Sunday, January 31, 2016

Storm amherffaith i Lafur ym mis Mai?

Dydi hi ddim yn bosibl gweld i'r dyfodol wrth gwrs - ac mae hynny'r un mor wir pan rydym yn ceisio rhagweld etholiadau na phan rydym yn ceisio rhagweld unrhyw beth arall.  Serch hynny mae yna deimlad - cyffredinol bron - ar hyn o bryd y bydd etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai yn rhai anodd iawn, iawn i Lafur.  

Nid 'teimlad' yn unig sydd y tu ol i'r canfyddiad yma, mae yna ddata sy'n awgrymu hynny hefyd.  Mae'r polau 'cenedlaethol' - yn yr ystyr Brydeinig - yn awgrymu bod Llafur yn perfformio'n gymharol wael a bod y bwlch rhyngddyn nhw a'r Toriaid yn araf gynyddu.  Mae'r polau Cymreig yn awgrymu bod y blaid tua 10 pwynt yn is nag oedden nhw ar yr un pwynt yn y cylch etholiadol ddiwethaf - ac roedd y polau bryd hynny yn gor ddweud y gefnogaeth i Lafur.  Ac wedyn mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu ei bod yn debygol iawn na fydd Llafur yn symud yn ol i gymharu a 2011.  Roedd Etholiad Cyffredinol y llynedd hefyd yn etholiad gwael i Lafur yng Nghymru.



Beth ydi'r rhesymau yn y dirywiad hwn yng nghefnogaeth Llafur?  Fel ym mhob stori fel hyn mae yna sawl rheswm.  Ceisiwn edrych ar un neu ddau.  

1). Mae'r gefnogaeth i Lafur yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn gyffredinol yng  ers 1997.  Gellir dangos hyn mewn sawl ffordd.  Ystyrier eu cadarnleoedd er enghraifft.  Roedd pleidlais Llafur yn y Rhondda yn 30,318 yn Etholiad Cyffredinol 1997, 15,976 gawson nhw y llynedd.  Y ffigyrau cyfatebod ar gyfer Dwyrain Abertawe ydi 29,151 a 17,807 a Merthyr / Rhymni 30,012 a 17,618.

2).  Bu Llafur mewn grym ers 1997.  Mae pleidiau sydd mewn grym am gyfnodau maith yn tueddu i'w chael yn anos fel mae amser yn mynd rhagddo. 

3).  Mae gan Llafur record ddifrifol o wael o lywodraethu  ac maent wedi bod ar eu gwaethaf pan maent wedi bod yn rheoli ar eu pennau eu hunain.  Oherwydd gwendid y cyfryngau Cymreig dydi record wael Llafur heb gael y sylw mae'n ei haeddu yn y gorffennol.  Ond arweiniodd y ffaith mai llywodraeth Carwyn Jones oedd yr unig weinyddiaeth Lafur yn y DU at gryn sylw gan y papurau Llundeinig yn y misoedd cyn Etholiad Cyffredinol y llynedd.  Cafwyd yr ymdriniaeth hysteraidd arferol wrth gwrs.

4).  Mae Llafur Prydain mewn cyflwr sydd ddim ymhell o fod yn un o ryfel cartref parhaus - dydi pleidleiswyr ddim yn hoffi pleidiau rhanedig sy'n ffraeo'n fewnol.  

5). Mae'r sylw cyfryngol mae Llafur Prydain yn ei gael bron yn unfrydol negyddol - o'r Guardian i'r Mail i'r Telegraph.  

6). Mae Llafur yn ei chael yn anodd i gael eu pleidleiswyr i bleidleisio mewn etholiad Cynulliad.  3/4 y sawl a bleidleisiodd trostynt yn 2010 wnaeth hynny yn 2011 - ac roedd etholiad 2011 yn etholiad dda iddynt.  Tua 53% o bleidleiswyr 2005 bleidleisiodd i Lafur yn 2007.  Petai hynny yn digwydd ym mis Mai byddai'r bleidlais yn is na 300,000 - y bleidlais isaf i Lafur yn hanes y Cynulliad.

7). Maent yn ei chael yn anodd i gael actifyddion i weithio ar gyfer etholiad Cynulliad.  Roedd y cyfryngau cymdeithasol yn llawn o straeon am ganfasio drws i ddrws yn y misoedd cyn Etholiad Cyffredinol y llynedd.  Ychydig iawn o hynny sydd i 'w glywed eleni.  Does yna ddim tystiolaeth bod y miloedd a ymaelododd a'r blaid i gefnogi Corbyn yn fodlon gweithio mewn etholiad Cynulliad.

8). Fel y sonwyd yn ddiweddar mae absenoldeb llwyddiant llywodraethol ynghyd a natur wasgaredig y gwrthwynebiad i Lafur yn ei gwneud yn anodd i Lafur greu naratif etholiadol effeithiol a chredadwy.  Mae hon yn broblem sylweddol.

Fel y dywedais ar y cychwyn - fedran ni ddim rhagweld y dyfodol, a gall pethau newid - ond ar hyn o bryd mae'n edrych fel petai Llafur yn wynebu rhywbeth sy'n ymylu at fod yn storm berffaith.

Friday, January 29, 2016

Gobyldigwc gan y Dib Lems ym Mangor Uchaf

O diar, ymddengys bod siaradwyr Cymraeg mor brin ymysg Dib Lems Bangor nes bod rhaid iddynt ddefnyddio Google Translate i gyfieithu eu deunydd etholiadol. 

Thursday, January 28, 2016

Y broblem i Lafur yng Nghymru

Mae dadansoddiad Roger Scully o'r rhesymau (neu rai o'r rhesymau) tros siwrna wahanol Llafur Cymru a Llafur yr Alban yn y blynyddoedd wedi 2007 yn un treiddgar. 



Yr hyn sydd gan Roger ydi bod perfformiad Llafur yn y ddwy wlad Geltaidd yn debyg iawn yn 2007, ond bod Llafur Cymru wedi perfformio'n well na Llafur yr Alban ers hynny.  Mae'n priodoli hynny i ddau beth yn bennaf:

1). Y ffaith i'r SNP lywodraethu yn effeithiol iawn fel gweinyddiaeth leiafrifol rhwng 2007 a 2011.  Agorodd hyn y drws i fuddugoliaeth ysgubol yn 2011.  

2).  Y ffaith bod yr wrthwynebiad i Lafur wedi ei hollti sawl ffordd yng Nghymru, tra bod llawer o'r bleidlais wrth Lafur wedi hel o gwmpas un blaid nerthol yn yr Alban.

Mae hyn yn wir - natur wasgaredig y bleidlais wrth Lafur a sicrhaodd bod y blaid honno yn ennill nifer o seddi fis Mai diwethaf efo llai na 40% o'r bleidlais.

Mae'n weddol amlwg bod Llafur Cymru mewn gwell lle o lawer na Llafur yr Alban - ond mae gan fersiwn Gymreig y blaid broblem nad oes gan y fersiwn Albanaidd.  O ran strategaeth etholiadol mae pethau'n weddol syml i Lafur yn yr Alban - beirniadu record yr SNP mewn llywodraeth a honni y byddan nhw yn gwneud yn well (a gobeithio nad ydi pobl yn cofio eu cyfnod nhw mewn llywodraeth). 

Yng Nghymru mae'n fwy anodd - mae'r Toriaid yn fygythiad i Lafur mewn rhai ardaloedd, UKIP mewn ardaloedd eraill a Phlaid Cymru mewn ardaloedd eraill eto.  Mae'r pleidiau hynny yn wahanol iawn i'w gilydd, ac mae'n anodd creu naratif etholiadol sy'n effeithiol yn erbyn y cwbl ohonyn nhw.  Petai gan Lafur record dda o lywodraethu yng Nghymru byddai yna naratif ar gael - ond mae eu record yn alaethus o wael.  Dyma pam bod Llafur yn ceisio hawlio clod am lwyddiannau sydd ddim oll i'w wneud efo nhw - llwyddiant mewn chwaraeon neu ganmoliaeth arbennig i'r wlad yn Rough Guide.

Mae dod o hyd i naratif addas yn goblyn o broblem iddyn nhw - dwi'n falch mai eu problem nhw ydi hi.

Wednesday, January 27, 2016

Tuesday, January 26, 2016

Tudalen flaen y diwrnod


Edrych ymlaen i etholiadau 2016 - etholiad Gweriniaeth Iwerddon

Roeddwn wedi rhyw addo cael golwg ar y rhagolygon ar gyfer y ddwy etholiad cyffredinol yn yr Iwerddon fydd yn cael eu cynnal eleni. Er nad ydi'r etholiad wedi ei galw eto, bydd rhaid ei chynnal erbyn y gwanwyn, ac mae'r ymgyrch i bob pwrpas wedi cychwyn.  Mi gychwynwn ni efo pwt am y cefndir gwleidyddol yn gyntaf.

Dwy blaid sydd wedi dominyddu yn Iwerddon ers degawdau - Fianna Fail a Fine Gael.  Erbyn heddiw mae'r ddwy blaid yn debyg iawn o ran gwleidyddiaeth  - Centre Right fyddai'r term yn y Saesneg mae'n debyg.  Ffurfiodd y naill blaid o'r ochr a enilliodd y Rhyfel Cartref (FG), a datblygodd y llall o'r ochr a gollodd (FF).  Yn eironig ddigon daeth yr ochr a gollodd y rhyfel i ddominyddu'r heddwch - gyda Fianna Fail yn dod i fod yn blaid fwyaf Iwerddon am ddegawdau lawer.  Doedd y gwahaniaeth rhwng y pleidiau ddim yn fawr - roedd FF yn fwy ceidwadol mewn materion cymdeithasol, ond yn fwy hyblyg, popiwlistaidd a phragmataidd na FG mewn materion economaidd.  Roedd hefyd yn fwy gweriniaethol a chenedlaetholgar.


                      Joanne Burton ac Enda Kenny - arweinwyr Llafur a FG


Ffurfiodd gwleidyddiaeth modern Gweriniaeth  Iwerddon yn y blynyddoedd wedi'r Rhyfel Cartref o gwmpas yr hollt chwerw a agorwyd mewn cymdeithas Gwyddelig gan y trawma cenedlaethol hwnnw - ac yna rhewodd.  Ciliodd y Rhyfel Cartref yn y cof ddegawd wrth ddegawd - ond arhosodd y wleidyddiaeth Rhyfel Cartref.  Daeth ambell i blaid ac yna diflannu, roedd y Blaid Lafur yno o'r dechrau bron - ond rhyw hanner plaid oedd hi mewn gwirionedd - yn cael ei hun ddigon cryf i gyngrheirio efo FG i gadw FF allan o rym o bryd i'w gilydd.  

Roedd y gyfundrefn wleidyddol - gwleidyddiaeth y Rhyfel Cartref - yn edrych yn ddi symud - yn anorchfygol.  Ond yna - daeth yr argyfwng ariannol mawr ym mlynyddoedd diwethaf y ddegawd diwethaf - a meiriolodd y gyfundrefn wleidyddol tros nos.  Collodd FF lawer o'i chefnogaeth gwledig i FG a'i chefnogaeth trefol i Lafur.  Symudodd Sinn Fein yn ei blaen rhywfaint - plaid sy'n cyn ddyddio'r lleill ond sydd a'i gwreiddiau diweddar yn ymwthio o'r ffin a rhyfel diweddarach o lawer - ac enilliodd gwahanol grwpiau annibynnol gefnogaeth sylweddol iawn hefyd.  Roedd Etholiad Cyffredinol 2011 yn drychineb i FF.  Wele'r canlyniadau:


Mae'r polau diweddaraf yn awgrymu y bydd y ddwy blaid lywodraethol - Llafur a FG yn colli cefnogaeth - ac yn arbennig felly Llafur.  Serch hynny mae FG yn dal yn glir ar y blaen. Bydd FF yn cynyddu eu cefnogaeth rhyw gymaint - ond heb ddod yn agos at eu cefnogaeth flaenorol, a bydd SF yn dwblu eu cefnogaeth.  Bydd y gwahanol grwpiau annibynnol yn cynyddu eu cefnogaeth hyd yn oed yn fwy na hynny.  Dwi'n tueddu i gredu bod y polau yn debygol o gael eu gwireddu i raddau helaeth ond gyda SF yn gwneud ychydig yn well na maent yn awgrymu a Llafur yn waeth.  Mae'r data creiddiol yn rhoi SF yn llawer nes at FG na'r data terfynol, ac mae hefyd yn awgrymu y bydd Llafur yn gwneud yn salach.  



Dau beth sy'n ddiddorol mewn gwirionedd ac mae'r ddau yn ymwneud a SF mewn gwirionedd.  

Mae'n amlwg mai FG fydd yn arwain y llywodraeth nesaf, ond mae pwy fydd yn brif wrthblaid yn bwysig.  Petai 'n SF yn hytrach na FF byddai gwleidyddiaeth y Rhyfel Cartref o'r diwedd wedi dod i ben go iawn.  Petai FG yn cael eu gorfodi i glymbleidio efo FF - (maent yn dweud nad ydynt yn fodlon gwneud hynny - ond rhifau nid egwyddorion sy'n penderfynu pethau fel hyn yng ngwleidyddiaeth Iwerddon) - byddai diflaniad y wleidyddiaeth honno hyd yn oed yn fwy disymwth. 


           Gerry Adams yng nghyfarfod lawnsio ei ymgyrch etholaethol yn Dundalk neithiwr.


Mae'r ail fater o ddiddordeb yn ymwneud a gwleidyddiaeth y Chwith.  Mae yna bleidlais Chwith go sylweddol yn yr Iwerddon erbyn hyn, ond mae wedi ei gwasgaru rhwng SF, Llafur (er ei bod yn amheus y gellir ystyried y blaid honno yn blaid adain Chwith bellach) a nifer o bleidiau / unigolion sy'n cael eu cyfri ymysg yr annibynwyr.  Mae'n sicr y bydd y bleidlais yn wasgaredig ar ddiwrnod yr etholiad, ond yr her i SF wedi hynny fydd i grisialu'r Chwith o 'u cwmpas.  Os digwydd hynny bydd gwleidyddiaeth y Weriniaeth yn y dyfodol yn dra gwahanol i'r hyn a gafwyd ers sefydlu'r wladwriaeth.






Monday, January 25, 2016

Sunday, January 24, 2016

Ychwanegiad bach i flogiad ddoe

Os ydi pol diweddaraf Panelbase yn yr Alban yn gywir, mae'n fwy na phosibl mai trydydd fydd Llafur yn etholiadau Mis Mai yn yr Alban.  Mae'r gwahaniaeth rhwng y ddwy brif blaid unoliaethol wedi bod yn mynd yn llai yn gyson.  Ond hyd yn oed petai'r lleihad cyson yn y bwlch yn dod i ben - ag ystyried cymlethdodau'r system etholiadol - gallai'r ffigyrau a geir ar hyn o bryd roi mwy o seddi i'r Toriaid na Llafur.  

Byddai hynny'n newid syfrdanol mewn gwlad sydd wedi ei dominyddu gan Lafur ers chwe degau'r ganrif ddiwethaf.

Saturday, January 23, 2016

Mae nhw'n paratoi am _ _ gweir

O diar, ymddengys bod Llafur yn disgwyl trychineb yn etholiadau mis Mai.  Yn ol cyflwyniad i gabinet cysgodol y blaid gan gyfarwyddwr etholiadau'r blaid, Patrick Hennegan, dydi pethau ddim yn edrych yn dda.




Ynglyn a'r Alban


“A result in line with these polls would see 13 constituency seats fall to the SNP, while two further seats would be tight races between the SNP and the Conservatives with Labour coming third,” 

Felly mae Llafur yn disgwyl colli 15 allan o 15 sedd uniongyrchol yn yr Alban.  Ond beth am y seddi rhanbarthol?  Mae yna lawer o'r rheiny yn yr Alban, ac maen nhw'n siwr o achub Llafur?  Wel na.

“However, Labour have problems here too, as polling points to a much more fragmented regional vote, with rises for the Conservatives, the Greens, Ukip and the Liberal Democrats in current polling _ _ Labour could fall to 25 seats or below, far behind the SNP, who could claim up to 70, and only a little way ahead of the Conservatives, who could take 20 or more.”

Wel 'na fo 'ta, dyna Llafur wedi rhoi'r gorau i obeithio am ennill yn yr Alban a throi eu golygon at geisio dod yn ail.  Beth am Gymru felly?  Mae'n rhaid y gall Llafur obeithio am ganlyniad cadarnhaol yma.  Na mae gen i ofn:

In Wales a 7% fall in support since 2011 suggests that Labour would lose effective control of the Welsh assembly and could suffer its worst ever result there.

Cynghorau Lloegr?  Mae etholiadau am lawer o'r rheiny yn digwydd ym mis Mai hefyd. Mwy o ing a gwewyr mae gen i ofn.

In English councils, Labour is down on average by 8% on its 2012 polling levels, suggesting the loss of control of 20 councils.  

Mae'r blog yma wedi nodi sawl gwaith yn y gorffennol bod Llafur yn datblygu i fod yn blaid fwyfwy Lundeinig - ac oddi yno y daw'r unig newyddion da.  

There is optimism that Labour’s Sadiq Khan will defeat Tory candidate Zac Goldsmith .  
Ymddengys bod Llafur ddeg pwynt o flaen y Toriaid yn iard gefn Corbyn.

Mi fyddwch chi'n clywed - ac yn darllen - pob math o ddatganiadau cadarnhaol gan Lafur Cymru tros y misoedd nesaf am y derbyniad gwych maent yn ei gael ar stepen y drws ac ati, ac ati.  Heip ydi o i gyd - maen nhw'n disgwyl cweir y tu allan i Lundain - ac mae'n hynod debygol mai dyna fydd yn digwydd.

Friday, January 22, 2016

Plaid y. 'bobl fawr'?

Rydan ni eisoes wedi cyfeirio at 'rant' ymgeisydd Llafur yn Arfon oherwydd bod biniau heb eu casglu yn ystod cyfnod y Nadolig.  Byddwch yn cofio iddo wneud nifer o ddatganiadau cwbl gamarweiniol yn ystod y rant.  Wnaethom ni ddim - fodd bynnag -  aros efo'r paragraff bach yma - mi edrychwn i'n fwy manwl heddiw. 

Yn drydydd, dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd, mi roedd y Cyngor wedi rhoi bai ar 'y tywydd garw' am fethu casgliadau. ANGHYWIR - Does ddim un awr wedi'i fethu gan y gweithwyr yn ein ardaloedd ni, dim ond esgus gan y fat cats yn y Cyngor am beidio rhoi'r adnoddau iawn i'r gweithwyr.

Mi adawn o'r neilltu natur sarhaus y dermenoleg a ddefnyddir, y ffaith bod pob sir yng Nghymru yn ol pob tebyg efo mwy o swyddi cyflog uchel na Gwynedd a'r ffaith ei bod yn anhepgor bod unrhyw gorff sy'n cyflogi miloedd lawer o bobl efo rhai ar gyflogau cymharol uchel.  Edrych wnawn ni ar y gred sydd ymhlyg yn y baragraff bod rhywbeth moesol amheus am fod ar gyflog cymharol uchel - ac edrych ar rhywbeth o'r enw Mosaic

Dull ystadegol o rannu poblogaeth y DU i gydrannau gwahanol ydi cynllun Mosaic y cwmni Experian.  Defnydd masnachol sydd i'r system yn bennaf - mae'n ddefnyddiol i gwmniau masnachol i bwrpas targedu cwsmeriaid posibl.  Mae yna hefyd ddefnydd gwleidyddol amlwg. 

Yn ol astudiaeth ddiweddar gan y Blaid Lafur ei hun sy 'n defnyddio Mosaic, mae ei haelodaeth yn - wel gyfoethog - at ei gilydd.  

Dau gydadran sylweddol o aelodau'r Blaid Lafur - a defnyddio'r enwau lliwgar mae Experion yn eu defnyddio ydi prestige positions city prosperity.  

Labour is also attracting 10% of its overall membership from those categorised by Mosaic as being in “prestige positions” – affluent, home-owning married couples enjoying financial security. This category makes up 9% of the general population.

Felly ymddengys bod ychydig mwy yn perthyn i 'r categori yma ymysg aelodau'r Blaid Lafur na geir yn y boblogaeth yn gyffredinol.  Mae'n debyg bod hyn ychydig yn anisgwyl gan y byddai rhywun yn meddwl y byddai pobl cymharol gefnog wedi eu tan gynrychioli yn y Blaid Lafur.  Beth am City Prosperity 'ta?

As a group they make up 4% of the general population in contrast to 11.2% of party membership,” it says.
The report says the party has 36,646 members categorised as coming from a category it calls “city prosperity”, and 19,917 of these have joined since the general election - an increase of 119%.
Reit - llawer mwy anisgwyl - bron i dair gwaith cymaint o 'r grwp yma yn perthyn i'r Blaid Lafur 'na sy 'n perthyn i'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd.  
Gadewch i ni weld beth yn union ydi Prestige Positions a City Prosperity.  




Ia - dyna chi - ar gyfartaledd mae incwm teuluol y naill grwp yn £100k i £149k tra bod incwm teuluol y grwp arall yn £150k+.  Mae rhwng pumed a chwarter aelodau'r Blaid Lafur yn byw mewn teuluoedd sydd ag incwm o £100k+.  

Pa ganran felly o weithwyr Cyngor Gwynedd sydd ag incwm o £70k+?  Mae'r ateb i honna yn llai na 0.2%.  Felly mae gennym ni gynrychiolydd plaid sydd a chanran uchel o'i haelodau ar gyflogau teuluol o £100k+ yn galw gweithwyr swyddfa cyngor yn fat cats ar y sail bod 0.2% o weithwyr y cyngor hwnnw yn ennill £70k+.  A - chyn i rywun ofyn - byddwn yn tybio bod llai na 100 o aelodaeth y Blaid fyddai'n syrthio i'r categoriau yma.

A dyna chi - rhagrith Llafur ar ei orau.  Cynrychiolydd plaid sydd a degau o filoedd o'i haelodau ar gyflogau uchel iawn yn honni bod llond dwrn o weithwyr sector gyhoeddus sydd ar gyflogau is yn fat cats.  

O.N i'r rhai ohonoch sydd ddim digon ffodus i fyw yn y Gogledd Orllewin - pobl gyfoethog iawn ydi 'pobl fawr' - perchnogion chwareli a 'ballu.  Dydi'r term ddim yn un canmoliaethus.



Thursday, January 21, 2016

Jobs i'r hogiau a'r genod - eto

Mater  sy'n codi'n aml ar y blog hwn ydi'r ffaith bod grym gwleidyddol i Lafur yng Nghymru yn arwain yn ddi eithriad bron at ddefnyddio'r grym hwnnw i bwrpas enwebu cyfeillion gwleidyddol i gyrff cyhoeddus, a phenodi cyfeillion gwleidyddol i swyddi cyhoeddus.  Rydym wedi nodi sawl gwaith bod aelodaeth o 'r Blaid Lafur yn ffordd llawer mwy effeithiol o 'fynd ymlaen' yn an haeddianol yn y Gymru gyfoes nag ydi aelodaeth o'r Seiri Rhyddion.

Mae'r stori yma'n esiampl berffaith.  Byddai rhywun yn meddwl y byddai gwleidyddion Llafur yn ceisio osgoi'r math yma o beth mor agos at etholiadau - ond y gwir syml ydi nad ydynt yn gweld fawr ddim o'i le ar y math yma o ymddygiad.   Trosiad perffaith o'r hyn ydi Cymru heddiw. 


Wednesday, January 20, 2016

Chware teg i pob rhan o Gymru = Cymru unedig

Mae'r blog yma wedi tynnu sylw sawl gwaith at y gwariant anghyfartal yng Nghymru gyda mwy o adnoddau yn cael eu cyfeirio i ardaloedd lle mae Llafur yn gryf, a llai i'r ardaloedd lle maent yn wanach.  

'Does yna neb yn gofyn am ffafriaeth i'r Gogledd, a does yna neb eisiau chwarae gwleidyddiaeth eforhaniadau  yng Nghymru.  Ond mae'n bwysig o ran undod cenedlaethol bod pob rhan o'r wlad yn teimlo ei bod yn cael chwarae teg.  Mae'r anghyfartaledd gwariant a geir ar hyn o bryd yn creu hollt di angen yng Nghymru.  Dylai unrhyw un sy'n canfasio'n rheolaidd yn unrhyw ran o'r Gogledd fod yn ymwybodol bod yna deimlad cyffredinol bron yn y rhanbarth nad ydi 'r Gogledd yn cael chwarae teg. 

Mae cynllun y Blaid i ddeddfu i sicrhau gwariant cyfartal ar hyd a lled y wlad felly'n rhywbeth i'w groesawu.  Gallai dileu'r canfyddiad yn y  Gogledd nad ydi'r rhanbarth yn cael chwarae teg wneud mwy na dim arall i greu gwlad mwy unedig.  Rheswm arall i fotio i'r Blaid ym mis Mai.

Cynllun prentisiaeth Plaid Cymru




·         Bwriedir talu am y 50,000 o brentisiaethau gyda siâr Cymru o lefi prentisiaethau y Deyrnas Gyfunol, sydd werth £150m i Gymru bob blwyddyn.

·         Bwriedir gwneud hyn oherwydd cred y Blaid na ddylai unrhyw berson ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru fod tu allan i addysg, swydd a hyfforddiant ac er mwyn gwella rhagolygon y genhedlaeth nesaf.

·         Ar hyn o bryd mae 12,200 o bobl ifanc Cymru rhwng 16 a 18 – un o bob deg – y tu allan i addysg, swydd a hyfforddiant, sydd yn llawer gormod.

·         Mae Plaid Cymru yn credu bod prentisiaethau yn cynnig llwybr i’r byd gwaith sydd yr un mor werthfawr â chwrs prifysgol ac mae’n gwleidyddion yn benderfynol o sicrhau fod y ddau lwybr yma yn cael eu hystyried i fod yn gyfartal yn y dyfodol.


Tuesday, January 19, 2016

Unionist & Conservatives nid Conservative & Unionists

Ymddengys bod hanner aelodau seneddol Toriaidd Cymru wedi sgwennu at George Osborne yn gofyn iddo beidio datganoli pwerau trethiant i Gymru heb refferendwm. 


Dydw i ddim yn Dori - wrth gwrs.  Ond pe byddwn yn Dori byddwn yn credu - ac yn gweld mantais wleidyddol - mewn sefydlu perthynas glir rhwng trethiant a gwariant cyhoeddus yn y seneddau datganoledig - yn arbennig felly yng Nghymru.  

Un o'r prif ddistiau sy'n cynnal cefnogaeth etholiadol y Blaid Lafur Gymreig ydi'r ffaith eu bod mewn sefyllfa i alw am fwy a mwy o wariant cyhoeddus yng Nghymru heb orfod codi ffadan o dreth ar neb i gynnal y gwariant hwnnw.  Mae'r diffyg perthynas rhwng gwariant a threthiant hefyd ymysg y rhesymau pam bod gwleidyddiaeth Cymru mewn aml i ffordd yn wleidyddiaeth anaeddfed, a pham bod Llafur yn parhau i fod a chefnogaeth etholiadol ar ol cyfnod hir o fethiant.

Byddai rhywun yn meddwl y byddai Tori yn gweld hyn, ac mae'n debygol eu bod - ond bod y reddf i wrthwynebu datganoli pwerau i Gymru yn gryfach na'r angen i weithredu yn unol ag egwyddorion ceidwadol ac mewn ffordd sy'n gyson a hunan les etholiadol.  

Unoliaethwyr yn gyntaf, Toriaid a gwleidyddion wedyn.


Sunday, January 17, 2016

Sut i gael Llafur i gydweithresu i achub Tata.

Ymddengys eu bod yn fodlon ystyried cyd weithredu i achub y gwaith dur os ydi pobl yn bod yn ffeindiach efo nhw ar trydar - os ydi eu hymgeisydd yn Llanelli i 'w gredu.



Mae'n siwr y byddai'n well i ni oll drio bod yn ffeind efo nhw am sbel, ac efallai y byddant yn gadael y  o'r gornel a rhoi'r gorau i bwdu. 

Cywiro datganiadau camarweiniol - rhan 4

Er bod teledu fel dyfais yn llawer hyn nag y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn dychmygu, ymddangosodd teledu  masnachol yn yr UDA (lle arall?) gyntaf yn niwedd 40au'r ganrif ddiwethaf.  Ar y cychwyn yr hyn a gafwyd oedd efelychiadau gweledol o raglenni radio, ond blodeuodd y cyfrwng yn y 50au a chafwyd pob math o ffurfiau newydd yn ymddangos.  Dechreuwyd darlledu  dramau, operau sebon, teledu amser brecwast, sioeau cwis ac ati yn ystod y cyfnod.  Roedd chwaraeon wedi eu darlledu o'r cychwyn - fwy neu lai.  Yn ystod y degawdau canlynol cafodd comediau, ffilmiau, rhaglenni dogfen, ac ati eu darlledu.  Datblygodd rhaglenni newyddion yn sylweddol hefyd i fod yn rhan o'r byd gwleidyddol / etholiadol.  Yn negawd olaf y ganririf ddiwethaf a dechrau'r ganrif yma datblygodd teledu realiti - os mai dyna'r term Cymraeg.  Roedd y rhan fwyaf o hyn oll mewn lle pan ddaeth S4C i fodolaeth ar ddechrau'r 80au.

Mae rhywfaint o'r stwff yma yn ffeithiol - rhaglenni dogfen neu'r newyddion er enghraifft, mae rhywfaint yn ddeunydd dychmygol - operau sebon neu ffilmiau.  Mae'r rhan fwyaf yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol - rhaglenni dogfen  hanesyddol neu ffilmiau cyfnod, ac mae rhaglenni chwaraeon byw neu agweddau ar ddarpariaeth newyddion cyfoes yn edrych ar y presenol.  Mae rheolau sylfaenol ffiseg yn ei gwneud yn amhosibl edrych i 'r dyfodol - er bod ambell i raglen wedi ceisio cael hwyl yn gwneud hynny.  A chymryd bod teledu wedi cyrraedd Dorset yn ystod y cyfnod pan roedd Leighton yn ei arddegau, gallai fod wedi dod ar draws rhaglen o'r enw Tommorrow's World oedd yn gwneud yn union hynny.


Rhywsut neu'i gilydd mae hyn oll wedi mynd heibio Leighton Andrews.  Mae'n llafurio efo'r camargraff dybryd mai pelen grisial neu bortal sy'n arwain i 'r dyfodol ydi'r bocs yng nghornel ei ystafell. fyw.  Ymddengys iddo ddod ar draws rhaglen o'r enw Byw Celwydd sydd - dwi'n deall - yn ddrama deledu, a chymryd ei bod yn darogan y dyfodol.



Hoffwn sicrhau holl ddarllenwyr Blogmenai, a Leighton yn arbennig nad ydi'r teledu yn caniatau i ni edrych i'r dyfodol.  Petai hynny'n wir byddai 'n beth drwg iawn, iawn i Ladbrokes a Paddy Power.  Yn wir, ym marn awdur Blogmenai, gwastraff amser llwyr ydi edrych ar y teledu - ond stori arall ydi honno.

Diweddariad 22:57

Ymddengys bod Leighton wedi darllen y blogiad, ac mae'r geiniog o'r diwedd - wedi degawdau - wedi syrthio.










Saturday, January 16, 2016

Diolch i UKIP _ _

_ _ _ am wneud pethau'n glir i'r sawl sydd ddim yn glir am bethau.  Trydariad wedi ei ddileu gan UKIP, ond wedi ei ddyfynu gan UK Politics. 


Thursday, January 14, 2016

Cywiro datganiadau camarweiniol - rhan 3

Rant (a dyfynu sut mae'r awdur yn ei ddisgrifio) gan ymgeisydd Llafur Arfon sydd o dan sylw y tro hwn. Mae yna nifer o ddatganiadau sydd - wel ddim yn wir.  Mae cywiro datganiadau ffug o gyfeiriad Llafur Arfon yn rhywbeth mae'r blog yma wedi gorfod ei wneud yn aml iawn tros y flwyddyn diwethaf.

Mae'r swyddogion yn y swyddfeydd a'r £70,000, £80,000 a Prif Weithredwr ar £100,000 +

Wel mae hyn o leiaf yn rhannol wir.   mae yna wahaniaeth rhwng cyflogau uchel swyddogion Cyngor Gwynedd a chyflogau casglwyr sbwriel.  Mae'n wir hefyd bod rhai swyddogion ar y cyflogau a arenwir -  unarddeg a bod yn fanwl gywir, allan o weithlu o tua 5,500.    Dydi hi ddim yn gywir i ddweud bod y swyddogion yn y swyddfeydd a'r (sic) £70,000, £80,000.  Mae mwyafrif llethol swyddogion a gweithwyr swyddfa'r cyngor ar gyflogau cymhedrol iawn.  Mae'n hynod anffodus - ac ymfflamychol - awgrymu bod pobl sydd ar gyflogau cymharol gyffredin yn cael cyflogau uchel iawn. 



Mae hogiau sy'n gweithio ar y biniau ar ryw £12,000 y flwyddyn ac yn gweithio yn galed iawn.

 Mae'r ffigwr ar gyfer cyflogau gweithwyr hel sbwriel yn un cwbl ddychmygol.  Mae tal Casglwr Sbwriel/Ailgylchu yn seiliedig ar raddfa cyflog GS4 - pwyntiau 10-13.  Mae'r ystod cyflog rhwng £14,338 - £15,941 y flwyddyn ar gyfer gweithwyr llawn-amser. Mae rhai yn gweithio oriau ychwanegol a felly ar gyflog uwch.

Petai Sion yn mynd ati i wneud ei ymchwil yn ofalus, byddai'n darganfod bod  cyflogau casglwyr sbwriel yn is na chyflogau prif weithredwyr ym mhob cyngor yng Nghymru - ac yn wir y Byd.  Serch hynny mae'r gwahaniaeth rhwng cyflogau'r casglwyr sbwriel a'r Prif Weithredwr yn llawer,  llai yng Ngwynedd nag ydyw yn y cwbl o gynghorau Llafur Cymru. - neu unrhyw gyngor arall yng Nghymru.  Maent oll yn talu mwy i'w Prif Weithredwr na Gwynedd - ac mae nhw i gyd - neu bron i gyd - efo mwy o swyddogion ar y cyflogau mae Sion yn son amdanynt na sydd gan Wynedd.  Mae rhai - Castell Nedd Port Talbot er enghraifft - efo cymaint a phump swyddog ar £100k+. 

Yn ail, mae rhai o'r hogiau sydd yn gweithio ar y biniau ar 'zero hour contract', sydd yn golygu does ddim sicrwydd o gwbwl gyda oriau gwaith 'na cyflog i gefnogi eu teuleuoedd. Gwarthus.

Mae hyn hefyd yn gwbl ddychmygol mae gen i ofn.  Dydi Cyngor Gwynedd ddim yn cyflogi unrhyw gasglwyr sbwriel ar gytundeb sero awr.  Mae yna ychydig o weithwyr yn cael eu cyflogi ar y telerau hyn  - 81 a bod yn fanwl gywir - y cwbl ym maes gofal.  Mae'n ffigwr sydd wedi cwympo tros y blynyddoedd diwethaf a bydd yn cwympo ymhellach yn y dyfodol agos.
Fel yn y stori  cyflogau uchel i uwch swyddogion, mae cynghorau Llafur gyda'r mwyaf awyddus i gyflogi pobl ar waelod y domen ar gytundebau sero awr.  Yn wir  fyddai hi ddim llawer o ormodiaeth i alw cytundebau sero awr yn Gytundebau Llafur - mae'r blaid a'i gwleidyddion yn hoff iawn ohonynt.  Roedd gan Gyngor Doncaster 2,759 ar y cytundebau hyn yn 2013.  

Yma yng Nghymru - yn ol y ffigyrau diweddaraf y gallaf ddod o hyd iddynt - roedd 418 o staff Cyngor Pen y Bont ar gytundebau sero awr, ac roedd 482 o staff Cyngor Abertawe ar gytundebau felly.  Hwyrach bod newid wedi bod yn y ffigyrau erbyn hyn - does gen i ddim ffordd o wybod.  Mae'r ddau yn gynghorau Llafur, ac mae rhan o Ben y Bont yn etholaeth Carwyn Jones.

Mae Llafur ar lefel Cynulliad wedi cael sawl cyfle i leihau'r defnydd o 'r cytundebau hyn trwy gefnogi gwelliannau i'r perwyl hwnnw gan y Blaid.  Maent wedi gwrthod gwneud hynny mewn perthynas a phob un o'r adrannau canlynol.

1.       Bwrdd Cyflogau Amaethyddol
2.       Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yng nghyfnod 3
3.       Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yng nghyfnod 4
4.       Gofal Cymdeithasol yng nghyfnod 2
5.       Gofal Cymdeithasol yng nghyfnod 3

Yn wir mae gan aelodau seneddol Llafur hanes hir o ddefnyddio cytundebau sero awr i gyflogi eu gweithwyr eu hunain. 


Rhestr a geir isod o'r Aelodau Seneddol Llafur o'r senedd (San Steffan) diwethaf sy'n cyflogi pobl ar gytundebau sero awr.


Adrian Bailey
Alan Campbell
Alan Meale
Alex Cunningham
Andy Burnham
Andy Slaughter
Ann Clwyd
Ann McKechin
Barbara Keeley
Barry Sheerman
Ben Bradshaw
Bob Ainsworth
Bridget Phillipson
Catherine McKinnell
Chinyelu Susan Onwurah
Chris Evans
Clive Efford
Dan Jarvis
Ed Balls
Fiona Mactaggart
Frank Dobson
George Mudie
Glenda Jackson
Graeme Morrice
Graham Jones
Gregg McClymont
Heidi Alexander
Helen Jones
Huw Irranca Davies
Ian Lucas
Ian Murray
John Woodcock
Jon Trickett
Jonathan Ashworth
Jonathan Reynolds
Julie Hilling
Karen Buck
Katy Clark
Kerry McCarthy 
Kevan Jones
Lilian Greenwood
Louise Ellman
Luciana Berger
Lucy Powell
Lyn Brown
Margaret Curran
Mary Creagh
Meg Hillier
Meg Munn
Mike Wood
Nic Dakin
Pat Glass
Peter Hain
Rachel Reeves
Rosie Cooper
Rushanara Ali
Sarah Champion
Seema Malhotra
Shabana Mahmood
Sheila Gilmore
Stephen Twigg
Susan Jones
Toby Perkins
Tom Greatrex 
Valerie Vaz
Vernon Coaker
Virendra Sharma
Yasmin Qureshi


Yn drydydd, dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd, mi roedd y Cyngor wedi rhoi bai ar 'y tywydd garw' am fethu casgliadau. ANGHYWIR - Does ddim un awr wedi'i fethu gan y gweithwyr yn ein ardaloedd ni, dim ond esgus gan y fat cats yn y Cyngor am beidio rhoi'r adnoddau iawn i'r gweithwyr.

Mae'n eithaf cyhuddiad i gynghorydd etholedigi honni bod gweithwyr cyflogedig cyngor yn dweud celwydd yn gyhoeddus  i guddio eu methiannau eu hunain..  Petai'n wir byddai'n amlwg yn gam ymddygiad proffesiynol difrifol ac fater i drefn ddisgyblu'r cyngor.  Os oes gan Sion wybodaeth am swyddogion yn dweud celwydd dylai ei gyflwyno i swyddog monitro'r cyngor.  Mae'n anhebygol iawn o wneud hynny oherwydd bod proses ddisgyblu wedi ei seilio ar ffeithiau  oeraidd yn hytrach na ffrwyth dychymyg.

Os ydi cynghorwyr eisiau beirniadu eu cyngor eu hunain a phobl sy 'n gweithio i'r cyngor hwnnw -  mae hynny'n fater iddyn nhw.  Byddai'n well gwneud hynny yn siambr y cyngor os mai mynd i'r afael a rhyw broblem neu'i gilydd ydi'r bwriad - ond gwleidyddiaeth ydi gwleidyddiaeth ac etholiadau ydi etholiadau - ac mae rhywun yn deall hynny.  

Ond mae'n anghyfrifol i feirniadu ar sail 'ffeithiau' sydd ddim yn wir.  Mae pobl yn credu cynghorydd oherwydd eu bod yn credu bod ganddo fynediad i ffeithiau cywir - yn wahanol i'r gweddill ohonom gall  holi swyddogion er mwyn cael ffeithiau sydd yn gywir.  Mae peidio a gwneud hynny tra'n creu ffeithiau ffug i'w defnyddio mewn disgwrs wleidyddol yn dibrisio'r ddisgwrs honno'n llwyr.  Y math yma o gamarwain bwriadol sy'n rhannol gyfrifol am y dirmyg sydd gan lawer o bobl tuag at yr holl broses ddemocrataidd yn yr oes sydd ohoni.  





Wednesday, January 13, 2016

Cywiro datganiadau camarweiniol - rhan 2

Diolch i Elis Dafydd am dynnu sylw at hon.

"Pe bai pawb yn byw fel rydym ni’n byw yng Nghymru, byddai angen bron i dair planed er mwyn darparu’r adnoddau angenrheidiol. Nid yw hynny’n opsiwn i Gymru bellach[...]" 




Mae'r dyfyniad wedi ei godi o wefan Llywodraeth Cymru.  Petai'r dyfyniad yn wir, mae'n rhaid bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried prynu, dwyn, benthyg, hawlio, rhentu neu gywain mewn rhyw ffordd arall ddwy blaned, er mwyn mynd i'r afael a phroblemau amgylchyddol Cymru.  

Os nad ydi cywain dwy blaned yn opsiwn bellach, mae'n rhaid ei fod ar un amser - golyga hynny yn ei dro y byddai trafodaeth wedi digwydd ynglyn a'r mater rhywbryd neu'i gilydd.  Mae'n debygol iawn - am resymau sy'n ymwneud ag argaeledd - mai Gwener a Mawrth fyddai'r ddwy blaned dan sylw.




Dwi ddim yn credu i'r drafodaeth yma erioed fynd rhagddi - yn rhannol oherwydd mai diffyg uchelgais llwyr ydi un o brif nodweddion Llywodraeth Cymru, nid uchelgais gorffwyll ac afresymegol -  ac yn rhannol oherwydd y byddai hyd yn oed Llywodraeth Cymru yn deall o'r dechrau'n deg bod problemau technegol ac ariannol anorchfygol ynghlwm a'r cywaith arbennig yma.  Gobeithio.  

Tuesday, January 12, 2016

Cywiro datganiadau camarweiniol - rhan 1

Cyn bod y blog wedi bod wrthi'n cywirio datganiadau sydd yn gl _ _ ahem, gamarweiniol gan wleidyddion (Llafur yn bennaf), a chan bod datganiadau felly yn rhwym o gynyddu fel bydd etholiad mis Mai yn dynesu, waeth i ni ddechrau cyfres fach ar y thema.  Bydd pethau'n gweithio fel hyn - byddaf yn dyfynu 'r sawl sydd yn camarwain, cywiro'r camarweiniad a chynnig eglurhad pellach os oes angen.



Mi wnawn ni ddechrau  Kevin Madge, cyn arweinydd Llafur yn Sir Gâr.  Yn ol y blogiwr o Gastell Newydd Emlyn - Cneifiwr gwnaeth y datganiad canlynol tra'n trafod aildrefnu llywodraeth leol yn y Carmarthenshire Herald wythnos diwetha:

 "The Labour Party is not supportive of any reorganisation......If Leanne Wood has been having talks and they involve bringing back Dyfed, they (h.y. y Blaid) need to come clean now."

Does dim angen llawer o eglurhad pellach yma.  


(2). Llywodraeth Lafur - nid un Plaid Cymru - ydi llywodraeth Cymru.  Carwyn Jones ydi'r Prif Weinidog, nid Leanne Wood.



Monday, January 11, 2016

Ynglyn a chefnogaeth 'unfrydol' Llafur yn Arfon

Mae'n ddiddorol nodi bod Plaid Lafur Arfon o'r farn bod yna gefnogaeth 'unfrydol' iddynt ym Maesgerchan yng nghyffiniau Bangor, Caernarfon a Bethesda.



Dwi wedi canfasio ardaloedd yn Arfon ers degawdau, ac erioed wedi dod ar draws yr unman efo cefnogaeth unfrydol i'r Blaid - ac mae hynny'n cynnwys ardaloedd megis Twthill yn agos at ganol Caernarfon, Llandwrog, y Waunfawr neu Benygroes lle mae'r gefnogaeth i'r Blaid cyn uched - os nad yn uwch - nag ydyw mewn unrhyw ward yng Nghymru.  

Ond mae'n un o nodweddion hynod Llafur Arfon bod yna gefnogaeth rhyfeddol iddynt pan maent yn canfasio.  Cafwyd degau o adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol am gefnogaeth gryf neu anhygoel i 'newid yn lleol' yn ystod ymgyrch mis Mai.  Yn anffodus wnaeth y gefnogaeth honno ddim amlygu ei hun ar ddiwrnod yr etholiad pan gafwyd gogwydd o tua 4% yn erbyn Llafur.  

Dwi'n dweud nad ydw i erioed wedi dod ar draws cefnogaeth unfrydol i'r Blaid o'r blaen - ond mae'r un peth yn wir am bawb arall ag eithrio Llafur Arfon a Kim Jong Un.  Does yna ddim cefnogaeth unfrydol i Sinn Fein ar y Lower Falls, dim cefnogaeth unfrydol i Lafur yn Toxteth, dim cefnogaeth unfrydol i'r SNP yn East End Dundee, dim cefnogaeth unfrydol i'r Toriaid yn Huntingdon a dim cefnogaeth unfrydol i'r Dib Lems yn _ _ _ anghofiwch honna.  

Ond er mai sgorio tua 30% fydd Llafur mewn etholiadau San Steffan yn yr etholaeth,  a thua 26% mewn etholiadau Cynulliad (mae eu perfformiad yn rhyfeddol o sefydlog) a llai o lawer na hynny mewn etholiadau cyngor - mae'n ymddangos bod ardaloedd yn Arfon sydd yn eu cefnogi'n unfrydol.

Gadewch i ni ystyried yr ardaloedd dan sylw am funud fach.  Mae'n wir bod gan Lafur gefnogaeth barchus iawn ym Maesgerchen - cawsant ychydig mwy na hanner y bleidlais ym mis Mai - ond roedd y gyfradd pleidleisio yno gyda'r isaf yn yr etholaeth.  Mae G'narfon yn fwy cymhleth gyda'r bleidlais Lafur yn amrywio o tua 17% yn agos at y Fenai i tua 47% y rhannau tlotaf i'r de o Afon Cadnant.  Ar draws y Dre roedd y Blaid yn llawer  cryfach na Llafur efo rhai ardaloedd yn polio mwy na 60% iddi.  Mae yna hefyd nifer uchel iawn o aelodau o Blaid Cymru yn byw yng Nghaernarfon.  Mae Bethesda'n symlach - cafodd Llafur tua chwarter y bleidlais tra bod yna gannoedd ar gannoedd o bleidleisiau Plaid Cymru ym  mocs y pentref - mwy na mewn unrhyw focs arall yng Nghymru mae'n debyg.  Roedd yna fwy na dwy bleidlais Plaid Cymru am pob un Llafur ym mocs Bethesda.  

Mae'n anodd gwybod beth i'w wneud o'r honiadau  o gefnogaeth anhygoel rwan ac yn ystod etholiad San Steffan y llynedd mewn etholaeth lle mae Llafur yn wan ( yng nghyd destun Cymru). Efallai nad ydi'r hogiau yn gwybod sut i ganfasio a'u bod yn cymryd gair clen fel tystiolaeth o gefnogaeth etholiadol.  Efallai eu bod nhw jyst yn twyllo eu hunain.  Neu wrth gwrs efallai eu bod yn credu ei bod yn OK i ddweud ychydig o gelwydd wrth yr etholwyr gan gymryd bod rheiny yn rhy wirion i weld trwyddynt ac yn rhy ddwl i'w parchu na'u cymryd o ddifri.  Mae yna rhywbeth yn hynod o Lafuraidd am yr agwedd ddilornus honno at bobl gyffredin mae gen i ofn.