Tuesday, March 28, 2017

Beth sydd yna i'w ddweud?

Newyddion drwg i'r Toriaid yng Nghonwy

Llai na phum mlynedd ar ol ennill is etholiad yn Neganwy ar ran y Toriaid mae'r Cynghorydd Julie Fallon wedi penderfynu sefyll fel cynghorydd annibynnol.  Mae yna stori y tu ol i ymadawiad o'r fath gan amlaf.  Byddai'n ddiddorol gwybod beth yn union sydd y tu ol i hon - mae'n gyfrinach agored nad oedd y berthynas rhwng yr Aelod Cynulliad a'r cynghorydd yn dda - a bod yn garedig.


Monday, March 27, 2017

Etholiadau'r cyngor - Powys

Mae'n siwr nad oes yna lawer o flogiadau - na dim arall - lle mae'r geiriau Plaid Cymru a Powys yn ymddangos ar yr un pryd.  Serch hynny mae'n fwy na phosibl y bydd etholiadau cyngor 2017 yn torri tir newydd o safbwynt y Blaid.


Yn hanesyddol cafwyd sawl grwp annibynnol ym Mhowys, gan gynnwys rhai oedd yn honni bod yn annibynnol o'r grwpiau annibynnol eraill - un ac oll.  Cafwyd hyd yn oed grwp annibynnol yn ardal Llanwddyn oedd yn datgan  ei fod annibynnol oddi wrth pawb arall, ond yn hapus i ddweud eu bod dan adain y Ceidwadwyr - beth bynnag mae hynny yn ei olygu.  


Mewn geiriau eraill mae yna hanes o lanast - rhywbeth sy'n nodweddu cynghorau sy'n cael eu rheoli gan grwpiau annibynnol.


Gallwn - fodd bynnag - fod yn siwr bod newid am fod y tro hwn.  Mae 14 cynghorydd yn ymddeol  ym Maldwyn yn unig.  Gallai hanner y cynghorwyr presenol yn hawdd ymddeol neu golli eu seddi ym mis Mai.


Nod y Ceidawadwyr ydi bod yn brif blaid y cyngor - ac maent y. targedu pentrefi Dyffryn Hafren a De Powys gan geisio adeiladu ar eu llwyddiant yn  etholiadau San Steffan yn 2015.  Mae ganddynt gyfle rhesymol i wireddu hyn.


O safbwynt Plaid Cymru, does ganddi ddim un aelod ar y cyngor presennol, yn wir dim ond un ymgeisydd oedd ym Maldwyn tro diwethaf a chwpl yn Ne Powys. Y tro hwn bydd o leiaf 12 yn sefyll yng Ngogledd y Sir yn arbennig felly yn ardal Dyffryn Dyfi, yr ardal o gwmpas Llanfair Caereinion a Llanfyllin, ardal y Drenewydd a rhai o bentrefi Dyffryn Hafren. 


Gobaith y Blaid yn yr etholiadau yma ydi ethol cynghorwyr sir am tro cyntaf yn ogystal ag ethol pobl i gynghorau trefi Drenewydd, Llanidloes, Machynlleth a'r Trallwng.


Yn hanesyddol ar lefel San Steffan mae Maldwyn wedi bod yn gadarnle Rhyddfrydol, tra bod Brycheiniog a Maesyfed wedi bod a hanes ychydig yn fwy cymhleth.  Ym Maldwyn mae'r Dib Lems wedi cael cweir gan y Toriaid yn ddiweddar tra bod y Toriaid hefyd wedi ennill tir ym Mrycheiniog a Maesyfed - lle nad Kirsty Williams ydi eu gwrthwynebwraig. 


Mae yna bosibilrwydd y bydd gan y Blaid fwy o ymgeiswyr na'r Dib Lems ym mis Mai.


Ar hyn o bryd mae gan y Dib Lems 3 chynghorydd ym Maldwyn, er bod un ohonynt yn ymddeol y tro hwn. Mae posibilrwydd y gall y Blaid ennill mwy o seddi na'r Dib Lems ym Maldwyn - a byddai hynny'n creu cyfle o lunio naratif mai'r Blaid ydi 'r prif wrthwynebwyr i'r Toriaid yn y rhan honno o'r sir - canfyddiad o'i wireddu fyddai'n ddigon ynddo"i hun i ennill pleidleisiau yn y dyfodol.  


Byddai chwe sedd yn ganlyniad gwych - ond byddai un yn welliant sylweddol ar y sefyllfa sydd ohoni.  

*Diolch i Elwyn Vaughan am wybodaeth.


Saturday, March 25, 2017

Etholiadau cynghorau lleol - Caerdydd

Dwy sedd yn unig enillwyd gan y Blaid yn 2012 - colled o 5 sedd o gymharu a 2008 - er i'r bleidlais ar draws y ddinas ond disgyn y mymryn bach lleiaf.  Ers hynny mae is etholiadau a chynghorwyr yn croesi'r llawr wedi cynyddu'r grwp i 5.  Cynnydd sylweddol yn y bleidlais Lafur oedd yn gyfrifol am y colledion yn hytrach na chwymp yng nghefnogaeth y Blaid.

Yn wir cafodd y Blaid 12.8% o'r bleidlais ar draws y ddinas o gymharu a 16.4% gan y Dib Lems - ond cafodd y rheiny 16 sedd - 8 gwaith cymaint a'r Blaid.  Y rheswm am hynny oedd bod eu cefnogaeth wedi ei ddosbarthu'n fwy effeithiol gyda chefnogaeth trwm mewn nifer cymharol fach o wardiau aml sedd yn agos at ganol y ddinas.

Rwan mae cefnogaeth y Blaid ers hynny hefyd wedi ei ganoli ar wardiau yng Ngorllewin y ddinas a Grangetown yn y De.  Byddai cynnydd o fwy na 5% yn debygol o ddod a nifer dda o seddi iddi - cyn belled a bod y wardiau gorllewinol a Grangetown yn gweld y cynnydd hwnnw.  Mae'r ffaith bod aelodau'r grwp Llafur sy'n rhedeg y cyngor wedi bod wrthi'n ceisio dadberfeddu eu gilydd ers blynyddoedd yn gwneud pethau'n haws.

Beth bynnag dyma'r posibiliadau cryfar:  Grangetown (3), Treganna (3), Tyllgoed (3) Mae'r Blaid eisoes gyda 2 sedd yn y Tyllgoed ac 1 yn Grangetown

Wedyn mae yna bosibilrwydd o ennill rhai o'r canlynol - Caerau (2), Buteown (1), Glanyrafon (3), Trelai (3), Creigiau/St Ffagan (1), Pentyrch (1)


Y nodyn negyddol o bosibl ydi perfformiad y Blaid mewn is etholiadau lleol ers 2012 - mae wedi gwneud yn dda - ond ddim cweit digon da i wneud gwahaniaeth yn unman ond Grangetown - ardal gryfa'r Blaid ag eithrio'r Tyllgoed.  Gall wneud yn dda iawn - ond bydd rhaid iddi wneud mymryn yn well nag a wnaeth mewn is etholiadau diweddar.

Wednesday, March 22, 2017

Etholiadau Cyngor - Caerfyrddin

Dwi wedi gadael i'r dadansoddiad o etholiadau'r cynghorau lithro braidd - ond mi gychwynwn ni arni unwIth eto gan edrych ar Caerfyrddin.  Wele'r canlyniadau yn 2012:


Yr hyn sy'n drawiadol wrth gwrs ydi perfformiad da Llafur, cwymp bach yn sefyllfa'r Blaid a pherfformiad gwael gan ymgeiswyr annibynnol - ond mae yna fwy i'r stori na hynny.  

O dynnu ardal Llanelli allan o'r stori gwnaeth y Blaid yn eithaf da yn 2012 gan ennill seddi oddi wrth gynghorwyr annibynnol. Ond gwnaeth Llafur yn dda iawn yn ardal Llanelli - yn arbennig felly yn erbyn y Blaid.  Felly roedd y Blaid yn ennill tir yn erbyn annibynnwyr y tu allan i ardal Llanelli ond yn colli tir yn erbyn Llafur yn ardal Llanelli.

Os ydi'r polau piniwn yn gywir bydd Llafur yn colli'r tir a enillwyd ganddynt ar hyd a lled Cymru ym mis Mai, a does yna ddim rheswm pam na fydd hynny'n digwydd yng Nghaerfyrddin.  Petai hynny'n digwydd yn ardal Llanelli a phetai'r Blaid yn parhau i ennill tir yn erbyn cynghorwyr annibynnol mewn wardiau gwledig, byddai gan y Blaid gyfle rhesymol o ddod yn agos iawn at ennill y 38 sedd sydd ei angen i reoli'r cyngor yn llwyr - 8 yn ychwanegol - mae'r Blaid ar 29 ar hyn o bryd.

Sunday, March 19, 2017

Athrylith strategol

Felly mae Andrew RT Davies wedi manteisio ar ei araith yng Nghynhadledd Wanwyn ei blaid i ymosod ar Blaid Cymru - ymddengys y byddai pleodlais iddi ym mis Mai yn beryglys ac yn arwaith at annibyniaeth.  Mae wedi defnyddio ei gyfweliadau teledu i bwrpas tebyg.


Rwan, dwi'n gwybod bod Andrew yn dweud bod ei blaid am roi ymgeiswyr i sefyll tros y lle i gyd - ond does yna ddim byd yn hanes y Toriaid yng Nghymru i awgrymu y byddant yn cael fawr o neb i sefyll mewn rhannau eang o'r wlad.  Yn wir, go brin y bydd ganddynt lawer o ymgeiswyr yn sefyll mewn etholaethau maent yn eu cynrychioli yn San Steffan megis Brycheiniog a Maesyfed. 

Ond lle maent yn sefyll mewn niferoedd a lle maent yn gystadleuol Llafur yw eu prif wrthwynebwyr bron yn ddi eithriad - Bro Morgannwg, Mynwy, a rhannau o'r dinasoedd yn bennaf.  Yr unig rannau o Gymru lle bydd Plaid Cymru a'r Toriaid ben ben a'i gilydd yn ol pob tebyg ydi yn rhai o wardiau Conwy a Dinbych, ambell i le ym Mro Morgannwg, ac ambell i ward ar gyrion Caerdydd.  Mae'n debyg y bydd yna ychydig o lefydd eraill ar hyd a lled Cymru.

Yn y rhan fwyaf o Gymru mae'r Blaid yn cystadlu efo Llafur, neu efo ymgeiswyr annibynnol.  Dydi o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i Andrew RT Davies ddefnyddio ei araith a'i gyfweliadau teledu i geisio dychryn etholwyr Rhondda Cynon Taf, Caerffili neu Gastell Nedd Port Talbot rhag pleidleisio i Blaid Cymru - Llafur ac nid ei blaid ei hun fyddai'n ennill petai ei godi bwganod yn gweithio.  Mae'n gwneud llai o synnwyr fyth mewn ardaloedd fel Caerdydd - lle mai'r peth diwethaf mae Andrew angen ei wneud ydi adgyfnerthu'r bleidlais Lafur.  Nid y Toriaid fyddai ail ddewis cefnogwyr y Blaid yn y brif ddinas - na'r trydydd dewis na'r pedwerydd.

Byddai'n ddiddorol gwybod pwy sy'n cynghori'r dyn ar lunio strategaeth etholiadol.

Friday, March 17, 2017

Ddim rhagfarnau crefyddol - dim o gwbl

O gael ei hun yn y cyfryngau prif lif am drydar sylw cwbl boncyrs mae Felix Aubel am i ni ddeall nad oes ganddo unrhyw ragfarnau crefyddol neu hiliol.

Roeddwn i'n gofyn cwestiwn pen agored am sylwadau gwrth-grefyddol y trydariad, ac nid yn gwneud datganiad,

Rwyf o dras cymysg fy hun ac nid ydw i'n cytuno gydag unrhyw ragfarn grefyddol neu hiliol.

Mae hyn yn dda iawn i'w glywed - ond mi adawaf i chi benderfynu pa mor ddidwyll ydi'r datganiad yng ngoleuni'r hyn mae wedi bod yn ei drydar neu ei ail drydar tros y misoedd diwethaf.
















































































Thursday, March 16, 2017

Y cyfryngau prif lif a'r Toriaid yn ymateb i lif trydar Aubel - o'r diwedd

Ychydig ddyddiau'n ol roeddem yn trafod trydariad y Tori Felix Aubel oedd yn ein gwahodd i drafod os y dylem efelychu'r hyn ddigwyddodd yn Sbaen yn y Canol Oesoedd a mynd ati i erlid a lladd miliynau o Fwslemiaid ar sail eu crefydd.  Ymddengys bod y trydariad wedi ymddangos yn y cyfryngau prif lif - esiampl brin os nad unigryw o'r rhagfarn a'r anoddefgarwch sy'n nodweddu llif trydar Felix yn cael ei alw i gyfri a'i feirniadu.

Rwan dwi'n gwybod nad ydi Felix yn wleidydd proffesiynol, a hyd y gwn i dydi o erioed wedi cael ei ethol i unrhyw swydd gyhoeddus o gwbl.  Ond mae o'n wyneb cyhoeddus i'r Blaid Doriaidd Gymreig yng Nghymru - yn arbennig felly ar y cyfryngau cyfrwng Cymraeg.  Yn wir mae o'n cael ei anfon i siarad trostynt ar raglenni Cymraeg yn amlach na'r un gwleidydd proffesiynol bron.  Hyd yn oed efo 'r trydariad diweddar a'i gwestiwn 'pen agored' (chwadl Felix) sy'n ymddangos i ofyn os dylid erlid a llofruddio miliynau o Fwslemiaid, y cwbl sydd gan y Toriaid Cymreig i'w ddweud ydi mai mynegi ei farn ei hun mae'r dyn.  Mae'n ryddhad deall nad ydi'r Toriaid Cymreig o blaid agor trafodaeth am erlidigaeth ar sail crefydd, ond dydi'r ymateb ddim ddigon da.

Dwi ddim eisiau gwneud sylw o unrhyw fath ynglyn ag achos Neil McKevoy pan gafodd ei hun mewn trwbwl yn gynharach yn y mis yn sgil sylw a wnaeth yng nghlyw swyddog o Gyngor Caerdydd rai blynyddoedd yn ol.  Ond roedd y cyfryngau ar hyd y stori'n syth bin.  Cychwynwyd ar gamau mewnol gan y Blaid i ymateb i'r sefyllfa -  hefyd yn syth bin.  Roedd y cyfryngau hefyd tros sylwadau eithaf di niwed a wnaed gan Seimon Glyn ar ddechrau'r ddegawd ddiwethaf am fisoedd.

Mae'n ymddangos mai ffordd y Toriaid Cymreig o fynd i'r afael a rhagfarnau crefyddol a chymhelliad posibl i gasineb ydi dweud nad ydi hynny'n safbwynt swyddogol.  Mae'n anodd dychmygu ymateb mor wan a thila?  Tybed os oes ganddyn nhw strwythurau disgyblu o gwbl?

Rwan mae Felix wedi bod yn trydar ac ail drydar negeseuon sydd - ar y gorau - yn dangos anoddefgarwch crefyddol ers misoedd a does neb ag eithrio'r blog yma (pan mae gen i 'r amynedd i edrych ar y siwar agored o linell trydar mae'n ei gadw) wedi cymryd unrhyw - sylw o'r peth ac mae hynny'n adrodd cyfrolau.  Mae'r cyfryngau Cymreig yn rhyfeddol o sensitif i sylwadau annoeth gan genedlaetholwyr, ac maen nhw'n hynod ansensetif i sylwadau rhagfarnllyd gan wleidyddion unoliaethol.  I gael unrhyw sylw o gwbl rhaid i'r hyn ddywedir fod yn grotesg o eithafol. 

ON - dwi'n sylwi bod yna garthu wedi bod ar gyfri Felix yn ystod y dydd heddiw.  Diolch am screenshot.


Wednesday, March 15, 2017

O diar

Ymddengys nad ydi Baron Ellis-Thomas of Conway Stream yn awyddus i gefnogi mesur Dai Lloyd i amddiffyn ffurfiau Cymraeg ar enewau - gwrthwynebodd y mesur efo'i ffrindiau Llafur.  Roedd hyd yn oed UKIP a'r Toriaid o blaid.  

A wyddoch chi be?  - mae'r eglurhad yn un cwbl ffuantus a fi fawraidd.  Pwy fyddai'n credu?


Monday, March 13, 2017

Mwy o orffwylldra gan Felix

Am wn i mai cyfeirio at y Reconquesta mae'r dyn - cyfres o ryfeloedd a arweiniodd at tua 7 miliwn o farwolaethau.


Llongyfarchiadau i'r Dib Lems Cymreig _ _

_ _ ar lwyddiant ysgubol eu cynhadledd flynyddol.

Wele'r dyrfa enfawr oedd yn gwrando ar araith eu llywydd, Mark Williams.




Sunday, March 12, 2017

Etholiadau lleol 2 - Ynys Mon

Ar bapur Ynys Mon ddylai fod y sir fwyaf hawdd i 'r Blaid ennill grym ynddi ar ol Gwynedd - roedd pethau'n agos yn 2013 - a 2013 oedd y dyddiad oherwydd i'r etholiadau gael eu gohirio yn sgil camau gan Llywodraeth Cymru i ddelio efo'r blynyddoedd o lanast yn sgil rheolaeth gan gwahanol grwpiau annibynnol lliwgar.

Cyn dechrau efallai y dylid nodi nad ydi edrych ar ystadegau moel ddim yn ddigon da ar Ynys Mon - mae gwleidyddiaeth yn llawer mwy personol yma, dwy egwyddor bwysig:

1). Rhaid wrth ymgeiswyr poblogaidd - beth bynnag y blaid.

2). Dydi etholwyr Mon ddim yn cael gwared o aelodau etholedig yn aml.

Roedd 2013 yn arwyddocaol am mai dyma'r tro cyntaf i'r Blaid dorri drwodd go iawn ar lefel lleol.

Ac mae pethau'n addawol i'r graddau bod yna lawer o lwybrau i 'r Blaid ennill.  Yn y bon yr hyn sydd rhaid ei wneud ydi: 

1). Dal yr hyn sydd ganddi yn barod

2). Ennill 4 sedd arall i fynd o 12 i 16.

Ar bapur ni ddylai hyn fod yn ofnadwy o anodd.

Gwnaeth y Blaid yn dda - yn dda iawn yn 2013.  Ond roedd ein pleidlais yn llawer is nag un Rhun ap Iorwerth yn etholiadau'r Cynulliad y llynedd.  Cafodd y Blaid 12 yn 2013 ar 32%.  Cafodd y Blaid  55% o'r bleidlais yn etholiadau'r Cynulliad.  Byddai symudiad gweddol fach oddi wrth y 32% a thuag at y 55% yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran nifer y seddi.

Pleidleisiodd rhwng 9000 a 10,000 o bobl wahanol tros y Blaid yn 2013 - roedd pobl efo mwy nag un bleidlais wrth gwrs.  Roedd pleidlais RhaI yn 13,788 yn 2016 - os ydi'r rhain yn rhoi o leiaf un bleidlais i'r Blaid dylai fod yn ddigon i ennill grym yn eithaf hawdd.

O grenshan y ffigyrau dyma fyddai symudiadau tuag at y Blaid yn ei wneud.


1). Byddai cynnydd cyson o 1% ar draws yr ynys  yn rhoi rhoi 3 aelod ychwanegol - Aethwy, Bro Rhosyr, Seiriol.  Dydi hyn ddim yn symudiad mawr - ac mae'n cael ei wneud yn haws gan y ffaith bod cynghorwyr o bleidiau eraill yn ymddeol ym mhob un o'r tair ward.  Byddai hyn yn rhoi 15 aelod - union hanner aelodaeth y cyngor.

2).  Byddai 3% o gynnydd cyson yn rhoi 3 arall - 1 yn Twrcelyn  a 2 yn Lligwy.  Byddai hyn yn rhoi 18.

3). Byddai 5% o gynnydd yn rhoi 1 arall petai ymgeiswyr ychwanegol yn sefyll - Talebolion. 

4). Byddai 8% yn rhoi seddi eraill yn Llifon, Bro Aberffraw a Chaergybi.  

Mae'r symudiadau yma i gyd yn bosibl - ag ystyried maint pleidlais graidd y Blaid.  Yr her yn Ynys Mon fydd cael digon o ymgeiswyr mewn lle i fanteisio'n llawn ar gynnydd yn y bleidlais. O wneud hynny nid oes rheswm pam na ddylai 'r Blaid reoli yma hefyd.

Saturday, March 11, 2017

Etholiadau lleol 1 - Gwynedd

Mae'r Blaid yn rheoli Gwynedd ar hyn o bryd ar ei liwt ei hun.  Methodd wneud hynny o drwch blewyn yn 2012, ond mae cyfres o is etholiadau llwyddiannus a rhai o gynghorwyr Llais Gwynedd yn croesi'r llawr wedi rhoi grym i 'r Blaid.  

Dylai ddal at y rheolaeth hwnnw ym mis Mai.  Mae yna nifer o resymau tros gredu hynny:

1). Mae'n dra thebygol y bydd llawer mwy o ymgeiswyr gan y Blaid yn 2017 na gafwyd yn 2012 - neu mewn unrhyw etholiad arall yn hanes y sir. Mae'r dyddiau lle'r oedd lleiafrif gweddol fawr o seddi yn y sir  ddim yn cael eu hymladd gan y Blaid yn y gorffennol.

2). Mae is etholiadau cyngor diweddar wedi bod yn hynod o gadarnhaol i'r Blaid.

3). Roedd pleidlais y Blaid yn Arfon ar lefelau hanesyddol uchel iawn yn 2015 a 2016.

4). Fel yng ngweddill Cymru, 'dydi Llafur ddim mewn lle da.

5). Dydi pethau ddim yn edrych yn wych i Lais Gwynedd chwaith.  Cawsant gryn gweir ym mhob is etholiad diweddar maent wedi llwyddo i ddod o hyd i ymgeisydd ar eu cyfer.  

Serch hynny mae yna fwy o ymdrech nag arfer gan y grwp annibynnol i ddod o hyd i  lechen lawn o ymgeiswyr - yn arbennig felly yn Arfon.  Gallai hyn fod yn broblem - ond gallai hefyd fod yn gyfle i'r Blaid.  Yn wahanol i weddill Cymru, mae gan y Blaid bleidlais graidd eithaf uchel yn y rhan fwyaf o Wynedd.  I'r graddau hynny mae'n llesol iddi os ydi'r bleidlais wrth Plaid Cymru wedi hollti i gymaint o gydrannau gwahanol a phosibl.  Hynny yw mae gobeithion y Blaid o ennill yn well os oes yna wrthwynebwyr Llafur, Llais Gwynedd ac Annibynnol yn hytrach nag un ohonynt yn unig.  

Dylai'r Blaid gryfhau ei gafael yng Ngwynedd.

Wednesday, March 08, 2017

Etholiadau'r cynghorau - rhan 1

Tros yr ychydig ddyddiau nesaf rwyf yn bwriadu edrych ar yr etholiadau nesaf sydd ar y gweill - yr etholiadau ar gyfer 22 cyngor sir Cymru.  Fel arfer byddaf yn edrych ar bethau o safbwynt Plaid Cymru - a fel arfer byddaf yn ceisio bod mor wrthrychol a phosibl.  

Mi wnawn ni gychwyn efo sut aeth hi'n ol yn 2012.  Mewn gair roedd hi'n etholiad arbennig o dda i Lafur gyda'r blaid yn ennill tir yn sylweddol.  Yn wir dyma'r etholiadau lleol gorau i Lafur ers dyddiau Neil Kinnock.  

Llafur 304,296 pleidlais 36.0% +9.4% 10 cyngor +8 577 cynghorydd + 237.  
Annibynnol  190,425 pleidlais 22.5% + 0.5% 2 + 1 284 cynghorydd - 27
Plaid Cymru 133,961 pleidlais 15.8% -1.0% 0 158 cynghorydd - 41 
Toriaid 108,365 pleidlais 12.8% 2.8% 0 -2 105 cynghorydd - 66
Liberal Democrat pleidlais 68,619 8.1% - 4.9% 0 72  cynghorydd - 91
UKIP - 0

Ni fyddant yn gwneud cystal y tro hwn - yn wir gallwn ddisgwyl iddyn nhw golli nifer sylweddol o gynghorwyr a nifer o gynghorau.  Yn draddodiadol mae perfformiad Llafur mewn etholiadau yng Nghymru yn adlewyrchu eu perfformiad yn y polau piniwn Prydeinig.  Roeddynt yn gwneud yn dda iawn wrth y mesur hwnnw yn 2012 ac maent ar lefelau hanesyddol isel ar hyn o bryd.  

Ta waeth - o ran y Blaid gallwn edrych ar bethau fel a ganlyn.  Mae Haen 1 o gynghorau yn rhai lle mae ganddi gyfle da o ennill grym.  Ar hyn o bryd Gwynedd yn unig a reolir ganddi.  Maent wedi eu gosod yn nhrefn y tebygrwydd o ennill grym.
 
Haen 1:

Mae gan y Blaid gyfle da neu dda iawn o ennill grym yn y cynghorau canlynol - mewn trefn o debygrwydd:  Gwynedd / Ynys Mon / Caerfyrddin / Ceredigion / Caerffili.  

Mae haen 2 yn amlinellu dau gyngor lle gallai'r Blaid symud ymlaen yn sylweddol - ond lle mae ennill neu rannu grym yn llai tebygol.  Yn y cynghorau yma mae'n ras dau geffyl llwyr - rhwng Plaid Cymru a Llafur.

Haen 2:

Rhondda Cynon Taf / Castell Nedd Port Talbot.

Yn haen 3 ceir cynghorau lle gallai'r Blaid hefyd yn hawdd gael ei hun yn rhannu grym, lle gallai fod yn blaid fwyaf, ond bod hynny oherwydd bod cefnogaeth wedi ei rannu yn eithaf eang rhwng nifer o grwpiau.

Haen 3:

Conwy / Dinbych / Caerdydd.

Cofier hefyd ei bod yn bosibl rhannu grym gyda nifer cymharol fach o seddi.  Er enghraifft roedd y Blaid 
yn rhannu grym yn Wrecsam efo 4 cynghorydd yn unig.  

Cofier hefyd bod cynghorau lle mae'n bosibl i'r Blaid wneud argraff am y tro cyntaf - Powys a Blaenau Gwent er enghraifft.



Sunday, March 05, 2017

Brexit ac etholiadau Gogledd Iwerddon

Felly dyna ni - mae'r DU yn wynebu tri argyfwng cyfansoddiadol ar yr un pryd - negydu termau ymadawiad y DU a'r UE, ail refferendwm tebygol ar ymadawiad yr Alban a'r DU a cheisio adgyfodi Stormont.  Mae'n fwy na phosibl y bydd delio efo galwadau am refferendwm i ail uno'r Iwerddon yn cael ei ychwanegu at hynny yn y man.  Mae'r bleidlais Brexit yn gysylltiedig a'r tri argyfwng mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

Cyn mynd ymlaen, gair brysiog am ddigwyddiadau echdoe.  Rydym eisoes wedi edrych ar y rhesymau tros ddymchwel Stormont.  Yn fyr roedd y cyfraddau pleidleisio ymysg cenedlaetholwyr
wedi bod yn gostwng oherwydd bod y brif blaid genedlaetholgar - Sinn Fein - wedi bod mewn llywodraeth am gyfnod maith.  Roedd plaid sydd a chefnogwyr naturiol hynod o wrth sefydliadol yn ymddangos yn sefydliadol iawn.  Canlyniad i ymdrech lwyddiannus i ail fwtio'r blaid a mynd a hi'n ol at ei gwreiddiau gwrth sefydliadol - ac yn wir chwyldroadol - oedd canlyniadau ysgytwol yr etholiad.  Mae'r tablau isod yn gwneud hynny'n gwbl glir.  




A roeddynt yn ysgytwol hefyd - mewn un diwrnod chwalwyd y mwyafrif etholiadol unoliaethol i pob pwrpas.  Mae wedi sefyll ers ffurfio'r wladwriaeth bron i ganrif yn ol - beth bynnag arall ddaw, mae'r tirwedd gwleidyddol wedi ei drawsnewid yn llwyr.  Am y tro cyntaf yn hanes y dalaith mae'r unoliaethwyr wedi methu ag ennill mwyafrif yn Stormont a mwyafrif o ran y bleidlais.

Rwan, mae'r rhesymau am yr hyn ddigwyddodd yn eithaf cymhleth - y gwelltyn olaf oedd penderfyniad bach eithaf sbeitlyd gan weinidog addysg y DUP i gael gwared o grant (bychan iawn) i helpu plant sydd yn dysgu Gwyddeleg a sy'n rhy dlawd i dalu am fynd i'r Gaeltacht ar wyliau astudio.  O fewn oriau roedd Adams ar y ffordd i Derry i siarad efo McGuinness, penderfynwyd yn eithaf cyflym nad oedd gan y DUP bellach ddiddordeb mewn dilyn egwyddorion cydraddoldeb Cytundeb Dydd Gwener y Groglith, ac roedd Stormont wedi ei dynnu i'r llawr o fewn dyddiau.

Ond roedd Brexit yn gefndir i hyn oll.  Mae gadael yr UE yn broblem ym mhob rhan o'r DU, ond mae'n fwy o broblem yng Ngogledd Iwerddon nag yw yn unman arall.  Mae ffin rhyngwladol 'galed' yn debygol o niweidio Gogledd Iwerddon yn economaidd - bydd yn hawdd iawn i gwmniau sy'n allforio i Ewrop adleoli yng Ngweriniaeth Iwerddon.  Yn ychwanegol at hynny bydd yn creu rhwystr i bobl fynd o gwmpas eu bywyd pob dydd - bydd yn rhwystro pobl rhag symud yn rhwydd at eu ffrindiau a'u teuluoedd - bydd yn creu rhwystr rhyngddyn nhw a'u gwaith, eu tafarnau, eu hanifeiliaid a'u eglwysi. Yn yr etholaethau sy'n agos at y ffin oedd rhai o'r symudiadau mwyaf ysgytwol tuag at SF trwy'r dalaith.  Mae 19 o'r 25 sedd ar hyd y ffin bellach yn nwylo Cenedlaetholwyr neu Weriniaethwyr.

Mae yna lawer o oblygiadau anfwriadol i Brexit - ac un o'r rheiny ydi straen ychwanegol sylweddol ar bensaerniaeth y wladwriaeth Brydeinig ei hun - ac mae hynny 'n wir am Ogledd Iwerddon o leiaf cymaint a'r Alban erbyn hyn.