Monday, May 03, 2010

Etholiad 2010 - diwedd cyfnod

Beth bynnag ddigwyddith ddydd Iau mae'n lled debyg y bydd etholiad 2010 yn ddiwedd cyfnod etholiadol yng Nghymru.

Os bydd y Lib Dems yn dod o'r broses efo dylanwad sylweddol mi fydd y gyfundrefn yn newid i fod yn un STV gydag etholaethau aml aelod. Byddai hyn yn arwain at ddiddymu'r holl etholaethau Cymreig a chreu etholaethau anferth aml aelod yn eu lle. Mewn geiriau eraill mi fyddai'r gyfundrefn a'r etholaethau yn newid yn llwyr.

Os mai'r Toriaid fydd yn mynd a hi mi fydd y deugain etholaeth Gymreig yn cael eu torri i lai na deg ar hugain, a byddai etholaethau sydd wedi bod yn rhan o'r tirwedd etholaethol Cymreig am amser maith megis Ynys Mon a Threfaldwyn yn diflannu. Bydd y broses yn aros yr un peth, ond bydd yr etholaethau yn newid.

Os mai Llafur fydd yn cael eu ffordd bydd y drefn pleidleisio yn hytrach na'r etholaethau fydd yn newid. Bydd gan bawb ddwy bleidlais, ac os na fydd un o'r ymgeisyddion yn cael 50% ar ol cyfri'r pleidleisiau cyntaf bydd yr ail bleidleisiau yn cael eu cyfri.

Cryn newid beth bynnag sy'n digwydd.

No comments: