Thursday, December 31, 2009

Ystadegau'r flwyddyn

Wedi darogan ar ddiwrnod diwethaf y mis diwethaf y byddai'r ffigyrau ymweld yn isel y mis yma oherwydd bod pobl gall yn osgoi gwleidyddiaeth tros y gwyliau, ymddengys fy mod wedi cael pethau'n gyfangwbl anghywir - cafwyd mwy o ddarllenwyr (efo chwech awr o'r flwyddyn i fynd) y mis yma nag erioed o'r blaen.

Wedi dweud hynny, roeddwn yn rhannol gywir - bu pethau'n ddistaw iawn am ddeg diwrnod olaf y flwyddyn, ond roeddem yn ofnadwy o brysur am ychydig ddyddiau yn gynharach yn ystod y mis - pan sylweddolodd Mohammad Asghar, ei fod yn Dori ac yn unoliaethwr ac nid yn genedlaetholwr a Phleidiwr. Felly - diolch o galon Oscar.

Diolch hefyd i bawb sydd wedi ymweld yn ystod y flwyddyn a phawb sydd wedi gadael sylwadau. 'Dwi'n gobeithio bod y rhan fwyaf ohonoch wedi cytuno efo'r rhan fwyaf o'r hyn 'dwi wedi ei ddweud, ac heb boeni gormod os nad ydym ar yr un donfedd ambell waith.

Gair arbennig ar ddiwedd blwyddyn fel hyn i'r un neu ddau yn eich plith sydd wedi eich pechu, eich gwylltio neu'ch cynddeiriogi gan rai o'r sylwadau yr ydych wedi dod ar eich traws yma ac wedi bod yn cwyno'n groch wrth pawb sy'n fodlon gwrando - tyff.

Ffigyrau misol:



Ffigyrau chwarterol:

Graffiau a 'ballu

Dau graff wedi eu dwyn oddi wrth y wefan arbennig honno politicalbetting.com ydi'r isod. Mae'r ddau yn rhoi cip bach rhyfedd i ni ar wleidyddiaeth etholiadol Prydeinig.

Graff sy'n dangos y berthynas rhwng pris petrol a'r gefnogaeth i'r Blaid Lafur ydi'r cyntaf:

'Dydw i ddim yn meddwl bod neb yn meddwl bod yna rhyw berthynas uniongyrchol rhwng y bwlch rhwng y ddwy brif blaid unoliaethol a phris tanwydd - ond siawns bod yna rhywfaint o berthynas rhwng y ddau beth - ac mae'r graff yn tynnu sylw at hynny.

Mae'r ail graff yn troi'r wireb wleidyddol bod cyfraddau pleidleisio uchel yn llesol i'r Toriaid, tra bod cyfradd isel yn dda i Lafur, ar ei phen:

Yr hyn mae'r graff yma yn ei awgrymu ydi bod dwy frwydr yn digwydd ym mhob etholiad cyffredinol, y naill ar y Dde a'r llall ar y Chwith. Brwydr rhwng y Toriaid a thueddiad i beidio a phleidleisio sy'n mynd rhagddi ar y Dde, tra mai brwydr rhwng i Lib Dems a Llafur a geir ar y Chwith. 'Does yna ddim llawer o newid tros amser yn y bleidlais Toriaid + Ddim yn fotio nag yn y bleidlais Llafur + Lib Dems - dim ond y dosbarthiad oddi mewn i'r patrwm sy'n newid.

'Dwi ddim yn rhy siwr beth i'w ddweud am hwn - mae'r patrwm yn rhyfeddol o gyson ac mae llinellau Llafur / Lib Dems a'r Toriaid / Ddim yn Pleidleisio yn adlewyrchiadau drych o'i gilydd. Mae'n mynd yn groes i'r hyn y bydd polau piniwn yn ddweud wrthym yn aml - sef bod symud arwyddocaol rhwng y Dde a'r Chwith mewn rhai etholiadau - ond mae cysondeb y llinellau yn dal llygaid dyn.

Beth bynnag mae'n lle i rhywun feddwl.

Wednesday, December 30, 2009

Darogan etholiadol yr Hogyn o Rachub

'Does yna neb yng Nghymru - yn flogwyr na'n sylwebyddion sy'n gweithio i'r cyfryngau prif lif yn cynhyrchu dadansoddiadau mwy trylwyr a gwybodus o etholaethau seneddol Cymru na'r cyfaill o Gaerdydd / Rachub.

'Dwi eisoes wedi eich cyfeirio at yr hyn sydd ganddo i'w ddweud am Arfon, Aberconwy, Brycheiniog a Maesyfed, Gorllewin Caerdydd, Preseli Penfro a'r Rhondda.

Ers hynny mae wedi cynhyrchu dau ddadansoddiad arall - un yn ymwneud a Phen y Bont a'r llall a Llanelli.

Os ydych yn bwriadu betio, neu os oes gennych ddiddordeb yn y math yma o beth, 'dwi'n awgrymu'n gryf eich bod yn mynd am dro i'w flog.

Gallwch hefyd edrych yma a'u gweld nhw i gyd efo'i gilydd.

Hwyl Fawr John Selwyn Gummer


Mi fydd Ty'r Cyffredin yn San Steffan yn edrych yn lle digon rhyfedd wedi etholiadau'r flwyddyn nesaf, gyda chanran uchel iawn o'r aelodau yn rhai newydd. Mi fydd hyn hefyd yn wir am yr aelodau Cymreig yn ol pob tebyg.

Mae John Selwyn Gummer yn un o'r ychydig aelodau oedd ar ol sy'n ein cysylltu fel rhyw linyn arian efo oesoedd aur llywodraethau Heath (roedd yn is gadeirydd ei blaid) Thatcher (bu'n gadeirydd y blaid) a'r uchafbwynt - llywodraeth John Major (cafodd wahanol swyddi llywodraethol gan John). 'Dwi ddim yn meddwl bod yna unrhyw aelod seneddol ar ol sydd wedi dal rhyw swydd neu gilydd o dan y tri prif weinidog Toriaidd diwethaf.

Beth bynnag, fel y gweinidog amaeth yn llywodraeth Major mae'r rhan fwyaf ohonom (sydd ddigon hen) yn ei gofio. Byddwch yn cofio iddo orfodi ei ferch, Cordelia yn 1990 i fwyta byrgar o flaen y camerau er mwyn 'profi' bod cig eidion yn ddiogel - clefyd y gwarthed gwallgo oedd y panic ffasiynol ar y pryd. Roedd John Selwyn wedi gwrthod gwahardd rhai mathau o gig eidion a ystyrid yn beryglus y flwyddyn cynt, a bu'n rhaid i Cordelia fwyta'r byrgar oherwydd y stwr a gododd yn sgil hynny (a'r ffaith bod cath newydd farw o rhywbeth oedd yn edrych fel BSE - roedd hyn yn gryn stwmp ar bawb ar y pryd).

'Does yna ddim llawer o bobl yn gwybod i John Selwyn orfod wynebu cryn dristwch yn ddiweddarach yn ei fywyd - cafodd ei blagio'n ddi drugaredd gan anifeiliaid gwyllt ar ei stad sylweddol yn Suffolk. Mae'n ymddangos bod pryfaid, tyrchod daear a jac dos wedi bod yn cynllwynio yn ei erbyn am flynyddoedd. Ni fyddem wedi cael y cyfle i gydymdeimlo efo John oni bai iddo hawlio arian gan y trethdalwr am ladd yr anifeiliaid anymunol. Roedd ei gostau lladd tyrchod yn unig yn dod i £100 y flwyddyn. Mae'n beth lwcus bod y trethdalwr yn fodlon talu iddo fynd i'r afael efo'r problemau ofnadwy yma.



Ar nodyn mymryn yn hapusach, mae ganddo ardd gwerth chweil - roedd yn hawlio hyd at £9,000 y flwyddyn er mwyn ei chynnal. Mae hefyd yn ddyn anarferol o lan (fel Nick Bourne) - roedd yn hawlio hyd at £2,000 y flwyddyn tuag at ei gostau glanhau. Mae hefyd wedi ei fendithio yn ei fab Dominic - y person gorau oedd gan y Toriaid i sefyll yn Ipswich, sedd sydd yn ffinio ag un ei hen go yn Suffolk Central. Mae ganddo gyfle da iawn i gael ei ethol, felly gallwn edrych ymlaen i flynyddoedd maith yn ychwaneg o gyfraniad y teulu Gummer i fywyd gwleidyddol a chyhoeddus.

Monday, December 28, 2009

Iris Robinson i adael gwleidyddiaeth


Mae'n drist bod gwraig Gweinidog Cyntaf Gogledd Iwerddon, Iris Robinson i adael gwleidyddiaeth oherwydd 'iselder ysbryd'. Fel ei gwr mae Iris yn Aelod Seneddol San Steffan ac yn Aelod Seneddol yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon. Felly mi fydd yna dipyn o gwymp yn yr incwm teuluol - er 'dwi'n rhyw deimlo na fydd rhaid i'r Robinsons fynd allan ar y stryd i gardota. Wedi'r cwbl mi hawliodd hi a'i gwr ganoedd o filoedd gan swyddfa ffioedd San Steffan, heb son am yr holl gyflogau. Busnes teuluol ydi gwleidyddiaeth ei phlaid - y DUP, yn aml iawn.

Beth bynnag am hynny, mae yna gryn dipyn o gydymdeimlad yn cael ei gyfeirio tuag at Iris ar hyn o bryd oherwydd ei salwch - a da o beth ydi hynny. Yn anffodus dydi Iris erioed wedi bod yn un fawr am ddangos goddefgarwch tuag at eraill, fel mae'r sylw yma sydd wedi ei gymryd o Hansard yn rhyw awgrymu - There can be no viler act, apart from homosexuality and sodomy, than sexually abusing innocent children.

Mae'n galonogol bod llawer mwy o gydymdeimlad yn cael ei ddangos tuag ati hi yn ei sefyllfa drist bresenol nag mae hi wedi ei ddangos at eraill yn y gorffennol.

Sunday, December 27, 2009

Llanelli, Castell Nedd a Cheredigion

Mae yna ychydig o drafodaeth wedi bod ynglyn ag etholaethau Llanelli, Castell Nedd a Cheredigion ar dudalen olaf fy mlog ar yr ods betio, gydag un neu ddau yn gweld yr ods hynny yn rhyfedd.

Mae Hogyn o Rachub yn nodi nad ydi'r bwcis yn anghywir yn aml. Mi fyddwn i'n tueddu i anghytuno - yn arbennig rai misoedd cyn etholiad. Yn aml does yna ddim llawer o bres wedi ei fetio bryd hynny, a mympwy'r bwci sy'n gyrru prisiau ar y cychwyn. Fel mae'r etholiad yn dynesu bydd mwy o bres yn cael ei fetio - a phan mae hynny'n digwydd, mae'r ods yn mynd yn fwy 'cywir' wedyn. Neu mewn geiriau eraill, os ydych eisiau gwneud pres yn betio, betiwch yn gynnar.

Reit, mi gawn ni olwg frysiog iawn ar y dair etholaeth.

Castell Nedd:

Mae'r 4/1 ar Blaid Cymru yn ymddangos yn ddigon crintachlyd ag ystyried bod gan Peter Hain 12,700 (35.5%) o fwyafrif a bod Llafur wedi gwneud yn gymharol dda yn yr etholiadau lleol yn yr ardal, ac hefyd wedi dod yn gyntaf ar lefel Cynulliad ac Ewrop. Adlewyrchiad o'r ffaith bod Peter Hain wedi colli blots mawr o inc ar ei lyfr llawysgrifen ydi hynny mae gen i ofn. Bu mewn perygl o fod o flaen ei well wedi'r smonach efo'i ymgyrch drychinebus am is arweinyddiaeth ei blaid. Wnaeth ei ymgais i hawliau treuliau ar ddau dy fawr o les iddo chwaith, ac mae yna nifer o ddigwyddiadau bach eraill, fel hwn er enghraifft, wedi codi yn ddiweddar. Go brin y bydd Hain yn colli, ond dwi'n mawr obeithio y bydd Alun Llywelyn yn rhoi ychydig o fraw iddo - ac yn gosod ei hun mewn safle da i gymryd y sedd yn etholiadau'r Cynulliad yn 2011.

'Dwi yn meddwl bod ods y bwcis ychydig allan ohoni yn achos Ceredigion. Rydym eisoes wedi edrych sut mae'r etholaeth wedi dechrau ymdebygu i un o tribal head counts Gogledd Iwerddon. Serch hynny mae'n ymddangos i mi bod y ffaith i'r Blaid guro'r Lib Dems yn eithaf hawdd dair gwaith ers 2005 (Cynulliad, Ewrop ac etholiadau lleol) a'r ffaith bod pleidlais Elin yn 2007 yn uwch nag un Simon yn 2005 yn awgrymu mai'r Blaid sydd ar y blaen. Byddwn hefyd yn ychwanegu hyn - roedd yn gryn gamp i'r Lib Dems gornelu cymaint o'r bleidlais gwrth Plaid Cymru yn 2005 a 2007, a dydi hi ddim yn amhosibl iddynt wneud hynny eto. Ond mi fydd yn fwy anodd yn wyneb symudiad Prydain gyfan tuag at y Toriaid. Mi fydd hon yn agos, ond mi fyddwn i'n hapusach o lawer yn betio ar y Blaid ar 5/6 na'r Lib Dems.

Mae'r Blaid hefyd wedi curo Llafur dair gwaith ers 2005 yn Llanelli. Serch hynny mae Llafur yn ffefrynnau clir yn ol y bwcis (1/2 i 6/4). Ag ystyried bod bwlch o 7,000 a bod y Blaid angen gogwydd o tros i 10% mae hyn yn ymddangos yn weddol rhesymol. Ond mi fyddwn i'n ychwanegu un pwynt bach, mi ddaru Llafur yn well yn Llanelli yn 2005 nag a wnaeth mewn nifer o'r etholaethau o'u cwmpas - wna i ddim cweit galw'r peth yn blip, ond mae yna elfen o hynny. Mae pob dim wedi mynd a'i ben iddi iddynt yn yr etholaeth ers hynny. Mi fydd yna ogwydd sylweddol tuag at y Blaid y flwyddyn nesaf yn Llanelli, ac mae'n ddigon posibl y bydd yn agos at 10%. Etholwyd Cynnog Dafis yng Ngheredigion yn sgil mwy o ogwydd o lawer yn 92.

Saturday, December 26, 2009

Ydych chi eisiau bet?

Un o bleserau bach etholiadau ydi betio ar ganlyniadau.

Ar wahan i hynny, mae'r marchnadoedd betio yn rhoi syniad go lew i ni pa ffordd mae'r chwythu. Wedi'r cwbl maent yn cael eu gyrru gan yr arian sy'n cael ei fetio ar ganlyniadau, a mae pobl yn tueddu i fod yn weddol ofalus cyn rhoi eu pres yn nwylo'r bwci. Y betio mwyaf diddorol efallai ydi'r betio ar etholaethau unigol. Y ddau brif gwmni sy'n cynnig y math yma o fetio ar hyn o bryd ydi Ladbrokes a'r cwmni Gwyddelig, Paddy Power.

I sbario'r drafferth i chi o weithio eich ffordd trwy'r holl fets unigol, dwi wedi dod a'r rhai Cymreig at ei gilydd a cheisio ystyried beth maent yn ei ddweud wrthym am yr hyn sy'n debygol o ddigwydd mewn nifer o etholaethau Cymreig.

Mi gychwynwn ni efo'r Gogledd Orllewin. Yn ol y bwcis Plaid Cymru sy'n debygol o ennill yn Ynys Mon ac Arfon, tra bod y Toriaid yn debygol o ennill yn Aberconwy.


Aberconwy:

Conservatives 2/7
Plaid Cymru 7/2
Labour 8/1
Liberal Democrats 25/1

Arfon:

Plaid Cymru 1/10
Labour 6/1
Conservatives 14/1
Liberal Democrats 100/1

Ynys Mon:

Plaid Cymru 1/3
Labour 9/4
Conservatives 16/1 12/1
Liberal Democrats 100/1

Ychydig iawn o obaith a roir i'r Lib Dems - rhywbeth y byddai unrhyw un sy'n adnabod yr ardal yn gwybod. Mae'r ffigyrau yn awgrymu bod Plaid Cymru yn saff yn Arfon, ac mai cystadleuaeth rhwng Plaid Cymru a Llafur ydi hi ar Ynys Mon, a rhwng y Toriaid a Phlaid Cymru yn Aberconwy.

Mae gan y Lib Dems dair sedd yn y canolbarth, ond mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu bod y cwbl ohonynt mewn perygl.

Brycheiniog a Maesyfed:

Liberal Democrats 8/11 5/6
Conservatives evens 5/6
Labour 100/1 80/1
Plaid Cymru 100/1

Ceredigion:

Plaid Cymru 5/6
Liberal Democrats 5/6
Conservatives 25/1
Labour 100/1

Maldwyn:

Liberal Democrats 2/5 1/4
Conservatives 7/4 9/4
Labour 100/1
Plaid Cymru 100/1

Mae Llafur allan o bethau'n llwyr yn y dair, ac felly hefyd Plaid Cymru yn y ddwy sedd ym Mhowys. Mae Ceredigion a Brycheiniog a Maesyfed yn gystadleuol iawn, ac mae Maldwyn hefyd yn gystadleuol, ond i raddau llai.

Mae'r Lib Dems allan ohoni'n llwyr yn y De Orllewin, ond mae dwy o seddi Llafur o dan fygythiad - Llanelli a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro. Fedra i ddim dod o hyd i ffigyrau am yr ail sy'n anffodus, mae'n sedd ddiddorol.

Llanelli:

Labour 1/2
Plaid Cymru 6/4
Conservatives 50/1 33/1
Liberal Democrats 100/1

Mae nifer o seddi dinesig Llafur o dan fygythiad hefyd.

Gogledd Caerdydd:

Toriaid - 1-5
Llafur 3 - 1
Lib Dems - 33 - 1
Plaid Cymru 80 - 1

Canol Caerdydd:

Lib Dems - 2/7
Llafur - 11/4
Toriaid - 10/1
Plaid Cymru 66/1

Dwyrain Casnewydd:

Labour 1/2 4/9
Liberal Democrats 9/4 3/1
Conservatives 6/1 9/2
Plaid Cymru 100/1

Gorllewin Casnewydd:

Labour 5/6
Conservatives 5/6
Liberal Democrats 50/1
Plaid Cymru 100/1

Gorllewin Abertawe:

Liberal Democrats 10/11 evens
Labour 10/11 8/11
Conservatives 10/1
Plaid Cymru 100/1

Plaid Cymru sydd ddim ynddi yma, mae Gogledd Caerdydd yn debygol iawn o syrthio i'r Toriaid. Mae'r Toriaid hefyd yn fygythiad yng Ngorllewin Casnewydd, tra bod y Lib Dems yn anadlu i lawr cefn Llafur yng Ngorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd. 'Does yna ddim ffigyrau am De Caerdydd na Gorllewin Caerdydd - sydd eto'n anffodus. Er fy mod yn disgwyl i Lafur ddal y ddwy, gallai pethau fod yn agos iawn. Dwyrain Abertawe ydi'r unig sedd ddinesig cwbl saff i Lafur bellach. Mae hefyd yn ddiddorol bod posibilrwydd y bydd y Lib Dems yn colli eu seddi gwledig, ond yn gwneud iawn am hynny trwy ennill mewn rhai dinesig.

Mae ambell un o'r seddi eraill yn ddigon diddorol.

Castell Nedd:

Labour 1/7
Plaid Cymru 4/1
Conservatives 100/1
Liberal Democrats 100/1

Blaenau Gwent:

Dai Davies 8/11
Labour evens
Conservatives 100/1
Liberal Democrats 100/1
Plaid Cymru 100/1

Mynwy:

Conservatives 1/100
Labour 16/1
Liberal Democrats 100/1
Plaid Cymru 100/1

Wrecsam:

Labour 1/2
Conservatives 7/2
Liberal Democrats 4/1
Plaid Cymru 50/1

Pethau'n agos iawn ym Mlaenau Gwent felly, a'r farchnad hefyd yn ystyried Castell Nedd yn fwy cystadleuol nag Arfon - sydd eto'n ddiddorol. Er bod Llafur ar y blaen yn Wrecsam, digon simsan ydi eu gafael mewn gwirionedd.

Ymddiheuriadau am yr holl Saesneg - cut & paste mae gen i ofn.

Friday, December 25, 2009

'Dolig Llawen

Gair brysiog i ddymuno 'Dolig llawen i chi i gyd - y rhai yn eich plith sy'n dod yma bron yn ddyddiol, y rhai sy'n dod o bryd i'w gilydd a'r rhai sydd ond yn galw heibio'n achlysurol iawn - gwrthwynebwyr gwleidyddol, pobl sy'n cytuno efo'r rhan fwyaf o beth sy'n cael ei ddweud a'r rhai ohonoch sydd rhywle yn y canol, y rhai yn eich plith sydd yn fy 'nabod yn iawn, a'r rhai nad ydwyf erioed wedi cyfarfod a nhw - 'Dolig dedwydd i chi i gyd, fel eich gilydd.


Murlun o eicon ar wal Haggia Sophia yn Istanbul ydi'r ddeledd - i'r sawl sydd a diddordeb.

Thursday, December 24, 2009

Mae sawl ffordd o gael Phil i'w wely

Mae yna drafodaeth wedi bod ynghynt yn yr wythnos ar y blog hwn sydd yn anuniongyrchol yn ymwneud y phleidleisio tactegol, ac mae'r ddadl wedi ei datblygu yn ffau'r Hen Rech Flin. Wna i ddim ailadrodd yn fanwl sylwadau Alwyn, na fy ymateb i - gallwch edrych yma os oes gennych ddiddordeb.



Ers ymateb i Alwyn fodd bynnag 'dwi wedi bod yn rhyw g'noi cil ar y mater tra'n gwneud fy siopa 'Dolig munud diwethaf. Prif bwynt Alwyn ydi y byddai'n rheitiach ymosod ar Lafur mewn sedd fel Aberconwy nag ar y Toriaid. 'Rwan mae'n rhaid i mi gyfaddef bod Alwyn gyda llawer mwy o brofiad na fi o wleidydda mewn etholaeth lle mae pleidleisio tactegol yn bwysig. Serch hynny mi fyddwn yn gofyn os ydi'r syniad y dylai'r blaid sydd yn ail neu'n gyntaf dreulio gormod o amser yn ymosod ar y blaid sy'n bedwerydd neu'n drydydd, yn syniad da?

Fel 'dwi'n sgwennu hyn mae gen i bamffled etholiadol o etholaeth Canol Caerdydd o fy mlaen sy'n perthyn i'r Lib Dems - pencampwyr y bleidlais dactegol. Y Lib Dems sy'n dal y sedd gyda thua hanner y bleidlais gyda Llafur yn ail gyda thraean. Mae Plaid Cymru a'r Toriaid yn is na 10%. Mae'n amlwg bod rhan o'r bleidlais Lib Dem yn hen un Doriaidd - nhw sydd wedi dal yr etholaeth am gyfran helaeth o'i hanes. Yn y pamffled ceir ymysodiadau ar Lafur, brolio'r Lib Dems a dim gair am y Toriaid ag eithrio'r graffiau arferol, ods bwcis a chanlyniadau lleol i 'brofi' nad oes ganddynt obaith mul o ennill.

Y strategaeth yma yn amlwg ydi peidio ag ypsetio pobl sy'n gogwyddo tuag at y Toriaid trwy ymosod arnynt - dim ond eu hanwybyddu a honni nad oes ganddynt obaith ac mai'r unig ffordd o gadw Llafur allan ydi trwy roi fot i'r Lib Dems. Mae'r lled Bleidwyr a'r lled Doriaid yn siwr o fwynhau'r ymysodiadau ar Lafur yn fawr iawn.

Ydi hyn yn cyfieithu i sefyllfa fel un Aberconwy - hynny yw ymosod ar y Toriaid, ond dweud dim am Lafur a'r Lib Dems ag eithrio nad oes ganddynt obaith? A dweud y gwir 'dwi ddim yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw - ond mae barnu'r math yma o beth yn gywir yn aml yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng ennill a cholli etholiad.

Nid dweud bod Alwyn yn anghywir ydw i - dim ond codi'r cwestiwn.

Wednesday, December 23, 2009

Problem Glyn


Tra bydd Glyn Davies, cyn aelod Cynulliad tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn c'noi ei dwrci y 'Dolig hwn mi fydd rhan o leiaf o'i feddwl ar yr etholiad cyffredinol ym Maldwyn, a'i obeithion o ddiorseddu'r Lib Dem ecsentrig, Lembit Opik. Chwi gofiwch i Glyn ddatgan ei fwriad i sefyll i fynd i San Steffan yn fuan wedi colli ei sedd Cynulliad.

Ar yr olwg, 'does gan Glyn ddim gobaith o gwbl. Unwaith yn unig ers oes yr arth a'r blaidd mae'r Rhydfrydwyr wedi colli'r sedd, ac maent wedi llwyddo i'w dal ar adegau pan nad oeddynt yn gallu dal fawr ddim arall ar hyd y DU. Mae mwyafrif y Lib Dems yn uchel - 24% bron. Er bod y polau 'cenedlaethol' yn awgrymu bod gogwydd oddi wrth y Lib Dems i'r Toriaid, mae'n llawer llai na'r 12% a fyddai ei angen. Ar ben hynny, mae'r Lib Dems yn draddodiadol yn hynod effeithiol am ddal seddi wedi iddynt eu hennill, hyd yn oed pan mae gogwydd cyffredinol yn eu herbyn. Serch hynny, mae yna gryn son wedi bod y gallai Glyn ennill - gan Glyn ei hun ymysg eraill.

Mae'r optimistiaeth hwn wedi ei seilio i raddau helaeth ar y ffaith bod Lembit wedi bod yn treulio cyfran go lew o'r bedair mlynedd a hanner diwethaf yn ymddwyn fel - wel, lembo. Mae yna bethau eraill hefyd- fel mae Glyn yn nodi ei hun, perfformiad cryf y Toriaid yn yr etholaeth mewn etholiadau diweddar, y ffaith bod persona cyhoeddus (o leiaf) Glyn yn fwy atyniadol i'r rhan fwyaf o bobl nag un Lembit, llyfr Sian Lloyd ac mae'r ods mae'r bwcis yn eu rhoi iddo (7/2) yn ddigon rhesymol.

Fodd bynnag, os ydi Glyn am ennill bydd rhaid iddo neidio tros ben un clwyd go fawr. Mae Lembit a Mick Bates yn ennill yn hawdd yn Nhrefaldwyn oherwydd eu bod yn dda am berswadio pobl sy'n gogwyddo tuag at Blaid Cymru neu Lafur i bleidleisio trostyn nhw er mwyn cadw'r Toriaid allan.

Dyma ydi arbenigedd y Lib Dems - cael pobl i fotio iddynt nid am eu bod yn arbennig o hoff ohonynt, ond oherwydd eu bod yn drwg licio rhywun arall mwy. Gallant wneud hyn mewn amrediad o etholaethau gwahanol - maent yn cymryd pleidleisiau oddi wrth Lafur a'r Toriaid yng Ngheredigion ar y sail nad nhw ydi Plaid Cymru, oddi wrth Plaid Cymru a Llafur ym Maldwyn ar y sail nad Toriaid ydynt, ac oddi wrth y Toriaid yng Nghanol Caerdydd am nad ydynt yn Llafurwyr. Rydym wedi edrych sawl gwaith yn y gorffennol ar gam ddefnydd di gywilydd y Lib Dems o graffiau ac ystadegau. Maent yn ddibynol yn aml ar y math yma o beth oherwydd mai eu prif apel ydi'r ffaith nad ydynt yn rhywun arall.

'Rwan, os ydi Glyn i ennill mae'n rhaid iddo droi'r patrwm yma ar ei ben - hynny yw mae'n debyg y bydd rhaid iddo berswadio pobl sy'n gogwyddo tuag at Plaid Cymru a Llafur i bleidleisio'n dactegol tros y Toriaid yn erbyn y Lib Dems. Byddai gwneud hyn yn gryn gamp - un nad oes neb wedi llwyddo i'w chyflawni o'r blaen. Mae'n ymddangos i mi yn llawer mwy tebygol y byddai lled Lafurwyr a lled Bleidwyr sydd methu stumogi Lembit yn mynd yn ol adref at eu pleidiau naturiol.

Os ydi hyn yn digwydd, mae'n dal yn bosibl i Glyn ennill - ond byddai angen gogwydd cryn dipyn yn uwch na 12% oddi wrth y Lib Dems - mae hyn yn bosibl wrth gwrs, ond dydi symudiadau felly ddim yn digwydd yn aml iawn. Mae'n wir bod Maldwyn yn wledig ac yn geidwadol yn ystyr c fach ceidwadiaeth, ond mae hyd yn oed llefydd felly yn llai piwritanaidd heddiw nag y buont. Ac hefyd wrth gwrs, os oes mewath o wirionedd yn y dywediad Saesneg, all publicity is good publicity, mi fydd Lembit yn cael ei ail ethol - er gwaethaf pawb a phopeth - a fo'i hun.

Tuesday, December 22, 2009

Mr Smith, Mr Merton a Blog Ceidwadwyr Aberconwy



'Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud mai Adam Smith fathodd y term the law of unintended consequences gyntaf. Son oedd Smith am ei briod faes, economeg wrth gwrs. Dadlau oedd yn erbyn ymyraeth ormodol gan lywodraethau mewn materion economaidd gan bod hynny (yn ei farn o) yn amlach na pheidio yn arwain at ddeilliannau anragweladwy - deilliannau oedd yn fynych yn negyddol o ran eu heffaith.

Daeth y term yn boblogaidd yn yr ugeinfed ganrif yn sgil gwaith cymdeithasegydd Americanaidd o'r enw Robert K Merton a ddangosodd bod pob math o gynllunio cymdeithasegol yn arwain at ddeilliannau anisgwyl ac anragweladwy.

Yn naturiol ddigon (ac yn gwbl ragweladwy) mae meddwl dyn yn crwydro at Merton a Smith pan mae'n ymweld a blog Ceidwadwyr Aberconwy ac yn darllen eu sylwadau ar flogiau eraill. Wedi'r cwbl un o risgiau mawr 'sgwennu ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol, a blogio gwleidyddol yn arbennig ydi bod yr ysgrifennwr yn ceisio dweud un peth ond bod y darllenwr weithiau yn dod i gasgliadau cwbl wahanol o'r hyn mae wedi ei ddarllen.

Cymerer y blogiad diweddaraf er enghraifft. Y stori fawr yma ydi bod Laura McAllister wedi ei phenodi yn gadeirydd y Cyngor Chwaraeon. Mae hyn yn fater o dristwch mawr i Geidwadwyr Aberconwy. Ymddengys mai'r rheswm am hyn ydi bod Laura yn Bleidwraig, bod y Gweinidog Treftadaeth (sydd yn y pen draw yn gyfrifol am chwaraeon a hamdden) yn Bleidiwr, a bod llyfr ar hanes y Blaid gan Laura wedi gwneud Ceidwadwyr Aberconwy yn rhy sal i fwyta eu vol-au-vents.

Rwan, byrdwn y blogiad ydi bod y penodiad mewn traddodiad diweddar Cymreig o benodiadau gwleidyddol i gyrff a elwir gan bawb arall yn quangos, ond yn cwangos ar flog menai. Chwi gofiwch mai acronym am quasi-autonomous non-governmental organisation ydi'r term. Cyrff ydi'r rhain sydd a rol mewn llywodraethu, ond sydd ddim yn rhan o adrannau llywodraethol fel y cyfryw a sydd felly'n rhannol annibynnol oddi wrth weinidogion llywodraethol.

Daeth y cwangos cyntaf yng Nghymru i fodolaeth (fel y bydd Ceidwadwyr Aberconwy yn cofio'n dda) yn y 1980au pan roedd rhywun o'r enw Mrs Thatcher yn rhedeg y sioe. O 1987 ymlaen ychydig iawn o gynrychiolaeth etholiadol oedd gan y Toriaid yng Nghymru, felly aethant ati i reoli'r wlad trwy greu efallai 200 o gwangos oedd gyda thua 1,800 o unigolion yn eistedd arnynt - gyda'r sawl oedd yn gwasanaethu yn aml yn - wel agos at y Toriaid - o ran gwleidyddiaeth.

Pan ddaeth y Cynulliad i fodolaeth addawyd (gan Lafur) i daflu'r job lot ar goelcerth, ond ni ddigwyddodd hyn mewn gwirionedd. Mae llawer o'r cwangos yn parhau, ond mae proses gydnabyddedig ac agored (ac un sydd i raddau helaeth yn annibynnol o wleidyddion etholedig) i benodi aelodau cwangos bellach.

Yn yr achos mae Ceidwadwyr Aberconwy yn ei godi, roedd Laura eisoes yn is gadeirydd y Cyngor Chwaraeon. Roedd wedi ei phenodi i'r Cyngor pan roedd Alun Pugh (Llafur) yn Weinidog, a chafodd ei phenodi yn is gadeirydd cyn Cymru'n Un. Roedd y broses benodi yn un cwbl agored, ac mae barn aelodau'r Cyngor am Laura'n eithaf adnabyddus - mae cryn barch tuag ati. Mae hefyd yn gyn beldroediwr a chwaraeodd tros Gymru.

Mewn geiriau eraill, hi oedd y person gorau, ac yn wir y person mwyaf naturiol i wneud y job. Mae yna rol i'r Gweinidog yn hyn oll wrth gwrs - ond mae hynny reit ar ddiwedd y broses - sef arwyddo'r papur yn caniatau'r penodiad, neu ei wrthod. Os ydi'r Gweinidog yn dewis gwrthod (ac anaml iawn y bydd hynny'n digwydd) mae'n rhaid wrth reswm dilys tros wneud hynny. 'Dydi aelodaeth (neu ddiffyg aelodaeth) o blaid wleidyddol ddim yn rheswm dilys. 'Dydi plesio Ceidwadwyr Aberconwy ddim yn reswm dilys chwaith.

Felly, beth sydd gennym yma ydi troelli gwleidyddol. Ar un olwg mae hyn yn ddigon naturiol, mae'n tynnu am etholiad wedi'r cwbl. Er nad oes fawr ddim sylwedd y tu ol i'r stori, mae'n droelli mwy derbyniol na'r hel clecs am brosesau etholiadol pleidiau eraill heb ddatgelu ffynonellau, a ddim mor desperet a chodi straeon am gig, cigyddion a Chyngor Gwynedd o fedd sydd wedi hen setlo.

A daw hyn a ni'n ol at gyfraith canlyniadau anfwriadol. Sedd sydd yn nwylo Llafur ydi Aberconwy wrth gwrs, ond fyddai rhywun ddim yn credu hynny o ddarllen y blog na sylwadau Guto ar y blog hwn. Yn ol damcaniaethu etholiadol UK Polling Report (doedd etholaeth Aberconwy ddim yn bodoli yn 2005) pedwerydd sal fyddai'r Blaid y tu ol i'r Lib Dems, y Toriaid a Llafur. Anaml y bydd y blog yn cyfeirio at y Lib Dems, ceir cyfeiriadau mynych at y Blaid, a cheir rhai at Lafur hefyd. Fel rheol mae'r cyfeiriadau at Lafur yn ymysodiadau arnynt ar lefel Cynulliad, a bron yn ddi eithriad bydd Plaid Cymru yn cael ei chysylltu efo nhw. Weithiau gellir cyfiawnhau'n wrthrychol gwneud hynny (ProAct yn Aberconwy er enghraifft), ond yn amlach na pheidio ni ellir (gwahaniaeth mewn lefel gwariant ar addysg er enghraifft - digwyddodd hynny i gyd cyn Cymru'n Un).

Deilliant anfwriadol blog Ceidwadwyr Aberconwy ydi tanlinellu'r ffaith, i unrhyw un sy'n dewis ei ddarllen bod y Toriaid yn gwybod i'r tirwedd etholiadol newid yn llwyr yn yr ardal ers 2005, ac mai Plaid Cymru ydi'r prif fygythiad i'r Toriaid yn Aberconwy, nid Llafur ac yn sicr nid y Lib Dems.

A'r wers i'w chymryd o hyn oll ydi hon - os ydych yn byw yn Aberconwy, ac os ydych am osgoi cael eich cynrychioli yn San Steffan gan y Blaid Geidwadol, pleidleisiwch i Blaid Cymru.

Pam bod Cameron yn mentro?


Felly mae'r ddadl fawr, neu'n hytrach y dadleuon mawr i fynd rhagddynt - rheiny rhwng dri o arweinyddion y prif bleidiau unoliaethol ym Mhrydain. Ymddengys nad oes yna neb arall yn cael cymryd rhan.

Mae nifer wedi gofyn pam y dylai Camero - sydd ar y blaen yn hawdd yn y polau gymryd y risg o roi ei droed ynddi a niweidio ei obeithion o ennill? Mae'r ateb yn ddigon syml yn y bon - mae'r polau piniwn sy'n dangos bod plaid Cameron ar y blaen hefyd yn dangos bod pleidlais y pleidiau amgen (cenedlaetholwyr Cymreig ac Albanaidd, UKIP, y Blaid Werdd ac ati) ar lefelau llawer uwch o lawer nag ydynt wedi bod yn y misoedd cyn etholiad cyffredinol erioed o'r blaen.

Bydd y tri sbloets fawr ar y teledu (bydd un dadl ar Sky, un ar ITV a'r llall ar y Bib) yn cael eu cynnal ar dirwedd gwleidyddol mae'r pleidiau mawr yn gyfforddus a fo, a bydd y materion sy'n bwysig i'r pleidiau amgen yn cael ei israddio neu ei anwybyddu'n llwyr. Bydd yr agenda etholiadol yn cael ei osod yn dwt lle mae'r prif bleidiau eisiau iddo fod - a hynny yn ystod yr ymgyrch.

Bydd hyn yn siwr o ddod chanrannau'r pleidiau amgen i lawr a bydd hynny'n siwtio Cameron i'r dim. Wedi'r cwbl mae unrhyw beth sy'n bygwth y status quo etholiadol yn cymaint o fygythiad tymor canolig a hir i'r Toriaid nag ydyw i Lafur a'r Lib Dems. Mae'r status quo yn gyfforddus i'r pleidiau mawr unoliaethol, ac maent yn fodlon gwneud yr hyn sydd ei angen i amddiffyn hwnnw. Gallent ddibynnu ar gefnogaeth lwyr y cyfryngau prif lif - wedi'r cwbl maent hwythau wedi bod, yn eu gwahanol ffyrdd, yn sugno o deth yr hwch sefydliadol ers degawdau.

Mae'r syniad yn wrth ddemocrataidd. Dylai'r pleidiau amgen herio'r penderfyniad yn y llysoedd, hyd yn oed os oes rhaid i rhai ohonynt (am resymau ariannol) ddal eu trwynau a gwneud hynny ar y cyd.

Monday, December 21, 2009

Syniad gwych Mr Kilfoyle


'Dwi dipyn yn hwyr ar hon, ond ta waeth mi ddyweda i air neu ddau.

Syniad cynhyrfus aelod seneddol Llafur Walton, Peter Kilfoyle ydi cael maer tros Lerpwl, Warrington, Ellesmere Port, Neston, Gaer, Gaer a Sir y Fflint. Wele adroddiad Dail y Post isod:

A MERSEY MP has called for a directly-elected mayor to give real power to the Liverpool "city- region" – branding the current set- up a toothless "cosy cabal".

Walton MP Peter Kilfoyle commissioned his own independent research to analyse the failings of an arrangement he claims is letting down Merseyside.

The study has been sent to fellow MPs and key city bodies including The Mersey Partnership and Liverpool Vision, urging them to embrace the need for radical change.

Among the key conclusions are calls for:

A directly-elected mayor – akin to London's Boris Johnson – to "bring vision, innovation and real accountability";

A 12-strong assembly – with six directly-elected members, because its current leadership is a "closed and incestuous shop";

Tax and spend powers – perhaps over waste charges, road-pricing, local income tax, higher business rats, or a tourism tax;

A bigger city-region – perhaps including Warrington, Ellesmere Port and Neston, Chester and even Wrexham and Flintshire.

The study, by Liverpool firm KIP Research Ltd, pulls no punches in criticising the current city-region, warning that multi-area agreements (MAAs) – the basis of the Government's model – have "no power", because they impose no duties on councils to co-operate.

It claims the so-called "Cabinet" of the six council leaders lacks imagination and gives them "potential conflicts of interest" and has been weakened by Liverpool City Council's poor public image of "in-fighting, factionalism and allegations of unprofessionalism and mismanagement".

The report said the weaknesses were laid bare by the "bolshie squabbling" over Everton Football Club's plans to move out of Liverpool, to Knowsley.

Just because Liverpool City Council isn't working why should we carry the can? I wonder whether this has been discussed at the Mersey Dee Alliance?


Hmm - 'dydi Capel Celyn ddim digon i Peter, mae o ar ol Wrecsam a Fflint rwan. Mae'n debyg y byddai dweud mai dyma'r math o syniad y byddai dyn yn ei ddisgwyl o ddinas sydd wedi ei hadeiladu ar gaethweisiaeth yn ymfflamychol, felly wna i ddim gwneud y sylw.

Mae trafodaeth digon bywiog ar y pwnc ar un o flogiau ymgyrchu gorau Cymru - Plaid Wrecsam. Wna i ddim ailadrodd y pwyntiau sy'n cael eu codi yno, ond mi af ar ol dau bwynt ychwanegol:

Dyma boblogaethau rhannau gwahanol ymerodraeth arfaethiedig Mr Kilfoyle - Fflint 150,000, Wrecsam 130,000, Lerpwl 440,000, Gaer (y cyngor, nid y ddinas) 330,000, Ellesmere Port 64,000, Neston 15,000, Warrington 185,000. I edrych ar hynny mewn ffordd ychydig yn wahanol byddai poblogaeth Gymreig yr ymerodraeth yn 280,000 (21%) tra bydda'r boblogaeth Seisnig yn 850,000 (79%). Rwan o lle rydych chi'n meddwl y bydd maer newydd Fflint a Wrecsam yn dod?

Mae'r ail bwynt yn ymwneud a datganoli. Rwan, cyn nad ydi Martyn Jones, cyn gadeirydd y pwyllgor dethol ar faterion Cymreig yn gwybod llawer am y pwnc, efallai ei bod yn anheg disgwyl i Mr Kilfoyle wybod llawer chwaith. Serch hynny mae'n ffaith bod llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr yn cael eu hariannu mewn ffyrdd gwahanol. Daw grantiau bloc awdurdodau Cymru o'r Cynulliad, a rhai Lloegr o San Steffan.

Mae ganddynt ganllawiau cyllido gwahanol, ac nid ydynt yn cael arian ar gyfer yr un pethau (mae arian addysg yng Nghymru yn mynd i'r awdurdodau yn gyntaf, mae'n mynd i ysgolion yn uniongyrchol yn Lloegr er enghraifft). Mae trefniadau arolygu a goruwchwylio llywodraeth leol yn y ddwy wlad yn wahanol, ac mae manylion treth y cyngor yn y ddwy wlad yn wahanol. Mewn geiriau eraill byddai syniad Mr Kilfoyle yn creu anhrefn gweinyddol ar sawl lefel petaent yn cael eu gwireddu.

Hwyrach y byddai Mr Kilfoyle yn fodlon gwirfoddoli i sortio'r blydi llanast allan?

Sunday, December 20, 2009

Deunydd etholiadol Ceidwadwyr Aberconwy - y pwynt pwysig



Diolch i'r blogiwr lled Geidwadol o Aberconwy, Oscar am dynnu ein sylw at y ffaith bod deunydd etholiadol hynod sgleiniog a phroffesiynol Ceidwadwyr Aberconwy yn cael ei gynhyrchu yn Guilford, Surrey.

'Dydi Oscar ddim yn hapus - mae o'r farn y dylai Toriaid Aberconwy gefnogi busnesau lleol trwy roi gwaith iddynt (yn arbennig cyn eu bod yn honni eu bod yn gefnogol i fusnesau lleol). Mae ganddo bwynt, ond efallai ei fod ychydig yn rhy bersonol o ran ei sylwadau. Mae'n beio'r ymgeisydd lleol, Guto Bebb am beidio a rhoi ei droed i lawr. Nid Guto ydi'r broblem, ond diwylliant mewnol y blaid Doriaidd Cymreig.

Mae llawer iawn o ddeunydd etholiadol y Ceidwadwyr ar gyfer pob math o etholiadau yn cael ei gynhyrchu yn Lexicon House. Byddwn yn tybio mai rhesymau masnachol sydd y tu ol i hyn, yn ol pob tebyg bod gan y Toriaid gytundeb efo TPF Group, ac oherwydd eu bod yn gallu rhoi cymaint o waith iddynt, maent yn cael telerau arbennig o dda.

Yn y misoedd cyn i'r etholiad cyffredinol gael ei galw, does yna ddim 'cap' ariannol ar faint y caiff pleidiau wario. Mae'r Toriaid yn gwario'n sylweddol iawn, iawn tros y cyfnod hwn mewn seddau targed - seddau megis Aberconwy. Daw'r arian ar gyfer hyn i raddau helaeth o gyfeiriad y blaid yn ganolog. Mae'n ddealladwy ar un olwg bod Millbank Road eisiau macsimeiddio effaith yr holl arian maent yn ei wario trwy sicrhau'r gwerth gorau am arian.

Mae hyn i gyd yn anffodus i gwmniau argraffu megis Design2print neu Ads2life sydd wedi eu lleoli yn yr etholaeth, ac mae'n anffodus i gwmniau argraffu bach ar hyd a lled Cymru a'r DU. Ond nid problem strategwyr y Blaid Doriaidd ydi hynny wrth gwrs, maen nhw eisiau cymaint o bamffledi yn glanio ar stepan drysau pobl am cyn lleied o bres a phosibl.

'Dwi'n siwr y byddai'n well gan Doriaid Aberconwy roi busnes i gwmniau lleol, ond nid nhw sydd biau'r dewis. Go brin y byddai Plaid Cymru yn ganolog eisiau cynhyrchu eu deunyddiau etholiadol yn Surrey hyd yn oed petai hynny'n arbed pres, ond petai hynny'n digwydd ni fyddai'r pleidiau'n lleol yn goddef y sefyllfa. Ymddengys nad oes pwysau yn dod o gyfeiriad pleidiau lleol yng Nghymru. A dyna ydi'r gwahaniaeth wrth gwrs - plaid Gymreig ydi Plaid Cymru, a Chymru ydi blaenoriaeth ei haelodau. Mae'r hyn sy'n lleol yn bwysig.

Plaid Brydeinig ydi'r Blaid Geidwadol ac nid Cymru ydi blaenoriaeth ei haelodau hithau. Dydi'r hyn sy'n lleol ddim mor bwysig. Mae'r stori bron yn ddameg o pam na ddylai'r sawl sy'n ystyried Cymru'n wlad bleidleisio tros y Blaid Doriaidd.

Saturday, December 19, 2009

Dilynwyr gwersyll Gwilym

Ychydig iawn o arwyr go iawn sydd gan Gymru - wel ers dyddiau Owain Glyndwr beth bynnag. Beth dwi'n ei olygu efo arwyr go iawn ydi pobl lle nad oes yna unrhyw amheuaeth o gwbl am eu dewrder moesol, ysbrydol a chorfforol. Waeth i ni wynebu'r peth 'dydan ni ddim fel yr Iwerddon yn hyn o beth - mae ganddyn nhw lawer iawn o arwyr, a dweud y gwir mae ganddynt lawer mwy nag ydynt eu hangen nag yn wir eu heisiau.



Ond mae'n dda gen i ddatgan i'r genedl bod y bwlch trist yma'n cael ei lenwi fel 'dwi'n 'sgwennu'r ychydig eiriau hyn. Son ydw i wrth gwrs am y criw bach o bobl fydd yn gadael sylwadau ar flog Gwilym Euros (gellir gweld rhai o'u sylwadau yma, yma, yma ac yma enghraifft). Mae'r doethinebu yma'n ofnadwy, ofnadwy o ddewr - maen nhw'n galw eu gwrthwynebwyr gwleidyddol yn fradwyr dragwyddol. Maen nhw hefyd o bryd i'w gilydd yn galw ar pob cynghorydd sy'n pleidleisio yn groes i Lais Gwynedd i ymddiswyddo, i aelodau o'r cyhoedd sy'n dadlau'n groes i safbwyntiau LlG gael eu diswyddo tra'n egluro'r ffaith nad ydi eu gwrthwynebwyr yn cytuno efo LlG yn nhermau problemau iechyd meddwl, problemau deallusrwydd, diffyg moesau neu gefndir ethnig anaddas neu oedran ar ran y cyfryw wrthwynebwyr. 'Dydi'r hogiau (neu'r genod) ddim wedi cweit magu'r dewrder i roi eu henwau wrth eu sylwadau eithafol a gwrth ddemocrataidd eto, ond dyna fo, fedran ni ddim cael pob dim.

Mae'n hawdd chwerthin ar ben nifer o'r cyfraniadau amrwd ar y blog, ac mae'n hawdd crechwenu wrth feddwl am bobl sy'n ystyried eu bod yn ddewr am ddweud pethau mawr yn ddi enw ar dudalen sylwadau blog, ond mae ochr ddifrifol i'r peth i gyd os ydi rhywun yn aros i feddwl am funud. Mae gan yr agwedd yma at wleidyddiaeth - y gred bod methiant i gydymffurfio a'ch barn chi yn deillio o broblemau meddyliol, moesoldeb isel, typdra neu gefndir ethnig anaddas - hanes hir wrth gwrs. I unrhyw un sy'n meddwl bod y math yma o beth yn dderbyniol mewn ymgom wleidyddol byddwn yn awgrymu eu bod yn darllen The Gulag Archipelago gan Solzhenitsyn neu fynd i weld cynhyrchiad o feirniadaeth feistrolgar Arthur Miller o ymysodiadau McCarthy ar werthoedd democrataidd America - The Crucible. Yno, mae gen i ofn mae pen draw eithafol methiant i dderbyn bod gan bawb hawl i'w farn, a hawl i fynegi'r farn honno.

Mi fyddai dyn yn gobeithio ein bod ni'n symud i gyfeiriad mwy democrataidd, cynhwysfawr a goddefgar erbyn heddiw - a dwi'n siwr ein bod ni. Ond mae'n drist gweld yr hen agweddau yma'n dod i'r wyneb o bryd i'w gilydd drachefn.

Peidiwch a fy ngham ddeall i - dwi'n credu 100% yn yr hawl i ymosod ar wleidyddiaeth eraill - mae'r blog yma'n dystiolaeth o hynny, fel mae'r ffaith fy mod yn cyhoeddi pob ymysodiad ar fy ngwleidyddiaeth sy'n ymddangos ar y blog cyn belled nad yw'n enllibio neb.

Y broblem ydi pan mae yna bobl yn credu nad oes gan eraill hawl i farn wleidyddol sy'n wahanol i un nhw eu hunain. Dyna sy'n gallu gwenwyno gwleidyddiaeth a gwneud prosesau democrataidd yn aneffeithiol. Dydi parch personol tuag at eraill ddim yn angenrheidiol er mwyn i werthoedd democrataidd ffynnu (er ei fod yn help) - ond mae parch tuag at yr egwyddor bod pobl eraill efo hawl i farn amgen yn angenrheidiol.

Friday, December 18, 2009

Kim Howells yn gadael yr adeilad


Mae Kim yn gadael San Steffan ar ol etholiad 2010, ac felly'n gadael ymgeisyddiaeth Llafur yn sedd saff Pontypridd yn wag.



Mae'n rhaid bod Alun Puw yn dragwyddol ddiolchgar iddo am aros hyd iddo ennill ymgeisyddiaeth Llafur yn Arfon cyn gwneud y datganiad.

Thursday, December 17, 2009

Parrotgate, datblygiadau pellach



Rydym wedi edrych sawl gwaith ar Parrotgate - y fargen sy'n ymddangos i fod wedi ei tharro rhwng Nick Bourne a Mohammad Asghar i'r naill adael i'r llall gyflogi aelodau o'i deulu a sicrhau ail safle iddo ar restr y De Ddwyrain ar yr amod ei fod yn troi at y Blaid Doriaidd. Rydym hefyd wedi edrych ar beth mae hyn yn dweud wrthym am ddiffyg egwyddorion a'r diffyg parch at weithdrefnau sydd gan y Blaid Doriaidd Gymreig. Edrych ar fater cysylltiedig y byddwn isod.

Yn hwyr nos Sadwrn diwethaf gadawyd y neges ganlynol dudalen sylwadau un o'r blogiadau yr oeddwn wedi ei 'sgwennu ynglyn a Parrotgate:

Cytuno yn llwyr - os di dy ddamcaniaeth yn gywir. Fe fyddwn yn rhyfeddu serch hynny pe byyddai Mr Ashgar yn cael ei drin yn wahanol i bob ymgeisydd arall.Heb fod yn hyll ond pa syndod oedd dewis Plaid Cymru i ddilyn Adam? Yn lleol mae 'na honiadau o gam ddefnyddio pleidlais bost ayb? Dim son am hyn gan Flog Menai ond mae aelodau Plaid yn y rhanbarth yn codi'r mater efo fi!

Mae'r awdur yn honni mai fo ydi Guto Bebb, darpar ymgeisydd y Toriaid yn Aberconwy.

Ceir dau ran i'r sylwadau. I ddechrau ceir awgrym mai damcaniaeth gennyf i ydi'r cytundeb rhwng Bourne a Mohammad Asghar - rhywbeth sy'n amlwg ddim yn wir. Mae Golwg360, y Bib a'r Western Mail wedi dyfynnu'r naill ddyn neu'r llall yn cadarnhau bod bargen. Does yna ddim awgrym hyd yn hyn bod yr honiadau wedi eu gwadu gan Bourne na Mohammad Asghar.

Gadawodd Guto nifer o sylwadau pellach tros y diwrnod neu ddau diwethaf (gellir eu gweld yma) - ei fod o wedi gwirio gyda gwahanol swyddogion yn ei blaid na fydd Mohammad Asghar yn cael ei drin yn wahanol i neb arall yn y broses dewis ymgeisyddion a bod hynny wedi ei gyfathrebu i'r cyfryngau. Nid yw'n gwneud sylw ynglyn a'r honiad yn y Western Mail bod cytundeb rhwng Bourne a Mohammad Asghar ynglyn a chaniatau iddo gyflogi aelodau o'i deulu.

'Rwan, 'dwi'n un gweddol dda am ddilyn y newyddion ar y cyfryngau Cymreig, ond does gen i ddim cof i'r wybodaeth na fydd Mohammad Asghar yn derbyn triniaeth ffafriol ymddangos ar unrhyw gyfrwng arall. Does gen i ddim lle i gredu chwaith i Golwg, na'r Western Mail na'r Bib dderbyn gwybodaeth bod y Toriaid yn ystyried eu hadroddiadau yn gamarweiniol. Hyd y gwelaf i dim ond ar flogmenai mae'r 'camargraff' mae'r cyfryngau prif lif wedi ei roi wedi ei 'gywiro'. 'Dwi'n ddiolchgar i Guto am yr egsgliwsif wrth gwrs, a 'dwi'n eithaf balch o'r darlleniad cymharol uchel sydd gan y blog hwn, ond byddwn yn awgrymu bod y Toriaid Cymreig yn mynnu bod y cyfryngau prif lif o dan sylw yn cywiro'r hyn maent wedi ei honni am weithdrefnau dewis ymgeisyddion y Toriaid.

Yn y cyfamser os nad oes neb wedi egluro i Mohammad Asghar nad yw ei ail le ar restr y Toriaid yn Ne Ddwyrain Cymru yn ddiogel, 'dwi'n fwy na pharod i'w e bostio efo'r newyddion drwg.

Honiad o dwyll a thor cyfraith yn y broses o ddewis olynydd i Adam Price yn Nwyrain Caerfyrddin / Dinefwr a cherydd i flogmenai am beidio son am y cyfryw dwyll a thor cyfraith ydi ail ran y sylw gwreiddiol. Doedd yna ddim tystiolaeth i gefnogi'r sylwadau, dim ond honiad bod aelodau o'r Blaid wedi rhoi'r genadwri i Guto. Pe byddai 'Pleidwyr' am gwyno, byddai dyn yn meddwl y byddent yn gwneud hynny i Dy Gwynfor neu Stryd y Gwynt, yn hytrach nag i swyddfa'r Toriaid yn Llandudno - ond dyna fo.

Ers hynny mae Guto wedi manylu rhyw gymaint ar yr honiadau. A bod yn onest 'dwi ddim yn siwr os ydi'r manylu hwnnw yn taflu unrhyw oleini ar bethau. Honni roedd ar y cychwyn bod cam ddefnyddio pleidlais bost ayb wedi digwydd. Yn ei sylwadau diweddarch mae'n dweud bod Jonathan Edwards wedi ennill trwy bleidleisiau post er iddo berfformio'n wan iawn ar y ddwy noson o hystings. Dydi o ddim yn glir os mai son am anerchiad Jonathan mae Guto pan mae'n son am berfformiad gwan, 'ta son am y pleidleisiau a gafodd eu bwrw ar y nosweithiau. Yn sicr byddai hynny'n gryn syndod i mi gan nad yw'n bosibl cymharu sut bleidlais gafodd y gwahanol ymgeisyddion ar y noswaith a thrwy bleidlais bost, oherwydd i'r pleidleisiau i gyd gael eu cymysgu cyn eu cyfri.

Rwan os mai'r oll sydd gan Guto ydi bod rhywun neu'i gilydd wedi dweud wrtho i Jonathan berfformio'n wan iawn ar y ddwy noson o hystings, yna mae hynny'n sail treuenus o dila i gyhuddo pobl o rhywbeth a allai eu cael o flaen eu gwell.

Oherwydd fy mod yn digwydd cadw blog mi fyddaf yn aml yn cael stori gan rywun neu'i gilydd sy'n dechrau efo rhywbeth fel - mae hwn a hwn wedi dweud hyn a hyn am hwn a hwn _ _ . Heb swnio'n dduwiol, fydda i byth yn ystyried cyhoeddi stwff felly oherwydd nad ydi ail ddweud rhywbeth mae rhywun di enw wedi ei ddweud yn dystiolaeth o unrhyw fath yn y byd - a wna i ddim cyhoeddi rhywbeth cymharol ddi niwed sydd heb dystiolaeth y gallaf gyfeirio ato - heb son am honiadau o dorri cyfraith etholiadol. Blogiwr amaturaidd ydw i - mi fyddwn i wedi disgwyl gwell na hel clecs ar y We am fater mor ddifrifol gan ymgeisydd seneddol ar ran un o'r prif bleidiau Prydeinig.

Beth bynnag mi hoffwn wahodd Ceidwadwyr Aberconwy i gyflwyno unrhyw dystiolaeth go iawn o dwyll sydd ganddynt naill ai i'r Blaid yn ganolog, neu - yn well - i'r heddlu. Os nad oes tystiolaeth* yn cael ei gynnig gan Guto byddaf yn cymryd mai rhan o ymgyrch bardduo - smear campaign - cwbl ddi sail gan Geidwadwyr Aberconwy ydi'r sylwadau sydd wedi eu gadael ar fy mlog.

* Dydi gwneud honiad sy'n cychwyn efo'r geiriau yn lleol mae na honiadau _ _ _ ddim yn dystiolaeth - neu mi fyddai'r honiad cwbl gelwyddog canlynol wedi ei gefnogi gyda thystiolaeth - yn lleol mae na honiadau bod pawb a bleidleisiodd mewn ffordd arbennig yn yr etholiad i ddewis ymgeisydd Toriaidd yn Aberconwy wedi cael peint o Mackesons am ddim yn y St Georges 'ar ol yr hystings, pa syndod oedd dewis y Toriaid?

Wednesday, December 16, 2009

Martyn Jones yn gwastraffu amser ac ynni yn poeni am ei etholwyr


Diolch i Politics Cymru a Plaid Wrecsam am dynnu fy sylw at y datganiad rhyfeddol yma gan Aelod Seneddol De Clwyd, Martin Jones:

I'm concerned about the number of people with long-term conditions in my constituency who may be choosing to go without vital medicines as a result of the recession and the rising costs of fuel and other bills. Gordon Brown was right to promise free prescriptions for people with long-term conditions, but he must now follow through and implement this promise as soon as possible.


Mae'n rhaid bod pawb yn y wlad ag eithrio Mr Jones druan yn gwybod bod prescripsiwns yn rhad ac am ddim yng Nghymru, ac felly i'w holl etholwyr.

Y peth mwyaf dychrynllyd ydi bod Martin ar y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig, ac felly'n craffu ar yr holl ddarnau o ddeddfwriaeth sy'n cael eu hanfon o'r Cynulliad i San Steffan o dan y drefn LCOs. Ac eto, dydi'r dyn ddim yn gwybod am un o brif bolisiau ei blaid ar lefel Cynulliad.

Tybed o ble mae'r Blaid Lafur Gymreig yn dod o hyd i'w gwleidyddion?

Tuesday, December 15, 2009

Aled, Paul ac Emmet

Ond tydi'r Bib yn dda dywedwch efo'i draddodiad o newyddiadura eofn, prydlon a chywir?

Roedd hi'n arbennig o dda deall felly bod blog Vaughan - sydd bellach yn nwylo Aled ap Dafydd - wedi dal i fyny a stori Paul Gogarty yn rhegi yn y Dail o'r diwedd. Roedd blogmenai yno o'i flaen wrth gwrs.

Yn wahanol i blogmenai roedd Aled rhy swil i gynnwys y fideo ar y blog, na hyd yn oed gynnig linc - mi awgrymodd ein bod yn chwilio ar y We am y digwyddiad. Ymddengys bod Aled hefyd rhy swil i edrych ar y fideo - mae'n honni mai dweud wrth y 'dirprwy lefarydd ble i fynd' wnaeth Paul. Dweud f*** you wrth Emmet Stagg oedd y dyn mae gen i ofn. Dyna pam mae'n dweud f*** you Deputy Stagg ddwywaith mae'n debyg.

Brendan Howlin ydi'r dirprwy lefarydd, nid Emmet Stagg - cyn weinidog sy'n perthyn i'r Blaid Lafur (a brawd yr ymprydiwr gweriniaethol Frank Stagg, a fu farw yng Ngharchar Wakefield yn 1976) ydi o. Petai'n cyfeirio at Howlin byddai'n ei alw'n Leas-Cheann Comhairle neu Leas-Cheann Comhairle Howlin, nid Deputy Stagg.

Fel y dywedais, eofn, prydlon a chywir.

Parrotgate - y diweddaraf



Fe gofiwch i ni edrych ar hanes rhyfedd ymadawiad Mohammad Asghar ac ar honiadau gan Golwg 360 a gan y Bib bod arweinydd y Ceidwadwyr, Nick Bourne a Mohammad Asghar ei hun yn cadarnhau i Bourne gynnig yr ail safle ar restr y De Ddwyrain am ddod trosodd at y Ceidwadwyr. Mae hyn ynddo'i hun yn ddiddorol oherwydd y byddai addewid o'r fath yn groes i drefn arferol dewis ymgeiswyr y Ceidwadwyr, a byddwn yn tybio ei fod hefyd yn groes i gyfansoddiad y Ceidwadwyr. A dweud y gwir byddwn yn mynd ymhellach ac yn dweud petai'r honiadau yn wir byddai'r Blaid Geidwadol Gymreig yn agored i gamau cyfreithiol (a chostau sylweddol) gan unrhyw ddarpar ymgeisydd a fyddai'n meddwl bod trefniant bach Nick ac Oscar wedi effeithio'n negyddol arnyn nhw.



Ta waeth am hynny, mae'r stori wedi cymryd tro ychwanegol heddiw. Yn ol y Western Mail mae Mohammad Asghar wedi cadarnhau ar raglen radio mai'r hyn a'i wthiodd yn y diwedd at y Toriaid oedd oherwydd i Ieuan Wyn Jones wrthod rhoi caniatad iddo gyflogi aelod o'i deulu - Natasha. Hwyrach y byddwch yn gwybod bod y Blaid wedi penderfynu cadw at argymhellion Syr Roger Jones yn llawn - er nad ydi'r Cynulliad yn debygol o orfodi'r argymhelliad sy'n gwahardd ACs rhag cyflogi aelodau o'u teuluoedd eu hunain.

Pan ofynwyd i Oscar os oedd wedi trafod hyn oll efo Bourne, ei ateb anfarwol oedd -

Yes, they know all about it ... I know the Conservative Party, their priority is to make every family in the United Kingdom prosperous and happy.

O leiaf mae hyn yn rhoi rhyw fath o fframwaith i'r holl fflipio tai a hawlio costau am ffosydd o gwmpas y stadau a'r ynysoedd hwyaid ac ati - rhan o bolisi'r Toriaid i wneud pawb yn gyfoethocach oedd y peth i gyd. Roedden nhw wedi penderfynu dechrau ar yr ymgyfoethogi efo nhw eu hunain mae'n debyg.

Hyd y gwelaf i mae'n rhesymol casglu bod Bourne wedi cael sgwrs efo
Mohammad Asghar a gofyn iddo beth allai ei wneud iddo a bod Mohammad Asghar wedi dweud - rhoi fy enw yn uchel ar restr rhanbarthol a gadael i mi roi joban i Tasha - a bod Bourne wedi dweud - dim problem.

Rwan, fedra i ddim profi mai dyna ddigwyddodd - ond mae tystiolaeth tri ffynhonell newyddion prif lif yn awgrymu hynny'n gryf. Os ydi hyn oll yn wir mae'n adlewyrchu'n ddrwg iawn ar safonau'r Blaid Doriaidd yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hefyd yn ffitio'n eithaf del i mewn i ddwy naratif newyddiadurol bwysig yn ystod y flwyddyn diwethaf - cam ddefnydd o arian y cyhoedd ac addasrwydd Nick Bourne i arwain y Blaid Doriaidd yng Nghymru. Am y rheswm hwnnw mae tu hwnt i mi pam nad yw'r cyfryngau prif lif wedi ymddiddori mwy yn y stori.

Mae'n bosibl fy mod yn gwneud cam a'r Toriaid - mae Guto'n rhyw awgrymu mai cam riportio gan y cyfryngau sydd tu ol i'r peth. Mae hyn yn bosibl, ond yn anhebygol. Yr hyn sydd yn sicr ydi hyn - petai Bourne yn dweud yn gyhoeddus nad oes unrhyw wirionedd yn yr honiad iddo addo lle ar y rhestr i Mohammad Asghar na rhoi caniatad iddo roi joban i'w ferch, byddai'n lladd y stori.

Neu mi fyddai hyd y byddai'r joban neu'r lle ar y rhestr yn ymddangos.

Monday, December 14, 2009

'Gwan, crafllyd ac mewn cariad efo fo ei hun'


Yn wahanol iawn i'r Aelod Seneddol Ceidwadol o Orllewin Clwyd fydd Blogmenai byth yn cyfeirio at unrhyw beth sy'n ymddangos yn y Times - does yna byth bron unrhyw beth o ddiddordeb yn y papur. Ond, er mawr syndod i mi roedd yna rhywbeth heddiw - erthygl gan Ken Macdonald, cyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus o 2003 i 2008. 'Dwi'n dyfynnu'r cychwyn, ond mae'n werth darllen yr erthygl yn llawn:

The degree of deceit involved in our decision to go to war on Iraq becomes steadily clearer. This was a foreign policy disgrace of epic proportions and playing footsie on Sunday morning television does nothing to repair the damage. It is now very difficult to avoid the conclusion that Tony Blair engaged in an alarming subterfuge with his partner George Bush and went on to mislead and cajole the British people into a deadly war they had made perfectly clear they didn’t want, and on a basis that it’s increasingly hard to believe even he found truly credible. Who is any longer naive enough to accept that the then Prime Minister’s mind remained innocently open after his visit to Crawford, Texas?

Hindsight is a great temptress. But we needn’t trouble her on the way to a confident conclusion that Mr Blair’s fundamental flaw was his sycophancy towards power. Perhaps this seems odd in a man who drank so much of that mind-altering brew at home. But Washington turned his head and he couldn’t resist the stage or the glamour that it gave him. In this sense he was weak and, as we can see, he remains so. Since those sorry days we have frequently heard him repeating the self-regarding mantra that “hand on heart, I only did what I thought was right”. But this is a narcissist’s defence and self-belief is no answer to misjudgment: it is certainly no answer to death. “Yo, Blair”, perhaps, was his truest measure.


Yr hyn mae Ken Macdonald yn ei ddweud ydi bod Blair wedi arwain y DU i ryfel trwy dwyll a chelwydd, ei fod o wedi gwneud hynny oherwydd ei fod yn ddyn gwan oedd eisiau crafu o gwmpas pen ol George Bush, a'i fod yn defnyddio ei hunan gariad pathetig i gyfiawnhau'r hyn wnaeth.

A allai unrhyw un a welodd y pantomeim chwydlyd ddoe ar y bocs amau nad ydi disgrifiad Ken Macdonald yn ffitio Blair fel maneg?

Sunday, December 13, 2009

Refferendwm Catalunya


Os ydych yn cael y rhan fwyaf o'ch newyddion gan y BBC neu'r cyfryngau prif lif ni fyddwch yn gwybod bod refferendwm ar annibyniaeth yn Catalunya heddiw. Mae yna un.

Yn anffodus dydi hi ddim yn un swyddogol - dydi cyfansoddiad Sbaen ddim yn caniatau i'r cwestiwn gael ei ystyried. Fodd bynnag mae llawer o drefi yn pleidleisio mewn refferendwm answyddogol heddiw - 700,000 o bobl i gyd. Mae refferendwm mewn rhai llefydd eisoes wedi digwydd ac mae mwy wedi eu trefnu yn ystod y flwyddyn newydd.

Gallwch ddilyn canlyniadau heno yn fyw ar flog penigamp Syniadau, ac mae Jill Evans hefyd yn blogio'n fyw o Catalunya.


Saturday, December 12, 2009

Senedd grog, Holtham a chyfle heb ei ail i'r Blaid


Bydd gwleidyddion yn ymateb i ganfyddiadau sal gan y cwmniau polio yn aml trwy ddweud mai dim ond etholiadau go iawn sy'n bwysig. Rwan, mae yna etholiadau go iawn yn cael eu cynnal bron i bob dydd Iau trwy'r flwyddyn. Is etholiadau y cynghorau lleol ydi'r rhan fwyaf ohonynt. I'r sawl sydd a diddordeb gellir gweld y rhan fwyaf o'r canlyniadau wythnosol yma. Y Lib Dems sy'n cynnal y safle gyda llaw - sy'n profi nad ydi hyd yn oed y blaid honno yn gwbl ddi bwrpas.

O edrych ar ganlyniadau'r ychydig fisoedd diwethaf yr hyn sy'n amlwg ydi mor sal ydi perfformiad y Toriaid ar lefel lleol. Mae'r mater wedi derbyn ychydig o sylw ar flog y Tori, Iain Dale, ac ar ConservativeHome. Cymerer canlyniadau nos Iau diwethaf er enghraifft. Symudiadau canrannol y Toriaid oedd -14%, -11%, +2%, -30%, -10%, -3%, -13% a -8%. Collwyd tair sedd, dwy i Lafur ac un i'r Lib Dems. Mae'r canlyniadau yma'n eithaf erchyll - ond dydyn nhw ddim llawer gwaeth na beth sydd wedi bod yn digwydd pob nos Iau am rai misoedd.

Mae'n rhaid pwysleisio mai cwymp yng nghanran eu pleidleisiau oddi ar etholiadau lleol ar ol 2005 ydi'r canlyniadau hyn - a gwnath y Toriaid yn dda yn y rhan fwyaf o'r rheiny. Mae'r Toriaid hefyd yn rheoli llawer o gynghorau ar hyn o bryd, a dydi'r sawl sy'n rheoli cynghorau ddim yn boblogaidd mewn aml i ardal ar hyn o bryd. oherwydd nad ydi'r hinsawdd economaidd yn dda ac mae pleidiau lleol yn gorfod ymateb i hynny.

Serch hynny o gymryd y patrwm gweddol gyson yma ar lefel lleol, ynghyd a pherfformiad llai na gwych y Toriaid yn y polau 'cenedlaethol' yn ddiweddar, mae'n briodol gofyn faint o wynt sydd yn hwyliau'r blaid mewn gwirionedd? Yn sicr dydi'r ffigyrau yn y polau ddim yn agos at lle'r oedd rhai Llafur yn ol yn 1996. Dydyn nhw ddim chwaith wedi perffeithio naratif gwleidyddol effeithiol na magu delwedd atyniadol sy'n hawdd ei marchnata, fel y gwnaeth Llafur ynh nghanol y nawdegau.

Mae hyn oll yn rhoi cyfle heb ei ail i Blaid Cymru yn etholiadau San Steffan. Prif thema'r etholiad hwnnw fydd yr economi, ac effaith tebygol toriadau mewn gwariant cyhoeddus. Bydd hyn yn arbennig o wir yng Nghymru, gan bod ein heconomi'n fwy dibynnol ar wariant cyhoeddus na sy'n wir yn Lloegr a'r Alban.

Os bydd canfyddiad bod posibilrwydd o senedd grog fel mae'r etholiad yn dynesu, yna bydd hynny'n cynnig cyfle go iawn i'r Blaid. Mantra Llafur yng Nghymru fydd - fotiwch i ni neu mi gewch chi doriadau Toriaidd (mae toriadau Toriaidd yn waeth na rhai Llafur dach chi'n gweld). Ymateb y Blaid ddylai fod - ein pris ni am gefnogi llywodraeth yn San Steffan ydi gweithredu argymhellion Holtham yn llawn ac ar unwaith.



Mi fyddwch yn gwybod mai adroddiad gan Gerald Holtham ar y ffordd mae Cymru'n cael ei hariannu ydi Adroddiad Holtham. Comisiynwyd yr adroddiad yn sgil cytundeb Cymru'n Un. Mi fyddwch hefyd yn gwybod mai un o brif gasgliadau Gerald Holtham yw nad yw Cymru'n cael yr adnoddau sy'n briodol iddi. Byddai gweithredu'r argymhellion yn golygu y byddai Cymru'n elwa o rhwng £5 biliwn ac £8 biliwn tros y ddegawd nesaf o gymharu a'r drefn bresenol.

'Dwi'n hollol argyhoeddiedig mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o facsimeiddio cefnogaeth y Blaid mewn etholiad cyffredinol fel un 2010 - etholiad fydd yn cael ei hymladd mewn tirwedd lle mai'r bygythiad i wariant cyhoeddus fydd y prif bwnc.

Am y tro cyntaf erioed efallai mewn etholiad cyffredinol byddwn yn gallu dadlau'n ddifrifol mai pleidlais i'r Blaid ydi'r ffordd orau i bobl sicrhau eu budd economaidd nhw eu hunain yn y tymor byr a'r tymor canolig. Yn y gorffennol dydan ni ddim wedi gallu gwireddu'n potensial mewn etholiadau oherwydd mai pleidiau Prydeinig oedd yn gallu cynnig addewid o ddyfodol economaidd gwell i bobl.

O fod yn lwcus, ac o chwarae'n cardiau'n iawn, gallwn droi'r sefyllfa ar ei ben y tro hwn.

Friday, December 11, 2009

Aelod o'r Blaid Werdd yn cael y myll

Mae'n ddigon posibl y bydd y Blaid Werdd (Brydeinig) yn dod o'r etholiad cyffredinol nesaf gydag aelod seneddol neu ddau. Mae gan y blaid Wyddelig eisoes aelodau seneddol - pobl fel Mr Paul Gogerty - seren y fideo isod. Efallai y bydd Ty'r Cyffredin ychydig yn fwy bywiog o'u cael yno yn dadlau eu hachos.

Rhybudd - peidiwch ag edrych ar y fideo os ydi gwrando ar iaith anweddus yn peri loes i chi.


'Dwi ddim yn meddwl y bydd y digwyddiad uchod yn gwneud drwg mawr i'w obeithion o gael ei ail ethol (er gwaethaf ei ofnau ei hun) - mae'n cynrychioli Dublin Mid West. Yn y nawdegau cynnar mi gafodd gwrthrych ei lid ar y fideo, Emmet Stagg, ei ail ethol gyda mwyafrif sylweddol gan bobl dda Kildare ar ol digwyddiad oedd llawer mwy anffodus a di chwaeth na'r un uchod hyd yn oed.

Mae gan Paul hanes o ymddwyn yn od pan mae gwleidyddion nad yw'n hoff ohonynt yn siarad. Mewn cyfarfod cyhoeddus yn ei etholaeth aeth i orwedd ar y llawr a chymryd arno ei fod wedi marw pan oedd Frances Fitzgerald - seneddwraig sy'n perthyn i Fine Gael yn siarad.

Thursday, December 10, 2009

Ydi Llais Gwynedd wedi rhannu ar fater ysgolion Bro Dysynni?

Fe wyddoch mae'n debyg gen i bod Cyngor Gwynedd yn pleidleisio ar ail strwythuro ysgolion ym Mro Dysynni yn Ne Meirion heddiw. Os ydych yn dilyn blog Gwilym Euros mi fyddwch wedi darllen cryn dipyn am y pwnc tros y dyddiau diwethaf. Fydda i ddim fel rheol yn gwneud sylwadau ynglyn a gwleidyddiaeth y byd addysg, ond 'dwi am wneud eithriad yma.

Mae yna si o gwmpas i un o gynghorwyr mwyaf blaenllaw Llais Gwynedd bleidleisio o blaid y cynnig i newid y ddarpariaeth yn yr ardal.

'Rwan, doeddwn i ddim yn y cyfarfod, felly dydw i ddim yn gwybod pwy bleidleisiodd i beth - ond mater bach fyddai darganfod os ydi'r si yn wir - cofnodwyd y bleidlais.

Os ydi'r stori'n wir byddai'n gryn ryfeddod i mi bod Llais Gwynedd yn ranedig ar y mater hwn o bob mater. Wedi'r cwbl yr hen gynllun ail strwythuro ysgolion oedd yn gyfrifol am eu ffurfio yn annad dim arall. Rhyfedd o fyd.

Sut yn union mae'r Toriaid yn dewis eu hymgeiswyr?


Trydydd blogiad am Oscar mae gen i ofn - mi wnawn o'n un byr. Wna i ddim trafferthu efo llwyth o lincs - mae'r hyn dwi'n son amdano yn eithaf clir yn nhudalennau sylwadau y ddau flogiad isod ar helynt Oscar.

Mae'n ymddangos o dystiolaeth Golwg360 bod Oscar yn credu ei fod wedi cael cynnig yr ail le ar restr y Toriaid yn 2011 yn y De Ddwyrain. Mae Alwyn ap Huw yn tynnu ein sylw at y ffaith bod y Bib hefyd yn honni i Nick Bourne gadarnhau iddo gynnig yr ail le i Oscar. Felly mae bron yn sicr bod rhyw lun ar gytundeb rhwng y ddau ddyn. Mae Guto Bebb wedi ein sicrhau bod gan y Toriaid drefn ddemocrataidd iawn o ddewis ymgeisyddion, ac y byddai'n fater 'difrifol 'petai drefn wedi ei gwyrdroi trwy roi addewid i Oscar.

Mae gen i ofn ei bod yn ymddangos i mi bod gan y Toriaid yng Nghymru ddull 'democrataidd' swyddogol o ddewis ymgeisyddion, a dull amgen dan bwrdd sy'n ddibynnol ar ddisgresiwn yr arweinydd Cymreig - dull nad ydi hyd yn oed ymgeiswyr seneddol Toriaidd Cymreig yn gwybod amdano.

Mae trefn o'r fath yn sarhad ar ddemocratiaeth bleidiol, ac yn sarhad ar y creaduriaid druan sy'n ceisio gwneud eu ffordd yn y Blaid Geidwadol trwy'r sianelau swyddogol.

Ach a fi!

Wednesday, December 09, 2009

Oscar a Golwg360


Mae gan Golwg360 stori ddiddorol iawn o gyfweliad neu sgwrs a gaethant efo Mohammad Asghar. Os ydi'r adroddiad yn gywir mae gonestrwydd Oscar ynglyn a'i anonestrwydd ei hun yn rhyfeddol. Mae'n gwbl agored ei fod wedi ymuno gyda Phlaid Cymru er mwyn hyrwyddo ei yrfa wleidyddol ei hun, a'i fod yn ymuno efo'r Toriaid am yr un rheswm yn union. Ceir y dyfyniad uniongyrchol isod gan Oscar yn y darn:

Roedd gan y Ceidwadwyr yr ail sedd [restr] yn y dechrau beth bynnag ac fe enillon ni [ym Mhlaid Cymru] gyda llai na 400 pleidlais. Ond [gyda’r] Ceidwadwyr, fe fydda’ i’n ail ar y rhestr eto. Fe welwn ni wahaniaeth mewn blwyddyn a hanner

Rwan mae'r cwestiwn yn codi, sut goblyn mae Oscar yn gwybod y bydd yn ail ar y rhestr? Mi gyfeiriais at yr honiadau yma mewn blogiad ddoe, ac aeth Guto ati i fy sicrhau yn y dudalen sylwadau bod gan y Toriaid drefn ddemocrataidd iawn o ddewis ymgeisyddion. Dyfynaf ran o'i sylwadau isod:

Yn 1999 cyfarfod cyhoeddus a hystings a gafwyd gyda pawb yn y neuadd yn bwrw pleidlais. Cafwyd sawl esiampl o 'bacio'r neuadd' megis cefnogwyr Peter Rogers yn y Gogledd. Erbyn 2003 yr oedd y drefn o bleidlais bost i bob aelod wedi ei sefydlu a dyna'r drefn a gafwyd yn 2007.

Ar yr olwg gyntaf mae'n ymddangos bod rhywun yn dweud celwydd - Guto, Golwg360 neu Oscar. Mi fedrwn ni ddiystyru Guto i ddechrau, mae'n droellwr gyda'r gorau ohonom, ond 'dwi'n ei adnabod yn ddigon da i wybod nad ydi o'n delio mewn 'ffeithiau' dychmygol.

Mae gen i brofiad personol o gael fy ngham ddyfynu gan Golwg mewn modd oedd yn gwneud i mi ymddangos i fod yn dweud rhywbeth hollol groes i'r hyn roeddwn yn ei ddweud mewn gwirionedd. Felly am wn i ei bod bosibl bod Golwg360 yn bod yn ddethol efo'u dyfyniadau eto - ond byddai'n rhaid bod yn rhyfeddol o ddethol i wyrdroi'r sylwadau hyn.

Posibilrwydd arall ydi bod Oscar yn gwneud y peth i fyny - ond mae'n anodd gweld beth fyddai ganddo i'w ennill trwy wneud hynny.

Mae yna bedwerydd posibilrwydd wrth gwrs - bod yna ffyrdd o gwmpas proses ddethol arferol y Ceidwadwyr, a bod eu hen arferion o ddewis pobl i swyddi trwy ffyrdd sy'n ddirgelwch i bawb, gan gynnwys eu haelodaeth eu hunain , yn cymryd mwy o amser i farw nag y byddai rhai'n hoffi cyfaddef.

Ar nodyn ychydig yn wahanol, un pwynt bach y dylai Oscar fod wedi ei ystyried cyn cymryd y cam arbennig yma i hyrwyddo ei yrfa ei hun ydi hwn - mae'n wir bod y Toriaid o fewn 400 i ennill ail sedd yn y De Ddwyrain yn 2007, ac mae'n wir hefyd y gallai'r Toriaid gael pleidlais uwch yno yn 2011, ond petai'r Toriaid wedi ennill Gorllewin Casnewydd (roedd y mwyafrif Llafur tros y Toriaid yn llai na 1,400) neu Ddwyrain Casnewydd (llai na 2,000 o wahaniaeth) ni fyddant yn agos at ail sedd ranbarthol. Gobeithio bod Oscar yn deall y drefn sydd wedi ei ethol.