Friday, September 30, 2011

Ffigyrau'r mis


Annus horribilis Llais Gwynedd yn mynd o ddrwg i waeth, i waeth fyth

'Dydi hi heb fod yn flwyddyn dda i'r grwp cwynfanus mae gen i ofn.

  • Methu a chynnig ymgeisydd yn Arfon, nag ar y rhestrau yn etholiadau'r Cynulliad.
  •  Cael canlyniad trychinebus yn etholiad y Cynulliad ym Meirion Dwyfor er iddynt ganolbwyntio eu holl adnoddau ac ymdrechion ar yr etholaeth..
  • Methu a chael ymgeisydd ar gyfer is etholiad Arllechwedd.
  • Methu a chael ymgeisydd ar gyfer is etholiad Glyder.
  • Un o'u cynghorwyr yn ymddiswyddo.
  • Colli eu proffeil unigryw fel grwp sy'n gwrthwynebu cau ysgolion pan bleidleisiodd nifer o'u cynghorwyr o blaid yn union hynny yn ardal Dolgellau.
  • Colli eu sedd yn Niffwys a Maenofferen i Blaid Cymru.
  • Methu ag ennill sedd yn erbyn y Blaid ym Mhenrhyndeudraeth, a gweld eu pleidlais yn syrthio'n sylweddol.
  • Un o'u cynghorwyr yn cael ei ddisgyblu can y cyngor oherwydd iddo wneud honiadau di sail am gynghorwydd arall.  

    Fel rydym wedi nodi eisoes mae llwyddiant etholiadol cyson yn hynod bwysig i grwp sydd heb syniadaeth gref yn sail iddi.  Mae methiant etholiadol cyson yn hynod niweidiol i grwp felly.  Creu canfyddiad o bosibilrwydd o lwyddiant etholiadol ydi'r unig beth y gallant ei gynnig i ddenu darpar ymgeiswyr, ac mae methu, methu a methu eto yn etholiadol yn farwol i'r canfyddiad hwnnw.

    Thursday, September 29, 2011

    Is etholiad Diffwys a Maenofferen

    Catrin Elin Roberts, Llais Gwynedd - 153
    Mandy Williams Davies, Plaid Cymru - 210

    Is etholiad Penrhyndeudraeth

    Rhian Jones, Llais Gwynedd - 219 (neu 233 - dwy stori).
    Dafydd Thomas, Annibynnol - 90
    Gareth Thomas, Plaid Cymru - 515

    Tuesday, September 27, 2011

    Peter Hain yn parhau i ymosod ar ddemocratiaeth yng Nghymru

    Rydym eisoes wedi edrych ar yr effaith y byddai troi at y dull o ethol aelodau Cynulliad mae Peter Hain yn ei awgrymu, yn ei gael ar wleidyddiaeth Cymru - llywodraeth fwyafrifol Llafur hyd yn oed pan mae'r blaid honno yn cael llai na thraean o'r bleidlais.




    Ymddengys bod Hain yr parhau yr un mor frwdfrydig tros sefydlu ei syniadau cwbl anemocrataidd heddiw, nag oedd pan ddaethant i'w ben gyntaf ym Mis Gorffennaf.

    Efallai ei bod yn rhyw hanner disgwyladwy i ddyn a dreuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Ne Affrica aparteid gael ei ddenu yn is ymwybodol at systemau etholiadol sy'n rhoi'r un canlyniad pob tro - hyd yn oed os ydi'r dyn hwnnw wedi ymladd yn erbyn system felly  yn ei wlad enedigol

    Monday, September 26, 2011

    Twitter i agor swyddfa ryngwladol yn Nulyn - y wers i Gymru

    Cyhoeddodd Twitter gynlluniau heddiw i agor swyddfa yn Nulyn.  Mae'n debyg i brifddinas y Weriniaeth ennill y buddsoddiad - a allai dyfu i fod yn un arwyddocaol mewn amser - yn wyneb cystadleuaeth chwyrn o Berlin a Llundain.  Mae gan Google a Facebook eisoes bresenoldeb sylweddol yn y Weriniaeth. 

    Mae Iwerddon wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd y llanast economaidd mae wedi cael ei hun ynddo.  Canlyniad i or fenthyg ar ran ei banciau oedd hynny wrth gwrs.  Yr hyn nad yw wedi cael cymaint o sylw ydi bod y wlad wedi llwyddo i barhau i ddenu buddsoddiad tramor sylweddol, hyd yn oed yn yr amgylchiadau economaidd sydd ohonynt.  Y gallu cyson  i wneud hynny yn y gorffennol cymharol agos oedd sail y Teigr Celtaidd wrth gwrs.



    Mae'n anodd dychmygu Google, Facebook a Twitter yn lleoli eu swyddfeydd rhyngwladol yng Nghaerdydd yn hytrach na Llundain neu Berlin.  Maent yn mynd i Ddulyn fodd bynnag - ac er bod nifer o resymau eilradd am hynny - y prif reswm ydi bod treth corfforaethol y Weriniaeth yn 12.5%,  llai na hanner y gyfradd yn y DU.  Mae gallu'r wlad i ddigolledu ei hun am ei hanfanteision daearyddol yn greiddiol i'w gallu i ddenu cwmniau o ansawdd uchel.  Mae diffyg gallu Cymru i amrywio trethi fel eu bod yn cwrdd a'i anghenion ei hun wrth wraidd ei diffyg gallu i ddenu buddsoddiad tramor.

    Mae'r sawl sydd yn gwrthwynebu i Gymru gael pwerau trethu llawn - ac mae hynny'n cynnwys llywodraeth Cymru - mewn gwirionedd yn datgan nad ydyn nhw o ddifri ynglyn a denu buddsoddiad i'r wlad. 

    Sunday, September 25, 2011

    Newidiadau Plaid Lafur yr Alban

    Mae'r newyddion bod y Blaid Lafur yn yr Alban yn bwriadu cryfhau statws ei harweinydd yn codi cwestiynau diddorol ynglyn a bwriadau'r Blaid Lafur yng Nghymru.

    Un o nodweddion y weinyddiaeth bresenol yng Nghaerdydd ydi ei diffyg uchelgais llethol.  Gellir gweld hyn ym mhob man mae dyn yn edrych - yn y ffaith i bod yn gwneud pob dim o fewn ei gallu i osgoi cymryd unrhyw rymoedd a fyddai yn ei gorfodi i gymryd unrhyw benderfyniadau amhoblogaidd - yn arbennig felly penderfyniadau cyllidol neu rhai sy'n ymwneud ag ynni adnewyddol.  Gellir  gweld y diffyg uchelgais hefyd yn y tin droi di ddiwedd ar ddechrau'r tymor gwleidyddol cyntaf ac yn eu rhaglen llywodraethol cyfangwbl ddi fflach a di ddychymyg - rhaglen sy'n gwrthgyferbynnu'n greulon efo Cymru'n Un.



    Byddai methiant i ddilyn Llafur yr Alban a chymryd y cam gweddol fach yma yn symbol digon twt o ddiffyg hyder a diffyg uchelgais treuenus y Blaid Lafur yng Nghymru. 

    Wednesday, September 21, 2011

    Goblygiadau is etholiadau Diffwys a Maenofferen a Phenrhyndeudraeth

    Rydym eisoes wedi edrych yn frysiog ar yr is etholiadau yn Niffwys a Maenofferen a Phenrhyndeudraeth sydd i'w cynnal ar ddydd Iau olaf y mis isod.  'Dwi wedi darparu gwybodaeth am yr ymgeiswyr Plaid Cymru ac Annibynnol yma, tra bod Golwg360 wedi cynhyrchu darn ar yr ymgeiswyr Llais Gwynedd yma



    Rwan, mae'r etholiadau hyn - rhai olaf y flwyddyn yn ol pob tebyg - yn arwyddocaol i Lais Gwynedd a Phlaid Cymru am wahanol resymau.  Tra bod 2011 wedi bod yn un gweddol wael i'r Blaid tros Gymru yn gyffredinol, mae pethau wedi bod yn well o lawer yng Ngwynedd.  Er i'r bleidlais syrthio ym Meirion Dwyfor yn etholiadau'r Cynulliad, roedd y fuddugoliaeth yn un sylweddol iawn beth bynnag.  Cynyddodd canran pleidlais y Blaid yn Arfon yn yr un etholiadau.  Ar lefel lleol, cafwyd tair is etholiad yn y sir ac enillwyd y dair.



    Ar y llaw arall - fel rydym wedi nodi eisoes - bu'r flwyddyn yn un hynod wael i Lais Gwynedd.  Er iddynt ganolbwyntio eu holl ymdrechion ar Feirion Dwyfor yn etholiadau'r Cynulliad, trydydd gwael y tu ol i'r Toriaid oedd eu hymgeisydd.  Collwyd is etholiad ym Mlaenau Ffestiniog, ac ni lwyddwyd hyd yn oed i gael ymgeiswyr ar gyfer yr is etholiadau eraill. 

    Felly mae'r etholiadau yn bwysig i'r ddwy blaid.  O ennill y ddwy gallai Plaid Cymru yng Ngwynedd edrych yn ol ar flwyddyn digon llwyddiannus, ac edrych ymlaen gyda chryn obaith at etholiadau lleol 2012.  Mae'r Blaid o fewn trwch blewyn i fwyafrif llethol fel mae pethau.  Byddai colli'r ddwy yn siomedig, ond byddai'n digwydd yng nghyd destun blwyddyn digon boddhaol. 

    O ran Llais Gwynedd byddai ennill y ddwy - neu un hyd yn oed yn mynd rhyw fymryn o'r ffordd tuag at achub blwyddyn drychinebus.  Byddai colli'r ddwy yn ergyd drom iawn i foral y grwp - gyda phob dim maent wedi ei gyffwrdd o safbwynt etholiadol eleni wedi troi'n llwch.  Byddai goblygiadau pell gyrhaeddol i grwp megis Llais Gwynedd sydd heb syniadaeth ganolog petaent yn cael eu cysylltu gyda methiant etholiadol parhaus.

    Ar hyn o bryd maent yn denu ymgeiswyr trwy ddwyn perswad ar bobl o safbwyntiau gwleidyddol amrywiol iawn i sefyll yn eu henw.  Tra bod y gwynt etholiadol yn eu hwyliau roedd ganddynt rhywbeth i'w gynnig i ddarpar ymgeiswyr - mantais peth o'r gwynt hwnnw.  Ond os oes canfyddiad bod sefyll tros Lais Gwynedd o anfantais etholiadol, bydd yn anodd iddynt berswadio pobl i sefyll trostynt - bydd eu hymgeiswyr potensial yn sefyll yn annibynnol, neu yn enw'r pleidiau prif lif. 

    Mae llwyddiant yn yr etholiadau yn bwysig i'r Blaid - ond mae'n hanfodol i Lais Gwynedd. 

    Gair bach arall o ddiolch

    Ymddengys i Flogmenai ddod yn 32fed yng nghystadleuaeth flynyddol Total Politics.  Mae hyn yn ogystal a dod yn gyntaf yn y categori Cymreig, ac yn ddeuddegfed yn y categori blogiau adain chwith.


    Mae'n amlwg bod Blogmenai wedi dod ymhell o flaen blogiau sydd a darlleniad cryn dipyn yn uwch nag y gallai unrhyw flog cyfrwng Cymraeg obeithio ei ennill.  Golyga hyn bod canran uwch o ddarllenwyr y blog yma yn cymryd y drafferth i bleidleisio trosto na sy'n gyffredin.  Yn wir mae'n ddigon posibl mai dyma'r blog sydd a'r ganran uchaf o'i ddarllenwyr yn mynd trwy'r rigmarol o fwrw pleislais trosto ar wefan Total Politics. 

    Felly diolch o galon am eich cefnogaeth - unwaith eto. 

    ON - Llongyfarchiadau i Welsh Ramblings a Syniadau am ddod ymysg y cant blog uchaf yng Nghymru - maent yn flogiau penigamp. 

    Tuesday, September 20, 2011

    Pam bod rhai marwolaethau yn fwy arwyddocaol i ni nag ydi eraill

    Ar ddiwrnod pan roedd y sefydliad gwleidyddol Cymreig yn coffau'r pedwar a fu farw ym Mhwll y  Tarenni Gleision yng Nghwm Tawe, efallai y byddai'n ddiddorol holi pam bod y drychnideb yma yn cydio yn y dychymyg yng Nghymru a thu hwnt i'r fath raddau. Ar un olwg 'dydi'r holl sylw ddim yn gwneud synnwyr - mae yna lawer o bobl yn marw yn flynyddoedd mewn damweiniau yng Nghymru, a dydi llawer o'r marwolaethau hynny prin yn derbyn unrhyw sylw yn y newyddion cenedlaethol.



    Er enghraifft, bu farw 95 o bobl ar ffyrdd Cymru y llynedd, gan gynnwys  4 o ddynion ar yr un pryd mewn damwain car ym Mhorthcawl.  Anafwyd bron i 1,000 o bobl yn ddifrifol mewn damweiniau car yn ystod yr un blwyddyn, ac roedd yna 6,856 damwain a arweiniodd at farwolaeth neu anaf o rhyw fath neu'i gilydd.  Roedd cyfanswm yr anafiadau neu farwolaethau yn 9,961.  'Dydi damwain sydd yn arwain at nifer o farowlaethau ddim yn arbennig o anarferol Lladdwyd pedair o ferched 15 ac 16 oed o Flaenau Gwent mewn damwain yn Llangynidr, Powys yn 2007, er enghraifft.  Mae yna gyfartaledd o ugain bobl yn marw yn eu tai eu hunain o ganlyniad i danau pob blwyddyn yng Nghymru.

    Mae'r ffaith bod marwolaethau mewn pwll glo yn anarferol iawn yng Nghymru bellach yn  un o'r rhesymau am yr holl sylw wrth gwrs, ond 'dydi marwolaethau anarferol eraill ddim yn cynhyrchu'r fath gyhoeddusrwydd.  Bu farw tri o'r un teulu ym Mhontllanfraith o ganlyniad i effeithiadau carbon monocseid yn 2010 er enghraifft, a chafodd y stori honno ddim llawer o sylw.

    Mae yna resymau eraill, ac mae'r rheiny'n ymwneud a'r ffordd yr ydym yn gweld ein hunain, a'r ffordd mae eraill yn ein gweld - maen nhw'n gweddu i naratifau sy'n ymwneud a'r hyn ydi Cymru..  Mae'r diwydiant glo yn ganolog i ddatblygiad yr hyn ydi Cymru heddiw, y diwydiant hwnnw a'r diwylliant a dyfodd yn ei sgil sy'n diffinio'r hyn rydym - i lawer ohonom beth bynnag - yn annad unrhyw ddylanwad arall.   

    Mae'r Gymru gyfoes (ol ddiwydiannol yn aml) yn gymharol gymhleth, a 'does gennym ni ddim naratif syml sy'n ein diffinio.  Mae digwyddiad trist fel un yr wythnos ddiwethaf yn gweddu'n dwt i naratif sydd wedi dyddio, ond sydd serch hynny yn un pwerus a syml - naratif y Gymru dlawd, ddiwydiannol lle mae dioddefaint a marwolaeth disymwth yn rhan o fywyd pob dydd.  Er mor ddirdynol yr amgylchiadau maent yn seicolegol gyfforddus i ni i'r graddau eu bod yn gweddu i hen ddealltwriaeth yr hyn rydym - ac maent yn ein cysylltu efo'r trychinebau mawr hynny sy'n rhan o'n cof torfol.  'Dydi marwolaethau o ganlyniad i dan, nwyon, boddi ac ati ddim yn gwneud hynny, felly dydyn ni ddim yn priodoli'r un arwyddocad iddyn nhw.

    Dydi rhoi mwy o arwyddocad i rai marwolaethau nag i rai eraill ddim yn nodwedd unigryw Gymreig wrth gwrs - mae pob diwylliant yn gwneud hynny.  Er enghraifft roedd America yn cofio ymysodiadau 9/11 yn ddiweddar.  Mae'n gwbl wir i lawer iawn o bobl farw o ganlyniad i'r ymysodiadau ar yr efaill dyrau - tros i dair mil mae'n debyg.  Ond bu farw llawer, llawer mwy o bobl Irac o ganlyniad i ymysodiadau yr UDA a'i chyfeillion yn dilyn yr ymysodiadau hynny.  Mae'n debyg i tua 112,000 o sifiliaid farw yn ystod ac yn dilyn ymgyrch y cynghrieriaid - tua 28 o sifiliaid am pob un a fu farw yn ystod yr ymysodiadau yn Efrog Newydd a Washington.  'Doedd a wnelo Irac (heb son am ei sifiliaid) ddim oll a'r ymysodiadau wrth gwrs.

    Doedd yna ddim cydnabyddiaeth o hynny o gwbl yn ystod y seremoniau yn America, nag yn  y sbloets fawr a wnaeth y cyfryngau Prydeinig o'r holl beth.  Mae yna resymau am hynny wrth gwrs, ond rhaid i'r rheiny aros am flogiad arall.  . 

    Sunday, September 18, 2011

    'Wales is at its best when it is triumphantly insouciant about the criticism of others'

    Mae'n debyg gen i na ddylai fod yn llawr o syndod i neb bod tudalen wedi ei hagor ar Facebook i wawdio'r sawl a laddwyd yng Nghwm Tawe wythnos diwethaf ar y sail mai Cymry ydynt, pan mae aelodau seneddol Cymreig yn annog pobl i gymryd ymysodiadau gwrth Gymreig yn ysgafn.  

    Wedi'r cwbl, os nad ydi aelodau seneddol Cymreig yn ystyried ymysodiadau ar y Cymry yn fater o bwys, pam y dylai neb arall wneud hynny?

    Da iawn Chris. 

    Etholiad arlywyddol Iwerddon a phroblemau Fianna Fail

    Mi'r oeddwn i'n anghywir yn y blogiad hwn ynglyn ag ymgeisydd Sinn Fein ar gyfer yr etholiad arlywyddol yn Iwerddon.  Roeddwn wedi credu mai ymgeisydd cymharol ifanc gyda phroffeil gweddol feddal fyddai'n cael ei dewis yn hytrach nag ymgeisydd proffeil uchel gyda'i gefndir yn yr IRA.  Mae ymgeiswyr sydd yn wahanol i'r norm o ddynion canol oed (neu hyn na hynny) wedi gwneud yn dda mewn etholiadau arlywyddol yn ddiweddar. Benywod fydd wedi trigo yn yr Aras am un mlynedd ar hugain pan ddaw arlywyddiaeth Mary McAleese i ben.

    Mae dewis McGuinness yn awgrymu mai bwriad Sinn Fein ydi ceisio bwyta i mewn i gefnogaeth Fianna Fail, eu prif elynion yng ngwleidyddiaeth y Weriniaeth, yn hytrach na chwilio'n ehangach am bleidleisiau.  Mae'r ddwy blaid yn tueddu i ddenu pobl sydd efo'r un math o wleidyddiaeth - a'r frwydr fwyaf diddorol yng ngwleidyddiaeth y Weriniaeth tros y blynyddoedd nesaf fydd yr un am yr hawl i gario baner y traddodiad gweriniaethol.  Mae'n debyg na fydd Fianna Fail yn cynnig ymgeisydd ar gyfer yr arlywyddiaeth a byddai SF wrth eu bodd yn cael ychydig wythnosau i apelio i'w cefnogwyr yn ddi dramgwydd.

    Eamon O'Cuiv

    Ac nid cyd ddigwyddiad ydi'r ffaith bod bygythiad o ryfel cartref ar y gweill oddi mewn i Fianna Fail yn dod o Orllewin Galway, cartref gwleidyddol Eamon O'Cuiv,   Mae sibrydion yn awgrymu bod O'Cuiv yn bygwth hollti'r blaid, a chychwyn  o'r newydd.  Yn ol y son mae Fianna Fail yn gweithio bymtheg y dwsin ar hyn o bryd i geisio'i atal rhag cynnal cyfarfod o'i blaid leol i ddatgan ei fwriad 'fory.  Mae yna gryn dipyn o symboliaeth yn perthyn i'r sefyllfa - mae O'Cuiv yn wyr i sylfaenydd Fianna Fail, Eamon de Valera - y dyn a greodd Fianna Fail yn 1926 trwy hollti Sinn Fein.

    Saturday, September 17, 2011

    Is etholiad Perth & Kinross

    Mae'n dda nodi bod yr SNP wedi cadw eu sedd yn ward 4 Cyngor Perth and Kinross..Er bod yr ward wledig yma yn gaer etholiadol i'r SNP ers cyfnod maith, mae'r cyngor lleol (lle mae'r SNP yn rhannu grym efo'r Lib Dems) yn amhoblogaidd, ac oherwydd hynny mae'n gryn ganlyniad.  


    Thursday, September 15, 2011

    Is etholiadau Penrhyndeudraeth a Diffwys a Maenofferen

    Mi fydd darllenwyr Golwg360 yn debygol o fod o dan yr argraff mai ymgeiswyr Llais Gwynedd yn unig sydd yn sefyll yn is etholiadau Penrhyndeudraeth a Diffwys a Maenofferen ddiwedd y mis.  Gan nad ydi eu hadroddiad yn trafferthu son am unrhyw ymgeiswyr ag eithrio rhai'r meicro grwp - Rhian Jones a Catrin Elin Roberts - mae'n debyg bod rhaid i Flogmenai geisio dod a rhyw fath o gydbwysedd i'r darlun.  Gallwch ddarllen am ymgeiswyr Llais Gwynedd yn y linc  'dwi wedi ei darparu uchod.

    Un ymgeisydd arall sy'n sefyll yn Diffwys a Maenofferen, Mandy Williams - Davies, 45, ac mae'n sefyll ar ran Plaid Cymru.  Mae Mandy wedi ei geni a'i magu yn y Blaenau, mae'n aelod o'r cyngor tref, mae wedi sefydlu busnes lleol ac mae'n aelod o'r siambr fasnach.  Mae hefyd yn fam i ddau o blant sy'n mynychu Ysgol Maenofferen.


    Ceir dau ymgeisydd ym Mhenrhyndeudraeth.  Dafydd Thomas, neu Dafydd Morfa ydi'r ymgeisydd annibynnol.  Fedra i ddim dod o hyd i lun o Dafydd yn anffodus, ond mae'n ymgeisydd profiadol sydd wedi cael ei ethol ar ran Plaid Cymru a'r grwp Annibynnol yn y gorffennol - ac wedi cael llwyddiant yn erbyn ambell i ymgeisydd adnabyddus iawn.  Mae gan Dafydd ddwy broblem fodd bynnag - mae'n sefyll yn gymharol bell o'i ward ei hun. ac nid yw wedi bod yn arbennig o lwyddiannus mewn etholiadau diweddar yn ei ward ei hun.  Mae'n wynebu talcen go galed.

    Gareth Thomas, 53 ydi ymgeisydd Plaid Cymru.  Fel Donna, cafodd Gareth ei eni a'i fagu yn lleol, ac mae'n aelod cyfredol o'r cyngor plwyf.  Bu'n ynad heddwch yn y gorffennol, mae'n gadeirydd rhaglen Ewropiaidd yng Ngwynedd, ac mae'n is gadeirydd Fforwm Gwledig Cymru.  Bu'n gweithio am ugain mlynedd yng ngorsawf bwer Trawsfynydd cyn mynd ati i sefydlu cwmni TJP Cymru, cwmni sy'n cefnogi elysennau a grwpiau cymunedol.  Mae ganddo dri o blant.



    Mae'r Blaid wedi profi cryn lwyddiant mewn is etholiadau lleol yn ddiweddar yng Ngwynedd a thu hwnt - a hynny er gwaethaf nad ydi'r cyd destun ehangach wedi bod yn arbennig o ffafriol.  Y prif reswm am hyn ydi'r ffaith ein bod wedi llwyddo i gyflwyno ymgeiswyr o ansawdd uchel sy'n gweddu eu cymdogaethau yn dda ger bron yr etholwyr. Mae'n galonogol nodi y byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny ym Mhenrhyn a'r Blaenau ar Fedi 28 hefyd. 

    Wednesday, September 14, 2011

    Total Politics eto

    Yn gwbl groes i'r hyn a ddywedais ddoe, mae Total Politics yn llunio rhestr o flogiau Cymreig eto eleni.  Ymddengys i Flogmenai ddod ar ben y rhestr eto eleni - felly diolch yn fawr i bawb oedd ddigon caredig i fwrw pleidlais drostaf.

    Rhestr o bymtheg oedd hi eleni ac roedd y canlynol hefyd yn ymddangos arni:  Syniadau, Plaid Wrecsam, Welsh Ramblings, Borthlas, Peter Black, Betsan Powys, Blog Saesneg Alwyn, Wales Home, Bethan Jenkins, Blog Banw, Jack o'the North, blog Vaughan, blog Cymraeg Alwyn a Valleys Mam. 

    Llongyfarchiadau i'r cwbl ohonyn nhw - mae iddynt oll eu rhinweddau - hyd yn oed blog Peter Black.

    Tuesday, September 13, 2011

    Cystadleuaeth blogiau Total Politics

    Mae canlyniadau'r gystadleuaeth yma yn dechrau cael eu rhyddhau, gyda Blogmenai yn ddeuddegfed ymysg blogiau adain chwith.  Mae Syniadau, Welsh Ramblings, Plaid Wrecsam a Leanne Wood hefyd ar y rhestr.

    Mae'n fater o gryn gywilydd i Flogmenai ddod dri lle oddi tan yr arch falwr cachu Alastair Campbell.  Ta waeth, mae amser yn gwella pob clwyf.

    Ar nodyn arall, mae'n ymddangos na fydd yna restr benodol ar gyfer blogiau Cymreig y tro hwn.  Efallai yr af ati i lunio un o'r prif restrau - os ydi'r canlyniadau yn ffafriol wrth gwrs!

    Y newidiadau yn y ffiniau etholiadol

    Tra bod sylwebwyr yn Lloegr yn crafu eu pennau ynglyn a goblygiadau etholiadol y newidiadau arfaethiedig yn ffiniau'r etholaethau seneddol, mae pethau'n symlach yng Ngogledd Iwerddon - mae ganddyn nhw yr anhygoel Nick Whyte. i ddarparu dadansoddiad rhyfeddol o gysact.

    Yn ol Nick bydd y DUP yn colli 1 sedd a'r SDLP yn colli 1 yn etholiadau San Steffan.  Mae hefyd o'r farn y bydd y DUP i lawr 5 ar lefel Cynulliad, SF i lawr 2, yr UUP i lawr 2, yr SDLP i lawr 1, Alliance 7 i lawr 1 tra bod y Gwyrddion a'r TUV yn canw eu hunig seddi..

    Guto'n gwneud yn siwr nad oes yna jobs i'r hogiau - weithiau o leiaf

    Mae'n dda gweld bod fy nghymydog Guto Bebb yn cadw llygad barcud ar sut y bydd S4C yn mynd ati i ddewis prif weithredwr newydd.  Er fy mod yn gwbl sicr na fyddai Winston Roddick QC yn cam ddefnyddio ei sefyllfa i roi mantais i'w fet Arwel Ellis Owen, mae gan Guto bwynt.

    Fel cenedl rydym yn gymharol rhydd o lygredd - 'dydi cymryd amlenni brown sy'n llawn pres ddim at ein dant o gwbl.  Ond, ein gwendid yn y materion hyn ydi'r ffaith nad ydi llawer yn ein mysg yn gweld fawr ddim o'i le mewn gadael i rwydweithiau cyfeillgarwch edrych ar eu holau.  Mae felly'n gwbl briodol tynnu sylw at y math yma o beth - neu gallai'r pethau mwyaf grotesg ddigwydd.


    Er enghraifft, mae gan Doriaid Cymru drefn ryfeddol o ganiatau i'r sawl sydd eisoes ar eu rhestrau rhanbarthol i gadw'r llefydd hynny heb orfod cyfiawnhau eu bodolaeth i aelodau cyffredin eu plaid eu hunain.  Ymddengys bod pwyllgor canolog y Toriaid yng Nghymru yn gadael i'w mets sy'n Aelodau Cynulliad gadw eu lleoedd ar y rhestrau rhanbarthol  heb orfod trafferthu efo manion gwirion megis parchu gweithdrefnau democrataidd tryloyw.  Mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru mor llywath - neu sefydliadol lwgr - fel nad oes neb yn eu plith yn ymddangos i fod efo problem efo'r trefniant rhyfeddol yma. 

    Treueni nad oes yna neb fel Guto i gadw golwg ar fisti manars y Blaid Geidwadol Gymreig. 

    Monday, September 12, 2011

    Dyfodol y Blaid, annibyniaeth, yr iaith ac ol genedlaetholdeb

    Gan bod pethau wedi mynd yn gymhleth braidd efo pobl yn dadlau ynglyn ag ol genedlaetholdeb, arweinyddiaeth y Blaid, y gynhadledd ac annibyniaeth yma, ac yma - efallai y byddai'n syniad i mi geisio dod a phethau at ei gilydd mewn un blogiad.  Mae croeso i unrhyw un sydd eisiau parhau a'r ddadl wneud hynny ar dudalen sylwadau'r blogiad hwn.  Rhestraf isod dri phwynt sydd wedi codi o'r dadleuon sy'n ymddangos i mi yn berthnasol.
    • Ol genedlaetholdeb a chamau bychain tuag at annibyniaeth.  'Dydi'r rhain ddim yn gyfystyr o gwbl.  Mae ymhlyg yn ol genedlaetholdeb nad oes angen am wladwriaethau annibynnol.  Mae sawl problem efo hyn wrth gwrs.  Ar wahan i'r paradocs o ddadlau y dylai Cymru fod yn rhanbarth o led wladwriaeth Ewropiaidd yn hytrach na'n rhanbarth o wladwriaeth Brydeinig, mae'r holl beth bellach yn hen ffasiwn a naif.  Profiad y degawdau diwethaf ydi bod rhanbarthau yn troi yn wladwriaethau ar hyd a lled Ewrop yn hytrach na gwladwriaethau yn troi yn ranbarthau.  Mae gan wladwriaethau lawer iawn mwy o rym oddi mewn i Ewrop na rhanbarthau.  Er enghraifft, mae Iwerddon gyda phoblogaeth tebyg i un Cymru (4m i 3m)  12 aelod Ewropiaidd o gymharu a 4 yma a sedd ar Gyngor Ewrop - y fforwm lle gwneir y penderfyniadau arwyddocaol.  Fel mae un cyfranwr wedi nodi, mae profiad diweddar Catalonia (lle aeth llysoedd Sbaen ati i ddatgan polisi iaith ysgolion Catalonia yn anghyfreithlon) yn dangos gwendid rhanbarth pan mae'n dod i wrthdrawiad efo gwladwriaeth.
    • Y ddadl na ddylid tynnu gormod o sylw tuag at annibyniaeth rhag ofn i'r Blaid Lafur ddefnyddio'r polisi i ddychryn pobl.  Mae'n nodwedd gyffredin o wleidydda i geisio dychryn pobl.  Er enghraifft yn ystod yr ymgyrch arwyddion ffordd dwyieithog roedd pob math o storis yn cael eu creu gan bobl fel George Thomas - y byddai yna ddamweiniau ym mhob man, y byddai'r gost yn anferthol, y byddai pobl yn mynd ar goll, na fyddai pobl eisiau dod i Gymru ac ati.  Yn yr un modd pan sefydlodd llywodraeth Lafur cyntaf Blair leiafswn cyflog, roedd y Toriaid yn honni y byddai diwydiannau yn gadael y wlad yn eu canoedd.  Y ffordd i ymateb i ddadleuon gwirion sydd wedi eu creu er mwyn dychryn ydi trwy ymateb yn rhesymegol, ac nid trwy ildio iddynt.
    • Yr Iaith Gymraeg.  Mae problem gan y Blaid.  Mae llawer yn ei chysylltu efo'r iaith yn annad dim arall, ac mae synnwyr cyffredin yn mynnu ein bod yn mynd i'r afael efo'r canfyddiad hwnnw.  Mae'n anodd gwneud hyn ac osgoi glastwreiddio'n cefnogaeth i'r Gymraeg, ond fel mae Aled yn awgrymu mae gonestrwydd yn bwysig yn hyn o beth.  Fodd bynnag mae cydbwyso cefnogaeth i'r iaith ac addasu delwedd y Blaid yn haws nag y bu - mae yna lawer o ewyllys da tuag at y Gymraeg mewn ardaloedd Seisnig y dyddiau hyn, fel mae'r galw anferth am addysg cyfrwng Cymraeg yn ei awgrymu. 

    Sunday, September 11, 2011

    Cynhadledd Plaid Cymru 2011

    'Dydw i ddim yn gynadleddwr mawr - tueddu i ddangos fy nhrwyn ar y dydd Sadwrn fydda i, a 'doedd eleni ddim yn eithriad.

    Hyd y gallwn farnu roedd yn gynhadledd digon llwyddiannus, ac roedd rhai o'r areithiau - yn arbennig felly rhai Jill Evans a Rhuanedd Richards (a draddododd glincar o araith gyda llaw) yn rhoi lle i gredu bod dyddiau gwell ar y gorwel i'r Blaid yn genedlaethol.  'Dydi canfyddiadau'r adolygiad sy'n cael ei arwain gan Eurfyl ap Gwilym ddim yn gyhoeddus eto, ond roedd rhai o sylwadau Jill a Rhianydd yn awgrymu bod yr adolygiad am roi sylw i dair elfen sy'n ganolog i fethiant mis Mai.

    • Naratif y Blaid.  Mae'n bwysig bod ganddom naratif clir, syml a chyson.
    • Annibyniaeth.  'Dydi hi ddim yn gynaladwy i annibyniaeth fod yn un o amcanion sylfaenol y Blaid os nad ydym yn fodlon ei amddiffyn a'i hyrwyddo.
    • Trefniant.  Mae angen ail strwythuro ac ail drefnu'r Blaid ar lefel lleol ac yn genedlaethol. 
    O roi sylw i'r materion uchod, bydd y Blaid mewn lle llawer gwell lle mewn blwyddyn.  Wedi'r cwbl - fel y dywedodd Rhuanedd yn ei haraith - mae'r tirwedd gwleidyddol ehangach yn llawer mwy ffafriol i;r Blaid nag oedd yn dilyn yr adolygiad diwethaf a gynhalwyd yn sgil trychineb 1979.

    Friday, September 09, 2011

    Gair bach arall am wleidyddiaeth Iwerddon

    Bydd etholiad arlywyddol Gweriniaeth Iwerddon yn cael ei gynnal ar Hydref 27 eleni.  Mae bron yn sicr y bydd Michael D Higgins o'r Blaid Lafur, neu Gay Mitchell o Fine Gael yn cael ei ethol i'r swydd sydd i bob pwrpas yn un symbolaidd. Mae dau ymgeisydd annibynnol hefyd yn debygol o gael eu henwebu i sefyll. 



    Cymhlethdod diddorol ydi ei bod bellach yn debygol bydd Sinn Fein yn datgan bwriad i gynnig ymgeisydd yn ystod y dyddiau nesaf.  'Does gan y blaid ddim digon o aelodau yn seneddau Iwerddon i fedru enwebu ymgeisydd (mae angen 20 aelod - 14 sydd ganddynt yn y Dail a 2 yn y senedd) - ond mae nifer o aelodau annibynnol y Dail yn agos at SF yn wleidyddol, ac mae'n debyg bod y rhifau ar gael os oes angen.

    Mae sawl enw wedi ei awgrymu i sefyll ar eu rhan - Adams, McGuinness, Mickey Harte (rheolwr tim pel droed Gwyddelig Tyrone a gafodd ei hun yn y newyddion ddechrau'r flwyddyn pan lofryddwyd ei ferch, Michaela McAreavey ar ei mis mel yn Mauritius) yn ogystal a nifer o wleidyddion etholedig o'r Weriniaeth.  Y son diweddaraf fodd bynnag ydi mai Michelle Gildernew, aelod seneddol Fermanagh / South Tyrone (yn y Gogledd) fydd y dewis. 

    Ar un olwg byddai'n ddewis rhyfedd - er ei bod yn adnabyddus iawn yn y Gogledd, ychydig o drigolion y Weriniaeth sy'n gwybod fawr ddim amdani.  Ond mae ganddi ei chryfderau fel ymgeisydd.  Yn wahanol i lawer o wleidyddion etholedig eraill ei phlaid 'does ganddi hi ddim cefndir milwrol - mae ei chefndir gwleidyddol yn y mudiad hawliau sifil, ffaith sydd wedi peri i lawer o gefnogwyr naturiol yr SDLP bleidleisio iddi.  Yn ychwanegol mae ei phroffeil yn dra gwahanol i broffeil y ddau brif ymgeisydd - mae'n fenywaidd, yn gymharol ifanc ac yn magu teulu ifanc - mae ymgeiswyr felly wedi gwneud yn dda yn erbyn gwleidyddion mwy confensiynol mewn etholiadau arlywyddol yn ddiweddar..


    'Dydi Gildernew nag unrhyw ymgeisydd arall y bydd SF yn ei ddewis ddim yn debygol o ennill yr etholiad, ond mae'r ffaith nad ydi Fianna Fail yn bwriadu cynnig ymgeisydd yn rhoi cyfle gwych i'r blaid weriniaethol geisio dwyn pleidleisiau ei phrif gystadleuydd am  bleidlais 'werdd' yn y Weriniaeth, a'u cadw.  Y gystadleuaeth rhwng FF a SF am y bleidlais wereniaethol draddodiadol fydd nodwedd fwyaf diddorol gwleidyddiaeth y Weriniaeth tros y ddegawd nesaf - degawd fydd yn cael ei dominyddu ar lefel llywodraethol gan elynion traddodiadol gwereniaethwyr Gwyddelig. 

    Thursday, September 08, 2011

    Pam y byddai arddel ol genedlaetholdeb yn wenwyn pur i'r Blaid

    Mae yna rhywbeth addas mae'n debyg gen i yn y ffaith  i Dafydd Ellis Thomas ddiffinio ei wleidyddiaeth fel un ol genedlaetholgar ar y diwrnod i Margaret Richie, arweinydd yr unig blaid wirioneddol ol genedlaetholgar yn y DU - yr SDLP (un o bleidiau Gogledd Iwerddon) - roi'r ffidil yn y to. 

    Am y rhan fwyaf o'i hanes y blaid yma oedd prif lais cenedlaetholwyr Gogledd Iwerddon - a chyrhaeddodd ei phenllanw etholiadol yn etholiadau Ewrop 1994 pan ddaeth John Hume o flaen pawb arall - gan gynnwys Ian Paisley - gan ennill 29.2% o'r bleidlais.  Ers hynny mae cefnogaeth y blaid wedi llithro o etholiad i etholiad, ac mae ei chanran o'r bleidlais bellach yn llai na hanner yr hyn oedd ym 1994.  O edrych yn fanwl ar etholiadau Cynulliad a lleol 2011 mae patrwm pendant i'w cefnogaeth - maent yn cael eu gwasgu'n ddi drugaredd mewn ardaloedd dosbarth gweithiol trefol ac ym mron i pob ardal wledig i'r gorllewin i'r Afon Bann - perfedd diroedd hunaniaeth Wyddelig yng Ngogledd Iwerddon.  Maent yn dal eu tir mewn ardaloedd trefol mwy cyfoethog, ac mewn ambell i ardal wledig ddosbarth canol i'r de i Belfast - yn arbennig felly yn Ne Down. 


