Monday, May 10, 2010

Coalition of losers

Disgwyliwch glywed y term yna'n cael ei ddefnyddio hyd at syrffed gan Doriaid a gwasg Murdoch a 'ballu os bydd cytundeb rhwng y Lib Dems, Llafur ac aelodau seneddol o'r gwledydd Celtaidd.

Doedd yna ddim son am y ffashiwn derm wrth gwrs pan roedd y Toriaid yn ceisio ffurfio clymblaid gyda Phlaid Cymru a'r Lib Dems ar lefel Cynulliad yn ol yn 2007.

Rhyfedd braidd.

2 comments:

Anonymous said...

Nagoedd siwr ond sa chdi ddim yn disgwyl na fod chwaith. Er y carwn i weld Plaid yn cael rhywfaint o gryfder mean clymblaid fel hyn fedri di ddim gwadu na pleidiau a gollodd y lectiwn yn ymuno fasa nw i gyd.

Yn annfodus, fotio i gael y toriaid nath y mwyafrif o saeson.

Rheswm da arall dros bobl cymru fotio i'r blaid!

Aled G J said...

Cai- Ar yr olwg gyntaf, byddai Cytundeb Llafur/Lib dems/PC/SNP yn cyfiawnhau holl strategaeth etholiadol y Blaid o allu ymarfer grym mewn senedd grog. Diau bod meddwl am y consesiynau tymor byr a ellid eu sicrhau i Gymru yn dipyn o demptasiwn. OND, yn bersonol, dwi'n meddwl mai cam gwag anferthol fyddai i'r Blaid gefnogi Llywodraeth Lafur sydd wedi cael y ffasiwn chwip din gan yr etholwyr. Y perig mwyaf o'm rhan i ydi y gallai hynny beryglu llwyddiant Refferendwm ar fwy o bwerau i Gymru. Os ydi'r 27% o bleidleiswyr Cymreig a fotiodd i'r Toriaid yn gweld stitch-up rhwng Llafur/Lib Dems/PC/SNP yn atal y Toriaid rhag bod yn rhan o'r llywodraeth yn Llundain, oni fyddai'n naturiol iddyn nhw feddwl mai stitch-up gwrth-geidwadol tebyg fyddai'n digwydd yma yng Nghymru wrth inni gael mwy o bwerau. Pam ddyle nhw fotio dros hynny? Y caswir ydi bod angen cefnogaeth "tacit" y garfan hon i ennill refferendwm ar mwy o bwerau, ac fe fyddai eu dieithrio yn y ffasiwn fodd yn wiriondeb o'r mwyaf. Ymhellach, os ydi PC yn helpu cadw Llafur mewn grym eto fyth ar ol eu canlyniad gwaethaf mewn 70 mlynedd- pryd mewn difri calon y mae'r Blaid yn credu y galla nhw ddisodli Llafur??B