Wednesday, May 26, 2010

Arolwg YouGov o etholiad cyffredinol 2010 yng Nghymru

Mae YouGov ar ran Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth wedi cynnal arolwg cynhwysfawr (sampl 1457) o'r sawl a bleidleisiodd yn yr etholiad diweddar. Cafodd y gwaith maes ei wneud wedi'r etholiad ond cyn ffurfio'r glymblaid.

Dyma rai o'r canfyddiadau:


  • Roedd 40% wedi gwneud eu meddyliau i fyny ynglyn a phwy y byddant yn pleidleisio iddo ymhell, bell cyn yr etholiad. Penderfynodd 37% sut i bleidleisio yn ystod yr ymgyrch.
  • Y Lib Dems ddioddefodd waethaf oherwydd pleidleisio tactegol gyda mwy o'u cefnogwyr yn pleidleisio i rhywun arall am resymau tactegol na'r un blaid arall (a 'dwi ddim yn tynnu coes).
  • Carwyn Jones ydi'r arweinydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru, wedyn Ieuan Wyn Jones, wedyn Kirsty Williams a dyn yr ystafell molchi sy'n olaf.
  • Roedd 49.3% o'r sawl a holwyd yn dweud na fyddent byth yn pleidleisio i'r Toriaid o gymharu a 52.7% oedd yn dweud hynny am UKIP. Y ffigyrau ar gyfer y Lib Dems, Llafur a'r Blaid oedd 17.3%, 28.7% a 30.7% - yn y drefn yna.
  • Plaid Cymru oedd a'r ganran uchaf o'i phleidlais yn dod o gategoriau cymdeithasol A,B ac C1. Llafur ac Eraill oedd a'r ganran isaf.
  • Y Toriaid oedd yr olaf o'r bedair prif blaid ymysg y sawl oedd a hunaniaeth Gymreig, ond nhw oedd y cyntaf ymysg y sawl sy'n ystyried eu hunain yn Brydeinwyr.
  • Bydd pleidlais Llafur a'r Lib Dems yn cynyddu yng nghydadran etholaethol etholiadau'r Cynulliad tra bydd pleidlais y Toriaid a Phlaid Cymru yn disgyn. Yn y cydadran rhanbarthol bydd pleidlais y Lib Dems yn cynyddu'n sylweddol iawn gyda phleidlais y pleidiau mawr eraill yn cwympo. Golyga hyn y bydd gan Llafur 28 o seddi, y Lib Dems 12 gyda Phlaid Cymru a'r Toriaid yn cael 10 yr un.
  • Mae'r rhan fwyaf o bobl am weld mwy o bwerau i'r Cynulliad, ac mae mwyafrif clir o'r farn bod y wlad yn cael ei rheoli'n well ers dyfodiad y sefydliad.
  • Mae mymryn tros hanner yn bwriadu pleidleisio 'Ia' gydag ychydig llai na thraean am roi croes wrth 'Na'. Yn bisar braidd mae mymryn mwy o blaid yr un pwerau a'r Alban na sydd o blaid yr argymhellion fydd yn cael eu hystyried yn ystod y refferendwm. Mae gan yr Alban fwy o bwerau o lawer na'r hyn a argymhellir ar gyfer Cymru wrth gwrs.
Mi fyddaf yn dod yn ol at un neu ddau o'r pwyntiau uchod yn ystod y dyddiau nesaf, ond gair bach o rybudd - cafodd yr ymarferiad ei gynnal yn dilyn cyfnod o wythnosau o Brydaineiddio gwleidyddiaeth Cymru gan y cyfryngau. Bydd ein gwleidyddiaeth yn raddol ddad Brydaineiddio tros y misoedd nesaf. Os bydd y Lib Dems yn ennill deuddeg sedd yn etholiadau'r Cynulliad mi fyddaf yn syrthio ar fy ngliniau wrth draed y cerflyn anghynnes o Lloyd George ar faes Caernarfon (yr un efo llwyth o faw adar ar ei ben) ac yn bwyta fy nhrons melyn gorau - yn gyhoeddus ar b'nawn Sadwrn.

Diolch i RWJ am y data.

5 comments:

Alwyn ap Huw said...

Os bydd y Lib Dems yn ennill deuddeg sedd yn etholiadau'r Cynulliad mi fyddaf yn syrthio ar fy ngliniau wrth draed y cerflyn anghynnes o Lloyd George ar faes Caernarfon (yr un efo llwyth o faw adar ar ei ben) ac yn bwyta fy nhrons melyn gorau - yn gyhoeddus ar b'nawn Sadwrn.

Rwyt newydd fy mherswadio i fwrw pleidlais i'r Lib Dems mis Mai nesaf.

Anonymous said...

Mae sampl YouGov yn cael ei dynnu o nifer cymharol fach: o gwmpas 12,000 y tro diwethaf i mi edrych. Dim yn unig hynny ond pobl sydd wedi cofrestru ymlaen llaw i gymryd rhan mewn arolygon dros y we. Carfan hynod o ddethol. Deunydd i newyddiadurwyr yn unig yw hwn yn hytrach na dim cynrychioladol dibynadwy.

Tori Chwig said...

Y Chwigiaid yn dod yn ail? Wel yn wir!

Cai Larsen said...

Alwyn - os ydi'r Lib Dems yn cael deuddeg mi gei di wahoddiad i'r wledd.

Anhysbys. Nid y pol Prydeinig ydi o - un penodol i Gymru gyda sampl sylweddol yng Nghymru a phwysiad i wneud i'r sampl gyd fynd a chanlyniad yr etholiad.

Wedi dweud hynny, mae wedi ei gymryd wedi i wleidyddiaeth Cymru gael ei wyrdroi gan yr etholiad Prydeinig.

Tori Chwig.

Yn od iawn pedwerydd ydi'r Lib Dems yn ol y pol o ran pleidleisiau yn y cydadran etholaethol.

Yr hyn sy'n rhoi seddi iddyn nhw ydi'r etholiad rhanbarthol.

Hogyn o Rachub said...

Er gwaetha'r ffaith bod yr arolwg wedi'i wneud mewn adeg 'Brydeing' iawn byddai hefyd yn wirion diystyru ffigurau'r Cynulliad. Wedi'r cyfan, roedd y polau Cymreig a wnaed ychydig cyn yr etholiad diwethaf yn rhyfeddol o agos (cyn belled ag y mae polau Cymreig yn y cwestiwn) felly rhaid peidio รข'u hesgeuluso.