Wednesday, May 12, 2010

A ddaw hegemoni Llafur yn ei ol?

Mae cryn son wedi bod (gan Dicw ymhlith eraill) bod dyddiau hir hegemoni Llafur yng Nghymru ar fin dod i ben. Ar yr olwg gyntaf mae'r etholiad diweddaraf yn cadarnhau hynny gyda'r bleidlais Llafur o 36.2% yng Nghymru ymysg y perfformiadau mwyaf gwachul yn hanes y blaid yma.

Yr hyn sy'n hawdd i'w anghofio, fodd bynnag ydi ein bod ni wedi bod yn y fan yma o'r blaen. Ym 1983,
37.5% oedd eu canran o'r boblogaeth gyda'r Toriaid ar 31%. Yn wir syrthiodd mwy o'u seddi i'r Toriaid y tro hwnnw na'r tro hwn.

Llwyddodd Llafur i ail adeiladu eu pleidlais yn rhyfeddol o gyflym wedi hynny - yn gynt o lawer nag a wnaethant tros weddill Prydain. Yn 1987 cawsant 45.1% ac yn 1992 gwnaethant yn well eto gan sgorio 49.5% . Erbyn 1997 roeddynt ar 54.8%. Byddai dychwelyd at law farw hegemoni Llafur yn drychineb hanesyddol i Gymru.

Ydi hyn yn debyg o ddigwydd eto?

Y perygl yw y gallai. Llwyddodd Llafur i bortreadu ei hun bryd hynny fel y blaid Gymreig oedd yn ffocws i'r gwrthwynebiad i'r mesurau amhoblogaidd oedd yn cael eu gweithredu o Loegr (toriadau mewn gwariant cyhoeddus, treth y pen, cau'r pyllau glo ac ati). Os ydi Plaid Cymru am osgoi gadael i hyn ddigwydd drachefn mae'n rhaid mynd ati i ddangos nad Llafur ydi ffocws i'r gwrthwynebiad i'r hyn sydd o'n blaenau. Roedd yn anodd bryd hynny oherwydd bod Llafur mor fawr a ninnau mor fach ac yn derbyn cyn lleied o sylw cyfryngol.

Y tro hwn fodd bynnag gallai pethau fod yn wahanol oherwydd bodolaeth y Cynulliad. Gall hwnnw fod yn ffocws i'r gwrthwynebiad, ac fel plaid lywodraethol mae'n proffeil ni'n weddol uchel yno. Gallai llawer o'r mantais etholiadol a enillodd Llafur yn yr 80au a'r 90au ddod i'n cyfeiriad ni. Ond byddai'n golygu ymarfer dull o wleidydda llawer mwy ymysodol (abrasive fyddai'r gair Saesneg efallai) na sy'n arferol i ni.

Mewn geiriau eraill byddai'n golygu ymarfer gwleidyddiaeth mewn ffordd mwy tebyg i'r ffordd y bydd Llafur yn ei ymarfer. Cwrteisi, parchusrwydd a neis, neisrwydd ydi gwendidau gwleidyddol mwyaf y Blaid. 'Dwi'n gwybod bod gwleidydda fel hyn yn estron i ni, ond y gamp tros y blynyddoedd anodd sydd i ddod fydd ymddangos yn fwy ymysodol o wrth Lundeinig na'r Blaid Lafur. O wneud hynny, gallwn osgoi ffawd yr wyth degau a'r naw degau.

12 comments:

Anonymous said...

Rwan pryd da ni am fynd o gwmpas dadansoddi perfformiad gwael plaid cymru? Ta da ni am bapuro dros y cracs?

Cai Larsen said...

Cyn mai 'ni' ydi'r rhagenw ti'n ei ddefnyddio, mae croeso i ti ddefnyddio'r dudalen sylwadau i 'sgwennu dadansoddiad.

Dyma fan cychwyn i ti:

Llafur - colli 4 sedd a -6.5%
Toriaid - ennill 5 sedd a + 4.7%
Lib Dems - colli 1 sedd a + 1.7%
Plaid Cymru - ennill 1 sedd a - 1.3%
Llais y Bobl - colli 1 sedd a -38%.

Pob hwyl efo'r dadansoddiad.

Unknown said...

Teg yw dweud nad yw dulliau y Rhyddfrydwyr o ymgyrchu yn anrhydeddus a gonest bob tro. Edrychaf ymlaen at y dydd y cawn dipyn o ymladdwr yn arweinydd Plaid Cymru yn lle'r llipryn di-ddim sydd gennym yn awr . Y gair Saeneg fuasai 'Bruiser ' . Mae geiriau Seimon Glyn, a'r gwadu a'r gwawd a gaeth gan arweiniad Plaid Cymru , yn farwnad i genedlaetholdeb y Fro Gymraeg bellach.

Craig Brodie said...

Mae hyn yn arbennig o wir yn Ynys Mon. Diolch i'r drefn , fe'm hachubwyd o grafangau Seisnigrwydd ym mlodau fy nyddiau yn Nghaergybi , diolch i ymdrechion di-flino a siriol fy athro cynradd .
Dichon na chaf bydd gyfle i ddiolch digon i'r cennad mwyn hwnnw.

Cai Larsen said...

Ha, ha, ha wnes i erioed ddysgu di Craig. Mi fydd rhaid i ti fynd i Langefni i ffeindio'r cennad mwyn.

Cai Larsen said...

_ _ _ neu Benchwintan wrth gwrs.

Hogyn o Rachub said...

Y perygl mwyaf ydi cymryd yn ganiataol mai dyma fydd yn digwydd. Mae Llafur â'i chefn i'r wal erioed wedi bod yn beryglus tu hwnt yng Nghymru.

Anonymous said...

Diddorol iawn bM.

Bydd yn rhaid i minnau ddychwelyd at hynt y Blaid Lafur Gymreig yn 'Barn' - roeddwn i'n ryw how obeithio y byddet wedi anghofio yr hyn dwi wedi ei ddweud yn y gorffennol! Damia...!

RWJ

Cai Larsen said...

Edrych ymlaen i'w ddarllen.

Anonymous said...

Wel mi gefais y sialens gan Blog Menai a mae fy nodiadau i a'r berfformiad y blaid yn barod. Gen i barch at blog menai a mi fyswn yn falch o glywed dy farn onest am sut all y Blaid symud ymlaen.....

http://blogiwrcymraeg.blogspot.com

Anonymous said...

It's a pity you don't havе a dоnate button! I'd without a doubt donate to this fantastic blog! I guess for now i'll ѕettle foг bookmaгking аnԁ аddіng
уour RSЅ fеed to my Gοoglе account.
I lоοk fоrωаrd to
branԁ nеw updatеs аnd will talk about
thiѕ webѕitе with mу Facebοok gгoup.
Chat ѕoon!
Here is my webpage - http://www.totally-android.co.uk/blogs/user/ElisabethM

Anonymous said...

When ѕοmеone ωгitеs an рагagraрh
he/she rеtainѕ the іԁea оf a user in hiѕ/her brain thаt how a
uѕeг can understanԁ it. Therеfore that's why this article is amazing. Thanks!

Feel free to surf to my blog post - http://www.prweb.com/