysur hwnnw.  Roedd y llall yn Niffwys a Maenofferen pan gadwodd Richard Lloyd Jones sedd i Lais Gwynedd o drwch blewyn  yn dilyn ymddiswyddiad Gwilym Euros.  Mae yntau wedi ymddiswyddo bellach, a bydd is etholiad arall yno maes o law yn ol pob tebyg. 

Dyma’r trydydd is etholiad  yng Ngwynedd o'r bron i Lafur berfformio’n wael iawn ynddo, ac mae’n rhyfeddol cyn lleied o argraff mae ymgeiswyr annibynnol wedi ei wneud – ni lwyddwyd i gael ymgeisydd mewn pedwar is etholiad, ac yn y pumed (Seiont) daethant yn bedwerydd – er mai ymgeiswyr annibynnol sydd wedi dominyddu yn y ward honno yn hanesyddol.  Mae hyd yn oed y Toriaid wedi dod o hyd i dri ymgeisydd. 

Mae’r patrymau hyn, ynghyd a llwyddiant Alun Ffred yn erbyn y llif yn etholiadau’r Cynulliad eleni yn awgrymu bod pob rheswm gan y Blaid  i fod yn obeithiol wrth i etholiadau Cyngor Gwynedd ddynesu – ac yn arbennig felly yn rhannau trefol y sir.

Y canlyniad yn llawn oedd:

Elin Walker Jones (Plaid Cymru) - 207
Doug Madge (Lib Dem.) - 194
Jennie Lewis (Tori) - 65
Martyn Singleton (Llafur) - 60

Sunday, July 17, 2011

Etholaethau Llafur a diweithdra

Mi fydd y sawl yn eich plith sydd yn byw mewn etholaethau lle mae'r Blaid Lafur yn cystadlu yn hen gyfarwydd efo'r naratif ddi ddiwedd honno bod gan Llafur rhyw bwerau goruwch naturiol bron i hybu'r economi a chreu gwaith.

Ond o edrych ar gyfraddau di weithdra Cymru mae'n weddol amlwg fod y naratif hwnnw wedi ei seilio ar ffantasi.  Mae di weithdra yn uchel mewn etholaethau sy'n cael eu cynrychioli gan Lafur, ac mae'n is mewn etholaethau sy'n cael eu cynrychioli gan y pleidiau eraill.  Mae'r berthynas rhwng diweithdra a thuedd i bleidleisio Llafur yn un rhyfeddol o gyson a rhagweladwy - fel mae'r tabl isod yn dangos.



Dwi wedi lliwio'r etholaethau i ddynodi'r blaid sy'n cynrychioli pob etholaeth ar lefel Senedd Cymru a San Steffan.

Ffigyrau i gyd yn cyfeirio at gyfraddau budd daliadau di waith i ddynion ac wedi eu cymryd o'r wefan  Datablog.

Saturday, July 16, 2011

Ychydig mwy am gynllun 'di duedd' Peter Hain

Diolch i Dylan am dynnu fy sylw at y ffaith fy mod yn gwneud cam  efo Peter Hain trwy ddweud ei fod eisiau gostwng y nifer o aelodau cynulliad o 60 i 30.  Ymddengys mai ei gynllun ydi cael dau aelod wedi eu hethol trwy FPTP i pob etholaeth newydd - cynllun fyddai'n cadw'r nifer fel ag y mae ar hyn o bryd - sef 60.

Trefn debyg i hon a geir mewn etholiadau cyngor mewn rhannau trefol o Gymru.  Un o'i nodweddion ar y lefel honno ydi ei bod yn sobor o anheg - er enghraifft cafodd Llafur dair sedd allan o dair yn ward Treganna yn etholiadau Cyngor Caerdydd yn 2008 gyda llai na 40% o'r bleidlais.  Tros y ddinas cafodd y Lib Dems fwy na dwy waith cymaint o seddau na'r Toriaid a Llafur er i'r pleidiau hynny gael pleidlais digon tebyg.

Dydw i ddim yn gwneud cam a Peter fodd bynnag pan 'dwi'n dweud nad oes yna sail i'w honiad cwbl orffwyll ac anwybodus nad oes tystiolaeth' y byddai FPTP yn ffafrio Llafur yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth yn llethol.  Ystyrier, er enghraifft, etholiadau San Steffan yng Nghymru rhwng 1918 a 2010:


Etholiad Canran Llafur o'r pleidleisiau Canran Llafur o'r seddi
1918 21.20% 27.77%
1922 40.70% 50%
1923 41.99% 52.70%
1924 40.60% 45.70%
1929 43.80% 69.44%
1931 41.70% 41.66%
1935 45.40% 50%
1945 58.30% 69.44%
1950 58.10% 75%
1951 60.50% 75%
1955 57.60% 75%
1959 56.40% 75%
1964 57.80% 77.70%
1966 60.70% 88.80%
1970 51.60% 75%
1974 46.80% 66.60%
1974 49.50% 63.80%
1979 48.60% 61.10%
1983 37.50% 52.60%
1987 45.10% 63.10%
1992 49.50% 71%
1997 54.80% 85%
2001 48.60% 85%
2005 42.70% 72.50%
2010 36.20% 65%

O 25 etholiad llwyddodd Llafur i gael mwy o seddi na'u haeddiant ar 24 achlysur.  1931 oedd yr eithriad, a hyd yn oed bryd roedd eu canran o'r seddi yn cyfateb a'u canran o'r bleidlais fwy neu lai yn union.  Ar dri achlysur yn unig y cafwyd llai na hanner y seddi - ac 1931 oedd y tro diwethaf i hynny ddigwydd.  Felly cafodd Llafur fwy na hanner y seddi ar 22 achlysur er iddynt ond llwyddo i gael mwy na hanner y pleidleisiau 9 gwaith.

Pedwar etholiad Cynulliad a gafwyd ers 1999, ac mae'r patrwm o or wobreuo Llafur hyd yn oed yn fwy amlwg amlwg yma:


Etholiad Canran Llafur o'r pleidleisiau Canran Llafur o'r seddi uniongyrchol
1999 37.60% 67.50%
2003 40.00% 76%
2007 32.20% 60.00%
2010 42.30% 70.00%


Felly roedd Llafur yn cael llai o lawer na 50% o'r bleidlais, tra'n cymryd mwy o lawer na 50% o'r seddi FPTP ar pob achlysur.

Mae dyn yn cydnabod bod Peter Hain wedi ymladd yn ddewr yn erbyn sustem aparteid ei wlad gynhenid, ond mae'n anodd peidio meddwl weithiau iddo fethu cael gwared o'i wneuthuriad seicolegol  feddylfryd draddodiadol y wlad honno o fod eisiau trefn etholiadol sy'n rhoi grym i'r un plaid yn dilyn pob etholiad.

Friday, July 15, 2011

Annus horribilis Llais Gwynedd yn mynd o ddrwg i waeth

Mae'r  blog yma wedi nodi yn ddiweddar nad ydi eleni wedi bod yn arbennig o garedig efo Llais Gwynedd - gyda'u perfformiad trychinebus yn etholiadau'r Cynulliad, eu methiant i gael unrhywun i sefyll trostynt mewn dau is etholiad ac ymddiswyddiad trydydd cynghorydd ers etholiadau 2007. 

'Dydi'r wythnos diwethaf heb fod ddim gwell iddynt.  Yn gyntaf ymddangosodd y newyddion yn y wasg am y tro cyntaf i sylfaenydd y grwp gael ei ddyfarnu yn euog o gyflwyno gwybodaeth di sail gan Peter Tyndall, Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.



Ac yn ail, ac o bosibl yn bwysicach, pleidleisiodd rhai o'u cynghorwyr o blaid cau nifer o ysgolion cynradd yn ardal Dolgellau mewn cyfarfod o Gyngor Sir Gwynedd ddoe.  Mae ganddyn nhw pob hawl i wneud hynny wrth gwrs, ac mae'r eglurhad eu bod yn pleidleisio yn unol a dymuniadau lleol yn ddigon rhesymol.


Serch hynny gallai'r penderfyniad gael effaith hir dymor ar ffawd etholiadol y grwp.  Mae pob grwp neu blaid wleidyddol angen nodweddion penodol i'w ddiffinio ac i'w wahaniaethu oddi wrth pleidiau a grwpiau eraill.  Nodweddion unigryw Llais Gwynedd ydi ei wrthwynebiad i gau ysgolion gwledig a'i ddrwg deimlad tuag at Blaid Cymru.  Mae digwyddiadau ddoe yn gwanio'r proffeil unigryw yma.

Thursday, July 14, 2011

Cynlluniau cynhyrfus diweddaraf Peter Hain

Mae'n ymddangos bod Peter Hain eisiau difa'r Cynulliad - sefydliad a ddaeth i fodolaeth yn rhannol oherwydd ymdrechion Peter.

Ymddengys ei fod yn meddwl y dylid cael 30 o aelodau ar gyfer y sefydliad fyddai oll wedi eu hethol yn uniongyrchol - o gymharu a'r 60 aelod presennol.  Byddai gan y Cynulliad felly lai na hanner nifer aelodau sydd gan y rhan fwyaf o gynghorau unedol yng Nghymru.  Byddai ganddo gymhareb o tua un aelod i 75,000 o etholwyr o gymharu ac un i pob 11,000 yng Ngogledd Iwerddon.  Byddai hefyd yn debygol o arwain at lywodraeth un plaid Llafur parhaol.  Mae'n debyg y byddai'n rhaid i'r bleidlais Lafur syrthio i lli na 30% cyn iddynt fethu a chael mwyafrif llwyr pe gwireddid cynllun Peter.  Yn 2007 cafodd Llafur 60% o'r seddi etholaeth gyda 32.2% o'r bleidlais.

Felly dyna freuddwyd fawr Peter ar gyfer y Senedd Gymreig - un o'r siambrau deddfu lleiaf o ran aelodaeth yn y Byd (os nad y lleiaf), sydd pob amser yn dychwelyd yr un blaid - hyd yn oed pan mae hyd at 70% o'r etholwyr yn pleidleisio yn ei herbyn.  Gwneud i ddyn feddwl am Ogledd Korea rhywsut.

Petai'r dyn wedi eistedd i lawr, crafu ei ben a meddwl am ffordd o ddifa hygrededd datganoli yng Nghymru, byddai wedi gwneud yn dda i feddwl am  ddull mwy effeithiol.

Wedi eu gwahanu ym more oes

Simon Brooks

 Andrew Coulson

Diolch i'r darllenwr a fu'n ddigon caredig a phrofi y tu hwnt i unrhyw amheuaeth bod Simon Brooks ac Andrew Coulson yn efeilliaid.  Does yna ddim ffordd arall o egluro'r tebygrwydd.

Mae'n ddiddorol fel mae aelodau o'r un teuluoedd yn mynd i'r un cyfeiriad o ran gyrfa mor aml - hyd yn oed pan nad ydynt erioed wedi cyfarfod.  Llwyddodd Andrew i ddringo i ben polyn seimllyd y byd newyddiadurol, a chael ei hun yn golygu'r papur cyfrwng Saesneg mwyf poblogaidd yn y Byd, y News of the World.  Aeth Simon gam ymhellach a chael swydd fel golygydd cylchgrawn cyfrwng Cymraeg llawer mwy safonol - os esoteric braidd - o'r enw Barn. 

Mae Simon wedi achub y blaen ar Andrew mewn ffordd arall hefyd - 'dwi'n gadael iddo fo ddweud beth bynnag mae eisiau ei ddweud ar dudalen sylwadau'r blog yma, tra bod Andrew wedi ei wahardd yn llwyr a chyfangwbl.

Wednesday, July 13, 2011

Y blaid mwyaf boncyrs yn Ewrop?

Felly mae Lib Dems Cymru wedi penderfynu cymryd camau yn erbyn un o'u haelodau yn dilyn llanast Aled Roberts a John Dixon.

Y person sydd am gael ei gwthio i fyny'r planc ydi Elinor Burnham - eu cyn Aelod Cynulliad  tros y Gogledd, a rhywun sydd ddim oll i'w wneud efo'r holl sefyllfa.  Dim ond ym myd bach rhyfedd Lib Dems Cymru y gallai trefn ddisgyblu gael ei defnyddio yn y ffordd yma.

Tuesday, July 12, 2011

Addysg Gymraeg yn Nhreganna - y diweddaraf

Mae blogmenai wedi edrych ar droeon trwstan y frwydr i ddatblygu addysg Gymraeg yng ngorllewin Caerdydd ar sawl achlysur yn y gorffennol.  Mae'n dda felly deall gan flog Syniadau bod cynllun sylweddol i fynd rhagddo ar Sanetorium Road - cynllun mwy uchelgeisiol na'r un a ddifethwyd gan gynllwynio'r Blaid Lafur. 

Mae achos addysg cyfrwng Cymraeg wedi symud ymlaen yn y brifddinas yn rhyfeddol tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.  Nid cyd ddigwyddiad ydi'r ffaith bod Plaid Cymru yn rhan o'r glymblaid sy'n rhedeg Cyngor Caerdydd.  Mae cynghorau lle mae gan y Blaid ddylanwad record clodwiw o ymateb i'r galw enfawr am addysg Gymraeg - Cyngor Wrecsam er enghraifft.  Mae hyn yn gyson a llwyddiant Cymru'n Un i sefydlu a chynnal hawliau ieithyddol ar hyd a lled Cymru.

Mae'r wers yn un eithaf syml.  Os ydi amddiffyn a hyrwyddo'r Gymraeg yn bwysig i chi, pleidleisiwch i Blaid Cymru. 

Sunday, July 10, 2011

Coulson a Sheridan

Mi fydd rhai o ddarllenwyr blogmenai yn cofio (ail) achos llys Tommy Sheridan yn 2009, lle carcharwyd y gwleidydd Albanaidd am ddweud celwydd yn y llys (ymddengys mai anudon ydi'r term Cymraeg am y drosedd).  Un o'r prif dystion yn ei erbyn oedd cyn olygydd y News of the World, a chyn gyfarwyddwr cyfathrebu'r Toriaid, Andy Coulson. 


Rwan mae digwyddiadau diweddar yn awgrymu bod Coulson yn euog o union yr un drosedd yn ystod yr achos hwnnw.  Y dyfyniadau canlynol o dystiolaeth Coulson fydd o ddiddordeb i'r awdurdodau cyfreithiol yn yr Alban fel y bydd y stori yma'n datblygu.

I don’t accept there was a culture of phone hacking at the NotW. There was a very unfortunate, to put it mildly, case involving Clive Goodman. No one was more sorry about it than me; that’s why I resigned.
Tommy Sheridan: “Did the News of the World pay corrupt police officers?”
Andy Coulson: “Not to my knowledge.” 
 Tommy Sheridan: “Isn’t it the case, Mr Coulson, that you knew all along about the illegal activities?”
Andy Coulson: “No it’s not, Mr Sheridan.”
 “I had absolutely no knowledge of it and I certainly didn’t instruct anyone to do it.”  (hacio ffon symudol Sheridan).
All I can tell you is that, as far as my reporters are concerned, the instructions were very clear: they were to work within the law and within the PCC code.

Tair blynedd o garchar oedd dedfryd Sheridan am ddweud celwydd mewn llys barn.  

Saturday, July 09, 2011

Gwynt teg ar ei ol.


Delwedd o politicalbetting.com

Ydi Charles mewn gwirionedd angen £2m y flwyddyn gan y trethdalwr?

Fel rydym wedi ei drafod eisoes llwyddodd Tywysog Cymru i gael £1,962,000 gan y trethdalwr y llynedd - cynnydd o 18% ar y flwyddyn flaenorol.  Mae, fodd bynnag, yn talu cryn dipyn mwy mewn trethi - £4,398,000.  Y rheswm am hyn ydi ei fod yn ennill incwm sylweddol o Ddugaeth Cernyw (stad, neu'n hytrach ymerodraeth busnes bach sy'n eiddo i fab hynaf y brenin neu'r frenhines) - cyfanswm o £17,796,000 y llynedd.  Mae asedau'r Ddugaeth werth mwy na £1bn yn ol pob tebyg.

Mae pwy bynnag sydd yn ei gynghori ar faterion treth yn hynod effeithiol, ac yn werth pob ceiniog o faint bynnag mae'n cael ei dalu - mae 22.25% o dreth ar incwm o bron i £20m yn hynod o effeithiol o ran Charles ac yn hynod aneffeithiol o ran y dyn treth.  Mae llawer iawn o bobl ar gyflogau cyffredin yn talu cyfran uwch o'u incwm mewn trethi.


Rwan dwi'n gwybod bod y cyfran o'i incwm mae Charles yn ei gael gan y trethdalwr i fod i dalu am ei ddyletswyddau cyhoeddus - ond mae'n anodd cyfiawnhau rhoi £2m i'r dyn yn yr amodau economaidd presenol.  'Dydi'r incwm mae'n ei dynnu o'i adnoddau personol ond yn 1.7% o'u gwerth ar y mwyaf - sy'n awgrymu y gallai godi mwy na digon i gyflawni ei ddyletswyddau trwy gymryd mymryn mwy o incwm o'i Ddugaeth.  Byddai tynnu 2% yn hytrach na 1,7% yn fwy na digon.  Wedi'r cwbl y prif reswm tros ei berchnogaeth o asedau personol anferthol ydi bod ei deulu wedi gallu eu hadeiladu dros genedlaethau heb orfod talu fawr ddim mewn trethi.

Ffigyrau i gyd o'r rhifyn cyfredol o Money Week.

Thursday, July 07, 2011

Ydi Aled Roberts yn dweud celwydd?

'Dwi'n eithaf siwr nad ydyw - wedi'r cwbl fel mae Vaughan yn nodi byddai goblygiadau hynny yn ddifrifol iawn, ac mi fyddai Aled, fel cyfreithiwr yn ymwybodol  o hynny.  Mae awgrym Vaughan bod gan y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru pob cymhelliad tros gymylu'r dyfroedd ar yr ennyd - ahem - anodd yma yn ei fywyd corfforiaethol hefyd yn taro deuddeg.  Mae hefyd yn ffaith nad yw sustemau tracio defnyddwyr gwefannau yn gwbl ddibynadwy o bell ffordd.


Yn ffodus mater cymharol fach ydi o i Aled roi taw ar yr holl awgrymiadau.  Mae'n eithaf sicr bod ei gyfrifiadur yn tracio pob gwefan mae'n ymweld a hi, ac mae'n debygol iawn bod gan ei ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd gofnod o'r gwefannau hynny hefyd.  Pe byddai'n rhoi ei gyfrifiadur i arbenigwr annibynnol ei archwilio, neu'n rhoi caniatad i'w ddarparwr rhyngrwyd gyhoeddi ei fod wedi ymweld a gwefan y Comisiwn Etholiadol byddai'r stori yn farw gelain mewn awr. 

Mae'n dda o beth bod ambell i beth mewn bywyd yn eithaf syml.

Tuesday, July 05, 2011

Cynghorydd Llais Gwynedd yn ymddiswyddo - eto fyth

Deallaf bod y Cynghorydd Llais Gwynedd tros Diffwys a Maenofferen, Richard Owen Lloyd Jones, newydd ymddiswyddo.  Dyma'r trydydd cynghorydd Llais Gwynedd i wneud hynny ers etholiadau'r cyngor yn 2007 - mae hyn yn tua pumed o'u cynrychiolaeth tros y cyfnod.  Trwy gyd ddigwyddiad mae'r holl ymddiswyddiadau wedi digwydd yn ardal Blaenau Ffestiniog.

Mae'n rhesymol casglu bod moral yn hynod isel ymysg aelodau'r grwp yn dilyn eu perfformiad trychinebus yn yr unig etholaeth iddynt sefyll ynddi yn etholiadau'r Cynulliad eleni, Meirion Dwyfor - daethant yn drydydd y tu ol i'r Tori.  Adlewyrchiad o'r chwalfa ydi'r ffaith iddynt fethu hyd yn oed ddod o hyd i ymgeisydd yn is etholiad diweddar Arllechwedd, a 'does ganddyn nhw ddim ymgeisydd ar gyfer is etholiad Glyder chwaith. 

Ar nodyn arall mae'n ffaith rhyfeddol y bydd, maes o law, bedair is etholiad wedi eu cynnal yn nwy o wardiau Blaenau Ffestiniog ers etholiadau 2007.  Roedd un yn dilyn marwolaeth Ernest Williams yn ystod ymgyrch 2007, a'r lleill yn dilyn ymddiswyddiadau cynghorwyr Llais Gwynedd. 

Monday, July 04, 2011

Peth rhyfedd ydi'r cof

Cofio Ronald Reagan yn 'ennill' y rhyfel oer ac yn dweud rhywbeth neu'i gilydd wrth wal Berlin mae'r Bib ar achlysur hapus dadorchuddio cerflun $1m o'r dyn yn Llundain.


'Dydw i'n bersonol yn cofio dim am yr araith a dweud y gwir.  Am rhyw reswm y peth 'dwi'n ei gofio orau am y cyfnod ydi  swyddogion ei weinyddiaeth yn torri cyfraith America ac yn gwerthu arfau i theocratiaeth unbeniaethol yn Iran er mwyn ariannu terfysgaeth yng Nghanolbarth America. 

Wel dyna lwcus _ _ _

_ _ _ nad ydi'r un o swyddfeydd rhanbarthol y Cynulliad mae'r llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn ystyried eu cau mewn etholaeth sy'n cael ei chynrychioli gan Lafur yn y Cynulliad na'n San Steffan.

Lwcus iawn.

Sunday, July 03, 2011

Y broblem efo moesoli a gwleidydda ar yr un pryd

Rydwyf wedi cyfeirio at le moesoldeb mewn gwleidyddiaeth eisoes yng nghyd destun beirniadaeth Guto Bebb o streiciau dydd Iau - beirniadaeth oedd yn beirniadu'r gweithredu ar sail moesol.  Mae Guto'n ymddangos ar dudalen sylwadau'r blogiad i wneud mwy o feirniadaethau sydd wedi eu seilio ar ei foesoldeb personol - mae fy 'nhroelli' fi yn anfoesol ac mae'r ffaith y bydd pobl yn ymddeol ar oedrannau gwahanol hefyd yn anfoesol.

Rwan, mae defnyddio moesoldeb personol wrth wleidydda yn weddol gyffredin - yn arbennig felly yng Nghymru.  Dadleuon moesol sy'n cael eu defnyddio yn aml  i wrthwynebu arfau niwclear, ymyraeth milwrol mewn gwledydd eraill, taliadau i fancwyr, treuliau i aelodau seneddol, cwmniau gwerthu tobaco ac alcohol ac ati.

Mae yna ddwy broblem yn codi o ddefnyddio moesoldeb wrth ddadlau'n wleidyddol.  Yn gyntaf 'dydan ni ddim yn byw yn Iran.  Mae'n diwylliant cyfoes ni yn cydnabod hawl pobl i ddiffinio eu moesoldeb eu hunain - hyd at bwynt o leiaf.  Yn ail, hyd yn oed pan mae yna egwyddorion cyffredinol ar foesoldeb y gallwn oll gytuno a nhw mae'r ffaith bod Byd yn gymhleth yn  ei gwneud yn anodd i'w defnyddio i ddibenion gwleidyddol.

Er enghraifft mae'r rhan fwyaf ohonom yn rhyw deimlo bod tegwch yn beth da o safbwynt moesol.  Dyma ydi sail beirniadaeth moesol Guto o'r streicwyr. 

Ar un adeg roedd llawer ar y Chwith gwleidyddol yn beirniadu'r gyfundrefn gyfalafol yn ei chyfanrwydd oherwydd ei bod yn 'anheg' yn yr ystyr ei bod yn creu gwahaniaethau mawr o ran cyfoeth personol pobl. 

Ateb  y Dde oedd bod y system yn creu cyfoeth, ac oni bai amdani byddai pawb yn dlotach - nid tegwch go iawn ydi sefyllfa lle mae pawb yn gyfartal, ond yn dlawd.  Mae'r gwahaniaeth rhwng tegwch a chyfartaledd yn cael ei dderbyn gan y rhan fwyaf  bellach, ac mae gwahaniaethau gwleidyddol ar faterion economaidd yn ymwneud ag i ba raddau y dylid ymyrryd yn y farchnad yn hytrach nag ynglyn a phriodoldeb y cysyniad o economi wedi ei seilio ar farchnadoedd.

Mae'r rhan fwyaf ohonom yn teimlo nad ydi lladd pobl yn foesol dderbyniol - ac mae llawer yn beirniadu cyrchoedd NATO (er enghraifft) ar sail hynny.  Ond mae hyd yn oed rhywun fel fi sy'n drwgdybio ymyrraeth milwrol o unrhyw fath yn derbyn nad ydi pob ymyrraeth fel ei gilydd. 

Oedd cyrchoedd NATO yn 1999 yn Kosovo a Serbia yn anfoesol? - wedi'r cwbl bu farw (yn ol rhai) hyd at 5,000 yn ystod y cyrchoedd hynny llawer ohonynt yn sifiliaid - tair mil llai na laddwyd yn Srebrenica gan filwyr Serbaidd bedair blynedd ynghynt.  Ond daeth y cyrchoedd a'r gwrthdaro yn yr ardal i ben - gwrthdaro oedd wedi arwain at farwolaeth degau o filoedd o bobl.  Mae'r cwestiwn yn un cymleth - a dydi brefu mae lladd pobl yn beth anfoesol ddim yn ymateb deallus.

Mae yna le i foesoldeb mewn gwleidyddiaeth wrth gwrs - mae barn wleidyddol y rhan fwyaf ohonom wedi ei seilio i ryw raddau ar ein moesoldeb personol - ac i ryw raddau ar ein rhagfarnau personol - a 'dydi'r ffin rhwng ein ymdeimlad o foesoldeb a'n rhagfarnau personol ddim pob amser yn gwbl glir. Yn y pen draw ffordd o gau trafodaeth ydi cyhuddo gwrthwynebwyr o anfoesoldeb - ffordd o osgoi dadl.  

Dyna pam bod ymateb i anghydfod diwydiannol mewn termau moesol yn gamgymeriad.  Mae ymateb i broblemau cymhleth trwy brism syml da / drwg yn gwneud i'r sawl sy'n rhesymu felly ymddangos fel un o'r bobl hynny sy'n 'sgwennu i bapurau newydd o lefydd fel Bognor Regis i wyntyllu eu daliadau moesol a'u rhagfarnau eu hunain. 

Erbyn meddwl ae yna rhyw dinc i Outraged of  St David's Road.

Friday, July 01, 2011

Ffigyrau'r mis

Ffigyrau salaf y flwyddyn mis diwethaf:


Ond y gogwydd chwarterol hir dymor yn mynd i'r cyfeiriad cywir:


Streic anfoesol?

Mae rhywbeth digri o ddi niwed am haeriad Guto Bebb bod streiciau diweddar rhai o'r undebau sy'n cynrychioli gweithwyr cyhoeddus yn ymylu ar fod yn anfoesol.

'Dydw i ddim yn ddiwynydd na'n foesegwr, ond mi fyddai dyn yn meddwl y gallai gweithred fod yn un foesol, anfoesol neu'n un nad oes iddi oblygiadau moesol y naill ffordd na'r llall.  Mae cymysgu'r uchod trwy awgrymu bod gweithred yn foesol ond yn ymylu ar fod yn anfoesol, neu'n un nad oes iddi oblygiadau moesol ond sydd bron yn foesol yn ffordd benigamp o greu niwl a myrllwch.  Ac mae yna rhywbeth annwyl o Gymreig am fynd ati i greu niwl a myrllwch, ac mae yna rhywbeth llai annwyl ond digon Cymreig am foesoli a gwleidydda ar yr un pryd.

Ta waeth, mae'r syniad bod streicio yn ddrwg  neu'n ymylu ar fod yn ddrwg ynddo'i hun yn gysyniad diddorol, a chwbl wallus. Dyma pam.

Thesis Guto ydi bod aelodau undebau cyhoeddus yn gymharol freintiedig o gymharu a gweithwyr y sector breifat, ac felly bod amheuaeth moesol ynglyn a'r streic.  'Dwi am adael o'r neilltu'r ffaith bod y canfyddiad bod gweithwyr y sector gyhoeddus yn gyfoethog, tra bod gweithwyr y sector breifat yn dlawd, yn or symleiddiad dybryd (a bod yn garedig).  Ond mae'r gred bod gweithred gan unigolyn neu grwp o unigolion i amddiffyn eu buddiannau eu hunain mewn rhyw ffordd yn foesol amheus yn broblematig - yn arbennig felly i rhywun sydd ar y Dde yn wleidyddol.   Mae'r canfyddiad bod unigolion yn naturiol yn gweithredu er eu lles eu hunain, a bod peidio ag ymyrryd gormod ar hynny yn y pen draw er lles pawb yn greiddiol i ddealltwriaeth y Dde o'r ffordd mae economiau yn tyfu ac yn ffynnu.

Mae felly'n afresymegol i ddadlau bod amheuaeth moesol ynglyn a phobl sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus yn gweithredu'n dorfol i amddiffyn eu buddiannau eu hunain, tra'n cymryd bod pobl sy'n gweithredu felly yn y sector breifat yn gwneud rhywbeth da.  Yr un reddf yn union sy'n gyrru gweithredoedd undebau llafur, enterprenariaid unigol a chwmniau preifat - y reddf i gynnal a gwella safon byw, ac amddiffyn y dulliau lle gellir gwneud hynny.  Y gwahaniaeth ydi'r amgylchiadau lle gweithredir ar y reddf honno - dim arall. 

Yn groes i'r hyn mae Guto yn ei awgrymu 'does yna ddim yn ei hanfod yn wahanol rhwng yr hyn mae undebau sector gyhoeddus yn ei wneud heddiw a'r hyn a wnaed gan undebau gweithwyr chwarel yn y gorffennol.  Nid streicio er mwyn amddiffyn buddiannau pobl dlawd yn gyffredinol oedd chwarelwyr y Penrhyn, ond ymateb i fygythiad gan y cyflogwyr i'w buddiannau eu hunain.  Dyna sy'n digwydd yn y rhan fwyaf o streiciau o ddigon.  Mae'n bosibl dadlau bod y bygythiad i fuddiannau chwarelwyr yn 1900 yn fwy niweidiol na'r un i fuddiannau gweithwyr cyhoeddus heddiw, ond mater o raddau a chanfyddiad o raddau ydi hynny yn y pen draw.

Mae'n bosibl beirniadu'r sector gyhoeddus trwy honni ei bod yn aneffeithiol er enghraifft, fel mae'n bosibl beirniadu'r sector breifat am greu anhegwch.  Ond mae beirniadu pobl sy'n gweithio mewn un sector ar sail moesol am amddiffyn eu buddiannau eu hunain yn _ _ _ wel - wirion.