Monday, April 20, 2015

Ynglyn ag Arfon

Yn Golwg yr wythnos cyn yr wythnos ddiwethaf cafwyd llythyr hirfaith ac hunan dosturiol gan ein cyfaill Gwilym Owen yn cwyno'n groch na chafed ei ddewis i fod yn rhan o banel etholiadol ITV.  

Yr wythnos ddiwethaf roedd yr hen frawd wedi cynhyrfu yn lan efo'r syniad o fuddugoliaeth i Lafur yn Arfon.  Mae Gwil yn byw yn Arfon.  Yn anffodus mae nifer o gamgymeriadau ffeithiol yn yr erthygl.  Er enghraifft mae'n gwneud mor a mynydd bod Plaid Cymru wedi cynrychioli Arfon ers 1974.  Dydi hynny ddim yn wir - etholaeth cymharol newydd ydi hi.  Amalgam o rannau o hen sedd Caernarfon a Conwy ydi Arfon.  Dydi Plaid Cymru erioed wedi cynrychioli Conwy ar lefel seneddol, er iddi wneud hynny rhwng 1999 a 2003 ar lefel Cynulliad.  Ar wahan i hynny doedd y Blaid erioed wedi bod yn gystadleuol yn etholaeth Conwy.

Sedd wedi ei chreu o hen gynghorau dosbarth Gwyrfai ac Ogwen, Cyngor Tref Caernarfon a Chyngor Dinas Bangor ydi Arfon.  Roedd Gwyrfai a Chaernarfon yn etholaeth Caernarfon, tra bod Bangor a Dyffryn Ogwen yn etholaeth Conwy.  Daw 41% o'r sawl a bleidleisiodd yn 2010 o'r hen Gonwy, Bangor 26%, Dyffryn Ogwen 15% a daw 59% o'r hen Caernarfon 15%, Gwyrfai 43%.  Petai Arfon yn bodoli yn 2005 Llafur fyddai wedi ei hennill - felly hefyd yn 2001 a 1997.  Dyna pam mai Plaid Cymru gain ymddangosodd ar sgrin y Bib pan eniliodd Hywel Williams yn 2010.

Efallai mai'r rheswm na ddewiswyd Gwilym gan ITV oedd nad yw'n gwybod rhyw lawer am yr etholiad, nag yn wir yr etholaeth mae'n byw ynddi.  Does yna ddim pwrpas cyflogi boi sydd ddim yn gwybod ei stwff.

Ta waeth, cyn ein bod wedi son am Arfon waeth i ni gael golwg frysiog ar y sedd.  Yr etholiad cyntaf yn hanes yr etholaeth oedd etholiad Cynulliad 2007.  Roedd yna gryn son y byddai Llafur yn ennill bryd hynny, a'r rheswm oedd bod demograffeg Arfon yn ffafriol iawn i Lafur. Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd trefol neu ol ddiwydiannol.  Petai Arfon yng Ngogledd Orllewin Lloegr, byddai'n sedd ddiogel iawn i Lafur.  Ond dydi Arfon ddim yng Ngogledd Orllewin Lloegr - mae yng Ngogledd Orllewin Cymru.  Enillwyd y sedd yn hawdd gan Ffred i'r Blaid.

Roedd pethau'n nes o lawer yn 2010.


Plaid Cymru
Hywel Williams*9,38336.0+3.9
LabourAlun Pugh7,92830.4−3.5
ConservativeRobin Millar4,41616.9+0.5
Liberal DemocratSarah Green3,66614.1−1.7
UKIPElwyn Williams6852.6+0.7

Felly sedd ymylol ydi Arfon ar lefel San Steffan - does yna ddim pwt o amheuaeth ynglyn a hynny.  Mae yna rai pethau sy'n rhoi lle i Llafur obeithio.  Mae'r polau tros y DU ac yng Nghymru yn awgrymu bod cynnydd yn y bleidlais Lafur o gymharu a 2010,  mae Alun Pugh wedi cael mwy o amser i weithio ar yr etholaeth ac fel sedd darged i Lafur mae yna adnoddau ariannol wedi eu taflu i'w chyfeiriad.  Mae Alun wedi bod yn ymgeisydd llawn amser i bob pwrpas am rai blynyddoedd.  Mae cwymp y Lib Dems (ychydig iawn o bleidleisiau fyddant yn eu cael yn Arfon y tro hwn) yn rhoi cyfle iddynt hel pleidleisiau myfyrwyr yn ardal Bangor.

Ond mae yna ffactorau sy'n milwrio yn erbyn Llafur hefyd.  Fyddai'r cynnydd ym mhleidlais Llafur tros y DU ac yng Nghymru ddim yn ddigon iddynt ennill y sedd ar ogwydd unffurf.    Mae Llafur wedi perfformio'n wael iawn yn Arfon dair gwaith ers 2010 - ni wnaethwyd llawer o argraff yn etholiadau'r cyngor yn 2012, cafodd Llafur gweir wirioneddol yn etholiad y Cynulliad yn Arfon yn 2011, a thrydydd y tu ol i UKIP oedd Llafur yng Ngwynedd yn etholiadau Ewrop y llynedd.

Mae peiriant etholiadol y Blaid yn llawer, llawer mwy pwerus nag un Llafur.  Mae gan y Blaid o leiaf chwe aelod am pob un sydd gan Lafur yn yr etholaeth.  Beth bynnag ddarllenwch chi ar flogiau eraill, mae yna ymgyrch sylweddol yn mynd rhagddi - ymgyrch sydd wedi dechrau mewn gwirionedd fwy na deunaw mis yn ol.  Mae yna lawer iawn mwy o ganfasio wedi bod gan y Blaid, mae yna lawer mwy o ohebiaeth wedi ei ddosbarthu, mae yna lawer mwy o gefnogwyr wedi eu hadnabod, ac mae ymgyrch y Blaid yn llawer mwy gweladwy.  Mae hefyd yn ymgyrch llawer mwy proffesiynol nag un y pleidiau eraill.

Mae Hywel Williams hefyd wedi cael llawer mwy o gyfle i sefydlu ei hun ym Mangor a Dyffryn Ogwen.  Mae'n wir bod 90% a mwy o'r sylw cyfryngol yn cael ei roi i'r pleidiau Prydeinig - ond mae hynny'n llai nag arfer.  Mae Leanne Wood wedi cael sylw yn sgil perfformio'n dda yn y dadleuon, ac mae'r ffaith bod gwleidyddiaeth yr Alban yn dominyddu'r naratif Prydeinig hefyd o gryn gymorth.

Ydi hyn yn golygu bod y sedd yn ddiogel i'r Blaid?  Nag ydi - mae yna gryn dipyn o waith i'w wneud o hyd.  Ond mae gan y Blaid pob rheswm i fod yn obeithiol y bydd y sedd yn cael ei dal - ac hynny o bosibl yn haws na mae nifer yn darogan.

No comments: