Sunday, April 30, 2017

Byth yn dysgu

Mae Golwg360 wedi penderfynu arwai yr arlwy heddiw efo 'pol piniwn'  sy'n awgrymu bod y Toriaid yn gwneud yn anhygoel o dda yng Nghymru a phawb arall yn sal iawn.  Fel mae digwyddiadau diweddar wedi dangos mae angen cymryd gofal gyda pholiau ar y gorau - ond mae hynny 'n arbennig o wir yn yr achos yma.



Yr unig broblem ydi nad ydi'r pol yn bol go iawn - rhan o bol Prydain gyfan ydyw a gymerwud gan ORB International ydyw.

Mae yna ddau egwyddor pwysig wrth bolio:

1). Bod y sampl yn ddigon mawr i fod yn ystyrlon.
2). Bod y sampl yn gynrychioladol o'r boblogaeth pleidleisio yn ei chyfanrwydd.

'Dydi'r is set Cymreig ddim yn ateb yr un o'r ddau egwyddor yma.  Dydi'r 100 o bobl sydd wedi eu polio yng Nghymru ddim yn adlewyrchu'r boblogaeth bleidleisio yng Nghymru - er bod y pol cyfan yn adlewyrchu'r boblogaeth pleidleisio Prydeinig.

Ac mae sampl o 100 gyda lwfans gwall (margin of error) o tua 10%.

Mae'r fethedoleg am y pol Prydain gyfan mor ddibynadwy ag unrhyw bol arall - ond 'dydi'r elfen ranbarthol i'r pol ddim - yn arbennig lle mae'r 'rhanbarthau' yn rhai a phoblogaeth bach - fel Cymru. 

Friday, April 28, 2017

Beth fydd effaith yr etholiad cyffredinol ar yr etholiadau lleol?

Mae'r etholiadau cynghorau lleol yn rhai hynod anarferol oherwydd bod etholiad cyffredinol yn eu dilyn ychydig wythnosau'n ddiweddarach.  Fedra i ddim cofio i'r un peth ddigwydd yng Nghymru - er bod etholiadau lleol ac etholiad arall yn dogwydd ar union yr un diwrnod weithiau.  Y cwestiwn diddorol ydi pa effaith gaiff yr etholiad cyffredinol ar yr etholiadau lleol?  Mae'n amhosibl dweud i sicrwydd wrth gwrs - ond mae'n bosibl ceisio bwrw amcan.  Mae'r canlynol yn fy nharo.  

1). Bydd yna fantais i'r Toriaid.  Mae eu cefnogaeth wedi cynyddu ers galw'r etholiad cyffredinol a bydd hynny yn ol pob tebyg yn cael ei adlewyrchu ddydd Iau.

2). Doedd yna neb yn disgwyl i UKIP gael fawr ddim yng Nghymru beth bynnag, ond mae pethau'n edrych hyd yn oed yn waeth rwan - mae galw'r etholiad cyffredinol wedi prysuro'r broses o drosglwyddo pleidleisiau UKIP i'r Blaid Geidwadol.  Byddant yn lwcus o gael un sedd.

3). Bydd pethau'n waeth i Lafur na fyddai wedi bod yn absenoldeb etholiad cyffredinol.  Mae eu cefnogaeth wedi syrthio yn y rhan fwyaf o bolau ers galw'r etholiad.  Bydd eu harweinydd Prydeinig wedi cael ei golbio'n gyson gan y wasg am wythnosau cyn yr etholiad - ac mae hyn yn siwr o gael effaith negyddol ar y bleidlais Llafur.  Bydd hyn wrth gwrs yn fanteisiol i'r pleidiau sydd yn erbyn Llafur - Plaid Cymru yn y Cymoedd, y Blaid, y Toriaid a'r Dib Lems yng Nghaerdydd, y Toriaid yng Nghasnewydd ac Abertawe ac ati.

4). Gallai pethau fod yn fwy anodd i ymgeiswyr annibynnol a grwpiau bach oherwydd y bydd y prif bleidiau wedi cael sylw di ddiwedd cyn yr etholiad.  Gallai hyn fod yn arwyddocaol yn Ynys Mon yn arbennig - ond gallai hefyd fod yn bwysig ar hyd a lled Cymru.   

Thursday, April 27, 2017

Mynd gam ymhellach na'r Dib Lems

Mae'r Dib Lems yn enwog am gam ddefnyddio ffigyrau a graffiau - ond hyd y gwn i dydyn nhw erioed wedi defnyddio pol cyfangwbl ddychmygol - er na fyddai'n syndod mawr i mi petai hynny wedi digwydd.  Ond mae'n sicr wedi digwydd gydag un ymgeisydd Llafur.


Wednesday, April 26, 2017

Monday, April 24, 2017

Ah, y Dib Lems

Kate Hoey oedd un o'r ychydig ASau Llafur a ymgyrchodd i adael yr UE.  Mae'n aelod seneddol Vauxhall - etholaeth yn Lambeth - bwrdeisdref yn Llundain lle pleidleisiodd 67.5% o'r boblogaeth i aros yn Ewrop.  

Mae'r Dib Lems yn eu ffordd dihafal eu hunain yn gwybod sut droi hynny i'w melin eu hunain.


Pol Cymreig heddiw

Ar y ffigyrau yma byddai Llafur yn colli pob sedd sydd ganddynt yn y Gogledd - Ynys Mon, De Clwyd, Wrecsam, Delyn ac Alyn a Glannau Dyfrdwy.  

Byddant hefyd yn colli'r ddwy sedd Casnewydd, De Caerdydd, Gorllewin Caerdydd, Pen y Bont.  Byddai risg sylweddol hefyd i Orllewin Abertawe a Thorfaen.


Saturday, April 22, 2017

Aw!

Polau Prydain gyfan ydi'r isod wrth gwrs - ond os oes yna rhywbeth tebyg i'r tri pol cyntaf yn digwydd yng Nghymru - ac mi gawn ni weld pan fydd pol Cymreig yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun - mae 'n bosibl nad y Blaid Lafur fydd yr un fwyaf yng Nghymru yn dilyn etholiad cyffredinol.

Mae'n rhaid i ni fynd yn ol bron i ganrif ers i hynny ddigwydd ddiwethaf.

Mae'n amhosibl meddwl na fydd y ffigyrau isel yma i Lafur yn cael effaith ar eu perfformiad yn etholiadau lleol Mai 4 hefyd.










Mwy o synnwyr cyffredin gan UKIP


Wednesday, April 19, 2017

Y seddi Llafur sydd mewn perygl

Dyna i ni sioc - yn arbennig i rhywun sydd wedi bod yn ymladd etholiad leol am rhai wythnosau a sydd yn Gyfarwyddwr Ymgyrchu ar Bwyllgor Gwaith Plaid Cymru.  Mae'r wythnosau nesaf am fod yn rhai hir.
Mi geisiwn ni ddod o hyd i'r amser i fynd i'r afael ar bethau cyn amled a phosibl.

Mae'n debyg mai Llafur fydd yn dioddef pan ddaw etholiad Mis Mehefin - ac mae'n debygol y bydd map gwleidyddol Cymru 2017 yn edrych yn dra gwahanol i un 2015.  Dwi'n rhestru isod y seddi sydd mewn mwyaf o berygl:

Alyn a Glannau Dyfrdwy 3,343 - 8.1%
Pen y Bont 1927 - 4.9%
Canol Caerdydd 4981 - 12.9%
Gorllewin Caerdydd  6789 15.5%
De Clwyd 2402 - 6.9%
Delyn 2930 - 7.8%
Llanelli 7095 - 18.4%
Dwyrain Casnewydd 4705 - 13.4%
Gorllewin Casnewydd 3510 - 8.7%
Wrecsam 1831 - 5.6%
Ynys Mon - 229 - 0.7%

Y Toriaid oedd yn ail ym mhob etholaeth ag eithrio Llanelli, Ynys Mon a Chanol Caerdydd gyda Phlaid Cymru yn ail yn y ddwy etholaeth gyntaf a'r Dib Lems yn y llall.

Mae'n werth nodi bod etholiadau Cynulliad 2016 hefyd yn awgrymu bod y  Rhondda mewn perygl (mae Chris Bryant wedi bod yn difa pleidleisiau yno o etholiad i etholiad ers etifeddu'r sedd), Gorllewin Caerdydd a Blaenau Gwent o fewn cyrraedd Plaid Cymru.  Fel rheol mae'r Blaid yn gwneud yn well mewn etholiadau Cynulliad na mewn rhai San Steffan - ond mae'r etholiad yma am fod yn un unigryw.

Byddwch yn sylwi bod perygl gwirioneddol i pob un o seddi Llafur yng Ngogledd Cymru.  Petai Llanelli'n syrthio ni fyddai ganddynt sedd yn y Canolbarth a'r Gorllewin chwaith - a ni fyddai Llafur efo unrhyw sedd y tu allan o'r hen siroedd Morgannwg a Gwent.


Monday, April 17, 2017

Llangennech arall - yng Nghaerdydd y tro hwn

Bydd darllenwyr Blogmenai yn ymwybodol o ymdrechion Llafur ochrau Llanelli i chwarae'r cerdyn iaith i  bwrpas creu casineb er mwyn ennill pleidleisiau.

Ymddengys bod Llafur Caerdydd wrthi hefyd.  




Cyfeirio'n ol mae'r neges at ffrae yn y gorffennol cymharol bell ynglyn a chynllun gan Gyngor Caerdydd i droi Ysgol Landsdowne yn ysgol Gymraeg oherwydd bod Ysgol Treganna - yr ysgol Gymraeg leol - yn llawn at yr ymylon tra bod Landsdowne yn hanner gwag.  Aeth y cynllun ddim rhagddo oherwydd i'r Cynulliad gamu i mewn a chytuno i gyfrannu tuag at adeiladu ysgol newydd Gymraeg ei hiaith - ac un sylweddol iawn ei maint.  Does yna felly ddim angen am ysgol Gymraeg bellach - a does yna ddim perygl i Radnor Road na Landsdowne - ond mae Llafur Treganna yn smalio bod yna fygythiad beth bynnag.  

Mae'n ddigon hawdd i Alun Davies son am filiwn o siaradwyr Cymraeg, ond ar lawr gwlad mae ei blaid yn defnyddio 'r Gymraeg i greu casineb am resymau etholiadol.  

Mae'n ddigon hawdd i Lafur hefyd ddweud na ddylai'r iaith fod yn eiddo i blaid benodol na bod yn fater gwleidyddol - ond eu actifyddion nhw yn annad neb arall sy'n gwneud hynny i'r iaith.

Sunday, April 16, 2017

Dyfodol hollol goediog sydd mewn stor

Rhywbeth bach arall o flog Glyn 'Pluen Eira' Davies.  Chwi gofiwch i'r ffermwr a'r Aelod Seneddol o Galdwyn ymgyrchu i adael yr Undeb Ewropiaidd.  Yn ei flogiad diweddaraf mae'n myfyrio ar ddyfodol ffermio yng Nghymru.  Dyfynaf yn helaeth:

There are two main concerns facing the farming industry. Firstly there is the annual subsidy payments, guaranteed up to 2020, but not afterwards. The background to this policy of subsidy was the then Govt's 'cheap food policy' after the Second World War. Over recent years it's become an essential support to farming. Many farms would not be viable without the subsidy payment. It's not a healthy position for any industry to be dependent on subsidy into the far distance but a cliff-edge cut off in 2020 would be devastating. Let me take a guess at what might happen post Brexit. Subsidy will gradually move from being universal to being paid for a specific 'public benefit' - principally environment enhancing payments. It's moving that way already. Perhaps this could involve planting up land, currently used for arable or livestock, with trees. I've long thought a forestry expansion programme to make sense, economically and environmentally. Support guarantees would have to be long term, include for public access for recreation - walking, biking activities etc.. Whatever, most switched on farmers are already looking at diversification of one sort or another.

The second concern for farmers, especially sheep farmers in Wales is access to EU markets at nil or manageably low tariffs. Wales is particularly dependent on lamb exports. All the current talk by the NFU about 'food security' doesn't apply here. Hopefully, there will be a UK/EU deal which covers lamb exports, but in the longer run, we could see development of other markets or a gradual move from sheep farming to forestry perhaps.



Felly ymddengys bod Glyn o'r farn mai coedwigoedd ydi'r dyfodol i ffermydd da byw, mai coedwigoedd ydi'r dyfodol i ffermydd ar ac mai coedwigoedd ydi'r dyfodol i ffermydd defaid.  Peidiwch a chamddeall rwan - does gen i ddim byd fel y cyfryw yn erbyn coed, ond wnaeth Glyn na neb arall ddweud wrth ffermwyr Cymru y byddai'n rhaid iddynt gladdu eu caeau efo coed os oedd yr ochr Brexit yn ennill. Wnaeth o ddim dweud chwaith y byddai'r diwydiant amaeth yn gorfod symud oddi wrth gynhyrchu bwyd a mynd yn estyniad o'r diwydiant coedwigaeth.




Friday, April 14, 2017

Sut i gael gweinyddiaeth Lafur heb bleidleisio i Lafur

Efallai bod y stori yma a ymddangosodd yn Golwg ddoe yn syndod i rai o etholwyr Gwynedd.




Rwan 'does yna ddim byd o gwbl o'i le mewn clymbleidio rhwng grwpiau neu bleidiau gwleidyddol ar gynghorau lleol.  Yn wir oni bai bod hynny'n digwydd byddai'n aml yn amhosibl rhedeg cynghorau.  

Serch hynny efallai y byddai etholwyr sy'n ystyried pleidleisio tros Lais Gwynedd neu ymgeiswyr annibynnol eisiau adlewyrchu y gallai llwyddiant i'r grwpiau hynny arwain at gyngor sy'n drwm o dan ddylanwad Plaid Lafur Jeremy Corbyn.  

Thursday, April 13, 2017

Y gwahaniaeth rhwng Toriaid yr Alban a rhai Cymru

Ond 'tydi o'n ddiddorol bod Ceidwadwyr sy'n dweud pethau anymunol ar y We yn yr Alban yn cael eu diarddel o'r blaid, tra mai'r unig beth sy'n digwydd i Dori o Gymro sy'n mynegi dymuniad i drafod y posibilrwydd o ail redeg y Spanish Inquisition efo eithafwr Asgell Dde o Sweden a sy'n trydar ac ail drydar cyfres o negeseuon sy'n amlygu anoddefgarwch crefyddol, ydi bod y Toriaid Cymreig yn dweud nad ydyn nhw 'n cytuno efo fo?

Mae'n debyg y dylai Felix Aubel fod yn ddiolchgar mai Cymro ac nid Albanwr ydi o.


Wednesday, April 05, 2017

Problemau Llafur ym Mangor yn gwaethygu

Mae'n debyg nad yw'n fawr o gyfrinach i Lafur gael coblyn o gweir gan Blaid Cymru ym Mangor yn etholiad y Cynulliad y llynedd.  Efallai na fydd hyn yn golygu llawer i'r sawl yn eich plith sy'n byw y tu allan i Arfon, ond mae'r ddinas yn gyn gadarnle i Lafur.

Mae'n ddiddorol bod y trallod yn parhau - o 11 sedd Bangor (os ydym yn cyfri Pentir sy'n cynnwys rhan o Benrhosgarnedd) pedwar ymgeisydd yn unig sydd ganddynt.  Mae gan y Blaid 11.  

Gadawodd eu hunig gynghorydd ym Mangor - Gwynfor Edwards - y nyth am y Blaid Werdd rhywbryd y llynedd.  Mae bellach wedi ail ymddangos yng Nghaerfyrddin yn sefyll i'r blaid honno.

Mae ganddynt un ymgeisydd yn llai na'r disgwyl - mae un o'u gweithwyr mwyaf diwyd a chyn gadeirydd Cymdeithas Myfyrwyr Llafur Bangor - Tom Wade - wedi ymddiswyddo o'r blaid a dydi ei enw ddim ar y rhestr ymgeiswyr.  Roedd i fod i sefyll ym Menai (Bangor) - neu Fangor Uchaf.  Ymddengys nad yw'n hapus efo camau ei blaid yn erbyn Ken Livingstone.  Mae bellach yn disgwyl i'r Blaid gael etholiadau cryf iawn yn Arfon.



Ymgeiswyr Gwynedd

Wele ymgeiswyr Gwynedd a'r sawl sydd wedi ennill seddau yn ddi wrthwynebiad.  

Mae yna lawer o ailadrodd rhwng yr ail a'r trydydd sleid - ymddiheuriadau - dwi'n gweithio ar ipad a fedra i ddim torri'r lluniau.


























Monday, April 03, 2017

Pwt o eglurhad i Glyn Davies

Dwi'n gobeithio nad fi sydd yn gyfrifol am y ffaith nad ydi'r Tori o Faldwyn, Glyn 'Pluen Eira' Davies, am gyhoeddi sylwadau ar ei flog eto.  Ymddengys ei fod wedi cael y myll:

To begin. If you are just reading this, looking to criticise and make some **** comment, don't bother. Comments are so miserable, (and almost always anonymous) that I'm no longer going to publish them. If you have no wish to engage in constructive debate, go read someone else's blog. I don't write it for you. I write it for me, to help me think through issues of concern.

Y peth ydi fy mod i wedi gadael sylw ar dudalen sylwadau y rant yma gan Glyn lle nad oedd o methu deall, methu deall o gwbl, pam bod yr Undeb Ewropiaidd yn cymryd ochr Sbaen yn hytrach nag un y DU yn eu anghydfod ynglyn a statws cyfansoddiadol Gibraltar.  Roedd y sylw wrth gwrs yn fy enw fy hun - fel mae pob dim dwi'n ei gyhoeddi ar y We - neu fel arall.

Cynnig pwt o eglurhad i Glyn pam bod yn UE mor anystyriol o'i safbwynt wnes i.  Mae'r rheswm yn union yr un peth a'r rheswm y gorfodwud Sbaen i agor y ffin efo Gibraltar cyn cael hawl i ymuno a'r UE yn 1986.  Roedd yr UE yn cefnogi gwlad oedd yn aelod yn erbyn gwlad nad oedd yn aelod mewn anghydfod tiriogaethol. Bryd hynny Prydain oedd yr aelod a Sbaen oedd y wlad nad oedd yn aelod.

Y tro hwn mae'r esgid ar y droed arall.  Mae Prydain ar y ffordd allan o'r UE tra bod Sbaen yn aros i mewn.  Mae'r UE felly yn cefnogi'r wlad sydd yn aros i mewn yn ei anghydfod tiriogaethol efo'r wlad sy'n gadael.  Mae hyn yn anhepgor.

Yn yr ystyr yna mae'r DU yn ynysig a di gyfaill.  Mae ar ei phen ei hun.  Glyn a'i gyfeillion oedd am adael y DU sy'n gyfrifol am hyn - ond bydd rhaid iddynt ddod i arfer at sefyllfaoedd tebyg.  Os bydd anghytundeb rhwng y DU ac Iwerddon tros statws Gogledd Iwerddon, gallwn fod yn reit siwr ar ochr pwy fydd yr UE bryd hynny hefyd.


Saturday, April 01, 2017

Sut fyddwn yn adnabod llwyddiant ym mis Mai?

Y peth cyntaf i’w ddeall ydi bod etholiadau 2012 yn dda iawn i Lafur ac yn wael i bawb arall.   Y canlyniadau oedd:

Llafur 304,296  36.0% +9.4% 577 cynghorydd cynnydd o 237. 

Annibynnol 190,425  22.5% + 0.5%  284 cynghorydd – colled o  27

Plaid Cymru 133,961 15.8% -1.0% a  158 cynghorydd colled o 41

Toriaid 108,365  12.8% - 2.8% 0 -2 105 colled o 66

Dib Lems  68,619  8.1% - 4.9% a 72 cynghorydd colled o  91

UKIP – 0

Mae’n anodd gor bwysleisio diwrnod mor dda gafodd Llafur yn 2012 yng Nghymru.  Mae’n debyg mai dyma eu perfformiad gorau mewn llywodraeth leol ers dyddiau Kinnock.  Roedd ganddynt reolaeth lwyr tros 10 cyngor – o gymharu a dau yn yr etholiad blaenorol.  Roedd yr annibyns yn rheoli 2 gyngor arall, ond ni lwyddodd yr un o’r pleidiau eraill i reoli cyngor o gwbl. 

Rwan gallwn fod yn sicr – yn hollol sicr – na fydd Llafur yn gwneud cystal y tro hwn.  Y ffordd gorau o ddarogan perfformiad Llafur mewn etholiadau cyngor (yn anffodus) ydi trwy edrych ar y polau piniwn ehangach. Yn hanesyddol dyna sy'n penderfynu eu tynged  - nid eu perfformiad ar y cynghorau.

Dymamae'r polau yn ddweud wrthym ar hyn o bryd o gymharu a 2012:

Polau Cymreig:


Llafur 2012 48% Eleni 31%
Toriaid. 2012 19% Eleni 25%
Lib Dems 2012 7% Eleni 8%
Plaid Cymru – 2012 17% Eleni 21%
UKIP – 2012 5% Eleni 12%

Polau Prydeinig:
Llafur 41% vs 27%%
Toriaid 36% vs  43%%
Lib Dems 11%  vs 10%
UKIP 7% vs 10%

Gallwn fod yn siwr y bydd Llafur yn colli rheolaeth ar y rhan fwyaf o gynghorau maent yn eu rheoli, ond y cwestiwn mwy diddorol ydi pam mor wael fydd eu perfformiad? 

Roedd 2008 yn drychinebus i Lafur -- yr etholaethau gwaethaf iddynt erioed yng Nghymru mae'n debyg. Dim ond 2 gyngor a reolwyd ganddynt – castell Nedd port Talbot a Rhondda Cynon Taf. A fydd Llafur yn gwneud cyn waethed neu yn waeth na hynny?  Os digwydd hynny  bydd yn ganlyniad trychinebus iddynt.  Yn yr amgylchiadau sydd ohonynt byddai rheoli 5 cyngor a chael 420 o gynghorwyr yn berfformiad eithaf da iddynt.

Beth am y Blaid ‘ta?

Cafodd y Blaid 158 cynghorydd yn 2012  - colled o 41 o gymharu a 2008.   Fyddai aros lle’r ydym ddim yn llwyddiant mewn amgylchiadau lle mae Llafur yn sicr o golli pleidleisiau a seddi. I hawlio ei bod wedi llwyddo mae angen gwneud yn llawer gwell na hynny.  I edrych am dargedau ystyrlon efallai ein bod angen edrych yn ol i'r gorffennol. 

Yr ail nifer uchaf o seddi i’r Blaid erioed  oedd 199 yn 2008.  Mae angen cael 42 yn fwy na gafwyd yn 2012 i guro hynny.   Cafwyd 161,000 pleidlais - neu 16.1% o'r bleidlais a gafwyd yn 2008. Byddai curo perfformiad 208 yn llwyddiant sylweddol.

Byddai hyd yn oed yn fwy o lwyddiant i guro perfformiad 1999 - yr un gorau yn hanes y Blaid.  Cafwyd 18.2% o'r bleidlais a 205 sedd gan reoli 3 chyngor.  Byddai curo'r tri meincnod yna - canran, cynghorwyr a chynghorau a reolir yn wirioneddol roi'r hawl i'r Blaid hawlio bod gwynt go gryf yn ei hwyliau.

A’r Toriaid?

Mae’r polau cenedlaethol a Phrydeinig yn awgrymu y dylai’r Toriaid wneud yn dda.  Eu prif broblem nhw yng Nghymru ydi’r ffaith nad ydynt yn dda iawn am ddod o hyd i bobl i sefyll i fynd ar gynghorau – ac mae hynny’n cynnwys ardaloedd lle maent yn gryf megis Powys a Phenfro.

Serch hynny mae ganddynt darged eithaf clir – eu perfformiad yn 2008 pan gawsant 149k o bleidleisiau, 174 o seddi a 15.6% o’r bleidlais.  Mae’n fwy na phosibl y byddant yn cyrraedd hynny ag ystyried eu perfformiad yn y polau – os bydd ganddynt yr ymgeiswyr mewn lle.  Mae’n debyg y byddant yn siomedig os na fyddant yn rhagori ar, neu o leiaf yn dod yn eithaf agos at hynny. 

Dib Lems:
Troi’r llanw fydd y gobaith yma ar ol trychineb 2012.  Fyddan nhw ddim yn ennill yr 13% a 165 cynghorydd a gawsant yn 2008, ond byddai cael mwy na 100 sedd a 10% o’r bleidlais yn ganlyniad da iawn iddynt.

UKIP:

Byddant yn gwneud yn wych i gael ugain sedd ar hyd a lled Cymru.  Mae ffigyrau sengl yn fwy tebygol o lawer.