Sunday, April 05, 2015

O diar

Mae'n ymddangos mai tric Lib Demaidd wnaeth ffyliad o Chris Bryant, Huw Irranca, Leighton Andrews ac ati.  Bechod.

7 comments:

Anonymous said...

?

Cai Larsen said...

Dydi hyn ddim yn anodd iawn. Y Dib Lems sydd yn enwog am driciau budur etholiadol sy'n rhedeg Swyddfa'r Alban. Mae'r Dib Lems mewn perygl o golli 11sedd i'r SNP. Mae'r memo celwyddog yn dod o Swyddfa'r Alban.

Anonymous said...

Beth ydi dy sail am ddweud mai'r Lib Dems sy'n gyfrifol ? A oes tystiolaeth yn y papur newydd ?

Cai Larsen said...

Wel nhw sy'n gyfrifol am Swyddfa'r Alban, roedd Carmichael yn gwybod am y memo, mae Carmichael yn gwybod pwy ryddhaodd y memo, mae Carmichael yn cydnabod nad yw'n gwybod beth ddywedwyd yn y cyfarfod, a mae Carmichael yn gwrthod dweud pwy ryddhaodd y memo i'r Telegraph.

Anonymous said...

Mae'n rhaid deall fod tipyn o 'hanes' rhyng "Help me Rhona" Carmichael a NS :

https://www.youtube.com/watch?v=HmE03oktbpk

Neu mor gwt :

https://www.facebook.com/SaorAlbaGuBrath/posts/567047646706580

Pam mae'r Cymry yn pleidleisio o hyd dros Lafur yn hytrach nag ymuno â'r 'progressive alliance' sy'n ar gael bellach ???

Anonymous said...

Pam ydych yn ei galw'n Dib Lems?

Cai Larsen said...

Am ei fod o'n swnio'n wirion - fel y blaid ei hun.