Sunday, May 09, 2010

Canlyniadau'r Blaid - oes yna batrwm?

Rhestraf isod ganlyniadau'r Blaid ddydd Iau yn nhrefn y cynnydd neu'r gostyngiad canrannol yn y bleidlais. 'Dwi wedi rhannu'r rhestr yn dri - cynnydd, cwymp o lai na 2% a chwymp o fwy na 2%.

Cwm Cynon +6.8%
Gorllewin Clwyd + 4.5%
Arfon +3.9%
Aberconwy +3.8%
Llanelli +3.5%
Castell-nedd + 2.8%
Rhondda +2.2%
Blaenau Gwent +1.7%
Maldwyn +1.3%
Islwyn +0.6%
Wrecsam +0.4%
Alun a Glannau Dyfrdwy +0.2%

Canol Caerdydd-0.1%
Dwyrain Abertawe -0.2%
Bro Morgannwg -0.3%
Ogwr -0.6%
Mynwy -0.6%
Gorllewin Casnewydd -0.8%
De Clwyd -0.8%
Torfaen -0.9%
Gogledd Caerdydd -0.9%
Pen-y-bont ar Ogwr -1%
De Caerdydd a Phenarth -1.1%
Brycheiniog a Sir Faesyfed -1.1%
Caerffili -1.4%
Dyffryn Clwyd -1.4%
Dwyrain Casnewydd -1.7%

Delyn -2.4%
Gorllewin Abertawe -2.5%
Preseli Penfro -3.3%
Pontypridd -3.7%
Gŵyr -4%
Aberafan -4.7%
Merthyr Tudful a Rhymni -4.9%
Ynys Môn -4.9%
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro -5.1%
Gorllewin Caerdydd -5.9%
Dwyfor Meirionnydd -6.4%
Ceredigion -7.6%
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr -10.2%



Rwan mae yna batrymau digon amlwg i'w gweld yma. Y mwyaf amlwg efallai ydi bod y perfformiad salaf o lawer yn rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin gyda phump o'r wyth etholaeth yn arddangos cwymp sylweddol ym mhleidlais y Blaid. Ag eithrio etholaeth Llanelli mae'r etholaethau hyn yn rhai gwledig i wahanol raddau ac yma yr oedd y cynnydd ym mhleidlais y Toriaid ar ei fwyaf amlwg yng Nghymru. Mae'r cwymp yn rhai o'r ardaloedd diwydiannol megis Merthyr a Phontypridd wedi bod oherwydd y cynnydd sylweddol ym mhleidlais y Lib Dems yn y lleoedd hynny.

Gyda'r eithriad o Faldwyn roedd perfformiadau cadarnhaol y Blaid i gyd yn y Gogledd neu yn y De diwydiannol. Nodwedd arall o'r seddi hynny oedd bod y mwyafrif ohonynt efo ymgeisydd cryf sydd a chysylltiadau agos a'r etholaeth. Mae gan y Blaid hefyd beirianwaith effeithiol yn y saith etholaeth uchaf.

Os caf fod yn llwythol am ennyd, dim ond yn Arfon yr oedd cynnydd y Blaid yn uwch na'r cwymp ym mhleidlais Llafur - sy'n golygu i'r Blaid lwyddo i gymryd yr holl bleidleisiau Llafur a gollwyd yn ogystal a rhai o bleidleisiau'r Lib Dems. Mae hyn yn unigryw. Digwyddodd hefyd er gwaethaf ymdrechion y Bib i ymyryd ar ran Llafur yn yr etholaeth y diwrnod cyn yr etholiad trwy greu stori tylwyth teg bod bygythiad o gyfeiriad y Toriaid yma, ac felly geisio hel pleidleiswyr tlawd roedd Llafur yn eu colli yn ol 'adref'.

Mae unrhyw un sydd a'r adnabyddiaeth mwyaf arwynebol o'r etholaeth a'i phroffeil cymdeithasegol yn gwybod o'r gorau ei bod mor amhosibl i'r Toriaid ennill yn Arfon nag yw iddynt ennill yn Llanelli neu yng Nghastell Nedd.

No comments: