Sunday, May 02, 2010

Y Ddadl Gymreig

Ieuan Wyn yn ennill yn weddol hawdd mi fyddwn yn tybio - nid bod y digwyddiad yn un arbennig o bwysig gan na fydd a papurau mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn eu darllen hyd yn oed yn son am y digwyddiad 'fory.

Mae'n ddiddorol nodi bod y Toriaid wedi ffeirio Cheryl Gillan druan am Nick Bourne. Mi gewch chi ddweud beth a fynwch am Nick, ond yn wahanol i Cheryl mae'n gwybod pwy ydi prif weinidog Cymru.

No comments: