Tuesday, May 11, 2010

'Vote Labour Get Tory'

Mae'r blog hwn eisoes wedi nodi anonestrwydd sylfaenol dull ymgyrchu'r Blaid Lafur o sicrhau'r ffyddloniaid bod y Toriaid yn bobl ddrwg iawn, iawn, iawn ac y byddai'r canlyniadau yn erchyll i bawb petaent yn cael eu hethol. Mae'r mantra hefyd yn mynnu mai dim ond Llafur fyddai yn gwrthwynebu'r drwgweithredwyr erchyll yma, a bod pleidlais i unrhyw un ag eithrio Llafur yn bleidlais mewn gwirionedd i'r Toriaid.

Aelodau seneddol Llafur ddaeth a'r drafodaeth rhwng y Lib Dems i ben - yn rhannol oherwydd na allai aelodau Llafur yn yr Alban stumogi gorfod dibynnu ar yr SNP i oroesi'n wleidyddol. Felly, y tro nesaf yr ydych yn clywed Eaglestone a'i debyg yn dweud Vote Plaid get Tory, cofiwch mai gwrth genedlaetholwyr yn ei blaid ei hun sy'n gyfrifol am ein bendithio efo llywodraeth Doriaidd.

Vote Labour, get Tory.

No comments: