'Dwi'n hoff o bres - nid fy mod yn berson anarferol o farus yn y cyswllt hwnnw - 'dwi'n hoff o bres yn yr ystyr ei fod yn linyn mesur da. Mae'r hyn mae pobl yn fodlon talu amdano yn adlewyrchiad uniongyrchol o pa mor bwysig ydi'r cynnyrch hwnnw i'r sawl sy'n prynu. Mae i pob dim bron ei bris - ac mae'r pris hwnnw yn adlewyrchu ar y cynnyrch ei hun, a'r cyd destun yn ogystal a'r prynwr. Os ydym clywed bod rhywun neu'i gilydd wedi gwario cyflog wythnos ar
Foot Tanner, rydym yn dod i gasgliadau yn sydyn am y person hwnnw. Rydym hefyd yn dod i gasgliadau negyddol am bobl sy'n gwario eu holl arian sbar ar alcohol neu gocen. Mae'r cyd destun yn bwysig hefyd wrth gwrs. Ym mron i pob cyd destun ni fyddai neb yn talu mwy am botel o ddwr nag am Rolex - ond petawn ar farw o ddiffyg dwr mewn anialwch mi fyddwn ni'n ffeirio'r Rolex am ddwr heb feddwl dwywaith.
Yn yr un ffordd a mae gwariant personol yn adlewyrchiad ar berson mae gwariant cenedlaethol yn adlewyrchu ar wladwriaethau a'u blaenoriaethau. Mi fedrwn gymryd bod y Sudan - sy'n gwario 28% o'i GDP ar addysg - yn blaenori addysg mwy na'r Somalia sy'n gwario 0.4% i'r pwrpas hwnnw. Yn yr un ffordd mae faint mae gwladwriaeth yn ei wario ar iechyd carchardai, arfau, heddlu, cymorth tramor, system fudd daliadau, pensiynau ac ati yn dweud llawer amdani - o ran ei gwerthoedd neu ei chyd destun, neu gyfuniad o'r ddau. Mae gwlad sydd a phoblogaeth cymharol hen fel Japan yn rhwym o wario mwy ar yr henoed nag un sydd efo poblogaeth ifanc fel Iran.
Daw hyn a ni at ryfeloedd. Mae'r rhain yn ymarferiadau rhyfeddol o ddrud. Mae antics yr Unol Daleithiau yn Irac, Afghanistan a thu hwnt yn y blynyddoedd wedi 9/11 wedi costio cyfanswm o $2 triliwn iddyn nhw. Mae'n bosibl yn bydd costau hir dymor y rhyfeloedd hynny yn dair gwaith cymaint a hynny yn y pen draw. Rhag ofn bod rhywun yn ansicr o'i driliynnau mae yna 12 sero mewn triliwn - felly $2,000,000,000,000 ydi'r cyfanswm.. Mae hynny'n gyfystyr a $6,500 am pob copa walltog sy'n byw yn yr UDA, neu $300 am pawb sydd yn byw ar y Ddaear. Mae tua thraean o boblogaeth y Byd yn byw ar $2 y dydd, neu lai.
Cost rhyfel Afghanistan i Brydain hyd yn hyn ydi tua £38bn. Mae hyn yn swm sylweddol o bres - mae'n gyfystyr a thua £2,000 am pob ty yn y DU. Byddai'n ddigon o bres i dalu am 5,000 o nursus trwy gydol eu gyrfaoedd er enghraifft. Mae'n debyg i gost arfaethiedig y cynllun i adeiladu rheilffordd cyflym HS2 - tua £42.5bn. (Felly bydd pob teulu yng Nghymru yn talu tros i £2,000 am gynllun fydd ddim yn dod ag unrhyw fanteision economaidd i'r wlad gyda llaw). Mae'r llongau cario awerynnau sydd wedi eu harchebu gan y llynges yn debygol o gostio tua £5.2bn.
Sut mae hyn yn cymharu efo'n gwariant bach ni?. Wel, cyfanswm cyllideb y Cynulliad am eleni ydi £14.5bn. Mae'r toriadau yng nghyllideb S4C tua £25m o gyfanswm gwariant o tua £100m dair blynedd yn ol. Cost treuliau aelodau seneddol San Steffan ydi
£98.1m - mwy nag oedd yn cael ei wario pan dorwyd y sgandal treuliau gan y Telegraph. Fel mae cyllideb S4C wedi cael ei dorri mae treuliau'r sawl sy'n gyfrifol am hynny yn cynyddu.
Mae'r gost o redeg Ty'r Cyffredin yn Llundain yn dod i £200.5m, tua hanner yn mynd ar dreuliau aelodau seneddol. Mae'r rhan fwyaf o dreuliau ASau yn cael ei wario ar staff, ac mae tua chwarter yr ASau hynny yn defnyddio arian treuliau i gyflogi aelodau o'u teuluoedd eu hunain. Mae'r cyfanswm yn debyg iawn i wir gost cadw'r Teulu Brenhinol - sefydliad sy'n costio 112 gwaith arlywyddiaeth Iwerddon. Cost cyflogi pobl i gyfieithu cofnodion y Cynulliad fyddai tua £200,000 i £350,000 - llai na hanner cost un o'r taflegrau Cruise roedd Cameron eisiau eu taflu yn eu hugeiniau i ganol llanast Syria. Yr arbediad blynyddol o'r dreth llofft (yn ol llywodraeth y DU) fyddai £505m. Mae cynlluniau sy'n cael eu hystyried i uwch raddio toiledau San Steffan yn £100, 000. Dydi hynny'n ddim oll wrth ymyl cynlluniau i uwchraddio San Steffan yn ei gyfanrwydd - cost hynny fydd tua £1.5bn . Roedd aml i unoliaethwr yng Nghymru yn gwaredu bod adeilad y Cynulliad Cenedlaethol wedi costio tua £67m. Mae rhoi ychydig o baent a phlastar ar San Steffan am gostio 22 o weithiau yr hyn a dalwyd am godi adeiliad y Cynulliad. Fyddwch chi ddim yn clywed yr un bobl yn gwichian am hynny.
Mae'r cymharu uchod yn anheg ar sawl cyfri wrth gwrs. Does yna neb yn dweud - 'Wel mae Ian Paisley Jnr yn bwysicach na chofnod Cymraeg i'r Cynulliad' (mae Ian costio mwy i'w gadw na fyddai gwasanaeth cyfieithu llawn yn ol pob tebyg). Mae'r penderfyniadau yn cael eu gwneud gan ddwy weinyddiaeth wahanol. Hyd yn oed pan mae un weinyddiaeth sy'n gwneud y penderfyniadau gwariant, mae'r gyfrifoldeb am wneud y penderfyniadau manwl wedi eu gwasgaru mor eang fel nad oes modd gwneud cymariaethau ystyrlon rhwng gwahanol elfennau o wariant llywodraethol. Mae hyn yn fwy gwir am wariant San Steffan nag ydyw am wariant y Cynulliad. Ond 'dydi hynny ddim yn golygu na ellir gwneud cymariaethau o gwbl, nag yn wir dod i gasgliadau.
Y casgliad cyntaf ydi bod y ddisgwrs am wariant cyhoeddus yn wirion. Oherwydd bod y swmiau mor fawr, mae pob dim yn edrych yn ddrud o gymharu efo'r mymryn pres rydym ni yn ei drin yn ein bywydau pob dydd. Os ydi rhywun yn cwyno bod A,B neu C yn uffernol o ddrud, a'i bod yn warth gwario cymaint - cymharwch A,B neu C efo U,W ac Y cyn dod i gasgliadau.
Yr ail gasgliad amlwg ydi bod y gwariant torfol sy'n cael ei benderfynu gan lywodraeth yn beth rhyfedd. Byddai rheilffordd cyflymder uchel rhwng Caernarfon a Chaerdydd yn hynod ddefnyddiol i mi yn bersonol. Ond petai rhywun yn gofyn i mi gyfrannu £2,000 tuag ato, byddwn yn meddwl ddwywaith - a theirgwaith. Ond mi'r ydw i am gyfrannu hynny tuag at ryfel Afghanistan a HS2 heb feddwl am y peth. Y rheswm am hynny ydi na fydd neb yn gofyn i mi os ydw i eisiau cyfrannu neu beidio. Mae prosesau rhesymu unigolion a phrosesau rhesymu llywodraethau yn bethau sylfaenol wahanol. Mae hyn yn arbennig o wir am resymu ariannol.
Yr trydydd ydi bod y ffordd mae llywodraethau yn pennu ar wariant yn gallu bod yn gwbl afresymegol. Er gwaethaf yr holl wario ar ryfel Irac, y canlyniad ydi gwlad lle mae awdurdod canolog wedi torri, lle ceir llofruddiaethau secteraidd dyddiol a sy'n cael ei llywodraethu (os dyna'r term) gan weinyddiaeth sy'n lled gefnogol i arch elyn y Gorllewin, Iran. Oedd yr holl gost werth chweil i bobl Irac? Dwi ddim yn gwybod - nid fi ydi'r person i farnu - ond 'dwi'n gwybod nad oedd o werth chweil i'r Gorllewin.
Fel bron i pob rhyfel arall roedd cost rhyfel Irac yn llawer uwch na'r disgwyl - fel Fietnam, fel Afghanistan. Eto dydi rhai llywodraethau Gorllewinol byth yn dysgu dim o brofiad chwerw. Maent yn mynd i pob rhyfel efo'r un agwedd gorffwyll o optimistaidd ag aeth Prydain i'r Rhyfel Byd Cyntaf - 'Mi fydd yr holl beth drosodd erbyn 'Dolig, a fydd o ddim wedi costio llawer'.
Fel efo stori'r Rolex a'r botel dwr, cyd destun sy'n gyfrifol am hyn - mae Prydain, America a Ffrainc efo canfyddiad o'r Byd sy'n eu rhoi nhw yn agos at ei ganol, lle mai ein busnes ni ydi busnes pawb arall. Pan mae gwlad yn gweld ymyryd fel rhan o'i chenhadaeth greiddiol mae'r ymyraeth yn digwydd beth bynnag y gost - fel y bobl hynny sydd efo problem alcohol sy'n ofalus efo pob ceiniog pan mae'n dod i brynu bwyd neu ynni, ond sy'n gwario beth bynnag sydd rhaid ei wario ar alcohol.
.