    Er enghraifft  yr SDLP oedd yn cynrychioli Gorllewin Belfast yn 1992 wedi iddynt ennill 43% o'r bleidlais ym 1987.  13.2% oedd eu pleidlais yno ym mis Mai eleni.  Cawsant 23.5% o'r bleidlais yn Fermanagh South Tyrone ym 1992 a 9.6% eleni.  Maen nhw'n dal i ennill cefnogaeth rhesymol mewn rhai ardaloedd dosbarth canol Pabyddol, ond mae eu cefnogaeth wedi diflannu bron yn llwyr ymysg pobl dosbarth gweithiol.  O ran trefniadaeth mae pethau'n waeth - maent ar chwal tros y rhan fwyaf o'r dalaith gyda'u haelodaeth yn syrthio fel carreg. 

    'Dydi'r rhesymau am hyn ddim yn anodd i'w harenwi - pan roddodd Sinn Fein eu cysylltiad efo trais i'r neilltu, roedd eu gwleidyddiaeth di amwys genedlaetholgar yn fwyaf sydyn yn nes at lle'r oedd y rhan fwyaf o etholwyr Pabyddol y Gogledd nag oedd gwleidyddiaeth mwy anelwig yr SDLP.  Cymhlethwyd hyn gan y ffaith i genedlaetholwyr poblogaidd o fewn y blaid megis Seamus Mallon ymddeol o wleidyddiaeth tua'r un pryd.

    Unwaith eto mae yna resymau eithaf clir tros hyn yn ei dro.  Mae cenedlaetholdeb yn ddi eithriad  yn fwy atyniadol i'r rhan fwyaf o bobl nag ol genedlaetholdeb.  Mae cenedlaetholdeb yn apelio at reddfau sylfaenol  - ymlymiad at uned wleidyddol gydlynys y gellir uniaethu a hi yn hawdd.  Efallai bod rhywbeth llwythol am hyn - ond mae llwytholdeb yn reddf sylfaenol.

    'Dydi ol genedlaetholdeb ddim yn apelio at unrhyw reddf o gwbl mewn gwirionedd.  Y cwbl ydyw yn ei hanfod ydi cydnabyddiaeth bod hunaniaethau diwylliannol a chenedlaethol yn edwino yn wyneb grymoedd anferth economaidd, gwleidyddol a diwylliannol.  Mae agweddau i'r gydnabyddiaeth yma sy'n apelio at y rhyddfrydig a'r cymharol gyfoethog - y math o bobl sy'n byw ar y Malone Road yn Ne Belfast er enghraifft..  Wedi'r cwbl mae'r globaleiddio economaidd sy'n rhan greiddiol o'r prosesau mae ol genedlaetholdeb yn eu cydnabod wedi dod a chryn gyfoeth i'r eisoes gymharol gyfoethog.

    Ond i'r rhan fwyaf o bobl - ac yn arbennig pobl nad ydynt yn gyfforddus o safbwynt economaidd, ac yn arbennig i bobl a hunaniaeth genedlaethol gryf - prosesau amhersonol sydd y tu hwnt i'w rheolaeth ydi'r rhai a gysylltir ag ol genedlaetholdeb, a phrosesau nad ydynt yn eu croesawu ar hynny.

    'Dydi hi ddim yn addas i blaid genedlaetholgar fel Plaid Cymru gysylltu ei hun efo hyn oll am resymau syniadaethol ac am resymau etholiadol ymarferol.  Byddai dawnsio i diwn ol genedlaetholgar yn groes i'r rhan fwyaf o egwyddorion cenedlaetholgar a byddai'n agor gagendor rhwng y Blaid a'r union bobl hynny mae'n ceisio apelio atynt.  Dyna pam na fydd pleidlais y Pleidiwr hwn yn mynd ar gyfyl unrhyw ymgeisydd am yr arweinyddiaeth sy'n cysylltu ei hun mewn unrhyw ffordd efo'r siwdo syniadaeth yma. 

    Wednesday, September 07, 2011

    Fedrwch chi mewn gwirionedd _ _ _

    _ _ _ ddychmygu'r ymddygiad hynod anymunol, ansensitif a sarhaus sy'n cael ei arddangos yn y fideo isod gan aelodau seneddol San Steffan yn cael ei arddangos mewn unrhyw un o dri senedd ddatganoledig y DU?

    Fedra i ddim chwaith.



    Beth bynnag ein barn am Ms Dorries a rhai o'i datganiadau bach rhyfedd ynglyn a'i bywyd priodasol, 'dydi hi ddim yn haeddu'r driniaeth yna.

    Tuesday, September 06, 2011

    Gair o gyngor i Bryant

     Mae'n anodd gwybod beth i'w wneud o sylwadau Chris Bryant wrth Golwg360 yn dilyn ymysodiad Simon Brooks arno am ddangos safonau dwbl yn cymryd ymysodiadau geiriol ar Gymry Cymraeg mor ysgafn o gymharu a'i agwedd at ymysodiadau felly ar bobl hoyw.  Rydym eisoes wedi edrych ar y stori yma

    Nodaf sylwadau Bryant isod:

    “Dwli gwirion oedd darn Roger Lewis, oedd yn llawn o wallau ffeithiol a  bron iawn yn fwriadol sarhaus,”
    “Mae erthyglau yn y Daily Mail yn aml yn cynnwys yr holl elfennau rheini.
    “Y perygl â ymateb Jonathan Edwards yn fy marn i oedd ei fod yn rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i erthygl dwp fyddai’n well ei hanwybyddu.
    “Ar y llaw arall, mae homoffobia yn lladd. Mae dynion hoyw ifanc chwe gwaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad, ac mae bwlio homoffobaidd yn gyffredin mewn nifer o ysgolion.
    “Yn y ddau achos dw i’n credu mai’r ffordd gorau yw ymddwyn mewn modd sy’n dangos fod y feirniadaeth yn anghywir, yn hytrach na chysylltu â’r heddlu.”
    Mae dau bwynt yn codi o hyn.  Yn gyntaf yr hyn roedd Bryant wedi ei ddweud wrth yr Independent oedd y dylai Cymry Cymraeg chwerthin ar ben ymysodiadau arnynt fel grwp - insouciant oedd y term ffuantus braidd a ddefnyddwyd ganddo.  'Dydi ei sylwadau wrth Golwg360 ddim yn taflu unrhyw oleuni ar pam yn union y dylai rhai pobl orfod chwerthin ar ben ymysodiadau sydd wedi eu cyfeirio atynt oherwydd eu bod yr hyn ydynt - dim oll.  

    Yn ail mae ei ganfyddiad bod cyfraddau hunan laddiad uchel ymysg pobl hoyw yn gwneud sarhad sydd wedi ei luchio i'w cyfeiriad nhw yn fwy difrifol nag ydi sarhad sydd wedi ei luchio at Gymry Cymraeg yn ddiddorol. 'Dwi'n derbyn nad oes yna unrhyw amheuaeth bod hunan laddiad yn llawer mwy cyffredin ymysg pobl hoyw o'r ddau ryw nag ydyw ymhlith pobl nad ydynt yn hoyw, ac mae'n ffaith sy'n wir mewn amrediad eang o wledydd.  'Dydi'r rhesymau am hyn ddim yn glir - ond mae'n rhesymol cymryd bod agweddau cymdeithasol negyddol tuag at bobl hoyw yn rhan o'r rheswm (ffurf eithafol ar agweddau felly ydi bwlio ar sail rhywioldeb wrth gwrs).  Serch hynny, mae'r rhesymau pam bod hunan laddiad yn amrywio o grwp i grwp o bobl yn gymhleth, a 'dydi hi ddim yn briodol i geisio canfod un rheswm tros yr amrywiaeth hwnnw. 

    Mae yna grwpiau eraill oddi mewn i gymdeithas sydd a chyfraddau uchel o ran hunan laddiad - dynion er enghraifft - rydych dair gwaith mor debygol o ladd eich hun os ydych yn ddyn sy'n byw yng Nghymru nag os ydych yn ddynas.  Mae merched ifanc Asiaidd yn grwp arall sydd a chyfraddau hunan laddiad uchel iawn. . Mae yna wledydd sydd a chyfraddau hunan laddiad rhyfeddol o uchel - rydych dair gwaith mwy tebygol o ladd eich hun os ydych yn byw yn Lithiwania nag ydych os ydych yn byw yng Nghymru - ac mae yna wledydd (tlawd yn ddi eithriad) lle nad oes neb bron byth yn lladd ei hun. .  Rydych hefyd yn llawer llai tebygol o ladd eich hun os ydych yn dew nag os ydych islaw eich pwysau delfrydol. 'Dydi ceisio dod o hyd i un rheswm, ac un rheswm yn unig am yr amrywiaethau hyn ddim yn syniad arbennig o dda.

    'Dydi awgrym Roger Lewis bod siaradwyr Cymraeg yn fwnciod ddim yn un di gyd destun.  Mae'r gymhariaeth rhwng pobl Celtaidd a mwnciod yn hen nodwedd o hiliaeth Seisnig.  Gellir gweld adlais o hyn yng nghartwnau'r cylchgrawn Punch o'r ganrif cyn yr un ddiwethaf.  Gweler isod er enghraifft. 


    Dyna'n rhannol pam bod ymysodiad Roger Lewis ar y Gymraeg cymaint mwy anymunol nag un Jeremy Clarkson.  Rhyw nonsens idiotaidd a di ddeall ynglyn a'r Cenhedloedd Unedig yn gwahardd ieithoedd oedd gan hwnnw - mae geiriad Lewis yn awgrymu bod y sawl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn is ddynol. Canfyddiad ymysg y dosbarth oedd yn rheoli Lloegr ar y pryd bod Gwyddelod yn is ddynol oedd un o'r prif resymau pam na chafwyd fawr o ymyraeth gan y wladwriaeth Brydeinig yn ystod An Gorta Mor - y Newyn Mawr - penderfyniad, neu gyfres o benderfyniadau a arweiniodd at farwolaeth miliwn o bobl.  Mae yna resymau hanesyddol cadarn tros ddadlau y gall rhagfarnau fel rhai Roger Lewis ladd. 

    Rwan gair o gyngor i Bryant - mae'n symlach ac yn llawer, llawer mwy effeithiol i dderbyn yr egwyddor ei bod yn gwbl anerbyniol i ymosod ar bobl oherwydd yr hyn ydynt - pwy bynnag ydi'r bobl hynny - nag ydi ceisio creu hierarchiaeth o grwpiau sy'n haeddu cael eu hamddiffyn rhag ymysodiadau torfol.  Mae cyfiawnhau hierarchiaeth felly yn rhwym o fod wedi ei seilio ar ffactorau goddrychol a dadleuol - a phan rydym yn dechrau troedio tir felly mae'r cyfiawnhad tros amddiffyn pob grwp - gan gynnwys pobl hoyw - rhag ymysodiadau a rhagfarnau yn llawer gwanach.

    Ac ar ben hynny, 'dwi'n siwr nad ydi Bryant eisiau cael ei hun yn dadlau bod sylwadau hiliol a rhywiaethol wedi eu cyfeirio at ferched Asiaidd yn  hollol anerbyniol, tra y dylai merched croenddu (grwp sydd a chyfraddau hunan laddiad isel) chwerthin pan mae sylwadau hiliol a rhywiaethol yn cael eu cyfeirio atyn nhw. 

    Sunday, September 04, 2011

    Diwrnod eithriadol o ran newyddion gwleidyddol

    Am ddiwrnod rhyfeddol o ran newyddion gwleidyddol!

    Yn gyntaf mae'r Telegraph yn dweud wrthym am gynlluniau Murdo Fraser arweinydd tebygol nesaf y Toriaid yn yr Alban i ddod a'r blaid i ben, a dechrau o'r dechrau.

    Wedyn mae yna ddwy stori sy'n dangos yn union pa mor boncyrs oedd y llywodraeth Lafur diwethaf - gyda'r Sunday Times yn cyflwyno manylion am  berthynas wenwynig  Darling a'i brif weinidog a diffyg clem llwyr Brown am faterion economaidd, a'r Mail on Sunday yn amlinellu'r berthynas ryfeddol o gyfeillgar ac agos rhwng y llywodraeth Lafur a Gaddafi a'i deulu.

    Ymddengys bod Blair hyd yn oed yn helpu mab yr unben 'sgwennu traethawd estynedig ar gyfer ei PhD. Unrhyw un yn cofio unrhyw beth am ethical foreign policy Robin Cook?

    Saturday, September 03, 2011

    Newyddion da i'r SNP - eto fyth

    Yn ol pol Ipsos Mori sydd wedi ei gyhoeddi ddoe mae'r SNP wedi ymestyn eu rhagoriaeth tros y pleidiau unoliaethol ar lefel Senedd yr Alban ers eu llwyddiant ysgubol yn gynharach eleni.  Yn wir maent o fewn trwch blewyn i ennill cefnogaeth hanner yr etholwyr ymysg y sawl sy'n sicr o bleidleisio.  Byddai hynny'n rhoi pob sedd uniongyrchol oni bai am rhyw 6 i'r blaid genedlaetholgar.



    Yn fwy arwyddocaol o safbwynt yr etholiad cyffredinol Prydeinig nesaf, mae'r SNP yn gyfforddus ar y blaen yn nhermau San Steffan hefyd.  Ar y lefel honno (ymysg y sawl sy'n sicr o bleidleisio) y ffigyrau ydi SNP 42%, Llafur 33%, Toriaid 15% a'r Lib Dems 6%.  Byddai hyn yn cyfieithu i 34 sedd i'r SNP (6 yn 2010), 21 i Lafur (41), 1 i'r Toriaid (1), a 3 (11) i'r Lib Dems. 

    Rhywun arall ddim yn deall datganoli

    Mae'r adroddiad diweddar gan yr Athro David Travers o'r LSE sy'n beirniadu'r Cynulliad am fod yn rhy barod i ymyrryd ym musnes awdurdodau lleol sy'n tan berfformio yn esiampl dda o fethiant i ddeall datganoli gan sefydliadau Seisnig.

    Mae'n gwbl wir wrth gwrs bod mwy o ymyrraeth o lawer gan y Cynulliad, gyda dau gyngor yn cael eu rhedeg gan gomisiynwyr eisoes, ac un arall mewn perygl o gael ei hun yn yr un sefyllfa.  Ond mae hefyd yn wir bod llawer mwy o gyllid y Cynulliad yn cael ei ddatganoli i'r cynghorau lleol na sydd yn cael ei ddatganoli yn Lloegr.  Mae tua thraean o arian y Cynulliad yn cael ei wario trwy'r cynghorau, tra mai ffracsiwn bach iawn o arian San Steffan sy'n cael ei wario ganddynt.  Mae dau brif reswm am hyn - mae cyfrifoldebau San Steffan yn llawer ehangach na rhai'r Cynulliad, ac mae ysgolion yn cael eu hariannu mewn ffordd wahanol yng Nghymru a Lloegr.

    Mae'n ymddangos yn gwbl naturiol felly bod y Cynulliad efo diddordeb yn yr hyn sy'n digwydd i lwmp mor sylweddol o'u cyllid.  Yn wir byddai cymryd yr agwedd mai mater syml i'r cynghorau ydi cyfiawnhau eu gwariant yn ymylu ar fod yn anghyfrifol.  

    Friday, September 02, 2011

    Sgwp fawr Y Cymro

    Gyda chymysgedd o fraw ac eiddigedd y darllenais brif stori'r Cymro heddiw - yn wir yr unig stori fwy neu lai i ymddangos ar y ddwy dudalen gyntaf. Y ffaith bod y Cymro wedi achub y blaen arnaf i gyrraedd sgwp y ganrif oedd y rheswm tros yr eiddigedd, a chynnwys y sgwp oedd y rheswm tros y braw a'r dychryn.

    Mae'r wythnosolyn cenedlaethol arloesol wedi tyrchu o dan pob carreg a dod ar draws y ffaith syfrdanol bod yna deulu dosbarth canol Cymraeg ei iaith wedi gor yfed.  Yn wir roedd pob un o bedwar aelod y teulu wedi gor yfed - y mab tra'n gwersylla ar lan y mor, y ferch mewn gwyl 'gerddorol' (a finnau'n meddwl mai cymryd cyffuriau oedd pobl mewn llefydd felly), y tad yn ystod ymweliadau a gemau rygbi, a'r fam yn y 'Steddfod. 

    Mi fydd y stori erchyll yma megis bollt o'r awyr wag i'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg mae gen i ofn.  Duw yn unig a wyr pa dystiolaeth o lygredigaeth moesol y genedl fydd y Cymro yn ei ddatgelu yn yr wythnosau sydd i ddod - bod yna deulu yn gadael i'w plant chwarae mewn cae swings ar ddydd Sul efallai, neu bod yna deulu nad ydynt yn anfon eu plant i'r ysgol Sul yn wythnosol, bod tafarn yn agored ar y seithfed diwrnod, neu bod yna bentref yng Nghymru nad oes iddo weinidog.  

    Ac efallai y daw o hyd i sgwps economaidd a gwleidyddol a mynd ati i ddarogan y bydd Chwarel Dinorwig yn cau, bod tebygrwydd y bydd y Tywysog Siarl yn treulio cyfnod fel myfyriwr yn Aberystwyth a bod yna bosibilrwydd cryf nad George Thomas fydd yr Ysgrifennydd Gwladol tros Gymru wedi'r etholiad nesaf.

    Diolch i Dduw bod y Cymro gyda ni i'n cadw mewn cysylltiad a'r Gymru gyfoes. 

    Thursday, September 01, 2011

    Ystadegau tymheredd tros y ganrif ddiwethaf

    Am resymau nad ydynt yn gwbl glir i mi, ag eithrio blogiadau sydd ddim yn 100% ganmoliaethus o Lais Gwynedd, y math o flogiad sydd fwyaf tebygol o achosi ffraeo a drwgdeimlad ar flogmenai ydi un sy'n ymwneud a gwleidyddiaeth y tywydd - os caf fathu term.  'Dwi am osgoi unrhyw ddrwgdeimlad wrth gwrs - ond mi hoffwn serch hynny bostio'r data a ymddangosodd ar Datablog y Guardian ddoe sy'n dangos y tymheredd cyfartalog ym Mhrydain tros gyfnod o ganrif:

    Mi gewch chi ddod i gasgliadau eich hun ynglyn ag arwyddocad y set data. 


    Blwyddyn Haf Hydref Gaeaf Gwanwyn
    1910 13.51 8.18 4.32 7.17
    1911 15.32 8.7 4.15 7.55
    1912 12.9 7.8 4.37 8.18
    1913 13.53 10.01 4.13 7.28
    1914 14.16 9.13 3.17 7.6
    1915 13.43 7.7 4.34 6.77
    1916 13.19 9.13 1.37 6.47
    1917 14.13 8.72 3.29 5.88
    1918 13.57 7.86 3.09 7.4
    1919 13.24 7.04 4.34 6.81
    1920 12.78 9.33 4.51 7.67
    1921 14.35 9.64 4.12 7.72
    1922 12.25 7.98 4.77 6.53
    1923 13.54 7.53 3.27 6.67
    1924 13.1 9.14 4.88 6.31
    1925 14.36 7.77 3.76 6.86
    1926 14.2 8.32 3.76 7.49
    1927 13.27 8.62 3.47 7.42
    1928 13.2 9.08 1.53 7.18
    1929 13.37 9.36 3.65 7.11
    1930 14.01 8.95 3.15 6.89
    1931 13.24 8.61 4.59 6.55
    1932 14.27 8.4 3.35 6.29
    1933 15.4 9.31 3.22 8.25
    1934 14.58 9.17 5.18 6.79
    1935 14.63 8.72 2.24 7.17
    1936 14.04 8.88 4.29 7.15
    1937 14.13 8.74 3.68 7.02
    1938 13.62 9.9 3.76 8.08
    1939 13.97 9.25 1.25 7.53
    1940 14.2 8.67 1.82 7.81
    1941 14.1 9.55 2.08 5.88
    1942 13.83 8.76 4.97 7.19
    1943 13.88 9.08 3.87 8.48
    1944 14.2 8.19 2.91 7.69
    1945 14.26 10.18 3.97 8.8
    1946 13.19 9.46 0.87 7.51
    1947 15.34 9.77 4.01 6.94
    1948 13.37 9.39 4.78 8.36
    1949 14.74 10.41 4.2 7.58
    1950 14.4 8.36 2.03 7.62
    1951 13.51 9.76 3.04 5.81
    1952 14.02 7.16 3.22 8.52
    1953 13.91 9.86 3.55 7.52
    1954 12.75 9.21 2.65 7.19
    1955 14.94 9.3 2.4 6.42
    1956 12.73 9.11 4.57 7.22
    1957 14.1 8.91 3.3 8.29
    1958 13.75 9.89 2.79 6.18
    1959 14.91 10.4 3.54 8.52
    1960 13.96 9.08 3.77 8.26
    1961 13.47 9.49 2.98 8.53
    1962 12.84 8.61 -0.18 7.11
    1963 13.29 9.36 3.13 7.57
    1964 13.53 9.07 2.62 7.06
    1965 12.93 8.25 3.15 7.06
    1966 13.54 8.73 4.09 7.13
    1967 13.96 8.86 2.79 6.83
    1968 13.65 9.74 2.44 6.19
    1969 14.29 9.46 2.55 6.57
    1970 14.25 9.57 3.9 7.17
    1971 13.54 9.64 4.2 7.39
    1972 12.77 8.55 4.11 7.12
    1973 14.25 8.73 4.54 7.22
    1974 13.19 7.71 5.29 6.51
    1975 15.16 8.83 4.35 7.13
    1976 15.77 8.9 2.27 7.02
    1977 13.26 9.16 3.02 7.16
    1978 13.11 10.22 1.17 6.03
    1979 13.49 9.27 3.61 7.14
    1980 13.44 8.86 3.75 7.82
    1981 13.69 8.82 2.12 7.64
    1982 14.41 9.47 3.48 6.7
    1983 15.38 9.35 3.55 6.75
    1984 14.78 9.55 2.44 6.87
    1985 13.06 8.69 2.29 6.3
    1986 13.25 8.95 2.83 7.03
    1987 13.38 8.81 4.34 7.6
    1988 13.61 8.89 5.81 7.69
    1989 14.79 9.73 5.04 8.56
    1990 14.59 9.35 2.61 7.88
    1991 14.21 9.27 4.25 8.54
    1992 14.27 8.21 4.19 7.94
    1993 13.39 7.55 3.43 7.37
    1994 14.35 9.77 4.59 7.32
    1995 15.65 10.29 2.53 6.35
    1996 14.24 9.19 3.23 8.42
    1997 15.05 9.86 5.36 8.27
    1998 13.7 9.23 4.52 8.64
    1999 14.38 10.25 4.29 8.05
    2000 14.14 9.47 3.54 7.38
    2001 14.38 10.44 4.53 8.48
    2002 14.42 9.8 3.99 8.76
    2003 15.77 9.54 4.35 8.42
    2004 14.86 9.95 4.71 8.12
    2005 14.77 10.38 3.85 7.35
    2006 15.78 11.39 5.56 9.05
    2007 14.12 9.94 4.86 8.13
    2008 14.48 9.12 3.21 8.62
    2009 14.75 10.32 1.64 7.6
    2010 14.65 8.86 2.43 9.15

    Ffigyrau oll mewn graddau selsiws.