Sunday, May 30, 2010

Helynt Treganna - mater plwyfol?

Pob tro bron y bydd Vaughan yn son am saga Ysgol Treganna mae’n rhyw led ymddiheuro oherwydd ei fod yn rhyw led ystyried y mater yn un plwyfol. ‘Does dim rhaid iddo fo wneud hynny wrth gwrs – er mai mater lleol iawn a geir ar un olwg, mae’r goblygiadau sy’n deillio ohono yn rhai hynod o bell gyrhaeddol.

Mae’r stori yn mynd at galon dau o bolisiau llywodraeth y Cynulliad – un sydd yn agos at galon cydadran Llafur y glymblaid, sicrhau cost effeithiolrwydd trwy dorri ar lefydd gweigion mewn ysgolion – ac un sy’n nes at galon Plaid Cymru, ymateb i’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg ar hyd a lled Cymru.


Mae’r cyntaf o’r rhain – yr angen i greu cyfundrefn mwy cost effeithiol, wedi creu gwrthdaro ar lefel lleol am rhai blynyddoedd bellach. Mae’r pwysau ar awdurdodau lleol i leihau’r nifer o lefydd gwag yn sylweddol – fe’i ceir yn uniongyrchol o’r Cynulliad gyda grantiau arian cyfalaf yn cael eu clymu i barodrwydd i gau, ac fe’i ceir yn anuniongyrchol gan ESTYN a’r Comisiwn Archwilio.

Beirniadaeth gyffredin gan y Comisiwn, ESTYN a’r gweinidog addysg ydi bod Awdurdodau Lleol yn wastraffus a nad oes ganddynt y dewrder gwleidyddol i fynd i’r afael a llefydd gweigion. Yr unig ffordd o wneud hyn wrth gwrs ydi trwy gau ysgolion. Mae’n ddigon dealladwy nad ydi Awdurdodau Lleol yn awyddus i wneud hyn.


Ceir 243 o lefydd gwag yn ysgolion Saesneg Treganna os ydym yn cyfri’r nifer sylweddol o blant o’r tu allan i’r ward sy’n mynychu ysgolion yno. Os ydym yn diystyru’r rheini mae’r ffigwr yn uwch - 536. Mae’r ddau ffigwr yn sylweddol, ac o ddilyn rhesymeg y Cynulliad ei hun nid oes unrhyw ddadl o gwbl tros gynnal pedair ysgol Saesneg yn Nhreganna – hyd yn oed pe na bai addysg Gymraeg yn rhan o’r cawl – ac mae’n rhan gweddol bwysig o’r cawl yn y rhan arbennig yma o Gymru. Eto o ddilyn rhesymeg y Cynulliad ei hun, mae honni bod cau Landsdowne yn 'niweidiol' i addysg Saesneg yn gwrth ddweud yr hyn mae’r Cynulliad, ei swyddogion, a’i hasiantaethau wedi bod yn ei brygethu i awdurdodau lleol am flynyddoedd.


Pam y dylai Cyngor Caerfyrddin (dyweder) gau ysgolion yno pan mae’r Prif Weinidog ei hun yn dweud bod cau ysgol yn Nhreganna yn mynd i ‘niweidio’ addysg yno? Pam y dylai cynghorwyr yn Sir Ddinbych ‘fod yn ddewr a chymryd penderfyniadau anodd’ pan na all y llywodraeth ym Mae Caerdydd sefyll y tu ol i gynghorau sy’n cymryd penderfyniadau 'anodd' oherwydd bod gwneud hynny yn cymryd dewrder ar ran y llywodraeth yn ogystal a’r awdurdod? A defnyddio idiom hyll braidd o ochrau G’narfon, mae Carwyn Jones wedi gwnio ei din ei hun efo’r penderfyniad yma.


Mae’r ail fater yn bwysicach o ran dyfodol Cymru, a sut wlad fydd hi mewn canrif. O edrych ar y Gymraeg yn nhermau marchnad mae yna ormod o gyflenwi a dim digon a alw ym mron iawn i pob maes – mwy o ffurflenni Cymraeg nag oes yna alw amdanynt, llawer o raglenni teledu nad oes fawr neb yn edrych arnynt, fersiynnau Cymraeg o wefannau cynghorau nad oes yna neb yn eu defnyddio, gwasanaeth bancio twll yn y wal sy’n cael ei ddefnyddio gan nifer gyfyng o bobl, mwy o gyfieithu nag oes galw amdano ac ati, ac ati.


Yr eithriad mawr wrth gwrs ydi’r peth sydd fwyaf costus i’w ddarparu – addysg Gymraeg. Mae’r galw yma yn llawer, llawer uwch na’r cyflenwad. Oherwydd nad ydi pob cyngor wedi mynd ati i asesu’r galw mae’n anodd bod yn gystact ynglyn a’r gwir alw, ond mae lle i gredu y byddai mwy na 50% o rieni plant Cymru eisiau addysg Gymraeg i’w plant petai ysgol gyfagos ar gael. Tua 20% o blant cynradd sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.


Byddai ymateb i’r galw hwn yn ail strwythuro addysg yng Nghymru yn sylweddol – ac waeth i ni fod yn gwbl onest am y peth – mi fyddai lleihau’r nifer o blant sy’n cael addysg cyfrwng Saesneg o 80% i ddim llawer mwy na hanner hynny - yn arwain at gau ysgolion Saesneg, a llawer iawn ohonynt. O geisio cadw pob ysgol Saesneg yn agored byddai datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn anfforddiadwy – ‘dydi hi ddim yn bosibl cynnal cyfundrefn lle byddai llawer iawn o ysgolion Saesneg gydag efallai 40% neu lai o’u capasiti yn cael ei ddefnyddio. Mi fyddai addysg yn bwyta’r rhan fwyaf o gyllid y Cynulliad.


‘Rwan ‘dwi ddim yn amau am eiliad y bydd rhyw gyfaddawd yn cael ei ddarparu yn Nhreganna, ond os ydi’r llywodraeth yng Nghaerdydd am ddilyn egwyddor o wrthod cau ysgolion Saesneg ar y sail rhyfeddol bod hynny’n 'niweidio' addysg cyfrwng Saesneg pan mae’r galw addysg felly yn plymio fel angor, ni fydd y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg byth, byth yn dod yn agos at gyfarfod a’r galw amdano.


Mae pethau mor syml a hynny mae gen i ofn – mae gwrthod cau ysgolion Saesneg yn golygu mai cyfyng iawn, ac araf iawn fydd datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.

7 comments:

Vaughan said...

Dydw i ddim mewn gwirionedd yn credu bod hi'n blwyfol... ond mae ambell sylw wedi awgrymmu hynny. Achub y blaen ar y cwynion yw'r bwriad- yn enwedig gan fy mod yn byw yn ardal Treganna!

Cai Larsen said...

Ia, 'dwi'n gwybod Vaughan.

Mae obsesiwn y cyfryngau efo trefniant ysgolion yng Ngwynedd yn mynd ar fy nerfau fi - a 'dwi'n byw yma.

Emlyn Uwch Cych said...

Mi fydd y sefyllfa yn cael ei wneud yn fwy cymleth os fydd y galw'n cynyddu am ysgolion penodedig Cymraeg yn ardaloedd gwledig yr hen Ddyfed ac yng nghymoedd ôl-ddiwidiannol Llanelli/Gwendraeth/Aman/Tawe.

Ar hyn o bryd, mae rhai o'r ysgolion 'naturiol' Cymraeg yn wynebu tipyn o her yn ceisio dysgu llond dyrned o Gymry Cymraeg mewn dosbarthiadau sy'n llawn mewnfudwyr.

E.e., mae rhai o ysgolion categori A yr ardal hon yn cadw'r 70% o addysg drwy gyfrwng y Gymraeg fel "nod", ac yn gadael i'r plant i gyflwyno eu gwaith yn yr iaith sy'n siwtio nhw.

Mae plant Treganna yn ffodus i dderbyn addysg Cymraeg. Cofiwch am y rhai ohonon ni sydd ar front line y frwydr iaith.

Anonymous said...

....ond beth yw'r pwynt am addyst Gymraeg.....os (fel wyt ti'n son) nad oes fawr neb yn dyfnyddio'r iaith? Elli di ateb hynna? Gwastraff arian felly yw addysg Gymraeg ac yn dilyn o hynny.....gwell cadw'r ysgolion Saesneg ar agor ac esbonio i'r rhieni am ffolineb dysgu iaith nad yw'n cael ei ddefnyddio.....hyd yn oed yn y twll yn y wal.

Cai Larsen said...

....ond beth yw'r pwynt am addyst Gymraeg.....os (fel wyt ti'n son) nad oes fawr neb yn dyfnyddio'r iaith? Elli di ateb hynna?

Pwynt diddorol.

'Dwi ddim yn dweud nad oes fawr neb yn defnyddio'r iaith - mae yna ganoedd o filoedd yn ei defnyddio'n ddyddiol fel cyfrwng cyfathrebu ar lafar. Dyna pam y bu iddi oroesi - mae yna lawer iawn o bobl yn fwy cyfforddus yn ei defnyddio fel iaith lafar nag ydynt yn defnyddio'r Saesneg. 'Dwi ymhlith y rheiny.

Gwasanaethau ategol trwy gyfrwng y Gymraeg sy'n wan o ran y galw sydd amdanynt. Mae sawl rheswm am hyn - cyd destun Saesneg ehangach i'r gwasanaethau hynny ydi un rheswm - ond Seisnigrwydd y gyfundrefn addysg ydi un arall. Petai mwy o bobl efo addysg gyflawn cyfrwng Cymraeg yn rhan greiddiol o'u datblygiad, byddai'r galw am wasanaethau cyfrwng Cymraeg yn uwch.

Anonymous said...

Ond.....o beth wela i....mae'r ysgolion Cymraeg....yn enwedig yn y cymoedd a Chaerdydd yn creu dinasyddion sydd ddim hyd yn oed yn gyfforddus i siarad yr iaith hyd yn oed.....heb son am eu defnyddio i lenwi ffurfleni etc etc. Nid oes llawer iawn o'r cyn ddisgyblion 'ma o'r ysgolion Cymraeg yn gallu heb son am fodlon cynal sgwrs a ti yng Nhymraeg.....gwastraff arian ac amser llwyr yn fy marn i.

Cai Larsen said...

Mae gan bawb hawl i'w farn wrth gwrs, ond mae'n anodd gweld sut mae addysg cyfrwng Cymraeg yn wastraff arian. Mae'n costio cymaints (neu'n aml llai) nag addysg cyfrwng Saesneg, ac mae'r deilliannau addysgol yn well. Mae'r ddarpariaeth yn fwy effeithiol - hyd yn oed os ydym yn anwybyddu'r Gymraeg.

Mae deilliannau'r gyfundrefn addysg Gymraeg o ran cynhyrchu Cymry Cymraeg yn anwastad. Mae'r rhan fwyaf ohonom sy'n teithio Cymru'n o lew o aml yn dod ar draws llawer o bobl sydd wedi derbyn addysg sydd yn siarad y Gymraeg yn eithaf rhugl. Mae yna lawer sydd wedi mynd trwy'r system sy'n methu siarad yr iaith hefyd wrth gwrs. Mae'n dibynnu os ti eisiau gweld gwydr hanner llawn 'ta hanner gwag.

Yn ol pob tebyg byddai gennyt fwy o ddefnydd o'r Gymraeg yn gymunedol mewn ardaloedd Saesneg eu hiaith petai mwy o bobl yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae yna'r fath beth a critical mass chwadl y Sais.

Mae yna bwynt arall wrth gwrs - os oes galw eang am addysg Gymraeg gan rieni, mae'n ddyletswydd ar y wladwriaeth i ddarparu gwasanaeth felly - dydan ni ddim yn y bedwerydd ganrif ar bymtheg o hyd.