Sunday, January 31, 2010

Ystadegau'r mis


Mwy o ddarllenwyr nag unrhyw fis ag eithrio mis Rhagfyr - ond wedyn doedd gen i ddim Oscar i fy helpu yn ystod y mis yma.

Peidiwch ag ypsetio Gordon Brown


Mae politicalbetting.com pam bod y stori uchod wedi ei thynnu oddi ar y We gan y Mail. Cwestiwn da.

Wna i ddim ailadrodd yr honiadau - maen nhw i'w gweld os ydych yn clicio ar y linc.

Y Cynghorydd Tew eto

Ymddengys bod gwirionedd yn y stori sydd wedi ei rhedeg ar y blog hwn a rhai eraill ynglyn ag ymddiswyddiad Dennis Tew o'r blaid Geidwadol - mae gwefan Ceidwadwyr Aberconwy yn cydnabod hynny bellach.

Dydi'r blaid yn lleol ddim yn cymryd y peth yn arbennig o dda - gan dyllu ar ol nifer o resymau pam nad ydi Mr Tew yn golled fawr, gan gynnwys ei ymddswyddiad anisgwyl o swydd Sion Corn Cyngor Tref Conwy, y ffaith ei fod yn costio seddi eraill i'r Ceidwadwyr a'i fod yn gwneud unreasonable demands in relation to his continued position as a Conservative candidate at the next council elections. beth bynnag ydi hynny yn ei olygu.

Mae'r straeon ei fod yn ymuno a Phlaid Cymru hefyd yn fater o dristwch i Geidwadwyr Aberconwy, yn wahanol i pan newidiodd Oscar ei got a throi at yn Dori. Yn wir mae'n dystiolaeth o pa mor ruthless ydi'r Blaid. yn gwneud i Mr Tew druan hyrwyddo socialist and independent Wales’.

Ond ta waeth, dydi'r holl ddigwyddiad ddim yn debygol o effeithio ar ganlyniad etholiad San Steffan yn yr etholaeth, ac mi'r rydan ni'n derbyn adroddiadau rheolaidd yn egluro i ni pa mor rhyfeddol o lwyddiannus ydi'r ymgyrch yn Aberconwy. Felly mae yna ddiwedd hapus i'r stori wedi'r cwbl.

Diolch byth am hynny.

Friday, January 29, 2010

Clec i Geidwadwyr Aberconwy

Mae Alwyn yn adrodd bod Dennis Tew - un o gynghorwyr y Toriaid, yn Aberconwy wedi gadael y grwp a'r blaid. Gadawodd aelod arall o dan gwmwl yn y gorffennol agos - Hazel Meredith.

Mae yna si ar led bod Mr Tew wedi gwneud cais i ymuno a Phlaid Cymru. 'Dwi ddim yn gwybod i sicrwydd os ydi hynny'n wir - daw pethau'n gliriach tros y diwrnod neu ddau nesaf.

Diweddariad 30/1/10 : Roedd y Blaid yn Arfon yn cynnal drop yn ninas Bangor heddiw (dwsinau o weithwyr allan gyda llaw). Roedd sawl un yn dweud bod Mr Tew wedi gwneud cais i ymuno a'r Blaid - er nad oes datganiad swyddogol wedi ei wneud gan Mr Tew na'r Blaid hyd y gwn i.

Creu awyrgylch hysteraidd


Fydda i ddim yn ymweld a blog y Cynghorydd Aeron Jones yn aml am resymau amlwg, ond o fynd am dro yno ddoe mae'n rhaid i mi ofyn y cwestiwn hwn - oes yna rhyw fath o gystadleuaeth wyrdroedig rhwng aelodau etholedig Llais Gwynedd i wneud y gyhariaeth fwyaf hysteraidd ac ymfflamychol bosibl?

Chwi gofiwch i arweinydd y feicroblaid gymharu polisiau Cyngor Gwynedd i'r rhai a arweiniodd at wagio ucheldiroedd yr Alban o'i phoblogaeth er mwyn gwneud lle i ddefaid a cheirw yn y bedwerydd ganrif ar bymtheg, ac fe gofiwch hefyd mor rhyfeddol o amhriodol ydi'r gymhariaeth honno.

Mae Aeron yn ceisio mynd ymhellach na'r giaffar - yn llawer pellach. Mae'n egluro ei wrthwynebiad i bolisiau'r hen Gyngor Gwynedd (hynny yw yr un o 2004 i 2008 am wn i) trwy gyfeirio at y gerdd enwog a briodolir i'r diwynydd Almaeneg, Martin Niemöller. Dyma'r fersiwn o'r gerdd mae yn dewis ei dyfynu.

First they came for the Communists and I did not speak out because I was not a Communist

Then they came for the Socialists
and I did not speak out because I was not a Socialist
Then they came for the trade unionists
and I did not speak out because I was not a trade unionist
Then they came for the Jews
and I did not speak out because I was not a Jew
Then they came for me
and there was no one left to speak out for me.

Ychwnega Aeron ar y cychwyn - The poem below says it all. Mi fyddwn i'n cytuno efo'r sylw hwnnw.

Os mai Martin Niemöller oedd yn gyfrifol am y gerdd, mae' n debyg iddi gael ei chyfansoddi yn y blynddoedd yn dilyn y rhyfel, roedd Niemöller wedi treulio'r rhyfel yng ngwersylloedd llofruddio Sachsenhausen a Dachau. Cyfeiriad ydi'r gerdd at y cyfnod yn dilyn dyfodiad y Natsiaid i rym a chyn yr Ail Ryfel Byd. Y cyfnod yn benodol ydi'r un yn dilyn 1933 pan gafodd y rhan fwyaf o hawliau sifil yn yr Almaen eu dileu. Yn eironig roedd Niemöller yn lled gefnogol i'r Natsiaid ar y cychwyn, ond trodd yn eu herbyn o ddeall eu bod yn disgwyl i bobl roi'r wladwraeth o flaen yr Eglwys - dyna wir gyd destun y dyfyniad.

Ymhen blwyddyn neu ddwy wedi dileu hawliau sifil roedd tua 100,000 o ysbiwyr yn cadw golwg ar pob agwedd ar fywyd trigolion y wlad - roedd yn gyffredin i elynion y weinyddiaeth i gael eu harestio, eu arteithio a'u llofruddio. 'Does yna ddim ffigyrau manwl ar gael, ond mae'n debyg i rai degau o filoedd o Gomiwnyddion a Sosialwyr farw ar ol cael eu harestio gan yr awdurdodau. Mae'n debyg i rai degau o filoedd o Almaenwyr a ystyrid yn 'ddiffygiol' o safbwynt genetig gael eu llofruddio yn ystod y cyfnod hefyd er mwyn amddiffyn 'purdeb' y genedl. Dioddef o anableddau corfforol a salwch meddwl oedd y rhan fwyaf o'r anffodusion hyn. Er na laddwyd niferoedd mawr o Iddewon yn ystod yr amser arbennig yma, collodd y rhan fwyaf eu eiddo a'u dinasyddiaeth Almaeneg a gadawodd tua 200,000 ohonynt y wlad. Wna i ddim mynd ar ol y cyfnod dilynol - yr Ail Ryfel Byd - mae' rhan fwyaf o bobl yn gwybod i hyd at 70 miliwn o bobl (gan gynnwys hyd at 52 miliwn o sifiliaid) farw yn ystod y cyfnod hwnnw.

Rwan, beth bynnag am anghytundebau Aeron a Llais Gwynedd efo polisiau datblygu ac ail strwythuro addysg yr hen Gyngor Gwynedd, 'dwi'n weddol siwr fy mod yn gywir i ddweud na lwyddodd y corff hwnnw i lofruddio cymaint ag un person. 'Dwi ddim yn meddwl iddynt wneud unrhyw ymdrech i ladd neb chwaith. Mae'r gymharieth felly yn un grotesg o amhriodol - mwy felly nag un Owain Williams hyd yn oed. 'Dydi anghytuno efo Llais Gwynedd ar faterion gwleidyddiaeth leol arferol ddim yn cymharu efo mynd i dai pobl yng nghanol y nos, a mynd a nhw i ffwrdd a'u harteithio nhw i farwolaeth.

Ar un olwg mae rhywbeth yn ddigri am y cymhariaethau lloerig o amhriodol yma, ond mae yna ochr mwy difrifol i'r peth i gyd. Mae rhai pobl yn ymateb yn gwbl hysteraidd i agweddau ar wleidyddiaeth Gwynedd ar hyn o bryd - ac mae hynny'n fater o ofid. Er enghraifft mae'r ymgyrch yn erbyn siop gig un o berthnasau cynghorydd a bleidleisiodd tros gau Ysgol Aberdyfi yn amlwg yn ymateb hysteraidd ac anheg. Felly hefyd y llythyr dienw ac anymunol a dderbyniodd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn ddiweddar. A bod yn deg a Llais Gwynedd maent wedi condemio'r llythyr a anfonwyd at Mrs Jones yn gwbl ddi amwys.

Ond yr hyn mae'n rhaid ei ddeall ydi hyn - mae pobl yn ymddwn mewn ffordd hysteraidd pan mae'r cyd destun ehangach hysteraidd. Mae tueddiad gan Lais Gwynedd i ddefnyddio ieithwedd amhriodol ac eithafol yn cyfrannu at yr awyrgylch yma. Mae tueddiad Gwilym i wneud defnydd hynod o fynych o eiriau fel brad, neu ragrith, neu gelwydd ac ati, ac ati wrth drafod gwleidyddiaeth leol yn cyfrannu at yr awyrgylch anffodus yma. Felly hefyd gymariaethau boncyrs ac eithafol ei gyd gynghorwyr.

Mae'n iawn i Gwilym ddweud Dorwch Gorau I Hyn Rwan, pan mae pethau'n mynd yn hyll, ond y gwir syml amdani ydi bod perygl gwirioneddol i ieithwedd a rhethreg Llais Gwynedd greu awyrgylch sy'n arwain at ymddygiad hysteraidd ac amhriodol.

Wednesday, January 27, 2010

Llafur Newydd - medi'r hyn maent wedi ei hau


'Dydi hi heb fod yn ychydig ddiwrnodiau da i'r Blaid Lafur - helynt y WRU a Llafur yn amlygu'r ffaith bod y blaid yng Nghymru yn ddibynol ar bobl gyfoethog iawn i'w hariannu, twf economaidd pathetig o wan yn amlygu'r ffaith mai Prydain ydi un o'r gwledydd sy'n cael ei rhedeg salaf o safbwynt economaidd, ac adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn amlygu'r ffaith nad ydi'r blaid hyd yn oed wedi ymdrechu i gau'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn ystod eu cyfnod hir mewn grym.

Mae'r tair stori yn gysylltiedig wrth gwrs. Rhywbryd yng nghanol y nawdegau penderfynodd Llafur y cai eu nod hanesyddol o sicrhau tegwch cymdeithasol fynd i'r diawl, penderfynodd llawer o gyfoethogion Prydain gefnogi Llafur yn sgil hyn oherwydd eu bod yn ystyried y blaid Lafur yn gorff oedd yn amddiffyn eu buddiannau nhw yn hytrach na rhai'r difreintiedig. Yr hyn oedd gan Llafur i gynnig i'w dilynwyr traddodiadol oedd safonau byw uwch yn sgil eu gallu tybiedig i redeg yr economi yn well na'r Toriaid, nid oherwydd polisiau fyddai'n arwain at ail ddosbarthu cyfoeth.

Syrthiodd Prydain i ddirwasgiad hirach a thyfnach na neb arall oherwydd nad oedd Llafur efo'r ceilliau i ypsetio eu noddwyr cyfoethog trwy reoli gorffwylldra'r banciau, a methwyd yn llwyr mynd i'r afael ag anghyfartaledd cymdeithasol yn ystod blynyddoedd maith teurnasiad Llafur.

Hau cynhaeaf gwenwynig oedd creu New Labour yn y lle cyntaf, ac mae'r amser i fedi'r cynhaeaf hwnnw wedi dod mae gen i ofn.

Tuesday, January 26, 2010

Beth ydi £1,000 i bobl fel hyn?


Mae'n neis iawn nodi bod un sefydliad Cymreig yn cefnogi un arall unwaith eto, gydag adnoddau'r WRU yn cael eu defnyddio i drefnu cinio mawreddog i noddwyr y Blaid Lafur y tro hwn.

Y syndod i Vaughan ydi fod Llafur yn gallu gofyn am cymaint a £1,000 i bobl am gael dod i'r digwyddiad. Vaughan druan, mae'r Byd wedi symud ymlaen tros yr ychydig ddegawdau diwethaf. Roedd tad a thaid y ddynas acw yn aelodau brwd o'r Blaid Lafur yng Nghaerdydd trwy gydol eu bywydau. Fyddai'r naill na'r llall wedi gallu fforddio mynychu'r sbloets, ond nid ar gyfer eu teips nhw mae'r sesiwn loddesta wedi ei threfnu wrth gwrs.

Y bobl sydd yn bwysig i Lafur bellach ydi eu noddwyr cyfoethog. 'Dydi'r rhain ddim yn bobl gyffredin fel fi a chi a Vaughan i chi gael dallt - o na - mae'r rhain yn bobl arbennig - yn wir maent yn bobl uwchraddol. Maen nhw'n gallu gwneud mwy o bres na bathdy Llantrisant, a beth ar wyneb daear sy'n fwy rhinweddol na hynny?

'Dydi cyfraniadau o tros i filiwn o bunoedd i'r blaid Lafur gan ddynion busnes cyfoethog iawn ddim yn anarferol iawn mewn cyd destun Prydeinig wrth gwrs. Pobl ydi'r rhain fel Lord Sainsbury, Lord Bhattacharyya, Sir Christopher Ondaatje, Sir Gulam Noon, Sir David Garrard, Sir Ronald Cohen, Sir Frank Lowe, Sir Alan Sugar, Bernie Ecclestone, Mahmoud Khayami heb son am David Abrahams a Peter Watt a'u tebyg. O gymharu a hynny 'dydi hi ddim yn syndod anferthol bod aelodau o gymuned busnes De Cymru yn fodlon talu £1,000 y plat am gael hobnobio efo Carwyn a Peter a'r hogiau a'r genod.

'Dydi £1,000 ddim yn swm anferth i aelodau seneddol y blaid Gymreig chwaith gyda'r cyflogau sylweddol a'r holl dreuliau a 'ballu. Mae arferion bucheddol y bobl busnes hyfryd mae'r aelodau seneddol yn ciniawa efo nhw wedi gwneud argraff ddofn arnynt - arferion megis dod o hyd i ffyrdd o dalu cyn lleied o dreth a phosibl. Mae gan yr aelodau seneddol fantais tros y dynion busnes hyd yn oed yma - maen nhw'n gallu gofyn i'r trethdalwr am y pres i dalu i rhywun i wneud n siwr nad ydi eu cyfraniad nhw eu hunain i goffrau'r trysolys yn ormodol. Wedi'r cwbl, pam y byddai aelod seneddol Llafur eisiau cyfrannu mwy na sydd rhaid i healthandeducation?
Busnes pobl eraill ydi hynny.

'Dydi £1,000 yn ddim byd i'r bobl hyn siwr Dduw.


Cliciwch ar y llun o ffurflen os nad ydych yn ei gweld yn glir.

Monday, January 25, 2010

Etholiad ar fin cael ei alw?

Dyna ydi'r son beth bynnag.

'Dwi ddim yn meddwl rhywsut - ond mae pethau rhyfeddach wedi digwydd.

Sunday, January 24, 2010

Darogan yr Hogyn o Rachub - eto.

'Dwi'n gwybod fy mod yn ailadrodd fy hun - ond mae'n werth mynd am dro i flog yr Hogyn o Rachub i gael cip ar ei ddarogan gwleidyddol. 'Does yna neb - yn y blogosffer nag yn y cyfryngau prif lif yn gwneud joban fwy trylwyr.

'Dwi wedi dwyn copi o'r map gwleidyddol mae wedi ei gynhyrchu i ddangos sut mae'n gweld pethau, ag yntau bellach wedi edrych ar hanner y seddi Cymreig.

'Dwi ddim yn gwybod ymhle mae'n yfed pan mae yng Nghaerdydd, ond os digwydd i chi ei weld yn y Sior pan mae adref, prynwch beint iddo. Mae'n llawn haeddu un am yr holl waith.

Saturday, January 23, 2010

Y Toriaid a gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon




Mi fydd yr ychydig yn eich plith sy'n dilyn gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon yn fanwl yn gwybod bod yna rhyw hanner priodas rhwng y Blaid Doriaidd Brydeinig a'r blaid unoliaethol o Ogledd Iwerddon. Bwriedir cyflwyno ymgeiswyr ar y cyd o dan faner yr Ulster Conservatives and Unionists - New Force. Un o fwriadau'r trefniant yma oedd symud tuag at ffurf ar wleidyddiaeth mwy cynhwysol a llai secteraidd - ffurf fyddai'n denu o leiaf rhai pobl sydd wedi eu magu yn y traddodiad Pabyddol Gwyddelig. Mi fydd mwyafrif llethol Pabyddion Gogledd Iwerddon naill ai'n pleidleisio i Sinn Fein neu'r SDLP wrth gwrs. Mae hi'n bwysig o safbwynt yr unoliaethwyr eu bod yn llwyddo i ddenu pobl felly - mae'n fwy na phosibl y bydd mwyafrif etholwyr Gogledd Iwerddon o gefndir Pabyddol oddi mewn i tua 15 mlynedd.

Felly beth mae dyn i'w wneud o adroddiadau bod yr UUP a'r DUP yn ystyried uno?

Rwan, mae'n bosibl dychmygu (jyst) y bydd rhai Pabyddion yn pleidleisio i blaid gymhedrol Adain Dde sy'n cefnogi'r undeb, ond dydi hi'n sicr ddim yn bosibl dychmygu pobl felly yn cefnogi plaid sy'n cael ei harwain gan bobl fel y Paisleys. a McCrees neu Gregory Campell. Felly pam mae'r UUP yn ystyried mynd i lawr y llwybr hwn - a chymryd bod Robinson yn dweud y gwir wrth gwrs? Mae'r ateb yn syml - i ateb problemau etholiadol tymor byr.

Un o broblemau'r pleidiau unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon ydi bod eu pleidlais ar hyn o bryd wedi hollti dair ffordd (ers dyfodiad y TUV), tra bod y bleidlais genedlaetholgar ond yn hollti ddwy ffordd. Golyga hyn yn ol pob tebyg mai cenedlaetholwr fydd Gweinidog Cyntaf Gogledd Iwerddon am ol yr etholiadau Stormont nesaf. Os mai ond i ddau gyfeiriad y bydd y bleidlais unoliaethol yn hollti, yna unoliaethwr fydd y Gweinidog Cyntaf. Byddai i drefniant o'r fath hefyd y fantais o'i gwneud yn llawer mwy tebygol i'r unoliaethwyr gymryd dwy sedd San Steffan gan y cenedlaetholwyr (Fermanagh South Tyrone a South Belfast) ac amddiffyn un arall (North Belfast) sydd wedi bod o dan fygythiad cynyddol mewn etholiadau diweddar.

Mi fyddai uno yn ei gwneud yn haws i'r ddwy blaid unoliaethol yn y byr dymor - ond byddai hefyd yn ei gwneud yn llawer llai tebygol y byddai Pabyddion yn pleidleisio tros bleidiau unoliaethol yn y tymor canolig.

Mae hefyd yn codi'r cwestiwn beth yn union ydi agwedd Toriaid Cameron at hyn oll?

Mi fyddai rhywun yn meddwl na fyddant yn awyddus i gael eu cysylltu'n rhy agos efo pobl sydd ag agweddau at faterion cymdeithasol sydd mor wahanol i'r norm Prydeinig a phobl sydd a'u dealltwriaeth o wleidyddiaeth gyfoes wedi ei wreiddio yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Ond mae'r ffaith bod y Toriaid wedi cyfarfod a'r ddwy blaid yn gyfrinachol yr wythnos diwethaf yn awgrymu nad dyna yw eu hagwedd. Bydd yn ddiddorol iawn gweld beth ddaw o hyn oll.

Thursday, January 21, 2010

Ydi senedd grog yn bosibl?

Mae'r newyddion anisgwyl bod y Toriaid wedi cynnal trafodaethau efo'r ddwy brif blaid unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon yn codi cwestiwn diddorol - ydi'r Toriaid yn poeni nad ydynt am gael mwyafrif llwyr yn etholiad eleni? 'Dydi o ddim yn syndod eu bod wedi trafod efo'r UUP/UCUNF, mae yna rhywbeth yn ymylu ar briodas rhwng y ddwy blaid, ond 'does yna erioed wedi bod fawr o gariad rhwng y DUP a'r Toriaid ac mae yna beryglon mewn ymddangos amgenach i ochri efo'r blaid honno. Ffelly mae'n anodd gweld beth yn union fyddai pwrpas y trafodaethau oni bai eu bod yn paratoi'r tir am gytundeb o rhyw fath wedi'r etholiad.

Pam felly y byddai'r Toriaid yn poeni os ydynt am lwyddo i gael mwyafrif ? - wedi'r cyfan maent ymhell ar y blaen yn y polau. Mae rhan o'r ateb yn dod o'r ffaith bod y gyfundrefn sydd ohoni yn anheg iawn efo'r Toriaid - mae yna lawer mwy o bobl yn byw mewn etholaethau Toriaidd na mewn rhai Llafur at ei gilydd, felly mewn ffordd, maent angen mwy o bleidleiswyr i ennill sedd.

O chwarae efo'r ffigyrau mae patrwm digon anisgwyl yn ymddangos. Petai'r Toriaid (dyweder) yn cael 39%, Llafur 30% a'r Lib Dems 20% byddai'r Toriaid 8 yn brin o fwyafrif tros bawb arall. Nid yw'r ffigyrau yma ymhell iawn oddi wrth rhai o'r polau diweddar.

Petai Llafur efo 39%, y Toriaid efo 30% a'r Lib Dems efo 20% (rhywbeth sydd ddim am ddigwydd wrth gwrs), yna byddai gan Lafur fwyafrif o 116 sedd.

Petai'r Toriaid yn cael 37% i 31% gan Lafur yna byddai cyfanswm seddau'r ddwy blaid yn debyg iawn gyda gwahaniaeth o efallai bymtheg sedd. Mae gan y pleidiau unoliaethol rhyngddyn nhw ddeg o seddi.

I fod yn siwr o fwyafrif mae'r Toriaid angen bod yn gyfforddus yn y pedwar degau, neu mae Llafur angen bod yn y dau ddegau. Mae llawer o'r polau yn awgrymu hynny, ond dydyn nhw i gyd ddim o bell ffordd - ac mae yna cryn dipyn o bolio preifat gan y pleidiau wrth gwrs.

Mi fyddwn i'n rhoi'r tebygrwydd o fwyafrif llwyr Toriaidd yn tua 70% - 30%. Mae'r ffaith bod y Toriaid mewn trafodaethau efo'r DUP yn awgrymu eu bod hwythau hefyd o'r farn bod eu gobeithion cryn dipyn yn is na 100%.

Wednesday, January 20, 2010

Plaid Cymru a'r codiad mewn pensiynau

Mi fedra i ddeall pam bod y Blaid wedi dweud bod 30% o godiad mewn pensiynau yn rhywbeth y byddem yn ceisio ei wireddu petaem mewn sefyllfa i ddylanwadu ar bethau ar ol etholiad cyffredinol eleni. Mae cymryd cam o'r fath yn dangos yn lled glir y gwahaniaeth yn ein blaenoriaethau ni a rhai Llafur a'r Toriaid.

Wedi dweud hynny 'dwi hefyd yn cytuno efo Guto Dafydd pan mae yntau'n dadlau mai diwigio'r gyfundrefn gyllido sydd gennym ddylai fod canolbwynt yr ymgyrch ac unrhyw drafodaethau sy'n dilyn yr etholiad. Mae'r blog yma wedi edrych ar y mater yn weddol fanwl eisoes. Mae Guto'n gywir pan mae'n awgrymu na fydd y pleidiau mawr yn fodlon ildio ar y mater pensiynau oherwydd y gost sylweddol - wedi'r cwbl mae ganddynt eu blaenoriaethau drud iawn eu hunain - Trident a chardiau adnabod yn achos Llafur, a Trident a thorri trethi pobl gyfoethog yn achos y Toriaid. Mi fyddai codi pensiynau yn gwbl bosibl wrth gwrs, ond byddai hynny'n golygu newid rhy fawr ym mlaenoriaethau'r prif bleidiau. Mae diwigio'r ffordd y cyllidir Cymru yn fwy fforddiadwy o safbwynt y pleidiau unoliaethol.

Diwigio'r ffordd mae Cymru'n cael ei chyllido ddylai fod prif ffocws y Blaid yn ystod yr ymgyrch etholiad a thu hwnt. Mae'n gwneud synnwyr economaidd i Gymru, ac mae'n gwneud synnwyr etholiadol - dyma'r unig dro yn ein hanes i ni fod mewn sefyllfa i gynnig gwelliant tymor byr yn ansawdd bywyd pobl tra bod y pleidiau eraill ond yn gallu cynnig toriadau.

Tuesday, January 19, 2010

Cyfle i ennill £10

Mi glywais i rhywun yn disgrifio Llais Gwynedd fel chwaer blaid y Toris yng Ngwynedd y diwrnod o'r blaen. 'Dwi'n meddwl bod y disgrifiad yn un amhriodol a dweud y gwir yn ogystal a bod yn anheg iawn efo'r Toriaid.

Beth bynnag, fedrwn i ddim peidio meddwl am y sylw ddoe pan welais Geidwadwyr Aberconwy a Gwylym Euros Roberts yn uno i ymosod ar gynlluniau'r Blaid i gynnig pensiynau teg i'r henoed.

Mi fydd Guto yn dod allan i fatio i Lais Gwynedd o bryd i'w gilydd - fel y gellir gweld yma. Mae un o gynghorwyr Llais Gwynedd yn disgrifio 'troedigaeth' Pleidiwr tuag at y Toriaid mewn termau Pawlaidd bron - gwelodd y goleuni, gwelodd y goleuni! Haleliwia!

Mae Gwilym yn rhuo yn ddyddiol bron am Blaid Cymru wrth gwrs, a dydi o ddim yn swil i ddatgan ei farn na ddylai Llafur fod mewn llywodraeth a dydi o ddim yn or hoff o'r Lib Dems chwaith. Mi fydd o hefyd yn cymryd ymysodiadau ar y Toriaid braidd yn galed.

Am rhyw reswm fedra i ddim cofio unrhyw feirniadaeth gan Lais Gwynedd o'r Toriaid, nag unrhyw feirniadaeth wedi ei chyfeirio at Lais Gwynedd gan y Toriaid chwaith. Efallai mai fy nghof i sy'n methu.

Felly £10 i'r cyntaf i ddod o hyd i feirniadaeth Toriaidd o Lais Gwynedd, neu'r ffordd arall - darparwch linc priodol os gwelwch yn dda.

Monday, January 18, 2010

Democratieth a hawliau sifil

Tabl ydi'r uchod o ymchwil a wnaed i ansawdd democratiaeth mewn gwahanol wledydd gan yr Economist. 'Dydi Prydain ddim yn gwneud yn arbennig o dda gwaetha'r modd - rydym eisoes wedi trafod diffyg hawliau sifil yn y DU, ac felly nid yw'n fawr o ryfeddod bod yna wledydd yn Ne America sy'n gwneud yn well na Phrydain yn y maes yma.

Mae'r adran sy'n ymwneud a'r cyfle mae pobl yn ei gael i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd hyd yn oed yn waeth. Gwledydd bach (yng Ngogledd Ewrop yn bennaf) sydd yn dod uchaf mewn bron i pob agwedd.

Mae ein haelodaeth o'r DU yn ein darparu gyda fersiwn israddol o ddemocratiaeth mae gen i ofn.

Gwelwyd y wybodaeth ar y blog Ulster's Doomed.

Saturday, January 16, 2010

Y wers i'w chymryd o drychineb Bosch


LG Phillips, Welsh Country Foods, Aliminiwm Mon, Indesit, a rwan Bosch. Mae'r rhestr o ffatrioedd sy'n cau yng Nghymru yn ymddangos yn ddi ddiwedd. Efallai ei bod yn swnio'n galed i ddweud hyn - ond nid oes yna unrhyw beth annisgwyl am yr holl gau - mae busnesau yn mynd yn llai ac yn ail strwythuro yn ystod pob dirwasgiad, ac mae Cymru'n dioddef yn waeth na'r unman arall yn y DU yn bron i pob dirwasgiad. 'Dydi hi erioed wedi gwneud llawer iawn o synnwyr i adeiladu ffatri mewn gwlad sydd ag is strwythur trafnidiaeth israddol, a sy'n gymharol bell oddi wrth canolfannau poblogaeth. 'Dydi lefelau cymharol uchel cyflogau yng Nghymru o gymharu a gwledydd Dwyrain Ewrop ddim wedi gwneud llawer i wneud Cymru yn atyniadol i leoli ffatrioedd chwaith.

'Dydi o ddim yn ormodiaeth i ddweud bod llawer o Gymru yn gwbl ddiffrwyth yn nhermau cynhyrchu - gyda'r rhan fwyaf o'r wlad yn cynhyrchu dim neu nesaf peth i ddim. Ac eto mae yna ddigonedd o nwyddau sydd wedi eu cynhyrchu yn croesi Cymru yn ddyddiol. Nwyddau ydi'r rhain sy'n cael eu cludo o'r Iwerddon, ar hyd yr A55 a'r M4 trwy ddiffeithwch cynhyrchu Cymru tuag at eu marchnadoedd yn Lloegr ac ar dir mawr Ewrop.

Mae nifer o'r problemau sydd gan Iwerddon - is strwythur gwael, pellter o'i marchnadoedd a chostau llafur uchel - yn waeth nag ydynt yng Nghymru, ac eto dydyn nhw ddim yn y cyflwr treuenus yr ydym ni. Ystyrier y proffeil isol o allu'r wlad i gynhyrchu cyfoeth:

GDP - $267.6 biliwn
GDP y pen - $60,510 (DU - $43,734)
Allforion - $126.5 biliwn
Mewnforion - $84.3 biliwn (Mae'r DU yn mewnforio gwerth tua $170 biliwn o nwyddau yn fwy na mae'n ei allforio yn flynyddol).

Mae'r ffigyrau uchod ar gyfer 2008 (y flwyddyn olaf lle mae ffigyrau cyflawn ar gael), ac mi fydd GDP yn sicr o fod wedi syrthio erbyn hyn - mae Iwerddon mewn dirwasgiad, a hynny am yr un rheswm a ni - gor ddibyniaeth ar sector bancio llwgr. Mae dirwasgiad Iwerddon wedi bod yn un twfn iawn sydd wedi arwain at doriadau anferth mewn gwariant cyhoeddus, a chwmniau eiconig megis Waterford Chrystal, yn cael eu hunain mewn trafferthion dybryd. Ond yn anhygoel yng nghanol dirwasgiad roedd gwerth allforion ond 1% yn is yn 2009 nag oedd yn 2008, gyda'r sector cynnyrch meddygol yn unig yn allforio gwerth €53 biliwn o nwyddau. Disgwylir 3% o gynnydd eleni.

Mae'r rhesymau tros berfformiad economaidd Iwerddon yn ddigon adnabyddus - mae cwmniau o'r Unol Daleithiau ac o lawer o wledydd eraill wedi buddsoddi'n drwm yno - mae'r ffaith bod pawb yn siarad Saesneg yno yn atyniadol, y ffaith ei fod oddi mewn i gyfundrefn dollau'r Undeb Ewropiaidd ac yn defnyddio'r Ewro, gyda treth corfforiaethol o 12.5% (o gymharu a 28% yn y DU), perthynas dda rhwng cyflogwyr, gweithwyr a'r llywodraeth, cyfundrefn addysg effeithiol, trefn gyfreithiol effeithiol a thryloyw a pholisiau addas gan y llywodraeth i hybu busnes.

Rwan mae rhywfaint o hyn yn wir amdanom ni, ond 'dydi llawer ohono ddim. Y gwahaniaeth sylfaenol ydi bod llywodraeth Iwerddon efo grym tros eu cyfundrefnau economaidd a threthiannol eu hunain, ac o ganlyniad gallant amrywio polisiau trethiannol ac economaidd mewn modd sy'n caniatau iddynt wneud iawn am eu hanfanteision daearyddol a strwythurol. 'Does gennym ni ddim o'r pwerau yna - a hyd y bydd gennym bwerau felly mi fyddwn ni'n parhau i edrych yn ddiymadferth ar drychinebau megis un yr wythnos diwethaf pob tro mae'r tirlun economaidd yn duo - ac ar y rhesi o dryciau yn cario nwyddau ar draws y wlad.

Y wers i'w chymryd o Bosch a'r holl Bosches eraill ydi nad ydi'r trefniant cyfansoddiadol sydd gennym ar hyn o bryd yn caniatau i ni berfformio yn agos at ein potensial economaidd.

Friday, January 15, 2010

Pol YouGov

Canlyniadau ail bol Cymru gyfan YouGov ydi:

Toriaid 32% (21.4)
Llafur35% (42.7)
Lib Dems 13% (18.4)

Plaid Cymru 13% (12.6)


O wireddu'r ffigyrau yma byddai Llafur yn wynebu canlyniad sal iawn yng Nghymru - colli Arfon ac Ynys Mon i Blaid Cymru, Penybont, Gwyr, Bro Morgannwg, Gorllewin Casnewydd, Gorllewin Caerfyrddin / Penfro, Bro Morgannwg, Aberconwy a Gogledd Caerdydd i'r Toriaid.

Byddai'r Lib Dems hefyd yn colli dwy o'u pedair sedd - Brycheiniog a Maesyfed i'r Toriaid a Cheredigion i Blaid Cymru.

Wednesday, January 13, 2010

Blogmenai'n cadw'r glendid a fu i'r oesoedd a ddaw

'Dydi Vaughan ddim yn fodlon ail ddangos fideo gwych David Taylor a Peter Hain i ddathlu'r ffaith i'r naill gael joban gan y llall. Mae blogmenai'n falch o ddweud ei fod yn fodlon llenwi'r bwlch a adawyd gan y Bib - unwaith eto.

Pam ydan ni'n talu am y drwydded deledu dywedwch?

Sgandalau personol - ydyn nhw'n bwysig mewn gwleidyddiaeth?

Er bod blogmenai yn hoff iawn o sgandals gwleidyddol, fyddan ni ddim yn trafod rhai personol yma fel rheol - hyd yn oed pan maent yn ymwneud a gwleidyddion. Mi wnawn ni eithriad bach efo sgandal Iris Robinson, nid cymaint i edrych ar y sgandal honno'n benodol, ond i ystyried i ba raddau me sgandalau personol yn effeithio ar wleidyddiaeth yn gyffredinol. Mi geisiwn gadw at sgandalau Gwyddelig - mae yna hen ddigon ohonyn nhw i'n pwrpas ni.



Mae gan Iwerddon draddodiad hir o sgandalau personol - un Charles Stewart Parnell ydi'r enwocaf, ond bu digon o rai eraill. Yr hyn sy'n ddiddorol ydi'r ffaith bod Gwyddelod yn llawer mwy tebygol i faddau i wleidyddion am sgandalau o natur personol nag ydi llawer o genhedloedd eraill.

Mae'n lled gyffredin i wleidyddion yn y De fynd i drafferth am yfed a gyrru - Martin Ferris (er bod y lefel alcohol yn ei waed o yn gyfreithlon) a JimMcDaid er enghraifft, yn ogystal a mynd i drafferth am rhyw ymddygiad meddw neu'i gilydd. Ni fydd sgandalau felly byth bron (mae ambell i eithriad) yn cael unrhyw effaith gwleidyddol nag yn niweidio'r gwleidyddion eu hunain. Yn wir mae'n ddigon posibl eu bod yn ychwanegu at boblogrwydd y gwleidydd sy'n rhan o'r sgandal - aeth Willie O'Dea i drafferth am gwffio, neu drio cwffio mewn tafarn tra'n weinidog amddiffyn, cyn mynd ymlaen i gael un o'r pleidleisiau personol uchaf yn hanes y wladwriaeth yn yr etholiad dilynol - mae'r rhestr o'r math yma o beth yn un faith

Yr hyn sy'n fwy anisgwyl efallai ydi nad ydi sgandalau rhywiol yn cael llawer o effaith gwleidyddol nag yn effeithio ar yrfaoedd gwleidyddion. Treuliodd y diweddar Charles J Haughey lawer o'i amser fel Taoiseach mewn perthynas efo gwahanol ferched ag eithrio ei wraig, roedd Bertie Ahern yn byw talu, er ei fod yn briod, trwy'r rhan fwyaf o'i gyfnod o fel Taoiseach, heb i hynny effeithio ar ei boblogrwydd, cafodd Eamott Stagg (tr'n weinidog yn y llywodraeth) ei ddal mewn sefyllfa hynod anffodus efo dyn arall mewn car ger Phoenix Park cyn mynd ati i gynyddu ei fwyafrif yn sylweddol yn yr etholiad dilynol.

Mae Iris Robinson i raddau yn anffodus yn ei phlaid. Mae gan y DUP adain efengylaidd gref, ac nid maddeuant am bechodau'r cnawd ydi un o gryfderau Presbeteriaid Gogledd Iwerddon, fel y daeth Paul Berry i ddeall wedi digwyddiad efo masseur gwrywaidd ym Melfast. Cafodd ei sacio fel ymgeisydd y blaid yn Newry Armagh, ac mae bellach wedi gadael y DUP. Ar y llaw arall cafodd Sammy Wilson (un o aelodau seneddol y DUP) garwriaeth hir efo Rhonda Paisley (merch y dyn ei hun) a hi oedd ei faeres tra roedd yn faer dinas Belfast - er ei fod yn briod a dynas arall. Wnaeth hynny, na'r ffaith i luniau ohono'n borcyn yng nghwmni dynas ymddangos mewn papur newydd fawr o niwed gwleidyddol iddo. Mae yna straeon wedi bod o gwmpas perthynas y Robinsons ers degawdau, ond dydyn nhw heb effeithio ar yrfa gwleidyddol y naill na'r llall.

Ond mae rhai sgandalau Gwyddelig wedi cael effaith syfrdanol ar wleidyddiaeth y wladac ar y sawl oedd yn rhan o'r sgandal. Charles Stewart Parnell oedd un o'r gwleidyddion mwyaf carismataidd ac effeithiol i'r Iwerddon ei gael erioed. Fe'i gelwid yn frenin di goron Iwerddon. Pan gafodd ei enwi mewn achos ysgariad yn 1890 rhoddwyd cychwyn ar gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at drychineb gwleidyddol - hollti'r Irish Parliamentary Party.



Roedd Parnell wedi bod yn cyd fyw efo gwraig briod, Kitty O’Shea am flynyddoedd - roedd ganddynt dri o blant. Roedd y trefniant yn un digon agored ymysg ei gydnabod a'i elynion a chyfeillion gwleidyddol, a 'doedd neb yn meddwl llawer am y peth. Roedd byd o wahaniaeth rhwng torri'r rheolau y tu ol i ddrysau caedig a gwneud hynny yn gyhoeddus yn Oes Fictoria fodd bynnag. Collodd ei le fel arweinydd y blaid, a holltodd y blaid yn ddau. Parhaodd Parnell mewn gwleidyddiaeth fel arweinydd y blaid newydd. Bu farw flwyddyn yn ddiweddarach - yn ol llawer oherwydd iddo or weithio yn teithio'r Iwerddon yn ceisio adeiladu cefnogaeth i'w blaid newydd. Daeth 200,000 o bobl i'w gladdu, ac er ei fod yn Brotestant mae ei fedd ym mynwent Babyddol anferthol Glasnevin yng Ngogledd Dulyn.



Roedd canlyniadau datgelu'r sefyllfa yn syfrdanol - hollti'r blaid, gwenwyno'r berthynas rhwng cenedlaetholwyr Gwyddelig am genhedlaeth, a chreu ymdeimlad sur a barhaodd am llawer mwy na hynny bod mab darogan cenedlaetholdeb Gwyddelig wedi ei fradychu gan sefydliadau crefyddol a gwleidyddol y wlad ac wedi ei golli am byth oherwydd hynny. Yn wir mae rhai wedi dadlau y gallai hunan lywodraeth fod wedi dod yn gynt petai Parnell wedi parhau i arwain, ac os byddai hynny wedi digwydd byddai llawer o boen a thywallt gwaed y ganrif ddiwethaf yn yr Iwerddon wedi ei osgoi.

Ond yr hyn sydd rhaid ei ddeall ydi bod y sgandal wedi digwydd mewn cyd destun gwleidyddol llawer ehangach. Roedd hollt yn bod eisoes yn y blaid - roedd Parnell yn rhy radicalaidd ac agos at weriniaethwyr bon braich i lawer o'i gyd seneddwyr, roedd y ffaith nad oedd yn Babydd yn broblem i rai, roedd methiant Mesur Hunan Lywodraeth 1886 wedi creu problemau sylweddol oddi mewn i'r blaid ac roedd Gladstone yn brysur yn cymryd mantais gwleidyddol o'r amgylchiadau.

A dyna ydi'r pwynt wrth gwrs - gweithredu fel catalydd mae sgandalau personol mewn gwleidyddiaeth. Os oes yna holltau gwleidyddol yn bodoli eisoes, mae'r ysgytwad a geir yn sgil sgandal yn gwneud i bethau syrthio, a phan nad oes hollt, dydi'r effaith ddim yn bell gyrhaeddol. Mae tynged y sawl sy'n rhan o'r sgandal hefyd yn rhannol ddibynnol ar y cyd destun gwleidyddol. Doedd yna ddim cymhlethdod gwleidyddol yn gefndir i sgandalau Wilson, Ahern na Stagg, felly roedd pobl yn gweld eu sgandalau nhw fel yr hyn yr oeddynt mewn gwirionedd - materion preifat. Pan mae cymhlethdod, mae'r personol a'r gwleidyddol yn cael eu cymysgu, ac mae hynny'r rhoi chwystrelliad o wenwyn i mewn i'r sefyllfa, a gall hynny yn ei dro ddifa gyrfa wleidyddol.

A daw hyn a ni at Iris Robinson. Mae yna gyd destun gwleidyddol i'r sgandal yma - mae wedi digwydd yn ystod y cyfnod mwyaf sensitif yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon ers mwy na degawd. Mae'r ddwy brif blaid, Sinn Fein a'r DUP yn mynd i'r afael a chwestiwn sy'n wenwynig mewn ffyrdd gwahanol i'r ddwy blaid - plismona. Pleidleisiodd llawer llai o Babyddion nag arfer yn etholiadau Ewrop 2009, mae'n debyg am bod SF wedi derbyn y gwasanaeth plismona newydd (y PSNI). Mae hyn yn broblem sylweddol i lawer o'u cefnogwyr traddodiadol - yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. Mae'n bwysig i SF bod pwerau rheoli'r PSNI yn cael ei ddatganoli i wleidyddion lleol, er mwyn iddynt allu tynnu'r colyn o'r feirniadaeth chwerw yn eu perfedd diroedd ceidwadol eu bod yn cefnogi ac yn cynnal lluoedd diogelwch 'tramor'.

Mae'r DUP o dan bwysau etholiadol mwy. Mae plaid newydd - y TUV, sydd ddim eisiau rhannu grym efo cenedlaetholwyr eisoes wedi gwneud niwed gwleidyddol sylweddol iddynt. 'Dydi'r syniad o drosglwyddo pwerau plismona i gyn aelodau o'r IRA fel Gerry Kelly neu Connor Murphy ddim yn apelio atynt, ac maent wedi bod yn araf iawn i symud ar y mater - er eu bod wedi hen gytuno i wneud hynny.

Mae'r helynt Iris Robinson wedi gwanio eu llaw yn sylweddol. Roeddynt eisoes efo problemau etholiadol - mi fyddai cynnal etholiad o dan yr amgylchiadau presennol yn sicrhau na fyddant yn dod yn ol wedi'r etholiad honno fel prif blaid y Gogledd - fedran nhw ddim fforddio etholiad ar hyn o bryd. Fel pob amser yng Ngogledd Iwerddon, mae problem y DUP yn gyfle i'w gwrthwynebwyr. Mae bygythiad SF i ddod a'r weinyddiaeth i lawr ac achosi etholiad yn hynod bwerus - ac mae'n debygol y bydd y bygythiad hwnnw yn gorfodi'r DUP i ildio ar blismona.

Mi fydd gan y DUP flwyddyn neu ddwy i gael eu ty mewn trefn wedyn - gallant ddisgwyl colledion yn etholiadau San Steffan eleni, ond dydi hynny ddim mor bwysig ag etholiadau Stormont. Oherwydd hynny byddai'n rhaid i Iris Robnson fod wedi mynd hyd yn oed pe na bai elfen o dor cyfraith yn y sgandal. Mi fydd rhaid i'r DUP weithio'n galed hyd yr etholiadau, a ni fyddai presenoldeb Iris yn helpu hynny mewn unrhyw ffordd o gwbl.

Mae hon yn un o' sgandalau personol hynny sy'n debygol o gael effaith gwleidyddol sylweddol.

Tuesday, January 12, 2010

Y polau diweddaraf

Populus:

Toris 41 % (38)
Llaf 28 % (30)
LD 19 %(20)

Alex Reid:

Tori 40% (40)
Llafur 24% (24)
LD 20% (20)


YouGov:

Toris 42% (42)
Llafur 30% (30)
Lib Dems 16% (16)


ICM:
CON 40% (40)
LAB 30% (31)
LD 18%(18)


Canfyddiadau diweddaraf y cwmniau polio ydi'r uchod. ar un olwg maent yn weddol gyson gyda'r dair blaid brydeinig yn yr un drefn o leiaf. Ond mae yna rhywbeth arall i'w ystyried - mae'n gwneud byd o wahaniaeth yn etholiadol os ydi Llafur yn sgorio 30% Populus neu ICM yn hytrach na 24% Alex Reid.

O edrych
ar bethau o berspectif hollol Gymreig am eiliad, pe gwireddid y pol ICM a phe bai'r gogwydd mae'n ei awgrymu yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru yna byddai Llafur yn colli Aberconwy, Arfon, Ynys Mon, Bro Morgannwg, Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro a Gogledd Caerdydd. Byddai'r Lib Dems hefyd yn colli Brycheiniog a Maesyfed a Cheredigion. Tros y DU mi fyddai gan y Toriaid 333 o seddi, Llafur 245, Lib Dems 41, Cenedlaetholwyr 10 ac eraill 3. Canlyniadau gwael yn wir i Lafur (a'r Lib Dems) yng Nghymru a thu hwnt, ond mae modd gweld ffordd yn ol.

Ond o ystyried ffigyrau Alex Reid, yna byddai pethau'n edrych cryn dipyn yn waeth. Yng Nghymru byddai Llafur hefyd yn debygol o golli Delyn, Gwyr, Llanelli, Penybont, Gorllewin Casnewydd, Dyffryn Clwyd ac mi fyddai pethau yn hynod o agos yng Ngorllewin a De Caerdydd, De Clwyd a Dwyrain Caerfyrddin. Seddi'r Cymoedd yn unig fyddai'n saff. Mi fyddai gan y Toriaid tros Brydain 367 o seddi, Llafur 197, Lib Dems 54, Cenedlaetholwyr 10 ac eraill 3. Does yna ddim ffordd amlwg yn ol yn y tymor canolig o'r fan yna - ar lefel Brydeinig nag ar un Gymreig.

Mi fydd rhyw bol neu'i gilydd yn gywir cyn pob etholiad wrth gwrs, ond mae'n anodd dweud pa un. Y temtasiwn ydi edrych ar y ffigyrau mwyaf cyffredin, y rhai sy'n codi amlaf, ond byddai hynny'n gamgymeriad. Y tueddiad hanesyddol ydi i un o'r polau mwy eithafol a gwahanol i'r lleill gael ei brofi'n gywir. Mae werth nodi bod yna dueddiad hefyd i'r polau sy'n rhoi'r canrannau isaf i Lafur fod yn nes ati na'r un arall.

Croeso'n ol i Vaughan a - chroeso i Anthony hefyd


Croeso'n ol i Vaughan wedi ei absenoldeb maith, a diolch iddo am dynnu ein sylw at y ffaith bod y Toriaid wedi dewis ymgeisydd seneddol ar gyfer Ynys Mon -Anthony Ridge Newman.

Os oes gennych ddiddordeb gallwch ddarllen yr hyn sydd ganddo i ddweud amdano'i hun yma.

Mae'n amlwg bod Toriaid Ynys Mon efo cysylltiad agos efo llawr gwlad yr etholaeth. Horses for courses ydi'r term Saesneg 'dwi'n meddwl. Bydd yn gyfraniad pwysig i'r math o ddelwedd mae'r Blaid Doriaidd Gymreig angen ei magu.

Monday, January 11, 2010

Polisi cymedroli

Mi fyddaf yn cael fy hun yn gorfod gwneud y blogiad yma o bryd i'w gilydd.

Polisi cymedroli blogmenai ydi bod pob sylw sy'n cael ei adael ar dudalen sylwadau'r blog yn cael ei gyhoeddi oni bai bod posibilrwydd ei fod yn enllibus, yn fygythiol neu'n gwneud defnydd o iaith aflednais.

Dydw i erioed wedi derbyn sylwadau aflednais na llawer o rai bygythiol, ond mi fyddaf yn derbyn rhai a allai fod yn enllibus o bryd i'w gilydd. 'Dydw i ddim yn dwrna - ond os oes posibilrwydd bod rhyw sylw neu'i gilydd yn enllibus dydw i ddim am ei gyhoeddi oherwydd mai fi, fel perchenog y blog sydd yn gyfrifol amdano yn y diwedd, a 'dwi ddim eisiau cael fy hun mewn llys barn diolch yn fawr.

'Dwi'n gwybod nad ydi'r blog yma at ddant pawb, ond 'dwi'n ofalus iawn nad ydw i'n enllibio neb. 'Dwi hefyd yn ofalus nad oes neb arall yn enllibio yma.

Sunday, January 10, 2010

Gwilym a'r Ombwdsman - cyngor gan Flogmenai

Chwi wyddoch fy mod wedi addo i Alwyn i geisio bod yn fwy cydymdeimladol efo gwleidyddion sy'n perthyn i'r pleidiau unoliaethol eleni, ac yn yr ysbryd hwnnw 'dwi am roi gair neu ddau o gyngor technegol i fy nghyd flogiwr ac aelod o un o bleidiau rhanbarthol y wlad, Gwilym Euros Roberts. Prosesau cwyno llywodraeth leol ydi'r pwnc dan sylw.

Yn ol blog Gwilym cafodd ei riportio i'r Ombwdsman llywodraeth leol gan arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards oherwydd bod Dyfed o'r farn iddo (hy Gwilym) ddweud celwydd amdano ar ei flog. Mi fyddwch yn gwybod mai priod waith yr Ombwdsman ydi ymchwilio i gwynion yn erbyn cynghorwyr gan gyd gynghorwyr, gan aelodau o'r cyhoedd neu gan syddogion. Mi fyddwch hefyd yn gwybod os ydych yn ddilynwyr cyson o flog Gwilym neu fy un i bod yr Ombwdsman eisoes yn ystyried cwyn yn ei erbyn gan un o swyddogion Cyngor Tref Blaenau Ffestiniog.

'Dwi wedi mynegi barn am y mater mae Gwilym yn cael ei gyhuddo mewn perthynas a fo ar y blog yma eisoes, ond yn amlwg byddai'n amhriodol i mi wneud hynny eto 'rwan gan bod yr Ombwdsman wedi dechrau ystyried os yw am ymchwilio'n ffurfiol i'r sefyllfa. Nid mater i mi ydi ceisio gwneud gwaith yr Ombwdsman ar ei ran.

'Rwan mae Gwilym ei hun yn tynnu sylw at y ffaith ei fod o flaen yr Ombwdsman unwaith eto ar ei flog, ond mae'n gwneud hynny mewn modd sy'n awgrymu'n gryf nad yw'n llawn ddeall y broses o gwyno'n fewnol yng Nghyngor Gwynedd na'r drefn allanol o gwyno i'r Ombwdsman chwaith. 'Dwi am gynnig ychydig o gyngor iddo yn y gobaith ei fod yn ymddwyn yn unol a'r cyngor hwnnw er mwyn osgoi cael ei hun mewn dwr poeth pellach.

Un o'r pwyntiau mae Gwilym yn ei godi ydi y dylid bod wedi delio efo'r gwyn yn fewnol yn y Cyngor. Yn anffodus 'does yna ddim mecanwaith ar hyn o bryd i gynghorydd wneud cwyn ynglyn a chynghorydd arall i'r Pwyllgor Safonau - mae hyn yn wendid yn y system, ond mae hefyd yn ffaith. Os oes yna gynghorydd efo cwyn am un arall, yr Ombwdsman ydi'r unig le y gellir mynd a'r gwyn. Ymddengys nad ydi Gwilym yn deall trefn gwyno'r cyngor mae'n aelod o'i bwrdd.

Mater cymharol fach ydi hynny yn y bon - mae ymateb Gwilym i broses ffurfiol cwyno allanol yn bwysicach. Fel efo unrhyw broses ffurfiol mae gan bawb eu rol - yr Ombwdsman, y sawl sy'n gwneud cwyn, y sawl mae cwyn wedi ei wneud yn ei erbyn ac unrhyw un arall sydd a gwybodaeth berthnasol ynglyn a'r mater. Rol yr Ombwdsman ydi dod i gasgliadau ynglyn a dilysrwydd y gwyn a pha gamau i'w cymryd os ydi'r gwyn honno yn un ddilys - nid rol y cwynwr na'r sawl y gwneir cwyn yn ei erbyn ydi honno.

Yn ei flogiad mae Gwilym yn ceisio gwneud gwaith yr Ombwdsman ar ei ran (sef ei gael o ei hun yn ddi euog o ymddygiad amhriodol). Ymhellach mae'n llafurio o dan yr argraff ei bod yn syniad da i ail adrodd yr honiad sydd wedi ei chyfeirio at yr Ombwdsman - mae'n gwneud hynny yn gwbl ddi amwys ar ei flog.

Rwan mae'n gwbl briodol i Gwilym nodi ei fod wedi ei gyfeirio at yr Ombwdsman, mae hefyd yn gwbl briodol iddo amddiffyn ei hun - wrth yr Ombwdsman. 'Dydi hi ddim yn briodol iddo hawlio rol yr Ombwdsman yn y broses, a gwneud hynny'n gyhoeddus. 'Dydi hi ddim yn briodol chwaith iddo ail adrodd ei honiad hyd ei fod yn gwybod nad oedd yn amhriodol yng ngolwg yr Ombwdsman.

Gellid yn hawdd gymryd blogiad Gwilym fel ymysodiad ar y broses ei hun yn ogystal ag ar statws yr Ombwdsman. Mae yna rym statud y tu cefn i swydd yr Ombwdsman (Deddf Llywodraeth Leol 1974), ac i'r broses gwyno yn ei chyfanrwydd. Mae'n syndod o'r eithaf bod rhywun sy'n gobeithio adeiladu gyrfa wleidyddol iddo'i hun yn mentro cael ei weld yn amharchu, ac yn wir yn dawnsio ar brosesau ffurfiol ac ar gomiwsynydd llywodraethol.

Saturday, January 09, 2010

Toriaid Aberconwy a'r gyfundrefn etholiadol

'Dwi'n poeni braidd am Geidwadwyr Aberconwy.

Mewn blogiad lled hysteraidd diweddar maent wedi cael eu hunain mewn dipyn o stad oherwydd bod canfaswyr Plaid Cymru yn dweud wrth etholwyr yr etholaeth mai dim ond y Blaid all guro'r Toriaid yn lleol, ac yn gofyn am bleidlais ar y sail hwnnw. Ymddengys mai desperate stuff a negative politics ydi hyn. Ymddengys hefyd (rhywsut, rhywfodd) bod hyn yn gyfaddefiad na all y Blaid ennill yn Aberconwy - datganiad sydd yn negative politics ynddo'i hun.

Yn unol a fy adduned blwyddyn newydd hwyr 'dwi am drio bod yn gydymdeimladol. Mi fyddai'n well o lawer gen innau hefyd petai pleidiau yn gwerthu eu hunain ar sail yr hyn ydynt yn hytrach nag ar sail yr hyn nad ydynt. O wybod gair mor ofnadwy ydi rhagrith yng ngeiriadur Ceidwadwyr Aberconwy 'dwi'n hollol siwr y byddant yn ymosod yn ffyrnig ar Geidwadwyr Wrecsam, Ceidwadwyr Dwyrain Casnewydd, a Cheidwadwyr Gorllewin Abertawe pan y byddant yn honni mai dim ond nhw all guro Llafur - a chredwch fi, mi fyddant nhw'n dweud hynny, ac maen nhw'n dweud hynny eisoes.

'Dydw i ddim mor feirniadol fodd bynnag. Mae'r system etholiadol sydd gennym - First Past the Post (FPTP) yn un hynod o anheg. Mae hefyd yn ddull etholiadol sy'n cynnig ei hun i wleidydda negyddol. Dyna pam bod plaid mor ddi ddim (ond hynod negyddol) a'r Lib Dems efo cymaint o seddi. Y blaid sydd fwyaf hoff o'r gyfundrefn etholiadol sydd ohoni ydi'r Toriaid. 'Dydi o ddim yn cymryd athrylith i ddeall pam - mae'r system fwy neu lai yn sicrhau bod y Toriaid, neu ei chwaer blaid adain dde, ryfelgar (New Labour) mewn grym yn barhaol. Os nad ydi twidl tym yn ceisio concro'r Byd, yna mae twidl di wrthi.

Mae etholiadau yn bethau digon Darwinaidd - mae'r sawl sy'n cwffio fwyaf caled - ac effeithiol - yn ennill y dydd. Mi fydd Ceidwadwyr Dwyrain Casnewydd yn edrych ar yr hyn sydd rhaid ei wneud i ennill, ac yn gwneud hynny. Felly hefyd Pleidwyr Aberconwy. Felly hefyd Ceidwadwyr Aberconwy, dyna pam mae nhw'n ceisio cysylltu Plaid Cymru efo Llafur - hyd yn oed pan mae'r cysylltiad maent yn ceisio ei sefydlu yn un gwan iawn.

Efallai bod Ceidwadwyr Aberconwy yn anghytuno efo FPTP. 'Dydyn nhw heb ddweud hynny hyd yn hyn. Fydda i ddim yn cymryd eu udo hysteraidd am bod pleidiau eraill yn defnyddio tactegau etholiadol sy'n addas i'r gyfundrefn mae eu plaid mor hoff ohoni gormod o ddifri hyd iddynt roi rhyw fath o gliw nad ydynt yn cefnogi'r system honno.

Hyd hynny, gallwn gymryd mai llwyth o ragrith ydi brefu hunan dosturiol Ceidwadwyr. Aberconwy.

Peter, Michael a Gordon

Ond tydi gwleidyddiaeth yn rhyfedd dywedwch? Dyna i chi'r Blaid Lafur sydd byth yn cael gwared o arweinyddion aneffeithiol - hyd yn oed Gordon Brown a Michael Foot sydd wedi gwneud un camgymeriad gwleidyddol ar ol y llall ac yn amlwg i bawb yn bobl anaddas i arwain plaid wleidyddol. Pe na fyddai dyn yn gwybod yn well gellid meddwl bod gan y blaid galon fawr feddal ddagreuol.



A dyna i chi Peter Robinson, sydd yn wleidydd hynod ofalus a sicr ei droed sydd wedi treulio degawdau yn osgoi gwneud camgymeriadau gwleidyddol (mi wnaeth un go fawr tua deg mlynedd ar hugain yn ol, ond awn ni ddim ar ol hynny, bu bron iddo gael ei garcharu). Mae'n ddigon posibl nad ydi Robinson wedi gwneud unrhyw beth o'i le o gwbl yn ystod y sgandal gyfredol sydd wedi difa gyrfa wleidyddol ei wraig, ac os ydyw byddai cuddio peth gwybodaeth - o dan yr amgylchiadau - yn ddealladwy i'r rhan fwyaf o bobl. Ond mae'n dra thebygol - bron yn anhepgor y bydd Robinson yn cerdded y planc cyn diwedd yr wythnos nesaf, fel y bu'n rhaid i'r ddau Ian Paisley wneud o'i flaen.



Mae pethau'n syml iawn i'r DUP - os oes rhywun - dim ots pwy yw a dim ots os nad oes unrhyw beth wedi ei brofi yn ei erbyn - yn bygwth rhagolygon etholiadol y DUP mae'n cael y gic. Adlewyrchiadu ffocws y blaid i ennill a chadw grym mae'r tueddiad yma i ddienyddio gwleidyddion sy'n tynnu gormod o sylw negyddol atyn nhw ei hunain yn ei wneud wrth gwrs. Pan fyddan nhw'n colli'r ffocws hwnnw, byddant yn colli eu statws fel prif blaid unoliaethol Gogledd Iwerddon.

Thursday, January 07, 2010

Gwers hanes bach arall gan fwnci


Fel y byddwch yn gwybod wrth gwrs llun ydi'r uchod o Guto Dafydd, Dyfrig Jones a minnau. Fi ydi'r un yn y canol, mae Dyfrig ar y chwith i mi a Guto ydi'r llall - i'r rhai ohonoch nad ydych yn ein hadnabod yn y cnawd fel petai. Wel rhywbeth felly mae blog Gwilym Euros Roberts, darpar ymgeisydd Llais Gwynedd ym Meirion Dwyfor ar gyfer y Cynulliad yn ei awgrymu.

Ymateb oedd Gwilym i sylwadau gen i, Guto a Dyfrig i 'neges' blwyddyn newydd Llais Gwynedd oedd yn cyhuddo Plaid Cymru a Llafur o ddilyn yr un polisiau a'r rhai a ganiataodd i wagio Ucheldiroedd yr Alban ddigwydd yng nghanol y bedwerydd ganrif ar bymtheg. Roeddwn i a Guto yn tynnu sylw at anaddasrwydd y gymhariaeth, tra bod Dyfrig yn gosod y gymhariaeth yng nghyd destun naratif gwleidyddol cyfredol Llais Gwynedd.

Ymateb Gwilym oedd y llun a'r sylwadau treiddgar canlynol:

Mae neges Flwyddyn Newydd gan Arweinydd Llais Gwynedd, Owain Williams wedi derbyn ymateb arferol gan flogwyr Plaid Cymru.
O ddarllen ymatebion Cai, Guto a Dyfrig fyddech chi'n meddwl fod Plaid yn wych ac nad oes unrhyw argyfwng yn gwynebu cymunedau gwledig Gwynedd.
Fedr rhywun mond gobeithio y wneith y tri cyfaill ddeffro fel ddaw y Gwanwyn yn nes!?
Yn y cyfamser, nid ydynt yn barod i glywed, gweld na siarad unrhyw feirniadaeth o'u Plaid fach perffaith.


Hynny yw mae'n cynhyrchu ymateb nad yw'n mynd i'r afael efo'r pwyntiau sy'n cael eu codi o gwbl. Mae'r cyfuniad o'r lluniau a'r diffyg gallu i ymateb yn ystyrlon yn ddiddorol ac (yn fy marn bach i) yn mynd a ni yn ol unwaith eto i Oes Fictoria.

Mae'n debyg nad yw Gwilym yn ymwybodol o'r ffaith, ond pan mae'n cynrychioli'r tri ohonom fel mwnciod mae'n dilyn hen draddodiad o gynrychioli cenedlaetholwyr Celtaidd (Gwyddelig fel rheol, ond nid pob tro) ar ffurf mwnci, lled fwnci neu epa arall. Mae'r isod yn bump esiampl o'r miloedd o gartwnau ar y thema sydd ar gael o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.






Fe oroesodd yr arfer hyd at gyfnod cymharol ddiweddar. Er enghraifft cartwn o'r Sun yn dilyn digwyddiad treisgar yn ystod cynhebrwng aelod o'r IRA yn Belfast yn 1988 a arweiniodd ychydig yn ddiweddarach at lofruddiaeth dau filwr Prydeinig ydi'r isod.


Rwan, ar un olwg mae cynrychioli pobl o gefndir arbennig yn gyson ar ffurf mwnci yn beth rhyfedd braidd i'w wneud - ond mae'n gwneud synnwyr os ydym yn edrych ar y Byd o safbwynt Saeson yn Oes Fictoria - roedden nhw yn deall pethau mewn ffordd wahanol iawn i ni, a'r rheswm am hynny oedd bod syniadaethau'r cyfnod hefyd yn wahanol iawn i'n rhai ni.

Roedd eu dealltwriaeth o Ddarwiniaeth (neu eu cam ddealltwriaeth efallai) yn cael ei ddefnyddio i gyfiawnhau'r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd dwsinau o wahanol 'raddau' esblygiadol dynol (yn eu tyb nhw) gyda'r Hotentot ar y gwaelod a'r Eingl Sacsoniaid ar y brig wrth gwrs. Roedd Celtiaid rhywle yn y canol ac roedd mwnciod yn is na'r Hotentot. Felly roedd gor wneud is raddoldeb hiliol (dychmygol) gelynion gwleidyddol yn apelio at gartwnwyr.

Ond roedd rheswm arall pwysicach - roedd syniadaethau sylfaenol cenedlaetholdeb Gwyddelig yn fwy soffistigedig (ac yn amlwg yn llawer mwy blaengar) na'r syniadaethau oedd yn gysylltiedig a'r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd cenedlaetholdeb Gwyddelig yn tynnu yn sylweddol ar syniadaethau'r Chwyldro Ffrengig erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tra bod llawer o'r syniadaethau oedd yn gysylltiedig a'r Ymerodraeth wedi eu gwreiddio mewn cyfnodau cynharach - rhai oedd yn syniadaethol gyntefig.

Mewn geiriau eraill roedd yn anodd i'r sefydliad gwleidyddol Prydeinig ymgodymu yn rhesymol efo cenedlaetholdeb Gwyddelig oherwydd bod cenedlaetholwyr Gwyddelig wedi eu harfogi'n well ar lefel deallusol gan bod cyd destun eu gwleidyddiaeth yn fwy soffistigedig a chyfoes. Yr unig ateb oedd syrthio'n ol ar y stereoteip o'r Gwyddel fel mwnci di ddeall. Roedd yn ffordd o gau ac anwybyddu dadleuon na ellid eu hennill na hyd yn oed eu hateb - wedi'r cwbl faint haws ydi dyn a cheisio rhesymu efo mwnci?

Yn y cyd destun hwnnw - un o dlodi syniadaethol sylfaenol na all arfogi dyn i ddadlau'n effeithiol na hyd yn oed yn synhwyrol gyda gwrthwynebwyr y dylid cymryd lluniau mwncis a thestun gogleisiol o amherthnasol a simplistaidd blogiad Gwilym.

Wednesday, January 06, 2010

Nia - eto


Mi fydd y blog yma yn cael ei feirniadu'n aml (wel yn aml gan Alwyn o leiaf) oherwydd bod ei dueddiad i feirniadu gwleidyddion a phleidiau unoliaethol yn blentynaidd. Mae'r feirniadath wedi fy mrifo i'r byw a dweud y gwir, a 'dwi wedi gwneud adduned blwyddyn newydd hwyr i geisio bod yn ffeindiach efo'r unoliaethwyr eleni. Wedi'r cwbl mae bywyd yn rhy fyr i ffraeo.

Yn ysbryd yr adduned hwnnw 'dwi am gynhyrchu blogiad neu ddau yn tynnu sylw at gryfderau rhai o'r cyfryw wleidyddion. Beth am gychwyn efo Nia Griffiths, aelod seneddol hynod weithgar Llanelli. Rydym eisoes wedi son amdani unwaith - pan roedd yn canmol y rhyfel yn Afghanistan oherwydd bod y cyfryw ryfel yn atal heroin rhag fflydio dinasoedd Prydain - er bod yr heroin yn ganlyniad uniongyrchol o ymyraeth y Gorllewin ym materion mewnol y wlad honno. Sori, mae'r busnes bod yn neis 'ma'n sobor o anodd. Mi dria i eto.

Un o'r pethau rhyfedd am y sgandal treuliau aelodau seneddol ydi'r holl bethau cadarnhaol sydd wedi dod i'r amlwg o'u herwydd. Er enghraifft, mae'n amlwg o rai Nia ei bod yn aelod cydwybodol iawn sy'n cymryd y drafferth i fynychu digwyddiadau lleol - fel mae'r dderbyneb isod sy'n hawlio £15 am dorch o flodau ar gyfer digwyddiad i goffau diffoddwyr tan yn ei ddangos.


Peth arall sy'n amlwg o'r treuliau ydi ei bod yn ddarllenwraig fawr sy'n paratoi ei hun yn llawn ar gyfer ei gwaith Mae'r anfoneb yma o Waterstones am ddau lyfr cyfreithiol swmpus - Immigration & Asylum Law, Gina Clayton a Planning Law and Procedure, Telling a Duxbury. Fel y byddech yn disgwyl o lyfrau academaidd, mae'r ddau lyfr yn ddiawledig o ddrud.

Mae braidd yn anffodus i Waterstones wneud camgymeriad hyll braidd a son am ddisgownt i fyfyrwyr ar yr anfoneb. Gallai'r naif neu'r drwgdybus gael y cam argraff llwyr bod Nia yn honni ei bod yn stiwdant - rhywbeth a fyddai'n groes i Ddeddf Twyll 2006 - deddf a grewyd gan ei phlaid ei hun.

Diolch byth nad oes yna lawer o bobl felly yng Nghymru.

Tuesday, January 05, 2010

Clirio'r Ucheldiroedd a gwleidyddiaeth Gwynedd


Yn ol blogiad diweddaraf Gwilym Euros mae'r Cynulliad (a thrwy hynny Plaid Cymru wrth gwrs) yn dilyn yr union bolisïau arweiniodd at wacáu ucheldiroedd yr Alban 150 o flynyddoedd yn ôl.

Hmm - clirio'r Ucheldiroedd - neu o leiaf ail don y gwagio mawr. Mi fyddwch yn gwybod bod y gwagio yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ymgais gan landlordiaid mawr i gael gwared o'u tenantiaid er mwyn gwneud lle i geirw coch, er mwyn i gyfoethogion o Loegr a De'r Alban gael mynd i'w hela. Roedd hynny'n fwy proffidiol na chymryd rhenti tenantiaid mae'n debyg.

Felly aethwyd ati i droi tenantiaid tlawd o'u man ffermydd a gorfodi iddynt symud i ffwrdd neu fyw gorau y gallent yn yr awyr agored. Os oeddynt yn gwrthod byddai eu tai yn cael eu llosgi, a chafodd nifer eu llofruddio. Yn aml byddai pob ty mewn pentref yn cael ei losgi i'r llawr gan adael y trigolion yn gwbl ddi ymgeledd. Weithiau byddant yn gwneud ymdrech dreuenus i ail godi eu cartrefi, cyn gweld y rheiny'n cael eu chwalu yn eu tro. Mynd ar longau i America, Canada neu Awstralia oedd ffawd llawer o'r treueniaid hyn - ond roedd llawer yn marw ar y ffordd o golera. Bu'n rhaid i ddegau lawer o filoedd symud o dan yr amgylchiadau hyn.



Er nad oedd y dioddefaint yn yr Alban ar yr un raddfa na'r hyn oedd yn digwydd yn yr Iwerddon ar yr un pryd, roedd amgylchiadau erlid man denantiaid yr Alban yn erchyll - megis y deg a phedwar ugain o bobl a gafodd eu hel o'u bythynod yn Swydd Ross a gorfod byw yn yr awyr agored mewn mynwent gyfagos. Neu drigolion Barra a De Uist a gafodd eu dwylo a'u traed wedi eu clymu a'u taflu fel defaid ar longau i'w cludo i America gyda dim ond carpiau pathetig yr oeddynt yn eu gwisgo. Neu'r ugain o ferched o Ross a gafodd eu curo'n anymwybodol
gan yr heddlu a'u carcharu am wrthod derbyn gwis i adael eu cartrefi.

Mae'r disgrifiadau cyfoes hyn yn rhoi blas i ni o erchylldra'r cyfnod:

The scene of wretchedness which we witnessed as we entered on the estate of Col. Gordon was deplorable, nay heart‑rendering. On the beach the whole population of the country seemed to be met, gathering the precious cockles (shellfish).... I never witnessed such countenances ‑ starvation on many faces ‑ the children with their melancholy looks, big looking knees, shrivelled legs, hollow eyes, swollen like bellies ‑ God help them, I never did witness such wretchedness.

Many a thing, O Mary Mother of the black sorrow! I have seen the townships swept, and the big holdings being made of them, the people being driven out of the countryside to the streets of Glasgow and to the wilds of Canada, such of them as did not die of hunger and plague and smallpox while going across the ocean. I have seen the women putting the children in the carts which were being sent from Benbecula and the Iochdar to Loch Boisdale, while their husbands lay bound in the pen and were weeping beside them, without power to give them a helping hand, though the women themselves were crying aloud and their little children wailing like to break their hearts. I have seen the big strong men, the champions of the countryside, the stalwarts of the world, being bound on Loch Boisdale quay and cast into the ship as would be done to a batch of horses or cattle in the boat, the bailiffs and the ground‑officers and the constables and the policemen gathered behind them in pursuit of them. The God of life and He only knows all the loathsome work of men on that day.

Mae gor ddweud er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol yn rhan o wleidydda. Weithiau mae'n dderbyniol, ac weithiau mae'n anerbyniol. Mae'r enghraifft yma yn syrthio i'r ail gategori mae gen i ofn - mae'n cymryd dioddefaint enbyd degau o filoedd - canoedd o filoedd efallai - o dlodion treuenus yn ysgafn. Dydi'r ffaith bod eu heneidiau wedi eu colli yn niwloedd hanes ddim yn gwneud mymryn o wahaniaeth.

Mae'r gymhariaeth yn iselhau'r sawl sy'n ei gwneud yn annad dim arall.

Unrhyw beth yn y gwynt?


Mae nifer o flogiau - megis hwn - yn cyfeirio at stori a ymddangosodd yn y Standard heddiw sy'n awgrymu bod symudiad eto fyth yn y Blaid Lafur i gael gwared o'u harweinydd.

Efallai bod rhywbeth yn y stori, ond mae'n fwy tebygol mai ychydig o nonsens dechrau'r flwyddyn sydd yma.

Monday, January 04, 2010

Ionawr 26 amdani ta?

Mae'r blogiad yma gan Betsan yn awgrymu y bydd symudiad arwyddocaol tuag at refferendwm ym Mae Caerdydd erbyn diwedd y mis.

Eisoes mae Vaughan wedi nodi bod busnes y Cynulliad yn denau iawn ar Ionawr 26 - bron iawn fel petai bwlch wedi ei adael yn fwriadol ar gyfer rhywbeth neu'i gilydd.

Sunday, January 03, 2010

Acenion

Mae yna erthygl ddiddorol iawn yn Sunday Times heddiw ynglyn a rhyw waith ymchwil neu'i gilydd am acenion (Seisnig yn bennaf). Y prif bwynt sy'n cael ei wneud ydi bod acenion dinasoedd mawr Lloegr yn dal eu tir yn ddigon di drafferth, er gwaethaf y darogan a fu y byddai pawb yn mynd i siarad yn fwy tebyg i'w gilydd. Y rheswm (amlwg am wn i) a gynigir ydi bod pobl yn awyddus i gynnal eu hunaniaeth, a bod acenion rhanbarthol yn rhan pwysig o'r hunaniaeth hwnnw. Sylw ychwanegol sy'n cael ei wneud ydi bod acenion lleol iawn - trefi bychain ac ati yn tueddu i fynd yn fwy tebyg i un y ddinas fawr agosaf.

Mi wnaeth yr erthygl i mi feddwl am fy mhrofiad uniongyrchol diweddar i o acenion, ac un neu ddau o bethau 'dwi wedi sylwi arnynt yn ddiweddar.

Yn gyntaf mae'n ymddangos i mi bod acen (Gymraeg) Caernarfon ac un y pentrefi o'i gwmpas yn Nyffryn Nantlle ac ardal Llanberis yn fwy tebyg i'w gilydd nag oeddynt chwarter canrif yn ol. 'Dydi o ddim cymaint bod Cofis y wlad wedi troi at acen Cofis y dre cymaint a bod ddwy acen wedi symud tuag at ei gilydd.

Yn ail mae'r Mrs ychydig yn anarferol i'r graddau ei bod yn siarad y Gymraeg efo acen Ogleddol, tra ei bod yn siarad Saesneg efo acen Caerdydd gref iawn - canlyniad i fod wedi symud yn ifanc i ardal lle nad oedd yn gorfod siarad Saesneg llawer. Mae un o'r hogiau yn canlyn hogan o Ogledd Caerdydd ar hyn o bryd ac mae dylanwad Wenglish y Cymoedd yn gryf iawn ar ei Saesneg hi (dydi hi ddim yn rhugl ei Chymraeg). Mae ei hacen hi ac un y Mrs yn wahanol iawn (o orllewin y ddinas y daw Nacw, ac mae genhedlaeth yn hyn wrth gwrs). Yn draddodiadol roedd yr acen yn newid o dafodiaeth Caerdydd i un y Cymoedd ymhellach i'r gogledd. Tybed os ydi acen y Cymoedd yn dechrau ymwthio i mewn i Gaerdydd?

'Dwi wedi bod yn mynd i Wrecsam yn lled aml yn ddiweddar oherwydd bod un o'r plant eraill yn y coleg yno. Mae ymddangos i mi bod acen Wrecsam yn dra gwahanol i un arfordir y Gogledd Ddwyrain - mae'n fwy Cymreig o lawer - weithiau mae'n swnio bod yna dinc o acen De Cymru yno - i mi beth bynnag.

Mi fyddai o ddiddordeb i mi os oes rhywun efo unrhyw sylwadau pellach ynglyn ag acenion rhanbarthol Cymru, ac yn arbennig am y sylwadau 'dwi wedi eu gwneud uchod am gylchoedd C'narfon, Wrecsam a Chaerdydd.

Friday, January 01, 2010

Mwy o ddarogan gwleidyddol

Gan Alwyn y tro hwn.

Ymddengys bod yr arfer mor heintus a ffliw yn yr hydref.

Gwesteion Betsan


Fydda i ddim yn ymweld yn aml iawn a blog Betsan - nid bod yna unrhyw beth o'i le arno. I'r gwrthwyneb, mae wedi ei 'sgwennu'n dda, ac mae gan Betsan fwy o gysylltiadau, ac felly mwy o straeon na'r rhan fwyaf ohonom. Mater o ormod o flogiau a rhy ychydig o amser i'w dilyn nhw i gyd ydi'r broblem am wn i.

Beth bynnag, un o nodweddion anarferol blog Betsan ydi'r criw bach o wrth Gymrigwyr rhonc sy'n gadael eu sylwadau ar dudalennau sylwadau nifer o'r blogiadau. Mae hwn yn un esiampl ymysg nifer. Fel y gwelwch (os oes gennych yr amynedd i ddarllen y stwff) mae'r hogiau yn honni bod cysylltiad rhwng Plaid Cymru ag ymgyrch fomio'r chwedegau, mai ymgais ar buro ethnig ydi cyfundrefnau addysg Gwynedd, Ceredigion a Mon, na ddylid pleidleisio i bobl efo enwau Cymreig, mai cyfundrefn addysg ar gyfer y ddeunawfed ganrif a geir yng Nghymru, na all gwleidyddion Cymreig lwyddo, bod datganoli yn gwneud pobl yn gwynfanus a chegog, nad ydi Cymru'n atebol o gymryd penderfyniadau trosti ei hun, nad oes yna fawr o neb yn siarad Cymraeg, bod y Gymraeg yn cael ei gorfodi ar bawb, bod rhaid gallu siarad yr iaith cyn cael dysgu, mai ymgais i helpu Hitler oedd llosgi'r ysgol fomio, na all ysgolion lwyddo mewn arolygiad ESTYN oni bai bod yr athrawon yn siarad Cymraeg, bod yna gynllwyn rhwng yr holl bleidiau i orfodi pob enaid byw yng Nghymru i ddysgu Cymraeg ac ati, ac ati, ac ati.

Rwan, 'dydi'r agweddau yma ddim yn arbennig o gyffredin yn y Gymru sydd ohoni, ond maent yn bodoli - ac mae gan y criw bach yma o hunan gasawyr bwynt pan maent yn honni nad ydi'r cyfryngau Cymreig yn adlewyrchu eu safbwntiau. Mae gan y cyfryngau Cymreig gonsensws cul iawn sy'n anwybyddu eu safbwynt nhw - yn ogystal a safbwyntiau llawer o bobl eraill (gan gynnwys pobl sydd eisiau annibyniaeth i Gymru, ond stori arall ydi honno).

Mae agweddau'r hunan gasawyr yn rhyw fath o embaras cenedlaethol. Mae pawb yn gwybod am rhywun neu'i gilydd sy'n arddel y syniadau gwrth Gymreig sy'n dominyddu tudalennau sylwadau blog Betsan, ond yn osgoi siarad amdanynt fel petaent yn rhyw berthynas gwallgo. Mae'n eironig mai prif (er nad unig) fforwm y creaduriaid trist yma ydi blog sy'n cael ei gynnal gan y Bib - y rhan mwyaf confensiynol, di gic a sefydliadol o'r holl gyfryngau Cymreig.

Bydd y cwestiwn yn cael ei godi weithiau ar y dudalen sylwadau os ydi'n addas i'r Bib gyhoeddi rhai o'r datganiadau mwyaf eithafol o wrth Gymreig. I ateb y cwestiwn hwnnw mi fyddwn yn cyfeirio at un o straeon byrion nawdd sant hunan gasineb Cymreig, y llenor Caradoc Evans. Mae bron i'r cyfan o'r gwaith a gynhyrchwyd gan Caradoc (yn negawdau cynnar y ganrif ddiwethaf) yn ymgais i wneud i'w bobl ei hun edrych mor anifeilaidd a phosibl i gynulleidfa Seisnig. Dydi'r ffaith bod gan Caradoc ddawn 'sgwennu, a bod y ddwy gyfrol gyntaf (My People a My Neighbours) yn gelfydd iawn, ddim yn cyfiawnhau'r llyfdra moesol sydd ynghlwm a dyn yn ceisio cael ei dderbyn gan eraill fel rhywbeth nad yw, trwy fychanu a sarhau'r hyn ydyw.



Yn un o'r straeon ('dwi ddim yn cofio pa un) mae tad yn cloi merch sy'n dioddef o salwch meddwl yn nho ei dy rhag i neb wybod am ei bodolaeth, ond yn mynd a hi allan wedi iddi nosi wedi ei chlymu fel anifael tra'n ei chwipio a bloeddio arni o bryd i'w gilydd. Efallai bod blog Betsan yn chwarae rol y tad di gariad yn stori Caradoc, pan mae'n mynd a'r hogan druan am dro - rhoi tipyn o awyr iach a lle i'n hunan gasawyr gicio, strancio a gwehyru y tu hwnt i olwg y rhan fwyaf o bobl. Mae yna rhywbeth hyfryd o addas bod prif hyrwyddwyr neis neisrwydd gwleidyddol Cymreig yn darparu un o'u blogiau ar gyfer y pwrpas pwysig hwn